text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Wel, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth ymarferol iddo. Nid wyf yn dweud y byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn San Steffan. Rwy'n credu bod angen ei ystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall, ond, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n barod i'w drafod gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sydd gennym ar gyfer awtistiaeth y gorau y gallant fod. | 300 |
Pa welliannau allwn ni eu gweld, tra bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal, ynghylch y fframwaith deddfwriaeth? Oherwydd ceir 34,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis ac mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod gwasanaethau i'w cefnogi yn 'ddarniog' yma yng Nghymru. Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl yn y cyfamser, pan fyddwn ni, gobeithio, yn dod i gytundeb i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl sydd wedi cael diagnosis i ddisgwyl y ddarpariaeth o wasanaethau yma yng Nghymru? | 301 |
Rydych chi wedi cyflwyno CAMHS i'r trywydd holi - hoffwn symud i'r maes hwnnw, os caf. Bu cynnydd enfawr i'r atgyfeiriadau i CAMHS mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn enwedig - tua 120 y cant ers 2010. Mae'r amseroedd aros yn y maes penodol hwn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf, gydag un o bob wyth o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn aros mwy na 40 wythnos, pan mai 14 wythnos yw targed amser atgyfeirio Llywodraeth Cymru ei hun. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru, Llywodraeth newydd Cymru, eu cymryd i roi sylw i'r amseroedd aros hirfaith hyn, sydd, fel y dywedais, wedi arwain at un o bob wyth o bobl ifanc yn aros mwy na 40 wythnos am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, pan fo Llywodraeth Cymru wedi torri'r arian i CAMHS gan bron i 7 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? | 302 |
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae canlyniad neithiwr yn dangos y gall gwledydd bach gystadlu yn erbyn rhai llawer mwy yn y byd a llwyddo, os byddant yn mynd i'r afael â thasg yn yr ysbryd cywir. Rwy'n siŵr y bydd Ken Skates o fantais i Gymru pryd bynnag y bydd yn chwarae o gwmpas y byd, os gall ef gyflawni canlyniadau tebyg i neithiwr. Ond, gan ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan arweinydd yr wrthblaid, nid oes unrhyw reswm, onid oes, pam ddylai system mewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fel y ceir yn Awstralia, gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar nifer y meddygon sy'n dod i'r DU, ond gallai ein galluogi i gyfyngu ar y rhai nad ydynt yn dod i gael swyddi, sy'n cystadlu ag eraill. Tybed a yw'n cytuno â'r hyn yr adroddwyd bod Len McCluskey, cyfrannwr ariannol mwyaf y Blaid Lafur, wedi ei ddweud yn y papurau heddiw, sef bod agor ffiniau i wledydd dwyrain Ewrop yn 2004 wedi arwain at arbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin, ac mae wedi arwain at pwysau cyson ar safonau byw ac ymgais systematig i gadw cyflogau'n isel a thorri costau darpariaeth gymdeithasol ar gyfer pobl sy'n gweithio. | 303 |
Ymddengys bod y Prif Weinidog yn gwadu bod ychwanegu dinas o faint Caerdydd at ein poblogaeth genedlaethol bob blwyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyflogau. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod Banc Lloegr yn anghytuno â hynny. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Banc Lloegr fod cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau ar gyfer pobl heb sgiliau a lled-fedrus. Felly, er efallai fod popeth yn iawn i'r dosbarthiadau proffesiynol a phobl sydd eisiau glanhawyr a garddwyr ac yn y blaen gael mewnfudo diderfyn, mae hyn yn newyddion drwg iawn yn wir i'r rhai ar waelod y raddfa incwm. | 304 |
Wel, rwy'n meddwl bod pen y Prif Weinidog yn y cymylau yn hynny o beth, ac mae nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur o'r un farn. Ond nid yw'n ymwneud yn unig â mewnfudo yn rhoi pwysau ar safonau byw pobl gyffredin. Ceir llawer o ffyrdd eraill y mae'r UE yn gwneud hyn hefyd - cost y polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft, sydd yn ôl pob tebyg yn ychwanegu hyd at £500 y flwyddyn at gyllidebau cartrefi pobl gyffredin; £500 y flwyddyn ar gyfer trethi gwyrdd ac ardollau newid yn yr hinsawdd eraill; ac, oherwydd y tariffau y mae'r UE yn eu gorfodi ar fewnforio dillad o rannau eraill o'r byd, mae'r swm cyfartalog y mae pobl yn ei wario ar ddillad, mewn cartref cyffredin, tua £150 y flwyddyn yn fwy nag y byddai fel arall. Felly, mewn cymaint o ffyrdd, mae'r UE yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. | 305 |
Rydym ni'n mynnu'r safonau uchaf o ofal i bobl Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno fframweithiau canlyniadau a safonau trylwyr, trefniadau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â threfnau rheoleiddio ac arolygu cadarn, sy'n sbarduno gwelliant ac ansawdd mewn gwasanaethau. | 306 |
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Rwy'n cytuno'n llwyr: rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ofal rhagorol, o ansawdd uchel ledled Cymru. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r blaen, mae adroddiad yr OECD yn cadarnhau nad oes yr un system ar draws y DU yn perfformio'n well nag un arall. Er bod llawer i fod yn fodlon ag ef yn yr adroddiad hwnnw, mae gwaith i'w wneud mewn rhai meysydd o hyd - mae cymaint â hynny'n eglur. Ni allwn fod yn fodlon 100 y cant. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod yn gwireddu eu potensial fel sefydliadau sy'n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl. | 307 |
Wel, gwelsom lefel yr oediadau'n gostwng 7.6 y cant ym mis Ebrill, ac adroddwyd gostyngiad pellach o 2.6 y cant ym mis Mai. Gostyngodd nifer y cleifion a gadwyd mewn gwelyau acíwt ym mis Mai hefyd: gostyngiad o 7 y cant o'r mis blaenorol. Bu gostyngiad sylweddol i nifer y cleifion sy'n aros i adael cyfleusterau iechyd meddwl: gostyngiad o 20 y cant. Bydd darpariaethau yn y Ddeddf - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), hynny yw - yn sicrhau llawer mwy o weithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yr wyf yn siŵr yr hoffai pob ochr ei weld. Bydd y partneriaethau rhanbarthol, a arweinir gan fyrddau iechyd, yn sicrhau y bydd yn rhaid i lai a llai o bobl aros yn hwy nag y dylent cyn y gallant adael yr ysbyty. | 308 |
Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau'r Torïaid sydd wedi digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ac yn hwyluso'r broses y gall y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli, sy'n cael eu gwasanaethu gan reilffordd Glynebwy, ei defnyddio i gael mynediad at ddinas fawr Casnewydd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cysylltedd hanfodol ar gyfer swyddi, marchnadoedd ac adfywio cymunedol? A wnaiff ef hefyd gynnig sylwadau ar bwysigrwydd arian yr UE mewn prosiectau seilwaith hanfodol o'r fath ar gyfer y dyfodol? | 309 |
Un datblygiad hanfodol i drafnidiaeth ar gyfer pobl yn Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach, wrth gwrs, fyddai creu system fetro lawn yn rhan o bolisi economaidd a chymdeithasol ehangach, ond pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd y nod o ledaenu cread swyddi ar draws ranbarth y de-ddwyrain, fel bod cymunedau yno'n troi yn ardaloedd twf ynddynt eu hunain yn hytrach na bod yn fawr mwy na chymunedau cymudo i'r brifddinas? | 310 |
Brif Weinidog, honnodd gŵr busnes yn ddiweddar bod problemau traffig yn cael effaith niweidiol ar fusnesau yng Nghasnewydd. Un o'r rhesymau a roddodd am y cynnydd hwn mewn traffig cynyddol oedd y ffaith fod y trên rheilffordd y cymoedd o Drecelyn, lle mae'n byw, yn osgoi Casnewydd. Weinidog, yn 2007 a 2008, gwnaed addewidion yn y Siambr hon gan y Gweinidog dros yr economi ar y pryd, cyn Cwpan Ryder, y byddai'r cysylltiad trên rhwng Casnewydd a rheilffordd y cymoedd a Chaerdydd yn cael ei wneud, ond ni ddigwyddodd hynny - felly, yn y bôn, addewidion parhaus gan eich Llywodraeth, ond mae cysylltedd y brif reilffordd o reilffordd y cymoedd i Gasnewydd yn cael ei osgoi trwy Pye Corner. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr, cyn i brosiect metro de Cymru gael ei gwblhau, i wella cysylltedd rhwng Islwyn a Chasnewydd? | 311 |
Rwyf wedi ei gwneud yn eglur y byddaf yn cefnogi datganoli pwerau trethi pellach dim ond os bydd fframwaith cyllidol teg. Mae trafodaethau ar y gweill ac rwy'n disgwyl i Lywodraeth y DU gadw ei gair a chytuno bargen gyllido deg a chryf. | 312 |
Rwyf wedi ei gwneud yn eglur iawn, pan ddaw i Fil Cymru, ei bod yn gwbl hanfodol na ddylai'r pwerau gael eu datganoli heb ganiatâd y Cynulliad hwn. Y rheswm pam yr wyf yn dweud hynny yw y dylid cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol. Os yw'n ddigon da i'r Alban, mae'n ddigon da i Gymru, ac nid yw'n ddigon da i ddweud wrth Cymru - iddi gael fframwaith cyllidol wedi ei orfodi arni, pan fo trafodaeth a chytundeb gwirioneddol rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU. Rydym ni'n disgwyl i Gymru gael yr un driniaeth. | 313 |
Mae'r Aelod yn iawn, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr - byddwn yn gwneud yn siŵr - bod hyn yn rhan o'r penderfyniadau o ran y fframwaith cyllidol, y bydd, yn fy marn i, angen ei gytuno gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n hanfodol, yn fy marn i, yw bod gennym ni gytundeb a fydd yn sail i'n trefniadau ariannu ar gyfer yr hirdymor, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cyflwyno'r mesurau diogelwch y mae'r Aelod wedi eu codi, yn gwbl gywir, yn enwedig pan ddaw i ddatganoli treth incwm yn rhannol, fel nad yw Cymru ar ei cholled. Rydym ni'n awyddus i gael system drethi deg, ond nid un sy'n tanseilio'r system ariannu a fu gennym ni hyd yn hyn, er ei bod yn ddiffygiol, trwy fformiwla Barnett. Felly, mae'n hynod bwysig, ac mae'n wir y bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau a fydd yn parhau. | 314 |
Nid wyf yn gallu anghytuno â hynny. Rŷm ni wedi bod yn dadlau ers amser y dylai'r dreth hon gael ei datganoli. Mae wedi cael ei datganoli i'r Alban. Mae'r adolygiad y mae'r Aelod yn sôn amdano yn adolygiad i mewn i feysydd awyr Lloegr, ac nid Caerdydd, i weld beth fydd effaith datganoli'r pwerau i'r Alban ar feysydd awyr Lloegr. So, felly, nid yw Cymru yn rhan o'r 'equation' yn fan hyn. Wel, nid oes synnwyr o gwbl pam ddylai'r dreth hon gael ei datganoli i'r Alban ac nid i Gymru. Gwnaeth Guto Bebb sôn bod hyn yn rhywbeth na allai gytuno ag ef o achos y ffaith na fyddai unrhyw fath o les i'r gogledd. Wel, mae yna les i'r gogledd. Mae yna les i feysydd awyr fel Penarlâg, fel y Fali, lle byddai cyfle i ddatblygu awyrennau, i ddatblygu gwasanaethau, i sicrhau bod mwy o awyrennau yn dod mewn i'w meysydd awyr nhw. So, felly, na - mae'n amhosibl i fi esbonio beth yw safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hwn, ond, unwaith eto, mae rhywbeth yn cael ei ddatganoli i'r Alban ond nid i Gymru, ac mae hynny, o egwyddor, yn annheg. | 315 |
Wel, ni chlywais ef yn argymell refferendwm yn yr Alban ar gyfer trosglwyddo pwerau llawer mwy yn yr Alban, ond dyma fy marn i: mae angen ailystyried system dreth y DU gyda system, er enghraifft, lle ceir elfen o'r system drethi sy'n darparu'r modd i ailddosbarthu arian ar draws y DU i le mae ei angen, gan sicrhau atebolrwydd lleol ar yr un pryd. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf y dreth gyngor. Mae gennym ni rywbeth tebyg ar ffurf cynghorau cymuned. Mae'n eithaf arferol yn y rhan fwyaf o wledydd i gael elfen o dreth incwm a godir yn lleol. Ni ddylem ofni hynny yng Nghymru. Ond, yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi cael system drethi gwbl hunangynhwysol yng Nghymru. Nid wyf yn meddwl y byddai hynny er budd ariannol Cymru. | 316 |
Wel, mae ein hanes yn amlwg yn rhagorol, ac mae colegau fel Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n darparu addysg bellach ragorol mewn amrywiaeth o bynciau yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gwaith. Pa waith ydym ni'n ei wneud i sicrhau ein bod yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn mynd i fod eu hangen yn y dyfodol fel nad ydym yn gorfod dibynnu ar ddenu pobl o wledydd eraill a allai fod yn llawer tlotach na ni? | 317 |
Rwy'n meddwl bod y ffaith bod diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU erbyn hyn yn drobwynt pwysig. Mae wedi digwydd sawl gwaith dros y 30 mlynedd, ond yn rhy anaml yn anffodus. O ystyried hynny a'r gyfradd cyflogaeth nawr, mae'r gwahaniaeth yn fach iawn, a fyddai'n derbyn, pan fyddwn yn cymharu hynny â'r ffaith, yn gyffredinol, gyda'n GYC y pen, bod bwlch o 30 y cant, nad swyddi, fel y cyfryw, yw'r broblem sylfaenol yn economi Cymru, ond ansawdd y swyddi? Problem cynhyrchiant sydd gennym ni. A oes angen i ni newid ein strategaeth economaidd i ganolbwyntio ar hynny? | 318 |
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi yn y gorffennol naw sector busnes blaenoriaeth ar gyfer twf yng Nghymru. Mae gweithluoedd pump o'r sectorau hynny - twristiaeth, bwyd a diod, adeiladu, gwyddor bywyd a diwydiannau creadigol - wedi lleihau yn ystod y chwarter diwethaf. Tybed a allai'r Prif Weinidog amlinellu'r rhesymau dros hynny. | 319 |
Ers canol y 1970au, mae'r UE wedi chwarae rhan bwysig o ran diogelu pobl sy'n gweithio. Mae pob gweithiwr yn cael ei ddiogelu gan ystod o hawliau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith, cyfle cyfartal i ddynion a menywod, amddiffyniad rhag gwahaniaethu ac, wrth gwrs, cysoni amodau gwaith ledled Ewrop, nid nad oes gan un wlad fantais dros un arall dim ond oherwydd bod ei harferion iechyd a diogelwch yn israddol. | 320 |
Nid y tri olaf, os caf i ddweud hynny. Mae'r bobl hyn o draddodiad sy'n mynnu y dylai fod mwy o hyblygrwydd, fel y maen nhw'n ei weld, yn y farchnad lafur, sy'n golygu ei bod yn haws diswyddo pobl, gwneud trefniadau gweithio dros dro, contractau dim oriau. Felly, na, nid wyf yn rhannu unrhyw fath o ffydd y byddant yno i amddiffyn hawliau gweithwyr. Rydym ni'n gwybod, yn enwedig oddi wrth yr economegwyr sy'n cefnogi'r ymgyrch i adael, eu bod yn gweld dyfodol y DU fel un lle nad oes bron dim hawliau i bobl sy'n gweithio, lle nad yw materion fel iechyd a diogelwch yn cael eu hystyried â'r un gofal ag y maen nhw nawr, a lle mae rheoliadau amgylcheddol yn cael eu rhoi o'r neilltu yn bennaf. Felly, rydym ni'n mynd yn ôl i'r dyddiau yn y 1980au pan gafodd Prydain ei diraddio'n sylweddol yn amgylcheddol. Nid dyna'r dyfodol yr ydym ni ei eisiau. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni amgylchedd - amgylchedd gwaith ac amgylchedd ffisegol - y mae pobl eisiau ei fwynhau a'i barchu. | 321 |
Wel, rwyf i'n bennaeth ar Lywodraeth yma, felly nac ydy, rwy'n derbyn yn llwyr y gallwn ni ffurfio Llywodraeth yma yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Ond, nid naill ai/neu yw'r cwestiwn, gan fod yr undebau llafur wedi bod yn gweithio gyda'u cydweithwyr ar draws gweddill Ewrop er mwyn sicrhau bod safonau cyffredin o hawliau i weithwyr ar draws holl wledydd Ewrop. A dyna'n sicr sut y dylai fod, oherwydd mae hynny'n golygu bod amddiffyniad i weithwyr ar draws yr UE, mae'n golygu nad oes gan un wlad fantais dros un arall oherwydd bod ganddi safonau is o ran iechyd a diogelwch, ac mae'n rhaid bod hynny, does bosib, er lles pawb. Nid wyf yn ymddiried yn etifeddion Margaret Thatcher i amddiffyn hawliau gweithwyr, a bod yn gwbl onest. Yn y pen draw, dylai pobl ofyn i'w hunain ar ochr pwy oedd y bobl hyn yn streic y glowyr - yr ochr anghywir. Y rhai ohonom ni a welodd ddinistrio ein cymunedau yng Nghymru gan Lywodraeth Geidwadol, dyna ddaeth â llawer ohonom i fyd gwleidyddiaeth: i sicrhau na fyddai'r math hwnnw o fandaliaeth economaidd fyth yn digwydd eto. | 322 |
Diolch yn fawr i'r Prif Weinidog am ei ateb. A gafodd o drafodaeth â nhw ynglŷn â'r refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn arbennig ar y cwestiwn ar ba sicrwydd y mae Prif Weinidogion eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chi, wedi ei gael ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd os bydd cyllid yn diflannu o Gymru ac o'r gwledydd datganoledig eraill oherwydd penderfyniad i dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd? | 323 |
Brif Weinidog, rwy'n sylwi mai un o'r eitemau ar yr agenda ar gyfer cyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig oedd y gefnogaeth sydd ei hangen ar ofalwyr ledled Cymru ac, yn enwedig, bod gofalwyr ifanc a hŷn yn cael eu hystyried. A allwch chi ddweud wrthyf: a wnaed unrhyw gynnydd ar gytundeb trawslywodraethol, o ran dull o ddarparu hawliau gwarantedig o seibiant i ofalwyr? Mae hyn yn rhywbeth a gynigiwyd gan fy mhlaid i, wrth gwrs, yn ein maniffesto cyn etholiadau Cynulliad Cymru. Pan fyddwch chi'n siarad â gofalwyr, mae un peth y maen nhw i gyd yn gofyn amdano, sef seibiant ar adegau i adennill eu hegni. | 324 |
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud dau newid i fusnes yr wythnos hon: mae busnes heddiw bellach hefyd yn cynnwys datganiadau llafar ar yr ymchwiliad lleol cyhoeddus ynglŷn â'r M4 yng Nghasnewydd, a darlledu yng Nghymru. Ac mae busnes y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. | 325 |
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi i gadarnhau bod gwaith ar y gweill i benderfynu pa mor gyflym y gallwn gael band eang cyflym iawn i gymaint â phosibl o'r ychydig y cant olaf o gartrefi a busnesau nad oes ganddynt fand eang cyflym iawn a phenderfynu beth fyddai'r ffordd orau o wneud hynny. Wrth gwrs, bydd yr atebion yn y pen draw yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar y lleoliad ac amgylchiadau'r eiddo dan sylw. Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod am yr amgylchiadau hynny, wrth inni fonitro cynnydd. Ond hyd nes y byddwn yn gwybod ymhle y mae'r ychydig y cant terfynol o eiddo, nid oes modd dweud beth fydd yr atebion penodol, ond wrth gwrs, y bwriad yw gwneud yn siŵr ein bod yn cyflawni hyn. | 326 |
Mae Joyce Watson wedi codi cwestiwn pwysig iawn, a chwestiwn sydd, wrth gwrs, yn effeithio arnom ni yng Nghymru. Gwn fod awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn, ac wrth gwrs, mae cydlynu a chefnogaeth gan y cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru hefyd, o ran cyfrifoldeb gweinidogol. Ond rydym yn gwybod, yng Nghymru, fod y gefnogaeth i'r plant hynny sydd ar eu pen eu hunain a'r croeso sydd iddynt, a'r ffyrdd yr ydym yn brwydro yn erbyn masnachu pobl, yn bwysig ac yn derbyn sylw. | 327 |
Y Gweinidog Busnes, yn gyntaf oll a allaf gytuno â Simon Thomas a chefnogi ei alwad ynglŷn â rhoi sylw i gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol? Mae'n ymddangos i mi fod rhai pobl yn credu yn anghywir fod yr anhysbysrwydd y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ei gynnig iddynt, neu'r ffaith eu bod yn eistedd yn y tŷ ar eu pennau eu hunain, yn rhoi caniatâd iddynt aflonyddu, bygwth a dychryn unigolion drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwnnw yn glir iawn fel Llywodraeth. Fy mhrif bwynt yw bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith y prynhawn yma yn rhoi datganiad ynglŷn â'r M4 o amgylch Casnewydd. Mae gennym broblemau ar yr M4 ymhellach i'r gorllewin a chafwyd achos lle y gwnaeth ei ragflaenydd dreialu cau cyffordd 41 ar sail rhan amser, ac yna gwrando ar y lleisiau cryf ym Mhort Talbot a chanslo'r treial cau rhan-amser hwnnw. Ond nid ydym wedi cael ateb terfynol o ran hynny ac mae ansicrwydd o hyd. Mae Port Talbot yn dref lle nad oes angen ansicrwydd. Rydym gennym eisoes ansicrwydd o ran dyfodol y gwaith dur; mae angen eglurder arnom ynglŷn â'r rhan honno o'r M4 ym Mhort Talbot. A gawn ni ddatganiad am sefyllfa'r M4 ym Mhort Talbot, ac yn enwedig y gyffordd honno? | 328 |
Diolch i chi, Bethan Jenkins. Rydych chi wedi codi achos pwysig yn eich etholaeth, ac rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn bwrw ymlaen â hynny, gan godi'r achos gyda'r awdurdodau lleol. Y cyfnod ôl-19, wrth gwrs, y cam nesaf, yw'r cyfnod trosiannol sydd mor bwysig o ran yr amrywiaeth o wasanaethau y mae angen i ni eu darparu ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth. Felly, mae hyn yn berthnasol iawn, yn wir, i'r trafodaethau a'r ymgynghoriadau sydd ar y gweill yn ogystal. A rhoddir sylw i'r mater. Diolch hefyd am ychwanegu eich llais wrth godi cwestiynau am gyffordd 41. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn i ddod a chyfarfod â'r Aelodau i drafod y dewisiadau. | 329 |
Diolch i chi, Huw Irranca-Davies. Gwn y gofynnwyd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r metro, sy'n cwmpasu'r de-ddwyrain a thuag at y gorllewin ac, wrth gwrs, sy'n rhan amlwg iawn hefyd o ddatblygiadau'r dinas-ranbarthau a'r cynigion nid yn unig o'r de-ddwyrain, ond hefyd o Abertawe a bae Abertawe. Rwy'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn rhoi diweddariad cliriach i'r Aelodau ar hyn. Atebwyd eich ail bwynt yn glir iawn gan y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma. Ni allai'r metro barhau heb gyllid Ewropeaidd y mae'r Comisiwn wedi dweud sydd ar gyfer trafnidiaeth integredig, a dyna sy'n berthnasol a dyna maent am wario'r arian arno a'r hyn rydym am iddynt wario'r arian arno drwy aros yn yr Undeb Ewropeaidd. | 330 |
Diolch i chi, Darren Millar. Rydych yn codi mater moesegol sensitif iawn yn ogystal ag enghraifft glinigol o'r achos, ac rwy'n siŵr eich bod wedi codi'r pwynt, nid yn unig gyda'r bwrdd iechyd ond gydag Ysgrifennydd y Cabinet hefyd, ond mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymateb iddo o ran y canllawiau diweddaraf. Ynglŷn â'ch ail gwestiwn, mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal wrth gwrs. Bydd gwasanaeth yn eglwys gadeiriol Llandaf, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yma yng Nghymru i anrhydeddu ac i gofio - teyrngedau addas i'r rhai a gollodd eu bywydau ym mrwydr y Somme. | 331 |
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd. O ran eich pwynt cyntaf, roedd hi'n bwysig iawn eich bod wedi cael y cyfle i dynnu sylw at waith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn y Senedd yn codi ymwybyddiaeth ac yr oedd, fel yr ydych yn dweud, yn dathlu casglu'r milfed rhoddwr cyfatebol. Hoffwn longyfarch Gwasanaeth Gwaed Cymru ochr yn ochr â Julie. Ond hefyd dylid llongyfarch y gwirfoddolwyr - y bobl sy'n gwirfoddoli i roi mêr esgyrn. Mae'n ymwneud â sut y gallwn ni recriwtio rhagor o bobl. Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod hyn yn fater lle y mae angen recriwtio ar lefel fwy lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol. Mae angen i ni estyn allan at gymunedau, ac rwy'n siŵr mai dyna oedd y neges a ddaeth i'r amlwg yn eich digwyddiad. Felly, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd gyfrannu wrth helpu i ledaenu'r neges ym mhobman. Byddem yn gobeithio ac yn disgwyl i Julie Morgan o Ogledd Caerdydd achub ar y cyfle i ganmol ei hetholwr, Gareth Bale, ac i gydnabod ei gyflawniadau enfawr ef ac, wrth gwrs, y tîm cyfan. Ef yw'r sgoriwr uchaf ac yn sicr ef yw seren y gêm a'r twrnamaint. Mae cael ei weld eto yn rhoi cyffro i chi ac i ni i gyd, yn ogystal â'i deulu. Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, a dyna beth yw esiampl dda. Felly, rwy'n siŵr y byddwn yn dathlu ac yn ei longyfarch yn bersonol maes o law. | 332 |
Nid wyf yn cynnig sylw ar allu'r Aelod Llafur i gyflawni swydd y Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n siŵr ei fod, mewn nifer o ffyrdd, yn ymgeisydd cymwys iawn. Fy unig bwynt yw hyn: mae'r Aelod eisoes yn ystod y pumed Cynulliad wedi tynnu sylw ddwywaith at ei awydd mawr i gynnal ymchwiliad cyhoeddus o ran y digwyddiadau yn Orgreave yn ystod streic y glowyr 32 mlynedd yn ôl. [Torri ar draws.] Digon teg. Os bydd yr Aelod yn dod yn Gwnsler Cyffredinol, a fydd yn parhau i bwyso am yr ymchwiliad hwn, ac, os bydd yn gwneud hynny, a fydd hyn yn arwain at unrhyw wrthdaro buddiannau posibl? | 333 |
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. [Cymeradwyaeth.] | 334 |
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a dweud fy mod innau'n rhannu ei farn nad yw gwneud dim byd yn opsiwn. Fodd bynnag, bydd yr arolygydd yn edrych ar yr opsiwn o wneud dim byd ac, yn wir, ar effaith hynny, wrth symud ymlaen. O ran tollau pont Hafren, wel, bydd rhan arall o'r ymchwiliad yn craffu ar y gwaith modelu traffig sy'n digwydd, gan gynnwys edrych ar beth fydd effaith debygol lleihau neu, yn wir, ddiddymu tollau pont Hafren ar dagfeydd ac ar ddefnyddio traffordd yr M4. I sôn yn gryno am yr hanes, oherwydd rwy'n credu nad yw ond yn deg o ran y llwybr glas ein bod yn ystyried am eiliad y ffaith fod gwaith ar yr M4 wedi bod yn destun dadleuon a thrafodaethau ers 25 mlynedd erbyn hyn. Mae'n bryd inni archwilio'n drwyadl, mewn ffordd annibynnol, dryloyw, yr holl opsiynau. Nawr, o ran y llwybr glas, mae astudiaethau strategol wedi dangos na fydd y llwybr penodol hwnnw'n darparu llawer o ryddhad o gwbl i'r M4, ac y byddai'n arwain at broblemau parhaus ar y draffordd, a hefyd yn gwaethygu problemau ar ffyrdd lleol. Mae tri amrywiad ar y llwybr glas wedi eu hystyried cyn hyn, ac amcangyfrifwyd y byddent yn costio rhwng £600 miliwn ac £800 miliwn, gan ddibynnu ar y cwmpas - llawer uwch nag amcangyfrif y cynigydd ac yn cynnig gwerth isel iawn am arian, o ystyried y diffyg manteision. Fodd bynnag, rwy'n ymwybodol o'r diddordeb parhaus yn y dewis arall hwn, ac felly, i roi sylw i hyn, mae dadansoddiad newydd o'r llwybr glas yn cael ei wneud a chaiff ei gyhoeddi cyn yr ymchwiliad. Bydd hyn yn edrych eto ar gwmpas, cost a modelu traffig ac yn galluogi pobl i gyflwyno eu barn i arolygydd yr ymchwiliad. | 335 |
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac am ei gyfraniad a'i sylwadau caredig? Wrth gwrs, bydd yr arolygydd annibynnol yn ystyried pryderon y porthladd yn llawn, a bydd yr arolygydd annibynnol, yn ei dro, yn gallu craffu ar rai o'r honiadau ac, yn wir, ar yr holl bryderon - nid dim ond y rhai y mae'r porthladd wedi gallu eu cyflwyno, ond rhai gan fusnesau a thrigolion yn y rhan honno o Gymru. O ran dyrannu cost y prosiect i Lywodraeth Iwerddon, nid wyf yn argyhoeddedig y byddai hynny'n cael ymateb arbennig o dda nac y gellid gwneud hynny, ond gwnaf godi'r mater hwn gyda swyddogion a gwirio pa un a fyddai hynny'n bosibl. | 336 |
A gaf i ddychwelyd at y mater a gododd John Griffiths ynglŷn ag effaith y metro arfaethedig yn y de-ddwyrain ar lefelau traffig yn y dyfodol yn y rhanbarth? Mae'r gwaith o adeiladu system drafnidiaeth debyg ar gyfer Bordeaux, y bydd cefnogwyr Cymru wedi gallu ei gweld â'u llygaid eu hunain yn ddiweddar, wrth gwrs, mewn gwirionedd wedi gostwng lefelau traffig 40 y cant er 2005. Nawr, pe byddem hyd yn oed yn gallu cyflawni hanner hynny yn y de-ddwyrain, byddai'n tanseilio'n sylweddol y rhesymeg y mae'r Llywodraeth wedi'i chyflwyno o ran y llwybr du a ffefrir ganddi. Felly, a gawn ni asesiad annibynnol o effaith y metro ar lefelau traffig yn y dyfodol? Ac a all yr Ysgrifennydd hefyd esbonio'r berthynas rhwng yr ymchwiliad y mae wedi'i amlinellu a phroses gyfochrog Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gorfod rhoi trwydded, wrth gwrs, o dan y gyfarwyddeb cynefinoedd - oherwydd bod rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol - er mwyn i'r datblygiad hwn fynd rhagddo? Maent wedi dweud yn eu gwrthwynebiad eu hunain nad ydynt yn argyhoeddedig bod yr amodau angenrheidiol ar gyfer y drwydded honno wedi'u bodloni ar hyn o bryd. Os nad yw hynny'n newid, a all ef gadarnhau, beth bynnag y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud, na fydd yn gallu rhoi caniatâd i fwrw ymlaen â'r llwybr du? | 337 |
Cefais fy nharo'n arbennig gan ddau gyfiawnhad wrth ddarllen papurau cefnogi Llywodraeth Cymru ar gyfer y llwybr du. Yn gyntaf, ei fod eisoes yn rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac roedd y papurau hynny yn dweud bod angen ffordd newydd er mwyn iddo fodloni'r safonau gofynnol. Felly, onid yw hynny, felly, yn un o gostau aelodaeth o'r UE? Yn ail, gallai ailddosbarthu'r M4 bresennol yn y modd hwnnw ganiatáu inni ei defnyddio i hyrwyddo'r nod o gynyddu cerdded a beicio. A yw hynny'n gredadwy, o ystyried natur y ffordd? Yn olaf, dywedodd y Prif Weinidog yn flaenorol y gellid parhau â thollau uchel ar bontydd Hafren er mwyn ariannu'r llwybr du. Ai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd? | 338 |
Weinidog, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i edrych o'r newydd ar y nifer o opsiynau sydd ar gael ar gyfer y tagfeydd ar yr M4. A wnewch chi hefyd edrych ar y ffordd y mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu cyfrifo? Oherwydd, yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'r targed uwch ar gyfer allyriadau hinsawdd, mae angen inni ystyried holl gostau a buddiannau unrhyw opsiwn. Roeddwn yn bryderus o'ch clywed yn sôn am y manteision arbed amser sy'n ffurfio sail y cymarebau cost a budd a ddefnyddir i ategu'r cynlluniau hyn. Er enghraifft, mae'r fformiwla gyfredol yn rhoi mantais i deithiau car, a'r amser a arbedir ar y rheini i'r economi, yn hytrach, er enghraifft, na theithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r economegwyr o'r farn bod teithwyr bysiau yn werth llai i'n heconomi na theithwyr car, ac maent yn defnyddio'r ffigurau i gyfiawnhau arbedion costau ar y sail honno. Felly, yn rhan o'r ysbryd o edrych o'r newydd ar yr opsiynau, a wnewch chi hefyd ystyried y fformiwlâu a ddefnyddir, a ddefnyddir yn aml i gyfiawnhau'r penderfyniadau hyn? | 339 |
Wel, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, wrth gwrs, rŷm ni nawr yn sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn atebol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Deddf a oedd yn arwain y byd yn ôl y Llywodraeth ddiwethaf, a Deddf, felly, a ddylai fod yn arwain at newid sydd yn arwain y byd. Ac mae nifer ohonom ni yn methu deall sut, o dan ddyletswyddau'r Ddeddf honno, efallai, y byddai'r llwybr du wedi dod mor bell ag y mae e, mewn gwirionedd, heb gael ei daflu allan. Ond, dyna ni, mater o farn yw hynny. Dau gwestiwn sydd gen i yn benodol. Yn gyntaf, gan fod y dyletswyddau yma yn awr ar Lywodraeth Cymru i edrych, wrth gwrs, ar bob penderfyniad yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy, ac i gydbwyso y gwahanol elfennau yn ystyrlon, a allwch chi roi blas i ni o sut fydd yr ymchwiliad cyhoeddus hwn yn wahanol nawr o dan y dyletswyddau newydd yma, o'i gymharu ag unrhyw ymarferiad tebyg, efallai rai blynyddoedd yn ôl, jest i ni gael deall y gwahaniaeth ymarferol y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ei wneud i'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei phenderfyniadau? Ac, yn ail, mi sonioch chi yn flaenorol eich bod chi wedi gofyn am waith i gael ei wneud i edrych eto ar y llwybr glas. A allwch chi ymhelaethu ar beth yn union ŷch chi wedi gofyn amdano fe, ac a allwch chi fod yn fwy manwl, efallai, ynglŷn ag union sgôp y gwaith yr ŷch chi wedi gofyn amdano fe? | 340 |
Diolch, Lywydd. A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet am gam nesaf ffordd liniaru arfaethedig yr M4? Mae'n bwnc sy'n ennyn safbwyntiau cryf fel yr ydym i gyd wedi'i glywed heddiw, ac nid wyf yn amau didwylledd y safbwyntiau hynny am eiliad. Rwy'n falch bod yr ymchwiliad cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y pumed Cynulliad, oherwydd hoffwn annog yn gryf bod y cyhoedd yn ymgysylltu gymaint â phosibl â'r broses. A allai Ysgrifennydd y Cabinet fy sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i roi cyhoeddusrwydd eang i'r ymchwiliad, ac y sicrheir ei fod ar gael yn rhwydd i bawb sydd â budd? Mae angen inni glywed ac ystyried yr ystod eang o farn y cyhoedd. Fel un sy'n defnyddio'r M4 yn rheolaidd, ac un o drigolion Casnewydd, rwy'n gwybod beth yw'r gwirionedd ar gyfer fy nghymuned ac rwy'n deall pwysigrwydd hyn i Gymru. Y darn o'r ffordd rhwng cyffordd 24 a chyffordd 29 yw'r rhan â'r traffig trymaf yng Nghymru. Gallai llawer sy'n dod i mewn dros bont Hafren golli'r arwydd 'Croeso' a chael eu croesawu yn hytrach gan rai sy'n dweud 'Ciwiau o'ch blaen'. Nid yw ein traffordd bresennol o gwmpas twneli Brynglas yn addas i'w diben, ac rwy'n siŵr pe byddem yn gofyn i lawer o bobl gysylltu geiriau â thwneli Brynglas, byddai'r rhan fwyaf yn dweud 'ciwiau', 'tagfa' ac 'anhrefn traffig'. Yn sicr, nid dyna sut yr hoffwn i i Gasnewydd gael ei hadnabod, ac yn bendant nid dyna sut yr hoffwn i i'r brif ffordd i mewn i Gymru gael ei hadnabod. Mae realiti'r sefyllfa hon yn golygu bod ffordd liniaru i'r M4 yn hanfodol, ac rwy'n credu y dylai'r ddanhadlen fod wedi ei gwasgu flynyddoedd lawer yn ôl. Rwy'n falch, yn natganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, y caiff dewisiadau eraill eu hystyried, ond hefyd y caiff y dewis o wneud dim byd hefyd ei ystyried. Felly, hoffwn ddweud i derfynu na wnaiff y broblem ddiflannu os ydym yn claddu ein pennau. Nid yw diffyg gweithredu yn opsiwn. Ni all Casnewydd gynnal dyfodol o dagfeydd traffig cythreulig a llygredd, ac ni all Cymru barhau â'r rhwystr hwn yn ein prif wythïen economaidd. | 341 |
Rŷm ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, i wneud y datganiad. | 342 |
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Bydd pobl sy'n fy adnabod yn deall yn iawn bod rhai pethau sy'n fy nghyffroi am y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth; dyma'r maes lle rwy'n wirioneddol angerddol am wneud gwahaniaeth, oherwydd dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. I lawer o bobl sydd wedi dioddef yr ail o'r rhain yn drasig, mae'n un ffordd o ddianc rhag trais yn y cartref, ond mae'n drasiedi iddynt hwy ac i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Bydd y mater ynglŷn â'r strategaeth genedlaethol yn un pwysig. Mae'n ymwneud â chyflawni - a ydym ni'n gwneud hyn yn iawn ac a allwn ni gyflawni ar bob un o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi: y rheolaeth gymhellol, camfanteisio'n rhywiol ar blant, rheolaeth gorfforol, ar lafar, gymhellol, ac ariannol - mae'r rhain i gyd yn dylanwadu ar bobl ac mae'n rhaid inni wneud yn siŵr y gallwn, gyda'n gilydd, ddod o hyd i atebion i hynny. Mae Llywodraethau yn gwneud llawer o bethau, ac nid ydynt bob amser yn cael y pethau hyn yn iawn, ond mae rhai pobl allan yna sy'n arbenigwyr yn y maes, a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw agor y drysau i sicrhau ein bod yn dod â'r bobl hyn at ei gilydd, gweithio gyda chynghorwyr cenedlaethol a gweithio gyda grŵp cynghori. Rwy'n ystyried adnewyddu'r grŵp cynghori, oherwydd pan oeddem yn datblygu'r darn arloesol hwn o ddeddfwriaeth, a gafodd gydnabyddiaeth ledled y byd, gwnaethom wrando ar bobl a deall ei wir ystyr ar gyfer cyflawni. Dyna'r hyn yr wyf yn bwriadu ei wneud wrth inni symud ymlaen i roi'r Ddeddf hon ar waith. Mae'n ddechrau gwych, ond mae cymaint mwy o waith y gallwn ei wneud ar y cyd. | 343 |
Ni chefais gwestiwn cryno yn hollol, ond rwyf yn gobeithio am ateb cryno yn awr gan y Gweinidog. | 344 |
Dim ond ychydig o eiriau gen i a chwestiwn, y ddau fel un a fu'n gyflogai i'r BBC am 20 mlynedd, a hynny i atgoffa am yr hyn y dylai'n darlledwyr ni fod yn ei gynnig i wylwyr yng Nghymru. Mae S4C, wrth gwrs, yn gwneud dwy job o waith, mewn ffordd. Un, mae'n darlledu yn y Gymraeg i gynulleidfa sydd eisiau rhaglenni yn y Gymraeg. Ond, drwy wneud hynny, mae'n darlledu am Gymru i bobl Cymru, a dyna sydd ar goll, wrth gwrs, yn y Saesneg. Mi gawsom ni o ar ddamwain ar un adeg yn y blynyddoedd olaf analog, drwy BBC Choice a BBC 2W, lle'r oedd dwy BBC2 yn cyd-redeg. Rwy'n cofio, fel darlledwr ifanc, cael cymryd rhan mewn rhaglenni a oedd yn llenwi'r oriau brig am Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymrwymiad i wthio yn y dyfodol i gyrraedd yn ôl i'r sefyllfa yna lle gallem ni gael dwy sianel, un Gymraeg ac un Saesneg, ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedwyd ynglŷn â'r diwydiant ffilm a drama yng Nghymru. Rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn yn datblygu'r diwydiant drama yng Nghymru, ond ddim yn llwyddiannus iawn yn datblygu diwydiant drama Cymreig. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno mai dyna ddylai fod y cam nesaf ymlaen. Mi wnaf innau groesawu ymrwymiad gan y Gweinidog i wthio ar y BBC yn Llundain yn ganolog am agwedd newydd tuag at beth yn union ydy ei swyddogaeth hi yng Nghymru ac am y gyllideb i sicrhau y gall yr uchelgais honno gael ei gwireddu. | 345 |
Diolch yn fawr iawn. Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym. Roeddwn yn falch o lofnodi llythyr Lee Waters, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at ganlyniad. Mae 'Casualty' yn cael ei ffilmio ar ystâd Gabalfa yr wythnos nesaf, felly mae pawb yn hynod falch am hynny, ond rwyf am ategu'r pwyntiau y mae pobl wedi eu gwneud, sef y gellid ei ffilmio yn unrhyw le o ran portreadu unrhyw beth, mewn gwirionedd, am fywyd Cymru a sut y mae Cymru'n cael ei gweld. Wrth gwrs, mae hwn yn bwynt sy'n cael ei wneud yn gryf yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig sydd newydd ei gyhoeddi. Felly, nid wyf yn gwybod a oes ganddo sylw ynghylch a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud am hynny. Dyna oedd y pwynt cyntaf. Yn ail, rwyf am godi pwynt ynghylch sut y mae pobl mewn gwirionedd yn cael eu newyddion yng Nghymru. Credaf fod y BBC yn tybio, onid yw, ei bod yn cyrraedd tua 60 y cant o'r bobl yng Nghymru gyda Radio Cymru, Radio Wales a'r holl raglenni newyddion eraill. Beth am y 40 y cant arall, a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cyrraedd fel eu bod hwythau'n cael rhywfaint o newyddion materion cyfoes o Gymru, a fydd yn helpu, a dweud y gwir, i wneud y cyhoedd yng Nghymru'n fwy gwybodus ar gyfer yr etholiadau ac ar gyfer y refferendwm a bod gennym faterion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru? | 346 |
Iawn. Diolch. Nid oes unrhyw aelodau o'r meinciau cefn wedi siarad, felly rwy'n bwriadu galw ar dri aelod o'r meinciau cefn, ond, unwaith eto, gofynnaf am gwestiynau cryno ac atebion cryno. Felly, Jeremy Miles. | 347 |
Diolch i chi, Jeremy Miles, am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n meddwl eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch sicrhau ein bod yn creu dulliau arloesol, ac efallai newydd, i annog hyfforddiant y diwydiant ar gyfer busnesau bach a chanolig. Yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud yw cael dull clwstwr, ac rydym eisoes yn treialu hyn gyda busnesau bwyd i gefnogi twf busnesau. Mae uwchsgilio a hyfforddi yn gwbl sylfaenol os ydym yn mynd i weld y twf, ac mae clystyrau hefyd yn nodi ac yn mynd i'r afael ag anghenion hyfforddi yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl. Rydym yn cael rhai cynlluniau peilot mewn bwydydd cain, NutriWales a'r sector bwyd môr, effaith ac allforio, lle mae nifer o fusnesau yn ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygu sgiliau hwnnw. Fel Llywodraeth, mae gennym eisoes nifer o raglenni sgiliau allweddol, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar hynny. Rydym hefyd wedi bod yn gallu defnyddio Twf Swyddi Cymru yn llwyddiannus iawn yn y maes hwn, ac mae hynny wedi helpu cyflogwyr i gyflogi gweithwyr ychwanegol. Mae hynny'n amlwg wedi rhoi cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ar draws Cymru rhwng 16 a 24 oed. | 348 |
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad y prynhawn yma ac am gynnig y cynllun gweithredu? Os caf i, fe'ch holaf chi am ddau bwynt yn unig. Yn gyntaf oll, mae hyn fwy na thebyg yn gyfle da i ymuno â Simon Thomas wrth dynnu sylw at y digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad nos yfory - digwyddiad poblogaidd bob amser; ni allaf ddychmygu pam. Rwy'n gwybod eich bod yn mynd i fod yn siarad yn y digwyddiad hwnnw, Weinidog, felly diolch ichi am hynny. Mae cwrw go iawn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn edrych fel ei fod ar y ffordd allan 30 neu 40 mlynedd yn ôl, ond mae wedi'i wrthdroi. Sut mae eich cynllun gweithredu chi yn mynd i sicrhau y gellir gwrthdroi mathau eraill o fwyd a diod nad ydynt wedi bod yn gwneud cystal yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd? Mae'n hawdd iawn cyflwyno cynlluniau gweithredu a siarad am y pethau hyn, ond pa newidiadau cadarnhaol go iawn fydd hynny'n ei wneud? Yn ail, rydych chi'n iawn i ddyfynnu Cymru fel enghraifft bosibl o arfer gorau. Unwaith eto, sut y mae hynny'n mynd i gael ei gyflawni? Soniasoch am y gwyliau bwyd. Mae gennyf i, wrth gwrs, yn fy ardal i Ŵyl Fwyd wych y Fenni. Roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies, draw acw, mewn bywyd gweinidogol blaenorol, yn arfer mwynhau'r ŵyl yn fawr. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn ymuno â mi - ac ef hefyd, mae'n debyg - yn yr ŵyl hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu o wyliau bwyd? Rydym yn siarad am Ŵyl Fwyd y Fenni yn awr fel stori lwyddiant, ond fe aeth drwy rai cyfnodau anodd hefyd. Mae gwyliau bwyd eraill, yn fawr a bach, a marchnadoedd ffermwyr, yn ceisio sefydlu ar draws Cymru ac yn ceisio gwella. Byddai'n hawdd iawn pe byddai arfer gorau yn cael ei ledaenu o un ardal i'r llall fel bod modd i wyliau sy'n datblygu osgoi gwneud yr un camgymeriadau â gwyliau blaenorol. | 349 |
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian. | 350 |
Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio'n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau'r broses o gynnig cyfle i'r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny i brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau, ac mae Ynni Ogwen Cyf ac YnNi Padarn Peris bellach yn mynd ar eu taith. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn hefyd yn gynllun hydro cymunedol llwyddiannus iawn. Ond, efo'r prosiect Ynni Ogwen yn benodol, mi wnaeth hi gymryd dwy flynedd i'r cynllun dderbyn ei drwydded echdynnu dŵr, sef yr 'abstraction licence' gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy'n mynd yn bell tu hwnt i'r pedwar mis sydd yn eu canllawiau statudol nhw i brosesu ceisiadau o'r math yma. Mewn sesiwn dystiolaeth i'r pwyllgor amgylchedd fis Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, mi ddywedwyd bryd hynny mai diffyg staff ac adnoddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd ffynhonnell y broblem. A ydy'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiadau o'r adnoddau sydd eu hangen gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rwymedigaethau yn llawn, ac, os felly, a ydych chi'n fodlon fod ganddo fo'r adnoddau digonol i wneud hynny, ac, os na, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o'r fath yma ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad, os gwelwch yn dda? | 351 |
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o'r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio'n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy'n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae'r cladin allanol yn ei gwneud hi'n bosibl i'r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni'n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu'r eiddo hwnnw i anadlu, sy'n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw'n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni? | 352 |
Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a'r Fenni yn fy ardal, fe'i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i'r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli'r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o'r fath, ac nid yw'r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i'w hymholiadau. Rwy'n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau'r gweithdrefnau a'r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau'n cael eu hadeiladu mewn cymunedau? | 353 |
Diolch. Mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, gyda chynlluniau i leihau perygl llifogydd wedi'u cyflawni'n llwyddiannus ym Mae Colwyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Rydym yn asesu cynlluniau posibl yn Abergele, Llansannan a Mochdre ac mae gwaith dichonoldeb cyllid yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill ar draws Gorllewin Clwyd. | 354 |
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i'r holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o hyd i ateb priodol. Felly, fel y dywedais, pe bai'r Aelod hefyd yn gallu cynorthwyo yn y modd hwnnw, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. | 355 |
Diolch i chi am y cwestiwn, Hannah Blythyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael llifogydd sydyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr wythnos diwethaf ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r busnesau a'r tai a ddioddefodd yn sgil y llifogydd sydyn ar ôl y glaw trwm yr wythnos diwethaf. Rwy'n gwybod fod Bagillt yn arbennig wedi dioddef, ac mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint yn ogystal â'r gwasanaethau brys - rydym am ddiolch iddynt gan eu bod wedi lliniaru'r perygl uniongyrchol i beth o'r eiddo. Rwy'n credu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn awr i geisio darganfod sut y digwyddodd y llifogydd yn dilyn y glaw trwm, ac mae angen i ni ddeall pa ffactorau oedd ynghlwm wrth hyn fel y gallwn roi camau posibl ar waith i leihau'r perygl y bydd llifogydd o'r fath yn digwydd eto. | 356 |
Yn hollol. Cytunaf yn llwyr â Llyr Huws Gruffydd y buasai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn torri ein cyllid yn sylweddol, yn fy mhortffolio i'n arbennig. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr effaith, ac mae'n sylweddol tu hwnt. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. | 357 |
Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi'u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd addewid y buasai'n digwydd erbyn mis Mehefin eleni; nid yw hynny wedi digwydd. Cafodd wybod yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddo aros tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn y bydd unrhyw obaith o welliant. Felly, tybed pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pwysau ar y cwmnïau sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang yn yr ardaloedd hyn? | 358 |
Un o'r problemau mawr yma yw bod gan Openreach afael haearnaidd ar y seilwaith i bob pwrpas, ac mae'n debyg bod hyn i gyd yn mynd yn ôl i'r modd y cafodd British Telecom ei breifateiddio flynyddoedd lawer yn ôl. [Torri ar draws.] | 359 |
Wel, unwaith eto, rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi eich clywed. Yn fy etholaeth i, gwn fod yna gwmnïau eraill yn ei ddarparu, ond fel y dywedais, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater, Julie James, rwy'n siŵr y cewch yr ateb. | 360 |
Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae'r cytundeb hwnnw'n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio'r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy'n dangos bod yr holl fyd yn bell oddi ar y targed. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yr oedd eich Llywodraeth yn gyfrifol amdano yn y Cynulliad diwethaf, yn gosod allan targed ar ostwng allyriadau carbon erbyn 2050. A ydych chi'n dal i ystyried y targed yma'n ddigonol i gwrdd â'r uchelgais yng nghytundeb Paris? | 361 |
Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy'n credu bod angen i ni barhau i adolygu'r targedau hyn, oherwydd mae'n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o'r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi'i ddatblygu'n well. Rydym eisoes wedi clywed ychydig am hynny o ogledd Cymru. Oni fyddai'n well, felly, pe bai gennym reolaeth dros brosiectau ynni o dan Fil Cymru heb unrhyw gyfeiriad at drothwyon o gwbl? Felly, er enghraifft, gallem roi gwell cefnogaeth a hyder i syniadau cyffrous a gwych megis y morglawdd ym mae Abertawe, ac rwy'n datgan buddiant fel cyfranddaliwr cymunedol yn y prosiect hwnnw. | 362 |
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch portffolio newydd. Rwy'n edrych ymlaen at eich cysgodi yn y maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Rwy'n ofni bod rhaid i mi gychwyn ar nodyn sur, yn anffodus. Rwyf wedi sylwi nad yw ansawdd aer wedi'i restru fel un o'ch cyfrifoldebau ar wefan swyddogol Llywodraeth Cymru - nid yw wedi cael ei restru'n benodol; byddwch yn dadlau ei fod yno'n enerig, wrth gwrs - er bod polisi sŵn, er enghraifft, sy'n bwysig iawn, wedi'i restru'n benodol. A yw hyn yn arwydd o agwedd ddi-fflach tuag at ansawdd aer ar ran Llywodraeth Cymru? | 363 |
Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â'r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy'n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae'n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o'r boblogaeth. Pa fesurau sy'n cael eu cynllunio i wella ansawdd aer o ganlyniad i'r dystiolaeth hon? | 364 |
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi'n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i'r ysgol, er enghraifft? Rwy'n credu ein bod yn perthyn i'r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu'n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i'r ysgol gan drafnidiaeth breifat. Mae hyn yn cael effaith fawr, gan mai plant sy'n mynd i'r ysgol, y bwystfilod diesel hyn sy'n gyrru llawer o blant eraill yno, ac yna maent yn anadlu'r llygryddion ofnadwy hyn. Mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth, oherwydd nid yw'n normal i gynifer o'r boblogaeth ysgol gael eu gyrru i'r ysgol ac yn ôl. | 365 |
Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i'r afael â holl ffynonellau'r haint er mwyn parhau â'r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o'r clefyd. | 366 |
Wel, fe wyddoch fod gennym raglen dileu TB gynhwysfawr iawn ar waith ers 2008. Rwy'n gwbl ymrwymedig i fabwysiadu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Rwyf am weld TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu - credaf fod yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein bod wedi gweld sefyllfa sy'n gwella ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi fy mod yn cael llawer iawn o wybodaeth a chyngor ar y mater hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref. | 367 |
Wel, rwy'n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o'n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy'n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r nifer o achosion newydd o TB wedi gostwng yn sylweddol ers 2009. Mae gennym adolygiad o'r strategaeth gan Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, ac rwy'n disgwyl argymhellion drafft er mwyn adnewyddu'r strategaeth a strategaeth newydd yn ddiweddarach y mis hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref. | 368 |
Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â'r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy'n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i'w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un o ryfeddodau naturiol amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd y ffordd ar gael i'r cyhoedd unwaith eto? | 369 |
Mae pob un ohonom yn cydnabod y fantais o gynyddu mynediad i gefn gwlad mewn perthynas â hamdden a gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mae grwpiau fel y Gynghrair Cefn Gwlad wedi rhybuddio y gallai mynediad anghyfyngedig i gefn gwlad effeithio'n amgylcheddol ar gynefinoedd afon, difrodi tiroedd a chyfyngu ar allu tirfeddianwyr i reoli a diogelu eu tir. Weinidog, mae gennyf ffrind sy'n byw ychydig y tu allan i ffin fy rhanbarth, Dr Randhawa, ac mae'n cynnal yr holl lwybrau sy'n croesi ei dir. Nid yw'r cyngor byth yn rhoi ceiniog tuag at y gwaith, ond mae bob amser yn cael trafferth gyda'r cyngor lleol a biwrocratiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno bod yn rhaid i unrhyw gynnig i agor mynediad at gefn gwlad ystyried barn y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a'r rhai sy'n ei gynnal? | 370 |
Diolch. Bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ffurfio lle a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu adeiladau a gofod cyhoeddus o ansawdd uchel ac wedi'u cynllunio'n dda. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded wedi'u cynllunio'n dda a gyflwynir drwy'r CDLl yn galluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, ysgolion a siopau. | 371 |
Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy'n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy'n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw gwneud yn siŵr eu bod yn monitro'r holl Gynlluniau Datblygu Lleol a ddaw i law. Rwy'n credu ein bod yn dal i aros am chwech ohonynt ledled Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf. | 372 |
Wel, mater i bob awdurdod lleol unigol yw'r CDLl. Rwyf am gael Cynlluniau Datblygu Lleol wedi'u mabwysiadu ar waith ac rwy'n credu bod yna chwe awdurdod lleol nad ydynt wedi gwneud hyn eto. Rwyf wedi gofyn iddynt fwrw ymlaen â hyn. Os nad oes gennym y Cynlluniau Datblygu Lleol hynny ar waith, fel y gwn yn fy etholaeth fy hun, mae gennych ddatblygwyr yn dod â chynlluniau nad ydynt yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r boblogaeth leol ei eisiau a'i angen. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi'r cynllun datblygu lleol ar waith. Fel rwy'n ei ddweud, nid fy lle i yw ei lunio, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet; cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gwneud hynny eu hunain. Yr hyn y mae'r CDLl yn ei wneud yw darparu'r fframwaith polisi i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu'r seilwaith cymunedol angenrheidiol. | 373 |
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i'r farchnad gyffredin, fel y'i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw'r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i mewn ac ond yn cael £1 yn ôl. Roedd gennym system dda o gymhorthdaliadau yn seiliedig ar daliadau diffyg cyn 1973 a oedd yn cynnal incwm ffermydd gan sicrhau bwyd rhad i'r bobl. | 374 |
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i'w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i'n sectorau ffermio a bwyd ac rwy'n credu bod y peryglon sy'n gysylltiedig â'r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae'r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy'n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o'r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE. | 375 |
Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy'n credu eu bod yn cael mwy na'r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu'r cynllun grantiau bach ac mae'r ffermwyr yn hapus iawn â'r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny. | 376 |
Diolch. Mi oedd hi'n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae'r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai'r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o ran yr economi wledig ac o ran y diwydiant amaeth. Ddwy flynedd i mewn i'r rhaglen, mae cael dim ond llond llaw o brosiectau wedi'u cymeradwyo ymhell iawn, iawn o fod yn drawsnewidiol. Mae ffermwyr yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, fel ledled Cymru, yn dal i aros. Pa bryd mae'r trawsnewid am ddigwydd ac a wnaiff y Gweinidog rannu ei gweledigaeth ynglŷn â'r potensial i'r cynllun datblygu gwledig newydd? | 377 |
Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau'r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau'r arian o'r cynllun datblygu gwledig i'r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o'ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy'n cael ei ddatblygu y tu ôl i'r cynllun datblygu gwledig i greu'r agenda drawsnewidiol rydych yn sôn amdani? Oherwydd mae pobl yn cefnogi llawer o'r teimladau, ond buaswn yn awgrymu bod yna dagfa enfawr yn y system o brosesu ceisiadau i'r Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn anad dim, o ran bod pobl yn cael mynediad at yr arian yn y lle cyntaf. Felly, beth yw eich asesiadau cychwynnol, o ystyried eich bod wedi bod yn y swydd ers sawl wythnos bellach? | 378 |
Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i'w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd. | 379 |
Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae'r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae'n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion lleol, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Wedyn, maent am sicrhau bod cynllun gweithredu ansawdd aer yn cael ei ddatblygu. Bydd hynny hefyd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig ar gyfer yr ardal er mwyn mesur ansawdd aer yn yr ardal. Mae'r cyngor wedi rhoi dyddiad cychwynnol i ni ar gyfer gweithredu hyn, sef mis Tachwedd, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro hynny'n ofalus iawn i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen honno. | 380 |
Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae'n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o'r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae'n un o'r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy'n deall y problemau sydd gennym. Mae gennym ardal ddiwydiannol iawn, mae gennym lain arfordirol gul gyda'r M4 yn rhedeg drwyddi, ac maent yn effeithio ar lefelau llygredd a gronynnau, ond mae angen i ni wneud mwy mewn gwirionedd i leihau unrhyw gynnydd. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol Birmingham a Choleg y Brenin, Llundain i edrych ar oblygiadau ansawdd aer. A allech roi datganiad am ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwnnw ac a allwch sicrhau hefyd y bydd modd gwella'r problemau sy'n codi o ansawdd aer ym Mhort Talbot, am ein bod yn wynebu rhai o'r heriau sydd o'n blaenau? | 381 |
Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi'n cytuno y gallai'r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag y dinistr a achosir gan lifogydd fod mewn perygl pe na baem yn rhan o'r UE? | 382 |
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae'n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud, gyda lefel uchel o wyliadwriaeth, ac mae'n galw am fuddsoddiad helaeth wrth gwrs. | 383 |
Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a'n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol. | 384 |
Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy'n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy'n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion cynefin, a'r rhan gwbl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn ecosystemau iach, gweithredol. Rwy'n credu bod hyn yn rhan annatod o ymagwedd ehangach y mae angen i ni ei chael mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy, ac rydych yn hollol gywir am ysgolion a phlant ifanc a phlant yn eu harddegau. Rwy'n credu nad oes ond angen i chi edrych ar y ffordd y mae ailgylchu - . Rwy'n credu bod hynny wedi mynd i mewn i'r ysgolion yn gynnar iawn, ac yn awr i'r plant hynny, wrth iddynt dyfu, mae ailgylchu yn rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn ddechrau eu hannog yn ifanc, credaf ei fod yn syniad da iawn, ac mae'r Gweinidog addysg yn y Siambr ac yn clywed hyn, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n ystyried hynny, hefyd. | 385 |
Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw'n Tufty. Rwy'n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae'n hynod bwysig i'n gwlad, felly rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny. | 386 |
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi'u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu'r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o'r dŵr, ac nid dyma'r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o'r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell y biswail a hefyd mae'r llygredd hwnnw bellach wedi dod i ben, ond fy nghwestiwn i chi yw: pa asesiad a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, o ran yr effaith ar adferiad hirdymor y rhan honno o'r dŵr? Ac a allwch hefyd gadarnhau pa waith sy'n cael ei wneud i leihau'r tebygolrwydd y bydd gollyngiadau biswail tebyg yn digwydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n niweidio ein hamgylchedd gwych yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny? | 387 |
Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn. | 388 |
Wel, yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw'r ffyrdd dan sylw. Gwn fod swyddogion wedi bod yn siarad â Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi comisiynu asesiad traffig ac ansawdd aer yng Nghaerllion yn ddiweddar. Yr hyn y maent eisiau ei wneud yw nodi mesurau sy'n gysylltiedig â thraffig, a fuasai, pe gellid eu rhoi ar waith, yn gwella ansawdd aer, a sŵn hefyd o bosibl. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gadw mewn cysylltiad agos â hwy er mwyn bwrw ymlaen â hyn. | 389 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn amlwg yn elwa o'r ffaith fod y DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, drwy swyddi sy'n dibynnu ar fynediad rhydd i'r farchnad sengl a thrwy gyllid gwarantedig yr UE. Bydd y swyddi hynny a'r £500 miliwn y mae cymunedau yng Nghymru yn ei dderbyn bob blwyddyn gan yr UE mewn perygl pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. | 390 |
Rwy'n credu y dylai pobl y DU a phobl Cymru fod yn glir iawn yfory - mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ein barn fod bod yn rhan o'r UE yn hanfodol ar gyfer ffyniant Cymru. Os yw'r DU yn pleidleisio dros adael, rydym yn asesu y bydd cymunedau Cymru yn waeth eu byd. Mae angen buddsoddiad busnes a gweithlu medrus i gymunedau allu ffynnu. Felly, gadewch i ni beidio â dibrisio grym y bleidlais yfory dros aros i mewn er mwyn sicrhau buddsoddiad a dyfodol Cymru - mae'n bleidlais bwysig. | 391 |
Yn wir. Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa o filiynau o gyllid yr UE - dros £500 miliwn y flwyddyn. Mae adfywiad llawer o drefi a chymunedau ar draws Cymru yn cael ei gefnogi - Pontypridd, Llanelli, Y Rhyl, i enwi rhai yn unig. Disgwylir y bydd campws arloesedd Abertawe a gefnogir gan yr UE yn creu £10 biliwn o effaith economaidd yn rhanbarth y de-orllewin yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd pob un wedi cael ei roi mewn perygl yn ddiangen os byddwn yn gadael yfory. | 392 |
Gallaf weld yn glir pam eich bod yn eistedd mor agos at eich cyd-Aelodau yn UKIP. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod - gadewch i mi atgoffa'r Aelod am yr etholaeth y mae'n ei chynrychioli yn Ynys Môn. Gadewch i mi ei atgoffa y bydd £10 miliwn o arian yr UE ar gyfer y prosiect sgiliau a chyflogaeth a chyflogeion yn helpu 500 o fusnesau a 7,000 o bobl ar draws gogledd Cymru. A wyddai fod arian yr UE wedi helpu gweithwyr gorsaf bŵer yr Wylfa i ennill sgiliau newydd a dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth newydd? Mae'r Aelod yn rhoi hynny i gyd mewn perygl a dylai gofio hynny pan fydd yn mynd i'r blwch pleidleisio. | 393 |
Diolch, Weinidog, am yr ateb. Byddwch yn gwybod, Weinidog - o'r profiad gawsom ni yn y Cynulliad diwethaf pan oedd, rwy'n meddwl, y mwyafrif ar draws y pleidiau am gael gwared ar yr amddiffyniad yma - nad oedd modd cyflawni hynny yn y ffordd yr aed o'i chwmpas hi gan y Llywodraeth ac yn y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio yma. Tra fy mod yn derbyn yn llwyr bod yn rhaid - wel, dim bod yn rhaid, ond, yn y cyd-destun yma, ei bod yn briodol - i'r Llywodraeth gynnig deddfwriaeth inni ei thrafod, ym mha ffordd y gallai'r Llywodraeth adeiladu'r consensws trawsbleidiol yna i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn llwyddo a'n bod yn gallu delifro ar y 'commitment' yma? | 394 |
Rwy'n croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth am symud ymlaen ar y ddeddfwriaeth hon ar sail drawsbleidiol yn fawr iawn ac rwy'n siŵr y byddwn yn gallu cael consensws er mwyn cyflwyno hyn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw'n credu bod yna gymalau cadw yn y Bil Cymru drafft a fyddai'n effeithio ar gymhwysedd Llywodraeth Cymru i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol? | 395 |
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod llawer o rieni sy'n caru eu plant yn defnyddio ychydig bach o gosb resymol fel modd o ddisgyblu eu plant, ac y gall defnydd gormodol o ffurfiau eraill ar ddisgyblaeth hefyd fod yr un mor gamdriniol i blant o'u defnyddio'n anghywir? Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth i sicrhau ffocws ar sgiliau rhianta cadarnhaol a'u bod yn cael eu hegluro ar draws y wlad i roi cyfle i rieni sy'n defnyddio cosb resymol allu defnyddio dulliau eraill o geryddu? Gwn fod rhywfaint o waith wedi'i wneud ar hyn yn y gorffennol ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddwch yn ceisio ymestyn y rhaglen rhianta cadarnhaol i bob rhan o Gymru yn y dyfodol. | 396 |
Rwy'n galw yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins. | 397 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i neges o ewyllys da, ac yn yr un modd i'r Aelod a fydd yn fy nghysgodi. Mae tlodi bellach yn gyfrifoldeb i bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet a holl Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gennym oll rôl ar y cyd. Mae gennyf faterion penodol sy'n ymwneud â thlodi gyda chymunedau, a byddaf yn gweithio gyda fy nhîm yn y Llywodraeth i ddatrys rhai o'r problemau hynny. Byddaf yn gwneud datganiad cyn bo hir am egwyddorion yr adran hon a'r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Rwy'n credu bod mynd i'r afael â thlodi yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth. Yn y 17 mlynedd rydym wedi bod mewn grym yma, mae yna bethau y gallwn eu lliniaru a cheisio lliniaru yn eu herbyn, ond nid yw'r holl ddulliau ar gyfer mynd i'r afael â'r tasgau heriol sydd o'n blaenau yn ein meddiant ni. Rwy'n ceisio canolbwyntio fy mhortffolio yn awr yn benodol ar ddau faes: y cyntaf yw adfywio economaidd, a'r ail yw lles. Mae'r agwedd les ar hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan fy mod yn credu, os gallwn drwsio cymunedau ar oedran ifanc - ymyrraeth gynnar gyda phobl ifanc - mae gennym lawer gwell cyfle yn y tymor hir. Ond byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr gyda mwy o fanylder, ac rwy'n hapus i rannu mwy o fanylion â'r Aelod mewn cyfarfod preifat os yw'r Aelod yn dymuno hynny. | 398 |
Mae gennym lawer o raglenni gwrthdlodi a rhaglenni sgiliau ac rwy'n gweithio gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am hynny. Un o'n hymrwymiadau yw creu 100,000 o brentisiaethau newydd, gan weithio gyda'r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn cael ei roi mewn perygl mawr oherwydd y refferendwm yfory. Os byddwn yn gadael yr UE, beth fydd yn digwydd i'r cynllun, o ran y bobl sy'n rhan o'r rhaglenni hynny, a rhaglenni ar gyfer y dyfodol? Mae gennyf ystadegau ar gyfer y rhaglenni a oedd gennym yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod a'u rhoi yn y Llyfrgell, Lywydd. | 399 |