text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â'r pwyntiau cyffredinol y mae Nick Ramsay yn eu gwneud - pwysigrwydd goruchwyliaeth dda, annibynnol o'r broses a data cywir sy'n rhoi'r canlyniadau gorau posibl a mwyaf dibynadwy i ni. Mae creu rhagolygon economaidd yn gelfyddyd, nid gwyddor, a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol - gyda'i hadnoddau na fyddwn byth yn gallu cael eu tebyg - fe fyddwch yn gwybod bod ei rhagolygon, mewn cyfnod o chwe mis, yn gallu symud cryn dipyn mewn rhai meysydd pwysig iawn. Felly, hyd yn oed gyda data da iawn, ac adnoddau da iawn, mae'n dal i fod yn weithgaredd anfanwl. Cyfarfûm â chadeirydd Comisiwn Cyllidol yr Alban, yr Arglwyddes Susan Rice, pan oeddwn yng Nghaeredin rai wythnosau yn ôl i ddysgu oddi wrthynt sut y maent wedi mynd ati i sicrhau'r math hwnnw o gyngor. Rwy'n dal i ystyried gyda swyddogion beth yw'r ffordd orau o ddarparu'r ffrwd honno o oruchwyliaeth annibynnol y tu hwnt i'r cytundeb gyda Bangor, sydd ar gyfer y dyfodol agos. Rwy'n credu bod y cwestiwn pa un a oes angen comisiwn llawn arnom ar gyfer y lefel o ddatganoli cyllidol sydd gennym, yn un y mae'n rhaid i ni fod yn barod i'w ofyn, ond nid yw hynny'n golygu nad oes ffyrdd eraill y gallwn sicrhau'r math o gymorth a mewnbwn annibynnol i'r broses hon y mae Nick Ramsay wedi tynnu sylw ati'n briodol y prynhawn yma.
4,200
Wel, mae ffigurau o'r math hwnnw ar gael ar gyfer Cymru, wrth gwrs, ond mae materion yr Alban, Lywydd, yn faterion i Lywodraeth yr Alban ac yna i bobl yr Alban eu pwyso a'u mesur a gwneud penderfyniad.
4,201
Rwy'n siŵr fod y Prif Weinidog yn iawn i dynnu sylw at y ffaith fod yna sawl ffordd y gall yr Alban fod yn fodel ar gyfer Cymru, yn union fel y mae llawer o bethau rydym yn eu gwneud yma y mae'r Alban yn eu hystyried yn fodelau y gallant ddysgu oddi wrthynt hefyd. Felly, nid oes unrhyw bwyntiau o natur synhwyrol i'w gwneud o'r sylw hwnnw. Yr hyn sydd gennym, fel y dywed yr Aelod - ac o safbwynt y Llywodraeth hon, rydym yn Llywodraeth ddatganoliadol sy'n credu mewn bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Y rheswm y credwn mewn bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yw ein bod yn ystyried hynny'n bolisi yswiriant lle rydym yn cyfuno ein risgiau ac yn rhannu buddiannau. Nid wyf yn credu bod cwestiynau sydd i'w gweld yn gosod un rhan o'r Deyrnas Unedig yn erbyn rhan arall ac yn dweud bod un rhan yn cael ei sybsideiddio gan ran arall - nid wyf yn credu bod honno'n ffordd ddefnyddiol o feddwl am bethau. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod yr un adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod Cymru yn gwneud mwy o ymdrech cyllidol y pen o'r boblogaeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Rydym i gyd yn gwneud cyfraniadau, mae gennym i gyd anghenion y gallwn fynd i'r afael â hwy, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd fwyaf synhwyrol o geisio meddwl am y materion hyn.
4,202
Mae cysylltiadau dwyochrog â Llywodraeth y DU yn bwysig. O ran Brexit, cefais gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos cyn y ddiwethaf, a chafodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog ag ef yr wythnos diwethaf. Ond nid yw'r pethau hyn, yn y pen draw, yn gweithredu yn lle proses y Cyd-bwyllgor Gweinidogion nac yn wir, yn lle fersiwn well a chryn dipyn yn fwy datblygedig o broses Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Dywedodd Gweinidog yr Alban dros Adael yr Undeb Ewropeaidd yn benodol iawn wrthyf, er bod ganddynt gyfres wleidyddol o uchelgeisiau y maent yn gobeithio bwrw ymlaen â hwy yn y ffordd y mae Prif Weinidog yr Alban wedi ei nodi, bwriad yr Alban oedd parhau i fod yn aelod cyfrannog o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion. Credaf na ddylai cysylltiadau dwyochrog gymryd lle'r ffordd honno o ddod ynghyd, lle y mae pedair cydran y Deyrnas Unedig yn rhannu syniadau ac yn ceisio dod o hyd i atebion cyffredin i broblemau cyffredin. Mae cysylltiadau dwyochrog yn eu hategu ac yn bwysig, ond nid ydynt yn cymryd eu lle.
4,203
Cyn i chi ofyn y cwestiwn atodol, rwy'n credu eich bod wedi gofyn i'r cwestiwn hwn gael ei grwpio â chwestiwn 4.
4,204
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. £294,000 yw cyfran Cymru o'r gronfa o £5 miliwn. Dyna'r swm canlyniadol. Bydd Cabinet Cymru yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i ystyried sut y byddwn yn defnyddio symiau canlyniadol y gyllideb, a bydd hynny'n rhan o'n hystyriaeth.
4,205
Wel, Lywydd, y flaenoriaeth honno yr ydym bob amser wedi ei rhoi i'r gwasanaethau cymdeithasol yw'r rheswm pam nad yw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru wedi dioddef o'r toriadau a wnaed ar draws y ffin. Mae ein gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu pwysau sylweddol iawn o ganlyniad i ddemograffeg a ffactorau eraill - rwy'n cydnabod hynny'n llwyr - ond maent mewn lle gwell i wynebu'r pwysau hynny na gwasanaethau eraill mewn mannau eraill. Bydd yr Aelod wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 sy'n cadarnhau, unwaith eto, bod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y flwyddyn ariannol hon yn 106 y cant o'r gwariant yn Lloegr, a dyna pam, yn y gyllideb a roddwyd gerbron y Cynulliad hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, mewn cytundeb â Phlaid Cymru, y cafodd £25 miliwn ychwanegol ei nodi yn y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac yna cafodd £10 miliwn o gyllid rheolaidd pellach ei nodi rhwng y gyllideb derfynol a'r gyllideb ddrafft, i helpu adrannau gwasanaethau cymdeithasol i ddod o hyd i ateb teiran i bwysau'r hyn a elwir yn gyflog byw mewn gofal cymdeithasol. Yn y cyfnod yn arwain at y gyllideb, ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys, yn ei annog i ddod o hyd i gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, a bydd y mater hwnnw'n sicr o gael ei drafod pan fydd cyd-Aelodau yn y Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth yr wythnos nesaf i drafod y symiau canlyniadol. Bydd sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio, os gellir sicrhau y bydd unrhyw ran ohono ar gael ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, wrth gwrs, yn fater i'r Gweinidog dan sylw, ond bydd hi'n sicr yn ymwybodol o farn yr Aelod a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma.
4,206
Wel, Gadeirydd, rwy'n croesawu unrhyw arian ychwanegol sy'n dod i Gymru. Bydd y cyfalaf ychwanegol o £50 miliwn yn cael ei rannu dros gyfnod o bedair blynedd. Pan fyddwch yn ei ystyried gydag arian datganiad yr hydref, mae'n golygu mai dim ond 21 y cant yn llai y bydd ein cyllidebau cyfalaf yn 2019-20 yn awr, o'i gymharu â'r hyn oeddent yn 2009-10. Felly, mae'r Canghellor wedi mynd ran o'r ffordd - rhan fach o'r ffordd - i lenwi'r twll a grëwyd gan ei ragflaenydd.
4,207
Wel, gall yr Aelod fod yn sicr ein bod yn cadw llygad barcud wrth chwilio am yr union fathau hynny o ystrywiau, ac mae fy swyddogion wedi bod yn edrych yn ofalus iawn ar fanylion yr hyn a ddywedwyd gan y Canghellor yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae'r gyllideb yn wledd newidiol iawn yn wir, a newidiodd eto o fewn yr awr ddiwethaf yn unig gyda chamu'n ôl eto o'r argymhellion a wnaed gwta wythnos yn ôl. Ond rydym yn edrych yn fanwl iawn ar y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud ac yn herio lle y mae angen i ni wneud hynny, lle y credwn fod dosbarthiadau'n cael eu defnyddio ar gam er anfantais i symiau canlyniadol Barnett.
4,208
Wel, fel y credaf fy mod wedi'i ddweud eisoes y prynhawn yma, Lywydd, gall yr Aelodau fod yn sicr y bydd gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn briodol pan fydd y Cabinet yn cyfarfod i edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i gyllideb yr wythnos diwethaf.
4,209
Lywydd, roeddem yn siomedig iawn fod y Canghellor wedi methu manteisio ar gyfle yr wythnos diwethaf i fynd i'r afael â'r mater hwnnw ac ymateb i'r pwyntiau a wneir yn briodol iawn gan yr ymgyrch honno. Rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni i barhau i drafod materion o'r fath gyda'r Prif Ysgrifennydd a Llywodraeth y DU yn fwy cyffredinol, ac roeddem wedi gobeithio y byddai'r gyllideb wedi cael ei gweld fel cyfle i wneud iawn am rai o'r anghyfiawnderau y mae'r ymgyrch honno wedi tynnu sylw atynt.
4,210
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, yw bod y Papur Gwyn cyfredol wedi diddymu'r rhwymedigaeth i gynghorwyr gyhoeddi adroddiad blynyddol i gynyddu tryloywder ac i ganiatáu i bleidleiswyr weld beth y mae eu cynrychiolwyr wedi bod yn ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech, efallai, esbonio rhywfaint mwy ar hynny ac egluro pam fod y gofyniad hwnnw wedi'i wanhau ac os yw, pam y teimlwch nad yw sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn adrodd yn rheolaidd a chyson ar y gwaith a wnânt ar ran y rhai y maent yn eu cynrychioli yn system addas i lywodraeth agored ac atebol.
4,211
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi ddigon o eisiau cyflog cyfartal i gyflwyno tryloywder cyflog mewn llywodraeth leol, gan fod tryloywder yn gam hanfodol tuag at gyflog cyfartal?
4,212
Mae cyllideb 2017-18, a gymeradwywyd gan y Cynulliad, yn adlewyrchu ein cytundeb gyda Phlaid Cymru i ddarparu £3 miliwn ar gyfer cynlluniau peilot i gefnogi meysydd parcio am ddim yng nghanol trefi.
4,213
Wel, Lywydd, nid oes rhaid i awdurdodau lleol wneud cais am y cyllid gan eu bod yn ei dderbyn drwy'r grant cynnal refeniw. Felly, byddant i gyd yn derbyn eu cyfran o'r cyllid. Gadewch i mi ddweud fy mod yn disgwyl y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun newydd. Deallaf fod fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant wedi cyfarfod â llefarydd Plaid Cymru ar y mater hwn yn gynharach heddiw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol heddiw, ac mae'r llythyr eisoes wedi cael ei gyhoeddi, lle roedd yn nodi cyfres o ofynion a chanllawiau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r cynllun ac y byddant yn cymryd rhan ynddo yn y ffordd y byddem wedi ei ddisgwyl.
4,214
Wel, Gadeirydd, pryd bynnag y bydd gan rywun gynllun penodol y maent wedi ymrwymo iddo, rwy'n deall y byddent yn hoffi ei weld mewn grant arbennig am ei fod yn fwy gweladwy yn y ffordd honno. Mae hynny bob amser yn creu tipyn o wrthdaro â'r egwyddor ei bod hi'n well gan awdurdodau lleol o bob plaid weld yr arian yn mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl ar lawr gwlad. Yn yr achos hwn, penderfynais y byddai'n mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw, ond y byddai'n cael ei fonitro'n ofalus iawn. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hynny'n glir. Rydym eisiau arloesedd. Rydym eisiau caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu'r cynlluniau peilot sy'n gweithio orau yn eu hardaloedd eu hunain, gyda'r nod - . Fel y dywedodd Sian Gwenllian, y nod a rennir ganddynt oll yw gwneud mwy i ganiatáu i'n strydoedd mawr fod yn lleoedd ffyniannus lle y gall busnesau weithredu'n llwyddiannus a lle y gall pobl leol deimlo eu bod yn cael rhywbeth sy'n fywiog ac yn werth chweil yn eu bywydau hefyd.
4,215
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn ddweud, yn dilyn fy ymateb i'ch cwestiwn ar y mater hwn ym mis Hydref, rwy'n falch o allu cadarnhau fod trefniadau ar y gweill i osod dau bwynt gwefru ar yr ystad. Bydd y rhain yn defnyddio system cerdyn talu wrth ddefnyddio/cerdyn allwedd a fydd yn caniatáu ar gyfer gwefru cerbydau trydan ar y safle a chynllun taliad hawdd i'r defnyddiwr. Unwaith y bydd ar waith, byddwn yn hyrwyddo gwybodaeth am y cyfleuster ymysg Aelodau a staff. Rydym yn gobeithio y bydd y ddarpariaeth hon yn annog y defnydd o gerbydau trydan.
4,216
Hoffwn ddiolch i'r Aelod unwaith eto am holi ynglŷn â cherbydau trydan. Hoffwn ddweud y bydd angen i ni fynd drwy'r broses gaffael briodol, a bydd hyn yn cymryd peth amser. Ond yn dilyn yr arolwg a anfonwyd allan ym mis Chwefror, cafwyd ymateb mwy cadarnhaol i gerbydau trydan, ac rydym wedi ymateb yn unol â hynny. Hoffwn ddweud ein bod yn gobeithio ac yn bod yn gadarnhaol y bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn yr haf - y baeau gwefru - ond yn amlwg mae'n rhaid i ni ganiatáu amser ar gyfer hapddigwyddiadau. Diolch.
4,217
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Hoffwn ddweud ein bod, ar hyn o bryd, yn edrych yn unig ar ddau bwynt gwefru yn Nhŷ Hywel, ond yn amlwg, fe welwn pa mor llwyddiannus fydd hyn, ac mae gennym ddiddordeb mewn edrych ar hyn yn gadarnhaol a lleihau ôl troed allyriadau carbon. Rydym yn awyddus i fwrw ymlaen â'r syniad hwn, felly gyda chynnydd, byddwn yn rhagweld y byddem yn edrych ar safleoedd eraill.
4,218
Diolch, Lywydd. Yn 40 oed eleni, mae Biosffer Dyfi wedi bod yn un o chwech o warchodfeydd biosffer cydnabyddedig UNESCO yn y Deyrnas Unedig. Ailenwyd ac ymestynnwyd y biosffer yn 2001, ac erbyn hyn mae'n ymestyn o Aberystwyth i Lanbryn-mair ac o Borth i Ddinas Mawddwy. Mae ganddo weledigaeth bendant a chlir, sef: bydd Biosffer Dyfi yn cael ei gydnabod a'i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a'i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref wedi'i gwreiddio yn lleol. I gwrdd â'r weledigaeth heriol a chyffrous, mae ganddo naw prif amcan. Un ohonynt yw sicrhau y bydd yn gymuned ddwyieithog, a fydd yn cael ei chydnabod a'i pharchu am ei threftadaeth. Felly, mae statws y biosffer yn ymwneud â llawer mwy na'r amgylchedd - mae'n cwmpasu sefyllfa'r iaith Gymraeg o gwmpas aber Afon Dyfi. Hoffwn ddiolch a chymeradwyo Biosffer Dyfi am ei waith, nid yn unig fel platfform i ddatblygiadau cynaliadwy, ond am ei bendantrwydd i ganoli'r iaith Gymraeg fel rhan annatod o'i waith. Rwy'n annog, felly, Lywodraeth Cymru i barchu a hyrwyddo'r biosffer fel enghraifft o gynaliadwyedd yng Nghymru sydd â statws rhyngwladol, ac i gydweithio ag UNESCO i sicrhau ei ddyfodol.
4,219
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ac wrth gwrs, nid oeddwn yma pan gyflwynwyd y Ddeddf honno, fel y mae yn awr. Beth yw goblygiadau hynny, boed yn awdurdod lleol neu'n ddatblygwr mewn ardal leol, o ran rhoi sylw dyledus i'r rhestr honno o enwau? Oherwydd, fel y dywedwch, ni all fod yn hollol derfynol. Hyd yn oed yn fy ardal fy hun, gwn am goetiroedd hardd sydd â dau enw gwahanol, tri o bosibl, yn cael eu defnyddio gan bobl leol ac sydd wedi cael eu defnyddio ers cenedlaethau. Ond beth yw effaith ymarferol hynny ar rywun sy'n cynnig rhyw fath o ddatblygiad neu, er enghraifft, ar fap yr Arolwg Ordnans?
4,220
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ildio? Ni fyddai neb yn anghytuno â hynny o gwbl, ond pwynt deddfwriaeth yw y dylai fod yn ddewis olaf. Y broblem gyda'r cynigion, fel y cawsant eu cyflwyno, yw nad oes unrhyw sylfaen dystiolaeth, ac yn wir, gofynnodd Sian Gwenllian faint o enwau sydd wedi cael eu newid. Heb sylfaen dystiolaeth gadarn, yn syml, nid yw'n bosibl - rwy'n siŵr y byddai'r Aelod yn cytuno - creu deddfwriaeth gadarn.
4,221
Norseg. Byddaf yn cefnogi eich Bil ar y cam hwn a'r egwyddorion cyffredinol, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cydymdeimlo rhywfaint ag Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd mae'n rhaid i'r gyfraith fod yn glir iawn. Yn fy etholaeth i, mae gan bentref Tryleg 13 o amrywiadau lleol gwahanol o ran ynganiadau a sillafiadau, sy'n achosi dryswch enfawr ar arwyddion ffyrdd, fel y gallwch ei ddychmygu. Felly, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn pan fyddwch yn datblygu hyn nad ydych yn diogelu un amrywiad ar enw lle ar draul enwau eraill. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld sut y byddwch yn cyflawni hynny mewn gwirionedd.
4,222
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
4,223
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i. Roedd ymchwiliad y pwyllgor i gomisiwn seilwaith cenedlaethol yn waith sylweddol i'r pwyllgor. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, rwy'n credu ei bod yn ymddangos bod sawl prosiect blaengar a phwysig gennym ar y gweill. Mae gennym ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ffordd liniaru'r M4, wrth gwrs - a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gynnal sesiwn alw heibio ar gyfer yr Aelodau heddiw - cynigion ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, trydaneiddio'r brif reilffordd drwy Gaerdydd ac i Abertawe a metro de Cymru, ac wrth gwrs, y potensial hefyd ar gyfer morlyn llanw yn Abertawe, a dylwn ychwanegu fod cefnogaeth drawsbleidiol i'r syniad hwnnw yn y Siambr hon. Ac wrth gwrs, nid wyf am anghofio am ganolbarth Cymru: mae gennym brosiectau fel ffordd osgoi'r Drenewydd, a fydd yn hynod fuddiol i economi canolbarth Cymru. Felly, credaf ei bod yn briodol fod Ysgrifennydd y Cabinet yn argymell comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru cyn diwedd y flwyddyn hon. Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi dangos cryn ddiddordeb yn y cynlluniau, ac wedi sicrhau y bydd un o'i ymchwiliadau cyntaf yn ymdrin â'r cynlluniau hynny. Felly, edrychodd y pwyllgor yn fanwl ar y cynigion a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn gynharach eleni. Gwahoddwyd rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n ymwneud â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd y DU i roi tystiolaeth, a buom yn edrych ar sut y mae sefydliadau tebyg yn gweithio yn Awstralia. Dylwn ychwanegu na chynhaliasom ymweliad safle; gwnaed popeth heb ymweliad safle, yn anffodus. Roedd ein casgliadau at ei gilydd yn gadarnhaol iawn. Credaf fod gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet am gorff arbenigol sy'n gallu dadwleidyddoli rhai o'r penderfyniadau mwyaf dadleuol a phellgyrhaeddol yng Nghymru yn weledigaeth gref iawn, ac roedd y pwyllgor o'r un farn.
4,224
Ydw. Caniatawyd eithriad i ffordd osgoi Llandeilo fel na fyddai angen i'r comisiwn annibynnol ei hystyried, gan wybod yn iawn, ar sail elw o £1.16 ar y buddsoddiad, na fyddai'n ddigon da. Rwyf wedi fy syfrdanu gan ei sinigiaeth wrth iddo fynnu bod yn rhaid i gynlluniau eraill basio prawf tebyg. Rydym oll wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhaid i bawb ohonom gyflawni ein hymrwymiad a'i adlewyrchu yn y penderfyniadau a wnawn.
4,225
Wrth sôn am wahaniaethau rhwng rhanbarthau, ac yn ei hanfod, drwy osod rhanbarthau yn erbyn ei gilydd o ran y gwariant, oni bai eich bod yn gallu nodi sut i gynyddu'r gwariant a'r adnoddau yn yr ardaloedd hyn heb dorri mewn meysydd eraill o'r Llywodraeth, rhaid cymryd yn ganiataol eich bod yn trafod, ac yn argymell toriad mewn rhyw ardal neu'i gilydd o Gymru er mwyn cynyddu'r cyllid mewn ardal arall. Mae fy mhwynt yn bwynt y dylech ei gefnogi, 'does bosibl: nid yw'n ymwneud yn unig ag anghydraddoldeb rhanbarthol, mae'n ymwneud ag anghydraddoldeb o fewn rhanbarthau yn ogystal, a rhaid inni sicrhau, o fewn y rhanbarthau, fod adnoddau'n cael eu dyrannu'n deg er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gymunedau'n cael eu gadael ar ôl neu dan anfantais. O ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaed, rwy'n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol y dylem ystyried denu'r arbenigwyr technegol gorau nid yn unig o Gymru, ond o bedwar ban byd, a byddwn yn cytuno yn llwyr gyda Jeremy Miles fod yn rhaid i ni estyn allan a dod â gwaed newydd a syniadau newydd ac arloesedd i mewn. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei drafod â'r Arglwydd Adonis ddydd Gwener. Yn olaf, o ran seilwaith cymdeithasol, gwnaeth Vikki Howells bwynt pwysig iawn am ofal plant. Wrth gwrs, dylai darpariaeth gofal plant fod yn gysylltiedig iawn â datblygu gorsafoedd metro newydd, a dyna pam y credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod dealltwriaeth dda o seilwaith cymdeithasol yn datblygu ar y comisiwn. Ddirprwy Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn awr at weld y comisiwn wedi'i sefydlu ac yn dechrau cyflawni ei botensial. Fy nod yw lansio'r ymarfer penodiadau cyhoeddus ar gyfer y cadeirydd a'r aelodau yn gynnar yn yr hydref a chael y comisiwn yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn hon.
4,226
Byddwn yn sicr yn cefnogi hynny'n fawr iawn. Rwyf hefyd yn meddwl mai'r pwynt pwysig yma hefyd yw nad yw hynny'n cael gwared ar - ni fyddai comisiwn seilwaith yn mynd â chyfrifoldeb oddi wrth Weinidog y Llywodraeth, ond byddai'n caniatáu i'r comisiwn weithio y tu allan i wleidyddiaeth, ac rwy'n credu mai dyna pam y sefydlwyd y comisiwn o ran hynny. A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi mabwysiadu dull pragmataidd, rwy'n meddwl, o sefydlu'r comisiwn, ac mae ei fwriad, rwy'n credu, i adolygu ei effeithiolrwydd ar ddiwedd tymor y Cynulliad i'w groesawu yn ogystal? Bydd yn rhoi cyfle i ni ystyried a yw'r comisiwn wedi cyflawni ac yn cyflawni ei botensial hefyd, ac a oes angen cymorth arno, er enghraifft, drwy ei roi ar sail statudol er mwyn iddo lwyddo. Bydd y camau nesaf yn gwbl hanfodol, rwy'n credu, a siaradodd Jeremy Miles yn gryf i'r perwyl hwn, ond rwy'n dymuno'n dda i Ysgrifennydd y Cabinet a'i dîm wrth iddynt recriwtio'r unigolion o ansawdd uchel y bydd eu hangen, gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd a phrofiad a gwybodaeth am Gymru, i roi'r seilwaith dynol sydd ei angen ar y comisiwn er mwyn iddo allu cyflawni dros Gymru. Felly, hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor a Lee Waters am gyfrannu at y ddadl heddiw. Diolch.
4,227
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6 ar yr agenda heddiw, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar berfformiad Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig y cynnig.
4,228
A ydych yn gwybod pam? A ydych wedi ystyried efallai mai un o'r rhesymau yw bod gwariant cyfalaf yng Nghymru gan awdurdodau lleol yn cael ei gadw ar wahân, ond yn Lloegr, mewn academïau, mae'n cael ei gadw gan yr academïau?
4,229
Rwy'n mwynhau ei berorasiwn helaeth yma'n fawr. A gaf fi ofyn yn syml, ar fater seilwaith cenedlaethol, lle y mae'r trydaneiddio o'r tu hwnt i Gaerdydd i lawr i Abertawe a gorllewin Cymru? Pa bryd y mae'n mynd i ddigwydd - os o gwbl?
4,230
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Byddwn yn falch o dderbyn ymyriad gan yr Aelod dros Ogwr er mwyn iddo allu cywiro'r Cofnod i ddweud sawl gwaith y pleidleisiodd dros weld y Llywodraeth Lafur yn trydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru pan oedd yn Aelod Seneddol. Rwy'n credu y bydd yn dangos na phleidleisiodd unwaith, ond mae'r Ceidwadwyr yn trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Paddington a Chaerdydd, a bydd yn parhau i drydaneiddio y tu hwnt i Gaerdydd. Mae hynny'n fwy nag y gwnaeth y Blaid Lafur erioed. Byddwn wrth fy modd yn ildio, ond mae'r cloc yn mynd yn drech na fi'n araf bach. Os edrychwch ar yr ystadegau economaidd, nid yw'r Llywodraeth hon yn dangos yr hyder sydd ei angen i ddweud ei bod yn Llywodraeth newydd, gydag egni newydd ac ysgogiad newydd i ymdrin â'r problemau economaidd dwfn sy'n wynebu Cymru. Ni all hynny fod yn iawn. Ni all yr Aelodau ganiatáu i'r Llywodraeth fwrw rhagddi yn y ffordd hon am y pedair blynedd nesaf. Byddwn ni, ar yr ochr hon i'r tŷ, yn sicr yn parhau i herio'r Llywodraeth ar bob cyfle ac yn gweithio i sicrhau y gellir gwireddu dyheadau a ffydd pobl yn ein gwlad wych. Dyna pam y cyflwynasom y cynnig hwn heddiw. Gobeithiaf y bydd Plaid Cymru yn ystyried eu gwelliant. Mae'n siŵr y caf fy siomi yn hynny o beth yn ôl pob tebyg, ond bydd yn dda gweld y gwrthbleidiau'n dod at ei gilydd ac yn pleidleisio i ddangos nad oes gennym hyder yn y rhaglen lywodraethu bresennol - ac yn hytrach na rhedeg ar ôl y penawdau, eu bod yn gweithredu gyda sylwedd ac yn pleidleisio dros y cynnig sydd gerbron y Cynulliad heddiw.
4,231
A fyddech yn cytuno nad yw caledi erioed wedi gweithio, o Hoover yn Unol Daleithiau America, i Wlad Groeg heddiw, a'r cyfan y mae'n ei wneud yw gwneud pobl yn dlotach?
4,232
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly hefyd fod - ? Rydych yn dweud cael y gorau gan y gweithlu - un ffordd o gael y gorau gan y gweithlu yw gweithio mewn partneriaeth gyda'r gweithlu, fel y gwelwn ar draws Castell-nedd Port Talbot, lle y ceir partneriaeth wych rhwng y gweithlu a'r cyngor. Dyna ffordd o gael llwyddiant.
4,233
Diolch i chi am ildio; rwy'n ddiolchgar iawn i chi. A wnaiff egluro felly pa Lywodraeth Cymru amgen y mae'n ei hargymell?
4,234
Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. [Yn parhau.] - ac wedi dweud mai'r Blaid Lafur Gymreig yw gwir blaid Cymru: ar eu hochr, gyda hwy ac yn sefyll drostynt. Ddirprwy Lywydd, deuthum i'r Cynulliad hwn o lywodraeth leol ac yng Nghymru, o dan Lafur, er gwaethaf toriadau grant bloc ar hyd y raddfa i Gymru, mae cyllid refeniw llywodraeth leol wedi cael ei ddiogelu, ar £4.114 biliwn - y setliad gorau, wedi'i ddiogelu yn dilyn blynyddoedd o doriadau gan Lywodraeth y DU, lefel o amddiffyniad na chafodd ei roi i lywodraeth leol yn Lloegr o dan y Torïaid. Mae cyllidebau'r Cyngor yno wedi cael eu torri 10 y cant mewn arian parod. Mae pobl agored i niwed - defnyddwyr mwyaf awdurdodau lleol yn Lloegr - yn dioddef, ond yng Nghymru, mae'r cyllidebau hynny wedi cynyddu 2.5 y cant. I roi hyn yn ei gyd-destun, cynyddodd gwariant Caerdydd £67 miliwn ac yn Lerpwl, gwelodd ostyngiad o £75 miliwn. Yng ngeiriau Catatonia - ac rwy'n addo na fyddaf yn eu canu - 'Bob dydd, pan fyddaf yn deffro, rwy'n diolch i Dduw mai Cymraes wyf fi' am fy mod wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol fel athrawes, ac yng Nghymru, o dan Lafur, mae adeiladau ysgol yn cael eu gwella'n sylweddol gyda rhaglen adeiladu ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy'n werth £2 biliwn - y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf a welodd Cymru erioed, ar ôl blynyddoedd o ddadfuddsoddi cyn datganoli mewn asedau ysgolion. Yn Islwyn, mae Ysgol Uwchradd odidog Islwyn yn codi o'r ddaear; yn Lloegr, fel y dywedwyd gan lawer, mae'r Torïaid wedi chwalu a diddymu rhaglen adeiladu ysgolion Llafur. Felly, os yw'n wir - ac mae'n wir - rwy'n dweud wrthyf fy hun, 'Diolch i Dduw mai Cymraes wyf fi', oherwydd fel y gŵyr yr Aelodau Ceidwadol yn eu calon, mae bywyd yn well o dan Lafur Cymru. Diolch.
4,235
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o gael cyfle i ymateb i'r ddadl hon, ac rwy'n bwriadu siarad am ein record a bod yn bositif ynglŷn â beth y mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn ei gyflawni yng Nghymru, gan mai record ydyw o Lywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni ar ran pobl Cymru. Felly, gadewch i ni ddechrau gyda'r economi: llai o bobl allan o waith yng Nghymru a nifer bron gyfuwch ag erioed mewn gwaith. Mae'r ffigurau diweddaraf yn tystio i hyn: mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru bellach yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU, ac rydym wedi creu degau o filoedd o swyddi newydd. Y llynedd yn unig, helpodd Llywodraeth Cymru i greu a diogelu 37,500 o swyddi. Ond rydym hefyd wedi ymateb i'r heriau economaidd, ac mae cefnogi ein hymgyrch Achubwch ein Dur yn enghraifft o hynny, fel y dywedodd David Rees. Rydym wedi rhoi camau ar waith i ddiogelu'r diwydiant dur yma yng Nghymru. Diolch i'r £60 miliwn o gymorth y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer cefnogi'r diwydiant dur, rydym wedi gallu cadw swyddi dur a chynhyrchiant dur yma yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, mae mwy na 15,000 o bobl ifanc ar draws pob un o'n hetholaethau wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglen gyntaf Twf Swyddi Cymru, ac mae cyfraddau llwyddiant prentisiaethau yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Rydym yn cynorthwyo degau o filoedd o fusnesau bach gyda'u hardrethi busnes ac rydym wedi gwrando ac ymateb i'w pryderon ynglŷn ag ailbrisio drwy greu dau gynllun rhyddhad pwrpasol.
4,236
Arhoswch un eiliad. Erbyn 2021, byddwn wedi gwneud mwy, gan y byddwn yn adeiladu 20,000 yn rhagor o gartrefi fforddiadwy.
4,237
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu ac yn llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl yn eu ffordd arbennig eu hunain. Roedd yn amlwg nad aeth arweinydd y tŷ i'r afael â'r union bwyntiau a roddwyd iddi ynglŷn ag amseroedd aros ym maes iechyd, ynglŷn â recriwtio meddygon a nyrsys i gael ein gwasanaeth iechyd yn ôl i ble rydym am iddo fod, ynglŷn â'r mesurau arbennig ar gyfer pedwar o'n chwe bwrdd iechyd, ac ynglŷn â'r pwyntiau y cyffyrddodd Mark Reckless â hwy, lle y defnyddiodd y mynegeion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae Cymru, yn anffodus, wrth odre'r tablau cynghrair hynny. Nid oes yr un ohonom yn falch o hynny o gwbl. Rydym yn uchelgeisiol dros Gymru, ond yr hyn yr ydym ei eisiau yw Llywodraeth yn y lle hwn sydd â'r un uchelgeisiau â phobl Cymru. Yn anffodus, o'r arddangosiad a roddodd arweinydd y tŷ heddiw - . Y cyfan a roddodd oedd esgus gwael dros yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn gan y Llywodraeth hon. A wyddoch beth sy'n fy ngwneud yn ddig, arweinydd y tŷ? [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad mewn munud. A ydych yn gwybod beth sy'n fy ngwneud yn ddig, arweinydd y tŷ? Fod cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ysgol wedi colli'r cyfle i gyrraedd eu potensial o dan y system addysg yr ydych wedi llywyddu drosti, lle rydych wedi bod yn Weinidog yr holl ffordd drwodd ers gwawrio datganoli. Sylwaf nad aethoch i'r afael â'r pwyntiau a roddais i chi ar addysg mewn perthynas â safleoedd PISA, mewn perthynas â'r cyllido - £607 - ynglŷn â diffyg athrawon yn ein hysgolion, sydd oll yn ffigurau a roddodd yr undebau i'r pwyllgor addysg. Rydych wedi llywyddu dros y ffigurau hynny, ac rydych yn parhau i lywyddu dros y ffigurau hynny. Soniodd David Rees am - [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Jenny, fe anghofiais. Fe gymeraf yr ymyriad. Mae'n ddrwg gennyf.
4,238
Mae ganddynt y cymhleth israddoldeb hwn. Mae gwir angen iddynt ddod drosto. Yn hytrach na dal dig - [Torri ar draws.]
4,239
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly gohiriaf y bleidlais hon tan y cyfnod pleidleisio.
4,240
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Dai Lloyd. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, yn erbyn y cynnig 28. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
4,241
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 12, dau yn ymatal, 39 yn erbyn, felly gwrthodwyd y gwelliant.
4,242
Symudaf yn awr at y ddadl fer. Os ydych yn gadael y Siambr, os gwelwch yn dda gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel. Galwaf ar Paul Davies i siarad ar y pwnc y mae wedi'i dewis - Paul Davies.
4,243
A gaf i ddiolch yn fawr i Paul Davies am arwain y drafodaeth yma ar gefnogi Tyddewi a chantref Bro Dewi i fod yn ddinas diwylliant Prydain yn 2021? Rwy'n meddwl eich bod chi wedi rhoi 'pitch' arbennig o dda heddiw, ac nid ydw i'n gweld pam y byddai neb yn ei droi i lawr. Fel rhywun sydd â'i gwreiddiau teuluol yn mynd yn ôl 400 o flynyddoedd yn Nhyddewi, byddai neb yn fwy balch na fi pe byddai Tyddewi a Bro Dewi yn ennill y bìd yna. Rwy'n meddwl mai beth sy'n bwysig i'w danlinellu yw na fydd cais Tyddewi yn edrych unrhyw beth yn debyg i fidiau o ddinasoedd eraill. Tyddewi yw'r ddinas leiaf ym Mhrydain ac un o'r rhai mwyaf ymylol yn ddaearyddol. Mae'n eistedd ar arfordir mwyaf prydferth y byd. Nid ydwyf yn cytuno â 'National Geographic': nid yr ail orau, y gorau yw hi, yn fy marn i. Rwyf yn meddwl y bydd hi'n dod â rhywbeth gwreiddiol ac unigryw i'r gystadleuaeth. Mae'n amlwg na fydd Tyddewi yn gallu cystadlu ar yr un raddfa yn ariannol, o ran poblogaeth, yn ddaearyddol â dinasoedd eraill, ond rwy'n meddwl y bydd y bìd yn un ysbrydoledig ac yn un ysblennydd. Bydd yn defnyddio diwylliant fel modd i drawsnewid yr ardal. Bydd yn cwrdd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran iechyd a lles, adfywiad, cydlyniad cymunedol, addysg a dysgu. Hoffwn i ddymuno pob lwc i'r fenter yma. Rwy'n meddwl ei fod yn gyfle unigryw i Dyddewi a Bro Dewi, ac mi fyddwn i'n hoffi cynnig fy help i i'r bìd mewn unrhyw ffordd bosibl.
4,244
Mae cymorth busnes ar gael i entrepreneuriaid ac i fusnesau micro, bach a chanolig ym mhob rhan o Gymru trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru. Ein ffocws ar hyn o bryd yw cefnogi entrepreneuriaid arloesol, swyddi a'r economi.
4,245
Beth rydym wedi targedu yw trio helpu'r rheini sydd wedi colli allan, a'u helpu nhw dros dro, o achos y ffaith bod adnewyddu wedi bod o'r trethi busnes. Mae lot fawr o bobl wedi elwa o achos hynny - lot o fusnesau, wrth gwrs, sydd yn dawel, sydd wedi gweld cwymp yn y trethi maen nhw'n eu talu. Ond mae yna gynllun mewn lle er mwyn helpu busnesau bach yn enwedig sydd wedi gweld twf a chynnydd yn eu trethi nhw.
4,246
Rwy'n credu eich bod chi'n sôn am ffigurau banc Lloyds. Nid ydym yn gwybod beth yw'r fethodoleg maen nhw wedi'i ddefnyddio, nac, wrth gwrs, beth yn gwmws yw natur y 'data set'. Wrth ddweud hynny, mae'r nifer o enedigaethau busnes wedi cynyddu o 8,225 yn 2011 i 11,525 yn 2015. Ond, wrth gwrs, fe wnawn ni ystyried y ffigurau sydd wedi dod o fanc Lloyds, er mwyn gweld os oes unrhyw fath o broblem fan hyn sydd eisiau ei datrys mewn un rhan o Gymru.
4,247
Wel, mae ein cyfradd ddiweithdra yn well na'r Alban, a dweud y gwir. Mae ein twf economaidd yn well na'r Alban. Rydym ni wedi gwneud yn llawer gwell na Llywodraeth yr Alban yn hynny o beth. A gaf i hefyd ddweud bod y cynlluniau y mae ef wedi cyfeirio atynt wedi eu gordanysgrifio? Efallai fod y ffenestr yn fyr, ond serch hynny, mae'r cynlluniau'n boblogaidd, maen nhw'n cyflawni ac mae eu hystadegau economaidd yn dangos hynny.
4,248
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiadau yn y wasg brofiad pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghastell-nedd. Roedd y bobl a gyfwelwyd wedi bod trwy golli swyddi, anhawster yn hawlio budd-daliadau, carchar a chaethiwed, a gwnaethant siarad yn deimladwy am yr effaith ar eu hiechyd a'u hymdeimlad o unigrwydd. Cydnabyddir bod y ddeddfwriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio ati yn un sydd wedi gwneud cynnydd gwych, yn enwedig o ran atal, ac rwy'n croesawu'r ffaith fod Cefnogi Pobl yn cael ei gadw, fel y soniwyd ganddo yn ei ymateb. Ond mae Shelter yn credu bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd yn golygu, yn eu geiriau nhw: Yn syml, nid ydym yn gwybod digon amgysgu ar y stryd i allu ei ddatrys. Tynnwyd sylw ganddynt hefyd at y diffyg cymharol o lety Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Yn ogystal â'r mesurau sydd eisoes ar waith, a wnaiff y Prif Weinidog edrych felly ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cysgu ar y stryd, fel y gallwn ddeall y ffordd orau o fynd i'r afael â hynny, ac a wnaiff ef edrych hefyd ar faint o stoc Tai Cyntaf sydd ar gael yng Nghymru?
4,249
Brif Weinidog, fel sydd wedi cael ei grybwyll yn barod, mae Shelter yn poeni'n fawr bod yna ddiffyg data ar gael ar gyfer monitro'r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru. Rwy'n credu gyda nifer o gynlluniau eraill, megis Cymunedau dros Waith a Chymunedau yn Gyntaf, mae data a diffyg data yn thema sydd yn dod trwyddo gan eich Llywodraeth chi. Gyda mater sydd mor bwysig, a gyda'r ffaith bod gennym ni Ddeddf mor gryf, pam ydy sefyllfa'n codi ble mae yna ddiffyg data ar rywbeth mor bwysig? Pa waith, yn ogystal â'r gwaith rydych chi newydd sôn am yn eich ymateb i Jeremy Miles, sydd yn mynd i fod yn digwydd er mwyn sicrhau na fydd yna dwf y flwyddyn nesaf yn y nifer o bobl sydd yn ddigartref?
4,250
Fel aelod o'r gweithgor amlasiantaeth a thrawsbleidiol a ymgyrchodd yn llwyddiannus o dan arweiniad yr ymgyrchwyr cymunedol Ymgyrchwyr Trefnu Cymunedol Cymru i sefydlu lloches nos Tŷ Nos yn Wrecsam, mae'n arbennig o rwystredig bod cyfrifiad cenedlaethol diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r rheini sy'n cysgu ar y stryd nid yn unig yn dangos cynnydd o 72 y cant i bobl sy'n cysgu ar y stryd ledled Cymru, ond bod y niferoedd yn Wrecsam ar noson y cyfrif i fyny o 17 i 27 o'i gymharu â'r blynyddoedd cynt, a Wrecsam oedd â'r gyfran uchaf o bobl, 61, yn cysgu ar y stryd dros gyfnod o bythefnos yng Nghymru - sy'n sylweddol uwch na Chaerdydd, hyd yn oed. Sut, felly, ydych chi'n cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, y mae ei gadeirydd, Andrew Atkinson, wedi dweud ei bod yn bryd i bawb roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, rhoi'r gorau i feio ei gilydd a gweithio gyda'i gilydd ar y ddwy ochr i fynd i'r afael â phroblemau'r dref?
4,251
Brif Weinidog, yn anffodus, mae'r naratif ynghylch cysgu ar y stryd wedi bod yn gwbl wenwynig. Yn hytrach nag ystyried pobl sy'n cysgu ar y stryd fel eneidiau truenus, anffodus sy'n gorfod dod o hyd i loches mewn drysau siopau gan wynebu hypothermia a newyn, mae llawer wedi eu hystyried a'u brandio fel tramgwyddwyr a phla i'w waredu o'n strydoedd mawr. Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, yn hytrach na chyflwyno gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol i'r bobl hyn neu eu rhoi dan glo am gardota, y dylai cynghorau ledled Cymru fod yn darparu lloches ac yn gweithio gyda'r gwahanol asiantaethau a phartneriaethau i ddod o hyd i lety a chymorth parhaol iddynt?
4,252
Diolch i chi, Lywydd. A gaf i, yn gyntaf oll, ddymuno pen-blwydd hapus i chi, Brif Weinidog? Fel rhywun sydd â blynyddoedd lawer i fynd cyn i mi gyrraedd y garreg filltir o 50, edrychaf ymlaen efallai at glywed gennych chi sut brofiad yw hwnnw. [Chwerthin.] Ond dymunaf yn dda iawn i chi ar eich pen-blwydd heddiw, a hoffwn hefyd anfon dymuniadau gorau at Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig sydd, yn amlwg, yn gwella ar hyn o bryd, a gobeithio y bydd hi yn ôl gyda ni cyn gynted â phosibl. Ddoe, Brif Weinidog, llofnodwyd bargen ddinesig Abertawe gan y ddwy Lywodraeth ac, yn amlwg, y partneriaid a weithiodd i lunio'r fargen honno - yr awdurdodau lleol ac, yn bwysig, busnesau a oedd yn rhan o greu'r cyfuniad o brosiectau a fydd, gobeithio, yn codi lefelau GYG a sgiliau cyflogadwyedd a'r rhagolygon i ddinas-ranbarth Abertawe. Rwy'n sôn yn benodol am 'ranbarth', gan nad Abertawe yn unig yr ydym ni'n ei hystyried yma. Fodd bynnag, awgrymwyd i bobl, ac nid yn afresymol, nad yw hyn yn debyg iawn i'r hyn yr oedd Syr Terry Matthews yn siarad amdano pan gyflwynwyd hyn ganddo, fel cadeirydd bwrdd y ddinas-ranbarth, ar y cychwyn tua blwyddyn yn ôl, a bod y cysyniad wedi symud oddi wrth bobl a mwy at adeiladau. A ydych chi'n rhannu'r safbwynt hwnnw, a'r safbwynt, mewn gwirionedd, y gallai'r cytundeb sydd o'n blaenau fod yn un 'adeiladu i bobl ddod', yn hytrach na buddsoddi ym mhobl y rhanbarth?
4,253
Ac ydych chi'n hyderus, Brif Weinidog, gyda'r cytundeb hwn, y bydd GYG, sydd tua 74 y cant o lefel y DU yn ninas-ranbarth Abertawe, yn cynyddu dros 15 mlynedd y cytundeb. Felly, a allwch chi roi dangosyddion pendant i ni y byddwch chi'n eu meincnodi, ac y bydd eich Llywodraeth yn eu meincnodi, fel llwyddiant? Beth allwn ni ei ddisgwyl ymhen tair, pump, wyth a 10 mlynedd pan fydd y cytundeb hwn yn cael ei gyflwyno, fel y gallwn eich marcio chi a Llywodraeth y DU a'r partneriaid ar gynnydd i lefelau GYG yn y maes hwn? Oherwydd mae'n hanfodol bod pobl yn gallu gweld cyfoeth a chyfleoedd yn cynyddu, yn hytrach na rhai o'r sylwadau bachog yr ydym ni wedi eu cael ar fentrau adfywio eraill sydd efallai wedi digwydd yn y gorffennol.
4,254
Rwy'n croesawu hynny. Byddwn wedi hoffi, efallai, marc mwy pendant o ran ble y byddech chi'n hoffi gweld GYG yn tyfu iddo o ble y mae ar hyn o bryd, sef 74 y cant. Ond mae'n bwysig bod gan Gaerdydd fargen ddinesig a bod gan dinas-ranbarth Abertawe fargen ddinesig. Yn amlwg, mae'r gogledd mewn angen dybryd i'r cytundeb twf gael ei gyflawni. Ddoe yn 'The Guardian', cyhuddwyd Prif Weinidog y DU gennych o fod yn fyddar o ran gwrando ar bryderon a godwyd gennych ynghylch datganoli ac efallai ffabrig cyfansoddiadol y DU. Un peth sydd wedi dod allan o'r gogledd, o'r bwrdd uchelgais yn arbennig, yw'r gallu i Lywodraeth Cymru ddatganoli cyfrifoldeb i'r gogledd fel bod y pwerau hynny o ran ardrethi busnes, er enghraifft, o ran sgiliau ac o ran trafnidiaeth - rwy'n sylweddoli bod problemau ynghylch ardrethi busnes - ond o ran sgiliau a thrafnidiaeth, byddai mwy o synergedd rhwng y Northern Powerhouse a gogledd Cymru i greu gwell sbardun ar gyfer ffyniant economaidd yn y gogledd. A wnaiff eich Llywodraeth ystyried yn weithredol datganoli cyfrifoldebau allan o Barc Cathays, neu a fyddwch chithau yn fyddar i'r ceisiadau sy'n dod allan o'r gogledd gan fusnesau ac arweinwyr cyngor pan eu bod yn gofyn i chi am y cyfrifoldebau hyn?
4,255
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn innau ddymuno pen-blwydd hapus i'r Prif Weinidog, hefyd, a'i sicrhau, wrth i chi heneiddio, nad oes unrhyw beth i'w ofni cyn belled â'ch bod yn parhau i fod mewn iechyd perffaith fel fi. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno - [Torri ar draws.] Bydd y Prif Weinidog yn cytuno, rwy'n siŵr, beth bynnag fo'n gwahanol safbwyntiau ar Brexit, bod ansicrwydd i'w resynu, ac mae Prif Weinidog y DU, o leiaf, ar fin datrys un ansicrwydd drwy sbarduno erthygl 50. Mae'n anffodus, fodd bynnag, bod Nicola Sturgeon bellach wedi ceisio creu ansicrwydd arall dros refferendwm yn yr Alban, gan fod yn ffyddiog, heb os, y byddai Prif Weinidog y DU yn gwrthod ei chais. Tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o leihau'r ansicrwydd penodol hwn yw derbyn her Nicola Sturgeon a chynnal refferendwm.
4,256
Rwy'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud hynny, oherwydd rwy'n cytuno ag ef mai anaml iawn y mae'n anghywir i ymgynghori â phobl ar fater pwysig fel hwn. Pe byddai ymgyrch refferendwm, byddai hefyd yn berthnasol i Gymru i ryw raddau, gan fod gan yr Alban ddiffyg yn y gyllideb o £15 biliwn y flwyddyn, er ei bod yn economi fwy na Chymru, ac mae'n debyg iawn i'r ffigur sydd gennym ni yma - diffyg o £15 biliwn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o arian o un rhan o'r DU i un arall, a fyddai'n diflannu pe byddai Cymru neu'r Alban yn dod yn wleidyddol annibynnol.
4,257
Mae'n bwysig iawn, rwy'n meddwl - dylai pob un ohonom ni sy'n credu yng nghyfanrwydd y Deyrnas Unedig aros yn unedig ar y pwynt hwn y byddai Cymru, mewn gwirionedd, yn llawer tlotach pe byddai'n gadael y Deyrnas Unedig, oherwydd nid oes unrhyw ffordd y gellid mantoli unrhyw doriad i unrhyw gyllideb gan adran y DU a fyddai'n cael ei ddatganoli i Gymru wedyn mewn unrhyw ffordd arall. Felly, gan fod gwariant cyhoeddus bron i 60 y cant o CDG Cymru erbyn hyn, byddai'n ergyd fawr i'r holl bobl dlawd ac agored i niwed, ac i bawb sy'n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gwasanaethau cymdeithasol eraill ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant.
4,258
Wel, mae'n amlwg bod Cymru mor gyfoethog ac mor llewyrchus mai'r status quo yw'r unig ddewis i ni, ynte? Brif Weinidog, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o sgandalau yn ymwneud ag ansawdd triniaeth rhai cleifion mewn rhai wardiau yn y GIG yng Nghymru. Pa mor hyderus ydych chi fod y systemau ar gyfer nodi a chywiro problemau yn ddigon cadarn erbyn hyn i atal sgandal arall tebyg i Dawel Fan neu Dywysoges Cymru?
4,259
Wel, wrth gwrs, ceir proses ffurfiol ar gyfer ymateb i adroddiadau, ond mae'n iawn i ddweud bod maeth a hydradiad yn hynod bwysig. Tynnodd yr adroddiad sylw at gynnydd da a wnaed mewn nifer o feysydd, ond, wrth gwrs, mae'n hynod bwysig cael adroddiadau fel hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cymaint o welliant ag y byddai bob un ohonom yn dymuno ei weld.
4,260
Rydym ni eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth o fentrau ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr o ran bwyta'n iach. Rydym ni'n ystyried ffyrdd o wella'r ddarpariaeth o fwyd iach mewn ysbytai hyd yn oed ymhellach, gan gynnwys adolygiad o safonau gorfodol sydd ar y gweill. Ac fel y dywedais yn gynharach, mae'r datganiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cydnabod y gwelliannau enfawr a wnaed eisoes gan y GIG. Dywedodd yr archwilydd cyffredinol, yn ei adroddiad, ei fod yn cydnabod bod cyrff y GIG wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed ganddo fe a chan y pwyllgor, a bod dwy ran o dair o'r argymhellion wedi eu gweithredu'n llawn, a bod gwaith parhaus yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny nad ydynt yn gyflawn hyd yn hyn. Felly, mae'r rhan fwyaf wedi eu gwneud. Mae rhai nad ydynt wedi eu gwneud eto, ond yr hyn sy'n eglur o'r hyn a ddywedwyd gan yr archwilydd cyffredinol yw bod yr hyn sydd ar ôl i'w wneud wrthi'n cael ei wneud.
4,261
Mae'n werth cofio mai ym mis Hydref 2015 y gwnaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru lansio ei ymgyrch ardderchog ar gyfer swyddi gwell yn nes at adref, er budd cymunedau'r Cymoedd fel yr un yr wyf i'n ei gynrychioli yng Nghaerffili, ac, yn wir, derbyniais nodyn cyfeillgar iawn ganddyn nhw yr wythnos diwethaf yn pwysleisio hynny, ac roeddwn i'n falch o weld yr un egwyddorion wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu. Hoffwn groesawu'r araith a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddoe yng Ngholeg y Cymoedd, pryd y cydnabu bwysigrwydd mynd i'r afael â gwahaniaethau rhanbarthol a rhoi pwyslais rhanbarthol ar greu cymunedau cydnerth ac yn wir swyddi gwell yn nes at adref. Gyda hyn mewn golwg, a wnaiff y Prif Weinidog gynnig rhagor o fanylion am ddull Llywodraeth Cymru a fydd yn mynd i'r afael â'r heriau economaidd hynny a wynebir gan Gymoedd gogleddol y de, gan helpu i ddatblygu ein sectorau arbenigol ein hunain, gan adeiladu ar gryfder presennol, a'r cyfalaf cymdeithasol sy'n bodoli yno?
4,262
Gwell swyddi yn nes at adref - i fy etholwyr i, beth mae hyn yn ei olygu yw creu swyddi o ansawdd yn y gogledd-orllewin, ac mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddangos y ffordd efo hyn, ac i gael polisïau cwbl fwriadus i wasgaru swyddi Llywodraeth ar draws Cymru. Pryd, felly, mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu diwygio ei strategaeth lleoli swyddi? Mae angen cynnwys meini prawf penodol newydd a fyddai'n arwain ar ddosbarthu swyddi Llywodraeth Cymru mewn ffordd gyfartal ar draws Cymru. Rydw i'n awgrymu eich bod chi yn diwygio'r strategaeth lleoli swyddi ar frys cyn i bobl y gogledd golli pob ffydd yn eich Llywodraeth.
4,263
Brif Weinidog, os ydym ni eisiau cael mwy o bobl yn gweithio'n agosach at adref, yna beth am weithwyr cartref? Un o'r problemau y mae gweithwyr cartref yn eu hwynebu yn fy etholaeth i ac mewn rhannau eraill, o'r gogledd yn enwedig, yw cysylltedd band eang gwael. Gwelsom adroddiad yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud bod rhai o'r cyflymderau mwyaf araf i'w gweld yng ngogledd Cymru, a cheir llawer o bobl nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn o hyd. Beth ydych chi'n ei wneud i ddwyn BT ac Openreach i gyfrif i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewidion a'u rhwymedigaethau o dan y cynllun? A pha gamau ydych chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r 4 neu 5 y cant o'r cartrefi hynny sydd y tu allan i gwmpas y cynllun ar hyn o bryd, fel y gall y bobl hynny hefyd yn yr ardaloedd hynny gael y cyfle i weithio o gartref?
4,264
Brif Weinidog, rwyf wedi cael ar ddeall bod 175 o fusnesau ar restrau aros am unedau sy'n eiddo i'r cyngor yng Nghaerffili ar hyn o bryd, rhai ers hyd at bum mlynedd. A allwch chi nodi felly a oes unrhyw gynlluniau gan y Llywodraeth i helpu cynghorau fel Caerffili i adeiladu unedau newydd i ddarparu ar gyfer gwargedion o'r fath, o ystyried y ffaith, yn amlwg, bod gan y cwmnïau hyn y potensial i greu miloedd o swyddi yn agos at adref?
4,265
Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod i wedi bod yn galw ers nifer o flynyddoedd am gonfensiwn cyfansoddiadol i ystyried llywodraethiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac mae'r heriau a ddaw yn sgil gadael yr UE yn gwneud yr achos dros gonfensiwn o'r fath hyd yn oed yn gryfach.
4,266
Wel, mae sofraniaeth seneddol a'r syniad bod yr holl rym yn dod o un lle yn San Steffan, sydd â'r gallu i wneud beth bynnag y mae'n dymuno, wrth wraidd y broblem, wrth i ni adael yr UE. Nid wyf yn credu mai dyna'r dull cywir. Rwy'n credu y ceir sawl canolfan o atebolrwydd democrataidd, ac mae'r Cynulliad hwn yn un ohonynt. I mi, mae'n rhaid i'r DU symud mwy at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n gweithio yng Nghanada. Nid yw'n creu ansefydlogrwydd. Mae Canada yn un o'r gwledydd mwyaf ffyniannus a diogel yn y byd, ond mae'n rhaid i ni symud oddi wrth y syniad hwn bod popeth, rywsut, yn israddol i San Steffan a Senedd y DU yn San Steffan. Nid dyna'r model rwy'n credu - . Efallai ei fod wedi gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid dyna'r model sy'n mynd i weithio yn y ganrif hon.
4,267
Wel, yn gyntaf oll, ni fu unrhyw ymateb ffurfiol i'r Papur Gwyn yr ydym ni wedi ei lunio. Yn ail, cynlluniwyd y Bil diwygio mawr, fel y'i gelwir, i fod yn Fil a fydd yn cadw - felly y dywedir wrthym - cyfraith yr UE yn awdurdodaethau'r DU a chyfreithiau gwahanol rannau a gwahanol wledydd y DU. Os mai dyna'r cwbl y mae'n ei wneud, yna mae'n synhwyrol. Fodd bynnag, yr hyn na fyddem yn ei dderbyn - a dweud y gwir, byddem yn gwrthwynebu hyn i'r carn - yw unrhyw awgrym y bydd pwerau presennol yn cael eu cydio'n ôl, neu y dylai pwerau sy'n dychwelyd o Frwsel orwedd, hyd yn oed am gyfnod o amser, yn San Steffan. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn wyliadwrus iawn ohono, a byddwn yn archwilio'r Bil diddymu mawr yn ofalus iawn i wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Ac ni fyddwn yn cefnogi hynny os cynigir hynny yn rhan o'r Bil hwnnw.
4,268
Dros y ddwy flynedd nesaf, ar ôl sbarduno erthygl 50, ceir cyfle euraidd i ailstrwythuro'r ffordd y mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ar draws y DU. Nid oes diben aros tan y bydd y cyfnod hwnnw o amser wedi mynd heibio, oherwydd wedyn byddwn yn canfod ein hunain mewn sefyllfa lle nad oes unrhyw ffordd o gyflwyno system arall. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu y dylai'r Cydbwyllgor Gweinidogion esblygu i fod yn gyngor Gweinidogion priodol lle mae penderfyniadau ar y cyd yn cael eu gwneud, pan fo hynny'n briodol, mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Mae'n ddigon posibl bod rhinwedd mewn cael fframwaith cyffredinol o ran amaethyddiaeth, neu bysgodfeydd yn wir, cyn belled â'i fod wedi ei gytuno. Rydym ni'n gwybod, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod posibilrwydd cryf na fydd rheolau cymorth gwladwriaethol yn gymwys mwyach, ac os felly bydd gennym sefyllfa gwbl agored ym marchnad sengl fewnol y DU. Rwyf wedi crybwyll y term 'cyfraith fasnach'. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl bosibl. Roedd cyfraith fasnach rhwng Iwerddon a'r DU yn y 1930au. Nid yw o fudd i unrhyw un i hynny ddigwydd. Y dewis yn hytrach na hynny yw llunio cyfres o reolau yn y DU, wedi'u cytuno gan bedair Llywodraeth y DU ac, yn bwysig, corff dyfarnu annibynnol sy'n plismona'r rheolau hynny - llys. Mae Llys Cyfiawnder Ewrop yn cyflawni'r swyddogaeth honno ym marchnad sengl Ewrop; mae Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn cyflawni'r swyddogaeth honno o ran masnach ryng-dalaith yn yr Unol Daleithiau. Nid yw marchnad sengl fewnol heb reolau y cytunwyd arnynt a dull o blismona'r rheolau hynny yn farchnad sengl fewnol briodol. Rwyf eisiau gweld y farchnad sengl fewnol honno'n gweithio'n iawn.
4,269
Mae perygl y bydd y DU yn dechrau datod. Yn arbennig, un peth nad yw'n cael ei grybwyll yn aml, ond yr wyf yn credu sy'n werth ei nodi, yw'r hyn a allai achosi twf cenedlaetholdeb Seisnig, a phobl yn Lloegr yn teimlo bod y system yn gwneud cam â nhw. Ac rwy'n meddwl y gellir osgoi hyn oll yn weddol hawdd. Gall hunaniaethau cenedlaethol amlwg ein pedair gwlad gael eu cydnabod drwy gydnabod ar yr un pryd y diben cyffredin y mae'r DU yn ei ddarparu, ond mae hynny'n golygu sefydlu strwythur sy'n adlewyrchu'r ffaith fod hon yn bartneriaeth o genhedloedd, yn hytrach na chredu fod hyn yn rhywbeth tebyg i'r wladwriaeth unedol yr oedd y DU ym 1972, cyn iddi ymuno â'r hyn a oedd y Farchnad Gyffredin ar y pryd. Felly, mae modd datrys y materion hyn - nid oes unrhyw amheuaeth yn fy meddwl am hynny. Mae angen eu datrys fel, pan fydd y DU yn gadael yr UE, y bydd y strwythur hwnnw ar waith eisoes o ran marchnad sengl fewnol y DU, o ran cyngor y Gweinidogion, yn hytrach na'i wneud ychydig flynyddoedd wedi hynny ac yna gadael gwagle. Nid yw hynny o fudd i neb.
4,270
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae fy mhryderon yn debyg i'r rhai a godwyd gan Jeremy Miles yn gynharach, ond hoffwn ganolbwyntio ar un pwynt penodol. Cefais y cyfle yn ystod mis Ionawr hyd at yr wythnos hon i wirfoddoli yn lloches nos y gaeaf ym Merthyr Tudful a ddarparwyd gan y cyngor, ac mae'n debyg yr hoffwn nawr gofnodi fy niolch i Gyngor Merthyr Tudful am ddarparu'r lloches nos honno ac i'r gwirfoddolwyr anhunanol sydd wedi gweithio trwy gydol y cyfnod hwnnw i gefnogi'r trigolion yno. Ond mae'n debyg mai'r hyn a wnaeth effeithio mwy na dim arall arnaf oedd anobaith llwyr pobl sy'n canfod eu hunain yn ddigartref nawr. Roedd llawer o bobl yno yn defnyddio'r lloches a oedd wedi canfod eu hunain yn ddigartref am nifer o resymau y cyfeiriasoch atynt yn gynharach - problemau iechyd, a chaethiwed i gyffuriau, ac yn y blaen. Ond cefais fy nharo hefyd gan y nifer a oedd yno oherwydd chwalfa deuluol mewn perthnasoedd. Felly, nid oedd ganddynt broblemau eraill, dim ond nad oedd ganddynt unman arall i fyw, yn llythrennol. Ac yr oedd yn fath o sefyllfa sydd yn gwaethygu -
4,271
Iawn. Nid oeddent yn gallu dod o hyd i warantwr, gan nad oedd ganddynt fynediad at unrhyw un a allai warantu'r rhent gyda'r landlord preifat. Felly, a allech chi, Brif Weinidog, roi rhyw syniad o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o bosibl drwy weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a darparwyr tai, i chwalu'r rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anodd i bobl ddigartref sicrhau llety rhent ac o bosibl ystyried -
4,272
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol raglen gwerth £14 miliwn i ddarparu dull arloesol o fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys nifer o fentrau i helpu unigolion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i helpu'r rheini sy'n cysgu ar y stryd i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg, ac i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol pobl sy'n cysgu ar y stryd yn yr hirdymor, fel iechyd meddwl gwael neu gamddefnyddio sylweddau. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno i ystyried rhaglen Llywodraeth y DU i weld pa fesurau y gellir eu cyflwyno i fynd i'r afael â digartrefedd ym Merthyr Tudful a rhannau eraill o'r de-ddwyrain?
4,273
Gwnaf. Rydym ni'n parhau i ddarparu pob math o gymorth cyflogaeth i bob rhan o Gymru. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglenni Twf Swyddi Cymru a Busnes Cymru hynod lwyddiannus, buddsoddiad ychwanegol mewn prentisiaethau ac, wrth gwrs, heb anghofio, amrywiaeth o raglenni eraill a ariennir gan yr UE.
4,274
Yn 2015, darparwyd £245,808 gennym i'r cwmni tuag at greu 50 o swyddi a diogelu 15 o swyddi yn y cyfleuster ym Maesglas. Aethpwyd y tu hwnt i hynny, ond roedd y dyfarniad yn amodol bod y swyddi yno tan fis Mai 2020. Os na chaiff yr amod hwnnw ei fodloni, yna byddwn yn ceisio adennill yr arian.
4,275
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd yn galonogol clywed am y cod ymarfer newydd ar gyfer cyflogaeth foesegol ar gyfer cadwyni cyflenwi i'r sector cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn dangos arweinyddiaeth wirioneddol. Ond wrth lansio'r cod ymarfer, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 'Dim ond drwy gydweithio y gallwn ni helpu i sicrhau gwell amodau, ac yn bwysicach na hynny amodau tecach, i weithwyr y gadwyn gyflenwi yng Nghymru ac ar draws y byd.' Felly, a gaf i ofyn am sicrwydd gan y Prif Weinidog y byddwn yn ceisio sicrhau bod hyn yn treiddio'n ddwfn yng Nghymru trwy gyrhaeddiad hir y sector cyhoeddus ac asiantaethau eraill, y trydydd sector ac eraill, ond hefyd defnyddio'r cyrhaeddiad dwfn hwnnw i wledydd eraill, gan gynnwys gwledydd datblygol, fel nad yw ein cadwyni cyflenwi, gan gynnwys y rhannau hynny sy'n dibynnu ar ffynonellau tramor, yn cam-fanteisio ar unrhyw weithiwr yn unrhyw le?
4,276
Mae ein 'Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol' yn nodi ein cynlluniau i gefnogi pobl anabl yng Nghymru i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau. Rydym yn bwriadu adolygu'r fframwaith eleni, gan groesawu, wrth gwrs, egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
4,277
Wel, mae'n amlwg bod yr etholwr a gysylltodd â chi wedi bod trwy brofiad anodd. Mae angen ymchwilio iddo. A gaf i ofyn i'r Aelod ysgrifennu ataf a byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu'n ôl ati i ddarparu esboniad i'w hetholwr?
4,278
Arweinydd y tŷ, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar wasanaethau rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru? Yn anffodus, yng Nghymru, nid oes gennym unrhyw wasanaethau rhewmatoleg bediatrig - gwasanaethau penodedig - ac yn benodol nid oes gennym unrhyw dimau i helpu pobl ifanc sy'n canfod bod ganddynt arthritis yn ifanc iawn, yn aml iawn plant o oedran ysgol. Mae hyn yn achosi llawer iawn o broblemau, nid yn unig o ran yr ochr boen o reoli poen arthritis, ond hefyd y gallu i gymryd rhan lawn yn y system addysg a gallu cefnogi plant sy'n mynd drwy'r system addysg fel y gallant gyrraedd eu llawn botensial. Rydw i'n deall, yn dilyn cyfarfod a gefais ddoe, fod llawer o bobl yn cael eu hailgyfeirio i'r canolfannau yn Lloegr, lle ceir 12 ohonynt. Yn yr Alban, mae dwy ganolfan, ac yng Ngogledd Iwerddon, sydd â phoblogaeth lai o lawer na Chymru, ceir un ganolfan bwrpasol. Dim ond un gwasanaeth ymgynghorol sydd yma yn ne Cymru ar hyn o bryd, ac nid yw hwnnw'n darparu'r gwasanaeth llawn y byddai gweithio mewn tîm yn ei ddatblygu, lle - . Pe baech yn edrych ar y safonau a ddylai fod ar waith, fe ddylai fod meddyg ymgynghorol, fe ddylai fod dwy nyrs arbenigol, un ffisiotherapydd, ac un therapydd galwedigaethol, i helpu i ddatblygu'r gwasanaethau yma yng Nghymru. Byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i ni gael datganiad fel y gallwn weld a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad o gyflwyno'r hyn y byddwn i'n ei alw'n ddolen goll yn y ddarpariaeth o ofal iechyd i bobl ifanc sy'n dioddef poen - poen cronig - arthritis a'r cymorth y mae'n rhaid bod ei angen arnynt.
4,279
Tybed a oes modd i ni ddod o hyd i amser am ddatganiad ar effaith y newidiadau i amodau gwaith a phensiynau ar gyfer y lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n dod i rym ar 1 Ebrill, a'r effaith yng Nghymru yn benodol. Mae'r Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau, pwyllgor trawsbleidiol, wedi cwestiynu'r egwyddor y tu ôl i'r toriadau hyn i'r lwfans cyflogaeth a chymorth o 1 Ebrill. Maen nhw wedi cael eu cyfiawnhau ar y sail y byddant yn cael gwared ar gymhellion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n annog pobl i beidio â dychwelyd i'r gwaith. Ond mae'r pwyllgor yn datgan bod y dystiolaeth yn amwys ar y gorau ac mewn gwirionedd bydd perygl iddo, yn eu geiriau nhw, effeithio ar safon byw pobl anabl a'r tebygolrwydd o fynd i weithio. Felly, tybed a allwn ni ddod o hyd i amser ar gyfer rhyw asesiad neu ryw ddatganiad ar effaith hynny yng Nghymru, oherwydd mae'n cael effaith sylweddol ar fywydau fy etholwyr i.
4,280
Arweinydd y tŷ, bythefnos yn ôl gofynnais i'r Prif Weinidog gwestiwn amhleidiol ar ran fy etholwyr i. Rwyf yn croesawu'r twf yn nifer y teithwyr ar y gwasanaeth bws T9 i Faes Awyr Caerdydd, a gofynnais a yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ddargyfeirio cymorthdaliadau i wasanaethau bysiau eraill ledled Cymru wledig. Ni wnaeth y Prif Weinidog ateb fy nghwestiwn sylfaenol i o gwbl - yn hytrach ceisiodd wneud cyfres o bwyntiau gwleidyddol pleidiol a oedd yn hollol amherthnasol i'm cwestiwn. Mae'r etholwyr wedi codi hyn gyda mi, ac wedi gofyn i mi fynegi pryder ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau pwysig sy'n cael eu cyflwyno yn y Siambr hon. Efallai y gallech adolygu'r cofnod, ac a wnewch chi annog eich cydweithiwr y Prif Weinidog i ateb cwestiynau gan roi mwy o wybodaeth?
4,281
Yr wythnos diwethaf siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain i roi blas ar yrfaoedd yn y dyfodol i ddisgyblion ysgol byddar a'u helpu i gyflawni eu potensial llawn. Roedd y digwyddiad hwn yn cyd-daro ag Wythnos Iaith Arwyddion Prydain. Rwyf wedi bod yn meddwl tybed a fyddai'n bosibl cael datganiad gan Lywodraeth Cymru am ei barn ynglŷn â gwneud Iaith Arwyddion Prydain yn iaith swyddogol. Hefyd yr wythnos diwethaf, cododd y comisiynydd plant y mater fod yn rhaid i famau dalu £350 i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain er mwyn cyfathrebu â'u plant byddar, sy'n amlwg yn dipyn o faich ariannol, ac a oes unrhyw ddatganiad y gellid ei wneud ynghylch sut y gellid ymdrin â'r mater hwn - .
4,282
Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddatganiad diweddaru pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar y broses o gyflwyno band eang cyflym iawn, yn enwedig yn y gogledd? Cefais gyfarfod cyhoeddus ddoe yn Llanarmon-yn-Iâl, ac roedd cynrychiolwyr yno o Eryrys, Graianrhyd a Thafarn-y-Gelyn yn fy etholaeth i. Mae pob un ohonynt yn wynebu problemau sylweddol â'u seilwaith telathrebu, a chredaf fod hynny'n rhwystr i'r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn yn eu hardaloedd. Rwy'n bryderus iawn nad yw BT Openreach yn gwella ei seilwaith ei hun yn ddigon da i'r ddarpariaeth gyflym iawn gael ei darparu ar draws y rhwydwaith, ac mae'n defnyddio hyn fel esgus i beidio â'i ddarparu i rai aelwydydd. Mae'r rhain yn gymunedau gweddol fawr, er eu bod braidd yn fychan o'u cymharu â llawer o'r cymunedau trefol y mae Superfast Cymru yn eu gwasanaethu. Ond, serch hynny, mae diffyg mynediad at fand eang yn broblem sylweddol i'r cymunedau hynny. A hyd yn oed dros y rhwydwaith copr dim ond 0.5 Mbps yn unig y maent yn ei gael ar hyn o bryd pan mae'r cyflymder ar y rhyngrwyd yn dweud wrthynt y dylent fod yn cael 7 Mbps neu 8 Mbps, hyd yn oed dros y rhwydwaith copr. Felly, rwy'n bryderus iawn am hyn ac rwy'n teimlo bod angen i Lywodraeth Cymru ddwyn BT Openreach i gyfrif am wella a buddsoddi yn ei seilwaith ei hun y tu allan i brosiect Superfast Cymru er mwyn i'r deiliaid tai a busnesau unigol hyn yn yr ardaloedd hynny gael manteisio ar y rhaglen. Byddwn yn gwerthfawrogi datganiad ar y mater hwnnw.
4,283
Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma wedi cadarnhau bod nifer o ffynonellau tystiolaeth yn dangos bod proffylacsis cyn-gysylltiad yn hynod effeithiol o ran atal haint HIV. Mae PrEp eisoes yn cael ei ragnodi yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Norwy ac Israel. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno datganiad, sy'n cadarnhau'r pwynt cynharaf y bydd yn disgwyl bod mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar ddarparu PrEp yng Nghymru, ac yn cadarnhau, yng ngoleuni'r dystiolaeth glinigol, y bydd nawr yn ystyried cymeradwyo bod y grwpiau risg uchaf yn cael defnyddio'r cyffur er mwyn cefnogi'r ymdrech i atal HIV yng Nghymru?
4,284
Bore heddiw mae deintyddion yn Lloegr wedi bod yn mynegi pryder eithafol am y cynnydd mewn pydredd dannedd ymhlith plant pum mlwydd oed yn Lloegr. Tybed a - . Yn amlwg, mae gennym y Cynllun Gwên yma, sydd wedi arwain at ostyngiad amlwg yn nifer y plant pum mlwydd oed sy'n dioddef pydredd dannedd yng Nghymru. Ond, serch hynny, mae un plentyn â phydredd dannedd yn bump oed yn ormod o lawer. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i drethu diodydd llawn siwgr, yn ogystal â'r sgyrsiau a gafwyd gyda chynhyrchwyr grawnfwydydd melys y mae plant yn cael eu hannog i fwyta yn y bore. Y rhain, yn amlwg, yw'r cyswllt rhwng nifer y plant â phydredd dannedd a'r hyn y gallem yn hawdd wneud rhywbeth i'w atal?
4,285
Arweinydd y tŷ, ar hyn o bryd rwy'n cael cwynion di-ri am broblem sbwriel ar gefnffyrdd a lleiniau ymyl cefnffyrdd a chilfannau yn fy etholaeth i. Gwn fod Aelodau eraill o'r Cynulliad yn cael cwynion tebyg. Yn aml, gwn fod y cyfrifoldeb am gynnal glendid cefnffyrdd wedi ei ddirprwyo i, yn fy ardal i, Gynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, neu i awdurdodau lleol, ond gwn mai Llywodraeth Cymru sy'n bennaf gyfrifol am ein ffyrdd, a bod gennych gyfrifoldeb dros dwristiaeth. Rwy'n bryderus iawn am y ddelwedd sy'n cael ei phortreadu o Gymru i dwristiaid sy'n dod yma. Byddwn yn falch pe gallai Llywodraeth Cymru edrych ar yr hyn y gellid ei wneud am hyn fel mater o frys, yn enwedig yn y cyfnod sy'n arwain at dymor yr haf. Tybed a fyddai modd i ni gael datganiad neu ymateb gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut yr ydych chi'n sicrhau bod awdurdodau lleol a chonsortia lleol yn cynnal eu cyfrifoldeb i gadw ein cefnffyrdd a thraffyrdd yn lân fel ein bod yn portreadu'r ddelwedd orau bosibl o Gymru i'r bobl sy'n ymweld â'n gwlad.
4,286
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar adolygiad o geisiadau cyllido cleifion unigol, ac rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Vaughan Gething.
4,287
Mae'n ddrwg gennyf, dim ond yn gyflym am lais y claf. Ynglŷn â'r gwaith parhaus yr ydym yn sôn amdano o ran y swyddogaeth ansawdd, mae'r AWTTC yn ymgysylltu mewn gwirionedd â grwpiau cleifion, ac unigolion hefyd, felly mae angen inni weld hynny'n parhau fel rhan o'r adolygiad o effeithiolrwydd yr hyn sy'n digwydd hefyd. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt sy'n cael ei wneud.
4,288
Yr eitem nesaf, felly, ar yr agenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar gyfradd comisiwn wrth werthu cartrefi mewn parciau. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Carl Sargeant.
4,289
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i chwestiynau. Yn gyntaf oll, yr hyn mae'n rhaid inni ei ddeall yn llawn, ac rwy'n meddwl fy mod wedi cyfleu hynny drwy'r datganiad heddiw, yw economeg y parc. Roedd hyfywedd ariannol yr adroddiad yn amheus o ran y manylion a gawsom yn ôl a dyna pam nad wyf wedi gallu gwneud penderfyniad. Ond, rwyf yn ddeall y bydd rhai parciau'n cynnwys cyfradd comisiwn o 10 y cant yn eu cynlluniau busnes. Mae'n rhaid i ni ddeall hynny'n well, a phan gawn dystiolaeth yn ôl ganddynt, byddwn yn deall hynny'n llawn. Rwy'n anghytuno ag awgrym yr Aelod bod ein hymarferion ymgynghori wedi'u gogwyddo i un ochr, wedi'u gogwyddo tuag at fusnesau, ac ati - nid yw hynny'n wir. Bydd hwn yn gyfle llawn, agored a thryloyw i bob ochr neu bawb â diddordeb i gymryd rhan. Mae fy nhîm eisoes yn dechrau cynllunio sut i ymgysylltu â rhanddeiliaid, sef y perchnogion safleoedd a'r preswylwyr, sy'n broses bwysig. Mae'r Aelod yn ehangu'r cwmpas o ran cyfle'r datganiad hwn ynglŷn â biliau ynni ac arfer gorau. Byddaf yn edrych ar gyhoeddi canllawiau o gwmpas hynny. Mae'r Aelod yn codi rhai materion, neu gyfleoedd efallai, hyfforddiant ac ati, a hyfforddiant gorfodol. Rhoddaf ystyriaeth bellach i hynny. Yn wir, mae modelau cydweithredol o berchnogaeth safleoedd yn rhai y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt. Rwyf eisoes wedi siarad â fy nghydweithiwr Jeremy Miles, a gododd hynny ar ymylon y trafodaethau yn gynharach heddiw. Wrth gwrs, rwy'n meddwl mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw sicrhau bod gennym ddiwydiant cynaliadwy, gan fod pobl yn byw yno, ond gwneud yn siŵr ei fod yn deg i bawb.
4,290
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn bresennol, gydag Aelodau eraill, yn amser cinio lobïo preswylwyr cartrefi mewn parciau ac rwy'n cydnabod eu pryder, gan fod llawer ohonynt ar incwm isel, wedi ymddeol, y byddent yn hoffi gweithredu ar y taliadau hyn, ac rwy'n croesawu'n gryf eich awgrym eich bod yn bwriadu naill ai leihau neu ddiddymu'r ffi. Yn amlwg, mae angen gwneud penderfyniad cytbwys, ac rwy'n cefnogi'n gryf yr awgrym, os gostyngir y tâl a bod hynny'n gwneud y busnes yn anhyfyw, y byddai'r Llywodraeth yn mynd ati'n weithredol i alluogi ateb cydweithredol - nid dim ond bod yn barod i fod yn agored i hynny, ond darparu'r cyllid a'r gefnogaeth i wneud hynny'n ddewis dichonadwy ar gyfer safleoedd llai. Wrth gwrs, nid yw pob safle'n safle llai - rwy'n cydnabod y broblem sydd gennych â'r sail dystiolaeth - mae llawer ohonynt yn rhan o gwmnïau corfforaethol mwy, a fyddai'n gallu amsugno'r ffi. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a fyddwch chi'n gwneud yn siŵr wrth ystyried hyn bod unrhyw gyfleoedd eraill i gynyddu taliadau eraill, pe byddai'r comisiwn yn cael ei leihau, yn cael sylw ac yn cael eu hatal yn syth?
4,291
Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol. Rwy'n meddwl y dylai'r Aelod gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar ran ei blaid os dyna mae'n dymuno ei wneud. Rwyf i wedi cwrdd â phreswylwyr cartrefi mewn parciau a pherchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau yn y gorffennol ac mae'n anffodus fy mod - fel Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion rydym yn cael llawer o geisiadau gan unigolion i gwrdd â nhw; mae'n gorfforol amhosibl inni wneud hynny oherwydd ymrwymiadau'r dyddiadur. Ond yr hyn yr wyf wedi ymrwymo i'w wneud yn ystod yr ymgynghoriad 12 wythnos - a chyn hynny, mae fy nhîm eisoes yn cynllunio i gwrdd â rhanddeiliaid, felly, grwpiau cymdeithas y preswylwyr, gyda chyrff cynrychioliadol perchnogion y safleoedd cartrefi mewn parciau, a byddwn yn gwneud hynny drwy broses agored a thryloyw. Mae gennyf lawer o lythyrau gan lawer o Aelodau: Lesley Griffiths, Jane Hutt, a llawer o rai eraill sydd wedi ysgrifennu ataf; mae Kirsty Williams yn ysgrifennu ataf bob yn ail wythnos am faterion cartrefi mewn parciau. Rwyf wedi gwneud ymrwymiad i edrych ar hyn yn fanwl a gwneud penderfyniad eleni am yr hyn y byddwn yn ei wneud ac a oes angen inni ddeddfu neu beidio neu a ydym yn diddymu'r cyfraddau comisiwn hynny neu'n eu cadw. Ond nawr, fel y dywedodd yr Aelod yn gwbl briodol, lle perchnogion y safleoedd cartrefi mewn parciau yw dangos imi y byddai eu busnesau'n mynd yn anhyfyw pe byddem yn diddymu'r cyfraddau comisiwn neu'n gwneud newidiadau iddynt.
4,292
Diolch am hynny, Adam Price. Rwyf yn cytuno â chi ei bod yn fenter gyffrous iawn, ac rydym wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb, fel y dywedais, o fannau eraill sydd am gael gweld sut yr ydym yn mynd ati yma yng Nghymru. Ac rwyf hefyd yn cytuno bod angen inni ddatblygu rhai metrigau wrth inni fynd yn ein blaenau. Mae llawer o hyn wedi bod, fodd bynnag, yn ymatebion penodol i heriau mawr neu broblemau penodol, a datblygu'r metrigau o ystyried y risg, os hoffwch chi, tra bod mesur yr allbwn hefyd yn dasg ynddi ei hun, ond byddwn yn bwrw ymlaen â hynny. Os oes gan yr Aelod unrhyw weledigaeth benodol ar sut y gellid strwythuro hynny, byddwn i'n ddiolchgar iawn i'w hystyried. Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw prif ffrydio ychydig ar hynny yn y ffordd yr ydym yn ymateb i heriau a hybu rhai o'r gwelliannau technolegol gan ddefnyddio rhai o systemau data Llywodraeth sydd ar gael gennym. Efallai bod yr Aelod yn gwybod - ar wahân i hynny ar hyn o bryd, ond fe allwn integreiddio'r ddau beth - rydym hefyd wedi bod yn cynnal rhai heriau data a rhai hacathonau, fel y'u gelwir, ac anghynadleddau - mae'r rhain i gyd yn dermau cymharol newydd i mi, ond mae'r cymunedau bach o bobl sy'n eu cefnogi yn eu deall nhw - i nodi'r heriau y gellir eu datrys drwy ein setiau data hefyd, yn rhai o'r heriau craidd cymdeithasol, amgylcheddol a phrif ffrwd. O ran y cyllidebau, maen nhw wedi eu hariannu ar hyn o bryd o gyllideb craidd Cymru. Mae'r gyllideb hyd yma wedi bod ychydig dros ryw £6 miliwn. Rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei ariannu. Rydym yn ystyried beth allai ein partneriaid yn y sector cyhoeddus ei wneud, a'r hyn y gallwn ninnau ei wneud gyda gwariant caffael, ac yn y blaen. Felly, y syniad yw ein bod yn ei yrru ymlaen i feddylfryd caffael prif ffrwd gyda golwg ar ddatrys problemau, nid ar brynu pethau yn unig. Felly, rwyf yn cytuno i raddau helaeth â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaethoch, a byddwn yn bwrw ymlaen yn yr ysbryd hwnnw.
4,293
Bydd y rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno heddiw yn rhoi sylfaen gyson i bwyllgorau cynllunio yng Nghymru wneud y gorau o'u heffeithlonrwydd ac ategu penderfyniadau effeithlon. Mae'r rheoliadau yn cyflwyno argymhellion o adroddiad annibynnol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru i weithrediad pwyllgorau cynllunio yng Nghymru. Yn benodol, mae'r rheoliadau yn mynnu bod pwyllgorau cynllunio yn cynnwys rhwng 11 a 21 o aelodau, ond dim mwy na 50 y cant o gyfanswm nifer aelodau'r awdurdod lleol. Mae'r rheoliadau hefyd yn cyfyngu aelodaeth y pwyllgor cynllunio i un aelod etholedig o bob ward, er mwyn sicrhau bod aelod ar gael i fod yn gynrychiolydd lleol a chymryd rhan mewn materion cynllunio lleol. Mae'r gofynion deddfwriaethol wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, a chafodd gefnogaeth sylweddol gan bob sector sy'n ymwneud â'r broses gynllunio. Mae cynigion yr ymgynghoriad eisoes wedi arwain at nifer o awdurdodau cynllunio lleol yn ymgymryd â'r gwaith eu hunain o newid maint a chyfansoddiad eu pwyllgorau cynllunio fel eu bod yn bodloni gofynion y rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno heddiw. Serch hynny, mae datblygu'r ddeddfwriaeth yn dal i fod yn bwysig. Mae maint pwyllgorau cynllunio yng Nghymru wedi amrywio'n fawr drwy'r blynyddoedd gan weld cynnydd a lleihad fel ei gilydd, a hynny'n aml ar draul perfformiad. Mae'r risg yn parhau gan y bydd maint pwyllgorau cynllunio yn cynyddu unwaith eto, yn sgil yr etholiadau llywodraeth leol sydd o'n blaen, i lefel sy'n anfanteisiol i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae'r rheoliadau hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod strwythurau pwyllgorau cynllunio cyfredol yn cael eu cadw, ac er mwyn helpu gyda datblygiad pwyllgorau cynllunio medrus ac effeithiol ledled Cymru. Cynigiaf y cynnig.
4,294
Symudwn ymlaen at eitem 8 ar ein hagenda, sy'n ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru). Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig - Mark Drakeford.
4,295
Wrth alw ar Adam Price, mae angen i mi ymddiheuro i chi am beidio â'ch galw yn gynharach yn y ddadl. Roeddech chi, mae'n debyg, yn un o'r ychydig rai a oedd yma yn brydlon, felly - . Adam Price.
4,296
Nid oes dim siaradwyr ar yr eitem yma. Rydw i'n cymryd nad yw'r Ysgrifennydd eisiau ymateb i'r ddadl yna, felly rydw i'n gofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4,297
Diolch. Unwaith eto nid oes yna ddim siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4,298
Diolch i chi. Nid oes unrhyw asesiad wedi ei wneud. Rwy'n cymryd llesiant pob dysgwr o ddifri, a dylai bod gan ysgolion drefniadau i gefnogi eu dysgwyr. Dylai merched gael eu hatgoffa yn rheolaidd bod nwyddau hylendid ar gael oddi wrth aelodau benywaidd penodol o staff, os oes angen.
4,299