source
stringlengths 3
13.7k
| target
stringlengths 3
14.3k
|
---|---|
Thank you, Minister, for the statement. First of all, I think it's important that we should, in the culture of having the European championships in France at the moment, acknowledge all the sporting volunteers, especially with regard to grass-roots football, who are doing so much to make sure that players can come through from communities, because, quite often, many young people come through those particular teams via the good work of volunteers, and they wouldn't be able to do that without that key work. Having attended the Sports Personality of the Year awards, along with other Assembly Members, in December last year, it showed how many people of all ages are involved in grass-roots sports on a voluntary basis. Minister, your statement mentions work to understand and tackle barriers to volunteering. One of the barriers I'm sure you may be aware of is that many people are put upon sanctions by the DWP if they take part in certain types of volunteering. Obviously, I totally disagree with this, and I'm sure you would too, in terms of people showing willing to go out into their communities and being punished for that. So, I wonder whether you could engage with the DWP in that regard to ask them to come up with a publicity campaign to try and encourage people to volunteer in a positive way, because it is actually putting people off. They are feeling quite vulnerable to the proposition of volunteering at the moment, from certain aspects of society. Will you ensure that Welsh Government funding of the third sector includes funding posts for volunteer managers, who play a crucial role in recruiting and retraining volunteers, and that this funding is long term, and is not contract based? That is something that has been raised with me early on in this post. It must be noted volunteering can and should never replace public sector delivery by paid staff. There was news some time ago where one particular health board was proposing that volunteers deliver and administer meals within a given hospital, and I'd like reassurance from the Minister that this isn't the direction that you see volunteering going in at all. I appreciate also that we have the reality of the situation where asset transfer is happening across councils in Wales, and I appreciate the former Minister put out guidance with regard to people running such services, but again I think it's important that if people are taking on additional roles in their communities, such as running community centres, swimming pools and sports centres, that that is recognised and is not taken advantage of. Quite often I would attend local groups and it is the same people doing everything. They get quite tired and stressed by that very fact. So, I think, yes, volunteering is a very important thing to do, but we also have to balance that with life stresses and the well-being of the individual in that regard. The final point I would like to finish on, also on the well-being aspect, is young people. In researching this statement today I found that many young people are doing unpaid work that obviously is being defined as volunteering, but actually they should potentially be being paid for that work. So I hope that's something that you can look into as well, Minister. | Diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn gyntaf oll, rwyf yn credu ei bod yn bwysig y dylem ni, yng nghyd-destun y pencampwriaethau Ewropeaidd yn Ffrainc ar hyn o bryd, gydnabod yr holl wirfoddolwyr chwaraeon, yn enwedig o ran pêl-droed ar lawr gwlad, sy'n gwneud cymaint i sicrhau y gall chwaraewyr ddatblygu mewn cymunedau, oherwydd, yn aml iawn, mae llawer o bobl ifanc yn serennu yn y timau penodol hynny o ganlyniad i waith da y gwirfoddolwyr, ac ni fyddent yn gallu gwneud hynny heb y gwaith allweddol hwnnw. Ar ôl bod yn bresennol yng ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, ynghyd ag Aelodau eraill y Cynulliad, ym mis Rhagfyr y llynedd, yr oedd yn amlwg faint o bobl o bob oed sy'n cymryd rhan yn wirfoddol mewn chwaraeon ar lawr gwlad. Weinidog, mae eich datganiad yn sôn am waith i ddeall ac i fynd i'r afael â rhwystrau ar gyfer gwirfoddoli. Un o'r rhwystrau yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol ohono yw bod llawer o bobl yn cael eu cosbi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau os byddant yn cymryd rhan mewn rhai mathau o wirfoddoli. Yn amlwg, rwyf yn llwyr anghytuno â hyn, ac rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd, o ran pobl yn dangos parodrwydd i fynd allan i'w cymunedau ac yn cael eu cosbi am hynny. Felly, tybed a allech chi ymgysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â hyn i ofyn iddynt greu ymgyrch gyhoeddusrwydd i geisio annog pobl i wirfoddoli mewn ffordd gadarnhaol, yn hytrach na chodi ofn arnynt. Maent yn bryderus ynghylch y syniad o wirfoddoli ar hyn o bryd, o ganlyniad i agwedd rhai mewn cymdeithas. A wnewch chi sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y trydydd sector yn cynnwys ariannu swyddi rheolwyr gwirfoddolwyr, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth recriwtio ac ailhyfforddi gwirfoddolwyr, a bod y cyllid hwn yn hirdymor, ac nad yw'n seiliedig ar gontract? Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi ei dynnu i fy sylw yn gynharach yn y swydd hon. Mae'n rhaid nodi na all ac na ddylai gwirfoddoli fyth gymryd lle darpariaeth yn y sector cyhoeddus gan staff cyflogedig. Roedd newyddion beth amser yn ôl am fwrdd iechyd penodol yn cynnig bod gwirfoddolwyr yn cyflenwi ac yn dosbarthu prydau mewn ysbyty penodol, a hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog nad dyma'r cyfeiriad yr ydych am weld gwirfoddoli yn ei ddilyn o gwbl. Rwyf yn gwerthfawrogi hefyd realiti'r sefyllfa lle mae trosglwyddo asedau yn digwydd ar draws cynghorau yng Nghymru, ac rwyf yn gwerthfawrogi bod y cyn Weinidog wedi dosbarthu canllawiau ynglŷn â phobl sy'n rhedeg gwasanaethau o'r fath, ond er hynny rwyf yn credu ei bod yn bwysig os yw pobl yn cyflawni swyddogaethau ychwanegol yn eu cymunedau, megis rhedeg canolfannau cymunedol, pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon, fod hynny'n cael ei gydnabod ac na chymerir mantais arno. Yn aml iawn byddwn yn mynychu grwpiau lleol, ac yr un bobl sy'n gwneud popeth. Maent yn blino ac yn mynd dan bwysau o ganlyniad i'r union ffaith honno. Felly, rwy'n credu, ydy, mae gwirfoddoli yn rhywbeth pwysig iawn i'w wneud, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau cydbwysedd o ran straen bywyd a lles yr unigolyn yn hynny o beth. Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud i gloi, hefyd ynglŷn â'r agwedd lles, yw pobl ifanc. Wrth ymchwilio'r datganiad hwn heddiw gwelais fod llawer o bobl ifanc yn gwneud gwaith di-dâl sydd yn amlwg yn cael ei ddiffinio fel gwirfoddoli, ond mewn gwirionedd, dylent o bosibl gael eu talu am y gwaith hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny yn rhywbeth y gallwch ymchwilio ymhellach iddo, Weinidog. |
First of all, I thank the Member for her questions and her contribution today. I absolutely agree with the Member in terms of supporting volunteers across the length and breadth of the UK and Wales. In particular, I pay tribute to two of my good friends, Leanne and Bernie Attridge, who put the nets up at the local football club in rain or shine, and without them the game wouldn't go on. So, a big thank you to people just like them. I think it is really important, no matter what they do, that there's an action that helps community spirit and bond communities. I will look very closely at the issue of sanctions. I think volunteering gives lots of people an opportunity who have been socially excluded, actually; it's often an opportunity back into communities, and I think it would be something that I would be very concerned about if the DWP have a negative view on that. I will take that up and I will write to the Member following that conversation. I can't guarantee - I know the Member asked and rightly so, and she's been lobbying - I can't guarantee any long-term funding for managers in posts anywhere across my department. The reality is that finances are very challenging. But what I do acknowledge is the work that managers and organisations do in securing the bigger opportunity of training and support for volunteers on the ground. So, I am sympathetic, and I will do all I can, but I can't promise the Member long-term funding in that guise. Volunteering shouldn't be an alternative to public services, but there is a balance in terms of her other point around asset transfer as well. What I'd like to see more is the partnership of public services working with the voluntary sector, and how can we secure sometimes some great assets in our communities, such as swimming baths. I know we've seen community groups taking over publicly owned swimming pools into their community, and they do a very good job of that as well, not-for-profit organisations. But this is about enablement, making sure that we can help support people who have the will and want to do this. How can we as Government and organisations help them have the confidence to make sure that they can make a real difference in their communities? We have so many volunteers, young and old, and I'm really impressed by the enthusiasm that our young volunteers bring to communities. I've seen some great projects already in a very short time in this portfolio now, but in my previous role, when I looked after volunteers before, I saw some great and incredible projects where young people were interacting with elderly people, and I think it breaks down some real significant barriers - the personal anxiety between the two groups can be dissolved by just sitting round with a cup of tea and talking about things collectively. So, I genuinely thank the volunteers across Wales and thank you for your contribution. | Yn gyntaf oll, diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau a'i chyfraniad heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod o ran cefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru a'r DU. Yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ddau o'm ffrindiau da, Leanne a Bernie Attridge, a oedd yn gosod y rhwydi yn y clwb pêl-droed lleol boed law neu hindda, a hebddynt ni fyddai'r gêm yn dechrau. Felly, diolch yn fawr iawn i bobl yn union fel nhw. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig, ni waeth beth maent yn ei wneud, y ceir gweithredoedd sy'n helpu ysbryd ac agosatrwydd cymunedol. Byddaf yn edrych yn ofalus iawn ar y mater o gosbau. Rwy'n credu bod gwirfoddoli yn rhoi cyfle i lawer o bobl sydd wedi eu heithrio yn gymdeithasol. Mewn gwirionedd; mae'n aml yn gyfle i bobl ddod yn rhan o'r gymuned unwaith eto, ac rwy'n credu y byddai'n rhywbeth y byddwn i'n bryderus iawn yn ei gylch pe byddai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau farn negyddol ar hynny. Byddaf yn rhoi sylw i hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn dilyn y sgwrs honno. Ni allaf warantu - gwn fod yr Aelod wedi gofyn ac mae hynny'n briodol, ac mae hi wedi bod yn lobïo - ni allaf warantu unrhyw gyllid hirdymor ar gyfer rheolwyr mewn swyddi mewn unrhyw le ar draws fy adran. Y gwirionedd yw bod cyllid yn heriol iawn. Ond yr hyn yr wyf yn ei gydnabod yw'r gwaith y mae rheolwyr a sefydliadau yn ei wneud o ran sicrhau mwy o gyfle am hyfforddiant a chymorth i wirfoddolwyr ar lawr gwlad. Felly, rwy'n cydymdeimlo, a byddaf yn gwneud popeth yn fy ngallu, ond ni allaf addo cyllid hirdymor i'r Aelod yn y modd hwnnw. Ni ddylai gwirfoddoli fod yn ddewis amgen i wasanaethau cyhoeddus, ond mae cydbwysedd o ran ei phwynt arall ynglŷn â throsglwyddo asedau hefyd. Yr hyn yr hoffwn weld mwy ohono yw partneriaeth y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'r sector gwirfoddol, a sut y gallwn weithiau sicrhau rhai asedau gwych yn ein cymunedau, megis pyllau nofio. Rwyf yn gwybod ein bod wedi gweld grwpiau cymunedol yn cymryd rheolaeth dros byllau nofio sy'n eiddo cyhoeddus yn eu cymuned, ac maent yn gwneud gwaith da iawn yn hynny o beth hefyd, sefydliadau dielw. Ond mae hyn yn ymwneud â galluogi, gan wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu i gefnogi pobl sydd â'r ewyllys i wneud hyn ac sy'n awyddus i'w wneud. Sut y gallwn ni fel Llywodraeth a sefydliadau eu helpu i gael yr hyder i wneud yn siŵr eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau? Mae gennym gymaint o wirfoddolwyr, yn hen ac ifanc, ac mae'r brwdfrydedd y mae ein gwirfoddolwyr ifanc yn ei roi i gymunedau wedi creu argraff fawr arnaf. Rwyf wedi gweld rhai prosiectau gwych eisoes mewn amser byr iawn yn y portffolio hwn ar hyn o bryd, ond yn fy swydd flaenorol, pan oeddwn yn gyfrifol am wirfoddolwyr o'r blaen, gwelais rai prosiectau gwych ac anhygoel lle'r oedd pobl ifanc yn rhyngweithio â phobl hŷn, ac rwy'n credu ei fod yn cael gwared ar rai o rwystrau arwyddocaol - gellir diddymu'r pryder personol rhwng y ddau grŵp drwy eistedd gyda phaned o de a siarad am bethau gyda'i gilydd. Felly, rwyf wirioneddol yn diolch i'r gwirfoddolwyr ledled Cymru ac yn diolch i chi am eich cyfraniad. |
I'm delighted to join with you in celebrating the fantastic contribution made by nearly 1 million volunteers in Wales. I note that Volunteering Week was extended this year from 1-12 June, and we must also celebrate the extension associated with the Queen's ninetieth birthday and her contribution, having been the patron of more than 600 charities and organisations. As you said, we can all imagine the additional strain on our public services if the myriad of community groups and charities were not there at the front line. As you rightly said, we also want to make sure the funding we invest in support for volunteers provides the best value for money, and, you're keen to renew your bond with the third sector and maximise the potential for volunteering - and the opportunity certainly exists for that. How would you address concerns that that smarter, best-value-for-money, invest-to-save approach hasn't been embraced? At the end of the last Assembly, for example, Welsh Government cuts to child contact centres and cuts to funding for specialist intervention services supporting families through their relationship breakdown will impact on other services, generating far higher costs, for example, for health, education and social services; or the 9 per cent cut to local county voluntary charities, which Flintshire Local Voluntary Council said in a letter to me would devastate their ability to support more user-led preventative and cost-effective services. In other words, using the more limited money smarter, we can safeguard those services by working differently. How do you respond to the statement by the Wales Council for Voluntary Action that Welsh Government and the sector need to refresh current engagement mechanisms, to develop, promote and monitor a programme for action based on co-production and common ground? Their report on citizen-directed support said that there's scope for local authorities, health boards and the third sector to work much more imaginatively to develop better services that are closer to people, more responsive to needs and add value by drawing on community resources. In fact, replacing hierarchies, power and control with real engagement, better lives and more cohesive communities. In terms of your pledge, or your ambition, to work more closely with the sector in your statement, how will you engage with the newly launched co-production network for Wales? I was a guest at that launch on 26 May in mid Wales with representatives from the public sector and the third sector from every corner of Wales - a packed event, with presentations ranging from Monmouthshire County Council to a session I co-chaired with an officer from Flintshire County Council. The findings that that group reported included: campaigning for change within the Welsh Government, turning the system upside down, challenging people and the systems that restrict us. That working group, as I said, I co-chaired, and that presentation was made by an officer. I was the only politician around the table, so it was hardly a partisan event. Responding to, perhaps, Professor Edgar Cahn, the Washington civil rights lawyer, who developed the concept of co-production to explain how important neighbourhood-level support systems are for families and communities and how they can be rebuilt - he spoke at that event. This is a movement that began in the 1970s; it wasn't a response to austerity, it was how to tackle deeply rooted problems in communities - in that case, in America, but they also exist here. I'll finish at that point. | Rwy'n falch o ymuno â chi i glodfori'r cyfraniad gwych a wneir gan bron i filiwn o wirfoddolwyr yng Nghymru. Nodaf fod Wythnos Gwirfoddoli wedi'i hymestyn eleni o 1-12 Mehefin ac mae'n rhaid i ni hefyd ddathlu'r estyniad sy'n gysylltiedig â phen-blwydd y Frenhines yn naw deg a'i chyfraniad hithau, fel noddwr mwy na 600 o elusennau a sefydliadau. Fel y dywedasoch, gall pob un ohonom ddychmygu'r straen ychwanegol ar ein gwasanaethau cyhoeddus pe na byddai'r amrywiaeth o grwpiau cymunedol ac elusennau yno yn y rheng flaen. Fel y dywedasoch yn gywir, rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod yr arian yr ydym yn ei fuddsoddi mewn cymorth i wirfoddolwyr yn cynnig y gwerth gorau am arian, ac, rydych yn awyddus i adnewyddu eich perthynas glós gyda'r trydydd sector a gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer gwirfoddoli - ac mae'r cyfle yn sicr yn bodoli ar gyfer hynny. Sut y byddwch yn mynd i'r afael â phryderon nad yw'r dull callach, gwerth gorau am arian, buddsoddi i arbed hwnnw wedi'i gofleidio? Ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf, er enghraifft, bydd toriadau Llywodraeth Cymru i ganolfannau cyswllt plant a thoriadau i gyllid ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth arbenigol i gefnogi teuluoedd pan fo perthynas yn chwalu yn effeithio ar wasanaethau eraill, gan achosi costau uwch o lawer, er enghraifft, ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol; neu'r toriad o 9 y cant i elusennau gwirfoddol sirol lleol, y dywedodd Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint mewn llythyr ataf y byddai'n dinistrio eu gallu i gefnogi mwy o wasanaethau ataliol a chost-effeithiol a arweinir gan ddefnyddwyr. Mewn geiriau eraill, gan ddefnyddio'r arian mwy cyfyngedig yn gallach, gallwn ddiogelu'r gwasanaethau hynny drwy weithio mewn modd gwahanol. Sut yr ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru a'r sector adfywio mecanweithiau ymgysylltu presennol, i ddatblygu, hyrwyddo a monitro rhaglen ar gyfer gweithredu yn seiliedig ar gyd-gynhyrchu a thir cyffredin? Mae eu hadroddiad ar gymorth a gyfarwyddir gan ddinasyddion yn dweud bod cyfle i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r trydydd sector weithio'n llawer mwy dychmygus i ddatblygu gwasanaethau gwell sy'n agosach at bobl, yn fwy ymatebol i anghenion, ac ychwanegu gwerth drwy dynnu ar adnoddau cymunedol. Mewn gwirionedd, disodli hierarchaethau, pŵer a rheolaeth gydag ymgysylltiad gwirioneddol, bywydau gwell a chymunedau mwy cydlynol. O ran eich addewid, neu eich uchelgais, i weithio'n agosach gyda'r sector yn eich datganiad, sut y byddwch yn ymgysylltu â'r rhwydwaith cyd-gynhyrchu sydd newydd ei lansio ar gyfer Cymru? Roeddwn yn westai yn y lansiad ar 26 Mai yn y canolbarth gyda chynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector o bob cwr o Gymru - digwyddiad a oedd dan ei sang, gyda chyflwyniadau yn amrywio o rai gan Gyngor Sir Fynwy i sesiwn a gyd-gadeiriwyd gennyf i a swyddog o Gyngor Sir y Fflint. Roedd y canfyddiadau a adroddwyd gan y grŵp hwnnw yn cynnwys: ymgyrchu dros newid o fewn Llywodraeth Cymru, gan droi'r system wyneb i waered, a herio pobl a'r systemau sy'n cyfyngu arnom. Fel y dywedais, fi oedd yn cyd-gadeirio'r gweithgor hwnnw, a gwnaethpwyd y cyflwyniad gan swyddog. Fi oedd yr unig wleidydd o amgylch y bwrdd, felly nid oedd hwn yn ddigwyddiad pleidiol o gwbl. Wrth ymateb, efallai, i'r Athro Edgar Cahn, y cyfreithiwr hawliau sifil o Washington a ddatblygodd y cysyniad o gyd-gynhyrchu i esbonio pa mor bwysig yw systemau cymorth ar lefel y gymdogaeth ar gyfer teuluoedd a chymunedau a sut y gellir eu hailadeiladu - siaradodd ef yn y digwyddiad hwnnw. Mae hwn yn fudiad a ddechreuodd yn y 1970au; nid ymateb i gyni cyllidol ydoedd, ond ystyriaeth o sut i fynd i'r afael â phroblemau wedi'u gwreiddio'n ddwfn mewn cymunedau - yn yr achos hwnnw, problemau mewn cymdeithasau yn America, ond maent hefyd yn bodoli yma. Gorffennaf â'r pwynt hwnnw. |
I thank the Member for his contribution. I think the First Minister was very clear, when he became the First Minister in the fifth term, about having a very different conversation with both political parties and members of the public. I think the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 actually puts into legislation what terms and conditions we have to comply with as a Government, about engagement with citizens. That's certainly what I want to do. I want to listen to all sectors outside Government, to listen to the concerns that you have raised on their behalf, too. There are many organisations who I know do a tremendous job in all our communities, but the reality is, Mark, that in the last term of Government we were restricted by £1.9 billion less money coming into the Welsh economy because of the UK Government. I cannot fill or mitigate that effect, and the fact therefore is that a 9 per cent reduction for some of the CVCs was inevitable. Actually, in some areas, we have to make choices and they're very difficult. In politics - and, Mark, you've been in this game a long time, as well as I have - now is probably one of the most challenging times we find as a Government because the finances just aren't there. We have to do things very, very differently, and I'm prepared to have that conversation with all aspects of people who want to do different things in their communities, but also have the same objectives as this Government about the well-being of communities right across Wales. I think I spoke about this element to Bethan Jenkins earlier on. I think I see my role and the role of Welsh Government as about enabling people to do more, and if we can only support people to do well in their communities as a Government, I think we're on the right side of that. I cannot commit to increasing funding for organisations when we just don't have the finances to do that. But I'm grateful for the Member's contribution, and I look forward to working with him and some of the groups that he represents here today. | Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Credaf fod y Prif Weinidog yn glir iawn, pan ddaeth yn Brif Weinidog yn y pumed tymor, ynglŷn â chael sgwrs wahanol iawn gyda phartïon gwleidyddol ac aelodau'r cyhoedd. Credaf fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn gwirionedd yn nodi mewn deddfwriaeth y telerau ac amodau y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw fel Llywodraeth, ynglŷn ag ymgysylltu â dinasyddion. Dyna'n sicr yw'r hyn yr wyf i eisiau ei wneud. Rwyf eisiau gwrando ar bob sector y tu allan i'r Llywodraeth a gwrando hefyd ar y pryderon yr ydych chi wedi'u lleisio ar eu rhan. Mae yna lawer o fudiadau yr wyf yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith aruthrol o fewn ein cymunedau i gyd, ond y gwir yw, Mark, yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, cawsom ein cyfyngu o ganlyniad i £1.9 biliwn yn llai o arian yn cael ei fwydo i economi Cymru oherwydd Llywodraeth y DU. Ni allaf gael gwared ar yr effaith honno na'i lliniaru, a'r ffaith felly yw bod gostyngiad o 9 y cant ar gyfer rhai o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn anochel. A dweud y gwir, mewn rhai ardaloedd, mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau ac maent yn rhai anodd iawn. Mewn gwleidyddiaeth - a Mark, rydych chi wedi bod yn y gêm hon ers talwm, fel finnau - hwn mae'n debyg, yw un o'r cyfnodau mwyaf heriol i ni fel Llywodraeth gan nad yw'r cyllid ar gael. Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol iawn, iawn, ac rwy'n barod i gael y sgwrs hon gydag amrywiaeth eang o bobl sydd yn awyddus i wneud pethau gwahanol yn eu cymunedau, ond sydd hefyd â'r un amcanion â'r Llywodraeth hon ynglŷn â lles cymunedau ledled Cymru. Credaf fy mod wedi siarad am yr elfen hon gyda Bethan Jenkins yn gynharach. Credaf fod fy swyddogaeth i a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â galluogi pobl i wneud mwy, ac os gallwn ddim ond cefnogi pobl i wneud yn dda yn eu cymunedau fel Llywodraeth, credaf ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni'r swyddogaeth honno. Ni allaf ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer sefydliadau pan nad oes gennym y cyllid i wneud hynny. Ond rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef a rhai o'r grwpiau y mae'n eu cynrychioli yma heddiw. |
Many residents in my constituency of Cynon Valley are amongst the 1 million or so people across Wales who give freely of their time to improve their communities and the lives of their neighbours. Volunteers' Week gives us an opportunity to say 'thank you' and to highlight their contribution. Will you join with me in offering congratulations to the 40,000 volunteers from across the UK who worked with the Trussell Trust last year to provide food banks across Wales, for their part in helping the organisation to become the overall winner in the Charity Awards 2016? Secondly, volunteers are having to take responsibility for the delivery of more and increasingly complex local services due to public sector spending cuts, for example through community asset transfers. This can often require complex management skills. How is the Welsh Government supporting volunteers in developing these? Finally, studies have shown that volunteering can improve an individual's mental health. How can the Welsh Government best promote this within its volunteering policy? | Mae llawer o drigolion yn fy etholaeth i, sef Cwm Cynon, ymhlith yr 1 miliwn neu fwy o bobl ledled Cymru sy'n rhoi'n hael o'u hamser i wella eu cymunedau a bywydau eu cymdogion. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni ddweud 'diolch' wrthynt ac i dynnu sylw at eu cyfraniad. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y 40,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r DU a weithiodd gydag Ymddiriedolaeth Trussell y llynedd i ddarparu banciau bwyd ledled Cymru, am eu rhan wrth helpu'r sefydliad i fod y prif enillydd yng Ngwobrau Elusennau 2016? Yn ail, mae gwirfoddolwyr yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am ddarparu mwy o wasanaethau lleol a darparu gwasanaethau lleol cynyddol gymhleth o ganlyniad i doriadau gwariant yn y sector cyhoeddus, er enghraifft drwy drosglwyddo asedau cymunedol. Yn aml, gall fod angen sgiliau rheoli cymhleth ar gyfer hyn. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn? Yn olaf, mae astudiaethau wedi dangos bod gwirfoddoli yn gallu gwella iechyd meddwl unigolyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo hyn orau o fewn ei pholisi gwirfoddoli? |
I thank the Member for her contribution. I know that she represents Cynon Valley really well, and representing the many people who volunteer in her community; I also say 'thank you' to those. It was a rather sad indictment, really, that one of the fastest-growing businesses last year was food banks, and the fact of the matter is that I believe it is caused by austerity that we have to do this. But 40,000 people take time out to support each other in our community; we should, again, be very proud of that, and I place on record my thanks to the Trussell Trust food banks and all food banks that operate across our communities. It's a very sad indictment that we need them, but we've got them and they're run very well. Community asset transfer is another element of complex programmes. What I'm keen to do - and this may sound challenging - I think we miss a trick because some of our communities that need these assets the most are the ones that are enabled. Actually, we have many aspects of community engagement where we have ex-professional retired people who can manage these organisations very well, but the communities where we don't have these people living actually have the people who need them most, and that's where we should be absolutely, deep-dive, looking at supporting our most vulnerable communities, where we should be encouraging more take-up of this. The Member is absolutely right to raise the issue about well-being and mental health also. I said to Members earlier on that I think accessing volunteering gives people the softer option into possibly employment later on, but moving into a different space of building relationships with communities, with other individuals, when sometimes they may have had some very challenging personal issues themselves. So, I think volunteering is the correct route, and we should encourage all people from all walks of life. But, actually, with regard to the issue around supporting people with mental health issues, volunteering can be a great option. | Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Gwn ei bod yn cynrychioli Cwm Cynon yn dda iawn, ac yn cynrychioli'r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn ei chymuned; rwyf hefyd yn 'diolch' iddynt hwythau. Roedd braidd yn drist, mewn gwirionedd mai un o'r busnesau a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd banciau bwyd, a chredaf mai cyni cyllidol sy'n peri i hyn ddigwydd mewn gwirionedd. Ond mae 40,000 o bobl yn neilltuo amser i gefnogi ei gilydd yn ein cymuned; dylem, unwaith eto, fod yn falch iawn o hynny, a hoffwn gofnodi fy niolch i fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a'r holl fanciau bwyd sy'n gweithredu ar draws ein cymunedau. Mae'n adlewyrchiad trist iawn ein bod eu hangen, ond maen nhw gennym ac maen nhw'n cael eu rhedeg yn dda iawn. Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn elfen arall o raglenni cymhleth. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wneud - a gallai hyn swnio'n heriol - credaf ein bod yn colli cyfle gan fod rhai o'n cymunedau, y rhai hynny sydd angen yr asedau hyn fwyaf, yn gymunedau sydd wedi eu galluogi. Mewn gwirionedd, mae gennym sawl agwedd ar ymgysylltu â'r gymuned lle mae gennym bobl cyn-broffesiynol sydd wedi ymddeol sy'n gallu rheoli'r cyrff hyn yn dda iawn, ond mae'r cymunedau lle nad yw'r bobl hyn yn byw ynddynt, mewn gwirionedd yn cynnwys y bobl sydd eu hangen fwyaf, a dyna lle y dylem ni, heb os, ganolbwyntio fwyaf, gan edrych ar gynnal ein cymunedau sydd fwyaf dan fygythiad, lle y dylem fod yn annog mwy o wneud hyn. Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch lles ac iechyd meddwl hefyd. Dywedais wrth yr Aelodau yn gynharach fy mod yn credu bod y gallu i wirfoddoli yn cyflwyno dewis haws i bobl o bosibl i gychwyn gweithio nes ymlaen, ond hefyd mae'n eu datblygu ymhellach i allu adeiladu perthynas gyda chymunedau, a chydag unigolion eraill, pan allai fod ganddynt weithiau faterion personol heriol iawn eu hunain. Felly, credaf mai gwirfoddoli yw'r llwybr cywir, a dylem annog pobl o bob rhan o gymdeithas. Ond, mewn gwirionedd, o ran y mater ynghylch cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, gall gwirfoddoli fod yn ddewis gwych. |
I am taking the unusual step for me of speaking in Welsh here in the Chamber. It's not because I am fluent in Welsh, but because I'm not fluent in Welsh, but I'm trying to get there. So, if Members are willing to bear with me, I will try my best to take faltering steps towards fluency on a very public stage. This is high risk. [Laughter.] In the Bridgend and Ogmore region, like so many other regions, we have many people in so many organisations who contribute their time and effort to make things a little better, a little easier, in so many ways. From the Wombles in Pontycymer and Ogmore Valley Pride in Ogmore Vale, tidying up their local environment, to the Caerau Community Growers providing fresh food and horticulture skills to their communities, from the Bridgend Samaritans providing someone to listen to when times are tough to the many food-bank volunteers in almost every town and village: this is a sad reflection of these austere times, but a reflection too of the generous spirit of our communities. So, would the Minister commend the work of all of these organisations and volunteers, and the companies and employers, who often now give time off to staff to volunteer, and to those co-ordinating organisations like BAVO, the Bridgend Association of Voluntary Organisations, in Bridgend? Would the Minister also agree with me that it's not that hard value, in terms of pounds and pence, that's important, but the human value of giving and of being there when others need you? That goes on every hour of every day throughout Wales, and it is right that we celebrate that during this Volunteers' Week. | Rwy'n cymryd y cam anarferol i mi o siarad Cymraeg yma yn y Siambr heddiw, nid oherwydd fy mod yn siarad Cymraeg yn rhugl ond oherwydd nad wyf yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac rwy'n ceisio cyrraedd y nod. Felly, os yw Aelodau yn fodlon bod yn amyneddgar, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i gymryd fy nghamau cyntaf tuag at siarad Cymraeg yn rhugl ar lwyfan cyhoeddus iawn. Sôn am gymryd risg. [Chwerthin.] Yn ardal Pen-y-bont ac Ogwr, fel llawer o ardaloedd eraill, mae yna gymaint o bobl mewn nifer fawr o sefydliadau sy'n cyfrannu o'u hamser a'u hegni i sicrhau bod pethau ychydig yn well ac ychydig yn rhwyddach mewn cymaint o ffyrdd. O'r Wombles ym Mhontycymer ac Ogmore Valley Pride ym Mro Ogwr, sy'n tacluso eu hamgylchedd lleol, i'r Caerau Community Growers yn cynnig bwyd ffres a sgiliau garddwriaeth i'w cymunedau, o Samariaid Pen-y-bont, sy'n gwrando ar bobl pan fo pethau'n mynd yn ormod, i'r llu o wirfoddolwyr mewn banciau bwyd ym mhob tref a phentref bron: adlewyrchiad trist o'r adeg hon o 'austerity', ond adlewyrchiad hefyd o garedigrwydd ein cymunedau. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn cymeradwyo gwaith yr holl sefydliadau a'r gwirfoddolwyr hyn, y cwmnïau a chyflogwyr sy'n aml yn rhyddhau eu staff i wirfoddoli, a'r sefydliadau fel BAVO ym Mhen-y-bont sy'n cydlynu'r gwaith hwn? A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad y gwerth caled o ran punnoedd a cheiniogau sy'n bwysig yma, ond y gwerth dynol o roi a bod ar gael pan fo'ch angen gan eraill? Mae hynny'n digwydd bob awr o bob dydd ledled Cymru, ac mae'n bwysig ein bod ni'n dathlu hynny yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr. |
Diolch yn fawr i chi. Thank you very much for your contribution, Huw. Your Welsh is outstanding compared to mine, may I say? First of all, there's nothing you've said I can disagree with. I think you related to many of the community activities in the area you represent. I am familiar with some of those organisations and it's right to say also that there are some companies that actively seek to engage with their employees, pushing them into volunteering opportunities because it actually brings back more for the company too. It's not in your constituency, but I was with volunteers from GE yesterday, and Jo Foster was leading a team of volunteers out and about. There are many other organisations that do that. I think what it does say - and I think you made reference to this - volunteering not only has a positive experience on our communities but, actually, it is the heart of our community Welsh spirit. It just defines us. I think what we can give, and it's not in monetary terms, but it's about social interaction. I think you're absolutely right: we should celebrate the volunteers in your community and many communities across Wales. | Diolch yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Huw. Mae eich Cymraeg yn rhagorol o'i gymharu â'm Cymraeg i, os caf i ddweud? Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw beth yr ydych wedi'i ddweud y gallaf anghytuno ag ef. Rwy'n credu eich bod yn ymwneud â llawer o'r gweithgareddau cymunedol yn yr ardal yr ydych yn ei chynrychioli. Rwyf yn gyfarwydd â rhai o'r sefydliadau hynny ac mae'n wir i ddweud hefyd fod rhai cwmnïau yn mynd ati i geisio ymgysylltu â'u gweithwyr, yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn dod â mwy yn ôl i'r cwmni hefyd. Nid yw yn eich etholaeth chi, ond roeddwn gyda gwirfoddolwyr o GE ddoe, ac roedd Jo Foster yn arwain tîm o wirfoddolwyr o amgylch y lle. Mae llawer o sefydliadau eraill sy'n gwneud hynny. Rwy'n credu mai beth y mae hyn yn ei ddweud yw - ac rwyf yn credu eich bod wedi cyfeirio at hyn - nid yn unig y mae gwirfoddoli yn brofiad cadarnhaol ar gyfer ein cymunedau ond, mewn gwirionedd, gwirfoddoli yw craidd ein hysbryd Cymreig cymunedol. Mae'n ein diffinio ni. Rwy'n credu bod modd i ni roi, ac nid wyf yn sôn am arian, yn hytrach rwy'n sôn am ryngweithio cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: dylem ddathlu cyfraniad y gwirfoddolwyr yn eich cymuned ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. |
Minister, I'm very grateful for you bringing this statement today. I think it's only right that we pay tribute as an Assembly to the tremendous efforts of volunteers across Wales. But I am a little bit disappointed because the one significant group of volunteers that you didn't mention were those in faith groups across the country in churches, mosques and other settings. You'll be aware, because of your previous ministerial engagement with such groups, that they make a tremendous contribution across Wales in many, many different ways, whether that's through youth groups, being custodians of some wonderful buildings or simply serving the elderly or disadvantaged in our communities. There was a report, of course, which was published back in 2008 - and things have moved on significantly since then - which identified that such individuals are giving 80,000 hours per week in terms of their volunteering contribution here in Wales, and that was 42,000 volunteers that had been mobilised, as a result of their faith and their engagement in faith communities across Wales, to undertake some volunteering. So, I wonder, Minister, what you're doing to increase the capacity of faith groups to expand their volunteering efforts and what you're doing specifically as a Government to recognise their achievements and to thank them for them achievement to society here in Wales. I'm sure you would want to do that now in the Chamber. | Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Rwy'n credu ei bod ond yn iawn ein bod yn talu teyrnged fel Cynulliad i ymdrechion aruthrol gwirfoddolwyr ledled Cymru. Ond rwyf ychydig bach yn siomedig oherwydd yr un grŵp sylweddol o wirfoddolwyr na soniasoch amdanynt, oedd y rhai mewn grwpiau ffydd ar draws y wlad mewn eglwysi, mosgiau a lleoliadau eraill. Dylech fod yn ymwybodol, oherwydd eich ymgysylltiad gweinidogol blaenorol â grwpiau o'r fath, eu bod yn gwneud cyfraniad aruthrol ledled Cymru mewn sawl gwahanol ffordd, boed hynny drwy gyfrwng grwpiau ieuenctid, bod yn geidwaid rhai adeiladau gwych neu yn syml drwy wasanaethu'r henoed neu'r rhai sydd dan anfantais yn ein cymunedau. Roedd adroddiad, wrth gwrs, a gyhoeddwyd yn ôl yn 2008 - ac mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny - a oedd yn nodi bod unigolion o'r fath yn gwirfoddoli 80,000 o oriau yr wythnos yma yng Nghymru, ac roedd hynny'n 42,000 o wirfoddolwyr a oedd wedi penderfynu gwirfoddoli mewn rhyw ffordd o ganlyniad i'w ffydd a'r ffaith eu bod yn ymgysylltu â chymunedau ffydd ledled Cymru. Felly, tybed, Weinidog, beth yr ydych chi'n ei wneud i gynyddu gallu grwpiau ffydd i ehangu eu hymdrechion gwirfoddoli a beth ydych chi'n ei wneud yn benodol fel Llywodraeth i gydnabod eu cyflawniadau ac i ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad i gymdeithas yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddech yn dymuno gwneud hynny yn awr yn y Siambr. |
May I thank the Member for his question? To take one issue, I was non-specific about volunteers - it was a general position of volunteering and, of course, I recognise the many, many hours, the uncounted hours, actually, that faith groups and other organisations take part in. Indeed, I was a member many years ago of the Salvation Army Boys Adventure Corps - many, many years ago - but that only happened because there were volunteers prepared to run this club for individuals. I visited the soup kitchen in Cardiff, which looks after homeless people, run by the Salvation Army again. So, I recognise that the faith sector has so many opportunities too. Again, non-specifically, I think that what we should all do is encourage all volunteers from all walks of life to get engaged, and it's something that this Welsh Government will continue. | A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? I fynd i'r afael ag un mater, roeddwn yn amhenodol ynglŷn â gwirfoddolwyr - sôn oeddwn i am sefyllfa gyffredinol gwirfoddoli ac, wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr oriau di-rif, yr oriau nad ydynt wedi'u cofnodi, mewn gwirionedd, y mae grwpiau ffydd a sefydliadau eraill yn eu neilltuo ar gyfer gwirfoddoli. Yn wir, roeddwn yn aelod, flynyddoedd lawer yn ôl, o Gorfflu Antur Bechgyn Byddin yr Iachawdwriaeth - llawer iawn o flynyddoedd yn ôl - ond dim ond oherwydd bod gwirfoddolwyr yn barod i redeg y clwb hwnnw ar gyfer unigolion y digwyddodd hynny. Ymwelais â'r gegin gawl yng Nghaerdydd, sy'n gofalu am bobl ddigartref, a redir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth eto. Felly, rwy'n cydnabod bod gan y sector ffydd gymaint o gyfleoedd hefyd. Unwaith eto, gan fod yn amhenodol, credaf mai'r hyn y dylem ni i gyd ei wneud yw annog pob gwirfoddolwr o bob cefndir i gymryd rhan, ac mae'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn parhau i'w wneud. |
The next item is a statement by the Cabinet Secretary for Finance and Local Government on the Welsh language and local government. I call on the Cabinet Secretary, Mark Drakeford. | Nawr, yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar yr iaith Gymraeg a llywodraeth leol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Mark Drakeford. |
May I congratulate you, Mark Drakeford, on your recent appointment, and I look forward to working with you? Plaid Cymru and I welcome this report today. There are clear, robust recommendations made, and we congratulate Rhodri Glyn Thomas, who is a former Member of this place, on his excellent work, as well as his fellow members, on their work too. I'm sure you would agree that bilingual, robust public services can make a huge contribution to the regeneration of the Welsh language. I think that there are three important points that we should bear in mind in this area. Strengthening the rights of service users in the public sector enhances people's confidence in using the Welsh language, as well as strengthening their rights, of course. Allowing and strengthening Welsh-medium working as part of the daily pattern of work of Welsh speakers also enhances people's confidence. It's also important to note that making the Welsh language a key skill does give an entirely practical purpose to the speaking of Welsh, to Welsh-medium education and provides a reason for learning Welsh. And I'm sure that you would agree with me that creating a Welsh labour market is extremely important in the process of regenerating the Welsh language. Until very recently, I was a councillor on Gwynedd Council, and many of you will be aware of the enlightened policies of that particular council, and it's no accident that some of the communities around the headquarters of that council have seen an increase in the number of Welsh speakers, which is contrary to what has happened in many other areas in Wales. Some communities have seen an increase in the number of Welsh speakers since the census. The village of Waunfawr, for example, had an increase from 73 per cent to 75 per cent in the number of Welsh speakers. Would you agree with me therefore that there are other local authorities now in Welsh-speaking heartlands that do want to move forward and further develop their policies, and that the leadership for that has to come from the Welsh Government, as the working group notes? I do welcome the recommendations on workforce planning certainly, but there are two things that do cause concern. How can you implement the recommendations if responsibility for the Welsh language in the workforce isn't going to sit with the National Centre for Learning Welsh in future? The likelihood is that the teaching of Welsh in the workplace will fall to another organisation. There's a great deal of uncertainty surrounding that. So, I think it would be difficult to implement some of the recommendations in the report. And the other problem, of course, is the financial resources required. We have seen the departmental resources for the Welsh language cut. Do you therefore share my concern about the implementation of some of the recommendations in this report, albeit that they are very robust? We welcome them very much, but they now need to be implemented. Do you share my concern that it may not be possible for these to be implemented under current circumstances? | A gaf i'ch llongyfarch chi, Mark Drakeford, ar eich penodiad diweddar ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio efo chi? Rwyf i a Phlaid Cymru'n croesawu'r adroddiad yma heddiw. Mae yna argymhellion clir a chadarn yma, ac rydym yn llongyfarch gwaith gwych Rhodri Glyn Thomas, sy'n gyn-Aelod y lle yma, wrth gwrs, a'i gyd aelodau ar y gwaith. Rydych chi'n cytuno, rwy'n siŵr, y gall gwasanaeth cyhoeddus dwyieithog cyhyrog gyfrannu'n enfawr tuag at adferiad y Gymraeg. Rwy'n meddwl bod yna dri phwynt pwysig i feddwl amdanyn nhw yn y maes yma. Mae cryfhau hawliau defnyddwyr gwasanaeth yn y sector cyhoeddus yn codi hyder y bobl sydd yn siarad Cymraeg, yn ogystal â chryfhau'u hawliau nhw. Mae caniatáu a chryfhau gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o waith pob dydd pobl sy'n siarad Cymraeg yn codi hyder hefyd. Mae hefyd yn bwysig nodi, rwy'n meddwl, fod gwneud y Gymraeg yn sgìl hanfodol yn creu pwrpas hollol ymarferol ynglŷn â siarad Cymraeg, ynglŷn ag addysg Gymraeg ac yn rhoi pwrpas i ddysgu Cymraeg. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno efo fi fod creu marchnad lafur Gymraeg yn bwysig iawn yn y broses o adfer yr iaith Gymraeg. Rwyf i, tan yn ddiweddar iawn, wedi bod yn gynghorydd efo Cyngor Gwynedd, ac mae llawer ohonom ni'n gwybod am bolisïau goleuedig y cyngor hwnnw, ac nid yw'n ddamwain bod rhai cymunedau o gwmpas pencadlys y cyngor sir hwnnw wedi gweld cynnydd, yn groes i beth sydd wedi digwydd ar draws Cymru. Mae yna rai cymunedau wedi gweld cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg ers y cyfrifiad. Er enghraifft, ym mhentref Waunfawr, bu cynnydd o 73 y cant i 75 y cant o siaradwyr Cymraeg. A ydych chi'n cytuno efo fi, felly, fod yna awdurdodau lleol eraill rŵan yng nghadarnleoedd y Gymraeg eisiau symud ymlaen i ddatblygu ymhellach ar eu polisïau nhw a bod angen i'r arweiniad ar gyfer gwneud hynny ddod o Lywodraeth Cymru, fel y mae'r gweithgor yn nodi? Rwyf yn croesawu'r argymhellion ynglŷn â chynllunio gweithlu, yn sicr, ond mae yna ddau beth yn peri pryder. Sut mae modd i chi weithredu'r argymhellion os na fydd y cyfrifoldeb am y Gymraeg yn y gweithlu gyda chorff y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn y dyfodol? Y tebygrwydd ydy y bydd dysgu Cymraeg yn y gweithle yn mynd i gorff arall. Mae yna lawer o ansicrwydd ynghylch hynny. Rwy'n meddwl y bydd hi'n anodd gweithredu rhai o'r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Y broblem arall, wrth gwrs, ydy'r adnoddau ariannol. Rydym wedi gweld yr adnoddau adrannol ar gyfer y Gymraeg yn cael eu torri. A ydych chi, felly, yn rhannu fy mhryder am weithredu rhai o argymhellion yr adroddiad yma, cadarn fel ag y maen nhw? Rydym yn eu croesawu nhw'n fawr iawn, ond eu gweithredu rŵan sydd angen ei wneud. A ydych yn rhannu fy mhryder i efallai nad ydy hi'n mynd i fod yn bosib i'w gweithredu nhw o dan yr amgylchiadau presennol? |
Congratulations from me too, new Cabinet Secretary. May I also thank you for your statement today and for the report? Of course, I haven't had an opportunity to give it the attention it deserves. I would like to do that before too long. But it's clear from some of what I've seen already that this work doesn't duplicate work that's already been done in this area. So, there is a chance now for us to move forward with these recommendations. That is something that we should celebrate, I think. As you said, it's going to be quite challenging for some of us, but having looked at them in detail, we will have an opportunity to bring forward our own clear ideas and our stance as a party. If I could just turn first of all to the standards, because Sian raised the issue of rights. I personally would like to see standards working here in Wales. It has been disappointing, I have to say, that there have been so many appeals submitted to the commissioner from some of our local authorities here in Wales. It's disappointing, given the work that has taken place between the commissioner's office, the Welsh Government and the councils themselves. As I said, I would like to see the standards working effectively, so I would like to see the number of appeals reduced and the risk of judicial review also. I don't want to see that happening. So, do you think it would be possible, in response to this report, to say something about the test that you as a Government use in ensuring that the regulations introducing the standards make it clear why you as a Government have deemed them to be reasonable and proportionate, because that is the fundamental point of standards, just in order to avoid these appeals from coming through in the first place? You mention in your statement the assistance available for those working in our public services, particularly our councils, and I agree with you on that point, but it is not just about resources, shall we say, because it's important that everyone has these. If people want to use the Welsh language, they should have the opportunity to speak Welsh and learn Welsh within our councils. But I was thinking more of a culture shift, because, as you know, not every council in Wales has taken up this agenda, and it is still something of a battle for hearts and minds, shall we say, with some of our councils, and with some councillors particularly. I saw some words in the report on leadership by our senior officials, and there are questions here about what would be relevant or pertinent to them, but I would like to know more about the way in which we deal with the attitude towards the language of some of our elected members in some places and some of our officials, depending on where they work. This can be a difficult issue, even now, it's sad to say. May I conclude just by saying something about economic development? There isn't much in the statement on that, but there is a great deal in the report and I haven't had an opportunity to look at it in detail. Sian Gwenllian is entirely right in mentioning the value of learning Welsh - just seeing it as a benefit and an advantage in our daily lives and especially in the workplace. It's no surprise really that I am interested in the Swansea bay city region. I have seen that there is reference in the report to some of the communities in the west of that development, but I would like to know what an economic language strategy would mean in those traditionally non-Welsh-speaking communities, because there are many within my region. If you look at Welsh-language skills as a tool against poverty, there is a question as to what an economic language plan will mean in communities such as those. Thank you. | Llongyfarchiadau wrthyf i, hefyd, Ysgrifennydd newydd. A allaf ddweud diolch yn fawr, hefyd, am y datganiad heddiw a'r adroddiad? Wrth gwrs, nid wyf wedi cael y siawns i edrych drosto fel y mae'n haeddu. Hoffwn wneud hynny'n fanwl cyn bo hir. Rwy'n falch o weld ei fod yn glir, o rai o'r geiriau rwyf wedi'u gweld yn barod, nad yw'r gwaith yma yn dyblygu gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod yn y maes yma, felly mae yna siawns inni symud ymlaen gyda'r argymhellion yma. Mae yna rywbeth i'w ddathlu, rwy'n credu. Fel y dywedoch chi, mae'n mynd i fod yn dipyn bach o her i rai ohonom ni, ond ar ôl edrych drwyddynt yn fanwl, fe gawn ni siawns i gael syniadau clir am le rydym ni'n sefyll fel plaid arnyn nhw. A allaf i droi, i ddechrau, i'r safonau, achos mae Sian wedi codi mater hawliau? Hoffwn i, yn bersonol, weld y safonau yn gweithio yma yng Nghymru, ac mae wedi bod yn siomedig, rhaid imi ddweud, fod yna gymaint o apeliadau wedi mynd at y comisiynydd, rwy'n credu, oddi wrth rai o'r cynghorau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n siomedig ar ôl y gwaith sydd wedi cymryd lle rhwng swyddfa'r comisiynydd, y Llywodraeth a'r cynghorau. Fel y dywedais i, hoffwn i weld y safonau'n gweithio, felly rwyf i eisiau lleihau'r nifer o apeliadau a'r risg o, efallai, adolygiadau barnwrol. Nid wyf i eisiau gweld y rheini. Felly, a fydd e'n bosibl, a ydych chi'n ei feddwl, mewn ymateb i'r adroddiad yma, i ddweud rhywbeth am y prawf yr ydych chi fel Llywodraeth yn ei ddefnyddio, 'really', i fod yn siŵr bod y rheoliadau sy'n cyflwyno'r safonau yn ei wneud yn glir pam rydych chi fel Llywodraeth wedi eu ffeindio nhw'n rhesymol a chymesur, achos wrth gwrs dyna bwynt sylfaenol y safonau, jest i osgoi apeliadau yn dod drwyddo eto? Rydych chi'n sôn yn y datganiad am gymorth i bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig y cynghorau, ac rwy'n cytuno â hynny, ond nid am adnoddau yn unig, a gawn ni ddweud, achos mae'n bwysig i bawb gael y rhain. Os ydyn nhw eisiau siarad Cymraeg, dylen nhw gael y siawns i siarad a dysgu Cymraeg yn ein cynghorau. Ond, roeddwn i'n meddwl mwy am newid diwylliannol, achos, fel rydych chi'n gwybod, nid yw pob cyngor yng Nghymru wedi cymryd yr agenda yma ac mae yna o hyd dipyn o frwydr calonnau-meddyliau, a gawn ni ddweud, gyda rhai o'n cynghorau - a chynghorwyr yn arbennig. Fe welais i eiriau yn yr adroddiad ynglŷn ag arweinyddiaeth ein swyddogion uwch ac mae yna gwestiwn yma am beth sy'n mynd i fod yn berthnasol iddyn nhw, ond hoffwn i wybod mwy am sylwadau ar ddull o ymdrin ag agwedd tuag at yr iaith ein haelodau etholedig mewn rhai llefydd a rhai o'n swyddogion, gan ddibynnu lle maen nhw'n gweithio. Mae hyn yn gallu bod yn anodd erbyn hyn, mae'n drist imi ddweud. I ddiweddu, a gaf i ddweud rhywbeth am ddatblygiad economaidd, achos nid oes lot yn y datganiad ond, wrth gwrs, mae yna lot yn yr adroddiad, ac nid wyf wedi cael siawns i edrych drwyddynt? Mae Sian Gwenllian yn hollol gywir am hynny am bwynt dysgu Cymraeg - jest i weld pam mae'n bwysig a sut y mae'n fantais yn ein bywyd bob dydd, yn arbennig yn ein gweithle. Mae gennyf fi - nid oes syndod, 'really' - ddiddordeb yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Rwyf i wedi gweld bod yna rywbeth yn yr adroddiad ynglŷn â rhai cymunedau yng ngorllewin yr ardal yna, ond hoffwn i wybod beth fydd strategaeth ieithyddol economaidd yn ei feddwl yn y cymunedau di-Gymraeg, achos mae lot ohonyn nhw yn fy rhanbarth i. Os ydych chi'n edrych ar sgiliau Cymraeg fel offeryn yn erbyn tlodi, mae yna gwestiwn am beth mae strategaeth ieithyddol economaidd yn mynd i feddwl mewn cymunedau tebyg. Diolch. |
First, can I declare an interest? I have a daughter who attends Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe and a granddaughter attending Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan. I welcome the report and the commitment of the Welsh Government and the Minister to the Welsh language. I believe that education is the key to the continuation of Welsh as a community language. I am pleased with the growth of Welsh-medium education, especially in south Wales, led by Labour-controlled local authorities. As the First Minister said earlier today in answer to a question from Jeremy Miles, the area speaking Welsh has been moving up the Swansea valley - perhaps leaving Craig-cefn-parc and bits of Pontarddulais behind - for some considerable time. That's something we need first to halt and then to reverse, returning Welsh to the community language throughout the Swansea valley. My wife can tell you about when she was young and in school - that in Ynystawe, where I live, Welsh was the language of the community. It's sadly no longer so. I've three questions relating to local government and the Welsh language. Two of these - the Minister's going to say - don't actually fall into his portfolio, so, apologies for that. Firstly, what is being done to ensure that parents have the opportunity of Welsh medium, when their children are in Flying Start? That's the beginning of education for very many children, and if they're put into an English-medium Flying Start the likelihood is they'll go through English-medium education right the way through. I think it's important that that opportunity is available. I've had to take up cases on behalf of constituents, which have eventually got them into a Welsh-medium Flying Start, but they've had to put an awful lot of effort into doing it whereas, actually, it should be a matter of individual choice. Secondly, what is being done to ensure sufficient provision of Welsh-medium schools available in each local authority area? Thirdly, whilst I find it very difficult to speak Welsh in a political and technical environment, some who've been taught through the medium of Welsh know some technical words only in Welsh. Are all local authorities in Wales answering correspondence through the medium of Welsh as quickly as correspondence in English? | Yn gyntaf, a gaf i ddatgan buddiant? Mae gennyf ferch sy'n mynychu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac wyres yn mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan. Rwyf yn croesawu'r adroddiad ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog i'r Gymraeg. Rwyf yn credu bod addysg yn allweddol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol. Rwyf yn falch o dwf addysg cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y de, a arweinir gan awdurdodau lleol a reolir gan Lafur. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw wrth ateb cwestiwn gan Jeremy Miles, mae'r ardal sy'n siarad Cymraeg wedi bod yn symud i fyny cwm Tawe - efallai gan adael Craig Cefn Parc a rhannau o Bontarddulais ar ôl - am gryn amser. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen yn gyntaf ei atal ac yna ei wrthdroi, gan wneud y Gymraeg yr iaith gymunedol ledled cwm Tawe unwaith eto. Gall fy ngwraig ddweud wrthych am bryd oedd hi'n ifanc ac yn yr ysgol - yn Ynystawe, lle'r wyf yn byw, Cymraeg oedd iaith y gymuned. Nid yw hynny'n wir mwyach yn anffodus. Mae gennyf dri chwestiwn yn ymwneud â llywodraeth leol a'r Gymraeg. Mae dau o'r rhain yn - y mae'r Gweinidog yn mynd i'w ddweud - nad ydynt mewn gwirionedd yn rhan o'i bortffolio, felly, ymddiheuriadau am hynny. Yn gyntaf, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod rhieni yn cael y cyfle cyfrwng Cymraeg, pan fydd eu plant yn Dechrau'n Deg? Dyna ddechrau addysg i lawer iawn o blant, ac os ydynt yn cael eu rhoi mewn cylch Dechrau'n Deg cyfrwng Saesneg y tebygrwydd yw y byddant yn mynd drwy addysg cyfrwng Saesneg drwy gydol eu taith addysgol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y cyfle ar gael. Rwyf wedi gorfod ymgymryd ag achosion ar ran etholwyr, sydd yn y pen draw, wedi mynd a nhw i mewn i gylch Dechrau'n Deg Cymraeg, ond maent wedi gorfod rhoi llawer iawn o ymdrech i wireddu hynny ond, mewn gwirionedd, dylai fod yn fater o ddewis unigol. Yn ail, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol? Yn drydydd, er fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn siarad Cymraeg mewn amgylchedd gwleidyddol a thechnegol, mae rhai sydd wedi eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwybod rhai geiriau technegol yn y Gymraeg yn unig. A yw pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ateb gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â gohebiaeth yn Saesneg? |
Can I thank Mike for those questions? He points to one of the fantastic phenomenons of our time - the growth of Welsh-medium education. Here in the city of Cardiff, when I first chaired South Glamorgan's Welsh-medium working group in the 1980s, the number of young people who were obtaining an education through the medium of Welsh was literally a fraction of the number that are there today. Getting young people at the very earliest age into Welsh-medium education, where that's what they and their parents would wish for them is, I understand, extremely important and particularly important for those young people who take advantage of the Flying Start programme. I'll make sure that the points that he has made about that and about the growth of Welsh-medium education right across Wales - I'm sure that the Secretary for Education will want to hear what he said on that. As to answering correspondence received through the medium of Welsh in as timely a fashion as that received through English, I imagine that the answer is that it doesn't happen quite that way in every local authority in Wales, which will rely on a letter being translated into English, an answer in English being crafted and retranslated into Welsh. But I do think that local authorities across Wales will be alert to the need to do more in this area. Changes in technology for translation will be of help to them as well as other public bodies, and this report, which they will be studying over the summer, will help them in that area, too. | Hoffwn ddiolch i Mike am y cwestiynau yna? Mae'n tynnu sylw at un o ryfeddodau gwych ein hoes - twf addysg cyfrwng Cymraeg. Yma yn ninas Caerdydd, pan ddechreuais i gadeirio gweithgor cyfrwng Cymraeg De Morgannwg yn y 1980au, roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn llythrennol yn fymryn bach o'i gymharu â'r nifer sydd yno heddiw. Mae cael pobl ifanc yn yr oedran cynharaf un i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, pan mai dyna'r hyn y bydden nhw a'u rhieni yn ei ddymuno ar eu cyfer, rwyf yn deall, yn hynod o bwysig ac yn arbennig o bwysig i'r bobl ifanc hynny sy'n manteisio ar y rhaglen Dechrau'n Deg. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud am hynny ac am dwf yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru - rwy'n siwr y bydd yr Ysgrifennydd dros Addysg yn awyddus i glywed yr hyn a ddywedodd am hynny. O ran ateb gohebiaeth a dderbyniwyd trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â'r hyn a dderbynnir yn Saesneg, rwyf yn dychmygu mai'r ateb yw nad yw'n digwydd yn yr union ffordd honno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a fydd yn dibynnu ar i lythyr gael ei gyfieithu i'r Saesneg, llunio ateb yn Saesneg a'i ailgyfieithu i'r Gymraeg. Ond rwyf yn meddwl y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn effro i'r angen i wneud mwy yn y maes hwn. Bydd newidiadau mewn technoleg ar gyfer cyfieithu o gymorth iddyn nhw yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, a bydd adroddiad hwn, y byddant yn ei astudio dros yr haf, yn eu helpu yn y maes hwnnw, hefyd. |
I warmly welcome the clear focus in this report on that crucial link between language and economic development. For some of us who have been campaigning over decades for a viable future for the Welsh language as a community language in the traditional Welsh-speaking areas of west Wales, it is crucially important to realise that, unless we answer that fundamental question, there is no future for the Welsh language to the same extent as a community language. Despite the increases we see in other parts of Wales, we are losing a key resource for that regeneration at a national level if we lose the traditional linguistic cultural vibrancy of west Wales. I recall some 20 years ago in the Eisteddfod in Newport actually occupying a bungalow with Alun Davies, and that was outside Carmel, I believe - it was an executive bungalow; there were gold taps there. But what was the slogan then? It was, 'housing and work to save the language'. The slogan's been there for decades. It's time for action now, isn't it? I see in recommendation 10 a call for an economic language strategy for the counties of west Wales with this focus, of course, on hubs, on hub towns, which are crucially important if we look at the main challenge, which is to retain our young people in those towns and create an economic foundation for them. But my question for the Minister is this: the strategy is one thing, but unless you have a structure in place then you're not going to be able to deliver that strategy. In the context of local government, of course, we do have our city regions in the south, and I warmly welcome those, but where is our region in west Wales? What corresponds to that in terms of giving us that critical mass and the medium that can actually achieve this linguistic economic strategy that this report demands? | Rwy'n croesawu'n fawr iawn y ffocws clir yn yr adroddiad yma ar y cyswllt hanfodol rhwng iaith a datblygu economaidd. I rai ohonom sydd wedi bod yn ymgyrchu ers degawdau dros ddyfodol hyfyw i'r iaith Gymraeg fel iaith gymunedol yn y bröydd traddodiadol Cymraeg yn y gorllewin, mae'n hollol allweddol, wrth gwrs, i sylweddoli, oni bai ein bod ni'n ateb y cwestiwn yna, nid oes yna ddyfodol i'r iaith Gymraeg i'r un graddau fel iaith gymunedol. Er gwaetha'r cynnydd yr ydym yn ei weld yn rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, rŷm ni'n colli adnodd allweddol i'r adfywiad yna ar lefel genedlaethol os collwn ni hyfywedd ieithyddol diwylliannol traddodiadol y gorllewin. Rwy'n cofio, 20 mlynedd yn ôl, yn Eisteddfod Casnewydd bryd hynny, meddiannu byngalo gydag Alun Davies tu fas i Garmel, rwy'n credu - roedd e'n 'executive bungalow', ond oedd e; roedd tapiau aur yn perthyn iddo. Ond beth oedd y slogan? Hynny yw, 'tai a gwaith i achub iaith'. Mae'r slogan wedi bod yno yn ddigon hir. Mae'n amser i gael gweithredu nawr, ond yw hi? Rwy'n gweld bod argymhelliad 10 yn galw am strategaeth economaidd ieithyddol ar gyfer siroedd y gorllewin i gyd, a'r ffocws yma, wrth gwrs, ar hybiau, ar drefi twf, sy'n allweddol bwysig os ŷm ni'n meddwl am y brif her, wrth gwrs, sef cadw ein pobl ifanc â ni, a chreu sylfaen economaidd iddyn nhw. Fy nghwestiwn i i'r Gweinidog ydy hyn: mae'r strategaeth yn un peth, ond oni bai bod yna strwythur, wrth gwrs, nid ydych chi'n mynd i fedru ei chyflawni hi. Yng nghyd-destun llywodraeth leol, wrth gwrs, mae gyda ni'r dinas-ranbarthau yn y de - rwy'n eu croesawu nhw'n fawr iawn - ond ble mae ein rhanbarth ni yn y gorllewin? Beth sy'n cyfateb o ran rhoi inni'r màs critigol a'r cyfrwng er mwyn gwireddu'r strategaeth ieithyddol economaidd mae'r adroddiad yma yn galw amdano? |
Thank you to the Cabinet Secretary. | Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. |
The next item of business is the motion to annul the Disabled Persons (Badges for Motor Vehicles) (Wales) (Amendment) Regulations 2016. I call on Mark Isherwood to move the motion. | Yr eitem nesaf o fusnes yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016. Rydw i'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. |
Diolch - thank you very much indeed. I've long called, for many years, for temporary blue badges, representing the views of constituents and organisations, and, clearly, the proposed amendment regulations are a step in the right direction, but they don't go nearly far enough, and I will briefly explain that. I've received many items of correspondence from constituents over the years who have had temporary impairments, requiring them to depend upon perhaps a wheelchair or a walking stick because of limited ability for a limited period - because of an accident, because of an operation, primarily, but occasionally other factors, too - and the impact on their lives has been devastating, hence I raised this repeatedly during the last Assembly, amongst other things as co-chair of the cross-party group on disability, and received a very warm and positive response from the then Minister responsible for this issue, Edwina Hart. Now, I'll quote just from one of the constituent letters. This was one that was copied, actually, to all the then North Wales Members in December 2013. She said: 'I broke my leg (knee and ankle damage) on Tuesday November 5thI am to put NO weight on it for EIGHT weeks How is it that those such as I am not permitted a TEMPORARY "Blue parking badge for Disability." The necessity to have the wheelchair brought right around to the fully open passenger car door is virtually impossible in 99.9 per cent of parking places. I dread the icy winter rain coming whilst I am in this condition; and of equal concern is the pressure and physical difficulty put on my dear husband as he struggles to cope with me on top of his own long-term illness'. Now, in May 2014, speaking in this Chamber, I told the Minister, the then Minister for Economy, Science and Transport, that I had written to her regarding this matter the previous December, and she had replied helpfully by referring her to the blue badge review group and stating it had identified obstacles to temporary badges, such as recovering the badge when it was no longer required, and the consequent potential for abuse. I asked what consideration had been given, or would or could be given, to temporary badges being provided with dates of duration or expiry or renewal dates on them so that they could not be recycled in that way. Again, I did that on behalf of constituents who suggested I raise that point. The Minister said that she would forward my contribution to her officials for discussion. On 17 June 2014, the Minister wrote to all Assembly Members, stating that, 'during Plenary on 21 May, Mark Isherwood AM asked if consideration could be given to issuing temporary blue badges and I wanted to update all Members on this.' And she concluded, 'This is an area where further work is required, and I've asked my officials to explore this matter, including the suggestion of introducing badges with shorter time limits.' In April 2015, responding to that Minister's statement on blue badges again in this Chamber, I said: 'Last year, I raised with you the case of a constituent who'd been temporarily disabled and was in a wheelchairfollowing a serious injury, and asked what consideration could be given to temporary badges being provided, with dates of duration, or expiry, or renewal datesso they could not be recycled, or used when somebody was no longer eligible. You confirmed that you would forward this proposal to your officials for discussion. Having heard nothing on that specific point since, I would be grateful if you could comment.' I also welcomed her announcement that she was appointing a task and finish group to look at this. She said that she would have to look at the regulation changes, possibly in October 2015. In December 2015, the Minister then made a written statement on the blue badge task and finish group report. She said she'd appointed the group, chaired by former AM Val Lloyd and she was publishing the report and recommendations at that point. And she said that in order to take forward the recommendations she had formed a blue badge implementation group. She said: 'I've previously stated I would like to see changes to eligibility to include people with temporary conditions which require extensive treatment and rehabilitation that impacts on their mobility.' Then, in January this year, again in a business statement, I called for a statement on the blue badge scheme. I said: 'There are further questions on something that I've been questioning the Minister positively for a number of years over, which is a blue badge for people with temporary conditions'. The explanatory memorandum to the regulations for the amendment that we're discussing today rightly states that: 'At present, Blue Badges can only be issued to people whose mobility is permanently impaired. However, there are other temporary conditions and impairments that can severely affect mobility for the duration of the impairment or condition.' That is the hub of it; that's bang on. The problem is what it then goes on to say. Because the Disabled Persons (Badges for Motor Vehicles) (Wales) (Amendment) Regulations 2016, laid before the Assembly on 30 March, are restrictive in only allowing blue badges to be issued for one year to a person who is unable to walk, who has considerable difficulty walking, by reason of a temporary but substantial difficulty which is expected to last for a period of at least 12 months. That, for example, would have invalidated the letter I read out earlier, which triggered this whole process with the then Minister. This is in breach of the Welsh Government's publicly stated commitments to person-centred support, to independent living and to the social model of disability. The social model makes the important difference between impairment and disability. It's been worked out by disabled people themselves, who say that 'most of the problems we face are caused by the way society is organised, but barriers to access and inclusion, not impairment or our bodies, are the main causes of disabling problems; these barriers include people's attitudes to disability and physical and organisational barriers.' I'm quoting there Disability Wales, and such are, may I say, the barriers these regulations, if they go through, as are currently drafted, will put in place. The policy and research officer for Disability Wales has told me, 'I agree that blue badges should ideally have a more person-centred time limit to reflect individual impairment, rather than the one-size-fits-all period of one year; achieving this would be a step in the right direction'. And the policy adviser for Age Cymru also wrote to me saying, 'I'm writing to you with reference to the Plenary debate' - this Plenary debate, the motion to annul the amendment regulations. She says: 'Age Cymru welcomes the extension of the availability of the badge for people with temporary mobility impairments. We agree with you that there should be flexibility around the period for which the temporary badges are issued, and we deem that the duration of the badge in such circumstances should be based on the recovery time of the applicant, and feedback from a relevant healthcare professional'. They also believe, they said, that the fast track procedure must be available from all local authorities, otherwise people may lose a substantial component of the time for which they need help. They attached a copy of their response to the Welsh Government's consultation on this issue in February 2016, confirming that these points had been raised with the Welsh Government at that time. I welcome the fact that the business Minister rang me last week to clarify my purpose behind bringing forward this motion today. And I explained what I've explained today - because it didn't go far enough, not because we wish to undo and remove the opportunity to bring in temporary blue badges. The Minister proposed perhaps I could consider instead a statement being provided in the Assembly, and I explained that we could have that, but it's not binding on the Government. But I said if the Minister was able to come back to me with a proposal that would enable us going forward on this within this Assembly term, I'd be pleased to perhaps consider that and talk that through with her with a view, possibly, to removing today's motion. Well, I heard nothing, and therefore I've gone ahead with the motion as proposed. As I say, these amendment regulations represent progress, but they don't go far enough because they still disable too many people. I therefore call on the Welsh Government to temporarily defer the introduction of these regulations in order to bring in the flexibility being called for by so much of the sector and people affected. If the Welsh Government is not prepared to do that today, I call on Members to ensure that your support today for enabling the Welsh Government to go forward, or not, is based upon their commitment, after today, to go away and consider and review the current regulations that may well still go ahead if you don't support me, with a view to bringing in the flexibility that's so badly needed by so many people and which paradoxically triggered this whole process in the first place with the previous Minister. If you'll back me this can go through with that commitment publicly made by the Welsh Government, but if you simply talk down what I'm saying then the Welsh Government will implement the regulations without any commitment to introduce the flexibility that so many people need. I leave it with you. I hope you'll do the right thing so that we can collectively achieve what I think, in your hearts, all of us want to achieve, which is remove those barriers to access and inclusion facing people with impairments and disabling too many of them. Thank you. | Diolch - diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi galw ers amser, am flynyddoedd lawer, am fathodynnau glas dros dro, wrth gynrychioli barn etholwyr a sefydliadau, ac, yn amlwg, mae'r rheoliadau diwygio a fwriedir yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell o lawer, ac rwyf am esbonio hynny'n fyr. Rwyf wedi derbyn llawer o eitemau o ohebiaeth gan etholwyr dros y blynyddoedd sydd wedi cael nam dros dro, yn golygu bod yn rhaid iddynt ddibynnu ar efallai gadair olwyn neu ffon gerdded oherwydd gallu cyfyngedig am gyfnod - oherwydd damwain, oherwydd llawdriniaeth, yn bennaf, ond ffactorau eraill hefyd weithiau - ac mae'r effaith ar eu bywydau wedi bod yn aruthrol, a dyna pam y codais hyn dro ar ôl tro yn ystod y Cynulliad diwethaf, ymysg pethau eraill, fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, a chefais ymateb cynnes a chadarnhaol iawn gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater hwn, Edwina Hart. Nawr, rwyf am ddyfynnu dim ond un o'r llythyrau gan etholwyr. Roedd hwn, mewn gwirionedd, yn un y cafodd bob un o Aelodau Gogledd Cymru ar y pryd gopi ohono, ym mis Rhagfyr 2013. Dywedodd: Torrais fy nghoes (niwed i'r pen-glin a'r ffêr) ddydd Mawrth 5 Tachwedd Nid wyf yn cael rhoi DIM pwysau arni am WYTH wythnos Pam nad yw pobl fel fi ddim yn cael "bathodyn parcio glas ar gyfer Anabledd" DROS DRO. Mae'r angenrheidrwydd i ddod â'r gadair olwyn yr holl ffordd o gwmpas y car at y drws teithiwr sydd ar agor i'r eithaf bron yn amhosibl mewn 99.9 y cant o leoedd parcio. Mae meddwl am law rhewllyd y gaeaf yn achosi pryder mawr i mi tra fy mod yn y cyflwr hwn; a phryder arall yr un mor fawr yw'r pwysau a'r anhawster corfforol ar fy annwyl ŵr gan ei fod yn ei chael hi'n anodd ymdopi â mi yn ogystal â'i salwch tymor hir eu hun'. Nawr, ym mis Mai 2014, wrth siarad yn y Siambr hon, dywedais wrth y Gweinidog, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, fy mod wedi ysgrifennu ati ynglŷn â'r mater hwn yn y mis Rhagfyr blaenorol, a bod ei hateb yn ddefnyddiol gan ei chyfeirio at y grŵp adolygu bathodynnau glas a datgan ei fod wedi nodi rhwystrau i fathodynnau dros dro, megis cael y bathodyn yn ôl pan nad oedd ei angen mwyach, a'r potensial o'i gamddefnyddio wedyn. Gofynnais pa ystyriaeth oedd wedi ei roi, neu y byddai yn cael ei roi, neu y gellid ei roi, i ddarparu bathodynnau dros dro â dyddiadau cyfnod penodol neu ddyddiad dod i ben neu ddyddiad adnewyddu arnynt fel na ellid eu hailgylchu yn y ffordd honno. Unwaith eto, gwnes hynny ar ran etholwyr a awgrymodd fy mod yn gofyn y cwestiwn. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n anfon fy nghyfraniad at ei swyddogion i'w drafod. Ar 17 Mehefin, 2014, ysgrifennodd y Gweinidog at holl Aelodau'r Cynulliad, gan ddatgan, yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 21 Mai, bod Mark Isherwood AC wedi gofyn pe gellid rhoi ystyriaeth i gyflwyno bathodynnau glas dros dro ac roeddwn eisiau diweddaru'r holl Aelodau ar hyn. ' A gorffennodd drwy ddweud, 'Mae hwn yn faes lle y mae angen mwy o waith, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion archwilio'r mater hwn, gan gynnwys yr awgrym o gyflwyno bathodynnau â therfynau amser byrrach.' Ym mis Ebrill 2015, wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog hwnnw ar fathodynnau glas eto yn y Siambr hon, dywedais: 'Y llynedd, codais achos etholwr gyda chi a oedd wedi bod yn anabl dros dro ac a oedd mewn cadair olwyn yn dilyn anaf difrifol, gan ofyn pa ystyriaeth y gellid ei roi i ddarparu bathodynnau dros dro, â dyddiadau cyfnod penodol, dyddiadau dod i ben , neu ddyddiadau adnewyddu fel na ellid eu hailgylchu, neu ei ddefnyddio pan nad oedd rhywun bellach yn gymwys. Gwnaethoch gadarnhau y byddech yn anfon y cynnig hwn at eich swyddogion ar gyfer trafodaeth. Gan nad wyf wedi clywed dim ar y pwynt penodol hwnnw ers hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylw. ' Rwyf hefyd yn croesawu ei chyhoeddiad ei bod yn penodi grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar hyn. Dywedodd y byddai'n rhaid iddi edrych ar y newidiadau i'r rheoliadau, o bosibl ym mis Hydref 2015. Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaeth y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ar adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y bathodyn glas. Dywedodd ei bod wedi penodi'r grŵp, o dan gadeiryddiaeth y cyn AC Val Lloyd ac roedd hi'n cyhoeddi'r adroddiad a'r argymhellion ar y pwynt hwnnw. A hi a ddywedodd, er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion yr oedd wedi ffurfio grŵp gweithredu bathodyn glas. Dywedodd: 'Rydw i wedi datgan yn flaenorol hoffwn weld newidiadau i'r cymhwyster i gynnwys pobl â chyflyrau dros dro ag angen triniaeth helaeth ac adsefydlu sy'n effeithio ar eu gallu i symud.' Yna, ym mis Ionawr eleni, unwaith eto mewn datganiad busnes, galwais am ddatganiad am gynllun y bathodyn glas. Dywedais: 'Mae cwestiynau pellach ar rywbeth yr wyf i wedi bod yn holi'r Gweinidog yn gadarnhaol am nifer o flynyddoedd drosodd, sef bathodyn glas ar gyfer pobl â chyflyrau dros dro'. Mae'r memorandwm esboniadol at y rheoliadau ar gyfer y gwelliant yr ydym yn ei drafod heddiw yn iawn yn datgan: 'Ar hyn o bryd, Bathodynnau Glas yn unig y gellir rhoi i bobl y mae eu symudedd â nam parhaol. Fodd bynnag, mae amodau a namau dros dro eraill sy'n gallu effeithio'n ddifrifol ar symudedd trwy gydol y nam neu gyflwr. ' Dyna ganolbwynt y mater; hwnna yw'r union bwynt. Y broblem yw yr hyn y mae'n mynd ymlaen i'w ddweud wedyn. Oherwydd bod Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth, yn gyfyngol gan nad ydynt ond yn caniatáu i fathodynnau glas gael eu cyflwyno am flwyddyn i berson nad yw'n gallu cerdded, sydd yn cael cryn anhawster i gerdded, oherwydd anhawster dros dro ond sylweddol y disgwylir iddo bara am gyfnod o 12 mis o leiaf. Byddai hynny, er enghraifft, wedi annilysu'r llythyr a ddarllenais yn gynharach, a sbardunodd yr holl broses hon gyda'r Gweinidog ar y pryd. Mae hyn yn torri'r ymrwymiadau y gwnaeth Llywodraeth Cymru eu datgan yn gyhoeddus i gymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, i fyw'n annibynnol ac i'r model cymdeithasol o anabledd. Mae'r model cymdeithasol yn nodi'r gwahaniaeth pwysig rhwng nam ac anabledd. Mae wedi ei lunio gan bobl anabl eu hunain, sy'n dweud bod 'y rhan fwyaf o'r problemau yr ydym yn eu hwynebu yn cael eu hachosi gan y ffordd mae cymdeithas yn cael ei threfnu, ond rhwystrau i fynediad a chynhwysiad, nid nam ar ein cyrff, yw prif achosion problemau analluogi; mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau pobl tuag at anabledd a rhwystrau ffisegol a sefydliadol.' Rwy'n dyfynnu Anabledd Cymru yn y fan yna, a dyna, os caf i ddweud, yw'r rhwystrau y bydd y rheoliadau hyn, os byddant yn mynd trwodd, fel y maent wedi eu drafftio ar hyn o bryd, yn eu rhoi ar waith. Mae swyddog polisi ac ymchwil Anabledd Cymru wedi dweud wrthyf, 'Rwy'n cytuno y dylai bathodynnau glas yn ddelfrydol fod â chyfnod amser sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn i adlewyrchu ei nam unigol, yn hytrach na'r un dull ar gyfer pawb am gyfnod o flwyddyn; byddai cyflawni hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir'. Ac ysgrifennodd cynghorydd polisi Age Cymru ataf hefyd gan ddweud, 'Rwy'n ysgrifennu atoch ynglŷn â'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn' - y ddadl Cyfarfod Llawn hon, y cynnig i ddirymu'r rheoliadau diwygio. Mae hi'n dweud: 'Mae Age Cymru yn croesawu ymestyn y cyfnod y bydd bathodyn ar gael ar gyfer pobl â nam dros dro ar eu symudedd. Rydym yn cytuno â chi y dylai fod hyblygrwydd o ran y cyfnod y bydd y bathodynnau dros dro yn cael eu cyflwyno, ac rydym o'r farn y dylai cyfnod y bathodyn mewn amgylchiadau o'r fath fod yn seiliedig ar gyfnod adfer yr ymgeisydd, ac adborth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol'. Maent hefyd yn credu, roeddynt yn dweud, bod yn rhaid i'r weithdrefn llwybr cyflym fod ar gael gan bob awdurdod lleol, neu fel arall gallai pobl golli elfen sylweddol o'r amser y mae angen cymorth arnynt. Gwnaethant atodi copi o'u hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn ym mis Chwefror 2016, gan gadarnhau bod y pwyntiau hyn wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru ar yr adeg honno. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y Gweinidog busnes wedi fy ffonio yr wythnos diwethaf i gael eglurhad ar y bwriad sydd y tu ôl i mi'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ac eglurais yr hyn yr wyf wedi'i egluro heddiw - oherwydd nad oedd yn mynd yn ddigon pell, nid oherwydd ein bod yn dymuno dadwneud a chael gwared ar y cyfle i gyflwyno bathodynnau glas dros dro. Cynigiodd y Gweinidog efallai y gallwn ystyried yn hytrach ddatganiad i gael ei ddarparu yn y Cynulliad, ac eglurais ac eglurais y gallem gael hynny, ond nid yw'n rhoi'r Llywodraeth dan ymrwymiad. Ond dywedais pe byddai'r Gweinidog yn gallu dod yn ôl ataf gyda chynnig a fyddai'n ein galluogi ni i symud ymlaen â hyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn, byddwn yn falch o ystyried hynny o bosibl ac i drafod hynny â hi gyda golwg, o bosibl, ar gael gwared ar gynnig heddiw. Wel, chlywais i ddim, ac felly rwyf wedi mynd ymlaen â'r cynnig fel y'i cynigiwyd. Fel y dywedais, mae'r rheoliadau diwygio hyn yn cynrychioli cynnydd, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell oherwydd eu bod yn dal i analluogi gormod o bobl. Galwaf felly ar Lywodraeth Cymru i ohirio dros dro cyflwyno'r rheoliadau hyn er mwyn darparu'r hyblygrwydd y mae cymaint o'r sector a'r bobl yr effeithir arnynt yn galw amdano. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon gwneud hynny heddiw, galwaf ar yr aelodau i sicrhau bod eich cefnogaeth heddiw i alluogi Llywodraeth Cymru i symud ymlaen, neu beidio, yn seiliedig ar ei hymrwymiad, ar ôl heddiw, i fynd ymaith ac ystyried ac adolygu'r rheoliadau cyfredol a allai fynd yn eu blaenau o hyd os na fyddwch yn fy nghefnogi i, gyda'r bwriad o greu'r hyblygrwydd sydd cymaint ei angen gan gymaint o bobl ac yn baradocsaidd, a sbardunodd y broses gyfan hon yn y lle cyntaf gyda'r Gweinidog blaenorol. Os byddwch yn fy nghefnogi i, gall hyn fynd drwodd gyda'r ymrwymiad hwnnw a wnaed yn gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ond os byddwch yn anwybyddu'r hyn yr wyf yn ei ddweud yna bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r rheoliadau heb unrhyw ymrwymiad i gyflwyno hyblygrwydd y mae cymaint o bobl ei angen. Gadawaf y mater gyda chi. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud y peth iawn fel y gallwn gyflawni gyda'n gilydd yr hyn yr wyf yn ei gredu, yn eich calonnau, y mae pob un ohonom yn dymuno ei gyflawni, sef cael gwared ar y rhwystrau hynny i fynediad a chynhwysiad sy'n wynebu pobl â namau ac sy'n analluogi gormod ohonynt. Diolch. |
I have a great deal of sympathy with this desire to be more flexible in terms of temporary badges. But, I do disagree with the Member's approach to this. Supporting his motion would mean one thing: no rights to a temporary blue badge, which is a situation that would be far worse than the one we're currently in. So, I'm encouraging you to vote against this motion. There is no reason to prevent disabled people from having a temporary badge, affecting the independence of all those people who are recovering from conditions that impair their mobility. Of course, the Conservatives don't have a particularly good record in this area. Can I just remind you - ? [Interruption.] And a number of other areas. But could I just remind you of cuts to disability benefits and the bedroom tax, just to name two? Plaid Cymru will continue to fight for the rights of disabled people and this motion today won't assist that. | Mae gen i bob cydymdeimlad efo'r awydd yma i fod yn fwy hyblyg efo cyhoeddi bathodynnau dros dro, ond rwy'n anghytuno efo'r ffordd mae'r Aelod yn mynd o'i chwmpas hi. Mae cefnogi ei gynnig o yn golygu un peth: dim hawl i gael bathodyn glas dros dro, sef sefyllfa sydd llawer iawn yn waeth nag ydym ni ynddi rŵan. Felly, rwy'n eich annog chi i bleidleisio yn erbyn. Nid oes rheswm i atal pobl efo anableddau rhag cael bathodyn glas dros dro, gan atal annibyniaeth pawb sy'n gwella o gyflwr sy'n rhwystro eu symudedd. Wrth gwrs, nid oes gan y Torïaid record dda iawn yn y maes yma. A gaf i jest eich atgoffa chi - ? [Torri ar draws.] A sawl maes arall. Toriadau budd-daliadau anabledd a threth llofftydd, dim ond i enwi dau. Mae Plaid Cymru yn mynd i fod yn parhau i frwydro dros hawliau pobl anabl ac nid ydy'r cynnig yma heddiw yn helpu hynny. |
Thank you, Presiding Officer. To recap for those Members who were not part of the fourth Assembly, the regulations will enable people with an impairment lasting at least 12 months to access disabled parking spaces in exactly the same way as they would if their condition was permanent. Now, the disabled persons blue badge scheme is intended to enable those who cannot walk or who have considerable difficulty in walking to access services and facilities, thus assisting them to live independently. Blue badges are issued by the local authority and they are responsible for assessing applicants and deciding whether to issue a badge. There is no formal route of appeal against the decision of a local authority beyond the local authority general complaints process. Welsh Ministers have limited powers in this area. We have issued non-statutory guidance and we work with local authorities to promote a high-quality and consistent service to applicants. Issuing statutory guidance or changing the issuing arrangements, such as creating a central assessing and awarding body, would require a change to primary legislation, which can be pursued if the current arrangements prove unsatisfactory. In terms of the 12-month or six-month question, the approach was endorsed by the task and finish group's recommendation in 2015 when they said, 'The Welsh Government should consider providing a temporary badge system where qualifying conditions are likely to last at least 12 months.' In terms of why badges are issued for 12 months rather than for a shorter or a longer period, or indeed more flexible periods of time, one of the priorities was to introduce a scheme which was going to be workable and also practical. The consultation sought views on effective administration of the temporary badges from all stakeholders, including local authorities, who will be responsible for issuing those badges. Over 80 per cent of respondents who expressed a view on this topic felt that a standard 12-month issuing period was the best approach to take. This was also the opinion of the implementation group tasked with overseeing the effective delivery of the task and finish group recommendations. Can I support and thank Sian Gwenllian for her appeal to Members to not support Mark Isherwood's attempt for an annulment of the regulations? But can I equally suggest to Mark Isherwood that, if Members wish to discuss and debate the blue badge scheme in more detail, then I am more than happy to make an oral statement on the scheme? This will give an opportunity for questions and further debate. | Diolch i chi, Lywydd. I grynhoi ar gyfer yr Aelodau hynny nad oeddent yn rhan o'r pedwerydd Cynulliad, bydd y rheoliadau yn galluogi pobl â nam sy'n para am o leiaf 12 mis i gael defnyddio mannau parcio i bobl anabl yn yr un ffordd yn union ag y byddent pe byddai eu cyflwr yn barhaol. Nawr, bwriad cynllun y bathodyn glas yw galluogi'r rhai na allant gerdded neu sy'n cael anhawster sylweddol i gerdded i gael defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, gan eu cynorthwyo felly i fyw'n annibynnol. Cyflwynir bathodynnau glas gan yr awdurdodau lleol a nhw sy'n gyfrifol am asesu ymgeiswyr a phenderfynu ar ba un a ddylid rhoi bathodyn. Nid oes llwybr ffurfiol i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol y tu hwnt i broses gwyno gyffredinol yr awdurdod lleol. Prin yw pwerau Gweinidogion Cymru yn y maes hwn. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau anstatudol ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo gwasanaeth o ansawdd uchel a chyson i ymgeiswyr. Byddai cyhoeddi canllawiau statudol neu newid y trefniadau cyflwyno, megis creu corff asesu a dyfarnu canolog, yn golygu gorfod newid deddfwriaeth sylfaenol, ond gellid gwneud hynny pe byddai'r trefniadau presennol yn anfoddhaol. O ran y cwestiwn 12 mis neu chwe mis, cafodd yr ymagwedd ei chymeradwyo gan argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen yn 2015 pan ddywedasant, 'Dylai Llywodraeth Cymru ystyried darparu system bathodyn dros dro pan fo amodau cymhwyso yn debygol o barhau am o leiaf 12 mis.' O ran pam mae bathodynnau yn cael eu cyflwyno am 12 mis yn hytrach nag am gyfnodau byrrach neu hwy, neu yn wir am gyfnodau mwy hyblyg o amser, un o'r blaenoriaethau oedd cyflwyno cynllun y gellid ei gyflawni ac a fyddai'n ymarferol hefyd. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ar weinyddu bathodynnau dros dro yn effeithiol gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, a fydd yn gyfrifol am gyflwyno'r bathodynnau hynny. Mae dros 80 y cant o ymatebwyr a fynegodd farn ar y pwnc hwn yn teimlo mai cyfnod cyflwyno arferol o 12 mis fyddai'r dull gorau o weithredu. Dyma hefyd oedd barn y grŵp gweithredu a gafodd y dasg o oruchwylio cyflawni argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen yn effeithiol. A gaf i gefnogi Sian Gwenllian a diolch iddi am ei hapêl i'r Aelodau beidio â chefnogi ymgais Mark Isherwood i ddiddymu'r rheoliadau? Ond a gaf i awgrymu hefyd i Mark Isherwood, os yw'r Aelodau yn dymuno trafod a dadlau cynllun y bathodyn glas yn fwy manwl, yna rwyf yn fwy na pharod i wneud datganiad llafar am y cynllun? Bydd hyn yn rhoi cyfle ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth bellach. |
Thank you. Clearly, the opportunity to have further debate would be welcomed if this goes through. Unfortunately, again, that will not be binding. I hope that you would confirm that, if the arguments you hear - some of which I've rehearsed today - are persuasive, that that might actually lead to the Welsh Government revisiting this subsequently with a view to making further regulations or further amendments to the regulations accordingly. I say to Plaid Cymru that I support the objective behind temporary blue badges. This is to help and to maximise the help available to disabled people - disabled by the barriers society places in their way. Had you stood with me, perhaps we could have persuaded the Welsh Government today to agree to bring in a consideration of more flexible measures subsequently and then I could have withdrawn the motion knowing that they'd made that commitment. But, because you've rubber-stamped them, we don't have that commitment. All we now have is a statement with a non-binding outcome. I therefore regret that you haven't used that perhaps political nous to take that forward on that basis, but there we are. Perhaps, over time, things may change. | Diolch. Yn amlwg, byddai'r cyfle i gael trafodaeth bellach yn cael ei groesawu os bydd hyn yn mynd drwodd. Yn anffodus, unwaith eto, ni fydd hynny'n cynrychioli ymrwymiad. Rwy'n gobeithio y gwnewch gadarnhau, os bydd y dadleuon y byddwch yn eu clywed - rhai ohonynt yr wyf fi wedi eu cyflwyno heddiw - yn argyhoeddiadol, y gallai hynny mewn gwirionedd arwain at Lywodraeth Cymru yn ailedrych ar hyn wedyn gyda'r bwriad o wneud rheoliadau ychwanegol neu ddiwygiadau ychwanegol i'r rheoliadau yn unol â hynny. Dywedaf wrth Blaid Cymru fy mod yn cefnogi'r amcan y tu ôl i fathodynnau glas dros dro. Mae hyn er mwyn helpu a manteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael i bobl anabl - wedi'u gwneud yn anabl gan y rhwystrau y mae cymdeithas yn eu gosod arnynt. Pe byddech wedi sefyll gyda mi, efallai y gallem fod wedi perswadio Llywodraeth Cymru heddiw i gytuno i gyflwyno ystyriaeth o fesurau mwy hyblyg wedi hynny, ac wedyn gallwn fod wedi tynnu'r cynnig yn ôl gan wybod eu bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw. Ond, oherwydd eich bod wedi rhoi eich sêl bendith iddynt, nid oes gennym yr ymrwymiad hwnnw. Y cyfan sydd gennym nawr yw datganiad gyda chanlyniad heb fod ymrwymiad iddo. Felly, rwyf yn gresynu nad ydych wedi defnyddio efallai y crebwyll gwleidyddol hwnnw i fwrw ymlaen â hynny ar y sail honno, ond dyna ni. Efallai, dros amser, bydd pethau'n newid. |
The proposal, therefore, is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting, therefore, under this item until voting time. | Y cwestiwn yw, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. |
I call for a vote on the motion put forward in the name of Mark Isherwood. Open the vote. Close the vote. In favour of the motion, 16, abstentions, 0, and against the motion, 38. The motion is, therefore, not agreed. | Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig, 16, yn ymatal, 0, ac yn erbyn y cynnig, 38. Mae'r cynnig, felly, wedi ei wrthod. |
That brings today's proceedings to a close. | Dyna ddiwedd ein trafodion ni am y dydd. |
The first item on our agenda this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure, and the first question, Jayne Bryant. | Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, a'r cwestiwn cyntaf, Jayne Bryant. |
Yes. Major energy infrastructure projects are enormously beneficial to the Welsh economy. Energy is one of our most important economic imperatives. We have the potential in Wales for £50 billion of investment in low-carbon electricity production over the next 10 to 15 years. | Gwnaf. Mae prosiectau seilwaith ynni mawr yn hynod fuddiol i economi Cymru. Ynni yw un o'n hanfodion economaidd pwysicaf. Mae gennym y potensial yng Nghymru i sicrhau buddsoddiad o £50 biliwn mewn cynhyrchu trydan carbon isel dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. |
Firstly, I'd like to welcome Newport High School to the Chamber today, who are keeping an eye on us, from my constituency. Tidal lagoons create clean, green, eternal energy as consistent as the tide on which it relies. As large-scale energy infrastructure projects, with plans to build tidal lagoons in Cardiff, Newport, and Swansea, they will also create hundreds of jobs. Will the Cabinet Secretary work with UK Government to ensure these projects go ahead, and discuss ways to utilise the local workforce so the benefits can be felt environmentally, socially and economically? | Yn gyntaf, hoffwn groesawu Ysgol Uwchradd Casnewydd yn fy etholaeth i'r Siambr heddiw, i gadw llygad arnom. Mae morlynnoedd llanw yn creu ynni tragwyddol, glân a gwyrdd, mor gyson â'r llanw y mae'n dibynnu arno. Fel prosiectau seilwaith ynni ar raddfa fawr, gyda chynlluniau i adeiladu morlynnoedd llanw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, byddant hefyd yn creu cannoedd o swyddi. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y prosiectau hyn yn digwydd, ac yn trafod ffyrdd o ddefnyddio'r gweithlu lleol er mwyn i'r manteision gael eu teimlo yn amgylcheddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd? |
Absolutely, and can I thank the Member for her question and her keen interest in this subject? The sort of development we're talking about could offer lifelong careers for the young people who are joining us in the gallery today, from the Member's constituency. We recognise the opportunity that tidal energy generation presents for the economy of Wales, and I hope to have an early meeting with Swansea bay tidal lagoon to discuss the economic aspects of the project. Now, whilst the UK Government's independent review of tidal lagoon is under way, my officials are continuing to regularly engage with Tidal Lagoon Power and the UK Government to ensure Welsh businesses, and, specifically the local economy, gain the maximum benefit from the project. | Yn sicr, a diolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i diddordeb brwd yn y pwnc hwn. Gallai'r math o ddatblygiad rydym yn sôn amdano gynnig gyrfaoedd gydol oes i'r bobl ifanc sy'n ymuno â ni yn yr oriel heddiw, o etholaeth yr Aelod. Rydym yn cydnabod y cyfle y mae cynhyrchu ynni'r llanw yn ei roi i economi Cymru, ac rwy'n gobeithio cael cyfarfod cynnar gyda morlyn llanw bae Abertawe i drafod agweddau economaidd y prosiect. Nawr, gydag adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o'r morlyn llanw ar y gweill, mae fy swyddogion yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â Tidal Lagoon Power a Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau Cymru, a'r economi leol, yn benodol, yn cael y budd mwyaf o'r prosiect. |
Cabinet Secretary, can I assure you you'll get support from all sides of the Assembly in these efforts? Because what tidal energy offers us is a chance to really get there ahead of the game, lead the world eventually in harnessing this powerful source of energy, and the engineering and the skills that are needed to develop it. And, in particular, if the Swansea lagoon doesn't go ahead, if this project is not successful, we should renew our efforts to see and develop where this technology will be effective around the coast of Wales. | Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf eich sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth o bob ochr i'r Cynulliad yn yr ymdrechion hyn? Oherwydd yr hyn y mae ynni'r llanw yn ei gynnig i ni yw cyfle i fod yn flaengar, arwain y byd yn y pen draw ar harneisio'r ffynhonnell bwerus hon o ynni, a'r beirianneg a'r sgiliau sydd eu hangen i'w ddatblygu. Ac yn arbennig, os na fwrir ymlaen â'r morlyn yn Abertawe, os nad yw'r prosiect hwn yn llwyddiannus, dylem adnewyddu ein hymdrechion i weld a datblygu lle y bydd y dechnoleg hon yn effeithiol o amgylch arfordir Cymru. |
Yes, and can I thank the Member for his question, and also for support for this scheme right across the Chamber? The energy environment sector in Wales is enormously important to our future. It employs at the moment somewhere in the region of 58,000 people and provides opportunities for more than 2,000 companies, with a turnover of more than £2.3 billion. I'm very keen to ensure that, as we develop a new economic strategy for Wales, one based on a central pillar of prosperity and security, we make sure that energy security is at the very core of that strategy. | Ie, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a hefyd am y gefnogaeth i'r cynllun hwn ar draws y Siambr. Mae'r sector ynni a'r amgylchedd yng Nghymru yn hynod o bwysig i'n dyfodol. Ar hyn o bryd, mae'n cyflogi tua 58,000 o bobl ac yn darparu cyfleoedd i fwy na 2,000 o gwmnïau, gyda throsiant o fwy na £2.3 biliwn. Wrth i ni ddatblygu strategaeth economaidd newydd i Gymru, un yn seiliedig ar sylfaen ganolog o ffyniant a diogelwch, rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud yn siŵr fod diogelwch ynni yn greiddiol i'r strategaeth honno. |
I concur fully with the comments already made on tidal lagoon and, the potential for Wales, economically and as a world-class leader in this source of energy creation. The Cabinet Secretary will know that major energy infrastructure is often defined in terms of energy generation, but I want to ask the Minister what longer term thought is being given to energy efficiency as a major energy infrastructure. The Welsh Labour Government is to be commended for its steadfast support of energy efficiency initiatives targeted at domestic customers and businesses, and at public sector organisations; the increased investment in the Welsh Government Warm Homes initiative, helping to tackle fuel poverty; the information, advice and support through Resource Efficient Wales; support for businesses through Business Wales, and so on, and so on. Yet the Welsh Government know more than most - in fact, they mention it in their recent strategy - that the gap between our ambition and reality on energy efficiency will take some bridging. So, does the Cabinet Secretary see any role for defining energy efficiency as major infrastructure as one way to bridge that gap, tackle fuel poverty, help decarbonisation by reducing the need to build more power stations, and generating capacity? | Rwy'n cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed eisoes ar Tidal Lagoon a'r potensial i Gymru, yn economaidd ac fel arweinydd byd-eang yn y ffynhonnell hon o greu ynni. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod seilwaith ynni mawr yn aml yn cael ei ddiffinio yn nhermau cynhyrchu ynni, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa ystyriaeth hirdymor a roddir i arbed ynni fel seilwaith ynni mawr. Mae Llywodraeth Lafur Cymru i'w chanmol am ei chefnogaeth gadarn i fentrau arbed ynni sy'n targedu cwsmeriaid domestig a busnesau, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus; y buddsoddiad cynyddol ym menter Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd; y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth drwy Cymru Effeithlon; cymorth i fusnesau drwy Busnes Cymru, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn gwybod yn fwy na'r mwyafrif - mewn gwirionedd, maent yn cyfeirio ato yn eu strategaeth ddiweddar - fod y bwlch sydd i'w gau rhwng ein huchelgais a'r realiti mewn perthynas ag arbed ynni yn fawr. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld unrhyw rôl i ddiffinio arbed ynni fel seilwaith mawr fel un ffordd o gau'r bwlch hwnnw, mynd i'r afael â thlodi tanwydd, helpu i ddatgarboneiddio drwy leihau'r angen i adeiladu mwy o orsafoedd pŵer, a chynhyrchu capasiti? |
Absolutely, and can I thank the Member for his question, and for rightly pointing out that we've got a proud record of supporting domestic and business energy efficiency schemes in Wales? The Member may be interested to know that we have large-scale, state-aid-compliant energy efficiency projects that are now being designed and approved by Europe that offer innovative solutions that could be very important to energy-intensive industries, such as steel. And, as I reflect as well on my answer to David Melding, I would say that, in terms of domestic energy efficiency, that would also form a core aspect of the new economic strategy, and in particular energy security. | Yn sicr, a diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac am nodi'n gywir fod gennym hanes balch o gefnogi cynlluniau arbed ynni domestig a busnesau yng Nghymru? Efallai fod gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod bod gennym brosiectau arbed ynni ar raddfa fawr sy'n cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol yn cael eu cynllunio a'u cymeradwyo gan Ewrop yn awr ac maent yn cynnig atebion arloesol a allai fod yn bwysig iawn i ddiwydiannau ynni-ddwys, fel dur. Ac wrth i mi ystyried fy ateb i David Melding, byddwn yn dweud hefyd, o ran arbed ynni domestig, byddai hynny hefyd yn ffurfio un o agweddau craidd y strategaeth economaidd newydd a diogelu ffynonellau ynni yn benodol. |
Yes. I fully recognise the importance of cross-border connectivity for the social and economic benefit of both sides of the border. We are engaged with various partners across all modes to seek to maximise the benefits that connectivity can bring across the whole of Wales. | Gwnaf. Rwy'n cydnabod yn llwyr pa mor bwysig yw cysylltedd trawsffiniol er lles cymdeithasol ac economaidd y ddwy ochr i'r ffin. Rydym yn ymwneud ag amryw o bartneriaid ar draws pob modd i geisio sicrhau'r manteision mwyaf y gall cysylltedd eu creu ledled Cymru gyfan. |
Thank you for your answer, Cabinet Secretary. I hope you will be aware of a long-standing issue in my constituency for a proposed bypass for the Llanymynech and Pant area, and I have been in previous correspondence with your predecessor, Edwina Hart, on this. I recently met with Andrew Jones, the transport Minister from the UK Government, in Llanymynech with community representatives. He certainly expressed a willingness to meet with you to discuss this specific project. Would you agree to that meeting, and also would you agree to perhaps provide some information on progress on the specific scheme? | Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymwybodol o fater hirsefydlog yn fy etholaeth ynghylch ffordd osgoi arfaethedig yn ardal Llanymynech a Phant, a bûm yn gohebu o'r blaen gyda'ch rhagflaenydd, Edwina Hart, ynglŷn â hyn. Cyfarfûm yn ddiweddar ag Andrew Jones, Gweinidog dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn Llanymynech, gyda chynrychiolwyr ar ran y gymuned. Yn sicr, mynegodd barodrwydd i gyfarfod â chi i drafod y prosiect penodol hwn. A fyddech yn cytuno i gael y cyfarfod hwnnw, a hefyd a fyddech yn cytuno i ddarparu rhywfaint o wybodaeth am y cynnydd a wnaed ar y cynllun penodol? |
Yes, I would agree to that meeting, and I'd like to thank the Member for bringing this to my attention. I know that he's given it considerable focus in his time as Assembly Member, and we're continuing to work with Highways England regarding that particular stretch, and we will continue to meet with them to promote joint working and to develop feasibility studies for future cross-border schemes. Also, my officials are taking into account the work of Highways England on their A5 corridor study, as the outcome could have implications for the scheme that the Member raises. | Byddwn yn cytuno i'r cyfarfod hwnnw, a diolch i'r Aelod am dynnu fy sylw at hyn. Gwn ei fod wedi rhoi cryn dipyn o sylw iddo yn ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, ac rydym yn parhau i weithio gyda Highways England mewn perthynas â'r darn hwnnw o ffordd, a byddwn yn parhau i'w cyfarfod er mwyn hyrwyddo gweithio ar y cyd ac i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cynlluniau trawsffiniol yn y dyfodol. Hefyd, mae fy swyddogion yn ystyried gwaith Highways England ar eu hastudiaeth o goridor yr A5, gan y gallai'r canlyniad beri goblygiadau i'r cynllun y mae'r Aelod yn ei drafod. |
Cabinet Secretary, you'll know as well as I do that for north Wales to prosper economically, we not only need strong and effective transport links across the region, but across the border with our near neighbours in the north-west of England. Improvement to road links like the A55 and A494 are critical, but we also need a wider transport plan to support crucial cross-border economic collaboration with the north-west of England. Will you therefore provide an update on the development of the north-east Wales metro alongside to boost cross-border economic co-operation? | Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn gwybod cystal â minnau, er mwyn i ogledd Cymru ffynnu yn economaidd, mae angen cysylltiadau trafnidiaeth cryf ac effeithiol ar draws y rhanbarth, ac ar draws y ffin gyda'n cymdogion agos yng ngogledd-orllewin Lloegr hefyd. Mae gwella cysylltiadau ffordd fel yr A55 a'r A494 yn hanfodol, ond mae angen cynllun trafnidiaeth ehangach arnom i gefnogi cydweithredu economaidd trawsffiniol hanfodol gyda gogledd-orllewin Lloegr. A wnewch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiad metro gogledd-ddwyrain Cymru ochr yn ochr â hynny i hybu cydweithredu economaidd trawsffiniol? |
Can I thank the Member for her question, and say that the economy of north Wales has phenomenal potential? It is our gateway to the world and we wish to see it take flight. We have begun work to advance the development of a north-east Wales metro system. It's important that we have connectivity across the whole of the region to maximise the opportunities further west and to provide reliable, efficient and quality connectivity south and across the border. Outline proposals are being prepared, and we will be setting out that vision within the first 100 days of this Government. Likewise, I'm keen to ensure that cross-border economic development is a focus of my work, and I intend to host a summit in July for interested parties on both the Welsh and English side of the border. | Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud bod gan economi gogledd Cymru botensial rhyfeddol? Dyna yw ein porth i'r byd a hoffem ei weld yn llwyddo. Rydym wedi dechrau gweithio i hybu datblygiad system metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n bwysig fod gennym gysylltedd ar draws y rhanbarth i gyd i wneud y gorau o'r cyfleoedd ymhellach i'r gorllewin ac i ddarparu cysylltedd dibynadwy, effeithlon ac o ansawdd da, i'r de ac ar draws y ffin. Mae cynigion amlinellol yn cael eu paratoi, a byddwn yn cyflwyno'r weledigaeth honno o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon. Yn yr un modd, rwy'n awyddus i sicrhau bod datblygu economaidd trawsffiniol yn un o'r pethau y bydd fy ngwaith yn canolbwyntio arno, ac rwy'n bwriadu cynnal uwchgynhadledd ym mis Gorffennaf i bawb sydd â diddordeb, ar ochr Cymru a Lloegr i'r ffin. |
First of all, can I welcome the Member back to the Chamber, and say that rail electrification is crucially important to the economy of south Wales, indeed, to the economy of the whole of Wales, and I'll be pleased to be able to present Members with a written update on this matter? | Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r Aelod yn ôl i'r Siambr, a dweud bod trydaneiddio'r rheilffyrdd yn hanfodol bwysig i economi de Cymru, ac i economi Cymru gyfan yn wir, a byddaf yn falch o allu cyflwyno diweddariad ysgrifenedig i'r Aelodau ar y mater hwn? |
The Severn crossing tolls on the border are a restriction on the south Wales economy and a cause of congestion. Would you agree with me that we should see those crossings become the responsibility of the Welsh Government as quickly as possible and, when that is the case, that those tolls should be abolished to ease that restriction on the local economy, and, indeed, end what is a long-running injustice that has annoyed an awful lot of people and organisations for a long time? | Mae tollau croesi Afon Hafren ar y ffin yn cyfyngu ar economi de Cymru ac yn achosi tagfeydd. A fyddech yn cytuno y dylai'r croesfannau hynny ddod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo modd a phan fydd hynny'n digwydd, y dylid diddymu'r tollau i leddfu'r cyfyngiad hwnnw ar yr economi leol a rhoi diwedd yn wir ar yr anghyfiawnder maith sydd wedi gwylltio llawer iawn o bobl a sefydliadau ers amser hir? |
Can I thank the Member for his question and say that we declared very publicly that we believe the tolls should be in the hands of the Welsh Government. Now, it's estimated that removing the tolls would boost productivity in Wales by something in the region of £100 million or more every year, and I can see no justification for continuing to disadvantage Welsh businesses once the concession ends. Now, it's our intention, were we able to, to reduce levels of the tolls, alleviating the burden on the economy, but the Member also points out rightly that the tolls are a cause of congestion. So, we also need to ensure that if we remove that cause of congestion, we don't simply add to the burden and the troubles that are caused at Brynglas tunnels and, instead, we make sure that we resolve the M4 as well. | Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac a gaf fi ddweud ein bod wedi datgan yn gyhoeddus iawn ein bod yn credu y dylai'r tollau fod yn nwylo Llywodraeth Cymru? Nawr, amcangyfrifir y byddai cael gwared ar y tollau yn hybu cynhyrchiant yng Nghymru rywle oddeutu £100 miliwn neu fwy bob blwyddyn, ac ni allaf weld unrhyw gyfiawnhad dros barhau i beri anfantais i fusnesau Cymru pan ddaw'r consesiwn i ben. Nawr, ein bwriad ni, pe baem yn gallu, yw gostwng lefelau'r tollau, gan leddfu'r baich ar yr economi, ond mae'r Aelod hefyd yn nodi'n gywir fod y tollau'n achosi tagfeydd. Felly, mae angen i ni sicrhau hefyd, os ydym yn cael gwared ar achos y tagfeydd, nad ydym yn ychwanegu at y baich a'r trafferthion a achosir yn nhwnelau Bryn-glas a'n bod yn sicrhau yn lle hynny, ein bod yn datrys problem yr M4 hefyd. |
I now call on the party spokespeople to ask questions of the Cabinet Secretary, and first this week, the Plaid Cymru spokesperson, Adam Price. | Galwaf yn awr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd Plaid Cymru, Adam Price. |
Diolch, Lywydd. Can I first of all formally congratulate the Cabinet Secretary on his appointment and wish him every success in what is a vitally important role? Now, you can't manage what you don't measure, so the saying goes. When it became clear that Wales was not going to meet the target of closing the gap, relative to the UK, for gross value added, instead of changing the strategy, one of his predecessors as economy Minister decided instead to change the target. Now, in the last term, the Government described gross disposable household income per head in its annual report as the best single measure of economic well-being. Given the fact that, in the latest figures, Welsh GDHI, relative to the UK, has fallen for the last two years for which figures are available - it's now down to its lowest level since 2002 - will the Cabinet Secretary accept that, according to what is his own Government's yardstick of success, he's failing the Welsh economy? What will he, as the new economy Secretary, decide to do - change the strategy or, once again, change the target? | Diolch, Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet yn ffurfiol ar ei benodiad a dymuno pob llwyddiant iddo mewn rôl sy'n hanfodol bwysig. Nawr, ni allwch reoli'r hyn na allwch ei fesur, yn ôl y dywediad. Pan ddaeth yn amlwg nad oedd Cymru yn mynd i gyrraedd y targed o gau'r bwlch, o gymharu â'r DU, ar gyfer gwerth ychwanegol gros, yn hytrach na newid y strategaeth, penderfynodd un o'i ragflaenwyr fel Gweinidog dros yr Economi newid y targed yn lle hynny. Nawr, yn y tymor diwethaf, disgrifiodd y Llywodraeth incwm gwario gros aelwydydd y pen yn ei hadroddiad blynyddol fel y mesur gorau o les economaidd. O ystyried y ffaith, yn y ffigurau diweddaraf, bod incwm gwario gros aelwydydd yng Nghymru, o'i gymharu â'r DU, wedi gostwng yn y ddwy flynedd ddiwethaf y ceir ffigurau ar eu cyfer - mae bellach i lawr i'w lefel isaf ers 2002 - a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, yn ôl yr hyn sy'n ffon fesur llwyddiant i'w Lywodraeth ei hun, ei fod yn gwneud cam ag economi Cymru? Beth y bydd ef, fel yr Ysgrifennydd newydd dros yr Economi, yn penderfynu ei wneud - newid y strategaeth neu newid y targed unwaith eto? |
Can I thank the Member for his question and congratulate him on his appointment as well? Indeed, can I congratulate the other two Members of Plaid Cymru who have been appointed to shadow me? Having three shadows makes me feel like a marked man, I must say. With regard to the specific questions that the Member raises, we will be developing a new economic strategy and I would hope that you would be able to contribute to that, and we will be reviewing those targets. There are many important indicators of economic success, and, let's face it, we now have record employment levels in Wales. We have unemployment falling faster here than across the rest of the UK. If you look at figures for tourism as well, you'll see that we have record success as well as on imports, on exports and on inward investment - Wales is performing better today than it did at any other point during devolution. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i longyfarch hefyd ar ei benodiad? Yn wir, a gaf fi longyfarch y ddau Aelod arall o Blaid Cymru sydd wedi'u penodi i fy nghysgodi? Mae cael tri chysgod yn gwneud i mi deimlo fel dyn â nod ar ei dalcen, mae'n rhaid i mi ddweud. O ran y cwestiynau penodol y mae'r Aelod yn eu crybwyll, byddwn yn datblygu strategaeth economaidd newydd a byddwn yn gobeithio y byddech yn gallu cyfrannu ati, a byddwn yn adolygu'r targedau hynny. Ceir llawer o ddangosyddion llwyddiant economaidd o bwys a gadewch i ni ei wynebu, mae lefelau cyflogaeth bellach yn uwch nag erioed yng Nghymru. Mae diweithdra yn gostwng yn gyflymach yma nag yng ngweddill y DU. Os edrychwch ar y ffigurau ar gyfer twristiaeth hefyd, fe welwch ein bod hefyd yn llwyddo'n well nag erioed ar fewnforion, ar allforion ac ar fewnfuddsoddiad - mae Cymru'n perfformio'n well heddiw nag ar unrhyw adeg arall yn ystod datganoli. |
I'm amazed to see the Cabinet Secretary refer to exports as a symbol of Welsh success. Over the last two years, Welsh exports have dropped by over £2.6 billion. That's a drop of 20 per cent in total. Let's put that in a little bit of context, shall we? That's the same reduction in exports, proportionally, as the UK experienced in the economic crisis between 2008 and 2009. It's the equivalent of our current surplus in trade with the EU. Now, I agree with him that Brexit would indeed be a catastrophe for Welsh exports, but what about the catastrophe that has happened under this Government's own watch? Will he establish an urgent inquiry into the causes of the Welsh export collapse and will he also look, Llywydd, at the leakages to the Welsh economy as a result of imports? Can the Secretary confirm that German and Spanish specialist steel is being used in the eastern distributor road project, funded by his department - a road only yards away from this building, ironically on which a Welsh steelworks is actually located? If his answer is that these specialist products cannot be currently produced by Welsh companies, does that not demonstrate the need for a team of specialists, working with businesses in Wales, to identify opportunities in the procurement pipeline, like the team that we did have until his Government replaced them in January this year with a couple of part-time staff, a few seminars and a phone number. | Rwy'n synnu gweld Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at allforion fel symbol o lwyddiant Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae allforion o Gymru wedi gostwng dros £2.6 biliwn. Dyna ostyngiad o 20 y cant i gyd. Gadewch i ni roi hynny mewn cyd-destun. Mae'r gostyngiad hwnnw mewn allforion, yn gyfrannol, yr un faint ag y profodd y DU yn yr argyfwng economaidd rhwng 2008 a 2009. Mae'n cyfateb i'n gwarged presennol mewn masnach gyda'r UE. Nawr, rwy'n cytuno ag ef y byddai Prydain yn gadael Ewrop yn drychineb gwirioneddol i allforion o Gymru, ond beth am y trychineb a ddigwyddodd o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon? A yw'n mynd i gynnal ymchwiliad brys i'r achosion dros y cwymp yn allforion Cymru, ac a fydd hefyd yn edrych, Lywydd, ar y colledion i economi Cymru o ganlyniad i fewnforion? A all yr Ysgrifennydd gadarnhau fod dur arbenigol o'r Almaen a Sbaen yn cael ei ddefnyddio yn y prosiect ffordd ddosbarthu ddwyreiniol, a ariennir gan ei adran - ffordd sydd lathenni yn unig o'r adeilad hwn, ffordd y lleolwyd gwaith dur Cymru arni, yn eironig? Os mai ei ateb yw na all cwmnïau o Gymru gynhyrchu'r cynhyrchion arbenigol hyn ar hyn o bryd, onid yw hynny'n dangos yr angen am dîm o arbenigwyr, yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru, i nodi cyfleoedd caffael sydd ar y gweill, fel y tîm a oedd gennym tan i'w Lywodraeth eu cyfnewid ym mis Ionawr eleni am gwpl o staff rhan-amser, ychydig o seminarau a rhif ffôn. |
Well, well, well, we shouldn't be surprised that the Member wishes to talk down the Welsh economy, but the very fact of the matter is that when we ignore the selective figures that he chooses to adopt and when we look at what's happened since 1999, which is a fair indicator to begin with, there has been an 89 per cent increase in Welsh exports, compared to an increase of just 69 per cent for the whole of the UK. You talk about Brexit, but what would leaving Great Britain do to the Welsh economy? What sort of damage would that inflict on this country, on millions of people who require the British economy for work and for prosperity? Presiding Officer, the facts speak for themselves: Welsh exports in the first quarter of 2016 were higher in value than in the previous quarter, up 2.9 per cent compared to a fall of 2.7 per cent in the UK. That is a key statistic that the Member chooses to ignore. In addition, what we know from the eastern bay link road is that, whilst there are pieces of scaffolding that have been sourced from Germany, which will be temporary, 89 per cent of the steel for reinforcing bars, which will remain in situ, are from Wales. That is something that we should be proud of; that is something that we should promote. I'm doing it. I wish the Member would too. | Wel, wel, wel, ni ddylem synnu bod yr Aelod yn dymuno bychanu economi Cymru, ond y gwir amdani yw, pan anwybyddwn y ffigurau detholus y mae'n dewis eu mabwysiadu a phan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 1999, sy'n ddangosydd teg i ddechrau, bu cynnydd o 89 y cant mewn allforion o Gymru, o'i gymharu â chynnydd o 69 y cant yn unig ar gyfer y DU gyfan. Rydych yn siarad am Brydain yn gadael Ewrop, ond beth fyddai gadael Prydain Fawr yn ei wneud i economi Cymru? Pa fath o ddifrod fyddai hynny'n ei achosi i'r wlad hon, i filiynau o bobl sydd angen economi Prydain ar gyfer gwaith ac ar gyfer ffyniant? Lywydd, mae'r ffeithiau'n siarad drostynt eu hunain: roedd allforion Cymru yn chwarter cyntaf 2016 yn uwch eu gwerth nag yn y chwarter blaenorol, cynnydd o 2.9 y cant o'i gymharu â gostyngiad o 2.7 y cant yn y DU. Mae hwnnw'n ystadegyn allweddol y mae'r Aelod yn dewis ei anwybyddu. Yn ogystal, yr hyn a wyddom o ffordd gyswllt dwyrain y bae yw hyn: er bod darnau o sgaffaldiau yn dod o'r Almaen, a phethau dros dro ydynt, mae 89 y cant o'r dur ar gyfer y barrau atgyfnerthu, a fydd yn aros yn eu lle, yn dod o Gymru. Mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono; mae hynny'n rhywbeth y dylem ei hyrwyddo. Rwy'n gwneud hynny. Hoffwn pe bai'r Aelod yn gwneud hynny hefyd. |
Well, I think the question on most of our minds is: what would changing the Welsh Government do for the Welsh economy? They can hardly do any worse than the current administration. [Interruption.] Look, in the interests - [Interruption.] | Wel, rwy'n meddwl mai'r cwestiwn ar feddyliau'r mwyafrif ohonom yw: beth fyddai newid Llywodraeth Cymru yn ei wneud i economi Cymru? Go brin y gallent wneud yn waeth na'r weinyddiaeth bresennol. [Torri ar draws.] Edrychwch, er mwyn - [Torri ar draws.] |
Allow the Member to be heard and to come quickly to his question. Diolch, Adam. | Gadewch i'r Aelod gael ei glywed a dod at ei gwestiwn yn gyflym. Diolch, Adam. |
In the interests of being charitable, I think it would be wrong to expect the new Cabinet Secretary to have all the answers at his first outing at ministerial questions. Indeed, that's true of most Governments. That's why most Governments in the world have an executive agency to help them deliver their economic strategy. Now, I realise it would be difficult for this Government to bring back the Welsh Development Agency, as that would be an admission that they'd made a mistake, which is something they patently are unwilling to do. But can the Cabinet Secretary confirm that the Government, following an earlier feasibility study, has now commissioned a detailed business plan for a national innovation body for Wales - another Plaid Cymru policy being delivered by a Labour Government? Can he also confirm that the scope of this study includes examining the case for widening the remit of this arm's-length body to include a wider economic development role? Some of us might be tempted to call that a WDA for the twenty-first century. | Er mwyn bod yn garedig, rwy'n credu y byddai'n anghywir disgwyl bod yr holl atebion gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar ei dro cyntaf yn y cwestiynau gweinidogol. Yn wir, mae hynny'n wir am y rhan fwyaf o lywodraethau. Dyna pam fod gan y mwyafrif o Lywodraethau'r byd asiantaeth weithredol i'w helpu i gyflawni eu strategaeth economaidd. Nawr, rwy'n sylweddoli y byddai'n anodd i'r Llywodraeth hon ddod ag Awdurdod Datblygu Cymru yn ei ôl, gan y byddai hynny'n gyfaddefiad eu bod wedi gwneud camgymeriad, sy'n rhywbeth y maent yn amlwg yn amharod i'w wneud. Ond a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod y Llywodraeth, yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb gynharach, bellach wedi comisiynu cynllun busnes manwl ar gyfer corff arloesi cenedlaethol i Gymru - un arall o bolisïau Plaid Cymru'n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Lafur? A all hefyd gadarnhau bod cwmpas yr astudiaeth hon yn cynnwys archwilio'r achos dros ehangu cylch gwaith y corff hyd braich hwn i gynnwys swyddogaeth ddatblygu economaidd ehangach? Efallai y byddai rhai ohonom yn cael ein temtio i alw hwnnw'n Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. |
Plaid Cymru wanting to go back to the 1980s to create the WDA and go back to quango heaven: no, we prefer accountability to sit with the Welsh Government. When it comes to exports, one other factor that's worth bearing in mind is that we saw some categories soar in recent times - we saw machinery specialised for particular industries exports up 30 per cent, we saw road vehicles up 21 per cent, we saw increases in exports to Qatar, up 46 per cent. It's why the - [Interruption.] They may understand it. It's why people - [Interruption.] Let's hope they understand this: commodity prices have fallen. Petroleum products' value also has caused not just exports in the UK, but exports elsewhere, to fall in value. That is a fact of the matter. That is a reality around the globe. Setting up another quango will not solve the problem of commodity prices or petroleum prices. | Plaid Cymru sydd am fynd yn ôl i'r 1980au i greu Awdurdod Datblygu Cymru a dychwelyd i nefoedd y cwangos: na, mae'n well gennym ni atebolrwydd yn Llywodraeth Cymru. O ran allforion, un ffactor arall sy'n werth ei chofio yw ein bod wedi gweld rhai categorïau yn esgyn i'r entrychion yn ddiweddar - gwelsom gynnydd o 30 y cant mewn allforion peiriannau wedi'u harbenigo ar gyfer diwydiannau penodol, gwelsom gynnydd o 21 y cant mewn cerbydau ffordd, gwelsom gynnydd o 46 y cant mewn allforion i Qatar. Dyna pam - [Torri ar draws.] Efallai y byddant yn ei ddeall. Dyna pam y mae pobl - [Torri ar draws.] Gadewch i ni obeithio eu bod yn deall hyn: mae prisiau nwyddau wedi gostwng. Mae gwerth cynhyrchion petrolewm hefyd wedi achosi i allforion yn y DU, ac allforion mewn llefydd eraill hefyd, i ostwng yn eu gwerth. Dyna'r gwir amdani. Dyna'r realiti o amgylch y byd. Ni fydd sefydlu cwango arall yn datrys problem prisiau nwyddau neu brisiau petrolewm. |
Can I also congratulate the Cabinet Secretary on his appointment and say that I look forward to working with him constructively, where appropriate? Cabinet Secretary, the Welsh Government's directory of Welsh motor sports companies states that Wales has a well-established automotive sector, generating a turnover of over £3 billion annually. Indeed, one of the success stories of the tourism industry has been our support for the forest-stage rallying in Wales, worth approximately £15 million a year to the Welsh economy. Motor sports, of course, are therefore of vital economic importance, and I wonder if you could outline what the Welsh Government is doing to promote and safeguard the motor sports industry in Wales. | A gaf fi hefyd longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad a dweud fy mod yn edrych ymlaen at weithio gydag ef yn adeiladol, lle bo'n briodol? Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfeiriadur Llywodraeth Cymru o gwmnïau chwaraeon modur yng Nghymru yn datgan bod gan Gymru sector moduro sydd wedi'i hen sefydlu, ac sy'n cynhyrchu trosiant o dros £3 biliwn y flwyddyn. Yn wir, un o lwyddiannau mawr y diwydiant twristiaeth yw ein cefnogaeth i'r ralïo yng nghoedwigoedd Cymru, sy'n werth tua £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Felly mae chwaraeon modur, wrth gwrs, o bwysigrwydd economaidd hanfodol, a thybed a wnewch chi amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu a diogelu'r diwydiant chwaraeon modur yng Nghymru. |
Can I thank the Member for his question, and also congratulate him on his appointment? I look forward to working with him in the years to come to ensure that we have a stronger, more secure economy in Wales. The automotive sector is a crucially important sector across Wales. In particular, for tourism, it contributes enormously to the success of our major events portfolio, which, in turn, attracts 800,000 people to Wales each year and generates something in the region of £125 million in terms of economic impact. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i longyfarch ar ei benodiad hefyd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef yn y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod gennym economi gryfach, fwy diogel yng Nghymru. Mae'r sector modurol yn sector hollbwysig ledled Cymru. Yn benodol, o ran twristiaeth, mae'n cyfrannu'n aruthrol at lwyddiant ein portffolio digwyddiadau mawr, sydd, yn ei dro, yn denu 800,000 o bobl i Gymru bob blwyddyn ac yn cynhyrchu tua £125 miliwn o ran ei effaith economaidd. |
Well, thank you, Cabinet Secretary, for your response and I'm pleased to hear that you are aware of that information as well. The long-term future of the forest-stage rallying in Wales is under some serious threat as a consequence of Natural Resources Wales's proposal to almost double the charges to the industry for the use of and maintenance of roads. Now, it appears that, in England and Scotland, agreement has already been made, with a modest increase in charges of just 0.7 per cent. Now, would you agree with me that there are, of course, wider economic benefits to motor sports events, and that the future of the industry in Wales should not be put in jeopardy? I wonder whether you would agree to - along with the Cabinet Secretary for the environment - intervene personally in negotiations on the contract between NRW and the Motor Sports Association, which, of course, would allow the industry to continue to flourish in Wales, rather than cease? | Wel, diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n falch o glywed eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth honno hefyd. Mae dyfodol hirdymor ralïo yng nghoedwigoedd Cymru o dan fygythiad difrifol o ganlyniad i gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyblu'r costau bron i'r diwydiant am ddefnyddio a chynnal a chadw ffyrdd. Nawr, mae'n ymddangos, yn Lloegr a'r Alban, fod cytundeb eisoes wedi'i wneud, gyda chynnydd cymedrol mewn taliadau o 0.7 y cant yn unig. Nawr, a fyddech yn cytuno bod manteision economaidd ehangach i ddigwyddiadau chwaraeon modur, ac na ddylid rhoi dyfodol y diwydiant yng Nghymru yn y fantol? Tybed a fyddech yn cytuno - ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd - i ymyrryd yn bersonol mewn trafodaethau ar y contract rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association, a fyddai, wrth gwrs, yn caniatáu i'r diwydiant barhau i ffynnu yng Nghymru, yn hytrach na dod i ben? |
I'd like to thank the Member for his supplementary question and say that this is part of a negotiation that's taking place - in terms of the commercial negotiations taking place - in such a way that I can't comment on the details. However, I have now met with my colleague, Lesley Griffiths, to discuss this, and, as a consequence of that, I'm pleased to say that Natural Resources Wales and the Motor Sports Association are continuing to negotiate charges to enable rallying to continue on Welsh forestry estates, and I'm confident now, as a result of the discussions that we've had, that a mutually acceptable compromise can be reached. There's no doubt that rallying in the Welsh forests is iconic, and Wales Rally GB in particular is part of our international profile. We want it to succeed and to continue. | Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol a dweud bod hyn yn rhan o drafodaeth sy'n digwydd - o ran y trafodaethau masnachol sy'n digwydd - yn y fath fodd fel na allaf roi sylwadau ar y manylion. Fodd bynnag, rwyf bellach wedi cael cyfarfod â'm cyd-Aelod, Lesley Griffiths, i drafod hyn, ac o ganlyniad i hynny, rwy'n falch o ddweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Motor Sports Association yn dal i drafod ffïoedd er mwyn galluogi ralïo i barhau ar ystadau coedwigaeth Cymru, ac rwy'n hyderus erbyn hyn, yn sgil y trafodaethau rydym wedi'u cael, y gellir cyrraedd cyfaddawd derbyniol i'r ddwy ochr. Nid oes amheuaeth fod ralïo yng nghoedwigoedd Cymru yn eiconig, ac mae Rali Cymru GB, yn arbennig, yn rhan o'n proffil rhyngwladol. Rydym am iddo lwyddo a pharhau. |
Can I thank the Cabinet Secretary? I think that's an encouraging response, so perhaps it would be timely if we could have a statement over the coming weeks, as negotiations come to a conclusion in a positive way as the Cabinet Secretary suggests and, perhaps at some point, he'd be willing to visit one of the stages in mid Wales with me as well - perhaps we could have a race with each other; I don't know. Staying on the theme of tourism, Cabinet Secretary, I understand that the Brecon Beacons National Park Authority has recently reviewed the options for how services are delivered at the national park's visitor centre. Now, among the changes, it's recommended the closure of the information and retail element of the centre, which replaces it with an unstaffed information point. I'd ask you, Minister, to make representations to the national park authority to urgently reconsider this decision, as I certainly believe this would have an adverse effect on tourism, not only in the area, but in the wider mid Wales economy. | Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod hwnnw'n ymateb calonogol, felly efallai y byddai'n amserol pe gallem gael datganiad dros yr wythnosau nesaf, wrth i'r trafodaethau ddod i ben mewn ffordd bositif fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awgrymu ac efallai, ar ryw adeg, y byddai'n barod i ymweld ag un o'r camau yn y canolbarth gyda mi hefyd - efallai y gallem gael ras yn erbyn ein gilydd; nid wyf yn gwybod. Gan aros ar thema twristiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu'r opsiynau ar gyfer sut y darperir gwasanaethau yng nghanolfan ymwelwyr y parc cenedlaethol yn ddiweddar. Nawr, ymhlith y newidiadau, mae wedi argymell cau elfen ddarparu gwybodaeth a manwerthu'r ganolfan, a chreu man gwybodaeth heb staff yn ei le. Weinidog, hoffwn ofyn i chi gyflwyno sylwadau i awdurdod y parc cenedlaethol yn ailystyried y penderfyniad hwn ar frys, gan fy mod yn sicr yn credu y byddai'n niweidio twristiaeth, nid yn unig yn yr ardal, ond yn economi ehangach canolbarth Cymru. |
Yes, I'll commit to doing that. Actually, the national park authority is on my steering committee for the Year of Adventure, so I'll be able to raise it with people in person as well, and I would also commit to providing a statement on Wales Rally GB and the future of the automotive sport in Wales. | Iawn, fe ymrwymaf i wneud hynny. Mewn gwirionedd, mae awdurdod y parc cenedlaethol ar fy mhwyllgor llywio ar gyfer y Flwyddyn Antur, felly byddaf yn gallu ei drafod gyda phobl wyneb yn wyneb hefyd, a hoffwn ymrwymo hefyd i ddarparu datganiad ynglŷn â Rali Cymru GB a dyfodol chwaraeon modur yng Nghymru. |
Thank you, Presiding Officer. I've already had the opportunity to congratulate the Cabinet Secretary on his appointment, but you can't have too much of a good thing, so I'll congratulate him again today and express the hope that, under his guidance, the Welsh economy will really get its skates on - boom, boom. [Laughter.] According to the opinion polls, it looks very much as though Britain is going to vote to leave the EU next week, and I wonder, therefore, if the Cabinet Secretary has given any thought to how he will spend the Brexit dividend that will come to Wales in that event. Because, just taking the one measure alone of Britain's net contribution to the EU - that's the money we give to Brussels to be spent elsewhere in the EU of £10 billion a year on a per capita basis calculation - that's about £500 million a year that will come to Wales and the Welsh Government to be spent. It would be interesting to know if he's got any ideas as to how we can spend even a part of that money. | Diolch i chi, Lywydd. Rwyf eisoes wedi cael y cyfle i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad, ond ni allwch gael gormod o beth da, felly fe'i llongyfarchaf eto heddiw a mynegi gobaith, dan ei arweiniad, y bydd economi Cymru wir yn gwisgo'i 'skates' - bwm, bwm. [Chwerthin.] Yn ôl y polau piniwn, mae'n edrych yn debyg iawn y bydd Prydain yn pleidleisio dros adael yr UE yr wythnos nesaf, a thybed felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y bydd yn gwario difidend Prydain yn gadael y DU a ddaw i Gymru yn sgil y digwyddiad hwnnw. Oherwydd, gan gymryd un mesur yn unig o gyfraniad net Prydain i'r UE - dyna'r arian a rown i Frwsel i'w wario yn rhywle arall yn yr UE sef £10 biliwn y flwyddyn ar sail cyfrifiad fesul y pen o'r boblogaeth - mae hynny oddeutu £500 miliwn y flwyddyn a fydd yn dod i Gymru a Llywodraeth Cymru i'w wario. Byddai'n ddiddorol gwybod a oes ganddo unrhyw syniadau ynglŷn â sut y gallwn wario rhan o'r arian hwnnw hyd yn oed. |
Can I thank the Member for his kind comments about my appointment and wish him well in his role, as well, in the Assembly? There can be no guarantee that that money would come to Wales. I rather fear that it will be squirrelled away to places like Wiltshire rather than come here to Wales. I think it'd probably end up in the Cotswolds rather than Cymru. There is no guarantee that Wales would benefit from EU money that is repatriated back to the UK. Do we really want to jeopardise, right now, next week, the progress that we've made on steel, what is an incredibly sensitive position? We would throw that crisis even deeper into the unknown were we to vote to leave the EU. We would throw 18,000 jobs, certainly at risk, if we were to vote to leave the EU. We would put at risk 52,000 apprenticeships that people are going to be seeking to fill in the next five years if we voted to leave the EU. We would also put at risk ReAct, which has provided opportunities. It's provided hope for 19,000 people who have faced redundancy. That's why Europe exists: to provide hope for people who need it. Do we really want to vote out of Europe and compromise that sort of opportunity for millions of people in Britain? | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig am fy mhenodiad a dymuno'n dda iddo hefyd yn ei rôl yn y Cynulliad? Ni ellir gwarantu y byddai'r arian hwnnw'n dod i Gymru. Rwy'n ofni y bydd yn cael ei hel i lefydd fel Wiltshire yn hytrach na'n dod yma i Gymru. Rwy'n meddwl y byddai'n debygol o fynd i'r Cotswolds yn hytrach na Chymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai Cymru yn elwa o arian yr UE a ddychwelir yn ôl i'r DU. A ydym o ddifrif eisiau peryglu, yn awr, yr wythnos nesaf, y cynnydd rydym wedi'i wneud ar ddur, sy'n sefyllfa hynod o sensitif? Byddem yn gwthio'r argyfwng hwnnw hyd yn oed yn ddyfnach i mewn i'r gors pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn colli 18,000 o swyddi, a fyddai'n sicr mewn perygl, pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem yn peryglu 52,000 o brentisiaethau y mae pobl yn mynd i fod yn ceisio'u llenwi yn y pum mlynedd nesaf pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE. Byddem hefyd yn peryglu ReAct, sydd wedi darparu cyfleoedd. Mae wedi rhoi gobaith i 19,000 o bobl sydd wedi wynebu cael eu diswyddo. Dyna pam y mae Ewrop yn bodoli: er mwyn rhoi gobaith i bobl sydd ei angen. A ydym o ddifrif eisiau pleidleisio dros adael Ewrop a pheryglu'r math hwn o gyfle i filiynau o bobl ym Mhrydain? |
Well, I think it'll come as a surprise to the people of Greece, Spain, Italy, Portugal and France that Europe represents hope, and I certainly take issue with the Cabinet Secretary on his rosy-tinted view. Of course, there can be no guarantees about the future; there's no guarantee that any of us will be alive this time next week. But, nevertheless, it's reasonable to assume that Wales will get a pretty high proportion of what it is due on a per capita basis if we leave the EU, and if we add in the £5 billion on top of the £10 billion that's spent elsewhere in the EU - that the EU spends in Britain for their priorities, not our priorities - this offers the Welsh Government a massive opportunity to spend on things that matter to the people of Wales, rather than to the bureaucrats of Brussels. | Wel, rwy'n meddwl y bydd yn syndod i bobl Gwlad Groeg, Sbaen, yr Eidal, Portiwgal a Ffrainc fod Ewrop yn cynnig gobaith, ac rwy'n sicr yn gwrthwynebu barn or-ffyddiog Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, ni all fod unrhyw sicrwydd ynglŷn â'r dyfodol; nid oes sicrwydd y bydd unrhyw un ohonom yn fyw yr adeg hon yr wythnos nesaf. Serch hynny, mae'n rhesymol tybio y bydd Cymru'n cael cyfran eithaf uchel o'r hyn sy'n ddyledus iddi fesul y pen o'r boblogaeth os ydym yn gadael yr UE, ac os ychwanegwn y £5 biliwn ar ben y £10 biliwn a gaiff ei wario mewn mannau eraill yn yr UE - yr arian y mae'r UE yn ei wario ym Mhrydain ar eu blaenoriaethau hwy, nid ein blaenoriaethau ni - mae'n cynnig cyfle enfawr i Lywodraeth Cymru wario ar bethau sydd o bwys i bobl Cymru, yn hytrach nag i fiwrocratiaid Brwsel. |
The Member claims that Europe has not offered hope - what Europe has offered is the longest period of sustained peace in the history of the continent. It has offered hope and it has delivered peace and prosperity right across the continent. Voting out of Europe next week would certainly cause compromise for the steel industry in Wales and the UK. The Member may not wish to believe me, but he should believe Tata themselves when they say, and I quote directly: 'The EU is by far our largest export market, with over a third of our UK steel heading there, and that's not including the steel that goes via our customers, so access to that market is fundamental to our business'. If the UK were to exit the EU and we set rules ourselves, it is likely we would still need to adhere to EU rules to enter that market. The difference: we would no longer have a say in how they are set up or applied. The EU is a source of cash for the UK business sector, funds for environmental improvements, infrastructure development and research and development. Would the Member today wish to tell steelworkers he would wish to compromise their jobs and their future to vote out of Europe next week? | Mae'r Aelod yn honni nad yw Ewrop wedi cynnig gobaith - yr hyn y mae Ewrop wedi'i gynnig yw'r cyfnod hiraf o heddwch parhaus yn hanes y cyfandir. Mae wedi cynnig gobaith ac mae wedi sicrhau heddwch a ffyniant ledled y cyfandir. Byddai pleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf yn sicr yn peryglu'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU. Efallai na fydd yr Aelod yn dymuno fy nghredu, ond dylai gredu Tata eu hunain sy'n dweud, ac rwy'n dyfynnu'n uniongyrchol: 'Yr UE yw ein marchnad allforio fwyaf o bell ffordd, gyda thros draean o'n dur yn y DU yn mynd yno, ac nid yw hynny'n cynnwys y dur sy'n mynd drwy ein cwsmeriaid, felly mae mynediad i'r farchnad honno'n hanfodol i'n busnes'. Pe bai'r DU yn gadael yr UE a'n bod yn gosod rheolau i ni ein hunain, mae'n debygol y byddai'n dal i fod angen i ni gadw at reolau'r UE i fynd i mewn i'r farchnad honno. Y gwahaniaeth: ni fyddai gennym lais mwyach yn y modd y cânt eu llunio neu eu cymhwyso. Mae'r UE yn ffynhonnell o arian ar gyfer y sector busnes yn y DU, cyllid ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, datblygu seilwaith, ac ymchwil a datblygu. A fyddai'r Aelod heddiw yn dymuno dweud wrth weithwyr dur y byddai'n dymuno peryglu eu swyddi a'u dyfodol i bleidleisio dros adael Ewrop yr wythnos nesaf? |
Well, leaving the EU would, of course, not compromise steel jobs at all. We would have the freedom to do what the United States has done and slap a 522 per cent duty on cold-rolled steel as opposed to the 24 per cent duty that the EU has proposed. But I wonder can the Cabinet Secretary explain to me why the EU would want to put up any trade barriers against the UK when the figures announced only a couple of days ago show that we had in the first quarter of this year alone a deficit of £24 billion in our trade in goods. They have much more to lose than we have from a trade war. | Wel, ni fyddai gadael yr UE yn peryglu swyddi dur o gwbl wrth gwrs. Byddai gennym y rhyddid i wneud yr hyn y mae'r Unol Daleithiau wedi'i wneud a gosod toll o 522 y cant ar ddur wedi'i rolio'n oer yn hytrach na'r doll o 24 y cant y mae'r UE wedi'i hargymell. Ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro wrthyf pam y byddai'r UE yn awyddus i osod unrhyw rwystrau masnach yn erbyn y DU pan fo'r ffigurau a gyhoeddwyd rai dyddiau'n ôl yn unig yn dangos bod gennym ddiffyg ariannol o £24 biliwn yn ein masnach mewn nwyddau yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Mae ganddynt lawer mwy i'w golli mewn rhyfel masnach nag sydd gennym ni. |
Let's reflect on where we are right now. There is without a doubt, in my view, a new momentum in the Welsh economy. Tourism figures I've already mentioned - they're up, employment is up, FDI up, exports up, business start-ups up, airport passenger numbers up. Apprenticeship completion rates - they've risen, too. The only thing that we could guarantee if we left Europe next week is that all of these stats would go down. I would urge the people of Wales and the people of Britain to vote to remain. | Gadewch i ni feddwl am ein sefyllfa ar hyn o bryd. Heb amheuaeth, yn fy marn i, ceir momentwm newydd yn economi Cymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ffigurau twristiaeth - maent ar gynnydd, mae cyflogaeth ar gynnydd, mae Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gynnydd, mae allforion ar gynnydd, mae cyfraddau busnesau newydd ar gynnydd, mae niferoedd teithwyr maes awyr ar gynnydd. Cyfraddau cwblhau prentisiaethau - mae'r rheini ar gynnydd hefyd. Yr unig beth y gallem ei sicrhau pe baem yn gadael Ewrop yr wythnos nesaf yw y byddai pob un o'r ystadegau hyn yn gostwng. Byddwn yn annog pobl Cymru a phobl Prydain i bleidleisio dros aros. |
Our transport priorities are set out in the national transport finance plan, which includes a number of road improvements for north Wales. | Caiff ein blaenoriaethau trafnidiaeth eu nodi yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, sy'n cynnwys nifer o welliannau ffyrdd ar gyfer gogledd Cymru. |
Thank you very much. I'd like to draw your attention to a scheme to build a 9 km bypass in my area, in Arfon, in the Caernarfon and Bontnewydd area, a scheme that was secured by my predecessor, Alun Ffred Jones, in the last Assembly, which will be a significant boost to our area. I would like to hear from you whether you are aware of the significant delay in this scheme. There has been no announcement on it. The orders were supposed to have been published at the beginning of this year, and they haven't been, and it's likely that this scheme will not proceed for at least another 12 months. Are you aware that the problem that has arisen here is disagreement between Natural Resources Wales on the one side and the scheme's engineers on the other? I understand that the problem is a dispute as regards what to do about the bats. Are you disappointed, as I am, that this delay is occurring, and can you assure me that you and your Government will do everything possible to resolve this dispute or this disagreement so that we can see this scheme proceeding as soon as possible, please? | Diolch yn fawr iawn. Hoffwn i dynnu eich sylw chi at gynllun i adeiladu ffordd osgoi 9 km o hyd yn fy ardal i, yn Arfon, yn ardal Caernarfon a Bontnewydd, cynllun a gafodd ei sicrhau gan fy rhagflaenydd i, Alun Ffred Jones, yn y Cynulliad diwethaf, a fydd yn hwb sylweddol i'n hardal ni. Hoffwn i wybod gennych chi a ydych chi'n ymwybodol o'r oedi sylweddol sydd yn digwydd i'r prosiect yma. Nid oes yna gyhoeddiad wedi'i wneud. Mi oedd y gorchmynion i fod i gael eu cyhoeddi ddechrau'r flwyddyn. Nid ydyn nhw wedi cael eu cyhoeddi, ac mae'n debyg rŵan na fydd y cynllun yma yn mynd yn ei flaen am o leiaf 12 mis arall. A ydych chi'n ymwybodol mai'r broblem sydd wedi codi fan hyn ydy anghytuno rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr un llaw a pheirianwyr y cynllun ar y llaw arall? Rwy'n deall mai'r broblem ydy methu cytuno ar beth i wneud ynglŷn ag ystlumod. A ydych chi yn siomedig, fel rydw i, bod yr oedi yma yn digwydd? A fedrwch chi fy sicrhau y byddwch chi a'ch Llywodraeth yn gwneud bob dim posib i gael gwared ar yr anghytundeb yma fel y gwelwn ni y cynllun yma yn mynd yn ei flaen cyn gynted â phosib, os gwelwch yn dda? |
Can I thank the Member for her question and say that the original intention was indeed to publish draft orders during the springtime of this year, but because of ongoing discussions, which the Member has mentioned, with Natural Resources Wales to address environmental mitigation measures, the publication date is now planned for August, subject to my approval? But I can guarantee that I will keep the Member updated on developments and move as fast as possible. | Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac a gaf fi ddweud mai'r bwriad gwreiddiol yn wir oedd cyhoeddi gorchmynion drafft yn ystod y gwanwyn eleni, ond oherwydd y trafodaethau parhaus a grybwyllodd yr Aelod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â mesurau lliniaru amgylcheddol, mae'r dyddiad cyhoeddi yn awr wedi'i gynllunio ar gyfer mis Awst, yn amodol ar fy nghymeradwyaeth? Ond gallaf sicrhau y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod ynglŷn â datblygiadau ac yn symud mor gyflym ag y bo modd. |
In fact, it's three years since the Minister for Economy, Science and Transport in the previous Government announced her revised preferred route, whilst still investigating a business impact assessment, despite concerns raised by local businesses and employers that that revised preferred route and its predecessor would damage local business and jobs, and there was an alternative route that would do neither. Last July, notices were given out by the Welsh Government to landowners on the Welsh Government's preferred route that environment surveys were to be carried out, and, last September, your predecessor, in a statement to this Assembly, said the A487 Caernarfon and Bontnewydd bypass is well advanced. In addition to considering the environmental impact, in partnership with Natural Resources Wales, as you indicate, will you again assure local businesses on the Welsh Government's preferred route that you will engage with them at last and listen to their genuine, evidence-based concerns at last and factor that into your final decision? | Yn wir, mae tair blynedd ers i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn y Llywodraeth flaenorol gyhoeddi ei llwybr diwygiedig a ffefrir, gan barhau i ymchwilio i asesiad effaith ar fusnes, er gwaethaf pryderon a fynegwyd gan fusnesau a chyflogwyr lleol y byddai'r llwybr diwygiedig a ffefrir a'i ragflaenydd yn niweidio busnesau a swyddi lleol, ac roedd yna lwybr arall na fyddai'n gwneud y naill na'r llall. Fis Gorffennaf diwethaf, dosbarthwyd hysbysiadau gan Lywodraeth Cymru i dirfeddianwyr ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai arolygon amgylcheddol yn cael eu cynnal, a fis Medi diwethaf, dywedodd eich rhagflaenydd, mewn datganiad i'r Cynulliad hwn, fod gwaith ar ffordd osgoi'r A487 Caernarfon a Bontnewydd yn mynd rhagddo'n dda. Yn ogystal ag ystyried yr effaith amgylcheddol, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rydych yn nodi, a wnewch chi unwaith eto roi sicrwydd i fusnesau lleol ar lwybr a ffefrir Llywodraeth Cymru y byddwch o'r diwedd yn ymgysylltu â hwy ac yn gwrando ar eu pryderon dilys sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried hynny wrth wneud eich penderfyniad terfynol? |
I'll thank the Member for his question and stress that we have been engaging with local communities throughout this process, and with landowners during the design and development, to understand the likely impact of the scheme on properties and businesses in the area and we are keen to continue this engagement moving forward. | Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac rwy'n pwysleisio ein bod wedi bod yn ymgysylltu â chymunedau lleol drwy gydol y broses hon, a gyda thirfeddianwyr yn ystod y broses o ddylunio a datblygu, er mwyn deall effaith debygol y cynllun ar eiddo a busnesau yn yr ardal, ac rydym yn awyddus i barhau'r ymgysylltiad hwn yn y dyfodol. |
We have made business representative organisations aware of the alternative dispute resolution regulations, both during the UK Government's consultation process and since its implementation. | Rydym wedi gwneud sefydliadau cynrychioli busnesau yn ymwybodol o'r dulliau amgen o ddatrys anghydfodau, yn ystod proses ymgynghori Llywodraeth y DU ac ers ei weithredu. |
I thank the Minister for his response. More and more businesses are selling online, from very small things - groceries - to cars. This is happening, obviously, in the UK and across the EU. Would the Minister agree that the new online dispute regulations are an opportunity for increased consumer and trader confidence and for Welsh businesses to show that they offer an excellent customer service? The new regulations will ensure there is an independent and fair arbitrator and will stop the very costly process of going to court. | Diolch i'r Gweinidog am ei ymateb. Mae mwy a mwy o fusnesau yn gwerthu ar-lein, o bethau bach iawn - bwydydd - i geir. Mae hyn yn digwydd yn y DU ac ar draws yr UE, yn amlwg. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno bod y rheoliadau anghydfodau ar-lein newydd yn gyfle i gynyddu hyder defnyddwyr a masnachwyr, ac i fusnesau Cymru allu dangos eu bod yn cynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid? Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau bod yna gymrodeddwr annibynnol a theg a bydd yn osgoi'r broses gostus iawn o fynd i'r llys. |
Yes. I'd like to thank the Member for her question on a very important issue. Alternative dispute resolution can indeed speed up settlement, which means less cost, less time and less stress than would be involved in taking matters to court. It's a useful additional avenue open to consumers when appropriate. It's important that consumers can have confidence in their transactions. Greater consumer confidence benefits all businesses and with increasing amounts of business being done online, the online dispute resolution is particularly important for businesses trading online. | Byddwn. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn ar fater pwysig iawn. Gall ffyrdd amgen o ddatrys anghydfodau gyflymu setliad, sy'n golygu llai o gostau, llai o amser a llai o straen nag a geid wrth fynd â materion i'r llys. Mae'n llwybr ychwanegol defnyddiol i ddefnyddwyr pan fo'n briodol. Mae'n bwysig i ddefnyddwyr gael hyder yn eu trafodiadau. Mae mwy o hyder defnyddwyr o fudd i bob busnes, a gyda mwy a mwy o fusnes yn cael ei wneud ar-lein, mae datrys anghydfodau ar-lein yn arbennig o bwysig i fusnesau sy'n masnachu ar-lein. |
Minister, I appreciate that employment law and issues around employment are reserved matters, but the business advice that the Welsh Government supports, especially to new businesses and in particular to start-up businesses, is a vital component of being able to alert employers and employees within those businesses to what could avert some serious situations that end up costing those new businesses serious sums of money in legal advice and arbitration processes. What surety have you got that the advice that you are giving to new businesses does take into account some of the employment issues that they do need to take account of? Because that's as important as the marketing and the strategy and anything else around the businesses setup, which is obviously ongoing and is focused in the minds of the directors of those companies. | Weinidog, rwy'n derbyn bod cyfraith cyflogaeth a materion yn ymwneud â chyflogaeth yn faterion a gadwyd yn ôl, ond mae'r cyngor busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi, yn enwedig i fusnesau newydd a busnesau sy'n dechrau, yn benodol, yn elfen hanfodol o allu rhybuddio cyflogwyr a gweithwyr yn y busnesau hyn sut i osgoi rhai sefyllfaoedd difrifol sy'n costio arian enfawr i'r busnesau newydd hynny ar gyngor cyfreithiol a phrosesau cymrodeddu. Pa sicrwydd sydd gennych fod y cyngor rydych yn ei roi i fusnesau newydd yn ystyried rhai o'r materion cyflogaeth y mae angen iddynt eu hystyried? Oherwydd mae hynny gyn bwysiced â'r marchnata a'r strategaeth ac unrhyw beth arall sy'n ymwneud â sefydlu'r busnes, ac mae'n amlwg yn barhaus ac yn ffocws ym meddyliau cyfarwyddwyr y cwmnïau hynny. |
I'd be happy to review the efficacy of the support and advice that we provide and to write to the Member with the outcome of that review. | Byddwn yn hapus i adolygu effeithiolrwydd y cymorth a'r cyngor a ddarparwn ac i ysgrifennu at yr Aelod gyda chanlyniad yr adolygiad hwnnw. |
Yes. The Port Talbot waterfront enterprise zone will help us exploit new economic opportunities and support existing businesses. We have already launched a business rates scheme, which, combined with our wider support, provides an enhanced incentive for new investment and growth. | Gwnaf. Bydd ardal fenter glannau Port Talbot yn ein helpu i fanteisio ar gyfleoedd economaidd newydd a chefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. Rydym eisoes wedi lansio cynllun ardrethi busnes, sydd, ynghyd â'n cefnogaeth ehangach, yn darparu cymhelliad gwell ar gyfer buddsoddiad newydd a thwf. |
I thank the Cabinet Secretary for that answer. In Port Talbot, the impact of Tata's decision to sell the steelworks and also reduce the work contracted out to local businesses is actually creating huge challenges for local companies who are now facing difficult times to simply remain in business - such as Fairwood Fabrications, who we saw on the television programme with Michael Sheen, who have already reduced their staff by half and are looking at very challenging times just to stay in existence. As they seek to diversify and win new contracts elsewhere, they need support to ensure the future of their employees. Now, the enterprise zone status could attract those opportunities to them, but that's not going to happen overnight. What support can the Welsh Government give these companies to overcome the challenges they face now, so they can be in a position to benefit from the enterprise zone when it becomes active? | Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ym Mhort Talbot, mae effaith penderfyniad Tata i werthu'r gwaith dur a hefyd i leihau'r gwaith sy'n cael ei roi ar gontractau allanol i fusnesau lleol yn creu heriau enfawr i gwmnïau lleol, sydd bellach yn wynebu cyfnod anodd i allu parhau i gynnal eu busnesau - fel Fairwood Fabrications, a welsom ar y rhaglen deledu gyda Michael Sheen, sydd eisoes wedi torri nifer eu staff yn ei hanner ac yn wynebu amseroedd heriol iawn i allu parhau i fodoli. Wrth iddynt geisio arallgyfeirio ac ennill contractau newydd mewn llefydd eraill, mae angen cymorth arnynt i allu sicrhau dyfodol eu gweithwyr. Nawr, gallai statws yr ardal fenter ddenu'r cyfleoedd hynny iddynt, ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd dros nos. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r cwmnïau hyn er mwyn iddynt allu goresgyn yr heriau sy'n eu hwynebu yn awr, fel y gallant fod mewn sefyllfa i elwa o'r ardal fenter pan ddaw'n weithredol? |
The health of the supply chain is enormously important to the region. Working in conjunction with the supply chain sub-group of the taskforce, 55 businesses linked to the Tata supply chain have requested additional support; 44 businesses have been visited and a bespoke diagnosis of the need of each has been undertaken. We've made available, as the Member is aware, business rates support, which is worth up to £55,000 a year to each qualifying SME within the Port Talbot enterprise zone. The closing date, the Member would wish to know, for receiving all applications is 30 September. At the beginning of June, a direct mail exercise was undertaken to promote the scheme to more than 223 businesses located within the enterprise zone that may be able to benefit from support for the scheme. I should also make the Member aware that since the inception of the Port Talbot Waterfront enterprise zone, seven inquiries have been received, either directly from external businesses or via local authority officers and our sectors, seeking information about support for growth or new locations. These are at early stages of engagement; however, two of these inquiries could include potentially significant inward investments. | Mae iechyd y gadwyn gyflenwi yn hynod o bwysig i'r rhanbarth. Gan weithio ar y cyd gydag is-grŵp cadwyn gyflenwi'r tasglu, mae 55 o fusnesau sy'n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata wedi gofyn am gymorth ychwanegol; ymwelwyd â 44 o fusnesau, a gwnaed diagnosis pwrpasol o angen pob un. Fel y mae'r Aelod yn ymwybodol, rydym wedi darparu cymorth ardrethi busnes, sy'n werth hyd at £55,000 y flwyddyn i bob Busnes Bach a Chanolig cymwys yn ardal fenter Port Talbot. Byddai'r Aelod yn dymuno gwybod mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r holl geisiadau yw 30 Medi. Ar ddechrau mis Mehefin, cynhaliwyd ymarfer llythyru uniongyrchol i hyrwyddo'r cynllun i fwy na 223 o fusnesau wedi'u lleoli o fewn yr ardal fenter a allai elwa o gymorth ar gyfer y cynllun. Dylwn hefyd hysbysu'r Aelod fod saith ymholiad wedi dod i law ers dechrau ardal fenter Glannau Port Talbot, naill ai'n uniongyrchol gan fusnesau allanol neu drwy swyddogion yr awdurdod lleol a'n sectorau, yn holi am wybodaeth am gymorth ynglŷn â thwf neu leoliadau newydd. Mae'n ddyddiau cynnar o ran yr ymgysylltiad â'r rhain; fodd bynnag, gallai dau o'r ymholiadau hyn gynnwys mewnfuddsoddiad a allai fod yn arwyddocaol. |
In the last Assembly, I raised the point with the Minister on the land opposite Harbour Way, which I'm sure will be part of the new enterprise zone. There is land there that could be utilised for new businesses. Have you spoken to local businesses to encourage them to actually apply for that land at a reduced cost under these new circumstances of an enterprise zone in Port Talbot, to facilitate the development of that particular area? | Yn y Cynulliad diwethaf, fe wnes i godi'r pwynt gyda'r Gweinidog ynglŷn â thir sydd gyferbyn â Harbour Way a fydd, rwy'n siŵr, yn rhan o'r parth busnes newydd - bod yna dir yna a fydd yn gallu cael ei 'util-eiddio' ar gyfer busnesau newydd. A ydych chi wedi siarad gyda busnesau yn lleol i'w hennyn nhw i allu marchnata i gael y tir hwnnw am bris llai o fewn yr amgylchiadau newydd yma o barth menter ym Mhort Talbot, er mwyn inni hwyluso datblygiad yr ardal benodol honno? |
I know that my officials are in constant dialogue with local businesses, but I will check on that specific case. We've established the enterprise zone at Port Talbot based around the existing and potential employment sites in the area, which have significant capacity for supporting further business investment. The Member is possibly aware that these are Baglan energy park, Baglan industrial estate and Harbourside in Port Talbot docks. But I assure the Member that I will take up the point that she raises and contact her once I've made inquiries. | Gwn fod fy swyddogion mewn trafodaethau cyson gyda busnesau lleol, ond fe holaf ynglŷn â'r achos penodol hwnnw. Rydym wedi sefydlu'r ardal fenter ym Mhort Talbot yn seiliedig ar y safleoedd cyflogaeth posibl a rhai sy'n bodoli eisoes yn yr ardal, sydd â chapasiti sylweddol ar gyfer cefnogi buddsoddiad busnes pellach. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol mai parc ynni Baglan, ystad ddiwydiannol Baglan a Harbourside yn nociau Port Talbot yw'r rhain. Ond rwy'n sicrhau'r Aelod y byddaf yn mynd ar ôl y pwynt y mae'n ei grybwyll ac yn cysylltu â hi ar ôl i mi wneud ymholiadau. |
May I offer my congratulations as well, Cabinet Secretary? The behemoth that is the Welsh Government website invites businesses in the enterprise zone to apply for financial help towards the cost of business rates, or offsetting against business rates, for 2016-17. That scheme has actually been open since 4 April, which is a little bit sooner than some of the others that have been mentioned today. I heard your answer to David Rees, but how many businesses have applied specifically for business rate relief, if I can call it that? Of the 200 or so businesses that you've approached, 44 seem to have been followed up on that. What have you done to follow up with those who haven't responded to the direct mail approach, and will you be planning to do that any time soon, if you haven't done it yet? | A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae behemoth o wefan Llywodraeth Cymru yn gwahodd busnesau yn yr ardal fenter i wneud cais am gymorth ariannol tuag at gost ardrethi busnes, neu i wrthbwyso yn erbyn ardrethi busnes, ar gyfer 2016-17. Mae'r cynllun hwnnw wedi bod ar agor ers 4 Ebrill, sydd ychydig yn gynt na rhai o'r lleill a grybwyllwyd heddiw. Clywais eich ateb i David Rees, ond faint o fusnesau sydd wedi gwneud cais yn benodol am ryddhad ardrethi busnes, os caf ei alw'n hynny? O'r tua 200 o fusnesau rydych wedi cysylltu â hwy, mae'n ymddangos bod camau dilynol wedi'u rhoi ar y gweill gyda 44 ohonynt. Pa gamau dilynol a roesoch ar y gweill gyda'r rhai nad ydynt wedi ymateb i lythyru uniongyrchol, ac a fyddwch yn cynllunio i wneud hynny yn y dyfodol agos os nad ydych wedi'i wneud eto? |
I can follow up the question with an analysis of what those 44 businesses that have taken up our offer of help actually wish to be helped with; it may well be that it is business rates or it might be another form of support that we can offer. I'll provide the Member with as much information that I'm reasonably able to so that we are all better informed about what it is that businesses in the area require. In terms of the 11 businesses linked to the Tata supply chain that have not requested additional help, there are a number of reasons for that, but again I'll try my best to provide information on why it is that they may have chosen not to take up our offer of additional support. | Gallaf ddilyn y cwestiwn gyda dadansoddiad o'r hyn y mae'r 44 o fusnesau sydd wedi derbyn ein cynnig o gymorth yn dymuno cael cymorth gydag ef mewn gwirionedd; mae'n ddigon posibl mai ardrethi busnes yw hynny neu gallai fod yn fath arall o gymorth y gallwn ei gynnig. Byddaf yn rhoi cymaint o wybodaeth i'r Aelod ag y gallaf yn rhesymol ei wneud, fel ein bod i gyd yn fwy gwybodus ynglŷn â'r hyn y mae busnesau yn yr ardal ei angen. O ran yr 11 o fusnesau sy'n gysylltiedig â chadwyn gyflenwi Tata nad ydynt wedi gofyn am gymorth ychwanegol, mae yna nifer o resymau dros hynny, ond unwaith eto, byddaf yn gwneud fy ngorau i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pham y maent wedi dewis peidio â manteisio ar ein cynnig o gymorth ychwanegol. |
Wide-ranging support is available through our Business Wales service for small businesses in the Caerphilly area and across Wales. Our absolute focus remains on supporting enterprise, jobs and the economy. | Mae cefnogaeth eang ar gael drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru i fusnesau bach yn ardal Caerffili a ledled Cymru. Rydym yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar gefnogi menter, swyddi a'r economi. |
Thank you for that answer. For businesses to remain long term and sustainable, they need to build positive connections with each other. Welsh ICE, in my constituency, is a peer-to-peer innovation centre for enterprise, where a load of businesses are there to support each other. Indeed, today, the captain of innovation, the leader of Welsh ICE, had an article in the Western Mail entitled 'Everyone's talent needed to secure future of Wales'; that's Gareth Jones. Welsh ICE makes a net gross value added contribution to the economy of £13.8 million. Will the Cabinet Secretary congratulate Welsh ICE for the success that they've had, but also think about how can we foster these business connections, both in Caerphilly and, of course, further afield in the wider area, to develop social capital? | Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Er mwyn i fusnesau barhau'n rhai hirdymor a chynaliadwy, mae angen iddynt adeiladu cysylltiadau cadarnhaol â'i gilydd. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn fy etholaeth, yn ganolfan arloesi rhwng cymheiriaid ar gyfer menter, lle y ceir llwyth o fusnesau yno i gefnogi ei gilydd. Yn wir, heddiw, roedd gan gapten arloesi, ac arweinydd Canolfan Arloesi Menter Cymru, erthygl yn y Western Mail o dan y pennawd 'Everyone's talent needed to secure future of Wales'; Gareth Jones yw hwnnw. Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru yn gwneud cyfraniad gwerth ychwanegol gros net i'r economi o £13.8 miliwn. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet longyfarch Canolfan Arloesi Menter Cymru ar y llwyddiant y maent wedi'i gael, a meddwl hefyd sut y gallwn feithrin y cysylltiadau busnes hyn, yng Nghaerffili ac wrth gwrs, ymhellach i ffwrdd yn yr ardal ehangach, i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol? |
Can I thank the Member for his question, and also agree that Gareth Jones is indeed a great captain of Welsh ICE? He is also a native of Clwyd South constituency. Networking and shared space forms a key pillar of the approach being developed under the regional entrepreneurship acceleration programme, chaired by Simon Gibson. As part of the evidence being considered, a 12-week pre-start business accelerator programme is being delivered through the Business Wales accelerated growth programme, in partnership with Welsh ICE. I would like to congratulate the work of Welsh ICE, and especially their remarkable success to date, and I look forward to delivering on the Welsh Labour manifesto pledge to create similar hubs right across Wales to drive innovation, creativity and enterprise. | A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a chytuno hefyd fod Gareth Jones yn gapten gwych ar Ganolfan Arloesi Menter Cymru? Mae hefyd yn frodor o etholaeth De Clwyd. Mae rhwydweithio a rhannu gofod yn rhan allweddol o'r dull sy'n cael ei ddatblygu o dan y rhaglen cyflymu entrepreneuriaeth ranbarthol, a gadeirir gan Simon Gibson. Fel rhan o'r dystiolaeth sy'n cael ei hystyried, mae rhaglen gyflymu 12 wythnos o hyd i fusnesau cyn iddynt gychwyn yn cael ei darparu drwy raglen cyflymu twf Busnes Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Hoffwn longyfarch gwaith Canolfan Arloesi Menter Cymru, yn enwedig eu llwyddiant rhyfeddol hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at gyflawni addewid maniffesto Llafur Cymru i greu canolfannau tebyg ledled Cymru er mwyn hybu arloesedd, creadigrwydd a menter. |
The Welsh Government has pledged that they will provide 100,000 additional apprenticeships over the ensuing years. What specific steps will you take in order to ensure that small businesses can benefit from the opportunities provided by this pledge? | Mae Llywodraeth Cymru wedi addo 100,000 o brentisiaethau ychwanegol dros y cyfnod nesaf. Pa gamau penodol ydych chi am eu cymryd i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio o'r cyfleoedd o ganlyniad i'r addewid yna? |
Can I thank the Member for his question? It's crucially important for the Welsh economy that we create 100,000 quality apprenticeships. Each apprenticeship is estimated to be worth something in the region of, on average, £130,000 during the course of a career, so it has considerable economic benefits for the economy of Wales. The Minister for Skills and Science will be responsible for ensuring that 100,000 apprenticeships are created and filled. We've got a very proud record in Wales in terms of completion rates, way higher than in England, currently standing at something in the region of 85 per cent here in Wales compared to the low to mid 70 per cent figure in England. So, I'll be working with the Minister for Skills and Science to ensure that businesses of every size, everywhere in Wales, are aware of the opportunities that the apprenticeship system in Wales offers. | Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n hanfodol bwysig i economi Cymru ein bod yn creu 100,000 o brentisiaethau o safon. Amcangyfrifir y bydd pob prentisiaeth yn werth oddeutu £130,000 ar gyfartaledd dros yrfa gyfan, felly bydd yn creu buddiannau economaidd sylweddol i economi Cymru. Bydd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn gyfrifol am sicrhau bod 100,000 o brentisiaethau yn cael eu creu a'u llenwi. Mae gennym hanes balch iawn yng Nghymru o ran cyfraddau cwblhau: maent yn llawer uwch nag yn Lloegr, ac oddeutu 85 y cant yma yng Nghymru ar hyn o bryd o'i gymharu â'r ffigwr isel i ganolig o 70 y cant yn Lloegr. Felly, byddaf yn gweithio gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i sicrhau bod busnesau o bob maint, ym mhob rhan o Gymru, yn ymwybodol o'r cyfleoedd y mae'r system brentisiaethau yng Nghymru yn eu cynnig. |
My best wishes to the Minister for climbing the economic mountain of Wales. A recent poll by the Federation of Small Businesses in Wales asked members about the key priorities they wanted to see from the Welsh Government. Twenty per cent of respondents wanted to see the creation of a single body to support small businesses in Wales. What consideration has the Welsh Government given to setting up a single body that companies can go to to receive information to co-ordinate support for small businesses in Caerphilly and the rest of Wales? | Rwy'n dymuno'r gorau i'r Gweinidog ar gyfer dringo mynydd economaidd Cymru. Roedd arolwg diweddar gan y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru yn holi aelodau am y blaenoriaethau allweddol y buasent yn hoffi eu gweld gan Lywodraeth Cymru. Roedd ugain y cant o'r ymatebwyr yn awyddus i weld un corff yn cael ei greu i gefnogi busnesau bach yng Nghymru. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i sefydlu un corff y gall cwmnïau droi ato i gael gwybodaeth er mwyn cydlynu cymorth i fusnesau bach yng Nghaerffili a gweddill Cymru? |
Can I thank the Member for his kind comments and his question? Well, of course, the £61 million Business Wales service continues to offer that one port of call for small businesses. The latest phase of Business Wales was launched in January with the aim of creating 10,000 new businesses and 28,300 new jobs and providing support to help inspire the next generation of young entrepreneurs and to help existing SMEs grow. That is something that Business Wales has thus far been incredibly successful at achieving - as shown by our employment figures, our unemployment figures and our new business start-up figures. So, we have a measure, so far, of success in this regard, but I'm keen to make sure that Business Wales continues to deliver for businesses and the people of our country. | Diolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig a'i gwestiwn. Wel, wrth gwrs, mae gwasanaeth £61 miliwn Busnes Cymru yn parhau i gynnig un man o'r fath i fusnesau bach droi ato. Lansiwyd cam diweddaraf Busnes Cymru ym mis Ionawr, gyda'r nod o greu 10,000 o fusnesau newydd a 28,300 o swyddi newydd a darparu cymorth i helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc ac i helpu busnesau bach a chanolig sy'n bodoli eisoes i dyfu. Mae hynny'n rhywbeth y mae Busnes Cymru wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus yn ei gyflawni hyd yma - fel y dangosir yn ein ffigurau cyflogaeth, ein ffigurau diweithdra a'n ffigurau ar gyfer busnesau bach newydd. Felly, mae gennym fesur o lwyddiant hyd yma yn hyn o beth, ond rwy'n awyddus i sicrhau bod Busnes Cymru yn parhau i ddarparu ar gyfer busnesau a phobl ein gwlad. |
We are a pro-business Government and one of my first priorities will be talking to businesses large and small, as well as key partners, about their views on developing the right approach to grow prosperity and deliver greater financial security for businesses and individuals, right across Wales. | Rydym yn Llywodraeth sy'n cefnogi busnesau ac un o fy mlaenoriaethau cyntaf fydd siarad â busnesau mawr a bach, yn ogystal â phartneriaid allweddol, am eu safbwyntiau ynglŷn â datblygu'r dull cywir o dyfu ffyniant a darparu diogelwch ariannol gwell i fusnesau ac unigolion, ar hyd a lled Cymru. |
Thank you for the reply, Secretary. Business rates can be a company's biggest expense after wages and rent. The Welsh Retail Consortium has warned that Welsh retailers could see the steepest rise in business rates in the United Kingdom from the next year, once the revaluation of properties takes effect. Does the Minister agree the time has come for a radical review of business rates, to make the system fair, effective and efficient and better linked to a company's ability to pay in Wales? | Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd. Mae'n bosibl mai ardrethi busnes yw un o'r costau mwyaf i gwmni ar ôl cyflogau a rhent. Mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi rhybuddio y gallai manwerthwyr Cymru wynebu'r cynnydd serthaf mewn ardrethi busnes yn y Deyrnas Unedig o'r flwyddyn nesaf ymlaen, yn sgil ailbrisio eiddo. A yw'r Gweinidog yn cytuno ei bod hi'n bryd cael adolygiad radical o ardrethi busnes, er mwyn gwneud y system yn deg, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac yn fwy cysylltiedig â gallu cwmni i dalu yng Nghymru? |
I thank the Member for his question regarding business rates. Of course, the reason that we made one of our top pledges a reduction in tax on business was because of the value that small businesses have to the economy right across the country. Chris Sutton carries out important work in this regard and I take his advice very seriously and I scrutinise what he has to offer very carefully and, of course, if he returns with more advice in this regard I will consider it appropriately. | Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ynglŷn ag ardrethi busnes. Wrth gwrs, y rheswm pam ein bod wedi gwneud gostyngiad yn y dreth ar fusnesau yn un o'n prif flaenoriaethau oedd oherwydd gwerth busnesau bach i'r economi ar draws y wlad. Mae Chris Sutton yn gwneud gwaith pwysig yn hyn o beth ac rwy'n cymryd ei gyngor o ddifrif ac yn craffu ar yr hyn sydd ganddo i'w gynnig yn ofalus iawn ac wrth gwrs, os yw'n dychwelyd gyda mwy o gyngor ar hyn byddaf yn ei ystyried yn briodol. |
We are currently developing a business case for a third crossing over the Menai strait and I have asked my officials to bring forward proposals for a preferred-route study. | Ar hyn o bryd rydym yn datblygu achos busnes ar gyfer trydydd croesiad dros y Fenai ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gyflwyno argymhellion ar gyfer astudiaeth ar y llwybr a ffefrir. |
The Minister will know that I have been consistently pressing for investment in a third crossing, or dualling the Britannia, however you want to see it. I was very grateful to see the Government agreeing to proceed with the business study recently, and I'm sure that the plans will be brought forward in due course. Today, National Grid have announced their latest proposals on transferring energy across the Isle of Anglesey and the Menai straits. In terms of crossing Anglesey, the grid is entirely unyielding in terms of its determination to keep those cables above ground. They want to go under the Menai, and I would expect them to do that - of course, they have very little option. But isn't there an opportunity here in having some collaboration between different departments, if you like, namely by taking the cables across a new Menai crossing and getting the grid to contribute to the cost therein? I know that there is a problem here in terms of timing, but will the Minister give a commitment to do everything within his power to overcome those problems, because there is a very real opportunity to kill two birds with one stone here? | Diolch yn fawr iawn. Mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn gwthio yn gyson am fuddsoddiad mewn trydydd croesiad neu ddeuoli y Britannia, yn dibynnu pa ffordd rydych chi eisiau ei weld o. Mi oeddwn i'n ddiolchgar iawn o weld y Llywodraeth yn cytuno i fwrw ymlaen â'r astudiaeth fusnes yn ddiweddar ac rwy'n siŵr y bydd y cynlluniau yn dod rhagddyn nhw yn fuan. Rŵan, heddiw mae'r National Grid wedi cyhoeddi'u cynlluniau diweddaraf ar gyfer trosglwyddo trydan ar draws Ynys Môn a'r Fenai. O ran croesi Ynys Môn, mae'r grid yn gwbl ddigyfaddawd o ran ei benderfynoldeb i gadw'r gwifrau uwchben y ddaear. Maen nhw am fynd o dan y Fenai - mi fyddem ni'n disgwyl iddyn nhw wneud hynny; nid oedd ganddyn nhw fawr o ddewis. Ond onid oes yna gyfle yn y fan hyn i gael ychydig o gydweithio rhwng gwahanol adrannau, os hoffwch chi, sef drwy fynd â'r gwifrau ar draws pont newydd ar draws y Fenai a chael y grid i gyfrannu at y gost honno? Rwyf yn ymwybodol bod yna broblem yma o ran yr amseru, ond a wnaiff y Gweinidog roi ymrwymiad i wneud popeth o fewn ei allu i oresgyn y problemau hynny, achos mae yna gyfle go iawn i ladd dau dderyn efo un garreg yn fan hyn? |
Absolutely. The Member is astute and correct in his observations and his recommendations. I met with my officials today to discuss this very issue. We welcome the project update today, published by National Grid. It's provided more detail on the undergrounding options for crossing the Menai straits, and officials continue to engage with the National Grid to ensure that any solution is fit for purpose, not only to deliver a connection but to protect and be mindful of the environment in which it is to be deployed. So, the grid dimension will be considered as part of the business case. | Yn bendant. Mae'r Aelod yn graff ac yn gywir yn ei sylwadau a'i argymhellion. Cyfarfûm â'm swyddogion heddiw i drafod yr union fater hwn. Rydym yn croesawu'r newyddion diweddaraf ar y prosiect heddiw, a gyhoeddwyd gan y Grid Cenedlaethol. Mae wedi darparu mwy o fanylion ynglŷn â'r opsiynau tanddaearol ar gyfer croesi'r Fenai, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â'r Grid Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod unrhyw ateb yn addas i'r diben, nid yn unig ar gyfer creu cysylltiad ond er mwyn diogelu a bod yn ymwybodol o'r amgylchedd lle caiff ei roi. Felly, bydd dimensiwn y grid yn cael ei ystyried yn rhan o'r achos busnes. |
We now move to questions to the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport. The first question is from Dawn Bowden. | Rŷm ni nawr yn symud ymlaen at gwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Dawn Bowden. |
Thank you, Presiding Officer. Will the First Minister please make a statement on the role the Welsh Government sees for sport - | Diolch i chi, Lywydd. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei gweld ar gyfer chwaraeon - |
The First Minister? | Y Prif Weinidog? |
Oh, sorry. [Laughter.] The Minister. [Interruption.] Yes, well, one day, Becs, one day. [Laughter.] Sorry, I'll start again. | O, mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.] Y Gweinidog. [Torri ar draws.] Ie, wel, un diwrnod, Becs, un diwrnod. [Chwerthin.] Mae'n ddrwg gennyf, rwyf am ddechrau eto. |
The Welsh Government remains committed to increasing rates of participation in physical activity through sport. Sport Wales are our key delivery agent and are working with a range of partners and stakeholders to drive forward our agenda of making Wales a more active and healthy nation. | Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynyddu cyfraddau cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol drwy chwaraeon. Chwaraeon Cymru yw ein hasiant cyflenwi allweddol ac maent yn gweithio gydag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'n hagenda o wneud Cymru yn genedl fwy heini ac iach. |
Thank you, Minister. Merthyr council has secured funding of almost £12.9 million under the Welsh Government's Vibrant and Viable Places programme to support regeneration projects in Merthyr Tydfil. Will the Minister then join me in commending the initiative of both Merthyr Town Football Club and Merthyr council in utilising a grant from this funding arrangement to support the development of a modern facility at Penydarren Park, providing a sustainable community sports initiative, which is encouraging greater public engagement with the club as well as, of course, securing additional local economic benefits arising out of the building contract that came with that? | Diolch yn fawr, Weinidog. Mae cyngor Merthyr wedi sicrhau cyllid o bron i £12.9 miliwn o dan raglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio ym Merthyr Tudful. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i ganmol menter Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am ddefnyddio grant o'r trefniant cyllid hwn i gefnogi datblygiad cyfleuster modern ym Mharc Penydarren, gan ddarparu menter chwaraeon cymunedol cynaliadwy, sy'n annog mwy o ymgysylltiad rhwng y cyhoedd a'r clwb yn ogystal â sicrhau manteision economaidd lleol ychwanegol, wrth gwrs, sy'n codi o'r contract adeiladu a ddaeth gyda hynny? |
I thank you for that question. I certainly join you in commending Merthyr Town FC and Merthyr council for working in partnership to ensure a sustainable future for community sports in the area, and I'm more than delighted that Welsh Government was able to play its part by providing over £2 million for the funding for Penydarren Park through our Vibrant and Viable Places programme. That really demonstrates our commitment to providing a new flexible facility for recreation but also education and training as well in the area. I'll just add how impressed I am that Merthyr Town FC was voted the best grass-roots club in Europe by UEFA last year. I think that's a tremendous achievement. | Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i ganmol Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful a chyngor Merthyr Tudful am weithio mewn partneriaeth i sicrhau dyfodol cynaliadwy i chwaraeon cymunedol yn yr ardal, ac rwy'n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu chwarae ei rhan drwy ddarparu dros £2 filiwn o'r cyllid ar gyfer Parc Penydarren drwy ein rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad i ddarparu cyfleuster hyblyg newydd ar gyfer hamdden yn ogystal ag addysg a hyfforddiant yn yr ardal. Hoffwn ychwanegu pa mor falch wyf fi fod UEFA wedi cyhoeddi mai Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful oedd y clwb llawr gwlad gorau yn Ewrop y llynedd. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyflawniad aruthrol. |
Sport plays a really valuable role, Minister, in improving public health, but one sector of our society doesn't seem to participate the same as the other part, which is men versus women - . On a national survey, 100,000 fewer women play sport than men. There's been an active campaign across the UK entitled This Girl Can to raise participation levels in sport by actually moving beyond some of the stereotypical models of people who play sport and actually showing that sport is for all. Has the Welsh Government taken a view on this particular campaign and, indeed, has the Welsh Government participated in formulating any actions around the campaign so that we can reach into all communities and show that sport isn't for a set type of individual - it is for everyone? | Weinidog, mae rhan chwaraeon yn gwella iechyd y cyhoedd yn wirioneddol werthfawr, ond mae'n ymddangos nad yw un sector o'n cymdeithas yn cymryd rhan i'r un graddau â'r rhan arall, sef dynion yn erbyn menywod - . Mewn arolwg cenedlaethol, dangoswyd bod 100,000 yn llai o fenywod na dynion yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Cafwyd ymgyrch weithredol ar draws y DU o'r enw This Girl Can i godi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon drwy symud y tu hwnt i rai o'r modelau ystrydebol o bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a dangos bod chwaraeon i bawb mewn gwirionedd. A oes gan Lywodraeth Cymru safbwynt ar yr ymgyrch benodol hon ac yn wir, a yw Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i lunio camau gweithredu mewn perthynas â'r ymgyrch fel y gallwn gyrraedd pob cymuned a dangos nad yw chwaraeon yn weithgaredd ar gyfer math penodol o unigolyn - ei fod i bawb? |