source
stringlengths 3
13.7k
| target
stringlengths 3
14.3k
|
---|---|
I fully accept the logic of that. I just want to say to the First Minister that we came to this place to be constructive in opposition and we want to play the kind of role that Plaid Cymru claims now to be playing in relation to the development of Government policy, and so I just want to say that in relation to the black route or the blue route, my party is prepared to enter into discussions and negotiations with the Government. As I said earlier on, we think that the black route is better than no route and so, if this is necessary to unblock the logjam, then we're prepared to play our part in it. | Rwy'n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i'r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae'r math o rôl y mae Plaid Cymru'n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu'r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau gyda'r Llywodraeth. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn credu bod y llwybr du yn well na dim llwybr ac felly, os yw hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio'r dagfa, yna rydym yn barod i chwarae ein rhan ynddo. |
I hear what the leader of UKIP has said. It's important that the process now moves forward. It's important that the process is as transparent as possible. It's important that the Government obeys the law, which is why we have the process that we do. I've looked at this in some detail and the conclusion that I've drawn is that it's difficult to see an alternative to the black route. Others take a different view, and it's important then that the process that is followed is transparent and takes the appropriate amount of time in order for an inspector to report and give findings that are transparent for all to see. | Rwy'n clywed yr hyn y mae arweinydd UKIP wedi'i ddweud. Mae'n bwysig fod y broses yn awr yn symud yn ei blaen. Mae'n bwysig fod y broses mor dryloyw â phosibl. Mae'n bwysig fod y Llywodraeth yn ufuddhau i'r gyfraith, a dyna pam y mae gennym y broses sydd gennym. Rwyf wedi edrych ar hyn yn eithaf manwl a'r casgliad rwyf wedi dod iddo yw ei bod yn anodd gweld dewis arall yn lle'r llwybr du. Mae gan eraill farn wahanol, ac mae'n bwysig felly fod y broses a ddilynir yn dryloyw ac yn cymryd yr amser priodol er mwyn i arolygydd adrodd a rhoi canfyddiadau sy'n dryloyw i bawb eu gweld. |
Diolch, Lywydd. Well, it looks like you might be able to strike a deal with UKIP, First Minister, on the future of the black route. How very interesting. [Laughter.] Last night, there was a TV debate about the EU referendum, and the voter registration system crashed just before the deadline of midnight. Will you join with me and others calling for an extension to the online voter registration so that we can maximise the number of people who want to participate in this referendum on what will be one of the most important questions facing the future of our country? | Diolch, Lywydd. Wel, mae'n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.] Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac eraill i alw am ymestyn yr amser i gofrestru pleidleiswyr ar-lein, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cymryd rhan yn y refferendwm ar yr hyn a fydd yn un o'r cwestiynau pwysicaf sy'n wynebu dyfodol ein gwlad? |
Can I say that I entirely agree with what the leader of the opposition has said? It's not acceptable that people should be denied the right to vote because of a technological problem. I am in the process of writing to the Prime Minister about this, although it seems that, earlier on this afternoon, he gave an indication that the deadline would be extended. It's important now, of course, to make sure (a) that that happens, and (b) that we understand how that can happen. | Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi'i ddweud. Nid yw'n dderbyniol gwrthod hawl pobl i bleidleisio oherwydd problem dechnolegol. Rwyf yn y broses o ysgrifennu at y Prif Weinidog ynglŷn â hyn, er ei bod yn ymddangos ei fod wedi dynodi, yn gynharach y prynhawn yma, y byddai'r amser cau yn cael ei ymestyn. Mae'n bwysig yn awr, wrth gwrs, gwneud yn siŵr (a) fod hynny'n digwydd, a (b) ein bod yn deall sut y gall hynny ddigwydd. |
Thank you, First Minister. You'll recall how the former ASW workers from here in Cardiff lost their pensions when their company collapsed a few years ago. It was the existence of a 1980 EU directive that was found by my colleague Adam Price, when he was a Plaid Cymru MP, which forced the Government - at the time, it was a Labour Government - to create the financial assistance scheme and the pension protection fund. While that didn't go as far as we would have liked - it only guaranteed 90 per cent of the pension and it wasn't index linked - would you agree with me that, given the current question marks over the future of the steelworkers' pensions, without these vital protections from the European Union, many workers in Wales would today be worse off than they are now? | Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i'r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau'r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth - Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd - i greu'r cynllun cymorth ariannol a'r gronfa diogelu pensiynau. Er nad aeth honno cyn belled ag y byddem wedi'i ddymuno - 90 y cant yn unig o'r pensiwn a warantai ac nid oedd yn fynegrifol - o ystyried y marciau cwestiwn presennol dros ddyfodol pensiynau'r gweithwyr dur, heb y mesurau diogelu hanfodol hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw yn waeth eu byd nag y maent yn awr? |
Yes, that's correct. I think it was under article 8 of the convention that the action was taken, if I remember rightly, in court in 2007. And, yes, it is right to say that, as a result of the court's interpretation of European law, further protection was put in place for those pensioners. It is indeed an example of how the European Union, in this one way amongst many, has protected and enhanced the rights of workers in Wales. | Byddwn, mae hynny'n gywir. Rwy'n credu mai o dan erthygl 8 y confensiwn y rhoddwyd y camau ar waith, os cofiaf yn iawn, yn y llys yn 2007. Ac ydi, mae'n gywir dweud, o ganlyniad i ddehongliad y llys o gyfraith Ewropeaidd, cafodd mesur diogelu pellach ei roi ar waith ar gyfer y pensiynwyr hynny. Mae'n wir yn enghraifft o'r modd y mae'r Undeb Ewropeaidd, yn y ffordd hon ymysg nifer o ffyrdd eraill, wedi diogelu a gwella hawliau gweithwyr yng Nghymru. |
Diolch, First Minister. Now, a lot of the debate so far has been less about providing accurate information that people are able to make an informed choice upon, and more about scaremongering. Will you join me in condemning the dog-whistle politics from the far right that seeks to invoke racist imagery and exploit people's fears with statements that infer that a vote to remain within the European Union will increase the risk of women getting raped? | Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o'r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' y dde eithafol sy'n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy'n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynyddu'r risg i fenywod o gael eu treisio? |
I was astounded and appalled by that comment. I'm not surprised by it, but the leader of the opposition is absolutely right, it's an astounding comment. It would sit very well in the 1930s, actually - the politics of the 1930s, frankly, and some of the parties that existed then. The reality is, I'm afraid, that the debate on our membership of the European referendum - and I say this: I think it's true on both sides in London - has become overheated. It's beginning to look like a spat between public schoolboys on both sides, and I think that ordinary people and their views are being ignored. Well, can I say, as somebody, like her, who went to a comprehensive school, who represents a former mining community, at least in part for me, and who represents ordinary working people, that I would not want to see us leave and see those people voted out of a job? | Cefais fy syfrdanu a fy nychryn gan y sylw hwnnw. Nid wyf wedi fy synnu ganddo, ond mae arweinydd yr wrthblaid yn hollol gywir, mae'n sylw syfrdanol. Byddai'n gweddu'n dda i'r 1930au, mewn gwirionedd - gwleidyddiaeth y 1930au, a dweud y gwir, a rhai o'r pleidiau a fodolai bryd hynny. Y gwir amdani, yn anffodus, yw bod y ddadl ar ein haelodaeth o'r refferendwm Ewropeaidd wedi gorboethi - ac rwy'n dweud hyn: rwy'n credu ei fod yn wir ar y ddwy ochr yn Llundain. Mae'n dechrau edrych fel ffrae rhwng bechgyn ysgol fonedd ar y ddwy ochr, a chredaf fod pobl gyffredin a'u barn yn cael eu hanwybyddu. Wel, os caf ddweud, fel rhywun, fel hithau, a aeth i ysgol gyfun, sy'n cynrychioli hen gymuned lofaol, yn rhannol yn fy achos i o leiaf, ac sy'n cynrychioli pobl gyffredin sy'n gweithio, ni fyddwn yn dymuno ein gweld yn gadael a gweld y bobl hynny'n colli gwaith yn sgil y bleidlais? |
Having brought forward the groundbreaking Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and the Environment (Wales) Act 2016 to provide Wales with the legislation to effectively tackle climate change, we are now committed to fully implementing them. | Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru'n cael deddfwriaeth i ddelio'n effeithiol â'r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i'w gweithredu nhw'n llawn. |
Thank you for that response. It's obvious that climate change is already having an impact on many of our communities, particularly in Mid and West Wales, with areas such as Powys and Talybont suffering from flooding. Would the First Minister agree that it would be of benefit to Wales to ensure that we respect European laws that demand that we have renewable energy and that we should adhere to those targets, and that it makes sense for us to collaborate with our European neighbours, and that that is yet another reason why people should vote to remain as part of the European Union on 23 June? | Diolch am yr ymateb yna. Mae'n amlwg bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar lot o'n cymunedau ni, yn arbennig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, gydag ardaloedd fel Powys a Thal-y-bont wedi dioddef llifogydd. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y byddai hi o fudd i Gymru sicrhau ein bod ni'n parchu cyfreithiau Ewropeaidd sy'n mynnu y dylem ni gael egni adnewyddadwy ac y dylem ni gadw at y targedau yna, a'i bod hi'n gwneud synnwyr inni gydweithredu â'n cymdogion Ewropeaidd ni, a bod hynny'n rheswm arall pam y dylai pobl bleidleisio dros aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin? |
That's entirely right. It is true to say that the UK has been dragged into ensuring that the environment is cleaned up and to ensure that our rivers, seas and air is cleaner than it was 30 years ago. I remember, as someone who was a keen fisherman as a boy, that the River Taff was virtually empty. By now, of course, we have salmon swimming up the Taff and that just shows how much good has been done for our environment because of the European legislation that has ensured that the UK does have a far cleaner environment than it had in the past. | Mae hynny'n iawn. Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a'r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy'n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad - 'nofio' dylwn i ddweud - lan yr afon, ac mae hynny'n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i'n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o'r blaen. |
First Minister, the woman responsible for the Conference of the Parties discussions in Paris, Christiana Figueres, visited Wales last week. She came to speak at the Hay Festival and she spoke very eloquently on the need for Government, businesses and the voluntary sector, if you like, the civic society, to collaborate in order to achieve the dream of the Paris negotiations. She also said clearly that an increase of 2 per cent - I apologise, an increase of 2 degrees Celsius in temperature, according to the insurance industry itself, was systematically uninsurable. And therefore Paris, of course, is trying to achieve 1.5 degrees as the biggest increase possible. Are you as a Government, therefore, committed to an increase of no more than 1.5 degrees? | Brif Weinidog, fe ddaeth y fenyw a oedd yn gyfrifol am y trafodaethau ym Mharis, trafodaethau'r COP, Christiana Figueres, i Gymru'r wythnos diwethaf. Fe ddaeth i siarad yng Ngŵyl y Gelli ac fe soniodd hi yn huawdl iawn am yr angen i Lywodraeth, busnesau a'r sector gwirfoddol, os liciwch chi, sector y gymdeithas sifil, i gydweithio â'n gilydd i wireddu'r freuddwyd a grëwyd yn y trafodaethau ym Mharis. Fe ddywedodd hi hefyd, yn blwmp ac yn blaen, fod cynnydd o 2 y cant - cynnydd, mae'n ddrwg gen i, o 2 radd Celsius yn y tymheredd, yn ôl y diwydiant yswirio ei hunan, yn 'systematically uninsurable'. Ac felly mae Paris, wrth gwrs, yn ceisio cael 1.5 gradd fel y cynnydd mwyaf posib. A ydych chi, felly, ar ran Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'ch Llywodraeth chithau i gynnydd o ddim mwy na 1.5 gradd? |
This is something that we will have to consider, of course. It is very important that we ensure that action takes place worldwide. We can play our part, of course - we have done so because of the legislation that has been passed. But also, there is no point for us to reduce what we are doing about climate change if things get worse in another country. So, that's why it's so important to ensure that action takes place worldwide and that we play a vital role in that. | Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau hefyd fod yna weithredu'n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni'n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs - rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni'n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau'n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu'n cymryd lle ar draws y byd a'n bod ni'n chwarae rhan hanfodol yn hynny. |
May I interrupt the First Minister? There was a problem with the interpretation, but it appears to be back now. So, I apologise for interrupting you, but for a minute, you were only heard in one language. So, if you could perhaps just repeat some of what you have just said - | A gaf i dorri ar eich traws chi, Brif Weinidog? Rwy'n meddwl bod y cyfieithu ddim yn gweithio - . Na, mae'r cyfieithu nôl yn gweithio. Felly, mae'n ddrwg gen i dorri ar eich traws chi, ond am funud roeddech ond yn cael eich deall mewn un iaith. Felly, os wnewch chi jest ddweud tamaid bach o beth ddywedoch chi nawr - |
I must now remember what I said. [Laughter.] | Mae'n rhaid i fi gofio nawr beth ddywedais i. [Chwerthin.] |
And try to ensure that you say the same thing the second time. [Laughter.] | A dywedwch yr un peth yr eildro. [Chwerthin.] |
It's extremely important that we play our part in Wales. It's also important, of course, that every country in the world plays its part. There's no point in us taking action alone, and that's why it's important that we have action on a global level and that we in Wales play a vital role. | Mae'n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw'n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni'n ei wneud, os yw pethau'n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni'n gweld gweithredu'n cymryd lle ar draws y byd a'n bod ni yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol. |
First Minister, the connection between air pollution and ill health, and even premature death, is well known. With this in mind, I wonder if you could update me on what the Welsh Government is doing to improve air quality across Wales, particularly in our large cities in the future. | Brif Weinidog, mae'r cysylltiad rhwng llygredd aer ac afiechyd, a hyd yn oed marwolaeth gynamserol, yn hysbys. Gyda hyn mewn golwg, tybed a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi ynglŷn â beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer ledled Cymru, yn enwedig yn ein dinasoedd mawr yn y dyfodol. |
Well, one way of improving the environment, of course, and indeed emissions, is to invest more in sustainable energy, which I know is a particular issue in his part of the world. It is obvious that there are some forms of energy that are far less polluting than others, and that's the way that we have to go and the world has to go in the future. One way, of course, of investing further in terms of reducing carbon emissions is investment in public transport. The south-east Wales metro is an example of that, as will other metro systems be across Wales, in Swansea and indeed in the north-east of Wales to begin with. There are also other ways, of course, in which emissions can be reduced. For example, where you have problems with traffic, where traffic is idling for some time or moving slowly on a particular road, then a bypass helps. I'm sure he will know that, of course, given the fact that the Newtown bypass is moving forward. That will help to reduce emissions, I'm sure, in his constituency. | Wel, un ffordd o wella'r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw'n fater sy'n codi yn ei ran ef o'r byd. Mae'n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy'n llygru llawer llai nag eraill, a dyna'r trywydd sy'n rhaid i ni a'r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau. Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu'n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy'n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi'r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny'n helpu i leihau allyriadau, rwy'n siŵr, yn ei etholaeth. |
Well, membership of the EU and continued access to a single market of over 500 million people provides the people of Islwyn, and indeed Wales, with enormous benefits. It accounts for around 40 per cent of our exports, helps fund long-term infrastructure investment and supports Welsh farming. | Wel, mae aelodaeth o'r UE a mynediad parhaus i farchnad sengl o dros 500 miliwn o bobl yn rhoi manteision enfawr i bobl Islwyn, a Chymru yn wir. Mae tua 40 y cant o'n hallforion yn mynd yno, mae'n helpu i gyllido buddsoddiadau hirdymor yn y seilwaith ac yn cefnogi ffermio yng Nghymru. |
Thank you, First Minister. As well as the 190,000 Welsh jobs alone that rely directly upon EU funding, my constituents also benefit from the important rights gained from the UK's membership of the European Union, whether that's paid leave - [Interruption.] Excuse me - time off for urgent reasons, breaks during the day, health and safety legislation, and I can go on. You've also mentioned taxation in terms of tariffs that the party opposite would like to dump on Wales. I could go on and on. In the face of this - and this is my question, Llywydd - what can Welsh Government do to protect workers' rights in the face of the born-again Thatcherites in this Chamber who would send us back to the 1980s? | Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â'r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, boed hynny'n absenoldeb â thâl - [Torri ar draws.] Esgusodwch fi - amser o'r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gallaf fynd ymlaen. Rydych hefyd wedi sôn am drethiant mewn perthynas â thariffau y byddai'r blaid gyferbyn yn hoffi eu dadlwytho ar Gymru. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Yn wyneb hyn - a dyma fy nghwestiwn, Lywydd - beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yn wyneb Thatcherwyr ailanedig yn y Siambr hon a fyddai'n ein gyrru yn ôl i'r 1980au? |
Well, I do know that the economists who back Brexit tend to be, shall we say, minimalists when it comes to the protection of workers' rights. Arch-Thatcherites from the 1980s are indeed people who don't believe that manufacturing is important. That is what I have heard from Professor Minford, for example. That's what he's insinuated. The reality is this: I go abroad and when I bring investment into Wales - and we've been successful in doing that - the main question they ask is about EU membership. They are not interested in coming to Wales. They are not interested in coming to the UK. They are interested in accessing the market of 500 million. If we can't offer that access, that investment won't come. It's said that this is our money. It's not Welsh money. This is money that comes to Wales from Brussels that would go from Brussels to London instead. We can guarantee, because we know in this Chamber, that once you introduce that middle man, the middle man will take a cut. Wales benefits. It's a net beneficiary, and that money would simply go to London, rather than come to Wales. At least with the situation we have now, it is right to say that that money comes to Wales, and it's guaranteed that that money would not come to Wales in the future and the people of Wales would lose out. | Wel, rwy'n gwybod bod yr economegwyr sy'n cefnogi Prydain yn gadael yr UE yn tueddu i fod, gadewch i ni ddweud, yn lleiafol eu hagwedd tuag at ddiogelu hawliau gweithwyr. Mae arch-Thatcherwyr o'r 1980au yn wir yn bobl nad ydynt yn credu bod gweithgynhyrchu yn bwysig. Dyna'r hyn rwyf wedi'i glywed gan yr Athro Minford, er enghraifft. Dyna y mae ef wedi'i awgrymu. Dyma'r realiti: rwy'n mynd dramor a phan ddof â buddsoddiad i Gymru - ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny - mae'r prif gwestiwn a ofynnant yn ymwneud ag aelodaeth o'r UE. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i Gymru. Nid oes ganddynt ddiddordeb mewn dod i'r DU. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cael mynediad i'r farchnad o 500 miliwn. Os na allwn gynnig y mynediad hwnnw, ni ddaw'r buddsoddiad. Dywedir mai ein harian ni yw hwn. Nid arian Cymru ydyw. Dyma arian sy'n dod i Gymru o Frwsel a fyddai'n mynd o Frwsel i Lundain yn lle hynny. Gallwn warantu, oherwydd gwyddom yn y Siambr hon, os cyflwynwch y dyn canol, bydd y dyn canol yn cymryd cyfran. Mae Cymru'n elwa. Mae'n fuddiolwr net, a byddai'r arian hwnnw'n mynd i Lundain yn hytrach na dod i Gymru. O leiaf gyda'r sefyllfa sydd gennym yn awr, mae'n gywir dweud bod yr arian hwnnw'n dod i Gymru, ac mae'n sicr na fyddai'r arian hwnnw'n dod i Gymru yn y dyfodol ac y byddai pobl Cymru ar eu colled. |
The First Minister will know of Cwmcarn Forest Drive, an attraction that is an asset to the Islwyn area and one that has benefited from European Union funding. Will the First Minister agree with me that, in order to overcome recent difficulties at Cwmcarn Forest Drive, European funding in the future could be crucial, and will he further agree and commit to Welsh Government working to unlock all possible funding sources to ensure a future for Cwmcarn Forest Drive? | Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy'n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai'n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatgloi'r holl ffynonellau cyllid posibl i sicrhau dyfodol i Ffordd Goedwig Cwmcarn? |
Absolutely right. I know there've been issues on the forest drive, of course, with tree disease in years gone by. It's a hugely useful attraction for the Islwyn constituency, and we know that we need to access all the pots that are available to us in order to maximise the impact on the local economy that the drive provides. | Yn bendant. Rwy'n gwybod bod problemau wedi bod ar y ffordd goedwig gyda chlefydau coed yn y gorffennol. Mae'n atyniad hynod ddefnyddiol i etholaeth Islwyn, ac rydym yn gwybod bod angen i ni allu manteisio ar yr holl botiau sydd ar gael i ni er mwyn hybu i'r eithaf yr effaith ar yr economi leol y mae'r ffordd yn ei darparu. |
First Minister, between 2014 and 2020, Wales will benefit from around £1.8 billion of European structural fund investment to support communities such as Islwyn. In view of recent warnings that this funding could end after 2020, even if the UK stays in the European Union, what action will you take to ensure that the future of European structural funding for Wales is there? | Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai'r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw'r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod dyfodol i gyllid strwythurol Ewropeaidd ar gyfer Cymru? |
European structural funding won't be there at all at the end of this month if things go the way that I would not want them to. There is no guarantee at all that that money would be made up by London. We know that our farmers receive £260 million a year. That is not money we have that we can give, but that money nevertheless is provided to our farmers. There is no way that the south-east Wales metro can go ahead unless we can have access to European money or an equivalent pot. I do not believe that the UK Government will make up, penny for penny, pound for pound, the money that the people of Wales would lose as result of leaving the EU. | Ni fydd cyllid strwythurol Ewropeaidd yno o gwbl ddiwedd y mis hwn os yw pethau'n mynd y ffordd na fyddwn eisiau iddynt fynd. Nid oes unrhyw sicrwydd o gwbl y byddai'r arian hwnnw'n cael ei ddarparu gan Lundain. Gwyddom fod ein ffermwyr yn cael £260 miliwn y flwyddyn. Nid yw hwnnw'n arian sydd gennym y gallwn ei roi, ond caiff yr arian hwnnw ei ddarparu i'n ffermwyr er hynny. Nid oes unrhyw ffordd y gellir bwrw ymlaen â metro de-ddwyrain Cymru oni bai ein bod yn gallu cael mynediad at arian Ewropeaidd neu bot cyfwerth. Nid wyf yn credu y bydd Llywodraeth y DU yn darparu'r arian, geiniog am geiniog, punt am bunt, y byddai pobl Cymru yn ei golli o ganlyniad i adael yr UE. |
Obviously, we all know that there is no such thing as European money; it's British money coming back to us after they have purloined a half of it. But can I say, perhaps the First Minister isn't aware that Islwyn is said to be the most Eurosceptic constituency in Wales? Can you blame the constituency? For instance, most of the factories on the Oakdale estate in Islwyn employ almost exclusively migrant labour, as, of course, is widely the case throughout the whole of the south Wales Valleys. Would you like to comment on that, please? | Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy'n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw'r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio'r etholaeth? Er enghraifft, llafur mudol, bron yn gyfan gwbl, sy'n cael ei gyflogi gan y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd ar ystâd Oakdale yn Islwyn, fel sy'n wir, wrth gwrs, drwy Gymoedd y de benbaladr. A hoffech chi roi sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda? |
I can. There are enterprises in Wales, like the St Merryn abattoir, that would shut if it wasn't for the fact that they can access at least some migrant workers. And it means that people who live in the area are able to keep a job that would otherwise be lost to them. There are plenty of examples. General Dynamics. He mentions Oakdale. General Dynamics employs, in the main, people who are local to the area, and they are an important employer in the area. The reality is that he sees things from a perspective of London; I see things from a perspective of Wales. And the reality is that we get money from Europe. That money would stick in London - you would not see it. We would not see it in Wales in the same quantity. It is a reality that we in Wales get back more than we put in to the European Union, and I see things from a Welsh perspective and from the perspective of ensuring that we get prosperity and market access for the people of Wales. | Gallaf. Mae yna fentrau yng Nghymru, fel lladd-dy St Merryn, a fyddai'n cau oni bai am y ffaith eu bod yn gallu gwneud defnydd o rai gweithwyr mudol fan lleiaf. Ac mae'n golygu bod pobl sy'n byw yn yr ardal yn gallu cadw swydd a fyddai fel arall yn cael ei cholli iddynt. Ceir digon o enghreifftiau. General Dynamics. Mae'n sôn am Oakdale. At ei gilydd, mae General Dynamics yn cyflogi pobl sy'n lleol i'r ardal, ac maent yn gyflogwr pwysig yn yr ardal. Y realiti yw ei fod yn gweld pethau o safbwynt Llundain; rwy'n gweld pethau o safbwynt Cymru. A'r gwir amdani yw ein bod yn cael arian o Ewrop. Byddai'r arian hwnnw'n aros yn Llundain - ni fyddech yn ei weld. Ni fyddem yn ei weld yng Nghymru i'r un graddau. Mae'n wir ein bod ni yng Nghymru yn cael mwy yn ôl o'r Undeb Ewropeaidd nag a rown i mewn, ac rwy'n gweld pethau o safbwynt Cymreig ac o safbwynt sicrhau ein bod yn cael ffyniant a mynediad i farchnadoedd ar gyfer pobl Cymru. |
The court closure programme will have a significant adverse impact on access to justice in Wales. We have provided a robust response to the UK Government, and although the decision has been taken, that is something that we have pressed very hard for in order to have enough courts in Wales. But, unfortunately, that is not the view of the UK Government. | Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu'n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yng Nghymru. Ond, yn anffodus, nid felly yw barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. |
Thank you, First Minister. Unfortunately, one of those courts earmarked for closure and will close is the main court in Carmarthen town centre, which is a historic building for the whole of the town. Now that that decision has been taken, the people of the town are eager to take back ownership of that building and turn it into a resource for the town. It is, of course, full of history and full of the story of justice within Carmarthen. Could the Government be an advocate on behalf of the county council and the town council with the Ministry of Justice because the letters that I have written have received no response whatsoever from them, in order to ensure that discussions can commence in order to see if it would be possible to retain the building for the benefit of the people of Carmarthen? | Diolch, Brif Weinidog. Yn anffodus, un o'r llysoedd sydd wedi'i glustnodi ac sy'n mynd i gau yw'r prif lys yng Nghaerfyrddin, yng nghanol tref Caerfyrddin, sy'n adeilad hanesyddol i dref Caerfyrddin gyfan. Nawr bod y penderfyniad yna wedi'i gymryd, mae'r bobl yn y dref yn awyddus eu bod nhw'n cymryd yn ôl berchnogaeth o'r adeilad hwnnw ac yn ei droi'n rhyw fath o adnodd i'r dref - lle yn llawn hanes, wrth gwrs, ac yn llawn hanes cyfiawnder yn y dref yn ogystal. A oes modd i'r Llywodraeth fod yn lladmerydd ar ran y cyngor sir a'r cyngor tref i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan nad yw'r llythyrau rydw i wedi'u hysgrifennu wedi cael unrhyw ymateb o gwbl ganddyn nhw, i sicrhau bod trafodaethau yn dechrau er mwyn gweld os oes modd cadw'r adeilad yma er lles pobl Caerfyrddin? |
Well, the building itself, of course, is a very old building. To me, it's an important building; it's where I prosecuted for the last time in the Crown Court, many years ago now. So, there are some people - well, they're not still in jail, I don't believe, because of me. I don't think that that's much help in terms of support ultimately, but, no. May I therefore ask the Member to write to me, and I will then write to the Government in London to ensure that there is a response and to ensure that it's possible for local people to take over a building that is all important to the history and heritage of the town? | Wel, mae'r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae'n adeilad pwysig; dyna'r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar - wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o'm hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny'n lot fawr o help ynglŷn â chefnogaeth yn y pen draw, ond, na. A gaf i ofyn, felly, i'r Aelod i ysgrifennu ataf fi ac fe wnaf i wrth gwrs ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau bod yna ateb ac er mwyn sicrhau bod yna fodd i bobl leol gymryd drosodd adeilad sydd yn hollbwysig i etifeddiaeth a hanes y dref? |
First Minister, in the last session we discussed the courts closure programme and I raised with you specifically the issue with regard to the Pontypridd magistrates' court, more from the perspective around Wales of what is a cost-cutting exercise with courts, but one that is restricting access to justice for some of the poorest and most vulnerable communities. First Minister, I wonder whether now is the time for the Welsh Government to at least carry out a review of the impact of some of those UK Government decisions on our communities? We've never really been given proper answers to the points that were raised during the consultation, which seemed more of a charade than a genuine consultation, but there are very serious access-to-justice issues arising. It's all very well passing laws and having all the justice in the world; if people can't access it, they have no justice at all, and the UK Government has totally failed us in this respect. | Brif Weinidog, yn y sesiwn ddiwethaf buom yn trafod y rhaglen gau llysoedd a thynnais eich sylw'n benodol at fater llys ynadon Pontypridd, yn fwy o safbwynt yr hyn sydd, o amgylch Cymru, yn ymarfer torri costau gyda llysoedd, ond mae'n fater sy'n cyfyngu ar fynediad at gyfiawnder i rai o'r cymunedau tlotaf a mwyaf agored i niwed. Brif Weinidog, tybed ai nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru o leiaf gynnal adolygiad o effaith rhai o'r penderfyniadau hynny a wnaed gan Lywodraeth y DU ar ein cymunedau? Mewn gwirionedd, nid ydym erioed wedi cael atebion priodol i'r pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, a oedd i'w weld yn fwy o siarâd nag ymgynghoriad go iawn, ond mae materion difrifol iawn yn codi mewn perthynas â mynediad at gyfiawnder. Un peth yw pasio deddfau a chael yr holl gyfiawnder yn y byd; os na all pobl gael mynediad ato, nid ydynt yn cael unrhyw gyfiawnder o gwbl, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cam llwyr â ni yn hyn o beth. |
It was a fundamental principle of Welsh law until 1536, and a fundamental principle of what we would now describe, I suppose, as the law of England and Wales since then, that justice comes to people. That's the reason why High Court justices travel around. In the last few years it's now been suggested that people have to go to justice, and travel a long distance, and when they get there, not get representation either, while they're at it. That shows how much of a deterioration there's been in the justice system, but I'm fully in agreement with him that there's a need to review the impact on people, because as somebody who worked in the courts for many, many years I can see nothing now but things getting slower and justice being either denied or delayed to too many people. | Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru tan 1536, ac egwyddor sylfaenol o'r hyn y byddem yn awr yn ei ddisgrifio, mae'n debyg, fel cyfraith Cymru a Lloegr ers hynny, yw bod cyfiawnder yn dod at y bobl. Dyna'r rheswm pam y mae ynadon yr Uchel Lys yn teithio o gwmpas. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf awgrymir yn awr fod rhaid i bobl gyrchu cyfiawnder, a theithio pellter hir, a phan fyddant yn cyrraedd, nid ydynt yn cael cynrychiolaeth chwaith, tra'u bod wrthi. Mae hynny'n dangos faint o ddirywiad a fu yn y system gyfiawnder, ond rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod angen adolygu'r effaith ar bobl, oherwydd fel rhywun a fu'n gweithio yn y llysoedd am lawer iawn o flynyddoedd, ni allaf weld dim yn awr ond pethau'n arafu a chyfiawnder naill ai'n cael ei wadu neu ei ohirio i ormod o bobl. |
First Minister, I know you have a very close family connection to Northern Ireland, and I wonder if, on your visits to Northern Ireland, you've observed the policy of the Northern Ireland Executive to consolidate as many administrative, local government and legal buildings, and public service buildings, as possible, so that they can have hubs that maintain access to the citizen. Is this perhaps a model that you could look at with the UK Government to ensure that as many courts and tribunal buildings stay open? | Brif Weinidog, rwy'n gwybod bod gennych gysylltiad teuluol agos iawn â Gogledd Iwerddon a thybed, ar eich ymweliadau â Gogledd Iwerddon, a ydych wedi sylwi ar bolisi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gydgrynhoi cymaint o adeiladau gweinyddol, llywodraeth leol a chyfreithiol, ac adeiladau gwasanaethau cyhoeddus, ag y bo modd, fel y gallant gael canolfannau sy'n cynnal mynediad i'r dinesydd. A yw hwn efallai yn fodel y gallech edrych arno gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cynifer o lysoedd ac adeiladau tribiwnlys yn aros ar agor? |
I think that makes perfect sense. With regard to the criminal courts, of course, they need to have access to cells, so they are in a different category to the county courts, which have been in administrative buildings for many, many years across Wales. But I think the suggestion of sharing a particular building or facilities makes perfect sense in order to provide a coherent and consistent service for the public. | Credaf fod hynny'n gwneud synnwyr perffaith. O ran y llysoedd troseddol, wrth gwrs, mae angen iddynt gael celloedd wrth law, felly maent mewn categori gwahanol i'r llysoedd sirol, sydd wedi bod mewn adeiladau gweinyddol ers blynyddoedd lawer ar draws Cymru. Ond rwy'n credu bod yr awgrym o rannu adeilad neu gyfleusterau penodol yn gwneud synnwyr perffaith er mwyn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig a chyson i'r cyhoedd. |
Yes, I know this is, of course, an issue that is of huge importance to the Member and his constituency, but I will be providing an update a little later on the floor of the Assembly on Tata Steel generally and on the work of the taskforce during my oral statement. | Ie, gwn fod hyn, wrth gwrs, yn fater o bwys mawr i'r Aelod a'i etholaeth, ond byddaf yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ychydig yn nes ymlaen ar lawr y Cynulliad ar Tata Steel yn gyffredinol ac ar waith y tasglu yn ystod fy natganiad llafar. |
I thank the First Minister for that answer, and I will wait to hear some of the points, but one of the issues I want to highlight is the fact that, since the announcement in January of over 1,000 job losses, 750 of which were in my constituency, in Port Talbot works, we have seen most of those jobs actually go, and at the end of this month the remainder of those jobs go. Now, the earlier parts have been through voluntary redundancy or early retirement approaches, but there are going to be compulsory redundancies in the next bunch of job losses. I just want to know whether the taskforce is now preparing for those job losses to help those people who are going to be out of a job, and particularly their families, who'll be facing challenging times ahead of them in the coming months. | Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o'r pwyntiau, ond un o'r materion rwyf am dynnu sylw ato yw'r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o'r swyddi hynny'n mynd go iawn, ac ar ddiwedd y mis hwn bydd gweddill y swyddi hynny'n mynd. Nawr, mae'r rhannau cynharach wedi bod drwy ddiswyddo gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar, ond mae'r pentwr nesaf o swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn mynd i gynnwys diswyddiadau gorfodol. Hoffwn wybod a yw'r tasglu yn awr yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn o golli swyddi i helpu'r bobl sy'n mynd i fod allan o waith, a'u teuluoedd yn arbennig, a fydd yn wynebu amser heriol dros y misoedd nesaf. |
We are very much aware, of course, of the need to support those who have lost their jobs as a result of the announcement that's already been made. And I will deal with that as part of the statement, if I may. | Rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, o'r angen i gefnogi'r rheini sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i'r cyhoeddiad a wnaed eisoes. A byddaf yn ymdrin â hynny'n rhan o'r datganiad, os caf. |
First Minister, in the previous taskforce minutes I noted that Nick Bourne had offered to create a seminar on the dumping of steel so that the steel companies could come together to discuss those possibilities. I personally feel that that is more pertinent than ever considering that we're hearing a lot of blatant mistruths from some quarters in this Assembly with regard to the dumping of Chinese steel. Is that particular seminar going ahead, and if it is, can you tell me what will happen with that seminar and who will be involved so that we can have a national discussion at a crucial time, before the European vote? | Brif Weinidog, yng nghofnodion blaenorol y tasglu nodais fod Nick Bourne wedi cynnig creu seminar ar ddympio dur fel y gallai'r cwmnïau dur ddod at ei gilydd i drafod y posibiliadau hynny. Yn bersonol rwy'n teimlo fod hynny'n fwy perthnasol nag erioed o ystyried ein bod yn clywed llawer o anwireddau amlwg gan rai yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â dympio dur o Tsieina. A yw'r seminar honno'n mynd i ddigwydd, ac os ydyw, a allwch ddweud wrthyf beth fydd yn digwydd gyda'r seminar a phwy fydd ynghlwm â hi fel y gallwn gael trafodaeth genedlaethol ar adeg hollbwysig, cyn y bleidlais ar Ewrop? |
I'm not aware of the seminar, but I will write to the Member with more details about that. She does raise, of course, an important point, and that is fairness in the market. It wasn't the European Commission that vetoed the idea of tariffs, it was the UK Government - something that I believe they now regret. Other Governments have done this; there's no reason then why Europe shouldn't do the same. All we're looking for, of course, both her and me, and, of course, the Member for Aberavon, is fairness for our steelworkers. | Nid wyf yn gwybod am y seminar, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o fanylion am hynny. Mae'n tynnu sylw at bwynt pwysig, wrth gwrs, sef tegwch yn y farchnad. Nid y Comisiwn Ewropeaidd a roddodd feto ar y syniad o dariffau, ond Llywodraeth y DU - rhywbeth y credaf eu bod yn ei ddifaru bellach. Mae Llywodraethau eraill wedi gwneud hyn; nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Ewrop wneud yr un peth. Yr unig beth rydym yn edrych amdano, wrth gwrs, hi a minnau, ac wrth gwrs, yr Aelod dros Aberafan, yw tegwch i'n gweithwyr dur. |
This is a matter, of course, for the UK Government, but I will consider writing to the Home Secretary to see if she has made a decision about the need for an inquiry. | Mater i Lywodraeth y DU yw hwn wrth gwrs ond byddaf yn ystyried ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i weld a yw wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â'r angen am ymchwiliad. |
Thank you for that answer, First Minister. I met with the Home Secretary as a member of the Orgreave Truth and Justice Campaign and, in fact, received a very positive meeting with her in the latter part of last year. Since then, very detailed submissions have been lodged. Of course, since then, there's been the Hillsborough verdict and, of course, the direct link between events in Orgreave and the way in which evidence was used or abused - they're very similar events, with the same constabulary, again, in Hillsborough - obviously establishes a very significant connection. Andy Burnham MP has given his support to an inquiry, and the assistant chief constable of South Yorkshire has welcomed one, and I understand now that the four Welsh police and crime commissioners are also supportive of the need for there to be an inquiry into this issue. Can I ask the First Minister that any representations made will be supportive of what is the need to have an inquiry into a long-outstanding injustice that still remains in the minds of many former miners from south Wales? | Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Cartref fel aelod o'r Orgreave Truth and Justice Campaign ac mewn gwirionedd, cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda hi ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Ers hynny, rhoddwyd cyflwyniadau manwl iawn gerbron. Wrth gwrs, ers hynny, cafwyd dyfarniad Hillsborough ac wrth gwrs, y cysylltiad uniongyrchol rhwng digwyddiadau yn Orgreave a'r ffordd y cafodd tystiolaeth ei defnyddio neu ei chamddefnyddio - maent yn ddigwyddiadau tebyg iawn, gyda'r un gwnstabliaeth, unwaith eto, yn Hillsborough - yn amlwg yn creu cysylltiad arwyddocaol iawn. Mae Andy Burnham AS wedi rhoi ei gefnogaeth i ymchwiliad, ac mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol De Swydd Efrog wedi croesawu un, ac rwy'n deall yn awr fod y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru hefyd yn gefnogol i'r angen am ymchwiliad i'r mater hwn. A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog sicrhau y bydd unrhyw sylwadau a wneir yn cefnogi'r angen i gael ymchwiliad i anghyfiawnder ers amser maith sy'n dal i fod ym meddyliau llawer o gyn-lowyr o dde Cymru? |
I have to say I believe that the case is strong for such an inquiry. We all saw what happened with Hillsborough, and the length of time it took for the truth to out. The same thing must happen, to my mind, with Orgreave. The 1980s were not a time of transparency, with a Government that did not believe in respecting people's rights. Well, the truth must come out, and an inquiry is one way of doing that. | Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna achos cryf dros ymchwiliad o'r fath. Gwelsom oll yr hyn a ddigwyddodd gyda Hillsborough, a faint o amser a gymerodd i'r gwirionedd ddod allan. Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd gydag Orgreave. Nid oedd y 1980au yn gyfnod o dryloywder, gyda Llywodraeth nad oedd yn credu mewn parchu hawliau pobl. Wel, mae'n rhaid i'r gwir ddod allan, ac mae ymchwiliad yn un ffordd o wneud hynny. |
As the son of a miner who was at Orgreave during the strike, may I endorse Mick Antoniw's demand for a full inquiry? Would the First Minister also agree that the remit needs to be as broad as possible, for example, to look at the claims about the use of the armed forces at the time, to look at the co-ordination of statements by police, as happened with Hillsborough, and of course the use of the media in order to mislead people as to what actually happened there, in the case of Hillsborough with 'The Sun', but in the case of Orgreave with the BBC of course? | Fel mab i löwr oedd yn Orgreave yn ystod y streic, a gaf i ategu'n gryf iawn alwad Mick Antoniw ar gyfer ymchwiliad llawn? A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno hefyd fod eisiau i'r cylch gorchwyl fod mor eang ag sy'n bosib, er enghraifft, i edrych ar yr honiadau ynglŷn â defnydd y lluoedd arfog ar y pryd, i edrych ar gydlynu datganiadau gan yr heddlu, wrth gwrs, a oedd wedi digwydd yn achos Hillsborough, a'r defnydd, wrth gwrs, o'r cyfryngau i gamarwain pobl ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd, yn achos Hillsborough gyda 'The Sun', ac yn achos Orgreave, wrth gwrs, y BBC? |
That is right, of course; I know the story of what happened there. What's exceptionally important is that we can see the truth, that there is an inquiry, that we understand what actually occurred, and therefore what did not occur. But, what is important is that the truth is brought before the people of Britain so that we can all understand what happened 30 years ago. | Mae hynny'n iawn, wrth gwrs; rwy'n gwybod y stori ynglŷn â beth ddigwyddodd yn y fanna. Beth sy'n bwysig dros ben yw ein bod ni'n gallu gweld y gwir, bod yna ymchwiliad, ein bod ni'n deall beth yn gymwys digwyddodd, ac felly beth wnaeth ddim digwydd. Ond, beth sy'n bwysig yw bod y gwirionedd yn cael ei roi o flaen pobl Prydain er mwyn eu bod nhw'n gallu ystyried beth ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl. |
I will endorse those words by the First Minister as we turn to a European issue that all of us in this Chamber can agree on. I know that we all want to wish our national team well. It would be a very strange thing if I didn't refer to the particular contribution by those from Anglesey to the national team, and I'm particularly pleased to wish Osian Roberts, a member of the coaching staff, well and Wayne Hennessey in goal. I will mention the work behind the scenes by Trefor Lloyd Hughes over the past few years. But, would the First Minister agree with me that we now need to use the success of this squad, and the success that hopefully will be achieved in France, as a springboard, and that we need to use the squad as a role model not only to enhance Wales's profile and to promote football as a sport, but also to promote physical activity, which is so important to public health? | Mi wnaf i ategu'r geiriau yna gan y Prif Weinidog wrth i ni droi at fater Ewropeaidd yr ydym ni i gyd yma yn y Siambr yn gallu cytuno arno fo. Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yma yn dymuno'n dda iawn i'r tîm cenedlaethol. Mi fyddech chi'n ei gweld hi'n od iawn pe na bawn i'n cyfeirio at y cyfraniadau arbennig gan y rhai o Ynys Môn i'r tîm cenedlaethol, ac rwy'n falch iawn o allu dymuno'n dda iawn i Osian Roberts, fel aelod o'r tîm hyfforddi, ac i Wayne Hennessey hefyd yn y gôl. Mi wnaf grybwyll y gwaith y tu ôl i'r llenni gan Trefor Lloyd Hughes yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Ond, a ydy'r Prif Weinidog yn cytuno bod angen defnyddio rŵan llwyddiant y garfan yma, a'r llwyddiant mawr a ddaw gobeithio yn Ffrainc, fel llwyfan, a'n bod ni yn defnyddio'r garfan fel 'role model' nid yn unig i hybu proffil Cymru ac i hybu pêl-droed fel camp, ond hefyd i hybu gweithgaredd corfforol sy'n rhywbeth mor bwysig, wrth gwrs, i iechyd ein poblogaeth ni? |
There are two things here that are important: first of all, to ensure that young people participate in sport and see football as an activity to improve their health and, secondly, of course, to ensure that the profile of Wales is raised not just in Europe, but across the world. We saw what happened in 1990 with the Republic of Ireland when they went to the world cup. It had a huge impact on their economy and in terms of tourism. I had a meeting with officials this week to see what kind of preparations have been undertaken in order to raise Wales's profile in France. That work is progressing well, not only in Paris, of course, but also in the three cities where the matches will be played - well, where the first three matches will be played - by the Welsh team. | Mae yna ddau beth fan hyn sy'n bwysig: yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae chwaraeon ac yn gweld pêl-droed fel rhywbeth i'w wneud er mwyn helpu eu hiechyd nhw ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi nid dim ond yn Ewrop, ond ar draws y byd. Fe welon ni beth ddigwyddodd gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 1990 pan aethon nhw i gwpan y byd. Gwnaeth e fyd o wahaniaeth i'w heconomi nhw a hefyd i'w twristiaeth nhw. Ces i gyfarfod yr wythnos hon gyda swyddogion i weld pa fath o baratoadau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi yn Ffrainc. Mae'r paratoadau hynny yn symud ymlaen yn dda, nid dim ond ym Mharis, wrth gwrs, ond yn y tair dinas lle mae'r gemau yn cael eu chwarae - wel, y tair gêm gyntaf sy'n cael eu chwarae - ar ran tîm Cymru. |
The legacy of Wales's football success will be in our young people. In Newport, we have 1,699 active junior players playing in 140 teams and 16 clubs. In addition to this, we have a successful academy system at Newport County, who support and develop our stars of tomorrow. Will the First Minister ensure that the Welsh Government will continue to work with the FAW to support and nurture the talent of our future football stars in Wales? | Yn ein pobl ifanc y gwelir etifeddiaeth llwyddiant pêl-droed Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym 1,699 o chwaraewyr iau egnïol yn chwarae mewn 140 o dimau ac 16 o glybiau. Yn ogystal â hyn, mae gennym system academi lwyddiannus yn Sir Casnewydd, sy'n cefnogi ac yn datblygu sêr ein hyfory. A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r FAW i gefnogi a meithrin talent ein sêr pêl-droed yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? |
Absolutely. It was my pleasure to open the academy in Newport, the national academy. We did provide financial help to the FAW in order for it to be set up. It is hugely important to have modern facilities with access to good coaching at the elite level of sport in order for there to be a high level of performance. But, it is important as well to make sure that facilities are in place to encourage people to play sport at all levels and that's exactly what we will continue to do, working with organisations like Sport Wales. | Yn bendant. Roedd yn bleser gennyf agor yr academi yng Nghasnewydd, yr academi genedlaethol. Darparwyd cymorth ariannol gennym i'r FAW er mwyn ei sefydlu. Mae'n hynod o bwysig fod gennym gyfleusterau modern gyda mynediad at hyfforddiant da ar lefel elitaidd chwaraeon er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad. Ond mae'n bwysig hefyd i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau yn eu lle i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a dyna'n union y byddwn yn parhau i'w wneud, gan weithio gyda sefydliadau fel Chwaraeon Cymru. |
The Wrexham Supporters Trust director, Spencer Harris, said earlier this week: 'Having Wales in the European Championships is massive for a club like ourselves Wales at a tournament is the perfect opportunity to help our club.' How, therefore, will your Government work with people like Spencer Harris to ensure that that legacy - the Euro 2016 legacy - reaches Wrexham and all corners of Wales? | Yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Spencer Harris: 'Mae cael Cymru yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn enfawr i glwb fel ni Cymru mewn pencampwriaeth yw'r cyfle perffaith i helpu ein clwb.' Felly, sut y bydd eich Llywodraeth yn gweithio gyda phobl fel Spencer Harris i sicrhau bod yr etifeddiaeth honno - etifeddiaeth Ewro 2016 - yn cyrraedd Wrecsam a phob cwr o Gymru? |
It's important to understand that, and that's why we've been working with the FAW and the trust to make sure that the anticipated success of the Welsh team is reflected across all corners of our nation, but particularly of course that it is seen as a help in terms of driving investment in the economy and tourism in all parts of Wales for months and years to come. | Mae'n bwysig deall hynny, a dyna pam y buom yn gweithio gyda'r FAW a'r ymddiriedolaeth i sicrhau bod llwyddiant disgwyliedig tîm Cymru yn cael ei adlewyrchu ar draws pob cwr o'n cenedl, ond yn arbennig wrth gwrs, ei fod yn cael ei weld fel cymorth i ysgogi buddsoddiad yn yr economi a thwristiaeth ym mhob rhan o Gymru am fisoedd a blynyddoedd i ddod. |
It's good to hear that the footballing authorities in Wales are planning to use the European championships as a way of creating a future legacy for sport in Wales and I hope that that does, in fact, take place. But, in the short term, before we establish the legacy, there's the actual event itself. It's good news that we have fanzones now being created in Swansea and in Cardiff, so that more people can actually participate in the public enjoyment of the Euros. Is it worth considering whether the Government could support similar fanzones in major population centres in the other regions of Wales? [Interruption.] Okay, thank you. | Mae'n dda clywed bod yr awdurdodau pêl-droed yng Nghymru yn bwriadu defnyddio pencampwriaethau Ewrop fel ffordd o greu etifeddiaeth i chwaraeon yng Nghymru yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Ond yn y tymor byr, cyn i ni sefydlu'r etifeddiaeth, mae'r digwyddiad ei hun. Mae'n newyddion da fod gennym barthau cefnogwyr yn cael eu creu bellach yn Abertawe ac yng Nghaerdydd, fel y gall mwy o bobl gymryd rhan go iawn ym mwynhad y cyhoedd o gemau'r Ewro. A yw'n werth ystyried a allai'r Llywodraeth gefnogi parthau cefnogwyr tebyg mewn canolfannau poblogaeth mawr yn rhanbarthau eraill Cymru? [Torri ar draws.] Iawn, diolch. |
One of the issues with fanzones - . I've seen something from Cardiff and I believe that Swansea and perhaps Newport have similar plans - they've not sought help from Government. From our perspective of course, we have to be careful. If we offer support for one, it has to be support for all and there's a limit of course to the amount of financial support that can be offered. But, I do welcome the fact that fanzones are being set up and that they will be set up across many towns and cities in Wales. | Un o'r problemau gyda pharthau cefnogwyr - . Rwyf wedi gweld rhywbeth gan Gaerdydd ac rwy'n credu bod gan Abertawe ac efallai Casnewydd gynlluniau tebyg - nid ydynt wedi gofyn am gymorth gan y Llywodraeth. O'n safbwynt ni, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus. Os ydym yn cynnig cymorth i un, rhaid iddo fod yn gymorth i bawb ac mae terfyn, wrth gwrs, ar faint o gymorth ariannol y gellir ei gynnig. Ond rwy'n croesawu'r ffaith fod parthau cefnogwyr yn cael eu sefydlu ac y byddant yn cael eu sefydlu ar draws nifer o drefi a dinasoedd yng Nghymru. |
Item 2 on the agenda is the business statement and announcement and I call on Jane Hutt. | Eitem 2 ar yr agenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwyf yn galw ar Jane Hutt. |
This week's business is as set out on the Plenary agenda with oral statements from the Government on the Wales Bill, Tata Steel and the European football championships. Additionally, Business Committee has agreed to schedule a procedural motion to elect the Assembly Commissioners, which requires the suspension of Standing Orders. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement found among the meeting papers, which are available to Members electronically. | Mae busnes yr wythnos hon fel y'i nodir yn agenda'r Cyfarfod Llawn gyda datganiadau llafar gan y Llywodraeth ar Fesur Cymru, Tata Steel a phencampwriaeth pêl-droed Ewrop. Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu cynnig gweithdrefnol i ethol Comisiynwyr y Cynulliad, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni atal y Rheolau Sefydlog. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, ac sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig. |
Minister, I would like to request a statement from the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure on the ongoing industrial dispute between National Museum Wales and the Public and Commercial Services Union. As you're aware, the staff have been on indefinite strike since 21 April. I believe the staff are suffering hardship as a result, in particular in Big Pit where the strike has been solid; the museum has been closed for several weeks, and I do pay tribute to the staff for the commitment they've shown. I very much welcome the early efforts of the new Secretary to resolve this dispute, but it does now need urgent resolution, and I would be grateful if he would be willing to update the Assembly on his efforts. | Weinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar yr anghydfod diwydiannol parhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. Fel y gwyddoch, mae'r staff wedi bod ar streic am gyfnod amhenodol ers 21 Ebrill. Rwy'n credu bod y staff yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny, yn enwedig yn Big Pit lle mae'r streic wedi bod yn gadarn; mae'r amgueddfa wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau, ac rwy'n talu teyrnged i'r staff am yr ymrwymiad y maent wedi'i ddangos. Croesawaf ymdrechion cynnar yr Ysgrifennydd newydd i ddatrys yr anghydfod hwn yn fawr, ond mae angen ei ddatrys ar frys bellach, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'n fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ei ymdrechion. |
I thank Lynne Neagle for that question to the business statement. The First Minister and the Cabinet Secretary, as you have acknowledged, are taking a very keen interest in progress on this issue. They're aware that recent meetings have been held between the national museum and PCS, and the national museum has confirmed that it made a significantly enhanced offer to PCS over the weekend, and a meeting to discuss this offer is being held this afternoon. So, we, of course, await the outcome of this meeting, and hope that agreement can be reached in order to bring this long-running dispute to an end. | Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw i'r datganiad busnes. Fel rydych wedi cydnabod, mae'r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn dangos diddordeb brwd iawn yn y cynnydd a wneir yn y mater hwn. Maent yn ymwybodol fod cyfarfodydd diweddar wedi'u cynnal rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, ac mae'r amgueddfa genedlaethol wedi cadarnhau ei bod wedi gwneud cynnig gryn dipyn yn well i'r Undeb dros y penwythnos, a chynhelir cyfarfod i drafod y cynnig hwn y prynhawn yma. Felly, arhoswn i weld beth fydd canlyniad y cyfarfod, wrth gwrs, a gobeithio y gellir dod i gytundeb er mwyn dod â'r anghydfod hir hwn i ben. |
As this is the first business statement we've had for some weeks, I might have one or two things I'd like to ask the business Minister that I hope we'll hear from the Government over the next couple of weeks. I want to first of all say that I support what Lynne Neagle has just called for, and, of course, this strike is affecting museums across Wales, in fact, and many museums in rural parts of Wales as well. I'm confident, business Minister, that Wales will vote to remain within the European Union, but it is conceivable that the UK will vote to leave. Can you tell whether the Government is preparing any contingency plans in the event of a 'leave' vote, and the effect and the shock that would be to the Welsh economy? Is it possible to have a statement, therefore, on any contingency planning that the Welsh Government is doing in advance of that possible outcome? The second issue that's come on the agenda very recently is the further fall in milk prices for Welsh farmers. This is not an easy situation to resolve - I understand and appreciate that - but I think we'd all value an early statement from the new Secretary regarding milk prices, support for the dairy industry in Wales, and, in particular, I think, what discussions the Welsh Government is having with the banks, who have lent quite generously over the years at low interest rates to many dairy farmers, but who are now experiencing, of course, some real cash-flow difficulties, and the banks, in some cases, are being rather heavy-handed on some of those repayments. And I think the Welsh Government has a role to play in interlocution with banks and the dairy industry in that context. The final point I'd like to raise arises from, I think, the question, that, to be fair, the Leader of the Conservative party asked regarding the Government's present policy of reducing class sizes for nursery school pupils. I looked very carefully at this when I was responsible for education policy for Plaid Cymru, and I wasn't convinced by the evidence. But I'd love to see the evidence that the Welsh Government now has that justifies this expenditure as regards other expenditure that is far more valuable, as I saw it, regarding investment in the profession itself and the skills and standards of developing the education professionals - not just teachers but classroom assistants as well. So, I hope that we can have an early statement from the new education Secretary - I welcome her to her place - and that that early statement will set out the evidence for this policy that the current Government now has. | Gan mai dyma'r datganiad busnes cyntaf i ni ei gael ers rhai wythnosau, mae gennyf un neu ddau o bethau yr hoffwn eu gofyn i'r Gweinidog Busnes ac rwy'n gobeithio y byddwn yn clywed gan y Llywodraeth yn ystod y pythefnos nesaf. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn cefnogi'r hyn y mae Lynne Neagle newydd alw amdano, ac wrth gwrs, mae'r streic hon yn effeithio ar amgueddfeydd ledled Cymru, mewn gwirionedd, a llawer o amgueddfeydd mewn rhannau gwledig o Gymru yn ogystal. Rwy'n hyderus, Weinidog Busnes, y bydd Cymru yn pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae'n bosibl y bydd y DU yn pleidleisio dros adael. A allwch ddweud a yw'r Llywodraeth yn paratoi unrhyw gynlluniau wrth gefn pe baem yn cael pleidlais dros 'adael' ac effaith a sioc hynny i economi Cymru? A yw'n bosibl cael datganiad, felly, ar unrhyw gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud cyn y canlyniad posibl hwnnw? Yr ail fater sydd wedi dod ar yr agenda yn ddiweddar iawn yw'r gostyngiad pellach ym mhrisiau llaeth i ffermwyr Cymru. Nid yw hon yn sefyllfa hawdd i'w datrys - rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi hynny - ond rwy'n meddwl y byddem oll yn gwerthfawrogi datganiad buan gan yr Ysgrifennydd newydd ynglŷn â phrisiau llaeth, cefnogaeth i'r diwydiant llaeth yng Nghymru, ac yn benodol, rwy'n credu, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda'r banciau, sydd wedi rhoi benthyg yn eithaf hael dros y blynyddoedd ar gyfraddau llog isel i lawer o ffermwyr llaeth, ond sydd bellach yn profi, wrth gwrs, rhai anawsterau llif arian go iawn, ac mae'r banciau, mewn rhai achosion, braidd yn llawdrwm mewn perthynas â rhai o'r ad-daliadau hynny. Ac rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae mewn trafodaethau gyda banciau a'r diwydiant llaeth yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n credu bod y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn deillio, a bod yn deg, o'r cwestiwn a ofynnodd Arweinydd y blaid Geidwadol ynglŷn â pholisi presennol y Llywodraeth o leihau maint dosbarthiadau i ddisgyblion meithrin. Edrychais yn ofalus iawn ar hyn pan oeddwn yn gyfrifol am bolisi addysg Plaid Cymru, ac ni chefais fy argyhoeddi gan y dystiolaeth. Ond hoffwn weld y dystiolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru bellach i gyfiawnhau'r gwariant hwn mewn perthynas â gwariant arall sy'n llawer mwy gwerthfawr, yn fy marn i, i fuddsoddi yn y proffesiwn ei hun a sgiliau a safonau datblygu addysgwyr proffesiynol - nid yn unig athrawon ond cynorthwywyr dosbarth yn ogystal. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn gael datganiad buan gan yr Ysgrifennydd addysg newydd - rwy'n ei chroesawu i'w lle - ac y bydd y datganiad buan hwnnw'n nodi'r dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn sydd gan y Llywodraeth bresennol bellach. |
I thank Simon Thomas very much for his first questions to the business statement in this fifth Assembly. Of course, Simon Thomas will be clearly aware of our stated position as a Welsh Government that Wales is best served by being a member of both the United Kingdom and the European Union, and, clearly, we hope that will be reflected in the outcome of the referendum on 23 June. It is very important, of course, that we also draw attention to the adverse impact, and we've had an opportunity to share some of those points of concern this afternoon, as is only appropriate. I think that is where we will want to concentrate our efforts at this point in time. On your second point about milk prices, I know that the Secretary for Environment and Rural Affairs has already been able to start discussions with representatives of the farming unions, and to look at key issues of concern that are facing the farming sector. And, of course, these will be issues that she will be looking at very carefully. Of course, in terms of reducing infant class sizes to under 25 pupils, it's a very important issue for parents and, of course, can have a very positive effect on teachers' workload. It is a priority area for the Welsh Government, it does stem from our progressive agreement co-signed with the First Minister and Kirsty Williams, and now, as the First Minister has already said in answer to questions this afternoon, this clearly will be taken forward in terms of the best way in which that can be delivered. | Diolch yn fawr i Simon Thomas am ei gwestiynau cyntaf i'r datganiad busnes yn y pumed Cynulliad hwn. Wrth gwrs, bydd Simon Thomas yn amlwg yn ymwybodol o'n sefyllfa ddatganedig fel Llywodraeth Cymru mai'r hyn sydd orau i Gymru yw bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod hefyd yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol, ac rydym wedi cael cyfle i rannu rhai o'r pwyntiau hynny sy'n peri pryder y prynhawn yma, fel sy'n briodol. Rwy'n meddwl mai dyna ble byddwn am ganolbwyntio ein hymdrechion ar hyn o bryd. O ran eich ail bwynt am brisiau llaeth, rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi gallu dechrau trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undebau ffermio, ac edrych ar faterion allweddol sy'n wynebu ac yn peri pryder i'r sector ffermio. Ac wrth gwrs, bydd y rhain yn faterion y bydd yn edrych arnynt yn ofalus iawn. Wrth gwrs, o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod i lai na 25 o ddisgyblion, mae'n fater pwysig iawn i rieni ac wrth gwrs, gall effeithio'n gadarnhaol iawn ar lwyth gwaith athrawon. Mae'n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; mae'n deillio o'n cytundeb blaengar a gydlofnodwyd gyda'r Prif Weinidog a Kirsty Williams, ac yn awr, fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau y prynhawn yma, bydd hyn yn amlwg yn cael ei ddwyn ymlaen yn y ffordd orau ar gyfer cyflawni hynny. |
Leader of the house, please could we have a statement on land banking from the Cabinet Secretary for Communities and Children? Land banking is a real problem in my constituency of Cynon Valley and across Wales, with prime sites in many towns and villages being held, thereby blocking the regeneration that could boost house building, create new jobs and improve our urban environment. I was pleased that the Welsh Labour manifesto contained a commitment to consider options to tackle land banking and I'd be keen for further information about the Welsh Government's approach to address this problem. | Arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda a allem gael datganiad am fancio tir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant? Mae bancio tir yn broblem go iawn yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon a ledled Cymru, gyda safleoedd pwysig mewn llawer o drefi a phentrefi yn cael eu cadw, a thrwy hynny'n rhwystro'r adfywio a allai roi hwb i adeiladu tai, creu swyddi newydd a gwella ein hamgylchedd trefol. Roeddwn yn falch fod maniffesto Llafur Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried opsiynau i fynd i'r afael â bancio tir ac rwy'n awyddus i gael gwybodaeth bellach ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru am fynd i'r afael â'r broblem hon. |
I thank the Member for Cynon Valley for that very important question. It's crucial, of course, that we do increase house building and support employment as a result of that - key priorities, of course, for the Welsh Government. House builders in Wales insist that they don't land bank and the business model doesn't allow them to hold on to assets that don't work for them. We need to make sure that the best use is made of land in terms of accelerating the rate of house building, including, of course, in your constituency. We are doing further work on exploring whether land banking is a significant issue in Wales and that will include reconsidering whether any lessons can be learned from the Barker review of housing supply - that was back in 2004 - and the Lyons review of 2014. That did make very specific recommendations and, of course, we will respond to those - we are responding to those, but we will explore again whether this is a significant issue. So, thank you to Vikki Howells for raising that question. | Diolch i'r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn pwysig hwn. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn cynyddu lefelau adeiladu tai ac yn cefnogi cyflogaeth o ganlyniad i hynny - blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru. Mae adeiladwyr tai yng Nghymru yn mynnu nad ydynt yn bancio tir ac nid yw'r model busnes yn caniatáu iddynt ddal gafael ar asedau nad ydynt yn gweithio iddynt. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y defnydd gorau'n cael ei wneud o dir o ran cyflymu'r gyfradd adeiladu tai, gan gynnwys, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi. Rydym yn gwneud gwaith pellach ar archwilio a yw bancio tir yn broblem sylweddol yng Nghymru a bydd hynny'n cynnwys ailystyried a oes modd dysgu gwersi o adolygiad Barker o'r cyflenwad tai - roedd hynny yn ôl yn 2004 - ac adolygiad Lyons 2014. Roedd hwnnw'n gwneud argymhellion penodol iawn ac wrth gwrs, byddwn yn ymateb i'r rheini - rydym yn ymateb i'r rheini, ond byddwn yn edrych eto i weld a yw hon yn broblem sylweddol. Felly, diolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn. |
Can I congratulate you, Minister - Cabinet Secretary, should I say - on your appointment, or reappointment, back to the Cabinet? Two statements, if I could, I seek off you - and I do declare an interest as a partner is a farming business. The first is, obviously, a statement on what the new Cabinet Secretary will be doing to seek to achieve a better working relationship with the farming unions in addressing the price pressures that are on the farm gate at the moment, and in particular the continuing pressure, as was raised by the Member for Mid and West Wales, in the dairy sector. There are huge pressures there, and I know we've had review and we've had analysis from previous Governments, but there is a competitive role that the Government could play here in working with the rural development plan, and the measures within the rural development plan, to assist some investment in processing capacity. I'd be most grateful if a detailed statement could come forward where a timeline can be identified in that statement as to the delivery of support to the dairy sector. And, secondly, supporting many agricultural businesses but also many small businesses that do look for microgeneration projects - the ability to get grid connection is a huge issue, and very often the simplest response from Western Power Distribution and the other distribution network operator in north Wales is just to say 'no', and all of a sudden an alternative stream of income that could be brought into a business, which would help that business through a difficult time or to continue to expand and create new jobs, is cut off before it even gets off the ground. I'd be most grateful if the Cabinet Secretary could bring forward a statement as to what discussions she and her officials will be having with the DNOs in Wales to see how they can bring forward a comprehensive plan to increase grid capacity, so that many microgeneration projects can have the ability to plug into the grid and seek that alternative revenue, which could make the difference between that business staying viable and that business closing down. | A gaf fi eich llongyfarch, Weinidog - Ysgrifennydd y Cabinet, dylwn ddweud - ar eich penodiad, neu eich ailbenodiad i'r Cabinet? Hoffwn ddau ddatganiad gennych, os caf - ac rwy'n datgan buddiant fel partner mewn busnes ffermio. Y cyntaf, yn amlwg, yw datganiad ar yr hyn y bydd Ysgrifennydd newydd y Cabinet yn ei wneud i geisio sicrhau perthynas waith well gyda'r undebau ffermio i fynd i'r afael â'r pwysau ar y pris wrth gât y fferm ar hyn o bryd, ac yn arbennig y pwysau parhaus, fel y soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn y sector llaeth. Mae pwysau enfawr yno, ac rwy'n gwybod ein bod wedi cael adolygiad ac rydym wedi cael dadansoddiad gan Lywodraethau blaenorol, ond mae rôl gystadleuol y gallai'r Llywodraeth ei chwarae yma drwy weithio gyda'r cynllun datblygu gwledig, a'r mesurau o fewn y cynllun datblygu gwledig, i gynorthwyo rhywfaint o fuddsoddiad mewn capasiti prosesu. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd cael datganiad manwl lle gellid nodi llinell amser yn y datganiad o ran darparu cymorth i'r sector llaeth. Ac yn ail, i gefnogi llawer o fusnesau amaethyddol a llawer o fusnesau bach hefyd sy'n edrych am brosiectau microgynhyrchu - mae'r gallu i gael cysylltiad â'r grid yn broblem enfawr, ac yn aml iawn, yr ymateb symlaf gan Western Power Distribution a'r gweithredwr rhwydwaith dosbarthu arall yng ngogledd Cymru yw dweud 'na', ac yn sydyn bydd ffrwd incwm amgen y gellid ei dwyn i mewn i fusnes, ac a fyddai'n helpu'r busnes hwnnw drwy gyfnod anodd neu i barhau i ehangu a chreu swyddi newydd, yn cael ei thorri cyn iddo gael ei draed oddi ar y ddaear. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad ynglŷn â pha drafodaethau y mae hi a'i swyddogion yn eu cael gyda gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu yng Nghymru i weld sut y gallant gyflwyno cynllun cynhwysfawr i gynyddu capasiti grid, fel bod llawer o brosiectau microgynhyrchu yn gallu cysylltu â'r grid a cheisio refeniw amgen o'r fath, rhywbeth a allai wneud y gwahaniaeth rhwng bod y busnes hwnnw'n parhau'n hyfyw a'i fod yn methu. |
I thank Andrew R.T. Davies for his questions and for his welcoming comments. I'm very pleased to respond that the Cabinet Secretary has already swiftly met with the farming unions and has had a very good response, and has been able to share key agenda points, which, of course, include those that you raise today. I've already commented on the fact that milk prices have been on the agenda, but also the capacity in terms of the grid and the opportunities in terms of microbusinesses are a key issue that I know she will want to take forward in terms of her new responsibilities, and also the importance of ensuring that this can enable the development, particularly in a rural area, of those businesses. | Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau ac am ei sylwadau croesawgar. Rwy'n falch iawn o ymateb fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod yn gyflym â'r undebau ffermio ac wedi cael ymateb da iawn, ac mae wedi gallu rhannu pwyntiau agenda allweddol, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys y rhai rydych yn tynnu sylw atynt heddiw. Rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar y ffaith fod prisiau llaeth wedi bod ar yr agenda, ond hefyd y capasiti o ran y grid ac mae'r cyfleoedd mewn perthynas â microfusnesau yn fater allweddol rwy'n gwybod y bydd yn awyddus i'w ddatblygu'n rhan o'i chyfrifoldebau newydd, yn ogystal â phwysigrwydd sicrhau y gall hyn alluogi'r busnesau hynny i ddatblygu, yn enwedig mewn ardal wledig. |
Can I add my support to Lynne Neagle's comments about the strike at the museum? I think this really needs urgent resolution. Following the debate and discussions that arose at First Minister's questions, would it be possible to have a debate in Government time about the implementation of the planning Bill and, in particular, the strategic planning element that was included in that Bill? My colleague Hefin David, the Assembly Member for Caerphilly, and I have both been very concerned about the possibility of development on Caerphilly mountain. We not only want to protect the unique environment but also deal with the issues of possible increased traffic and congestion. It seems very important that there should be a strategic look at that whole area. So, would it be possible to have a debate in Government time to look at this issue? | A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i sylwadau Lynne Neagle am y streic yn yr amgueddfa? Rwy'n credu bod gwir angen datrys hyn ar frys. Yn dilyn y ddadl a'r trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a fyddai'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth am weithrediad y Bil cynllunio ac yn benodol, yr elfen cynllunio strategol a gafodd ei chynnwys yn y Bil hwnnw? Mae fy nghyd-Aelod, Hefin David, yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili, a minnau wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu ar fynydd Caerffili. Rydym yn awyddus nid yn unig i warchod yr amgylchedd unigryw, ond hefyd i ymdrin â'r cynnydd posibl mewn traffig a thagfeydd. Mae'n ymddangos yn bwysig iawn y dylid edrych yn strategol ar yr ardal gyfan. Felly, a fyddai'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn edrych ar y mater hwn? |
Thank you to Julie Morgan for that important question. Of course, the Planning (Wales) Act 2015 does provide that legislative framework. It does enable a group of local authorities to prepare a strategic development plan and it will therefore deal with some of those cross-boundary issues that you draw attention to with your colleague Hefin David in terms of Caerphilly and the proximity in terms of Caerphilly mountain. So, a way forward of course is to make more efficient use of resources. It's a key advantage of the strategic approach to planning. But I think I would say in terms of progress that good progress has been made in implementing the improvements to the planning system, with two thirds of provisions having already been commenced and supported by the necessary subordinate legislation. So, I'm sure an update would be appropriate. | Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pwysig hwnnw. Wrth gwrs, mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol hwnnw. Mae'n galluogi grŵp o awdurdodau lleol i baratoi cynllun datblygu strategol ac felly bydd yn ymdrin â rhai o'r materion trawsffiniol rydych yn tynnu sylw atynt gyda'ch cyd-Aelod, Hefin David, yng nghyd-destun Caerffili a'r agosrwydd at fynydd Caerffili. Felly, un ffordd ymlaen wrth gwrs, yw gwneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau. Mae'n un o fanteision allweddol y dull strategol o gynllunio. Ond rwy'n credu y byddwn yn dweud o ran cynnydd fod cynnydd da wedi'i wneud ar weithredu'r gwelliannau i'r system gynllunio, gyda dwy ran o dair o'r darpariaethau eisoes wedi'u cychwyn a'u cynnal gan yr is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Felly, rwy'n siŵr y byddai diweddariad yn briodol. |
Before asking my question and making my comment, may I declare an interest because my wife has recently been made a partner in the family farming business? But what I would ask for is an early statement by the Secretary for Environment and Rural Affairs on the new Government's approach to tackling bovine TB. Now, in responding to a question in this Chamber a fortnight ago, the First Minister said, and I quote, that: 'One of the first things that the Minister will be looking at is what the next stages will be in terms of dealing with bovine TB.' We know, of course, that the vaccination policy has been halted. We know that there is new evidence coming from England where there is a cull policy and there are obviously lessons to be learned in that regard. So, I'd ask you to ensure that there is an early statement on the new Government's policy in this area. | Cyn gofyn cwestiwn a gwneud fy sylw, a gaf i ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn ddiweddar iawn wedi cael ei gwneud yn bartner ym musnes ffermio ei theulu? Ond yr hyn y byddwn i'n gofyn amdano yw datganiad buan gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddynesiad y Llywodraeth newydd tuag at fynd i afael â TB mewn gwartheg. Nawr, wrth ymateb i gwestiwn yn y Siambr yma bythefnos yn ôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu: 'Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.' Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod y polisi brechu ar stop. Rŷm ni'n gwybod hefyd fod tystiolaeth newydd yn dod o gyfeiriad Lloegr, lle mae yna bolisi o ddifa moch daear, ac mae yna wersi, yn amlwg, i'w dysgu yn hynny o beth. Felly, mi fyddwn i'n gofyn i chi sicrhau bod yna ddatganiad buan iawn yn dod ar bolisi'r Llywodraeth newydd yn y maes yma. |
I thank the Member for this question. The Welsh Government, as you know, is committed to delivering a science-led approach to the eradication of bovine TB. Our comprehensive TB eradication programme includes annual testing of cattle, strict biosecurity measures and movement controls, and this approach is aimed at tackling all sources of infection. Of course, we are aware that this will be an issue for the Cabinet Secretary in terms of one of her early considerations of the situation. | Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwn. Mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch, wedi ymrwymo i ddull wedi'i arwain gan wyddoniaeth o ddileu TB mewn gwartheg. Mae ein rhaglen dileu TB gynhwysfawr yn cynnwys cynnal profion blynyddol ar wartheg, mesurau bioddiogelwch llym a mesurau rheoli symudiadau, a nod y dull hwn yw mynd i'r afael â holl ffynonellau'r haint. Wrth gwrs, rydym yn ymwybodol y bydd hwn yn fater i Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddi fynd ati i ddechrau ystyried y sefyllfa. |
Minister, could we have a statement from the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure regarding Silcox coach company? You will know that, on Monday, the 134-year-old Pembroke Dock-based company went into administration and that that resulted in the loss of around 40 jobs. It is of course really sad that a company with such heritage and roots in the community has ceased trading. Nonetheless, our concern now must be for those who have been affected by those job losses and also to secure the services that Silcox operated in Pembrokeshire, particularly school transport and essential local bus services. So, I just wonder, Minister, whether we can have a statement that would give some reassurance to that community that we here are taking those concerns very seriously. | Weinidog, a allwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar gwmni bysiau Silcox? Fe fyddwch yn gwybod bod y cwmni 134 mlwydd oed yn Noc Penfro wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Llun a bod hynny wedi arwain at golli tua 40 o swyddi. Wrth gwrs, mae'n drist iawn fod cwmni gyda'r fath hanes a gwreiddiau yn y gymuned wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Serch hynny, rhaid i ni roi sylw yn awr i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn sgil colli swyddi a diogelu'r gwasanaethau roedd Silcox yn eu gweithredu yn Sir Benfro, yn enwedig cludiant i'r ysgol a gwasanaethau bws lleol hanfodol. Tybed felly, Weinidog, a allwn gael datganiad a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r gymuned honno ein bod o ddifrif ynghylch y pryderon hynny yma. |
Joyce Watson has drawn attention, appropriately, this afternoon in a question to the business statement so that we are aware of not only the potential impact in terms of job losses and services in her region - and, of course, this is a matter that the Secretary for Economy and Infrastructure will be clearly looking at in terms of his new responsibilities. | Mae Joyce Watson wedi tynnu sylw, yn briodol, y prynhawn yma mewn cwestiwn i'r datganiad busnes fel ein bod yn ymwybodol, nid yn unig o'r effaith bosibl o ran y colli swyddi a gwasanaethau yn ei rhanbarth - ac yn amlwg, wrth gwrs, mae hwn yn fater y bydd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a'r Seilwaith yn edrych arno yn rhan o'i gyfrifoldebau newydd. |
Cabinet Secretary, can I ask for a statement from the Cabinet Secretary for health and social services to provide an update to the house on the special measures and their impact in the Betsi Cadwaladr health board area? The Minister will know that it's now 12 months since the board was put into special measures and since the publication of a scandalous report on mental health care at the Tawel Fan ward in Glan Clwyd Hospital. And, yet, according to the update papers that have been provided to the latest health board meeting, there's still no mental health strategy in place for the health board, and neither of the two reviews that have been commissioned by the board into the outcome of the Tawel Fan scandal have been completed. Not one person has lost their job as a result of the dreadful situation that occurred on that ward, and it's about time heads should roll. Can we have an urgent update, in order that we can consider this, because I think the people of north Wales deserve much better? | Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu'r newyddion diweddaraf i'r tŷ am y mesurau arbennig a'u heffaith yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod 12 mis bellach ers i'r bwrdd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig ac ers cyhoeddi adroddiad gwarthus ar ofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac eto, yn ôl y papurau diweddaru a ddarparwyd i gyfarfod diweddaraf y bwrdd iechyd, nid oes unrhyw strategaeth iechyd meddwl ar waith o hyd ar gyfer y bwrdd iechyd, ac nid yw'r naill na'r llall o'r ddau adolygiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ar ganlyniad sgandal Tawel Fan wedi'i gwblhau. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i'r sefyllfa ofnadwy a ddigwyddodd ar y ward honno, ac mae'n hen bryd i rywun dalu am hyn. A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf ar frys er mwyn i ni allu ystyried hyn, gan fy mod yn credu bod pobl gogledd Cymru yn haeddu llawer gwell? |
Well, it's clearly a key priority for the new health Secretary. And, of course, he has not only made sure that one of his first priority visits was to Betsi Cadwaladr - actually, we have also had a very good response from the chair of Betsi Cadwaladr, in terms of progress that's been made, as a result of us taking that key responsibility as a Welsh Government. But, I mean, clearly, we also have to recognise the fact that the health board has taken action to improve its responsiveness to patient concerns and complaints, reviewed its governance and processes, and engaged much more fully and effectively - and you need to hear my response to your question, Darren Millar - and improved, of course, the clear engagement - important engagement - with both public and staff too, and regarded this, clearly, as a priority. And it is for the patients, of course, that we have to respond to those concerns. | Wel, mae'n amlwg yn flaenoriaeth allweddol i'r Ysgrifennydd iechyd newydd. Ac wrth gwrs, nid yn unig y mae wedi gwneud yn siŵr mai un o'r pethau a gâi'r flaenoriaeth gyntaf ganddo oedd ymweld â Betsi Cadwaladr - mewn gwirionedd, rydym hefyd wedi cael ymateb da iawn gan gadeirydd Betsi Cadwaladr, o ran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb allweddol hwnnw fel Llywodraeth Cymru. Ond, hynny yw, yn amlwg, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffaith hefyd fod y bwrdd iechyd wedi rhoi camau ar waith i wella ei ymateb i bryderon a chwynion cleifion, wedi adolygu ei drefniadau llywodraethu a'i brosesau, ac wedi ymgysylltu'n llawer llawnach ac yn fwy effeithiol - ac mae angen i chi glywed fy ymateb i'ch cwestiwn, Darren Millar - ac wedi gwella, wrth gwrs, yr ymgysylltiad clir - ymgysylltiad pwysig - â'r cyhoedd, a'r staff hefyd, ac roedd yn ystyried hyn, yn amlwg, fel mater o flaenoriaeth. Ac er mwyn y cleifion, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ymateb i'r pryderon hynny. |
I'd like to add my voice to Julie Morgan's request for a debate on the Planning (Wales) Act 2015. I'd say that it is to the Welsh Government's credit that they've already passed the necessary legislation to create strategic development plans. But, particularly in the debate, I'd like to see a discussion about the strategic plan for south-east Wales, including the 10 local authorities. I feel that local development plans don't connect very well, and the strategic planning process is a way of resolving the pressure that is inevitably on local authorities. And one word about the way the debate should be conducted; I think we could be constructive in this debate. It isn't a party political problem, which is why I was surprised earlier, during First Minister's questions, that Neil McEvoy - placid bloke that I've heard that he is - decided to be party political about it. I don't think it needs to be party political - [Interruption.] I don't think it needs to be party political; I think it can be a debate that is constructive. The only way we're going to solve this problem is if we work together, across parties. So, I'd like us to reflect on that when we conduct the debate. | Hoffwn ychwanegu fy llais at gais Julie Morgan am ddadl ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Byddwn yn dweud ei bod yn glod i Lywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i greu cynlluniau datblygu strategol. Ond yn benodol yn y ddadl, hoffwn weld trafodaeth ar y cynllun strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y 10 awdurdod lleol. Rwy'n teimlo nad yw cynlluniau datblygu lleol yn cysylltu'n dda iawn, ac mae'r broses gynllunio strategol yn ffordd o ddatrys y pwysau anochel ar awdurdodau lleol. Ac un gair am y ffordd y dylid cynnal y ddadl; rwy'n meddwl y gallem fod yn adeiladol yn y ddadl hon. Nid yw'n broblem ar gyfer gwleidyddiaeth plaid, a dyna pam y synnais yn gynharach, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, fod Neil McEvoy - gŵr tawel yn ôl yr hyn a glywais - wedi penderfynu ei gwneud yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol - [Torri ar draws.] Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol; rwy'n meddwl y gall fod yn ddadl adeiladol. Yr unig ffordd rydym yn mynd i ddatrys y broblem hon yw drwy weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau. Felly, hoffwn i ni fyfyrio ar hynny pan fyddwn yn cynnal y ddadl. |
Well, I thank the Member for Caerphilly for that question. Of course, there is no better example of how local authorities have worked together than with the successful development of the city deal, the 10 local authorities, which is also as a result of cross-party engagement of local authority leadership at that level - at regional level. But I think you have made an important point, in terms of the legislation. It is about initiating a plan, and we have that opportunity now, which can reflect the principles of local democracy, and it is for local authorities to collaborate and to submit proposals to the Welsh Government, and, of course, we would welcome that in terms of that strategic approach to development as a result of our new, successfully secured Planning (Wales) Act 2015. | Wel, diolch i'r Aelod dros Gaerffili am y cwestiwn hwnnw. Wrth gwrs, ni cheir enghraifft well o'r modd y mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda'i gilydd nag a welwyd gyda datblygiad llwyddiannus y fargen ddinesig, y 10 awdurdod lleol, sydd hefyd o ganlyniad i ymgysylltiad trawsbleidiol rhwng arweinwyr awdurdodau lleol ar y lefel honno - ar lefel ranbarthol. Ond rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig, o ran y ddeddfwriaeth. Mae'n ymwneud â rhoi cynllun ar waith, ac mae gennym y cyfle hwnnw yn awr, cyfle a all adlewyrchu egwyddorion democratiaeth leol, a mater i'r awdurdodau lleol yw cydweithio a chyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, byddem yn croesawu hynny yn rhan o'r dull strategol o ddatblygu o ganlyniad i'n Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 newydd y llwyddwyd i'w chael. |
I move on to the next item on the agenda, which is a statement by the First Minister on the Wales Bill. I call on Carwyn Jones. | Rwy'n symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Fesur Cymru. Rwy'n galw ar Carwyn Jones. |
Llywydd, I would like to make a statement about the UK Government's Wales Bill, which was introduced in Parliament yesterday. I hardly need say that this Bill is of fundamental importance to Wales, and Members will be aware that it has had a tortuous history since the previous incarnation was published for pre-legislative scrutiny last October. In November, the Welsh Government published a detailed critique, which concluded that the Bill was not fit for purpose, and would introduce restrictions on the Assembly's competence inconsistent with the 2011 referendum mandate. That analysis was endorsed by expert stakeholders and by the Assembly's Constitutional and Legislative Affairs Committee in March. The Welsh Affairs Committee recommended the Bill should be paused to enable substantial further work before introduction, and the Bill published yesterday is the product of that work. I have to say, Llywydd, that the new Bill is far from perfect, and there are many important details still to work out, but it's better than the previous draft. It has benefited from discussion with Welsh Government officials, and those discussions are continuing. I would have preferred a later introduction to allow more progress to be made, but the Secretary of State has assured me that discussions with the Welsh Government on detail will continue, and that there should be scope for further substantive reconsideration of the Bill provisions during its passage. On that basis, I'm able to give this draft a cautious welcome. I recognise that progress has been made, but further amendment will be needed on a number of key issues. I have made that clear to the Secretary of State, and will be writing to him to set out these views in detail. But, can I outline briefly the positive progress that's been made, and summarise the most important outstanding issues? The Bill contains provisions for new powers in such fields as elections, energy consenting, transport and marine licensing. We have always welcomed these, and the drafting has been improved. The constitutional provisions, dealing with the permanence of the Assembly and the Sewel convention are substantively unchanged and are broadly welcome, although the Sewel provisions, as is the case also in Scotland, unfortunately don't cover all the circumstances where Assembly consent is required. Removal of the outdated restrictions on the Assembly's internal arrangements is also, of course, welcome. One of the biggest problems with the earlier draft Bill arose from the provisions recasting the conferred-powers model into a reserved-powers model. The UK Government had argued that protecting the joint jurisdiction of England and Wales within the new model required the imposition of new restrictions on the Assembly's legislative competence. This was an unacceptable and unworkable row-back of existing competence, which greatly increased complexity and uncertainty in the Assembly's powers. The new Bill is a significant improvement, and the Assembly will have extensive powers to modify the private and criminal law in relation to matters within its competence. These provisions still need considerable further detailed work to achieve some degree of consistency, coherence and overall workability, but they do represent positive progress. At the same time, however, in extending the Assembly's competence into new areas of law, the Bill will bring even more sharply into focus the tension within the single jurisdiction that was evident in the original draft. In our supplementary pre-legislative scrutiny evidence, we argued for a distinct jurisdiction as a solution to this tension, and we published an alternative draft Bill, which provided a more sustainable, longer-term solution. The revised Bill makes crystal clear that, over time, the divergence of the law applying in Wales and the law applying in England will continue to grow, to the point where a distinct or separate Welsh jurisdiction is inevitable. I'll continue to argue that this issue must be addressed in this Bill if it is to be at all credible as a long-term settlement for Wales. Now, if the UK Government does not see its way clear in this Bill to a complete resolution, it should put in place, at least, arrangements that pave the way for a longer-term solution. The new Bill also represents some improvement in respect of UK Government Ministers' consents required for Assembly Bills. The reduction in the need for such consents is welcome, but there is, again, considerable complexity, and further work is needed before it will be possible to say whether the overall outcome is acceptable and workable. There has also been progress in reducing the number and scope of reservations, but we'll be pressing for amendments to remove several that remain, including, for example, the community infrastructure levy and alcohol licensing. I will mention briefly the other most important outstanding issues with the Bill. It removes the referendum provisions in the Wales Act 2014, with the effect that the Treasury would be able, by Order, to commence income tax devolution without the consent of the Assembly or Welsh Ministers. I have made it clear that I will not be able to support income tax devolution without a clear overall fiscal framework agreed by both Governments, and that this agreement will be a precondition of supporting a legislative consent motion for the Bill. I think that is entirely reasonable, where there is mutual agreement. The Bill's provisions on water are unacceptable as they stand - they don't deliver on the St David's Day commitments. Teachers' pay remains a reservation in the Bill, due to continuing discussions on the funding transfer needed to support devolution, though there is agreement on devolution in principle. It will not surprise Members when I say that the estimate that we place on the cost of taking teachers' pay and conditions is somewhat different to that that the UK Government is prepared to offer. And all those issues must be addressed. To conclude, I do welcome the progress that has been made so far, but significant further improvement is needed to make the Bill fit for purpose and fit for the Assembly to consider giving its consent. Where we can reach agreement, the UK Government will bring forward amendments. There will inevitably continue to be some fundamental disagreements, such as on the devolution of policing - good enough for Scotland, Northern Ireland, London and Manchester, not apparently for Wales - where the Welsh Government will continue to press and to encourage Parliamentary debate. Llywydd, during the last Assembly, I did seek to take forward discussion of the devolution settlement as far as possible through cross-party consensus. I'll continue to take that approach and will be sharing my letter to the Secretary of State, responding to the Bill with the party leaders here and at Westminster. There is much work to do in a tight timescale and I hope we can work together, across parties, to get the best outcome for Wales. | Lywydd, hoffwn wneud datganiad am Fil Cymru Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd yn y Senedd ddoe. Prin fod angen dweud bod y Bil hwn yn hanfodol bwysig i Gymru, a bydd yr Aelodau'n ymwybodol ei fod wedi cael hanes cythryblus ers cyhoeddi'r ymgnawdoliad blaenorol ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu fis Hydref diwethaf. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru feirniadaeth fanwl a ddaeth i'r casgliad nad oedd y Bil yn addas at y diben, a byddai'n cyflwyno cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad a fyddai'n anghyson â mandad refferendwm 2011. Cefnogodd rhanddeiliaid arbenigol a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad y dadansoddiad hwnnw ym mis Mawrth. Argymhellodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid oedi taith y Bil i'w gwneud hi'n bosibl gwneud gwaith sylweddol pellach cyn ei gyflwyno, a'r Bil a gyhoeddwyd ddoe yw ffrwyth y gwaith hwnnw. Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fod y Bil newydd yn bell o fod yn berffaith, ac mae angen gweithio ar lawer o fanylion pwysig o hyd, ond mae'n well na'r drafft blaenorol. Mae wedi elwa o drafodaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau. Buaswn wedi hoffi ei weld yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach i ganiatáu i fwy o gynnydd gael ei wneud, ond mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau y bydd y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar fanylion yn parhau, ac y dylai fod lle i ailystyried darpariaethau'r Bil yn sylweddol eto yn ystod ei daith. Ar sail hynny, rwy'n gallu rhoi croeso gofalus i'r drafft hwn. Rwy'n cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud, ond bydd angen gwelliannau pellach ar nifer o faterion allweddol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir i'r Ysgrifennydd Gwladol, a byddaf yn ysgrifennu ato i nodi'r safbwyntiau hyn yn fanwl. Ond a gaf fi amlinellu'n fyr y cynnydd cadarnhaol a wnaed, a chrynhoi'r materion pwysicaf sydd eto i'w gwneud? Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pwerau newydd mewn meysydd fel etholiadau, caniatadau ynni, trafnidiaeth a thrwyddedau morol. Rydym wedi croesawu'r rhain bob amser, ac mae'r drafft wedi'i wella. Nid yw'r darpariaethau cyfansoddiadol, sy'n ymdrin â pharhauster y Cynulliad a chonfensiwn Sewel wedi newid o ran eu sylwedd ac maent i'w croesawu at ei gilydd, er nad yw darpariaethau Sewel, fel yn yr Alban, yn cynnwys yr holl amgylchiadau lle mae angen cydsyniad y Cynulliad, yn anffodus. Mae dileu'r cyfyngiadau sydd wedi dyddio ar drefniadau mewnol y Cynulliad yn newid i'w groesawu hefyd wrth gwrs. Roedd un o'r problemau mwyaf gyda'r drafft cynharach o'r Bil yn codi o'r darpariaethau a oedd yn ailgastio'r model rhoi pwerau yn fodel cadw pwerau. Roedd Llywodraeth y DU wedi dadlau bod diogelu awdurdodaeth ar y cyd Cymru a Lloegr o fewn y model newydd yn galw am osod cyfyngiadau newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Roedd hwn yn gyfyngiad annerbyniol ac anymarferol ar y cymhwysedd presennol, a oedd yn cynyddu cymhlethdod ac ansicrwydd ym mhwerau'r Cynulliad yn fawr. Mae'r Bil newydd yn welliant sylweddol, a bydd gan y Cynulliad bwerau helaeth i addasu'r gyfraith breifat a chyfraith droseddol mewn perthynas â materion o fewn ei gymhwysedd. Mae'n dal i fod angen cryn dipyn o waith manwl pellach ar y darpariaethau hyn i sicrhau rhywfaint o gysondeb, cydlyniad ac ymarferoldeb cyffredinol, ond maent yn dangos cynnydd cadarnhaol. Ar yr un pryd, fodd bynnag, wrth ymestyn cymhwysedd y Cynulliad i feysydd newydd o'r gyfraith, bydd y Bil yn rhoi ffocws cliriach ar y tensiwn o fewn yr awdurdodaeth sengl a oedd yn amlwg yn y drafft gwreiddiol. Yn ein tystiolaeth graffu cyn deddfu atodol, dadleuasom dros awdurdodaeth ar wahân fel ateb i'r tensiwn hwn, a chyhoeddasom Fil drafft amgen, a oedd yn darparu ateb mwy hirdymor a chynaliadwy. Mae'r Bil drafft diwygiedig yn ei gwneud yn gwbl eglur y bydd y gwahaniaeth rhwng y gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru a'r gyfraith sy'n gymwys yn Lloegr yn parhau i dyfu dros gyfnod o amser hyd at y pwynt lle y bydd awdurdodaeth benodol neu ar wahân i Gymru yn anochel. Byddaf yn parhau i ddadlau bod rhaid mynd i'r afael â'r mater hwn yn y Bil os yw'n mynd i fod yn gwbl gredadwy fel setliad hirdymor i Gymru. Nawr, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweld ei ffordd yn glir tuag at ateb cyflawn yn y Bil hwn, dylai o leiaf roi trefniadau ar waith sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer ateb mwy hirdymor. Mae'r Bil newydd hefyd yn dynodi rhywfaint o welliant mewn perthynas â chaniatadau Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd eu hangen ar gyfer Biliau'r Cynulliad. Croesewir y lleihad yn yr angen am ganiatadau o'r fath, ond unwaith eto, mae yna gryn gymhlethdod, ac mae angen gwaith pellach cyn y bydd yn bosibl dweud a yw'r canlyniad cyffredinol yn dderbyniol ac yn ymarferol. Hefyd gwnaed cynnydd ar leihau nifer a chwmpas y cymalau cadw, ond byddwn yn pwyso am welliannau i gael gwared ar sawl un sy'n parhau, gan gynnwys, er enghraifft, ardoll seilwaith cymunedol a thrwyddedu alcohol. Soniaf yn fyr am y materion eraill pwysicaf mewn perthynas â'r Bil. Mae'n dileu'r darpariaethau refferendwm yn Neddf Cymru 2014, gan olygu y byddai'r Trysorlys, drwy Orchymyn, yn gallu dechrau datganoli treth incwm heb ganiatâd y Cynulliad na Gweinidogion Cymru. Rwyf wedi dweud yn glir na fyddaf yn gallu cefnogi datganoli treth incwm heb fframwaith cyllidol cyffredinol clir drwy gytundeb y ddwy Lywodraeth, ac y bydd y cytundeb hwn yn rhagamod i gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Credaf fod hynny'n gwbl resymol, lle ceir cytundeb y ddwy ochr. Mae darpariaethau'r Bil ar gyfer dŵr yn annerbyniol fel y maent - nid ydynt yn cyflawni ymrwymiadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae cyflogau athrawon yn parhau i fod yn gymal cadw yn y Bil, yn sgil trafodaethau sy'n parhau ar y trosglwyddo cyllid sydd ei angen i gefnogi datganoli, er bod cytundeb ar ddatganoli mewn egwyddor. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau fy nghlywed yn dweud bod yr amcangyfrif a roddwn ar y gost o gymryd cyflog ac amodau athrawon rywfaint yn wahanol i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w gynnig. Ac mae'n rhaid i'r holl faterion hynny gael sylw. I gloi, rwy'n croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond mae angen cryn dipyn o welliant pellach i wneud y Bil yn addas i'r diben ac yn addas i'r Cynulliad ystyried rhoi ei ganiatâd. Lle y gallwn ddod i gytundeb, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau. Yn anochel, bydd anghytundeb yn parhau ynghylch rhai materion sylfaenol, megis ar ddatganoli plismona - digon da i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion, ond nid i Gymru yn ôl pob golwg - lle bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ac i annog trafodaeth Seneddol. Lywydd, yn ystod y Cynulliad diwethaf, ceisiais ddatblygu'r drafodaeth ar y setliad datganoli cyn belled ag y bo modd drwy gonsensws trawsbleidiol. Byddaf yn parhau i ddefnyddio'r dull hwnnw o weithredu a byddaf yn rhannu fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymateb i'r Bil gydag arweinwyr y pleidiau yma ac yn San Steffan. Mae llawer o waith i'w wneud o fewn amserlen dynn ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau, i gael y canlyniad gorau i Gymru. |
Yesterday, the Secretary of State for Wales stated that the new Wales Bill would ensure that our democracy comes of age through a Bill that delivers permanency and accountability. It appears to Plaid Cymru that the UK Government's words, once again, appear to be hollow. The new Wales Bill will entrench Wales's status as the poor relation in this union, limiting our democratically elected Government from acting in the interests of the people it was elected to represent, keeping as much power as possible in the corridors of Whitehall, while devolving just the bear minimum. Yes, it's an improvement on what we had before, and of course there are aspects to this that should be welcomed. However, the Party of Wales maintains that there is no reason why our people shouldn't be trusted to run their own affairs when the people in Scotland are given much more trust to run theirs. First Minister, you've repeatedly advocated that Wales should be treated on the basis of equality with the other devolved nations within the United Kingdom. In the rest of the common-law world, legislatures have their own legal jurisdictions; Wales is unique in that sense, having a devolved legislature, but for only part of the jurisdiction of England and Wales. Both Scotland and Northern Ireland have their own distinct legal jurisdictions, and yet the Secretary of State still refuses to acknowledge the need for Wales to have its own legal jurisdiction - a move supported by a body of legal experts, academics and politicians. I'd therefore be grateful to know what assessments you've made, First Minister, in order to maintain your stance, and that of Plaid Cymru and all the legal experts, that Wales should have its own legal jurisdiction. Following on from that, the new Bill includes a new section that was not in the draft Wales Bill and neither is it included in the Scottish or Northern Irish dispensations. The section that I'm referring to is section 10 of the Bill - the justice impact assessments. While this section might seem harmless on the face of the Bill, we have concerns that this section could act as a block on the Assembly's legislative powers. How can we make sure that this is not a watering-down of the necessity tests, and will not act as a blocking mechanism against laws that are made here? In reaction to this section of the Bill, Professor Richard Wyn Jones, a leading expert on devolution, has said that ultimately the Secretary of State will be able to override a piece of legislation passed by the democratically elected Assembly. It's a mindset that sees the Assembly as a second-class legislature. There is no similar provision at the Northern Ireland Assembly or the Scottish Parliament. What assessment have you made, First Minister, of the durability that the replacement of this section could have in terms of leading to a veto of Welsh laws by the Secretary of State? There are other matters that we would wish to cover here. A particular interest of ours, especially since the police and crime commissioner elections, is the devolution of the police, and we will be returning to that question at a later date. But my final question to you, First Minister is: with the devolution of the electoral system, would you be prepared to indicate your personal preference for the electoral system for the Welsh Assembly elections in the future? Would you agree with me that, in order to ensure that future elections are more reflective of the will of people in Wales, the system needs reform? Is this something that you would be prepared to consider at the appropriate time? | Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y byddai'r Bil Cymru newydd yn sicrhau bod ein democratiaeth yn dod i oed drwy Fil sy'n darparu sefydlogrwydd ac atebolrwydd. Mae'n ymddangos i Blaid Cymru fod geiriau Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn rhai gwag. Bydd y Bil Cymru newydd yn cadarnhau statws Cymru fel y perthynas tlawd yn yr undeb, gan gyfyngu ar allu ein Llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd rhag gweithredu er budd y bobl y'i hetholwyd i'w cynrychioli, gan gadw cymaint o bŵer â phosibl yng nghoridorau Whitehall, gan ddatganoli cyn lleied ag y bo modd. Ydy, mae'n welliant ar yr hyn a oedd gennym o'r blaen, ac wrth gwrs mae agweddau ar hyn y dylid eu croesawu. Fodd bynnag, mae Plaid Cymru o'r farn nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ymddiried yn ein pobl i reoli eu materion eu hunain pan ymddiriedir cymaint yn fwy ym mhobl yr Alban i reoli eu materion hwy. Brif Weinidog, rydych wedi argymell dro ar ôl tro y dylai Cymru gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal â gwledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig. Yng ngweddill y byd sy'n arddel y gyfraith gyffredin, mae gan ddeddfwrfeydd eu hawdurdodaethau cyfreithiol eu hunain; mae Cymru yn unigryw yn yr ystyr honno, gan fod ganddi ddeddfwrfa ddatganoledig, ond ar gyfer rhan o awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn unig. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau cyfreithiol penodol eu hunain, ac eto mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dal i wrthod cydnabod yr angen i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun - newid a gefnogir gan gorff o arbenigwyr cyfreithiol, academyddion a gwleidyddion. Buaswn yn ddiolchgar felly am gael gwybod pa asesiadau a wnaethoch, Brif Weinidog, i gynnal eich safbwynt, a safbwynt Plaid Cymru a'r holl arbenigwyr cyfreithiol, y dylai Cymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol ei hun. Yn dilyn ymlaen o hynny, mae'r Bil newydd yn cynnwys adran newydd nad oedd yn y Bil Cymru drafft ac nid yw ychwaith wedi'i chynnwys yn y goddefebau ar gyfer yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yr adran y cyfeiriaf ati yw adran 10 y Bil - asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder. Er y gallai'r adran hon ymddangos yn ddiniwed ar wyneb y Bil, mae gennym bryderon y gallai weithredu fel rhwystr i bwerau deddfwriaethol y Cynulliad. Sut y gallwn wneud yn siŵr nad y profion angenrheidrwydd wedi'u gwanhau yw hyn, ac na fydd yn gweithredu fel mecanwaith rhwystro yn erbyn deddfau a wneir yma? Mewn ymateb i'r adran hon o'r Bil, mae'r Athro Richard Wyn Jones, arbenigwr blaenllaw ar ddatganoli, wedi dweud y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y pen draw yn gallu anwybyddu deddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad a etholwyd yn ddemocrataidd. Mae'n feddylfryd sy'n gweld y Cynulliad fel deddfwrfa ail ddosbarth. Nid oes darpariaeth debyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon na Senedd yr Alban. Pa asesiad a wnaethoch, Brif Weinidog, o'r cadernid y gallai newid yr adran hon ei gael o ran arwain at roi feto ar ddeddfau Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol? Mae yna faterion eraill y byddem yn dymuno rhoi sylw iddynt yma. Un diddordeb arbennig sydd gennym, yn enwedig ers etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu, yw datganoli'r heddlu, a byddwn yn dychwelyd at y cwestiwn hwnnw yn nes ymlaen. Ond fy nghwestiwn olaf i chi, Brif Weinidog yw: o ran datganoli'r system etholiadol, a fyddech yn barod i ddynodi pa system etholiadol y byddech chi'n bersonol yn ei ffafrio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol? A fyddech yn cytuno â mi fod angen diwygio'r system er mwyn sicrhau bod etholiadau yn y dyfodol yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn well? A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn barod i'w ystyried ar yr adeg briodol? |
Can I thank the leader of the opposition for those questions, the last one perhaps more mischievous than the rest? I can say to her that, of course, parties have very different views on what the electoral system should look like and, indeed, what the size of this Assembly should be, but there is no reason why discussions cannot take place as to what the future might hold once those powers are devolved. She knows that I've said, as, indeed, has she, many times, that there is no justification for Wales to be treated in an inferior way, as a constituent nation of the four nations of the UK. This Bill does not go as far as it should in providing assurance in that regard - there's no question about that. Why should Wales be treated differently to Scotland and Northern Ireland in terms of approach? I've never been one to argue, of course, that, in some way, Wales is different to Northern Ireland with half our population, or, indeed, to Scotland in terms of a differing approach. On the point of the jurisdiction, one of the things I have to say to Members is that Members should not assume that this Bill is driven in any way by some kind of logic. The reality is that we could end up in a situation where public order offences are created in Wales that are then policed by a police service that is not accountable in Wales and anybody convicted ends up in a justice system and, possibly, in prisons that are not run by the Welsh Government. There is no logic to that at all. If, as seems likely, the vast bulk of the criminal law is devolved bar a few offences, probably about 20-odd, again, we'll have a situation where, to my mind, the argument for keeping a single jurisdiction becomes considerably weaker again. We've put forward what we think is an entirely rational and practical solution, and that is that the legal jurisdiction would become formally different, as it is in Northern Ireland, as it is in Scotland, or the Isle of Man, Jersey or Guernsey, or at least 50 jurisdictions in the US. It's not a major step forward in that sense; there's not some kind of major change, but it makes it easier in terms of law making, but we share the court system. We could, realistically, I believe, have a shared court system with England, where the procedures are much the same, where the costs are shared appropriately, and yet, of course, we would have the freedom to pass laws in Wales. I think that's a pragmatic and sensible way forward, and I will continue to urge that on the Secretary of State. Unless there is some movement on the jurisdiction or policing, this settlement is a step forward, but it's not durable and it's not sustainable. My fervent hope was that we would get legislation that would settle, in the main, the issue of Wales's constitutional status for some years to come. She and I will have different views, perhaps, on what the end of the road is, but, nevertheless, it would've settled the argument for some years, but that's not what we will get, even though I recognise, of course, that there has been progress made here. I don't understand why policing is such a totemic issue. Scotland has it, Northern Ireland has it, London has it, Wales apparently not. Whenever I ask the question, the answer I'm given is, 'Well, it's a red line for us'. There's no logic behind it and it's for the UK Government to explain. On justice impact assessments, I don't see it in quite the same way. I would not be in favour, of course, of the Secretary of State having any powers to veto legislation that is created by this elected legislature, but the justice impact tests are similar, to my mind - I'm not arguing in favour of them - to regulatory impact assessments where we pass a law and we say, 'Well this is the effect that it will have on the courts'. That's it. There is nothing else that they could be possibly used for. They're not grounds for some kind of Westminster veto over Welsh law. It would be a document that would need to be produced, but nothing further could come of it. That's my interpretation of it and I don't defend them, but I don't think it's quite as difficult a point, even though I wouldn't particularly be in favour of them as perhaps has been suggested. I don't think there would be any process - or I can't see any process - whereby the UK Government could then use a justice impact assessment it didn't agree with in order to prevent Welsh law being put onto the statute book. There will be a much greater chance, of course, to look at the detail of the proposed Bill over the next few weeks and months. I do hope that the timetable in Westminster is not so rushed that it becomes highly problematic for amendments to be put down, as there do need to be amendments. Why, for example, if public order is going to be devolved and the law regarding public order, alcohol licensing isn't devolved, when the two of them, to me, run closely together? Is that just an oversight or is there some kind of logical reason for that? The reason that's been given to me over the last few months for not devolving licensing is that it's bound up in public order. Well, if public order is devolved, then so should licensing be as well. There needs to be more opportunity, of course, over the next few days, for parties to look at the detail of legislation. We need to delve more thoroughly into some areas to see what they mean exactly. That said, the vehicle is not as broken down as the last vehicle we were presented with, but there needs to be a lot of work done to sort the engine out and the seats and the wheels. That is exactly what we need to do over the course of the next few weeks. At least it wasn't something that appeared without an engine or with any wheels, which is what the last Bill was. I look forward, of course, to working with other parties to make sure that we get something that's coherent, sensible, fair and, above all, sustainable. | A gaf fi ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau hynny, a'r olaf efallai yn fwy direidus na'r gweddill? Gallaf ddweud wrthi, wrth gwrs, fod gan y pleidiau safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â sut y dylai'r system etholiadol fod ac yn wir, yr hyn y dylai maint y Cynulliad hwn fod, ond nid oes unrhyw reswm pam na ellir cynnal trafodaethau ynglŷn â beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig pan ddatganolir y pwerau hynny. Mae'n gwybod fy mod i wedi dweud, fel hithau, lawer gwaith yn wir, nad oes cyfiawnhad dros drin Cymru mewn ffordd israddol, fel un o wledydd cyfansoddol pedair gwlad y DU. Nid yw'r Bil hwn yn mynd cyn belled ag y dylai i ddarparu sicrwydd yn hynny o beth - nid oes amheuaeth am hynny. Pam y dylai Cymru gael ei thrin yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran dull o weithredu? Nid wyf erioed wedi bod yn un i ddadlau, wrth gwrs, fod Cymru, mewn rhyw ffordd, yn wahanol i Ogledd Iwerddon sydd â hanner ein poblogaeth, na'n wir i'r Alban o ran dull gwahanol o weithredu. Ar y pwynt ynglŷn â'r awdurdodaeth, un o'r pethau sy'n rhaid i mi ei ddweud wrth yr Aelodau yw na ddylent gymryd yn ganiataol fod y Bil hwn yn cael ei ysgogi mewn unrhyw fodd gan ryw fath o resymeg. Y realiti yw y gallem gyrraedd sefyllfa yn y pen draw lle bydd troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn cael eu creu yng Nghymru ac yn cael eu plismona wedyn gan wasanaeth yr heddlu nad yw'n atebol yng Nghymru a bydd unrhyw un a gafwyd yn euog yn mynd i system gyfiawnder ac o bosibl, i garchardai na chânt eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw resymeg yn hynny o gwbl. Os caiff y rhan helaeth o'r gyfraith droseddol ei datganoli, fel sy'n debygol, ac eithrio rhai troseddau - tua 20 mae'n debyg - unwaith eto, bydd gennym sefyllfa lle bydd y ddadl dros gadw awdurdodaeth sengl yn gwanhau'n sylweddol eto yn fy marn i. Rydym wedi cyflwyno'r hyn y credwn sy'n ateb hollol resymegol ac ymarferol, sef y byddai'r awdurdodaeth gyfreithiol yn dod yn ffurfiol wahanol, fel y mae yng Ngogledd Iwerddon, fel y mae yn yr Alban, neu Ynys Manaw, Jersey neu Guernsey, neu o leiaf 50 o awdurdodaethau yn yr Unol Daleithiau. Nid yw'n gam mawr ymlaen yn yr ystyr hwnnw; nid oes newid mawr o ryw fath, mae'n ei gwneud yn haws o ran deddfu, ond rydym yn rhannu'r system llysoedd. Gallem, yn realistig yn fy marn i, gael system o rannu llysoedd gyda Lloegr, lle mae'r gweithdrefnau bron yr un fath, lle rhennir y costau'n briodol, ac eto, wrth gwrs, byddai gennym y rhyddid i basio deddfau yng Nghymru. Rwy'n credu bod honno'n ffordd bragmataidd a synhwyrol ymlaen, a byddaf yn parhau i annog yr Ysgrifennydd Gwladol i ystyried hynny. Oni bai bod rhywfaint o symud ar yr awdurdodaeth neu blismona, mae'r setliad hwn yn gam ymlaen, ond nid yw'n gadarn ac nid yw'n gynaliadwy. Fy ngobaith mawr oedd y byddem yn cael deddfwriaeth a fyddai at ei gilydd yn setlo mater statws cyfansoddiadol Cymru am rai blynyddoedd i ddod. Bydd ganddi hi a minnau wahanol safbwyntiau, efallai, ar yr hyn fydd diwedd y daith, ond er hynny, byddai wedi setlo'r ddadl am rai blynyddoedd. Ond nid dyna a gawn, er fy mod yn cydnabod, wrth gwrs, fod cynnydd wedi'i wneud yma. Nid wyf yn deall pam y mae plismona yn fater mor dotemaidd. Mae gan yr Alban drefn felly, a Gogledd Iwerddon, a Llundain, ond nid yw Cymru yn ei chael. Pan fyddaf yn gofyn y cwestiwn, yr ateb a roddir i mi yw, 'Wel, mae'n llinell goch i ni'. Nid oes unrhyw sail resymegol drosto a lle Llywodraeth y DU yw esbonio hynny. Ar asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder, nid wyf yn ei weld yn union yn yr un ffordd. Wrth gwrs, ni fyddwn am i'r Ysgrifennydd Gwladol gael unrhyw bwerau i roi feto ar ddeddfwriaeth sy'n cael ei chreu gan y ddeddfwrfa etholedig hon, ond mae'r profion effaith ar gyfiawnder yn debyg, yn fy marn i - nid wyf yn dadlau o'u plaid - i asesiadau effaith rheoleiddiol lle rydym yn pasio deddf ac yn dweud, 'Wel dyma'r effaith y bydd yn ei chael ar y llysoedd'. Dyna ni. Nid oes dim arall o gwbl y gellid eu defnyddio ar ei gyfer. Nid ydynt yn sail i ryw fath o feto gan San Steffan dros gyfraith Cymru. Byddai'n ddogfen y byddai angen ei chynhyrchu, ond ni allai dim byd pellach ddod o'r peth. Dyna fy nehongliad ohono ac nid wyf yn eu hamddiffyn, ond nid wyf yn credu ei fod yn bwynt mor anodd â hynny, er na fyddwn yn eu ffafrio'n arbennig fel sydd wedi cael ei awgrymu o bosibl. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw broses - neu ni allaf weld unrhyw broses - lle gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio asesiad o'r effaith ar gyfiawnder nad oedd yn cytuno ag ef er mwyn atal cyfraith Cymru rhag cael ei rhoi ar y llyfr statud. Bydd llawer mwy o gyfle, wrth gwrs, i edrych ar fanylion y Bil arfaethedig yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n gobeithio na fydd yr amserlen yn San Steffan mor frysiog nes ei gwneud yn broblematig iawn i gynnwys gwelliannau, gan fod angen gwelliannau. Er enghraifft, os yw'r drefn gyhoeddus yn mynd i gael ei datganoli a bod y gyfraith ar faterion trefn gyhoeddus, trwyddedu alcohol, heb ei datganoli, pan fo'r ddau ohonynt, i mi, mor agos at ei gilydd, ai amryfusedd yn unig yw hynny neu a oes rhyw fath o reswm rhesymegol dros hynny? Y rheswm a roddwyd i mi dros y misoedd diwethaf am beidio â datganoli trwyddedu yw ei fod yn rhan anwahanadwy o faterion trefn gyhoeddus. Wel, os yw materion trefn gyhoeddus wedi'u datganoli, yna dylai trwyddedu fod wedi'i ddatganoli hefyd. Mae angen mwy o gyfle, wrth gwrs, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, i bleidiau edrych ar fanylion y ddeddfwriaeth. Mae angen i ni ymchwilio'n fwy trylwyr i rai meysydd i weld beth yn union y maent yn ei olygu. Wedi dweud hynny, nid yw'r cerbyd wedi torri i'r fath raddau â'r cerbyd diwethaf a gyflwynwyd i ni, ond mae angen gwneud llawer o waith ar yr injan a'r seddi a'r olwynion. Dyna'n union sydd angen i ni ei wneud dros yr ychydig wythnosau nesaf. O leiaf nid oedd yn rhywbeth a ymddangosodd heb injan a heb olwynion, sef yr hyn oedd y Bil diwethaf. Edrychaf ymlaen, wrth gwrs, at weithio gyda'r pleidiau eraill i wneud yn siŵr fod gennym rywbeth sy'n gydlynol, yn synhwyrol, yn deg ac yn anad dim, yn gynaliadwy. |
Thank you, First Minister, for your statement. I'd also like to commend the Secretary of State for the way he has engaged in the process before the publication of this Bill, in meeting all the parties in this Chamber and many from outside of the Chamber and up in Westminster, to bring forward a Bill that is a dramatic difference, shall we say, from the draft Bill that was debated and discussed in this Chamber some months ago. I do think that we have a Bill that will dramatically increase the responsibilities of this Assembly and, ultimately, to the benefit of the function of public services here in Wales, but, indeed, the economy and, above all, the reputation of this Assembly. I do think we do need to grasp this opportunity to make sure that this Bill does proceed in a timely manner because some of these provisions do need to be arriving here sooner rather than later. I hear what the First Minister said about policing, but would he agree that, on policing, that shouldn't act as a roadblock to find a consensus for this Bill to actually proceed and actually deliver on some of other issues that clearly would benefit, such as the elections, such as energy consents, marine consents, et cetera, which are vitally required to increase the capacity of this place to legislate in favour of the people of Wales? I do also hear what the First Minister says about teachers' pay, and I do have a disagreement with him on that particular issue. I've sat on many committees and also in hustings where previous Labour Ministers have talked at length about how they would not want teachers' pay. In fact, Leighton Andrews, formerly of this parish, argued vehemently against the former education spokesperson, Nerys Evans, in the 2011 election as to why there should be no devolution of teachers' pay to this institution, because it is a step towards regional pay, it is, then. I'd be really grateful to understand why the First Minister is so keen to see the devolution of teachers' pay. Would he not say that that would be a stepping stone to creating a regional pay structure that could be stretched into the other areas of public service? Again, I would hope very much that the First Minister would not see this as another obstacle that could be put in place to stop the Bill progressing in a timely manner through the House of Commons and House of Lords. I agree entirely with the fiscal framework that the First Minister has touched on in his statement. That does need to be put in place to make sure that the transition on income tax powers for any future Welsh Government does need to be comprehensive, does need to give reassurance and, above all, does need to make sure that Wales is not left out of pocket. I will work with him on that to make sure that that does not happen, and, any discussions that he would like to have over that and any support, I think that is a vital bit of spadework where all leaders in this Chamber can seek to achieve consensus and, ultimately, go to Treasury and to Government Ministers in a unified way, because actually, what we found in the fourth Assembly, when this Chamber speaks with one voice, we actually achieve a hell of a lot of more. I think the improvement on this Bill was achieved greatly by the unified voice that came from this Assembly when we had the debate here and the whole Assembly voted on the merits, or not, as the case may be, of the original draft Bill that was before this Chamber for discussion. I do note the move on the distinct jurisdiction. I do disagree with the leader of Plaid Cymru when she says that all legal expertise wants a separate jurisdiction. I might have misheard, but I thought you did say 'all'. There is a body of opinion that does want a separate jurisdiction, there is a body of opinion that wants the status quo, and there is a body of opinion that is quite happy to move to this ground of distinct jurisdiction while the body of Welsh law evolves and develops. I do think we've moved significantly in the right direction, and I do believe that that move should be warmly welcomed, and it is progress that can be further enhanced as the body of Welsh law grows in the coming years. But, I do, as I say, want to see this Wales Bill commence its progress through the House of Commons and House of Lords so that we can, ultimately, get the increased responsibilities that will enable the Government and the legislature to actually get on with the job of doing what the people of Wales elect us to do, which is seek the improvements in communities and lives across the whole of Wales. I do very much hope that we can work to build a speedy process for the implementation of the Wales Bill that was launched yesterday. | Diolch yn fawr am eich datganiad, Brif Weinidog. Hoffwn innau hefyd ganmol yr Ysgrifennydd Gwladol am y ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses cyn cyhoeddi'r Bil hwn, drwy gyfarfod â phob plaid yn y Siambr hon a llawer ar y tu allan i'r Siambr ac i fyny yn San Steffan, er mwyn cyflwyno Bil sy'n eithriadol o wahanol, ddywedwn ni, i'r Bil drafft y dadleuwyd yn ei gylch ac a drafodwyd yn y Siambr hon rai misoedd yn ôl. Rwy'n meddwl fod gennym Fil a fydd yn cynyddu cyfrifoldebau'r Cynulliad hwn yn ddramatig ac yn y pen draw, er budd cyflawniad gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ond yn wir, yr economi ac yn anad dim, enw da'r Cynulliad hwn. Rwy'n meddwl bod angen i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod y Bil yn symud ymlaen mewn modd amserol gan fod angen i rai o'r darpariaethau hyn gyrraedd yma yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am blismona, ond a fyddai'n cytuno, ar blismona, na ddylai hynny weithredu fel rhwystr rhag dod i gonsensws er mwyn i'r Bil hwn fynd yn ei flaen a mynd ati i gyflawni rhai o'r pethau eraill a fyddai'n amlwg yn elwa, megis yr etholiadau, megis caniatadau ynni, caniatadau morol, ac yn y blaen, sydd eu hangen yn ddirfawr er mwyn cynyddu gallu'r lle hwn i ddeddfu o blaid pobl Cymru? Rwyf hefyd yn clywed yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud am gyflogau athrawon, ac rwy'n anghytuno ag ef ar y mater penodol hwnnw. Rwyf wedi bod yn aelod o lawer o bwyllgorau a hefyd wedi bod mewn hustyngau lle y siaradodd Gweinidogion Llafur blaenorol yn helaeth ynglŷn â sut na fyddent eisiau cyflogau athrawon. Yn wir, dadleuodd Leighton Andrews, gynt o'r plwyf hwn, yn chwyrn yn erbyn y cyn lefarydd addysg, Nerys Evans, yn etholiad 2011 ynglŷn â pham na ddylid datganoli cyflogau athrawon i'r sefydliad hwn, gan ei fod yn gam tuag at gyflogau rhanbarthol, y mae, felly. Byddwn yn falch iawn o ddeall pam y mae'r Prif Weinidog mor awyddus i weld cyflogau athrawon yn cael eu datganoli. Oni fyddai'n dweud y byddai hynny'n gam tuag at greu strwythur cyflogau rhanbarthol y gellid ei ymestyn i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus? Unwaith eto, byddwn yn gobeithio'n fawr iawn na fyddai'r Prif Weinidog yn gweld hwn fel rhwystr arall y gellid ei roi ar waith i atal y Bil rhag symud ymlaen mewn modd amserol drwy Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Cytunaf yn llwyr â'r fframwaith cyllidol y mae'r Prif Weinidog wedi'i grybwyll yn ei ddatganiad. Mae angen rhoi hynny ar waith i wneud yn siŵr fod y cyfnod pontio ar bwerau treth incwm ar gyfer unrhyw Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gynhwysfawr, a bod angen iddo roi sicrwydd ac yn anad dim, fod angen iddo wneud yn siŵr nad yw Cymru ar ei cholled. Byddaf yn gweithio gydag ef ar hynny i sicrhau nad yw hynny'n digwydd, ac unrhyw drafodaethau y byddai'n hoffi'u cael ar hynny ac unrhyw gymorth, credaf fod hwnnw'n waith caib a rhaw hanfodol lle gall pob arweinydd yn y Siambr geisio sicrhau consensws a mynd yn y pen draw at y Trysorlys ac at Weinidogion Llywodraeth mewn ffordd unedig, oherwydd mewn gwirionedd, yr hyn a welsom yn y pedwerydd Cynulliad oedd ein bod yn cyflawni llawer iawn mwy pan fo'r Siambr hon yn siarad ag un llais. Rwy'n meddwl bod y gwelliant ar y Bil hwn wedi'i gyflawni'n fawr drwy'r llais unedig a ddaeth o'r Cynulliad hwn pan gawsom y ddadl yma a phan bleidleisiodd y Cynulliad cyfan ar deilyngdod, neu fel arall fel y digwyddodd, y Bil drafft gwreiddiol a gyflwynwyd i'w drafod gan y Siambr hon. Rwy'n nodi'r symud ar yr awdurdodaeth ar wahân. Rwy'n anghytuno ag arweinydd Plaid Cymru pan ddywed fod pob arbenigwr cyfreithiol eisiau awdurdodaeth ar wahân. Efallai fy mod wedi camglywed, ond rwy'n meddwl eich bod wedi dweud 'pob'. Mae yna gorff o bobl sydd eisiau awdurdodaeth ar wahân, mae yna gorff o bobl sydd eisiau i'r sefyllfa bresennol barhau, ac mae yna gorff o bobl sy'n ddigon hapus i symud i'r sail hon o awdurdodaeth benodol tra bo corff cyfraith Cymru yn esblygu ac yn datblygu. Rwy'n meddwl ein bod wedi symud yn sylweddol i'r cyfeiriad cywir, ac rwy'n credu y dylid croesawu'r symudiad hwnnw'n fawr, ac mae'n gynnydd y gellir ei wella ymhellach wrth i gorff cyfraith Cymru dyfu yn y blynyddoedd nesaf. Ond fel y dywedais, rwyf am weld y Bil Cymru hwn yn dechrau ar ei daith drwy Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi fel y gallwn, yn y pen draw, gael y cyfrifoldebau ehangach a fydd yn galluogi'r Llywodraeth a'r ddeddfwrfa i fwrw ymlaen â'r gwaith o wneud yr hyn y mae pobl Cymru wedi ein hethol i'w wneud, sef ceisio gwelliannau mewn cymunedau a bywydau ar draws Cymru gyfan. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn weithio i adeiladu proses gyflym ar gyfer gweithredu Bil Cymru a lansiwyd ddoe. |
Can I thank the leader of the Conservatives for his comments? I do recognise that the engagement has been far better. I think it's fair to say that. Certainly, we had far better engagement from the Wales Office, but it was more difficult from departments like the MOJ because, for some departments, their Ministers are elsewhere at the moment, and it's not easy to track them down for reasons that he will know. On policing, this is an oddity. How can there be a lasting settlement where you have a police service that's devolved across the UK but not in Wales, where I suspect all four PCCs would be in favour of devolution of policing - they were all elected - and where the people of Wales voted, in the main, for parties that want to see the devolution of policing? So, it's not as if there is a groundswell of opinion in Wales who do not want to see the devolution of policing. The police will be asked, over the course of the next 10, 20 years, to police very different laws, potentially, in England and Wales. To me, that doesn't make a huge amount of sense. There are some areas that make no sense for devolution: dealing with national security or organised crime - of course not. There are some issues that need to be dealt with, to my mind, across the UK. In fact, the reality is that doesn't happen at the moment, but it should happen in the future. So, there are some areas of policing that I can see are better handled at a UK and, indeed, European and world level, for that matter. On teachers' pay and conditions, he seemed to give the impression that he was against the devolution of teachers' pay and conditions. That's not the view of his party in Westminster, which has agreed, in principle, for that devolution to take place. It's an oddity, again, that everything in education is devolved apart from pay and conditions. There are examples elsewhere in the public sector where pay and conditions are devolved. It's not unusual. He talks of regional pay. Well, bear in mind, of course, there are no UK pay and conditions - never have been. Pay and conditions are devolved in Northern Ireland and they are devolved in Scotland. If the concern ever was that, somehow, pay and conditions in Wales would be worse than elsewhere in the UK, that is absolutely not what I and, I suspect, everybody else in this Chamber would want to see - of course not. But what it does give us the ability to do is to construct in the next few years a coherent package of training, terms and conditions for our teachers, which isn't possible at the moment, but which is possible and has, in fact, been done in Scotland. So, for us in Wales, there is an opportunity there. On the issue of the jurisdiction, as far as ordinary people are concerned, I can see this is not something that has people marching in the streets. This is the only common law jurisdiction anywhere on the planet where there are two legislatures in the one jurisdiction. It doesn't exist anywhere else at all in the world. Why is that important? Because it leads to confusion. Simon Thomas, in the previous Assembly, illustrated the point when he said that a constituent had come to see him and had asked why a Bill that, on the face of it, applied to England and Wales only applied in England. The reality is that when we change the law, we don't change or create Welsh law, we change the law of England and Wales as it applies in Wales. It's a hugely complicated way of doing something actually very simple. It was done in Northern Ireland without question. It was done in Scotland - it's always been there in Scotland. The history of the Commonwealth is such that whenever a Parliament is created, whether it's autonomous or independent, the jurisdiction has always followed, except in Wales. Now, again, the argument that Wales in some way should be different, to my mind, doesn't hold. I think there is merit in the argument that we don't want, certainly at this stage or, perhaps, for many years to come to create a separate courts system, like Scotland and Northern Ireland, with the attendant cost that that brings. I think that's a valid and strong argument, but this issue will need to be dealt with in the years to come. It's a shame it's not being dealt with now before it becomes a problem in the next five or 10 years. But, nevertheless, we'll continue to engage, of course. I want to get to a point where we have a Bill that takes us forward in terms of devolved powers. I suspect there will be some areas of disagreement that won't be resolved, but I hope that those areas can be minimised as much as possible. | A gaf fi ddiolch i arweinydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau? Rwy'n cydnabod bod yr ymgysylltiad wedi bod yn llawer gwell. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud hynny. Yn sicr, cafwyd ymgysylltiad llawer gwell â Swyddfa Cymru, ond roedd yn anos ei gael ag adrannau fel y Weinyddiaeth Gyfiawnder, oherwydd, mewn rhai adrannau, mae eu Gweinidogion yn rhywle arall ar hyn o bryd, ac nid yw'n hawdd dod o hyd iddynt am resymau y bydd yn gwybod amdanynt. Ar blismona, mae hwn yn fater rhyfedd. Sut y gellir cael setliad parhaol lle mae gennych wasanaeth heddlu wedi'i ddatganoli ar draws y DU, ond nid yng Nghymru, lle rwy'n credu y byddai'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu o blaid datganoli plismona - cawsant oll eu hethol - a lle pleidleisiodd pobl Cymru, at ei gilydd, dros bleidiau sydd am weld datganoli plismona? Felly, nid yw fel pe bai yna ymchwydd barn yng Nghymru nad ydynt am weld datganoli plismona. Bydd gofyn i'r heddlu, yn ystod y 10, 20 mlynedd nesaf, blismona deddfau gwahanol iawn, o bosibl, yng Nghymru a Lloegr. I mi, nid yw hynny'n gwneud llawer iawn o synnwyr. Mae yna rai meysydd lle nad yw'n gwneud synnwyr eu datganoli: ymdrin â diogelwch cenedlaethol neu droseddau cyfundrefnol - wrth gwrs hynny. Mae yna rai materion y mae angen ymdrin â hwy, yn fy marn i, ar draws y DU. Yn wir, y realiti yw nad yw'n digwydd ar hyn o bryd, ond dylai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, ceir rhai meysydd o blismona y gallaf weld bod modd eu trin yn well ar lefel y DU, ac yn wir, ar lefel Ewropeaidd a'r byd, o ran hynny. Ar gyflog ac amodau athrawon, roedd i'w weld yn rhoi'r argraff ei fod yn erbyn datganoli cyflog ac amodau athrawon. Nid dyna farn ei blaid yn San Steffan, sydd wedi cytuno, mewn egwyddor, i'r datganoli ddigwydd. Mae'n rhyfedd, unwaith eto, fod popeth mewn addysg wedi'i ddatganoli heblaw cyflog ac amodau. Ceir enghreifftiau mewn meysydd eraill yn y sector cyhoeddus lle mae cyflog ac amodau wedi'u datganoli. Nid yw'n anarferol. Mae'n sôn am gyflogau rhanbarthol. Wel, cofiwch, wrth gwrs, nid oes unrhyw gyflog ac amodau i'r DU - ni fu erioed. Mae cyflog ac amodau wedi'u datganoli yng Ngogledd Iwerddon ac maent wedi'u datganoli yn yr Alban. Os mai'r pryder erioed oedd y byddai cyflog ac amodau yng Nghymru rywsut yn waeth nag yn unman arall yn y DU, yn bendant nid dyna fyddwn i na neb arall yn y Siambr hon, fe dybiaf, yn dymuno ei weld wrth gwrs. Ond yr hyn y mae'n ein galluogi i'w wneud yw llunio pecyn cydlynus o hyfforddiant, cyflog ac amodau yn y blynyddoedd nesaf ar gyfer ein hathrawon, nad yw'n bosibl ar hyn o bryd, ond sy'n bosibl ac wedi'i wneud, mewn gwirionedd, yn yr Alban. Felly, i ni yng Nghymru, mae yna gyfle yno. Ar fater awdurdodaeth, o ran pobl gyffredin, gallaf weld nad yw hyn yn rhywbeth sy'n gwneud i bobl orymdeithio yn y strydoedd. Dyma'r unig awdurdodaeth cyfraith gyffredin yn unrhyw le ar y blaned lle ceir dwy ddeddfwrfa yn yr un awdurdodaeth. Nid yw'n bodoli yn unman arall o gwbl yn y byd. Pam y mae hynny'n bwysig? Oherwydd ei fod yn arwain at ddryswch. Darluniodd Simon Thomas y pwynt yn y Cynulliad blaenorol pan ddywedodd fod etholwr wedi dod i'w weld ac wedi gofyn pam nad oedd Bil a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn gymwys yng Nghymru a Lloegr, ond yn gymwys yn Lloegr yn unig. Pan fyddwn yn newid y gyfraith, y realiti yw nad ydym yn newid neu'n creu cyfraith Cymru, rydym yn newid cyfraith Cymru a Lloegr fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Mae'n ffordd hynod o gymhleth o wneud rhywbeth syml iawn mewn gwirionedd. Cafodd ei wneud yng Ngogledd Iwerddon heb gwestiwn. Cafodd ei wneud yn yr Alban - mae bob amser wedi bod yno yn yr Alban. Yn hanes y Gymanwlad, pa bryd bynnag y bydd Senedd yn cael ei chreu, boed yn annibynnol neu'n ymreolaethol, mae'r awdurdodaeth wedi dilyn bob amser, ac eithrio yng Nghymru. Nawr, unwaith eto, nid yw'r ddadl y dylai Cymru fod yn wahanol mewn rhyw ffordd, yn dal dŵr yn fy marn i. Rwy'n credu bod gwerth yn y ddadl nad ydym, ar hyn o bryd yn sicr, neu efallai am flynyddoedd lawer i ddod, yn dymuno creu system llysoedd ar wahân, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda'r gost sy'n gysylltiedig â hynny. Rwy'n credu bod honno'n ddadl ddilys a chryf, ond bydd angen ymdrin â'r mater hwn yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n drueni nad ymdrinnir â hynny yn awr cyn iddo ddod yn broblem yn ystod y pump neu 10 mlynedd nesaf. Serch hynny, byddwn yn parhau i ymgysylltu, wrth gwrs. Rwyf am gyrraedd pwynt lle bydd gennym Fil sy'n mynd â ni yn ein blaenau o ran pwerau datganoledig. Rwy'n tybio y bydd yna rai meysydd lle ceir anghytundeb na chaiff ei ddatrys, ond rwy'n gobeithio y gellir cyfyngu cymaint â phosibl ar y meysydd hynny. |
First Minister, thank you for your statement, and, like you, I give a cautious welcome to the Bill, because my party is a devolutionist party. That's what our contribution to the debate on the EU is all about: devolution of powers back from Brussels to Westminster or to Cardiff. But, in the context of this particular Bill, as you'll be aware, clause 16 is about the introduction of tax-varying powers, but removing the requirement that is in the current legislation for a referendum to be held before those powers are activated. Your statement says that you object to these powers being devolved without the consent of the Assembly or Welsh Ministers and, hence, being imposed by Treasury Ministers. Well, I agree with that to this extent: that if there was to be no referendum then I certainly think that the Welsh Assembly ought to be allowed to make that decision. But I see no reason why the provision, which is in the current law, to consult the Welsh people should not be activated. That was the promise that was given before the last Wales Act was given the Royal Assent. This is now a breach of faith with the Welsh people. It's a big decision because not only could there be tax-varying powers, but of course there could be tax-raising powers. Nothing would be worse, I think, for the health of the Welsh economy, than to do what many Labour Governments have done in the course of my lifetime - to impose penal rates of taxes, which utterly destroy the wealth-creating potential of the Welsh economy. The impact assessment that accompanies the Wales Bill blandly says that the debate has now moved on and therefore we don't need to have this referendum. There's no justification provided in the impact assessment for this change, and I'm asking the First Minister, supposedly a democrat, to consult the Welsh people before he consents to the activation of tax-varying powers in the hands of this Assembly. | Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, ac fel chithau, rwy'n rhoi croeso gofalus i'r Bil, am fod fy mhlaid yn blaid sy'n credu mewn datganoli. Ymwneud â hynny y mae ein cyfraniad i'r ddadl ar yr UE: datganoli pwerau yn ôl o Frwsel i San Steffan neu i Gaerdydd. Ond yng nghyd-destun y Bil penodol hwn, fel y byddwch yn gwybod, mae cymal 16 yn ymwneud â chyflwyno pwerau i amrywio trethi, ond yn dileu'r gofyniad sydd yn y ddeddfwriaeth gyfredol i gynnal refferendwm cyn rhoi'r pwerau hynny mewn grym. Mae eich datganiad yn dweud eich bod yn gwrthwynebu datganoli'r pwerau hyn heb ganiatâd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru a fyddai'n golygu felly eu bod yn cael eu gosod gan Weinidogion y Trysorlys. Wel, rwy'n cytuno â hynny i'r graddau hyn: os nad oes refferendwm i fod yna rwy'n sicr yn credu y dylai Cynulliad Cymru gael yr hawl i wneud y penderfyniad hwnnw. Ond ni welaf unrhyw reswm pam na ddylid gweithredu'r ddarpariaeth, sydd yn y gyfraith bresennol, i ymgynghori â phobl Cymru. Dyna oedd yr addewid a roddwyd cyn i'r Ddeddf Cymru ddiwethaf gael Cydsyniad Brenhinol. Mae hyn bellach yn fater o dorri gair i bobl Cymru. Mae'n benderfyniad mawr oherwydd nid yn unig gallai fod pwerau i amrywio trethi, ond wrth gwrs, gallai fod pwerau i godi trethi. Ni fyddai dim yn waeth i iechyd economi Cymru, yn fy marn i, na gwneud yr hyn y mae llawer o Lywodraethau Llafur wedi'i wneud yn ystod fy oes i - gosod cyfraddau trethi cosbedigaethol, sy'n dinistrio potensial creu cyfoeth economi Cymru. Mae'r asesiad effaith sy'n dod gyda Bil Cymru yn dweud yn ddigyffro fod y ddadl bellach wedi symud yn ei blaen ac felly nad oes angen i ni gael y refferendwm hwn. Ni roddir unrhyw gyfiawnhad yn yr asesiad effaith dros y newid hwn, ac rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog, sy'n ddemocrat honedig, i ymgynghori â phobl Cymru cyn iddo gydsynio i roi pwerau i amrywio trethi yn nwylo'r Cynulliad hwn. |
Well, a number of the parties in this Chamber - and his, in fairness - contained proposals with regard to the future of income tax varying powers in their manifestos in the election, and the people of Wales gave their verdict. From my party's perspective, we said that we would not increase the burden of income tax on people during the course of this Assembly term. People went into the election knowing that. They did not vote in huge numbers for parties who said, 'We are opposed to partial income tax varying powers coming to Wales', or indeed for parties that demanded there should be a referendum. The point is this: Scotland has been offered far more substantive tax-varying powers than Wales, with no referendum; Northern Ireland has tax-varying powers on offer to it, particularly with regard to corporation tax, which are hugely significant in terms of what could happen there - again without a referendum. Is there really a need for a referendum every time there is a change in the devolution settlement? [Interruption.] Well, the promise was made by the UK Government, not by us. For the interest of the UK Government to explain its position, all the parties explained their positions in the election last month and the electorate gave their view. The electorate were not of the view that they wished to vote for parties that wished to have a referendum or indeed were opposed to income tax varying powers. The power has to be used prudently. I understand that. He talks of a time when there were penal rates of income tax. I was in the junior school at that time, so I'll bow to his experience of that. But, certainly, my experience of the Labour Governments of late were not that they introduced penal rates of tax, and nor would be want to do the same. What it does, of course, is give us the opportunity to create a revenue stream against which we can borrow prudently. If we don't get income tax varying powers, we can't borrow money and we can't actually build the M4 relief road. So, actually, income tax varying powers lead to larger schemes that we have no hope of paying for otherwise. In England, in Scotland and in Northern Ireland it is normal, with the borrowing powers that those Governments have, to borrow money for big schemes. If we don't have access to that, we can't do anything with major transport infrastructure, although, of course, the powers have to be used prudently and sensibly on behalf of the people of Wales. | Wel, roedd nifer o'r pleidiau yn y Siambr hon - a'i un ef, a bod yn deg - yn cynnwys argymhellion ar ddyfodol pwerau i amrywio'r dreth incwm yn eu maniffestos yn yr etholiad, a rhoddodd pobl Cymru eu dyfarniad. O safbwynt fy mhlaid i, dywedasom na fyddem yn cynyddu baich treth incwm ar bobl yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Aeth pobl i'r etholiad gan wybod hynny. Ni phleidleisodd niferoedd enfawr dros bleidiau a ddywedodd, 'Rydym yn erbyn cael pwerau rhannol i amrywio treth incwm yng Nghymru', na'n wir dros bleidiau a oedd yn mynnu y dylid cynnal refferendwm. Y pwynt yw hwn: mae'r Alban wedi cael cynnig pwerau amrywio trethi llawer mwy sylweddol na Chymru, heb unrhyw refferendwm; mae pwerau amrywio trethi wedi'u cynnig i Ogledd Iwerddon, yn enwedig mewn perthynas â'r dreth gorfforaeth, sy'n arwyddocaol iawn o ran yr hyn a allai ddigwydd yno - eto heb refferendwm. A oes gwir angen refferendwm bob tro y bydd newid yn y setliad datganoli? [Torri ar draws.] Wel, gwnaed yr addewid gan Lywodraeth y DU, nid gennym ni. Er mwyn i Lywodraeth y DU egluro ei safbwynt, eglurodd yr holl bleidiau eu safbwyntiau yn yr etholiad y mis diwethaf a mynegodd yr etholwyr eu barn. Nid oedd yr etholwyr o'r farn eu bod yn dymuno pleidleisio dros bleidiau a ddymunai gael refferendwm na'n wir dros bleidiau a oedd yn gwrthwynebu pwerau i amrywio treth incwm. Rhaid defnyddio'r pŵer yn ddoeth. Rwy'n deall hynny. Mae'n sôn am adeg pan oedd cyfraddau treth incwm yn gosbedigaethol. Roeddwn i yn yr ysgol gynradd ar y pryd, felly rwy'n derbyn ei air o brofiad ar hynny. Ond yn sicr, nid fy mhrofiad o Lywodraethau Llafur diweddar oedd eu bod yn cyflwyno cyfraddau treth cosbedigaethol, ac ni fyddem eisiau gwneud hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw rhoi cyfle i ni greu ffrwd refeniw y gallwn fenthyg yn ddoeth yn ei herbyn. Os na chawn bwerau i amrywio treth incwm, ni allwn fenthyg arian ac ni fyddwn yn gallu adeiladu ffordd liniaru'r M4. Felly, mewn gwirionedd, mae pwerau i amrywio treth incwm yn arwain at gynlluniau mwy nag y byddai gennym obaith o dalu amdanynt fel arall. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae'n arferol, gyda'r pwerau benthyca sydd gan y Llywodraethau hynny, i fenthyca arian ar gyfer cynlluniau mawr. Os na chawn y gallu i wneud hynny, ni allwn wneud unrhyw beth gyda seilwaith trafnidiaeth mawr, er bod yn rhaid defnyddio'r pwerau'n ddoeth ac yn synhwyrol, wrth gwrs, ar ran pobl Cymru. |
I have seven other speakers. If you are all sharp and short with your questions, I hope to go through all of you. Mick Antoniw. | Mae gen i saith siaradwr arall. Os ydych i gyd yn gryno ac yn fyr gyda'ch cwestiynau, rwy'n gobeithio mynd drwy bob un ohonoch. Mick Antoniw. |
First Minister, I think we have to welcome the tone of the Secretary of State for Wales's statement because it does indicate a willingness to work to improve to actually achieve a common objective of actually working legislation. If that actually happens, then that will be a good thing. Can I say that I do have considerable concerns about the approach to the jurisdiction issue? Because, for me, it actually goes to the core of the legislation and we do not want a situation where we continually have to try to work out the relationship between our powers, the laws of England and Wales, and the jurisdiction point. That was a problem that the last Secretary of State for Wales had considerable difficulty with. There has been an attempt in this draft Bill to deal with that, but there is this rather strange passage in the legislation, which says the purpose is 'to recognise the ability of the Assembly and the Welsh Ministers to make law forming part of the law of England and Wales.' Now, it seems to me that that just perpetuates the fundamental misunderstanding of the jurisdiction issue. There is no mystique to it. There is nothing magical about it. All the jurisdiction of England and Wales is is basically laws passed in Westminster applied to England and Wales as the area in which the jurisdiction exists, but we now have an additional legislature, and that is Wales. If we are going to recognise and create a framework through statute that says, 'We recognise the specific existence of Welsh legislation', it cannot be within the law of England and Wales, because you have the UK Parliament, which now sits - and you have English votes for English laws - as effectively an English Parliament passing legislation solely in England, and the legislation passed in Wales is not just what we pass, but it is also the legislation passed in Westminster, but only applies to England or does not apply to Wales. And unless that fundamental contradiction is actually resolved, we are going to continue having these arguments; we will not be resolving this and we'll be discussing this year on year, which is something that we clearly want to see an end to. And the same issue is perpetuated. I hear what you say in respect of the judicial impact assessments, and I think you're absolutely right on them in terms of their effect, but if you have one for Welsh legislation, you should have one for English legislation as well. So, it's getting that balance right. Now, I think the issue is fudged to some extent, because the proposal from the Secretary of State for Wales is to establish a committee that will actually look into these. Now, my biggest concern is that we have a committee that's going to consider something that certainly I think and, I think, many people think is fundamental to getting this legislation right, and we need a timescale on it. We need a framework within which it's going to work, because we need to actually resolve this as part of this legislation. It cannot be something that has to be tacked on later on. I was wondering what discussions you might have had or will be able to have in respect of that particular proposal from the Secretary of State for Wales on the formation of the committee, the timescale and the framework within which it is going to work. | Brif Weinidog, rwy'n meddwl bod rhaid i ni groesawu tôn datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ei fod yn dangos parodrwydd i weithio i wella er mwyn cyflawni amcan cyffredin sef deddfwriaeth sy'n gweithio mewn gwirionedd. Os bydd hynny'n digwydd mewn gwirionedd, yna bydd hynny'n beth da. A gaf fi ddweud fod gennyf bryderon sylweddol am yr ymagwedd tuag at fater awdurdodaeth? Oherwydd, i mi, mae'n mynd at wraidd y ddeddfwriaeth ac nid ydym eisiau sefyllfa lle mae'n rhaid i ni geisio mynd ati'n barhaus i ddehongli'r berthynas rhwng ein pwerau, deddfau Cymru a Lloegr, a'r pwynt ynghylch awdurdodaeth. Roedd honno'n broblem y cafodd Ysgrifennydd Gwladol diwethaf Cymru gryn anhawster â hi. Cafwyd ymgais yn y Bil drafft hwn i ymdrin â hynny, ond ceir darn braidd yn rhyfedd yn y ddeddfwriaeth, sy'n dweud mai'r pwrpas yw 'cydnabod gallu'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru i wneud cyfraith sy'n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr.' Nawr, mae'n ymddangos i mi mai dim ond parhau camddealltwriaeth sylfaenol ynghylch mater awdurdodaeth y mae hynny'n ei wneud. Nid oes unrhyw ddirgelwch yn perthyn iddo, nac unrhyw swyn. Y cyfan yw awdurdodaeth Cymru a Lloegr yn y bôn yw deddfau a basiwyd yn San Steffan wedi'u cymhwyso i Gymru a Lloegr fel yr ardal lle mae'r awdurdodaeth yn bodoli, ond bellach mae gennym ddeddfwrfa ychwanegol, sef Cymru. Os ydym yn mynd i gydnabod a chreu fframwaith drwy statud sy'n dweud, 'Rydym yn cydnabod bodolaeth benodol deddfwriaeth Gymreig', ni all fod o fewn cyfraith Cymru a Lloegr, gan fod gennych Senedd y DU, sydd bellach yn eistedd - ac mae gennych bleidleisiau Seisnig ar gyfer deddfau Seisnig - fel Senedd Seisnig i bob pwrpas yn pasio deddfwriaeth ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid yr hyn a basiwn ni yn unig yw'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio yng Nghymru, ond mae'n cynnwys y ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio yn San Steffan, ond sydd ond yn gymwys yn Lloegr neu heb fod yn gymwys yng Nghymru. Ac oni bai fod y gwrth-ddweud sylfaenol hwnnw'n cael ei ddatrys mewn gwirionedd, rydym yn mynd i barhau i gael y dadleuon hyn; ni fyddwn yn datrys hyn a byddwn yn ei drafod flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn amlwg am weld diwedd arno. Ac mae'r un broblem yn parhau. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch mewn perthynas â'r asesiadau effaith cyfreithiol, ac rwy'n meddwl eich bod yn hollol gywir yn eu cylch o ran eu heffaith, ond os oes gennych un ar gyfer deddfwriaeth Gymreig, dylech gael un ar gyfer deddfwriaeth Seisnig yn ogystal. Felly, mae'n fater o gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn. Nawr, rwy'n meddwl bod y mater yn garbwl i ryw raddau, gan mai'r cynnig gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw sefydlu pwyllgor a fydd yn edrych i mewn i hyn mewn gwirionedd. Nawr, fy mhryder mwyaf yw bod gennym bwyllgor sy'n mynd i ystyried rhywbeth rwyf fi'n sicr yn meddwl, ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl, sy'n hanfodol er mwyn cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn, ac mae angen amserlen ar ei gyfer. Mae arnom angen fframwaith iddo weithio o'i fewn, oherwydd mae angen i ni ddatrys hyn fel rhan o'r ddeddfwriaeth hon. Ni all fod yn rhywbeth sy'n rhaid ei ychwanegu yn nes ymlaen. Roeddwn yn meddwl tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi neu y byddwch yn gallu eu cael mewn perthynas â'r cynnig penodol hwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ffurfiad y pwyllgor, yr amserlen a'r fframwaith y mae'n mynd i weithio o'i fewn. |
Could I thank the Member for the way in which he has explained the complexity, in his own way, of the current situation? There is no timescale that the Secretary of State has put forward. What is strange is that nobody has argued that the jurisdiction will remain for ever and a day. Everyone says that it will have to change at some point in the future. The question is, should that issue be dealt with now or dealt with at a time when pressure is so great that it has to happen quickly? And the history of Welsh devolution is that, when pressure builds, action is taken, rather than steps being taken before the pressure emerges. He is right to say that this is not some kind of totemic issue. The UK doesn't exist as a jurisdiction; it never has done. Scotland has always existed as a separate jurisdiction, Northern Ireland since 1920, England and Wales only since 1536. It's a long time, but only since 1536, and, since that time, a legislature has been established here in Wales. On that basis, the jurisdiction normally follows the legislature, but that is not the position that they find themselves in now. It's almost as if they're trying to make the laws fit the jurisdiction, rather than the other way around. The previous Bill, the problem with it was that the restrictions that were being placed, which actually took us back to a position before 2011, were in order to try and squeeze the law of England and Wales into the jurisdiction of England and Wales. Now it seems we have a situation where the jurisdiction will exist pretty much in name only, but, over the years, in many areas, substantially different laws will be created. To my mind, that's not a durable solution. Yes, you can manage it in the short term, possibly, but, in the longer term, it's not going to happen. We are already in a situation - as I've listened to judges who've told me this - where lawyers, be they solicitors or barristers, have come to Wales and argued the wrong law, because they assume that, because they're in the same jurisdiction, the law is the same. Now, I would hit them with a wasted costs order - if that sounds too harsh, it's probably why I'm not a judge - just to get the message across. But that's a problem now, and unless the jurisdiction issue is dealt with in some way - not necessarily a separate jurisdiction, but a distinct jurisdiction - that problem will only continue in the future. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y ffordd y mae wedi egluro cymhlethdod y sefyllfa bresennol yn ei ffordd ei hun? Nid yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflwyno unrhyw amserlen. Yr hyn sy'n rhyfedd yw nad oes neb wedi dadlau y bydd yr awdurdodaeth yn para am byth. Mae pawb yn dweud y bydd yn rhaid iddi newid ar ryw adeg yn y dyfodol. Y cwestiwn yw, a ddylid ymdrin â'r mater hwnnw yn awr neu ar adeg pan nad oes cymaint o bwysau i wneud iddo ddigwydd yn gyflym? A hanes datganoli yng Nghymru yw bod camau'n cael eu rhoi ar waith pan fo'r pwysau'n cynyddu, yn hytrach na bod camau'n cael eu rhoi ar waith cyn i'r pwysau ymddangos. Mae'n iawn dweud nad mater totemaidd yw hwn. Nid yw'r DU yn bodoli fel awdurdodaeth; nid yw erioed wedi bod yn un. Mae'r Alban wedi bodoli erioed fel awdurdodaeth ar wahân, a Gogledd Iwerddon ers 1920, Cymru a Lloegr ers 1536 yn unig. Mae'n amser hir, ond ers 1536 yn unig, ac ers hynny, sefydlwyd deddfwrfa yma yng Nghymru. Ar y sail honno, mae'r awdurdodaeth fel arfer yn dilyn y ddeddfwrfa, ond nid dyna'r sefyllfa y maent ynddi yn awr. Mae bron fel pe baent yn ceisio gwneud i'r deddfau ffitio'r awdurdodaeth, yn hytrach na fel arall. Y broblem gyda'r Bil blaenorol oedd mai diben y cyfyngiadau a gâi eu gosod, a oedd mewn gwirionedd yn mynd â ni yn ôl at y sefyllfa cyn 2011, oedd ceisio gwasgu cyfraith Cymru a Lloegr i awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Nawr mae'n ymddangos bod gennym sefyllfa lle bydd yr awdurdodaeth yn bodoli mewn enw'n unig i raddau helaeth, ond dros y blynyddoedd, mewn llawer o feysydd, bydd deddfau go wahanol yn cael eu creu. Yn fy marn i, nid yw hwnnw'n ateb cadarn. Gallwch ei reoli yn y tymor byr, o bosibl, ond yn y tymor hwy, nid yw'n mynd i ddigwydd. Rydym eisoes mewn sefyllfa - rwyf wedi gwrando ar farnwyr sydd wedi dweud hyn wrthyf - lle mae cyfreithwyr, boed yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr, wedi dod i Gymru ac wedi dadlau'r gyfraith anghywir am eu bod yn cymryd yn ganiataol eu bod yn yr un awdurdodaeth, a bod y gyfraith yr un fath. Nawr, byddwn yn gosod gorchymyn costau a wastraffwyd arnynt - os yw hynny'n swnio'n rhy llym, efallai mai dyna pam nad wyf yn farnwr - er mwyn cyfleu'r neges. Ond mae honno'n broblem yn awr, ac oni bai yr ymdrinnir â mater yr awdurdodaeth mewn rhyw ffordd - nid o reidrwydd awdurdodaeth ar wahân, ond awdurdodaeth benodol - bydd y broblem yn parhau yn y dyfodol. |
I thank the First Minister for his statement. I had hoped, First Minister, that this would be the final piece of legislation that the UK, in the Parliament that I occasionally visit, would pass on the Welsh constitution, but it appears to me that we haven't reached that point as of yet. So, in asking my question to you, and in asking for your support in your response, I'm going to set a challenge for our colleagues beyond Paddington station to use the time between this debate today, which is the first full public debate on this particular Bill, and the Third Reading in the House of Lords at the end of the process and the passing of the Bill, to amend this Bill sufficiently so that it can be full constitutional legislation to change the circumstances of Wales. I do think that there are enough seeds sown in this Bill to allow that to happen. I will give you one example in a brief question: the recognition of Welsh law. Now, we know that there is Welsh law because we make it here. So, thank you very much, Westminster, for acknowledging that there is such a thing as Welsh law. But we do have to move further. Therefore, can you tell us how you intend to report back on your interesting negotiations with the Secretary of State and the UK Government during the period between what we're doing now and the end of the parliamentary process so that we reach that point that you and I both want to reach: having a relatively final and clear piece of legislation so that we don't return to legislating on the Welsh constitution every three years? | Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Roeddwn i wedi gobeithio, Brif Weinidog, mai hwn fyddai'r darn olaf o ddeddfwriaeth y byddai'r Deyrnas Unedig, yn y Senedd yr wyf i hefyd yn mynd iddi yn achlysurol, yn ei phasio ar gyfer cyfansoddiad Cymru. Ond mae'n ymddangos imi nad ydym ni wedi cyrraedd y fan honno eto. Felly, rwyf am osod - wrth ofyn cwestiwn i chi, a gofyn am eich cefnogaeth wrth ateb - rwyf am osod her i'r cyfeillion i lawr y tu hwnt i Paddington i ddefnyddio'r amser rhwng y drafodaeth yma heddiw, sef y drafodaeth gyhoeddus gyntaf, lawn ar y Bil yma, a Thrydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ddiwedd y broses a bod y Bil wedi pasio, i ddiwygio'r Bil yma'n ddigonol fel y gall fod yn ddeddfwriaeth gyfansoddiadol lawn i newid amgylchiadau Cymru. Rwy'n meddwl bod yna ddigon o hadau yn y Bil yma i hynny ddigwydd. Rwy'n ffeindio, er enghraifft - a dim ond un enghraifft a chwestiwn byr - gydnabyddiaeth o gyfraith Cymru. Wel, rydym yn gwybod bod yna gyfraith Cymru achos rydym yn ei gwneud fan hyn. Felly, diolch yn fawr San Steffan am gydnabod bod y fath beth â chyfraith Cymru. Ond mae'n rhaid inni symud ymhellach na hyn. Felly, a allwch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi'n bwriadu adrodd yn ôl ar eich trafodaethau diddorol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod rhwng beth rydym yn ei wneud heddiw a diwedd y broses seneddol yma er mwyn inni gyrraedd lle yr wyf i a chithau eisiau cyrraedd, rwy'n gwybod: cael Deddf weddol derfynol, gweddol glir, fel ein bod ni ddim yn dod yn ôl i ddeddfu ar gyfansoddiad Cymru bob tair blynedd? |
Well, may I thank you for the question? It's true to say that there is a sufficient opportunity here to create a sustainable constitutional settlement. This Bill goes some of the way towards that, but not the whole way. To me, what's important is that the United Kingdom Government accepts that there are constitutional issues that need to be settled. As I said earlier, I will write to the Secretary of State. I will make sure that the leaders of this house see that letter, and of course any response. It's important that Members know what the journey of the negotiations over the next few weeks, given that the timetable is going to be very short. | Wel, a gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mae'n wir i ddweud bod yna gyfle fan hyn i greu setliad cyfansoddiadol cynaliadwy. Mae'r Bil yn mynd peth o'r ffordd tuag at hynny, ond nid yr holl ffordd. I fi, beth sy'n bwysig yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod yna faterion yn y Mesur ar hyn o bryd sydd eisiau cael eu datrys. Fel gwnes i sôn amdano yn gynharach, byddaf i'n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwnaf yn siŵr y bydd yr arweinwyr yn y tŷ hwn yn gweld y llythyr hynny, ac wrth gwrs unrhyw ymateb. Mae'n bwysig dros ben bod Aelodau yn gwybod beth yw taith y drafodaeth dros yr wythnosau nesaf, gan fod yr amserlen yn mynd i fod yn fyr iawn. |
I'm delighted, as the First Minister is, to give a very cautious welcome to this step forward, but it does seem as if it's always a slightly hesitant step, slightly catching up with where we should be. So, I would certainly urge the First Minister - and I think it seems to be the will of the Chamber today - to push hard in the negotiations, to work with colleagues in Westminster, not only with the Wales Office, but with other colleagues, to try and get more out of this, because, certainly, he was at the forefront, when the last Wales Bill came forward, of criticism amongst Welsh civic society and others. It was unloved, it was undernourished, and ultimately it was abandoned in the constitutional wilderness. This is an opportunity, as the gentleman opposite who also has experience of Westminster has just remarked, to actually make something good for the people of Wales, not just for the good of saving the embarrassment of Wales Office Ministers. I would give him my strongest support in taking that message forward, because there is good in this Bill, but it's nowhere near where it needs to be yet. | Rwy'n falch iawn, fel y Prif Weinidog, o roi croeso gofalus iawn i'r cam hwn ymlaen, ond mae'n ymddangos fel pe bai bob amser yn gam ychydig yn betrusgar, prin yn dal i fyny â lle dylem fod. Felly, byddwn yn sicr yn annog y Prif Weinidog - ac rwy'n credu ei bod yn ymddangos mai dyma ewyllys y Siambr heddiw - i wthio'n galed yn y trafodaethau, i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan, nid yn unig gyda Swyddfa Cymru, ond gyda chydweithwyr eraill, i geisio cael mwy allan o hyn, oherwydd, yn sicr, roedd ar flaen y gad, pan ymddangosodd y Bil Cymru diwethaf, o ran y feirniadaeth ymhlith y gymdeithas ddinesig yng Nghymru ac eraill. Nid oedd neb yn hoff ohono, roedd yn dioddef o ddiffyg maeth, ac yn y pen draw, cafodd ei adael yn yr anialwch cyfansoddiadol. Mae hwn yn gyfle, fel y mae'r gŵr bonheddig gyferbyn sydd hefyd â phrofiad o San Steffan newydd ei ddweud, i wneud rhywbeth da i bobl Cymru, nid yn unig er mwyn arbed embaras Gweinidogion Swyddfa Cymru. Byddwn yn ei gefnogi i'r eithaf i fwrw iddi gyda'r neges honno, gan fod pethau da yn y Bil hwn, ond nid yw'n agos at ble mae angen iddo fod eto. |
Can I thank the Member for his comments? The difficulty with the last Bill was that, basically, the Secretary of State wrote around to other Whitehall departments and said, 'What do you think should be devolved?' Now, they must have thought Christmas had come at that point, and we had the Bill that we had, that ignored even what had happened in 2011, with the resounding referendum result. That's why we ended up with that Bill. This Bill has reflected on the two major constitutional issues - the consents issue and the issue of legislation and our ability to create legislation freely. That's been done, and I welcome that. So, the structure of it is far more secure than the structure of the previous Bill, but there's a lot of work to do on the detail. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Yr anhawster gyda'r Bil diwethaf, yn y bôn, oedd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ysgrifennu at adrannau eraill Whitehall a dweud, 'Beth ddylid ei ddatganoli yn eich barn chi?' Nawr, rhaid eu bod wedi meddwl ei bod hi'n Nadolig ar y pwynt hwnnw, a chawsom y Bil a gawsom, Bil a oedd yn anwybyddu hyd yn oed yr hyn a oedd wedi digwydd yn 2011 gyda chanlyniad ysgubol y refferendwm. Dyna pam ein bod wedi cael y Bil hwnnw. Mae'r Bil hwn wedi myfyrio ar y ddau brif fater cyfansoddiadol - mater caniatadau a mater deddfwriaeth a'n gallu i greu deddfwriaeth yn rhydd. Mae hynny wedi'i wneud, a chroesawaf hynny. Felly, mae ei strwythur yn llawer mwy diogel na strwythur y Bil blaenorol, ond mae llawer o waith i'w wneud ar y manylion. |
Can I welcome the tone of the First Minister, and also his ambition to work with the UK Government to actually now achieve a very comprehensive piece of constitutional law? Should this Bill proceed to the statute book, it will be the fourth Wales Act in 20 years, and I think I've said before that most people don't change their cars as quickly as that, so to have such frequent changes in fundamental constitutional law is obviously not particularly to be recommended. Can I warmly welcome the end of the necessity test? I did, in the speech on the Constitutional and Legislative Affairs report in this Chamber in March - sorry, in January - point out that the Americans dealt with this sort of concept in 1819 and moved on and achieved great stability in their constitution by not acknowledging such tests. I also welcome the fact that the Secretary of State has reduced the number of reservations. This is welcome. We did have over 250 - it was very difficult, actually, to count them - but we now are, I think, just about below 200. But, I would recommend that we go back to the fundamental concept of a reserved-powers model, and that's to reserve to the central Government the powers it needs to function - and I use 'central Government' in this context to mean the UK Government. As you hinted, I think the approach has been the other way around in Whitehall, and it needs to change, so that they really acknowledge the durability, the permanence of the devolved settlement. There are still too many reservations and the principle we need to apply has not been yet fully applied. Your illustration was most apposite in relation to licensing. Frankly, if you cannot allow a national legislature to deal with licensing, and you think that's a fundamental problem, then I think you've got great difficulty with the way you approach the whole constitutional question at hand. Can I finally say that I do think that part of being a grown-up is to live with paradox? It's a constant challenge. But, it is difficult to understand that the output of this legislature is the law of England and Wales, when it is obviously the law of Wales only. Now, that is the position, and trying to explain the legal technicalities of how we make law, I think, is highly convoluted, and it cannot lead to clear thinking. But I just want to make a practical point here, because I think the First Minister's words are to be warmly welcomed, indicating he's going to work with the UK Government to clarify this attempt to make Welsh law more distinct and manage the administrative, the practical, consequences of a growing body of distinct Welsh law. And it does come down to having judges who are competently trained to take cases now in Wales, and the lawyers who argue those cases as well. This is not a trivial matter, because our law is going to get more and more divergent, and over very, very important issues - someone referred earlier in questioning to our new planning law - so this has to be done. And I should say that, as we go down that road, and in fairness to the legal profession they've already acknowledged this, the reality of the separation that is now occurring will become more and more difficult to ignore. I suppose at that point we will all acknowledge that we have arrived at a separate jurisdiction. | A gaf fi groesawu tôn y Prif Weinidog, a hefyd ei uchelgais i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni darn cynhwysfawr iawn o gyfraith gyfansoddiadol yn awr? Os aiff y Bil hwn ymlaen i'r llyfr statud, dyma fydd y bedwaredd Ddeddf Cymru mewn 20 mlynedd, ac rwy'n meddwl fy mod wedi dweud o'r blaen nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn newid eu ceir mor gyflym â hynny, felly nid yw cael newidiadau mor aml mewn cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn rhywbeth i'w argymell yn arbennig, yn amlwg. A gaf fi roi croeso cynnes i ddiwedd y prawf angenrheidrwydd? Yn yr araith ar yr adroddiad Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Siambr hon ym mis Mawrth - mae'n ddrwg gennyf, ym mis Ionawr - nodais fod yr Americanwyr wedi ymdrin â'r math hwn o gysyniad yn 1819 ac wedi symud ymlaen i sicrhau sefydlogrwydd mawr yn eu cyfansoddiad drwy beidio â chydnabod profion o'r fath. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi lleihau'r nifer o gymalau cadw. Mae hyn i'w groesawu. Roedd gennym dros 250 - roedd yn anodd iawn eu cyfrif, mewn gwirionedd - ond yn awr, rwy'n meddwl mai ychydig o dan 200 sydd gennym. Ond byddwn yn argymell ein bod yn mynd yn ôl at y cysyniad sylfaenol o fodel cadw pwerau, sef neilltuo i Lywodraeth ganolog y pwerau sydd eu hangen arno i weithredu - ac rwy'n defnyddio 'Llywodraeth ganolog' yn y cyd-destun hwn i olygu Llywodraeth y DU. Fel yr awgrymoch, rwy'n credu mai mynd ati o'r cyfeiriad arall a wnaeth Whitehall, ac mae angen i hynny newid, er mwyn iddynt gydnabod cadernid a pharhauster y setliad datganoledig mewn gwirionedd. Mae gormod o gymalau cadw o hyd, ac nid yw'r egwyddor sydd angen i ni ei chymhwyso wedi'i chymhwyso'n llawn hyd yma. Roedd eich disgrifiad yn hynod o briodol mewn perthynas â thrwyddedu. A dweud y gwir, os na allwch ganiatáu i ddeddfwrfa genedlaethol ymdrin â thrwyddedu, a'ch bod yn credu bod yna broblem sylfaenol, yna rwy'n meddwl bod gennych anhawster mawr gyda'r ffordd rydych yn ymateb i'r cwestiwn cyfansoddiadol dan sylw yn ei gyfanrwydd. A gaf fi ddweud i gloi fy mod yn credu mai rhan o fod yn oedolyn yw byw gyda pharadocs? Mae'n her barhaus. Ond mae'n anodd deall mai allbwn y ddeddfwrfa hon yw cyfraith Cymru a Lloegr, pan fo'n amlwg mai cyfraith Cymru yn unig yw hi. Nawr, dyna'r sefyllfa, ac rwy'n meddwl bod ceisio egluro materion technegol cyfreithiol y modd rydym yn llunio cyfraith yn astrus iawn, ac ni all arwain at feddwl clir. Ond rwyf am wneud pwynt ymarferol yma, oherwydd rwy'n meddwl bod geiriau'r Prif Weinidog i'w croesawu'n gynnes, ac yn dangos ei fod yn mynd i weithio gyda Llywodraeth y DU i egluro'r ymgais hon i wneud cyfraith Cymru yn fwy penodol a rheoli canlyniadau gweinyddol ac ymarferol corff cynyddol o gyfraith benodol Gymreig. Ac mae'n fater o gael barnwyr sydd wedi'u hyfforddi'n gymwys i glywed achosion yn awr yng Nghymru, a'r cyfreithwyr sy'n dadlau'r achosion hynny hefyd. Nid yw hwn yn fater dibwys, gan fod ein cyfraith yn mynd i fod yn fwyfwy gwahanol, a thros faterion hynod o bwysig - cyfeiriodd rhywun yn gynharach yn y cwestiynau at ein deddf gynllunio newydd - felly mae'n rhaid i hyn gael ei wneud. A dylwn ddweud, wrth i ni fynd ar hyd y llwybr hwnnw, ac er tegwch i'r proffesiwn cyfreithiol, maent eisoes wedi cydnabod hyn, bydd yn gynyddol anodd i ni anwybyddu realiti'r gwahanu sydd bellach yn digwydd. Ar y pwynt hwnnw rwy'n tybied y byddwn oll yn cydnabod ein bod wedi cyrraedd awdurdodaeth ar wahân. |
Can I thank the Member, as ever, for his comments? One of the issues that's been raised of concern with me is lawyers in Wales saying, 'Well, if we're a separate jurisdiction, does that mean we won't be able to practise in England?' That isn't the case. It's quite normal for lawyers to practise across common law jurisdictions. When I was in practice, it was possible to practise in Northern Ireland as long as you joined the Northern Ireland bar, which was £70, I think, in those days, and then you could practise. As long as you joined the appropriate professional association, there was no bar to practice at all. Scotland's an entirely different matter, as Scottish law is much closer to the law of Germany, Spain or France, for that matter, than it is to the law of England, Wales and Northern Ireland. So, there is no bar to that and nor would I want to create a situation where it was difficult for Welsh law firms to seek work outside of Wales. That's important for our economy. That's not what a jurisdiction does. It just makes it easier for laws to be applied and easier for the public to understand them, but certainly it doesn't make it more difficult for firms to operate. For example, over the past 10 or 15 years in Belfast, a lot of firms from London have moved in, and Northern Ireland is an entirely separate jurisdiction. They haven't seen that as a bar to practising in Northern Ireland. So, I think that's an argument that can be resolved, as far as the legal profession is concerned. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod, fel erioed, am ei sylwadau? Un o'r materion a godwyd sy'n peri pryder i mi yw cyfreithwyr yng Nghymru yn dweud, 'Wel, os ydym yn awdurdodaeth ar wahân, a yw hynny'n golygu na fyddwn yn gallu ymarfer yn Lloegr?' Nid yw hynny'n wir. Mae'n gwbl arferol i gyfreithwyr ymarfer ar draws awdurdodaethau cyfraith gyffredin. Pan oeddwn yn ymarfer, roedd yn bosibl ymarfer yng Ngogledd Iwerddon cyn belled â'ch bod yn ymuno â bar Gogledd Iwerddon, a oedd yn £70, rwy'n meddwl, yn y dyddiau hynny, ac yna gallech ymarfer. Cyn belled â'ch bod yn ymuno â'r gymdeithas broffesiynol briodol, nid oedd unrhyw rwystr i ymarfer o gwbl. Mae'r Alban yn fater hollol wahanol, gan fod cyfraith yr Alban yn llawer agosach at gyfraith yr Almaen, Sbaen neu Ffrainc, o ran hynny, nag ydyw i gyfraith Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, nid oes rhwystr i hynny ac ni fyddwn am greu sefyllfa lle byddai'n anodd i gwmnïau cyfreithwyr o Gymru gael gwaith y tu allan i Gymru. Mae hynny'n bwysig i'n heconomi. Nid dyna y mae awdurdodaeth ei wneud. Mae'n ei gwneud yn haws cymhwyso deddfau ac yn haws i'r cyhoedd eu deall, ond yn sicr nid yw'n ei gwneud yn anos i gwmnïau weithredu. Er enghraifft, dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf yn Belfast, mae llawer o gwmnïau o Lundain wedi symud i mewn, ac mae Gogledd Iwerddon yn awdurdodaeth hollol ar wahân. Nid ydynt wedi gweld hynny'n rhwystr i ymarfer yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rwy'n credu bod honno'n ddadl y gellir ei datrys, o ran y proffesiwn cyfreithiol. |
I welcome the changes in the new draft Bill. I don't think it goes far enough, but I think there has been some progress, so it's a cautious welcome. I have a few quick questions. I think there's been general welcome that electoral arrangements are going to be devolved to this Assembly, and I'm looking forward to the time when the Assembly may vote for votes for 16 and 17-year-olds for the Assembly elections. I think that's one of the great things in the Bill that we shouldn't forget: that we will have that power. Can I ask the First Minister, would it give us the power to enable local authorities to have votes for 16 and 17-year-olds? So, I also wondered if the First Minister could answer that question. On the policing issue, I think it's very disappointing that there's been no movement on the policing issue and I would ask the First Minister to do everything within his power during the negotiating period for this Bill to try to change the minds of the Westminster Government because it is inexplicable, especially in view of the fact that all of the other devolved bodies have had it devolved. Finally, I wondered if he could address the issue of youth justice. As I understand it at the moment, the Welsh Government is responsible for youth justice services, but not the youth justice system, which I think is very confusing and is something that could, presumably, be clarified quite simply. Is it possible to do that in the negotiations over this Bill? | Rwy'n croesawu'r newidiadau yn y Bil drafft newydd. Nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell, ond rwy'n meddwl bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, felly mae'n groeso gofalus. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym. Rwy'n meddwl bod croeso cyffredinol i'r ffaith fod trefniadau etholiadol yn mynd i gael eu datganoli i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at yr amser pan fydd modd i'r Cynulliad bleidleisio dros bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed yn etholiadau'r Cynulliad. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau gwych yn y Bil na ddylem ei anghofio: y bydd gennym y pŵer hwnnw. A gaf fi ofyn hyn i'r Prif Weinidog: a fyddai'n rhoi'r pŵer i ni alluogi awdurdodau lleol i gael pleidleisiau i rai 16 a 17 oed? Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw hefyd. O ran mater plismona, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn nad oes unrhyw symud wedi bod ar fater plismona a byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog wneud popeth yn ei allu yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer y Bil hwn i geisio newid meddyliau Llywodraeth San Steffan gan nad oes esboniad drosto, yn enwedig o ystyried y ffaith fod plismona wedi'i ddatganoli i bob un o'r cyrff datganoledig eraill. Yn olaf, tybed a allai fynd i'r afael â mater cyfiawnder ieuenctid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond nid y system cyfiawnder ieuenctid, a chredaf fod hynny'n ddryslyd iawn ac yn rhywbeth y gellid ei wneud yn gliriach yn syml iawn, yn ôl pob tebyg. A yw'n bosibl gwneud hynny yn y trafodaethau ar y Bil hwn? |
Could I thank the Member for her comments? She's always been a doughty advocate, of course, for votes for 16 and 17-year-olds. That would lie within the power of this Assembly in terms of Assembly elections. In terms of local government elections, my memory of the last Bill, certainly, was that the local government franchise was reserved. Whether that's been clarified in this Bill I'd have to examine. It's clear as far as we're concerned, but it's not clear as far as local government elections are concerned. I welcome her comments, obviously, on policing. On youth justice, yes, the policy and the system should rest together to my mind and we'll continue to make that case to the UK Government. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Mae hi bob amser wedi bod yn bybyr ei chefnogaeth, wrth gwrs, i bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed. Byddai hynny o fewn pŵer y Cynulliad hwn o ran etholiadau'r Cynulliad. O ran etholiadau llywodraeth leol, o'r hyn a gofiaf am y Bil diwethaf, yn sicr, roedd etholfraint llywodraeth leol yn fater a gadwyd yn ôl. Byddai'n rhaid i mi edrych i weld a yw hynny wedi'i wneud yn gliriach yn y Bil hwn. Mae'n glir o'n rhan ninnau, ond nid yw'n glir o ran etholiadau llywodraeth leol. Yn amlwg, rwy'n croesawu ei sylwadau ar blismona. Ar gyfiawnder ieuenctid, dylai'r polisi a'r system fod gyda'i gilydd yn fy marn i a byddwn yn parhau i ddadlau dros hynny gyda Llywodraeth y DU. |
Thank you, First Minister. I think some of the issues in the Wales Bill, which we're all discussing and we seem to think are very important, to the majority of the people of Wales are not really issues that they're concerned about. The one big issue that almost everybody is going to be concerned about, and I myself have a fear about, is the tax-raising powers and the possibility of those without a referendum. In 2011, when we had the referendum on further powers, we were told then that is was not about more AMs and it was not about tax-raising powers: it was a tidying-up exercise. We now find ourselves being told that the two Governments - the Government here and the Government in Westminster - have a cosy consensus between them and that they've decided that we don't really need to put this before the people of Wales. Well, Leanne Wood herself has just mentioned that the will of the people of Wales must be adhered to, and Andrew R.T. Davies talked about the fact that here, this house, must speak with one voice. This house does not speak with one voice. There are seven UKIP AMs and we do not agree - [Interruption.] We do not agree that there should be tax-raising powers without a referendum. Next year, there is an election in every single household in Wales, for the councils. In 2017, every council election is up for grabs. If you want to save money, if you want to be democratic and you want to give the people of Wales a say on this crucial matter, why not have a referendum at the exact same time and allow the people of Wales to have their say? Do we want this Government here to have power over their purses and wallets? I personally don't. | Diolch yn fawr, Brif Weinidog. I'r rhan fwyaf o bobl Cymru, rwy'n credu nad yw rhai o'r materion ym Mil Cymru, materion rydym i gyd yn eu trafod ac yr ymddengys ein bod yn meddwl eu bod yn bwysig iawn, yn faterion y maent yn pryderu yn eu cylch go iawn. Yr un mater pwysig y mae bron bawb yn mynd i fod yn bryderus amdano, a'r mater rwy'n ei ofni, yw'r pwerau codi trethi a'r posibilrwydd o'u cael heb refferendwm. Yn 2011, pan gawsom y refferendwm ar bwerau pellach, dywedwyd wrthym bryd hynny nad oedd yn ymwneud â chael mwy o ACau ac nid oedd yn ymwneud â phwerau codi trethi: ymarfer tacluso ydoedd. Yn awr cawn wybod bod gan y ddwy Lywodraeth - y Llywodraeth yma a'r Llywodraeth yn San Steffan - gonsensws cysurus rhyngddynt a'u bod wedi penderfynu nad oes gwir angen i ni gyflwyno hyn gerbron pobl Cymru. Wel, mae Leanne Wood ei hun newydd sôn bod yn rhaid glynu at ewyllys pobl Cymru, a siaradodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fod yn rhaid i'r tŷ hwn siarad ag un llais. Nid yw'r tŷ hwn yn siarad ag un llais. Mae saith AC UKIP yma ac nid ydym yn cytuno - [Torri ar draws.] Nid ydym yn cytuno y dylid cael pwerau codi trethi heb refferendwm. Y flwyddyn nesaf, ceir etholiad i bob aelwyd yng Nghymru, ar gyfer y cynghorau. Yn 2017, mae etholiad ar gyfer pob cyngor. Os ydych am arbed arian, os ydych am fod yn ddemocrataidd a'ch bod am roi llais i bobl Cymru ar y mater hollbwysig hwn, pam na chawn ni refferendwm ar yr un pryd yn union a chaniatáu i bobl Cymru leisio'u barn? A ydym am i'r Llywodraeth hon yma gael pŵer dros eu pyrsau a'u waledi? Nid wyf fi yn bersonol am weld hynny. |
Well, it was the people who've elected us here. I stood on the manifesto in my constituency including policies on income tax-varying powers and got elected as did - [Interruption.] I got elected, at the end of the day, in my constituency. [Laughter.] And, all Members, indeed, were elected here. But, the point is this: the people of Wales were asked their view on this last month and they expressed their view. Your party had seven seats - yes, that's true - but there are 60 Members here and so there was not a groundswell of massive support for your party, even though I recognise that you did, of course, increase your support and it is evident in the fact that there are seven of you here. I have to say, of course, that your party does not have a sound history of supporting devolution. You and I were together in Blackwood in the 2011 referendum and you opposed the primary law-making powers at that time. Your party, for the first three Assembly elections, at least, opposed the existence of the Assembly. Now, there's been a change. Okay, I will grant that. But, I know that for many of your members the very existence of the Assembly is not something that they're comfortable with. Lord knows, we saw many of the letters that some of them sent over the years into some of the newspapers: they weren't particularly happy with the Assembly, Wales or the Welsh language. That's changed. I accept the point that you make today that you are looking to develop a devolution settlement that is more robust, but the point I make is this: in Scotland, there has not been a referendum and nor has UKIP called for a referendum on the extensive tax-varying powers that Scotland will get. In Northern Ireland, where corporation tax is being devolved, again, UKIP have not called for a referendum in Northern Ireland. So, what makes Wales different, especially given the fact that all parties in their manifestos dealt with this issue, and the people of Wales decided that they wished to support parties - overwhelmingly support the parties - that would look to see tax-varying powers devolved, and particularly look to make sure that those powers, when they arrive, are used prudently? But, I say to him again: no tax-varying powers, no M4 relief road; there is no way of having one without the other. | Wel, y bobl sydd wedi ein hethol ni yma. Sefais ar y maniffesto yn fy etholaeth gan gynnwys polisïau ar bwerau amrywio treth incwm a chefais fy ethol fel y cafodd - [Torri ar draws.] Cefais fy ethol, yn y pen draw, yn fy etholaeth. [Chwerthin.] Ac etholwyd pob Aelod yma, yn wir. Ond y pwynt yw hwn: gofynnwyd i bobl Cymru am eu barn ar hyn y mis diwethaf ac maent wedi mynegi eu barn. Cafodd eich plaid saith sedd - do, mae hynny'n wir - ond mae 60 o Aelodau yma felly ni chafwyd ymchwydd o gefnogaeth enfawr i'ch plaid, er fy mod yn cydnabod eich bod, wrth gwrs, wedi cynyddu eich cefnogaeth ac mae'n amlwg yn y ffaith fod yna saith ohonoch yma. Rhaid i mi ddweud, wrth gwrs, nad oes gan eich plaid hanes cadarn o gefnogi datganoli. Roeddech chi a minnau gyda'n gilydd yn y Coed Duon yn ystod refferendwm 2011 ac roeddech yn gwrthwynebu pwerau deddfu sylfaenol ar y pryd. Roedd eich plaid, dros dri etholiad cyntaf y Cynulliad, o leiaf, yn gwrthwynebu bodolaeth y Cynulliad. Nawr, mae newid wedi bod. Iawn, rwy'n derbyn hynny. Ond i lawer o'ch aelodau, gwn nad yw bodolaeth y Cynulliad ynddo'i hun yn rhywbeth y maent yn gyfforddus ag ef. Duw a ŵyr, gwelsom lawer o'r llythyrau a anfonodd rhai ohonynt dros y blynyddoedd i rai o'r papurau newydd: nid oeddent yn arbennig o hapus gyda'r Cynulliad, Cymru na'r iaith Gymraeg. Mae hynny wedi newid. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch heddiw eich bod yn ceisio datblygu setliad datganoli sy'n fwy cadarn, ond y pwynt rwy'n ei wneud yw hyn: yn yr Alban, ni fu refferendwm ac nid yw UKIP wedi galw am refferendwm ychwaith ar y pwerau eang y bydd yr Alban yn eu cael i amrywio trethi. Yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'r dreth gorfforaeth yn cael ei datganoli, unwaith eto, nid yw UKIP wedi galw am refferendwm yng Ngogledd Iwerddon. Felly, beth sy'n gwneud Cymru yn wahanol, yn enwedig o ystyried y ffaith fod pob plaid yn eu maniffestos wedi ymdrin â'r mater hwn, a bod pobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno cefnogi pleidiau - a hynny gyda mwyafrif llethol - a fyddai'n dymuno gweld pwerau amrywio trethi wedi'u datganoli, ac a fyddai'n mynd ati'n benodol i wneud yn siŵr fod y pwerau hynny, pan fyddant yn cyrraedd, yn cael eu defnyddio'n ddoeth? Ond rwy'n dweud wrtho eto: heb bwerau amrywio trethi, ni chawn ffordd liniaru'r M4; nid oes unrhyw ffordd o gael un heb y llall. |
Llywydd, this Assembly was recalled during the pre-election period, partly at my request, but essentially to recognise the intense concern of steel communities across Wales and, indeed, all of us in this Chamber about the future of Tata's plants. Since then, I've had many discussions with Tata, the UK Government, trade unions and potential buyers and investors. Today, I wish to update the Chamber on the state of play and the progress that's being made. Members know that I went to Mumbai a couple of weeks ago to continue my dialogue with Tata about the sales process. Throughout this process, my primary concern has been for the Tata workforce, the steel communities and the need to secure a long-term and sustainable steel industry for the whole Tata operation in Wales. This is the case I've pressed consistently and directly with Tata's senior leaders. Members will understand very readily that commercial confidentiality limits what can be said in any detail, but I can confirm that our discussions have been constructive and significant, and Tata's position remains that its priority is to conduct a sales process that secures a positive outcome. And Tata is now in the process of evaluating the offers it has received. Now, whatever decision is reached by Tata, we stand ready to support any bidders going through to the next stage that will see jobs and sustainable steel production remain in Wales. Last Wednesday, we saw the launch of British Steel, following Greybull Capital's purchase of Tata's European long products division, primarily based in Scunthorpe. That offers some solid grounds for confidence that there is a viable future for steel making in Wales and the UK more widely, and that's what the Welsh Government, and indeed this Assembly, has been saying all along. This morning, the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure attended his first meeting of the UK Government's Steel Council. The work of the Steel Council is being taken forward through four working groups that are considering not only how we respond to the current steel crisis, but the long-term sustainability of steel making. Our officials are in daily contact with the UK Government and also attend the Steel Council's four work streams. In the meantime, the work of our Tata Steel taskforce continues; it held its most recent meeting on 9 May. Support and advice is being provided by Jobcentre Plus, working closely with Tata, Careers Wales, the Welsh Government and other partners. There's been a positive response to awareness sessions, with about 300 attending so far. A jobs fair was held on 28 April, attended by 38 high- calibre employees, and planning for a further jobs fair is under way. Union representatives were positive about the support provided to date. The taskforce recognises there will be a need for continuing communication with former employees over the coming months, as some individuals may not want to immediately take up offers of support. Further advice sessions are planned for June and July, and these will be opened up to the supply chain as appropriate. The taskforce's work streams also continue their work actively. The health work stream is assessing evidence on what impact there will be on primary and community services. Community workshops are also planned to provide information about the support available to those affected by redundancy and wider family members. The training and skills, and business and supply chain work streams are also working closely together, also linking, of course, to the work of the health work stream. It's helping to ensure full consideration is being given to support for individuals working in the supply chain, as well as Tata's direct employees. Llywydd, Business Wales is currently working with 60 of Tata's key supplier companies on a one-to-one basis, and is bringing in wider support, including skills and training support as necessary. Could I turn to procurement? On procurement, we are continuing to analyse the Wales infrastructure investment plan, which provides visibility of our priority programme and projects, to establish a forecast of future steel requirements. This will be published shortly to provide clarity on those requirements. Work is also well progressed to strengthen our procurement policy, which will clarify the importance of opening up opportunities for UK steel suppliers. In our transport contract documents, we've pushed matters still further where the use of UK steel is concerned. Not only do we state that the contractor must ensure that materials used by them and their subcontractors comply with the requirements of BES 6001, but we've also explicitly stated that there is an expectation from the Welsh Government that the contractor will not use dumped steel from overseas markets for any steel used on the project. Moving to other areas of support, we've delivered the enterprise zone in Port Talbot. This follows helpful discussions with Neath Port Talbot council, the business community, and the taskforce, drawing on the expertise of the private sector through the enterprise zone board, chaired by Roger Maggs, whose special contribution I would like to note publicly. Llywydd, steelworkers do their work in tough conditions, and a secure pension is a vital benefit. The UK Government launched a consultation on 26 May on options for providing security for the British Steel pension scheme. Pensions are not devolved, but I am absolutely clear that the integrity of the pension scheme must be protected, and the trustees, Tata, and the UK Government must work together to secure a fair and proper outcome for scheme members. Llywydd, this Government remains absolutely committed to doing everything possible to secure a successful outcome to Tata's sale process. This is a priority for all of us, and I'm grateful for the substantial cross-party support for our steel communities, and I will, of course, continue to keep Members updated. | Lywydd, cafodd y Cynulliad hwn ei ailymgynnull yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, yn rhannol ar fy nghais i, ond yn ei hanfod, i gydnabod y pryderon dwys sydd gan gymunedau dur ledled Cymru ac yn wir, pob un ohonom yn y Siambr hon ynghylch dyfodol gweithfeydd Tata. Ers hynny, rwyf wedi cael llawer o drafodaethau gyda Tata, Llywodraeth y DU, undebau llafur a phrynwyr a buddsoddwyr posibl. Heddiw, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y sefyllfa fel y mae a'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Mae'r Aelodau'n gwybod fy mod wedi bod yn Mumbai ychydig wythnosau yn ôl i barhau fy neialog gyda Tata ynglŷn â'r broses werthu. Trwy gydol y broses hon, fy mhrif bryder yw gweithlu Tata, y cymunedau dur a'r angen i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy ar gyfer holl weithrediadau Tata yng Nghymru. Dyma'r achos rwyf wedi'i gyflwyno'n gyson ac yn uniongyrchol i uwch arweinwyr Tata. Bydd yr Aelodau'n deall yn iawn fod cyfrinachedd masnachol yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei ddweud mewn unrhyw fanylder, ond gallaf gadarnhau bod ein trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac yn arwyddocaol, a safbwynt Tata o hyd yw mai ei flaenoriaeth yw cynnal proses werthu sy'n sicrhau canlyniad cadarnhaol. Ac mae Tata bellach yn y broses o werthuso'r cynigion y mae wedi'u cael. Nawr, pa benderfyniad bynnag a wneir gan Tata, rydym yn barod i gefnogi unrhyw gynigwyr sy'n mynd drwodd i'r cam nesaf a fydd yn arwain at gadw swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yng Nghymru. Ddydd Mercher diwethaf, gwelsom lansio British Steel, wedi i Greybull Capital brynu is-adran cynhyrchion hir Ewropeaidd Tata, sydd wedi'i leoli'n bennaf yn Scunthorpe. Mae hynny'n cynnig rhai rhesymau cadarn dros fod yn hyderus fod yna ddyfodol hyfyw i wneud dur yng Nghymru a'r DU yn ehangach, a dyna y mae Llywodraeth Cymru, ac yn wir y Cynulliad hwn, wedi bod yn ei ddweud ar hyd yr amser. Y bore yma, mynychodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ei gyfarfod cyntaf o Gyngor Dur Llywodraeth y DU. Mae gwaith y Cyngor Dur yn cael ei ddatblygu drwy bedwar gweithgor sy'n ystyried nid yn unig sut rydym yn ymateb i'r argyfwng dur presennol, ond cynaliadwyedd hirdymor gwneud dur. Mae ein swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â Llywodraeth y DU a hefyd yn mynychu pedair ffrwd waith y Cyngor Dur. Yn y cyfamser, mae gwaith ein tasglu Tata Steel yn parhau; cynhaliodd ei gyfarfod diweddaraf ar 9 Mai. Darperir cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith, gan weithio'n agos gyda Tata, Gyrfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Cafwyd ymateb cadarnhaol i'r sesiynau ymwybyddiaeth, gyda thua 300 yn mynychu hyd yn hyn. Ar 28 Ebrill, cynhaliwyd ffair swyddi a fynychwyd gan 38 o weithwyr o galibr uchel, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer ffair swyddi arall. Roedd cynrychiolwyr undebau yn gadarnhaol ynglŷn â'r cymorth a ddarparwyd hyd yn hyn. Mae'r tasglu yn cydnabod y bydd angen cyfathrebu'n barhaus â chyn-weithwyr dros y misoedd nesaf, gan na fydd rhai unigolion yn awyddus i dderbyn cynigion o gymorth ar unwaith. Cynlluniwyd sesiynau cyngor pellach ar gyfer mis Mehefin a mis Gorffennaf, a bydd y rhain yn cael eu hagor i'r gadwyn gyflenwi fel y bo'n briodol. Mae ffrydiau gwaith y tasglu hefyd yn parhau â'u gwaith. Mae'r ffrwd waith iechyd yn asesu tystiolaeth ar ba effaith a geir ar wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Cynlluniwyd gweithdai cymunedol hefyd i ddarparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'r rhai yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gael eu diswyddo ac aelodau o'r teuluoedd ehangach. Mae'r ffrydiau gwaith hyfforddiant a sgiliau, a busnes a'r gadwyn gyflenwi hefyd yn gweithio'n agos gyda'i gilydd, gan gysylltu hefyd, wrth gwrs, â gwaith y ffrwd waith iechyd. Mae'n helpu i sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i gymorth ar gyfer unigolion sy'n gweithio yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â gweithwyr uniongyrchol Tata. Lywydd, mae Busnes Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda 60 o brif gwmnïau cyflenwi Tata ar sail un i un, ac mae'n dod â chefnogaeth ehangach i mewn, gan gynnwys cymorth sgiliau a hyfforddiant yn ôl yr angen. A gaf fi droi at gaffael? O ran caffael, rydym yn parhau i ddadansoddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, sy'n darparu gwelededd i'n rhaglen a'n prosiectau blaenoriaeth, er mwyn sefydlu rhagolwg o'r angen am ddur yn y dyfodol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir i ddarparu eglurder ynghylch y gofynion hynny. Mae gwaith hefyd wedi symud ymlaen yn dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU. Yn ein dogfennau contract cludiant, rydym wedi gwthio pethau ymhellach eto o ran y defnydd o ddur y DU. Nid yn unig ein bod yn datgan bod yn rhaid i gontractwr sicrhau bod y deunyddiau sy'n cael eu defnyddio ganddo a'i is-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion BES 6001, ond rydym hefyd wedi datgan yn benodol fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd contractwr yn defnyddio dur wedi'i ddympio o farchnadoedd tramor ar gyfer unrhyw ddur sy'n cael ei ddefnyddio ar y prosiect. Gan symud i feysydd eraill o gefnogaeth, rydym wedi cyflwyno'r ardal fenter ym Mhort Talbot. Daw hyn yn sgil trafodaethau defnyddiol gyda chyngor Castell-nedd Port Talbot, y gymuned fusnes, a'r tasglu, gan bwyso ar arbenigedd y sector preifat drwy fwrdd yr ardal fenter, a gadeirir gan Roger Maggs, a hoffwn nodi ei gyfraniad arbennig yn gyhoeddus. Lywydd, mae gweithwyr dur yn gwneud eu gwaith mewn amodau anodd, ac mae pensiwn diogel yn fudd hanfodol. Lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar 26 Mai ar opsiynau ar gyfer darparu diogelwch i gynllun pensiwn Dur Prydain. Nid yw pensiynau wedi'u datganoli, ond rwy'n gwbl glir fod yn rhaid diogelu uniondeb y cynllun pensiwn, a rhaid i'r ymddiriedolwyr, Tata a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd i sicrhau canlyniad teg a phriodol i aelodau'r cynllun. Lywydd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud popeth posibl i sicrhau canlyniad llwyddiannus i broses werthu Tata. Mae hon yn flaenoriaeth i ni i gyd, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i'n cymunedau dur, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i sicrhau bod yr Aelodau'n parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf. |
Thank you, First Minister, for an advance copy of the statement. The UK Government is reportedly putting significant pressure on Tata to reverse its decision to sell its UK assets in return for the writing off of its pension deficit liability and a £900 million loan. Could the First Minister clarify and place on the record his understanding as to whether that is the case? And does he understand and possibly even share the natural scepticism of the workforce as to whether a company that has repeatedly favoured its plant in IJmuiden over Port Talbot - most recently in the outright rejection of the rescue plan only a few months ago - can have any credible long-term commitment to steel making in Wales? I have to say anyone who's seen the McKinsey plan may be forced to conclude that the way in which Port Talbot was mismanaged by Tata Steel Europe at that level was a contributory factor in the severity of the problems it faced. Surely, handing back the keys to these same decision makers over the heads of local managers and workers is not something we in Wales should readily support, when there are other, better, locally owned alternatives. Would the First Minister also accept that allowing an extremely well-resourced global conglomerate like Tata, which last year made some £4 billion in net profit, to walk away from its pension responsibilities would create a moral hazard in setting a precedent that would permit other transnational companies to do the same? Is he also concerned - as I am - that Downing Street's apparent preference for a swift, deceptively simple back-room deal with Tata to a fair and transparent sale process may be driven by a desire for politically expedient news before 23 June rather than the long-term interests of the economy and steel communities? While he and I share the same desire for a similar outcome in terms of that referendum, will he agree that, in any case, as the consultation on the proposed changes to the indexation of the pension fund that he referred to does not close until 23 June, it would be premature for any final decision to be made in relation to Tata before that date? Finally, seeing as Tata is now, curiously, it seems, in the position of adjudicating whether it or one of the bidders should receive substantial public investment being offered, when he meets with Tata next, could he ask, in the interests of a properly transparent process, if they will accept and allow the Steel Council that he referred to to commission a fully independent assessment of the options currently on the table in terms of their benefits and costs, not just for Tata, but for the public - taxpayer and steelworker alike? | Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am gopi ymlaen llaw o'r datganiad. Mae Llywodraeth y DU yn ôl y sôn yn rhoi pwysau sylweddol ar Tata i newid ei benderfyniad i werthu ei asedau yn y DU yn gyfnewid am ddileu ei rwymedigaeth diffyg pensiwn a benthyciad o £900 miliwn. A allai'r Prif Weinidog egluro a chofnodi ei ddealltwriaeth o ba mor wir yw hynny? Ac a yw'n deall ac o bosibl hyd yn oed yn rhannu amheuon naturiol y gweithlu ynglŷn ag a yw cwmni sydd wedi ffafrio ei ffatri yn IJmuiden yn hytrach na Phort Talbot dro ar ôl tro - yn fwyaf diweddar drwy wrthod yn llwyr y cynllun achub ychydig fisoedd yn ôl - yn gallu bod ag unrhyw ymrwymiad hirdymor credadwy i gynhyrchiant dur yng Nghymru? Rhaid i mi ddweud y gallai unrhyw un sydd wedi gweld cynllun McKinsey gael eu gorfodi i ddod i'r casgliad fod y ffordd y cafodd Port Talbot ei gamreoli gan Tata Steel Europe ar y lefel honno yn ffactor sy'n cyfrannu at ddifrifoldeb y problemau a'i hwynebai. Yn sicr, nid yw trosglwyddo'r allweddi yn ôl i'r union bobl hyn sy'n gwneud penderfyniadau dros bennau rheolwyr a gweithwyr lleol yn rhywbeth y dylem ni yng Nghymru fod yn fodlon ei gefnogi, lle ceir dewisiadau eraill gwell mewn perchnogaeth leol. A fyddai'r Prif Weinidog hefyd yn derbyn y byddai caniatáu i gwmni rhyngwladol byd-eang gydag adnoddau eithriadol fel Tata, a wnaeth tua £4 biliwn o elw net y llynedd, i droi cefn ar ei gyfrifoldebau pensiwn yn creu perygl moesol drwy osod cynsail a fyddai'n caniatáu i gwmnïau trawswladol eraill wneud yr un fath? A yw hefyd yn pryderu - fel minnau - fod dymuniad ymddangosiadol Downing Street i daro bargen gyflym a thwyllodrus o syml drwy'r drws cefn gyda Tata, yn hytrach na phroses werthu deg a thryloyw, wedi'i yrru gan awydd am newyddion da yn wleidyddol cyn 23 Mehefin, yn lle buddiannau hirdymor yr economi a chymunedau dur? Er ei fod ef a minnau yn rhannu'r un dyhead am ganlyniad tebyg o ran y refferendwm, a yw'n cytuno beth bynnag, gan nad yw'r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i fynegeio'r gronfa bensiwn y cyfeiriodd ati yn cau hyd nes 23 Mehefin, y byddai'n rhy fuan i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud mewn perthynas â Tata cyn y dyddiad hwnnw? Yn olaf, o weld bod Tata bellach, yn rhyfedd ddigon, mae'n ymddangos, mewn sefyllfa i farnu ai hwy neu un o'r cynigwyr ddylai dderbyn buddsoddiad cyhoeddus sylweddol sy'n cael ei gynnig, pan fydd yn cyfarfod â Tata nesaf, a allai ofyn, er mwyn sicrhau proses briodol o dryloyw, a fyddent yn derbyn ac yn caniatáu i'r Cyngor Dur y cyfeiriodd ato i gomisiynu asesiad cwbl annibynnol o'r opsiynau sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd o ran eu cost a'u budd, nid yn unig i Tata, ond i'r cyhoedd - y trethdalwr a'r gweithiwr dur fel ei gilydd? |
Could I thank the Member for his questions? There is little with which I would disagree. What is absolutely crucial is that there is a long-term sustainable and secure future for our steel jobs. It's right to say that Tata have said that they wish to sell; that remains their board's position. I'm not sure that that is necessarily a position that will hold forever and a day, if I can put it that way. I can well imagine that the workers in Port Talbot and the other plants would be concerned if it were the case that Tata were to continue without there being guarantees put in place as to what Tata's plans would be for the future. If the UK Government put financial help on the table, I would expect them - and I've not heard of any particular sum - to receive in return guarantees as to Tata's future investment in the Welsh steel assets. To do otherwise would seem to me to be difficult to defend. With regard to the pension scheme, he's right: the pension protection fund is a fund that was set up to deal with pension funds that have, effectively, crashed because the sponsoring business had crashed. This is not the case here. We would not, in any event, support the British Steel pension fund going into the pension protection fund. The alternative that's been put forward is still hugely difficult as far as beneficiaries are concerned, and the message that it will send. If, for example, there's a deal where Tata remain, where there's substantial financial support for Tata, and the pension liabilities are removed, the message to every other business in the UK is, 'Well, let's do the same thing' and I don't think that the public finances can deal with that. At the beginning of this process, the intention always was that the pensions issue would be dealt with in order to assist a new bidder and a new buyer. To do it for an existing company is fraught with hazard, as he rightly says. I hope that the UK Government are not considering political considerations at this stage, but rather are considering the future of our jobs and our communities here in Wales, and elsewhere in the UK. It's difficult at this stage to see if the Steel Council could conduct an independent assessment, given the scale of the non-disclosure agreements that are in place with regard to the seven bidders. It is hugely important, however, that the bidding process is examined in some detail. Tata have assured me that that will happen, that they will examine the bids very carefully, and, ultimately, of course, Tata have a global reputation that's good. They surrender that reputation at some cost to themselves, and they know that. So, from my perspective, whatever the outcome is - and I want the outcome to be a sustainable and secure future - Tata will need to demonstrate that they've played fair by the workforce and they've created the conditions where the industry has a future. And, as I say, that reputation is worth something to them. They emphasised that to me in the meetings that they have had. The fact that the timescale has stretched is encouraging to the extent that it means that Tata are looking, to my mind, at the bids very seriously, but there are, as he will know, a number of hurdles that have yet to be overcome. The support that we offer as a Government is still there. I have spoken on several occasions to two of the bidders and listened to their plans, and, to my mind, both those bidders are serious bidders. I say once again that it's important that Tata give the bids full consideration, that they look to sell the assets at a fair price and provide a future for our steel communities, and it's vital that the UK Government look to the long term, rather than thinking that a short-term solution is durable, because it's not. We need to think not about the next few months, or indeed about the next two or three years, but about how we construct the future for our steel industry for the next decade and beyond. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Nid oes fawr ddim y byddwn yn anghytuno yn ei gylch. Yr hyn sy'n gwbl hanfodol yw bod yna ddyfodol cynaliadwy hirdymor a diogel i'n swyddi dur. Mae'n wir fod Tata wedi dweud eu bod yn dymuno gwerthu; dyna yw safbwynt eu bwrdd o hyd. Nid wyf yn siŵr fod hwnnw o reidrwydd yn safbwynt a fydd yn para am byth, os caf ei roi felly. Gallaf ddychmygu y byddai'r gweithwyr ym Mhort Talbot a'r gweithfeydd eraill yn poeni pe bai'n wir fod Tata yn mynd i barhau heb i warantau gael eu rhoi ynghylch beth fyddai cynlluniau Tata yn y dyfodol. Pe bai Llywodraeth y DU yn rhoi cymorth ariannol ar y bwrdd, byddwn yn disgwyl iddynt - ac nid wyf wedi clywed am unrhyw swm penodol - dderbyn gwarantau ynghylch buddsoddiad Tata yn asedau dur Cymru yn y dyfodol yn gyfnewid am hynny. Mae'n ymddangos i mi y byddai'n anodd amddiffyn unrhyw gamau i wneud fel arall. O ran y cynllun pensiwn, mae'n llygad ei le: sefydlwyd y gronfa diogelu pensiynau i ymdrin â chronfeydd pensiwn sydd wedi methu, i bob pwrpas, am fod y busnes sy'n noddi wedi methu. Nid dyna a ddigwyddodd yma. Ni fyddem, beth bynnag, o blaid gweld cronfa bensiwn Dur Prydain yn mynd i mewn i'r gronfa diogelu pensiynau. Mae'r dewis arall a gyflwynwyd yn dal i fod yn hynod o anodd o ran y buddiolwyr, a'r neges y bydd yn ei chyfleu. Er enghraifft, os ceir bargen lle bydd Tata yn parhau, lle ceir cymorth ariannol sylweddol i Tata, a lle bydd y rhwymedigaethau pensiwn yn cael eu dileu, y neges i bob busnes arall yn y DU yw, 'Wel, gadewch i ni wneud yr un peth' ac nid wyf yn credu y gall cyllid cyhoeddus ymdopi â hynny. Ar ddechrau'r broses hon, y bwriad bob amser oedd y byddai mater pensiynau yn cael ei ddatrys er mwyn cynorthwyo cynigydd newydd a phrynwr newydd. Mae gwneud hynny ar gyfer cwmni sy'n bodoli eisoes yn llawn o beryglon, fel y mae'n gywir i ddweud. Rwy'n gobeithio nad yw Llywodraeth y DU yn ystyried ystyriaethau gwleidyddol ar hyn o bryd, ond yn hytrach, eu bod yn ystyried dyfodol ein swyddi a'n cymunedau yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y DU. Mae'n anodd gweld ar hyn o bryd a allai'r Cyngor Dur gynnal asesiad annibynnol, o ystyried maint y cytundebau peidio â datgelu sydd ar waith mewn perthynas â'r saith cynigydd. Mae'n hynod o bwysig, fodd bynnag, fod y broses geisiadau yn cael ei harchwilio'n fanwl. Mae Tata wedi fy sicrhau y bydd hynny'n digwydd, y byddant yn edrych ar y cynigion yn ofalus iawn, ac yn y pen draw, wrth gwrs, mae gan Tata enw da yn fyd-eang. Bydd colli'r enw da hwnnw'n gostus iddynt, ac maent yn gwybod hynny. Felly, yn fy marn i, beth bynnag yw'r canlyniad - a'r canlyniad rwyf fi eisiau yw dyfodol cynaliadwy a diogel - bydd angen i Tata ddangos eu bod wedi rhoi chwarae teg i'r gweithlu a'u bod wedi creu'r amodau a fydd yn golygu bod dyfodol i'r diwydiant. Ac fel y dywedais, mae'r enw da hwnnw yn werth rhywbeth iddynt. Roeddent yn pwysleisio hynny wrthyf yn y cyfarfodydd y maent wedi'u cael. Mae'r ffaith fod yr amserlen wedi ymestyn yn galonogol i'r graddau ei fod yn golygu bod Tata yn edrych o ddifrif ar y ceisiadau, yn fy marn i, ond fel y bydd yn gwybod, mae nifer o rwystrau sy'n rhaid eu goresgyn eto. Mae'r gefnogaeth a gynigiwn fel Llywodraeth yn dal i fod yno. Rwyf wedi siarad ar sawl achlysur â dau o'r cynigwyr ac wedi gwrando ar eu cynlluniau, ac yn fy marn i, mae'r ddau gynigydd fel ei gilydd o ddifrif ynghylch eu cynigion. Rwy'n dweud unwaith eto ei bod yn bwysig i Tata roi ystyriaeth lawn i'r cynigion, a'u bod yn anelu i werthu'r asedau am bris teg a sicrhau dyfodol i'n cymunedau dur, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn ystyried y tymor hir, yn hytrach na meddwl bod ateb tymor byr yn gadarn, gan nad yw hynny'n wir. Mae angen i ni feddwl, nid am yr ychydig fisoedd nesaf, na'n wir am y ddwy neu dair blynedd nesaf, ond am y ffordd rydym yn adeiladu'r dyfodol i'n diwydiant dur ar gyfer y degawd nesaf a thu hwnt. |
First Minister, thank you for your statement, and, obviously, the previous statements that you've made to this house, both written and oral statements. I do commend you for going out to Mumbai, along with Sajid Javid, and standing there as two Governments, shoulder to shoulder, to seek assurances from Tata Steel. I would be grateful to understand exactly at what level those meetings were held between yourself and Tata Steel, so that, obviously, on the assurances that were given, can give us some clarity as to what level within the company they were passing those assurances back to you, because I think it is vital that we understand the structure that Tata are using, (a) to evaluate the bids and (b) to secure a successful outcome from this process. I do disagree with the previous speaker's comments about the UK Government's positions and back-room deals. I think that, from the Prime Minister down, each and every one has spoken about the long-term security and the importance to the UK economy of a steel industry here in the United Kingdom, rather than just shoring something up for three or four weeks. I think, given the commitment of the Prime Minister, Sajid Javid, and the UK Government, along with the First Minister's own Government, there is a willingness to make sure that this is a long-term deal rather than something that will burn out after a very brief period. Indeed, many of the comments in previous statements were around those very issues, that we do not want a purchaser going into any of these sites - because it is not just Port Talbot, it's many other sites in Wales and also across the UK - and dismantling those sites and lowering the output of those sites. I do hope that you've been given assurances from Tata that, in their bidding evaluation, they are looking to secure the long-term future of each and every one of the sites, and indeed the integrated nature of the operation that they do have here in the United Kingdom, because many of the satellite sites, shall we say, do depend on, obviously, the Port Talbot works staying and making sure that output continues at current and increased production levels going forward. So, I would be grateful as well, if Tata shared any information with you as to the viability of the bids that have come forward - . You said that there are seven bids on the table and I appreciate that there are non-disclosure agreements there for confidentiality reasons, but are you in a position to give any more clarity around the strength of those bids and the dynamics of the bids, in particular about the whole-company approach, or are quite a few of those bids just looking at the various options in isolation? I would also like to extract from the First Minister some understanding as to the work that his Government in particular has undertaken around business rates. You have said that the Welsh Government have been trying to re-evaluate the grounds that they might be able to work with - walk on, should I say - to present a more enhanced business rates package. Because your understanding, when you last addressed this house, was that it was a very minimal package that would have been able to have been offered by the Welsh Government, but I have seen in the press and have heard you previously saying that the Welsh Government have been undertaking work, and I presume that that work is discussing with the European Commission and discussing with the Westminster Government around what type of enhanced package you might be able to bring forward, and I'd be most interested to know whether there is any more progress on that business rates package that you might be able to bring forward. I would also like to understand: what does the First Minister understand by the term 'dumped steel'? Many Members in this house and in the press have speculated solely on the Chinese aspect of dumped steel, when, in fact, there's Russian dumped steel on the market, and there's South Korean dumped steel as well. Is there almost an understanding, when you're dealing with contracts - because you talk in your statement about having it in the terminology of contracts and the expectation of Government contracts that dumped steel would not be used. Do you become country-specific? Is there a category that you focus on? I think that that is important to understand as well. In respect of the pensions and the pension liabilities, I think everyone would agree with the sentiment that you have identified within your statement, First Minister. It is a challenging territory that has been brought forward, but we do understand that, obviously, the pension liabilities are a major obstacle - for any successful purchaser to take on that liability. I would be grateful if you could expand on the language that you've used in your statement to clearly understand where the Welsh Government stands around the proposals that are in the consultation and whether the Welsh Government does formally support a particular proposal to help assist some of those liabilities being alleviated for any future purchasers of the sites so that the sites can be taken over and the production and the job security guaranteed for the workers on the sites, whether they be just site-specific or indeed across the whole steel industry. As I understand it, the consultation was asked for by the trustees of the pension fund and the UK Government obviously have come forward with that consultation. I do think that we do need to know clearly where the Welsh Government stands on that consultation and what is the favoured option of the Welsh Government, because it is such an integral part to concluding a successful sale of the steel-making operations. The one final point that I'd also like to make is that you do touch in your statement on the retraining opportunities. David Rees, the Member for Aberavon, touched on this. Regrettably, whatever the outcome of the sales process, there have been redundancies at the sites - in particular Port Talbot - and other steel sites - Llanwern in particular - have had redundancies announced. It is important to understand that the training packages that have been put in place are meeting the requirements of the redundancy notices that have been served and the workers that will require retaining and support. Are you confident that the packages that are in place are meeting the needs of those workers and, in particular, in a way that will get them back into employment in a timely manner? Thank you, First Minister. | Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad, a'r datganiadau blaenorol a wnaethoch i'r tŷ hwn, yn amlwg, y datganiadau ysgrifenedig a llafar. Rwy'n eich canmol am fynd allan i Mumbai, gyda Sajid Javid, a sefyll yno fel dwy Lywodraeth ysgwydd yn ysgwydd i ofyn am sicrwydd gan Tata Steel. Byddwn yn falch o ddeall yn union ar ba lefel y cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny rhyngoch chi a Tata Steel, er mwyn i hynny, wrth gwrs, ar y sicrwydd a roddwyd, allu rhoi rhywfaint o eglurder i ni ynglŷn â pha lefel o fewn y cwmni roeddent yn trosglwyddo'r sicrwydd hwnnw yn ôl i chi, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni ddeall y strwythur y mae Tata yn ei ddefnyddio, (a) i werthuso'r cynigion a (b) i sicrhau canlyniad llwyddiannus o'r broses hon. Rwy'n anghytuno â sylwadau'r siaradwr blaenorol am safbwyntiau Llywodraeth y DU a tharo bargeinion drwy'r drws cefn. O'r Prif Weinidog i lawr, credaf fod pawb wedi siarad am ddiogelwch hirdymor a phwysigrwydd y diwydiant dur yma yn y Deyrnas Unedig i economi'r DU o ddiwydiant dur, yn hytrach na chynnal rhywbeth am dair neu bedair wythnos yn unig. O ystyried ymrwymiad y Prif Weinidog, Sajid Javid, a Llywodraeth y DU, ynghyd â Llywodraeth y Prif Weinidog ei hun, rwy'n credu bod yna barodrwydd i wneud yn siŵr fod hon yn fargen hirdymor yn hytrach na rhywbeth a fydd yn llosgi'n ddim ar ôl cyfnod byr iawn. Yn wir, roedd llawer o'r sylwadau mewn datganiadau blaenorol yn ymwneud â'r union faterion hynny, nad ydym yn dymuno gweld prynwr yn mynd i unrhyw un o'r safleoedd hyn - gan nad yw'n ymwneud â Phort Talbot yn unig, mae yna lawer o safleoedd eraill yng Nghymru a hefyd ar draws y DU - a datgymalu'r safleoedd a gostwng allbwn y safleoedd hynny. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael sicrwydd gan Tata eu bod, wrth werthuso'r ceisiadau, yn anelu i sicrhau dyfodol hirdymor pob un o'r safleoedd, ac yn wir, natur integredig y gwaith sydd ganddynt yma yn y Deyrnas Unedig, gan fod llawer o'r safleoedd lloeren, gawn ni ddweud, yn amlwg yn dibynnu ar gadw gwaith Port Talbot ac ar wneud yn siŵr fod allbwn yn parhau ar y lefelau cynhyrchu presennol a lefelau cynyddol yn y dyfodol. Felly, byddwn yn ddiolchgar hefyd, pe bai Tata yn rhannu unrhyw wybodaeth gyda chi ynglŷn â hyfywedd y cynigion a ddaeth i law - . Fe ddywedoch fod saith cynnig ar y bwrdd ac rwy'n gwerthfawrogi bod yna gytundebau peidio â datgelu yno am resymau'n ymwneud â chyfrinachedd, ond a ydych mewn sefyllfa i roi rhagor o eglurder ynghylch cryfder y cynigion hynny a dynameg y cynigion, yn benodol ynghylch y dull cwmni cyfan o weithredu, neu a yw cryn dipyn o'r cynigion hynny ond yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar eu pen eu hunain? Hefyd, hoffwn wybod gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r gwaith y mae ei Lywodraeth yn arbennig wedi'i wneud ynglŷn ag ardrethi busnes. Rydych wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio ailwerthuso'r sail y gallent fod yn gweithio gyda - arni, dylwn ddweud - ar gyfer cyflwyno pecyn ardrethi busnes gwell. Oherwydd eich dealltwriaeth, y tro diwethaf i chi annerch y tŷ hwn, oedd mai pecyn bach iawn fyddai Llywodraeth Cymru wedi gallu ei gynnig, ond rwyf wedi gweld yn y wasg ac wedi eich clywed yn dweud o'r blaen fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith, ac rwy'n tybio mai'r gwaith hwnnw yw trafod gyda'r Comisiwn Ewropeaidd a thrafod gyda Llywodraeth San Steffan pa fath o becyn gwell y gallech ei gyflwyno, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a wnaed rhagor o gynnydd ar y pecyn ardrethi busnes y gallech fod yn ei gyflwyno. Hoffwn wybod hefyd: beth y mae'r ymadrodd 'dur wedi'i ddympio' yn ei olygu i'r Prif Weinidog? Mae nifer o'r Aelodau yn y tŷ hwn ac yn y wasg wedi canolbwyntio'n llwyr ar agweddau Tsieineaidd ar ddympio dur, er bod dur wedi'i ddympio o Rwsia ar y farchnad, a dur wedi'i ddympio o Dde Corea hefyd. A oes yna ddealltwriaeth bron, pan fyddwch yn ymdrin â chontractau - gan eich bod yn sôn yn eich datganiad am ei wneud yn rhan o derminoleg contractau a'r disgwyliad na fyddai dur wedi'i ddympio'n cael ei ddefnyddio yng nghontractau'r Llywodraeth? A ydych yn bod yn wlad-benodol? A oes yna gategori rydych yn canolbwyntio arno? Credaf fod hynny'n bwysig i'w wybod hefyd. O ran y pensiynau a'r rhwymedigaethau pensiwn, rwy'n credu y byddai pawb yn cytuno â'r teimlad a nodwyd gennych yn eich datganiad, Brif Weinidog. Dyma faes sy'n llawn o heriau, ond rydym yn deall, yn amlwg, fod rhwymedigaethau pensiwn yn rhwystr mawr - i unrhyw brynwr llwyddiannus ysgwyddo'r rhwymedigaeth honno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar yr iaith a ddefnyddioch yn eich datganiad i ddeall yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn perthynas â'r cynigion sydd yn yr ymgynghoriad ac a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad penodol yn ffurfiol er mwyn cynorthwyo i liniaru rhai o'r rhwymedigaethau hynny ar gyfer unrhyw rai sy'n prynu'r safleoedd yn y dyfodol fel y gellir meddiannu'r safleoedd a gwarantu cynhyrchiant a sicrwydd swydd i'r gweithwyr ar y safleoedd, pa un a ydynt yn safle-benodol neu'n wir ar draws y diwydiant dur yn ei gyfanrwydd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ymddiriedolwyr y gronfa bensiwn a ofynnodd am yr ymgynghoriad ac yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n credu bod angen i ni wybod yn glir ble mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ar yr ymgynghoriad hwnnw a beth yw opsiwn dewisol Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhan mor annatod o gwblhau gwerthiant y gweithfeydd dur yn llwyddiannus. Yr un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud hefyd yw eich bod yn cyffwrdd yn eich datganiad ar y cyfleoedd ailhyfforddi. Crybwyllwyd hyn gan David Rees, yr Aelod dros Aberafan. Yn anffodus, beth bynnag fydd canlyniad y broses werthu, bu diswyddiadau ar y safleoedd - yn enwedig Port Talbot - a chyhoeddwyd diswyddiadau ar safleoedd dur eraill - Llanwern yn arbennig. Mae'n bwysig deall bod y pecynnau hyfforddi a roddwyd ar waith yn bodloni gofynion y rhybuddion diswyddo a gyflwynwyd a'r gweithwyr fydd angen eu cadw a'u cynorthwyo. A ydych yn hyderus y bydd y pecynnau sydd ar waith yn diwallu anghenion y gweithwyr hynny ac yn benodol, mewn ffordd a fydd yn eu cael yn ôl i gyflogaeth mewn modd amserol? Diolch, Brif Weinidog. |
I thank the leader of the Welsh Conservatives for his questions. The meeting that I had in Mumbai was with senior executives and one board member of Tata. The meeting did last for some time. We explored a number of issues, one of which, for example, is what further support might be offered on business rates and that is something that we're looking at. The difficulty is, of course, how you tailor support for one particular enterprise without opening the door to others as well, and how you create a situation like that fairly and in an affordable manner. Those discussions are ongoing. In terms of dumped steel, we usually define that as steel that's quite often being sold on a market below the cost of production, sometimes through a revenue subsidy provided by the government where the steel is produced, outside the European Union, but then undercuts steel production in a particular market that doesn't attract a revenue subsidy. That's one of the definitions you can give for dumped steel. We know that the problem that's occurred in the world market is because of the slowdown of the Chinese economy. The Chinese have produced steel that their own economy cannot absorb and so they're selling it in other markets, and that's caused the price of world steel to slump, meaning that those steel enterprises that have the most difficult and challenging conditions have found it most difficult. In the UK, we know energy prices are high, the pound, although it's now falling quite quickly, has been historically high, which has made it difficult to export and, of course, the tariff regimes that have been put in place by other markets around the world. On pensions, we've not yet offered our view on what would be our preferred option. Originally, the proposal that I made was that if a new buyer came in then the pension scheme would be dealt with in a similar way to the way in which the British Coal pension scheme was dealt with, in order to make coal more attractive for privatisation, in other words, taken out of the equation for a stake to be taken by the UK Government - and we know the UK Government is doing pretty well out of that pension at the moment - in order to guarantee the benefits of those in the pension scheme, but also to remove the pension scheme from the equation for a new buyer. It's significantly more complicated if the operation continues under the same owner, I would argue. It's right to say the trustees asked for the review - they have to, under law, do that and that's why the process began. I think I've given some detail on what's been done to help people who are being made redundant. Although we don't have exact figures yet, it seems that a substantial number will take early retirement, and will be of an age when they're able to do that. So far, as I mentioned earlier on, there are some who have received help. But, in order to make sure that those who don't come forward immediately do have access to help in the future, as I said earlier on the statement, over the course of this month and next month, that help will continue to be available. | Diolch i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig am ei gwestiwn. Roedd y cyfarfod a gefais ym Mumbai gydag uwch weithredwyr ac un aelod o fwrdd Tata. Parhaodd y cyfarfod am beth amser. Archwiliwyd nifer o faterion gennym, ac un ohonynt, er enghraifft, oedd pa gymorth pellach y gellid ei gynnig gydag ardrethi busnes ac mae hynny'n rhywbeth rydym yn edrych arno. Yr anhawster, wrth gwrs, yw sut rydych yn teilwra cymorth i un fenter benodol heb agor y drws i bobl eraill hefyd, a sut rydych yn creu sefyllfa fel yna yn deg ac mewn modd fforddiadwy. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau. O ran dur wedi'i ddympio, byddwn fel arfer yn diffinio hynny fel dur sy'n eithaf aml yn cael ei werthu ar farchnad yn is na'r gost o'i gynhyrchu, weithiau drwy gymhorthdal refeniw a ddarperir gan y llywodraeth lle caiff y dur ei gynhyrchu, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond sydd wedyn yn gwerthu'n rhatach na chynhyrchiant dur mewn marchnad benodol nad yw'n denu cymhorthdal refeniw. Dyna un o'r diffiniadau y gallwch ei roi i ddur wedi'i ddympio. Gwyddom fod y broblem sydd wedi digwydd yn y farchnad fyd-eang yn deillio o arafu economi Tsieina. Mae'r Tsieineaid wedi cynhyrchu dur na all eu heconomi eu hunain ei amsugno ac felly maent yn ei werthu mewn marchnadoedd eraill, ac mae hynny'n achosi i bris dur y byd ddisgyn, sy'n golygu mai'r mentrau dur gyda'r amodau mwyaf anodd a heriol sydd wedi'i chael hi anoddaf. Yn y DU, gwyddom fod prisiau ynni yn uchel, mae'r bunt, er ei bod bellach yn disgyn yn eithaf cyflym, wedi bod yn uwch nag erioed, sydd wedi'i gwneud hi'n anodd allforio ac wrth gwrs, y trefniadau tariff a roddwyd ar waith gan farchnadoedd eraill o amgylch y byd. Ar bensiynau, nid ydym eto wedi rhoi ein barn ar beth fyddai ein dewis gorau. Yn wreiddiol, yr argymhelliad a wneuthum oedd, pe bai prynwr newydd yn dod i mewn, yna byddid yn ymdrin â'r cynllun pensiwn mewn ffordd debyg i'r ffordd yr ymdrinwyd â chynllun pensiwn Glo Prydain er mwyn gwneud glo yn fwy deniadol ar gyfer preifateiddio; mewn geiriau eraill, ei dynnu allan o'r hafaliad er mwyn i Lywodraeth y DU gael cyfran - a gwyddom fod Llywodraeth y DU yn gwneud yn eithaf da o'r pensiwn hwnnw ar hyn o bryd - er mwyn gwarantu buddion y bobl yn y cynllun pensiwn, ond hefyd er mwyn cael gwared ar y cynllun pensiwn o'r hafaliad i brynwr newydd. Byddwn yn dadlau ei bod yn llawer mwy cymhleth os yw'r gwaith yn parhau o dan yr un perchennog. Mae'n gywir dweud mai'r ymddiriedolwyr a ofynnodd am yr adolygiad - rhaid iddynt wneud hynny o dan y gyfraith, a dyna pam y dechreuodd y broses. Rwy'n meddwl fy mod wedi rhoi rhai manylion am yr hyn a wnaed i helpu pobl sy'n cael eu diswyddo. Er nad yw'r union ffigurau gennym eto, mae'n ymddangos y bydd nifer sylweddol yn ymddeol yn gynnar, a byddant mewn oed i allu gwneud hynny. Hyd yn hyn, fel y soniais yn gynharach, mae rhai wedi derbyn cymorth. Ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y rhai nad ydynt yn dod i gael cymorth yn syth yn cael help yn y dyfodol, fel y dywedais yn gynharach yn y datganiad, dros y mis hwn a'r mis nesaf, bydd y cymorth hwnnw yn parhau i fod ar gael. |
I commend the First Minister on his statement. In particular I endorse warmly his remarks about Roger Maggs, the chairman of Excalibur and a school friend of mine from many, many years ago at Amman Valley. And I endorse all that Adam Price - another distinguished product of my old school - said in his response to your statement also about the pension fund at Tata. You mentioned, a moment ago, that this could be dealt with in the same way that the British Coal pension fund was dealt with, but the difference between the two, of course, is that there is a deficit in the Tata pension fund and there's a massive surplus in the British Coal pension fund, from which the Government has siphoned off a very large sum of money for its own purposes. Tata just can't be allowed to get away with walking away from their responsibilities to the steelworkers of Port Talbot and elsewhere. The pension fund is currently worth about £14.5 billion and there's a deficit, I understand, of about £500 million. These are not the only assets that Tata owns in the United Kingdom. Of course, they own Jaguar Land Rover and the profit on Jaguar Land Rover for the last reported year was £3.6 billion. So, Tata can well afford to plug the hole in the steel pension fund in Port Talbot and elsewhere, and I think they should be held to their responsibilities. I certainly endorse the point on moral hazard that Adam Price made. I warmly endorse the First Minister's efforts, including going to Mumbai, to try to resolve this crisis, but, of course, he is constrained by the limits on his powers, as indeed is the Secretary of State at Westminster. The Minister said in his statement that his primary concern has been that steel communities need to secure a long-term sustainable steel industry for the whole Tata operation in Wales, but, unfortunately, of course, he's not able to do that because energy prices in this country are 50 per cent higher than elsewhere in the EU and we have been unable to impose - [Interruption.] This is Unite's own document that says this - the trade union - so you can take their word for it or take it up with them if you disagree. And we have, as regards tariffs on steel, had a pathetically inadequate response from the European Commission and an even more pathetically inadequate response from the UK Government because all that the EU Commissioners propose is a 24 per cent tariff, whereas the United States has put a 522 per cent tariff on cold-rolled steel, which is a vital ingredient in the production at Port Talbot. There is also, of course, the possibility that a new buyer could be found for those steel assets. The British Government would be woefully restricted in the amount of aid that they could give to a new purchaser and even more restricted if Tata retains the ownership because of the EU's state aid rules. Similarly, in the statement, the First Minister said that, as regards transport contract documents, the Welsh Government expects that any contractors would not use dumped steel from an overseas market. Well, an expectation, of course, is not worth the paper it's printed on. There is no legal power in the UK Government or the British Government to require users of steel in this country to exclude dumped steel from what they do. So, unfortunately, what we are faced with, because of our membership of the EU, is that Government either at Westminster or in Cardiff is powerless to take the decisions that are vital to the continued production of steel in south Wales. And I'm afraid that we're just like ghosts at the feast. We're talking here today as though we could do something about this problem but, in fact, we can't. On 23 June, we have the opportunity to take the decision that puts the levers of power back into the hands of Ministers like the First Minister here in Cardiff and indeed the Prime Minister at Westminster. | Cymeradwyaf y Prif Weinidog ar ei ddatganiad. Yn benodol rwy'n ategu'n frwd ei sylwadau am Roger Maggs, cadeirydd Excalibur a ffrind ysgol i mi flynyddoedd lawer yn ôl yn Nyffryn Aman. Ac rwy'n cymeradwyo popeth a ddywedodd Adam Price - cynnyrch nodedig arall o fy hen ysgol - yn ei ymateb i'ch datganiad hefyd am y gronfa bensiwn yn Tata. Fe sonioch, funud yn ôl, y gellid ymdrin â hyn yn yr un modd ag yr ymdriniwyd â chronfa bensiwn Glo Prydain, ond y gwahaniaeth rhwng y ddau fater, wrth gwrs, yw bod diffyg yng nghronfa bensiwn Tata ac mae gwarged enfawr yng nghronfa bensiwn Glo Prydain, ac mae'r Llywodraeth wedi seiffno swm mawr iawn o arian oddi arni at ei dibenion ei hun. Ni ellir caniatáu i Tata gerdded yn rhydd o'u cyfrifoldebau i weithwyr dur Port Talbot a mannau eraill. Mae'r gronfa bensiwn ar hyn o bryd yn werth tua £14.5 biliwn a cheir diffyg, rwy'n deall, o tua £500 miliwn. Nid dyma'r unig asedau y mae Tata yn berchen arnynt yn y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, maent yn berchen ar Jaguar Land Rover ac roedd elw Jaguar Land Rover am y flwyddyn ddiwethaf yr adroddwyd yn ei chylch yn £3.6 biliwn. Felly, gall Tata fforddio llenwi'r twll yn y gronfa bensiwn ddur ym Mhort Talbot ac mewn mannau eraill yn iawn, ac rwy'n meddwl y dylid mynnu eu bod yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau. Rwy'n sicr yn cymeradwyo'r pwynt a wnaeth Adam Price am berygl moesol. Ategaf ymdrechion y Prif Weinidog yn frwd, gan gynnwys mynd i Mumbai, i geisio datrys yr argyfwng hwn, ond wrth gwrs, mae wedi'i gyfyngu gan y terfynau ar ei bwerau, fel yn wir y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan. Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad mai ei brif bryder oedd bod angen i gymunedau dur sicrhau diwydiant dur cynaliadwy hirdymor ar gyfer holl weithfeydd Tata yng Nghymru, ond yn anffodus, wrth gwrs, nid yw'n gallu gwneud hynny am fod prisiau ynni yn wlad hon 50 y cant yn uwch nag mewn mannau eraill yn yr UE ac nid ydym wedi llwyddo i orfodi - [Torri ar draws.] Dogfen Unite ei hun sy'n dweud hyn - yr undeb llafur - felly gallwch gymryd eu gair hwy am hyn neu godi'r peth gyda hwy os ydych yn anghytuno. Ac o ran tariffau ar ddur, rydym wedi cael ymateb pathetig o annigonol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac ymateb hyd yn oed yn fwy pathetig o annigonol gan Lywodraeth y DU gan mai'r cyfan y mae Comisiynwyr yr UE yn ei argymell yw tariff o 24 cant, ond mae'r Unol Daleithiau wedi rhoi tariff o 522 y cant ar ddur wedi'i rolio'n oer, sy'n elfen hanfodol o gynhyrchu ym Mhort Talbot. Mae yna bosibilrwydd hefyd, wrth gwrs, y gellid dod o hyd i brynwr newydd ar gyfer yr asedau dur hynny. Byddai Llywodraeth Prydain wedi'i chyfyngu'n druenus o ran faint o gymorth y gallai ei roi i brynwr newydd a byddai wedi'i chyfyngu hyd yn oed yn fwy os yw Tata yn cadw perchnogaeth oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Yn yr un modd, yn y datganiad, dywedodd y Prif Weinidog mewn perthynas â dogfennau contractau cludiant, fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fyddai unrhyw gontractwyr yn defnyddio dur wedi'i ddympio o farchnad dramor. Wel, nid yw disgwyliad, wrth gwrs, yn werth y papur y mae wedi'i argraffu arno. Nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol yn Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Prydain i'w gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr dur yn y wlad hon eithrio dur wedi'i ddympio o'r hyn a wnant. Felly, yn anffodus, yr hyn rydym yn ei wynebu, oherwydd ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, yw bod y Llywodraeth naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd yn ddi-rym i allu gwneud y penderfyniadau sy'n hanfodol i barhau i gynhyrchu dur yn ne Cymru. Ac rwy'n ofni ein bod yn union fel ysbrydion yn y wledd. Rydym yn siarad yma heddiw fel pe baem yn gallu gwneud rhywbeth am y broblem hon, ond mewn gwirionedd, ni allwn wneud dim. Ar 23 Mehefin, cawn gyfle i wneud y penderfyniad sy'n rhoi liferi grym yn ôl yn nwylo Gweinidogion fel y Prif Weinidog yma yng Nghaerdydd ac yn wir y Prif Weinidog yn San Steffan. |