source
stringlengths 3
13.7k
| target
stringlengths 3
14.3k
|
---|---|
Thank you, Deputy Presiding Officer. It's a new political term and here we are again with a new Wales Bill from Westminster. And, once again, it's disappointing that Westminster has decided to refuse to transfer powers to Wales that would improve the policy outcomes for our people, would ensure better accountability and, importantly, would deliver political equality for Wales. Presiding Officer, I want to concentrate on the policing element of the Plaid Cymru motion this afternoon. Historically, of course, policing in these isles has evolved over the past three centuries: it started with the first police service in Glasgow, and in the seventeenth century that was expanded to the whole of Britain. In fact, professional policing followed a pattern of developing very, very locally, with all local authorities in Wales responsible for policing by the middle of the nineteenth century. Soon, there was a policing framework on a governance level across England and Wales, with separate legislation, of course, for Scotland, reflecting the constitution as it was then. Isn't it now time for policing in Wales to reflect the constitutional reality and current policy, whilst keeping at its heart the historic element of local accountability? During the Silk commission process, which I'm sure you'll all recall, evidence was received on how the policy framework is set out for Wales by Westminster. More and more often, that framework is metropolitan in its outlook. Although emergency services in Wales do collaborate effectively, there was evidence gathered by Silk that it would be even better if policing were to be devolved. Indeed, policing, like the ambulance service and the fire and rescue service, is a part of day-to-day services, such as education and health. They are an integral part of the public service, and it's an anomaly, therefore, that policing in Wales should be different to all the other main public services in the fact that it is not devolved. Every one of these public services works closely together, and each has a knock-on effect on the other. For the sake of consistency and improved services for citizens, consistency in their accountability would benefit everyone. Indeed, the fact that policing is central to public services in Wales is reflected in the fact that the Welsh Government itself contributes significantly to the cost of policing, although it has no direct political power or legal power in the area. The Welsh Government is the only Government in these isles that makes a financial contribution to policing without having any direct power over that policy area. I would also like to refer to the broader point of the need for a Wales Bill that is sustainable. Despite my disappointment with this latest Bill, as with the previous one, and the one before that, and the one before that, I very much hope that it will be possible for parties to co-operate in order to ensure equality for Wales with the other nations within this state. Indeed, in policing, Wales is falling behind even Manchester and London now. | Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n dymor gwleidyddol newydd, a dyma ni unwaith eto gyda Mesur Cymru newydd gan San Steffan. Unwaith yn rhagor, mae hi'n siom bod San Steffan wedi penderfynu gwrthod trosglwyddo cyfrifoldebau i Gymru a fydd yn gwella canlyniadau polisi i'n pobl, yn sicrhau atebolrwydd gwell ac, yn bwysig, yn delifro cydraddoldeb gwleidyddol i Gymru. Lywydd, rwyf am ganolbwyntio ar yr elfen blismona yng nghynnig Plaid Cymru y prynhawn yma. Yn hanesyddol, wrth gwrs, mae plismona yr ynysoedd yma wedi esblygu dros y tair canrif ddiwethaf: yn y dechrau gyda'r gwasanaeth heddlu cyntaf yn Glasgow, ac yn yr ail ganrif ar bymtheg dros Brydain i gyd. Yn wir, dilynodd plismona proffesiynol patrwm o ddatblygu yn lleol iawn, iawn, gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am blismona erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn fuan, daeth fframwaith ar gyfer plismona ar lefel llywodraethol dros Gymru a Lloegr gyda deddfwriaeth ar wahân, wrth gwrs, i'r Alban yn adlewyrchu'r cyfansoddiad ar y pryd. Nawr, onid yw hi'n amser i'r plismona yng Nghymru adlewyrchu'r realiti cyfansoddiadol a pholisi cyfoesol gan, wrth gwrs, gadw wrth wraidd yr elfen hanesyddol o atebolrwydd lleol? Yn ystod proses y comisiwn Silk - rydych chi'n cofio hynny, rwy'n siŵr - derbyniwyd tystiolaeth am sut y mae'r fframwaith polisi yn cael ei osod ar ran Cymru gan San Steffan. Yn fwyfwy, mae'r fframwaith yna yn fetropolitan yn ei weledigaeth. Er bod y gwasanaethau argyfwng yng Nghymru yn cydweithio yn dda, cafwyd tystiolaeth gan Silk y byddent yn gweithio'n well fyth drwy ddatganoli plismona. Yn wir, mae plismona, fel y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth tân ac achub, yn rhan o wasanaethau dydd i ddydd, fel addysg ac iechyd, yn rhan annatod o'r gwasanaethau cyhoeddus, ac mae'n 'anomaly' felly fod plismona yng Nghymru yn wahanol i bob un prif wasanaeth cyhoeddus arall, yn y ffaith nad ydyw wedi'i ddatganoli. Mae pob un o'r gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio yn agos iawn gyda'i gilydd. Mae pob un yn cael effaith ar y llall, ac er lles cysondeb a gwell gwasanaeth i ddinasyddion, byddai cysondeb yn eu hatebolrwydd o fudd i bawb. Yn wir, mae'r ffaith bod plismona yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru ei hunan yn cyfrannu yn sylweddol tuag at blismona yn ariannol, er nad oes ganddi grym uniongyrchol gwleidyddol na chyfreithiol yn y maes. Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yr ynysoedd yma sydd yn cyfrannu yn ariannol tuag at blismona heb rym uniongyrchol dros y maes yna. Hoffwn hefyd gyfeirio at y pwynt ehangach o'r angen am Fesur Cymru sydd yn gynaliadwy. Er fy siom gyda'r Mesur diweddaraf, fel y Mesur cyn hynny, a'r un cyn hynny, a'r un cyn hynny, rwy'n gobeithio'n fawr iawn bod modd i'r pleidiau gydweithio i sicrhau cydraddoldeb cenedlaethol i Gymru gyda'r cenhedloedd eraill yn y wladwriaeth yma. Yn wir, ym maes plismona, mae Cymru y tu ôl, yn awr, hyd yn oed Manceinion a Llundain. |
I have selected the amendment to the motion, and I call on David Melding to move amendment 1, tabled in the name of Paul Davies. | Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. |
Thank you, Presiding Officer. Can I begin by congratulating Steffan Lewis on a most lucid speech? I think anyone that quotes Robert Peel is going to find some support from these benches. Perhaps there are Tory sympathies that lurk deep, deep within your political soul. I just offer that, by the way; I hope it doesn't reduce the authority with which I've no doubt you will now speak in your group. It was an excellent contribution. I will return to the point of policing and the administration of justice at the end, but, if I can focus on the content of the Conservative amendment, I think the first place to start is that we do need to work towards a fuller constitutional settlement, and the best way is to take the current Bill as introduced and improve it. It's already a great advance on the draft Bill, but it will be the fourth piece of constitutional law making that we've had in Wales within 18 or 19 years, so it needs to be as complete a settlement as we can find a reasonable consensus for at the moment. I am encouraged that the Welsh Government and the UK Government are working together and seem to share this very noble ambition. Now, it is true there are still some substantial areas of difference. The First Minister has indeed written to the Secretary of State to outline some of the issues that he still thinks need to be addressed, and he's referred to the issue of a single jurisdiction. The Bill does suggest a way of moving forward a bit in this area, recognising a body of Welsh law. I think we can argue about the philosophical differences here, but I think it is acknowledging that a body of Welsh law and a legislature is at some point going to be recognised in terms of the legal vocabulary as something approaching a single jurisdiction. The number of reservations is, in Welsh Government's view, still too large and I suspect that, as we scrutinise the Bill, that may be the view more generally in this Assembly. There's been partial progress on UK ministerial consents. Again, anything we can do to have a more complete and logical dividing line in areas like this I think would help the clarity of the constitutional settlement. And, in the First Minister's view, taxation powers need to be linked to fair funding. I'm not myself convinced that it needs to be automatically linked, but it clearly does inform the debate and, whatever taxation powers come to us, the issue of a fair formula - a needs-based formula, basically - for the distribution of centrally-gathered moneys within the UK state is clearly very, very important. All strong fiscal unions have this; it is an essential part of an effective form of fiscal devolution. So, I think we do need to work together to improve the Bill as it now proceeds through its parliamentary stages, and of course we will have an opportunity here in the Assembly to do some of that work as well and to send our conclusions up to Westminster. And I think, in being effective in this area, we will bring greater balance to the British constitution and so strengthen the union. Now, I realise this is not a direct benefit as far as Plaid Cymru are concerned, but insofar as we remain in a union I'm sure you'll want to see the constitutional arrangements as robust as possible. Plaid's motion focuses principally on policing and the administration of justice. What I would say here is that this is a debate that needs to be had, but it needs to be had, I think, separately to the current debate on the Bill, because there are major issues to discuss. It is something we need to be aware of is a part of the devolution settlement in Scotland, and it's now increasingly part of the devolution settlement in Northern Ireland. So, I myself think it should be discussed, and there was indeed a Constitutional and Legislative Affairs Committee report on this under my chairmanship in the fourth Assembly. But it is a big political question. Community policing in most federal states is devolved; I mean, that has to be recognised. But, as our report concluded, if you're looking at these areas then it really does make sense to address them completely and devolve criminal justice and sentencing policy. And I'm not sure that the Welsh electorate are ready to make that decision. We certainly need to have a full debate about it. It's one where I have views that may not always be in total accord with some of my colleagues at the moment, but you will understand that, as the official spokesman on the constitution for my group, I cannot go into greater detail on those matters now. | Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Steffan Lewis ar araith hynod o glir? Rwy'n meddwl y bydd unrhyw un sy'n dyfynnu Robert Peel yn dod o hyd i rywfaint o gefnogaeth ar y meinciau hyn. Efallai fod yna gydymdeimlad â'r Torïaid yn llechu'n ddwfn yn eich enaid gwleidyddol. Dim ond awgrymu hynny rwyf fi, gyda llaw; rwy'n gobeithio nad yw'n lleihau'r awdurdod a fydd gennych yn awr, rwy'n siŵr, i siarad yn eich grŵp. Roedd yn gyfraniad ardderchog. Dychwelaf at fater plismona a gweinyddu cyfiawnder ar y diwedd, ond os caf ganolbwyntio ar gynnwys gwelliant y Ceidwadwyr, rwy'n meddwl mai'r lle cyntaf i ddechrau yw bod angen i ni weithio tuag at setliad cyfansoddiadol llawnach, a'r ffordd orau yw cymryd y Bil cyfredol fel y'i cyflwynwyd a'i wella. Mae eisoes yn welliant mawr ar y Bil drafft, ond dyma fydd y pedwerydd darn o gyfraith gyfansoddiadol a gawsom yng Nghymru mewn 18 neu 19 mlynedd, felly mae angen iddo fod yn setliad mor llawn ag y gallwn sicrhau consensws rhesymol ar ei gyfer ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd ac i'w gweld yn rhannu'r uchelgais aruchel hwn. Nawr, mae'n wir fod yna rai meysydd lle y ceir gwahaniaeth sylweddol o hyd. Yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i amlinellu rhai o'r materion y mae'n dal i feddwl bod angen mynd i'r afael â hwy, ac mae wedi cyfeirio at fater awdurdodaeth sengl. Mae'r Bil yn awgrymu ffordd o symud ymlaen ychydig yn y maes hwn, a chydnabod corff o gyfraith Gymreig. Rwy'n credu y gallwn ddadlau am y gwahaniaethau athronyddol yma, ond rwy'n meddwl ei fod yn cydnabod bod corff o gyfraith a deddfwrfa Gymreig yn mynd i gael eu cydnabod ar ryw bwynt mewn perthynas â'r eirfa gyfreithiol fel rhywbeth sy'n agosáu at awdurdodaeth sengl. Mae nifer y cymalau cadw, ym marn Llywodraeth Cymru, yn dal yn rhy uchel ac rwy'n amau, wrth i ni graffu ar y Bil, mai dyna fydd y farn yn fwy cyffredinol yn y Cynulliad hwn. Gwnaed cynnydd rhannol ar gydsyniadau gweinidogol y DU. Unwaith eto, credaf y byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i gael rhaniad mwy cyflawn a rhesymegol mewn meysydd o'r fath yn hybu eglurder y setliad cyfansoddiadol. Ac ym marn y Prif Weinidog, mae angen cysylltu pwerau i godi trethi â chyllid teg. Fy hun, nid wyf yn argyhoeddedig fod angen eu cysylltu'n awtomatig, ond mae'n amlwg yn llywio'r ddadl a pha bwerau bynnag a gawn i godi trethi, mae'n amlwg fod mater fformiwla deg - fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion, yn y bôn - ar gyfer dosbarthu arian a gesglir yn ganolog o fewn gwladwriaeth y DU yn eithriadol o bwysig. Mae gan bob undeb gyllidol gref hyn; mae'n rhan hanfodol o ffurf effeithiol ar ddatganoli cyllidol. Felly, credaf fod angen i ni weithio gyda'n gilydd i wella'r Bil wrth iddo symud ymlaen yn awr drwy ei gamau seneddol, ac wrth gwrs, cawn gyfle yma yn y Cynulliad i wneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw hefyd ac i anfon ein casgliadau i San Steffan. Ac er mwyn bod yn effeithiol yn hyn o beth, rwy'n meddwl y byddwn yn dod â mwy o gydbwysedd i'r cyfansoddiad Prydeinig ac felly'n cryfhau'r undeb. Nawr, rwy'n sylweddoli nad yw hwn yn fudd uniongyrchol o ran Plaid Cymru, ond i'r graddau ein bod yn parhau i fod mewn undeb rwy'n siwr y byddwch eisiau sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol mor gadarn â phosibl. Mae cynnig Plaid Cymru yn canolbwyntio'n bennaf ar blismona a gweinyddu cyfiawnder. Yr hyn a ddywedwn yma yw bod hon yn ddadl y mae angen ei chael, ond mae angen ei chael, rwy'n credu, ar wahân i'r drafodaeth bresennol ar y Bil, oherwydd mae yna faterion pwysig i'w trafod. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ei fod yn rhan o'r setliad datganoli yn yr Alban, ac mae'n awr yn gynyddol yn rhan o'r setliad datganoli yng Ngogledd Iwerddon. Felly, fy hun rwy'n meddwl y dylid ei drafod, ac yn wir cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar hyn dan fy nghadeiryddiaeth yn y pedwerydd Cynulliad. Ond mae'n gwestiwn gwleidyddol mawr. Mae plismona cymunedol yn y rhan fwyaf o wladwriaethau ffederal wedi'i ddatganoli; hynny yw, rhaid cydnabod hynny. Ond fel y casglodd ein hadroddiad, os edrychwch ar y meysydd hyn, yna mae'n bendant yn gwneud synnwyr i roi sylw iddynt yn gyflawn a datganoli cyfiawnder troseddol a pholisi dedfrydu. Ac nid wyf yn siŵr fod etholwyr Cymru yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn sicr mae angen i ni gael dadl lawn am y peth. Mae'n un lle mae gennyf farn nad yw bob amser yn cytuno'n llwyr ag un fy nghyd-Aelodau ar y funud, ond fe fyddwch yn deall, fel llefarydd swyddogol ar y cyfansoddiad ar ran fy ngrŵp, ni allaf fanylu mwy ar y materion hynny yn awr. |
I'm very pleased to participate in this debate on a crucially important issue, and to share some of my concerns, if truth be told. Now, I don't need to emphasise just how important the law is in our daily lives. It is central to the effective operation of any state in ensuring the safety and security of our citizens. Access to the justice system is an integral and fundamental part of justice. Without access, this would only be a concept or an aspiration. But, following cuts and a reform programme to the justice system by the Westminster Government, Wales is losing out on having full access to an effective justice system. Between 2010 and 2015, 15 courts were closed the length and breadth of Wales by the Tories and the Liberal Democrats, and since 2015 another 14 have either closed or are earmarked for closure over the next few years. The closure of Dolgellau magistrates' court, for example, in the constituency of my colleague from Dwyfor Meirionnydd, does mean cases will now be transferred to Caernarfon or Aberystwyth. For those of you who don't know that part of the world, that means a journey of over an hour in a car, if you happen to have a car. As we know, public transport is inadequate in Wales, particularly in rural communities, and means that it will be impossible for people who are reliant on public transport to reach the magistrates' court for a 9.30 a.m. start. The Westminster Government is defending its decisions by claiming that the courts aren't being used sufficiently, but there is evidence from a number of different sources that shows that court cases are being moved in order to actually justify these figures and justify the closure of these courts. And, if a lack of demand isn't the justification for this, then one has to come to the conclusion that it's part of the Tory obsession in Westminster with saving money without giving full consideration to the impact on the population. The closure of courts in rural Wales will also have a very detrimental impact on an individual's ability to carry out their business through the medium of Welsh. The closure of courts and the cuts in legal aid, including giving legal aid contracts to local lawyers, will actually worsen this trend where we see small independent companies either relocating or closing entirely. In the heartlands of the Welsh language it'll be virtually impossible for residents to access legal services and conduct their business in their language of choice. The Welsh language, of course, should be a key consideration in deciding whether specific courts should be closed or not. Indeed, maintaining these services through the medium of Welsh is a legal requirement. But, although the Government at times has accepted that and made a u-turn, it is about time that these decisions were made by our own Government here in Wales, which would be far more responsive to the needs of our communities. It's clear that the UK Government reforms have failed and, if access to the justice system continues to be insufficient, then the rule of law will become meaningless. There was unanimous agreement among a number of legal experts, when evidence was provided to the Welsh Affairs Committee during the pre-legislative scrutiny of the draft Wales Bill, that there should be a separate legal jurisdiction for Wales. But, although the Bill didn't receive support in the Assembly during the fourth term of the Assembly, the Westminster Government, as we all know, has come back with another Wales Bill that still rejects not only the advice of experts but a right that has already been given to other devolved nations within this union. What sort of equality is that? Now perhaps I wouldn't expect opposition Members to support our proposals today, although I hope that some of you will. But I will call on the Government - despite the actions of your colleagues in Westminster this week, I would call on you to support our motion today in order to ensure fairness for Wales, fairness that has already been provided to Scotland, Northern Ireland and even some English cities - fairness that would ensure that decisions are taken by a democratically elected body that is directly accountable to the people of our nation. | Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma ar bwnc hanfodol bwysig, ac i rannu rhai o mhryderon i, a dweud y gwir. Nid oes raid pwysleisio pa mor bwysig ydy rheolaeth y gyfraith yn ein bywydau ni. Mae'n ganolog i weithrediad effeithiol unrhyw wladwriaeth wrth sicrhau diogelwch a hawliau ein dinasyddion. Mae mynediad i'r system gyfiawnder yn rhan annatod a sylfaenol o reolaeth y gyfraith. Heb fynediad, byddai rheolaeth y gyfraith yn gysyniad ac yn ddelfryd yn unig. Ond, yn dilyn toriadau a rhaglen ddiwygiol y system gyfiawnder gan Lywodraeth San Steffan, mae Cymru yn colli allan rhag cael mynediad llawn at system gyfiawnder effeithiol. Rhwng 2010 a 2015, fe gaewyd 15 o lysoedd ledled Cymru gan y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac ers 2015 mae 14 arall naill ai wedi cau neu mae bwriad i'w cau nhw dros y blynyddoedd nesaf. Mae cau llys ynadon Dolgellau, er enghraifft, yn etholaeth fy nghydweithiwr o Ddwyfor Meirionydd, yn golygu y bydd achosion yn cael eu trosglwyddo i Gaernarfon neu Aberystwyth. I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â'r rhan yna o'r byd, mae hynny'n golygu taith o dros awr mewn car, os oes gennych chi gar. Fel y gwyddom ni, mae cludiant cyhoeddus yn annigonol yng Nghymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac yn golygu y bydd hi'n amhosibl i bobl sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus gyrraedd y llys ynadon er mwyn cychwyn am 9.30 a.m. Mae Llywodraeth San Steffan yn amddiffyn eu penderfyniadau drwy honni nad ydy'r llysoedd yn cael eu defnyddio yn ddigonol, ond mae yna dystiolaeth o sawl ffynhonnell wahanol yn dangos bod achosion llys yn cael eu symud er mwyn ystumio'r ffigurau hyn a chyfiawnhau cau'r llysoedd. Ac os nad diffyg galw ydy'r cyfiawnhad am hyn yna mae'n rhaid dod i'r casgliad ei fod o'n rhan o obsesiwn y Torïaid yn San Steffan i arbed arian heb roi ystyriaeth lawn i'r effaith ar y boblogaeth. Bydd cau llysoedd yng nghefn gwlad Cymru hefyd yn cael effaith andwyol iawn ar allu person i gynnal eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cau llysoedd a'r gostyngiadau mewn lefelau cymorth cyfreithiol, gan gynnwys rhoi contractau cymorth cyfreithiol i gyfreithwyr lleol, yn gwaethygu y duedd lle rydym ni'n gweld cwmnïau bychain annibynnol yn adleoli neu'n cau yn gyfan gwbl. Yng nghadarnleoedd y Gymraeg mi fydd hi bron yn amhosib i drigolion gael mynediad at wasanaethau cyfreithiol a chynnal eu busnes drwy gyfrwng yr iaith o'u dewis. Mi ddylai'r Gymraeg, wrth gwrs, fod yn ystyriaeth hanfodol wrth benderfynu os dylai llysoedd penodol gael eu cau ai peidio. Yn wir, mae cynnal y gwasanaethau yma yn y Gymraeg yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Ond, er bod y Llywodraeth ar adegau wedi derbyn hynny ac wedi gwneud tro pedol, mae'n hen bryd i'r penderfyniadau yma gael eu gwneud gan ein Llywodraeth ni yma ar dir Cymru, a fyddai'n llawer mwy effro i anghenion ein cymunedau ni. Mae'n amlwg bod diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu, ac os ydy mynediad i'r system gyfiawnder yn parhau i fod yn anhygyrch yna bydd rheolaeth y gyfraith yn dod yn ddiystyr. Fe gafwyd cytundeb unfrydol ymhlith nifer o arbenigwyr cyfreithiol, pan roddwyd tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ystod y cyfnod cyn deddfu ar Fesur Cymru drafft, y dylid sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yma yng Nghymru. Ond, er i'r Mesur fethu â derbyn cefnogaeth yma yn y Cynulliad yn ystod tymor y pedwerydd Cynulliad, mae Llywodraeth San Steffan, fel rŷm ni gyd yn ei wybod, wedi dod yn hôl efo Mesur arall sy'n dal i wrthod nid yn unig y cyngor gan arbenigwyr ond hawl sydd eisoes wedi'i rhoi i genhedloedd datganoledig eraill yr undeb. Pa fath o gydraddoldeb ydy hynny? Efallai nad oes disgwyl i Aelodau'r gwrthbleidiau gefnogi ein cynigion ni heddiw, er rydw i'n gobeithio y gwnaiff rhai ohonoch chi wneud hynny. Ond rydw i'n galw ar y Llywodraeth - er gwaethaf gweithredoedd eich cydweithwyr yn San Steffan yr wythnos hon, rydw i'n galw arnoch chi i gefnogi ein cynnig ni heddiw er mwyn sicrhau tegwch i Gymru, tegwch sydd wedi'i roi eisoes i'r Alban, Gogledd Iwerddon a hyd yn oed rai o ddinasoedd Lloegr - tegwch a fyddai'n sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan sefydliad democrataidd sydd yn uniongyrchol atebol i bobl ein cenedl ni. |
Thank you for the opportunity to speak on this again. This is subject matter that we will undoubtedly be discussing line by line in detail, because this is of massive importance really. If we don't know the framework of our powers in which we operate, how can we possibly develop properly policy for the future and represent the people who elect us? I do welcome this Bill, in the sense that the last Bill was completely unworkable. I think that was almost recognised across all political parties. This Bill has some very substantial flaws but provides a basis to have something that can be workable and sustainable. So, to that extent, I welcome it. Can I just make a few comments on the Bill, because there will be many matters of detail that we'll need to go into at some stage? The first one is that the thing that has always concerned me about the way these Bills have appeared is the lack of being given any proper logic or explanation for reservations that are there - why something is being reserved as opposed to why something is not being reserved. I think that has always been a flaw, because if you're working collectively to try and achieve workable legislation you have to know what the logic is between those who've actually drafted this and where it goes. Well, hopefully, that will become clearer. I'll just put in the bid I always make on these, which is that I do hope that we actually get gambling and fixed-odds betting machines, the ability to oversee those, because there is a serious health issue with this. There are matters that we do want to have devolved to us because they do raise serious public issues. Can I also raise one other issue that I've raised several times? That is that I still think there may be an opportunity in respect of the issue of fiscal powers - [Interruption.] I do apologise. | Diolch i chi am y cyfle i siarad ar hyn eto. Mae hwn yn destun y byddwn yn ddi-os yn ei drafod fesul llinell yn fanwl, gan ei fod yn eithriadol o bwysig mewn gwirionedd. Os nad ydym yn gwybod beth yw fframwaith y pwerau y gweithredwn o'u mewn, sut yn y byd y gallwn ddatblygu polisi priodol ar gyfer y dyfodol a chynrychioli'r bobl sy'n ein hethol? Rwy'n croesawu'r Bil hwn, yn yr ystyr fod y Bil diwethaf yn gwbl anymarferol. Credaf fod hynny'n cael ei gydnabod bron ar draws pob un o'r pleidiau gwleidyddol. Mae rhai diffygion sylweddol iawn yn y Bil hwn, ond mae'n rhoi sail i gael rhywbeth a all fod yn ymarferol ac yn gynaliadwy. Felly, i'r graddau hynny, rwy'n ei groesawu. A gaf fi wneud rhai sylwadau ar y Bil, oherwydd bydd llawer o faterion manwl y bydd angen i ni eu trafod ar ryw adeg? Y cyntaf yw mai'r peth sydd bob amser wedi peri pryder i mi ynglŷn â'r ffordd y mae'r Biliau hyn wedi ymddangos yw'r ffaith na cheir unrhyw resymeg neu esboniad priodol dros unrhyw gymalau cadw sydd ynddo - pam y cedwir mater yn ôl yn hytrach na pham na chedwir mater yn ôl. Credaf fod hynny bob amser wedi bod yn ddiffyg, oherwydd os ydych yn gweithio ar y cyd i geisio cyflawni deddfwriaeth ymarferol rhaid i chi wybod beth yw'r rhesymeg rhwng y rhai sydd wedi drafftio hwn mewn gwirionedd a ble y mae'n mynd. Wel, gobeithio y daw hynny'n gliriach. Rwyf am gynnwys y cais sydd gennyf bob amser mewn perthynas â'r rhain, sef fy mod yn gobeithio ein bod yn cael hapchwarae a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog, y gallu i oruchwylio hynny, oherwydd mae yna broblem iechyd ddifrifol yn codi o hyn. Mae yna faterion rydym am eu cael wedi'u datganoli i ni oherwydd eu bod yn codi materion cyhoeddus difrifol. A gaf fi hefyd grybwyll un mater arall rwyf wedi tynnu sylw ato sawl gwaith, sef fy mod yn dal i feddwl y gallai fod yna gyfle mewn perthynas â mater pwerau cyllidol - ?[Torri ar draws.] Rwy'n ymddiheuro. |
I thank the Member very much for giving way. He's been talking about the reservations and the logic of them and I just wondered if he'd had the opportunity to consider the reservations in the family relationships and children section, which does appear to include adoption and some parts of the Children Act, and proceedings related to the care, supervision or protection of children. It may be that I'm interpreting this wrongly on the surface, but obviously it does cause me some concern and I wondered if he'd had a chance to think of that. | Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ildio. Bu'n siarad am y cymalau cadw a'r rhesymeg sy'n sail iddynt ac roeddwn i'n meddwl tybed a yw wedi cael cyfle i ystyried y cymalau cadw yn yr adran ar berthnasoedd teuluol a phlant, sydd i'w gweld yn cynnwys mabwysiadu a rhai rhannau o'r Ddeddf Plant, ac achosion yn ymwneud â gofal, goruchwyliaeth neu amddiffyn plant. Efallai fy mod yn dehongli hyn yn anghywir ar yr wyneb, ond yn amlwg mae'n peri rhywfaint o bryder i mi ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd wedi cael cyfle i feddwl am hynny. |
I think the Member is absolutely right that there are sections within the Bill reserved that it's not quite clear exactly what they do mean. For example, why, in section 175, would you have parenthood, parental responsibility, child arrangements and adoption as a reserved matter when, clearly, there are major responsibilities we have that overlap into those areas? And there are a number of those. That's why it's important that those are explored in very considerable detail. I was mentioning the point about fiscal powers because, as we know, the asbestos Bill, which I brought as a private Member's Bill in the last session, failed predominantly because of not having fiscal powers. It seems to me that fiscal powers with regard to devolved matters is quite a potentially important area. Of course, many of us were at the very useful Bevan Foundation briefing looking at areas of taxation, many of which would require the devolution of fiscal powers or the use of more complicated powers under the 2014 Act. There is a way of simplifying and clarifying that aspect of law. Can I just go back to the jurisdiction point, because it is raised and it is important and it is quite fundamental to where we're going? Just to reiterate the point, this, in many ways, is an administered matter. There is a mystique that's been attached to a jurisdiction. The jurisdiction is essentially purely the geographical area in which law applies and where court cases are heard. So, the idea, now that we have our own legislature in Wales passing legislation; the logic for having a jurisdiction it seems to me to be unanswerable. It is a matter that shouldn't cause great controversy. In the last session, I was able to chair a justice stakeholders group, and there's a report that I would recommend Members read. If I may just read out the part that was relevant there, because I think it is summed up very well. It said, 'The need to resolve issues relating to the jurisdiction is, in our view, now unavoidable. We do not, at this stage, consider it necessary or feasible to establish a separate legal jurisdiction for Wales, which would involve significant organisational change. What the group favours is making simple administrative changes within the current unified system of courts and tribunals and judiciary of England and Wales through the designation of Welsh cases adjudicated by judges sitting in courts designated as Welsh courts.' And, if there was any greater authority on this, in a speech by the Lord Chief Justice of England and Wales, Lord Thomas, in October 2015, he made it very clear when he said, 'It is right for me to say that there is no reason why a unified court system encompassing England and Wales cannot serve two legal jurisdictions.' Now, I hope this sort of fascination with the mystique of jurisdiction actually gets resolved, because it is a simple administrative matter. It could even amount to just a tick box when legal applications are made to the courts: 'Does this case involve a matter of Welsh or English Law?' If so, it then gets designated and administered in the correct way. I hope that the working party that has been set up by the Secretary of State for Wales will quickly resolve this, because this particular Bill needs to have the jurisdictional issue resolved before it is able to proceed properly. | Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei lle fod yna adrannau wedi'u cadw yn y Bil nad yw'n gwbl amlwg beth y maent yn ei olygu. Er enghraifft, pam, yn adran 175, y byddai gennych fagu plant, cyfrifoldeb rhiant, trefniadau plant a mabwysiadu fel materion a gedwir yn ôl, er ei bod yn amlwg fod gennym gyfrifoldebau mawr sy'n gorgyffwrdd yn y meysydd hynny? A cheir nifer o'r rheini. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn archwilio'r rheini'n hynod o fanwl. Roeddwn yn sôn am y pwynt ynghylch pwerau cyllidol oherwydd, fel y gwyddom, fe fethodd y Bil asbestos, a gyflwynais fel Bil Aelod preifat y tymor diwethaf, yn bennaf am nad oedd gennym bwerau cyllidol. Mae'n ymddangos i mi fod pwerau cyllidol mewn perthynas â materion datganoledig yn faes a allai fod yn bwysig. Wrth gwrs, roedd llawer ohonom yng nghyfarfod briffio defnyddiol iawn Sefydliad Bevan a oedd yn edrych ar feysydd trethiant, y byddai llawer ohonynt yn galw am ddatganoli pwerau cyllidol neu ddefnyddio pwerau mwy cymhleth o dan Ddeddf 2014. Mae yna ffordd o symleiddio ac egluro'r agwedd honno ar y gyfraith. A gaf fi ddychwelyd at y pwynt ynglŷn â'r awdurdodaeth, gan ei fod wedi'i grybwyll, ac mae'n bwysig ac yn eithaf allweddol o ran ble rydym yn mynd? I ailadrodd y pwynt, mae hwn, mewn sawl ffordd, yn fater gweinyddol. Mae yna ddirgelwch wedi bod ynghlwm wrth awdurdodaeth. Yn ei hanfod, yr hyn yw awdurdodaeth yn syml yw'r ardal ddaearyddol lle mae'r gyfraith yn gymwys ynddi a lle y gwrandewir ar achosion llys. Felly, y syniad, yn awr fod gennym ein deddfwrfa hunain yng Nghymru yn pasio deddfwriaeth; mae'n ymddangos i mi nad oes modd ateb y rhesymeg dros gael awdurdodaeth. Mae'n fater na ddylai achosi dadlau mawr. Yn ystod y tymor diwethaf, gallais gadeirio grŵp rhanddeiliaid ar gyfiawnder, ac mae yna adroddiad y byddwn yn argymell i'r Aelodau ei ddarllen. Os caf ddarllen y rhan a oedd yn berthnasol ynddo, oherwydd credaf ei fod yn crynhoi'r mater yn dda iawn. Mae'n dweud, 'Yn ein barn ni, ni ellir osgoi'r angen bellach i ddatrys materion yn ymwneud â'r awdurdodaeth. Nid ydym, ar hyn o bryd, yn ystyried ei bod yn angenrheidiol na'n ymarferol i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, a fyddai'n golygu newid sefydliadol sylweddol. Yr hyn y mae'r grŵp yn ei ffafrio yw gwneud newidiadau gweinyddol syml o fewn y system unedig bresennol o lysoedd a thribiwnlysoedd a'r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr drwy ddynodi achosion Cymreig i'w dyfarnu gan farnwyr yn eistedd mewn llysoedd a ddynodwyd yn llysoedd Cymreig.' A phe bai angen unrhyw awdurdod mwy ar hyn, mewn araith gan Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas, ym mis Hydref 2015, gwnaeth hyn yn glir iawn pan ddywedodd, 'Mae'n iawn i mi ddweud nad oes unrhyw reswm pam na all system llysoedd unedig sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr wasanaethu dwy awdurdodaeth gyfreithiol.' Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y math hwn o ddiddordeb ynghylch dirgelwch awdurdodaeth yn cael ei ddatrys mewn gwirionedd, gan mai mater gweinyddol syml ydyw. Efallai hyd yn oed nad yw'n ddim mwy na blwch ticio pan fydd ceisiadau cyfreithiol yn dod gerbron y llysoedd: 'A yw'r achos hwn yn ymwneud â chyfraith Cymru neu Gyfraith Lloegr?' Os felly, yna caiff ei ddynodi a'i weinyddu yn y ffordd gywir. Rwy'n gobeithio y bydd y gweithgor a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn datrys hyn yn gyflym, oherwydd mae angen datrys mater yr awdurdodaeth mewn perthynas â'r Bil hwn cyn y gall barhau â'i daith yn briodol. |
Thank you for the opportunity to contribute to this debate, and thank you for the great contributions from Steffan, Siân and Mick recently. I was going to concentrate as well, fundamentally, on this element of policing and the justice system, because when we started here in 1999, one of the three main 999 services were devolved, and that was the ambulance service. And, the Deputy Presiding Officer will remember, a few years later, we had the devolution of the second main 999 service, which was the fire service. That leaves now just one of those, namely the police. So, rationally, it makes sense also for the police to be devolved here, like the two main 999 services that have already been devolved. It makes perfect sense. And, as we've heard, policing has already been devolved in Northern Ireland, Scotland, London and Manchester. Therefore, you have to ask the question, 'What is wrong with us?' at the end of the day. Because here we are, an established organisation, and we can make laws, and yet we don't have the right to look after our own policing system. At the end of the day, and to bring everything under one building, as it were, we're very keen to try and avoid reoffending. When I was here before, we had a number of reviews on how to avoid reoffending. When somebody leaves prison, there is a great challenge for that individual and a great challenge for society to ensure that that person doesn't reoffend and find himself or herself back in prison. Of course, there is a lot of co-ordination work that's needed to ensure that there is a constructive future in front of that individual. And, of course, that belongs to our housing system, the NHS, our social services, which have already been devolved, but also the probation service, the prisons themselves, and the justice system itself, which have not been devolved. Therefore, there is a fundamental challenge there to co-ordinate those services that have been devolved already and to co-ordinate their work for that particular individual with those services that haven't been devolved. It doesn't make sense. There is a need for all of those services to be devolved. That's what we want to see, and that is what will ensure improved care for our most vulnerable people. So, at the end of the day, common sense must prevail here. We're not asking for something that hasn't happened already in places such as Northern Ireland, Scotland, London and Manchester. Therefore, support Plaid Cymru's debate. Thank you. | Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon a diolch am rai cyfraniadau arbennig, yn enwedig oddi wrth Steffan a Sian, a hefyd oddi wrth Mick yn ddiweddar nawr. Roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio hefyd yn sylfaenol ar yr elfen yma o blismona a'r system gyfiawnder, achos pan oeddem ni'n dechrau yma ym 1999, roedd un o'n tri phrif wasanaeth 999 ni wedi'i ddatganoli, sef y gwasanaeth ambiwlans. Bydd y Dirprwy Lywydd yn cofio, rhai blynyddoedd wedyn, cawsom ddatganoli'r ail brif wasanaeth 999, sef y gwasanaeth tân, sy'n gadael nawr dim ond un o'r rheini ar ôl, sef yr heddlu. Felly, yn rhesymegol, mae'n gwneud synnwyr hefyd fod yr heddlu wedi ei ddatganoli yma, fel y ddau brif wasanaeth 999 arall sydd eisoes wedi eu datganoli. Mae'n gwneud synnwyr perffaith, ac fel rydym ni wedi clywed, mae'r heddlu eisoes wedi cael ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, i'r Alban, i Lundain ac i Fanceinion. Felly, mae'n rhaid ichi ofyn y cwestiwn, 'Beth sy'n bod arnom ni?' ar ddiwedd y dydd. Achos dyma ni, rydym ni'n gyfundrefn sefydlog yn fan hyn, yn gallu deddfu, ac eto, nid oes gennym ni'r hawl i edrych dros ein system blismona ni ein hunain. Achos ar ddiwedd y dydd, ac i ddod â'r holl beth o dan un adeilad, felly, rydym ni'n awyddus iawn i drio atal aildroseddu. Pan oeddwn i yma o'r blaen, gwnaethom ni sawl adolygiad ar sut i atal aildroseddu. Pan mae rhywun yn gadael y carchar, mae yna her sylweddol i'r unigolyn hwnnw a her sylweddol i gymdeithas i sicrhau bod y person hwnnw ddim yn aildroseddu a ffeindio'i hunan nôl mewn carchar. Nawr, wrth gwrs, mae yna lot o waith cydlynu sydd angen ei wneud i sicrhau bod yna ddyfodol adeiladol o flaen yr unigolion hynny. Yn rhannol, mae hynny yn ein gwasanaeth iechyd ni, yn ein system dai ni a'n gwasanaethau cymdeithasol ac ati, sydd eisoes wedi eu datganoli, ond hefyd, wrth gwrs, mae'r gwasanaeth prawf, y carchardai eu hunain a'r system gyfiawnder ei hunan heb eu datganoli. Wedyn mae yna her sylfaenol yn y fan yna i gydlynu'r gwasanaethau yna sydd wedi eu datganoli'n barod - i gydlynu eu gwaith gogyfer yr unigolyn yna â'r gwasanaethau yna sydd heb eu datganoli. Nid ydy'r peth yn gwneud synnwyr. Mae eisiau i'r cwbl lot fod wedi ei ddatganoli. Dyna beth ydym ni eisiau ei weld a dyna beth fydd yn sicrhau gwell gofal i'n pobl mwyaf bregus ni. Felly, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i synnwyr cyffredin reoli yn fan hyn. Nid ydym ni'n gofyn am ddim bydd sydd ddim wedi digwydd eisoes mewn llefydd fel Gogledd Iwerddon, yr Alban, Llundain a Manceinion. Felly, cefnogwch ddadl Plaid Cymru. Diolch yn fawr. |
The omission of the devolution of policing from the Wales Bill is welcomed. I took part in two committee reviews of police structure a decade ago here. It reported that criminal activity does not recognise national or regional boundaries. Commenting on calls for police devolution in the Wales Bill, my contacts in both North Wales Police and the North Wales Police Federation told me that they have a closer affiliation with north-west England than the rest of Wales and that there is a lack of competence in Welsh Government to handle the devolution of policing. As they've repeatedly reminded me, most people live along the M4 and A55 corridors, separated by a vast rural area, and with very different policing requirements, and their operational priority is working cross-border with north-west England. As Gwent's deputy chief constable Mick Giannasi has written, 'whilst I could see there might be some strategic benefits from the devolution of police, there are also serious operational riskthe list of potential benefits for me is a relatively short one'. He also questioned whether the Welsh Government had developed the resources or the experience to oversee policing and, although he stated that the relationship between the four Welsh police forces and the Welsh Government has been constructive, he believed that if the role of Welsh Government changed to one of accountability and delivery, that would inevitably result in a change in the nature of its relationship with the police service, and one that might ultimately prove to be less productive. The introduction of police and crime commissioners marked an act of real devolution, empowering local communities to have their say on policing priorities and to hold an elected representative to account. I wish our former colleague Jeff Cuthbert success in his new role as a commissioner. | Mae hepgor datganoli plismona o Fil Cymru yn rhywbeth i'w groesawu. Cymerais ran mewn dau adolygiad pwyllgor o strwythur yr heddlu ddegawd yn ôl yma. Adroddodd nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol. Wrth sôn am alwadau i ddatganoli'r heddlu ym Mil Cymru, dywedodd fy nghysylltiadau yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr na gweddill Cymru a bod yna ddiffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona. Fel y maent wedi fy atgoffa dro ar ôl tro, mae gan y rhan fwyaf o bobl sy'n byw ar hyd coridorau'r M4 a'r A55, wedi'u gwahanu gan ardal wledig eang, anghenion plismona gwahanol iawn, a'u blaenoriaeth weithredol yw gweithio ar draws y ffin gyda gogledd-orllewin Lloegr. Fel yr ysgrifennodd dirprwy brif gwnstabl Gwent, Mick Giannasi, 'er y gallwn weld y gallai fod rhai manteision strategol o ddatganoli'r heddlu, mae yna risg weithredol ddifrifol hefyd mae'r rhestr o fanteision posibl i mi yn un gymharol fyr'. Roedd hefyd yn cwestiynu a oedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r adnoddau a'r profiad i oruchwylio plismona ac er ei fod wedi nodi bod y berthynas rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi bod yn adeiladol, pe bai rôl Llywodraeth Cymru yn newid i fod yn un o atebolrwydd a darparu, credai y byddai hynny'n anochel yn arwain at newid yn natur ei pherthynas â'r gwasanaeth heddlu, ac un a allai fod yn llai cynhyrchiol yn y pen draw. Roedd cyflwyno comisiynwyr heddlu a throseddu yn arwydd o ddatganoli go iawn a oedd yn grymuso cymunedau lleol i ddweud eu barn ar flaenoriaethau plismona ac i ddwyn cynrychiolydd etholedig i gyfrif. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'n cyd-Aelod blaenorol, Jeff Cuthbert, yn ei rôl newydd fel comisiynydd. |
One, yes. | Unwaith, gwnaf. |
I'm grateful to the Member for giving away. He just mentioned the police and crime commissioners. Four of them have just been elected in Wales: two Plaid Cymru, two Labour, and all four in favour of the devolution of police. | Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio. Mae newydd grybwyll y comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae pedwar ohonynt newydd gael eu hethol yng Nghymru: dau o Blaid Cymru, dau Lafur, a phob un o'r pedwar o blaid datganoli'r heddlu. |
We shall see about that once they've got settled into their jobs, won't we? The previous four somewhat modified their views on this. Labour's call for devolution of policing, backed by the separatists, would actually deliver the opposite of real devolution. The First Minister refers to the proposed devolution of policing to the future mayor of Manchester as a model for Wales, but of course those are only the powers of police and crime commissioners, and we already have devolution to them in Wales. What the First Minister is therefore actually talking about is taking yet more power from the regions of Wales and centralising those powers in Cardiff, giving themselves control over the appointment of chief constables, the suspension of chief constables, calling on chief constables to retire or resign, setting out five-year police and crime plans, and setting the annual precepts and force budgets. That's not something I consider an attractive proposition for the Welsh Government, given that Labour's creeping and often intimidatory politicisation of devolved public services is damning, and the risk of this infecting policing is too great. Plaid Cymru's dedication to the devolution of policing provides further evidence that their ideological goal - the destruction of a United Kingdom and division of its peoples - takes priority over the needs of the people across Wales, most of whom live in cross-border crime regions. | Cawn weld am hynny pan fyddant wedi cael eu traed danynt yn eu swyddi, oni chawn? Fe addasodd y pedwar blaenorol eu barn rywfaint am hyn. Byddai galwad Llafur am ddatganoli plismona, a gefnogir gan yr ymwahanwyr, yn cyflawni'r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn mewn gwirionedd. Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio at yr argymhelliad i ddatganoli plismona i faer Manceinion yn y dyfodol fel model ar gyfer Cymru, ond wrth gwrs pwerau comisiynwyr heddlu a throseddu yn unig yw'r rheini, ac rydym eisoes wedi datganoli iddynt yng Nghymru. Felly, yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn sôn amdano mewn gwirionedd yw cymryd mwy fyth o bŵer o'r rhanbarthau yng Nghymru a chanoli'r pwerau hynny yng Nghaerdydd, gan roi rheolaeth iddynt eu hunain dros benodi prif gwnstabliaid, atal prif gwnstabliaid o'u gwaith, galw ar brif gwnstabliaid i ymddeol neu ymddiswyddo, gosod cynlluniau pum mlynedd ar gyfer heddlu a throseddu, a gosod praeseptau a chyllidebau blynyddol i heddluoedd. Nid yw hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn gynnig deniadol i Lywodraeth Cymru, o gofio bod y modd y mae Llafur yn mynd ati i wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig mewn modd ymgripiol, a bygythiol yn aml, yn ddamniol, ac mae'r perygl y bydd hyn yn heintio plismona yn rhy fawr. Mae ymroddiad Plaid Cymru i ddatganoli plismona yn darparu tystiolaeth bellach fod eu nod ideolegol - dinistrio'r Deyrnas Unedig a rhannu ei phobloedd - yn cael blaenoriaeth dros anghenion y bobl ledled Cymru, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn byw mewn rhanbarthau troseddol trawsffiniol. |
If that proposal is one where the objective is the destruction of the United Kingdom, then is the devolution of policing to Manchester aimed at destroying the structure of England? | Os mai amcan yr argymhelliad yw dinistrio'r Deyrnas Unedig, ai nod datganoli plismona i Fanceinion yw dinistrio strwythur Lloegr? |
I've actually finished my speech. [Assembly Members: 'Oh.'] | Rwyf fi wedi gorffen fy araith mewn gwirionedd. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. |
Thank you, Llywydd. In terms of the timescales for the ability to scrutinise the Wales Bill through the recess and beyond, are we convinced that there is enough time for us to be able to do that and produce good legislation? Thank you. | Diolch i chi, Lywydd. O ran y terfynau amser i allu craffu ar Fil Cymru drwy'r toriad a thu hwnt, a ydym yn argyhoeddedig fod yna ddigon o amser i ni allu gwneud hynny a chynhyrchu deddfwriaeth dda? Diolch. |
I'd like to focus my contribution on the criminal justice system and the probation service in particular. It's more than eight years ago now - back in the spring of 2008 - that I produced a policy paper for Plaid Cymru, entitled 'Making Our Communities Safer'. The purpose of that paper was to improve community safety, and it proposed the devolution of the criminal justice system so that Wales could, among other things, pursue an alternative criminal justice system that focused on tackling the causes of crime. I drew upon my experience of working as a probation officer and dealing with offenders, as well as the theoretical knowledge that I had, having practised as a social work probation professional tutor. I had a good understanding of what worked, and what didn't, to form many of the conclusions that were set out in that paper. I'm sure that many Members here will remember the Silk commission and that that commission recommended that control over youth justice and policing should be devolved and that other criminal justice powers should follow in future. As we know, Silk has been kicked into the long grass. The lack of action on the criminal justice elements of that agenda has since seen a large part of the probation service sold off and privatised, split up by a Westminster coalition Government that had no mandate to govern from Wales. There was no compelling motive for this reorganisation, and it has been hardly a success. In 2013, the Ministry of Justice rated all 35 probation trusts in this country and in England as good or excellent. So, there was no justification whatsoever for the reorganisation based on performance. The consequences of this ideologically driven move are far and wide-reaching and they may not even be fully realised for many years to come. Morale among many of my former colleagues is at an all-time low. Staff at the community rehabilitation company - or CRC - in Wales have been warned that they can expect up to 44 per cent redundancies. There's a division between the CRCs and the staff that work for the national probation service who deal with higher-risk offenders. Before privatisation, there was no such division within the service, and what is worth recognising here is that people can change in terms of the risk that they pose with time. So, it makes no sense to split offender rehabilitation in this way. Shared intelligence between the CRCs and the National Probation Service has become fraught with difficulty, when we should be making communication between professionals, particularly when we are talking about risky people, as easy as possible. I have no doubt that the privatisation of the probation service will lead to poorer outcomes for offenders, as well as poorer outcomes for our communities, which we all have a duty to serve. I wrote to the First Minister on three separate occasions in the last Assembly about my concerns about the probation service privatisation and the damage that it would cause. He agreed with many of the points that I made. It was just a shame that the Labour Party in Westminster did not agree as well and do something effective about it. I hope that we can learn from this. I would like to think that we can agree that powers on this and everything else are best reserved to the places that are closest to the people that the decisions affect. A great opportunity to protect the robustness and the integrity of the probation service has been missed. We will no doubt pay a price for that, but we should not allow opportunities like that to pass us by again. | Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y system cyfiawnder troseddol a'r gwasanaeth prawf yn arbennig. Dros wyth mlynedd yn ôl erbyn hyn - yn ôl yng ngwanwyn 2008 - cynhyrchais bapur polisi ar ran Plaid Cymru, o'r enw 'Gwneud Ein Cymunedau'n Fwy Diogel'. Diben y papur hwnnw oedd gwella diogelwch cymunedol, ac roedd yn argymell datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y gallai Cymru, ymysg pethau eraill, fynd ar drywydd system cyfiawnder troseddol wahanol a oedd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag achosion troseddu. Roeddwn yn pwyso ar fy mhrofiad o weithio fel swyddog prawf yn ymdrin â throseddwyr, yn ogystal â'r wybodaeth ddamcaniaethol a oedd gennyf, ar ôl ymarfer fel tiwtor proffesiynol gwaith cymdeithasol ym maes prawf. Roedd gennyf ddealltwriaeth dda o'r hyn oedd yn gweithio, a'r hyn nad oedd yn gweithio, i ffurfio llawer o'r casgliadau a nodwyd yn y papur hwnnw. Rwy'n siŵr fod llawer o'r Aelodau yma yn cofio comisiwn Silk, a bod y comisiwn hwnnw wedi argymell y dylai rheolaeth dros gyfiawnder ieuenctid a phlismona gael eu datganoli ac y dylai pwerau cyfiawnder troseddol eraill ddilyn yn y dyfodol. Fel y gwyddom, mae Silk wedi cael ei roi i'r naill ochr. Ers hynny mae diffyg gweithredu ar elfennau cyfiawnder troseddol yr agenda honno wedi arwain at werthu a phreifateiddio rhan fawr o'r gwasanaeth prawf, a'i hollti gan Lywodraeth glymblaid yn San Steffan na chafodd unrhyw fandad gan Gymru i lywodraethu. Nid oedd unrhyw gymhelliad cryf dros yr ad-drefnu hwn, a phrin ei fod wedi bod yn llwyddiant. Yn 2013, graddiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder bob un o'r 35 ymddiriedolaeth prawf yn y wlad hon ac yn Lloegr fel rhai da neu ardderchog. Felly, nid oedd unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros ad-drefnu ar sail perfformiad. Mae canlyniadau'r newid hwn, sydd wedi'i gymell gan ystyriaethau ideolegol, yn fawr ac yn bellgyrhaeddol ac efallai'n wir na chânt eu gwireddu'n llawn am flynyddoedd lawer i ddod. Mae morâl ymhlith nifer o fy nghyn-gydweithwyr ar ei lefel isaf erioed. Mae staff yn y cwmni adsefydlu cymunedol - neu CRC - yng Nghymru wedi cael rhybudd y gallant ddisgwyl y caiff hyd at 44 y cant o'r staff eu diswyddo. Ceir rhaniad rhwng CRC a'r staff sy'n gweithio i'r gwasanaeth prawf cenedlaethol sy'n delio â throseddwyr risg uwch. Cyn preifateiddio, nid oedd unrhyw raniad o'r fath yn y gwasanaeth, a'r hyn sy'n werth ei ddeall yma yw bod pobl yn gallu newid gydag amser o ran y risg y maent yn ei greu. Felly, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i rannu gwaith adsefydlu troseddwyr yn y modd hwn. Mae gwybodaeth a rennir rhwng CRC a'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yn llawn anawsterau bellach, pan ddylem fod yn gwneud cyfathrebu rhwng gweithwyr proffesiynol mor hawdd â phosibl, yn enwedig pan fyddwn yn sôn am bobl beryglus. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd preifateiddio'r gwasanaeth prawf yn arwain at ganlyniadau gwaeth i droseddwyr, yn ogystal â chanlyniadau gwaeth i'r cymunedau y mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom eu gwasanaethu. Ysgrifennais at y Prif Weinidog ar dri achlysur gwahanol yn ystod y Cynulliad diwethaf ynglŷn â fy mhryderon ynghylch preifateiddio'r gwasanaeth prawf a'r niwed y byddai'n ei achosi. Roedd yn cytuno â llawer o'r pwyntiau a wneuthum. Roedd hi'n drueni er hynny nad oedd y Blaid Lafur yn San Steffan yn cytuno hefyd, ac yn gwneud rhywbeth effeithiol yn ei gylch. Rwy'n gobeithio y gallwn ddysgu o hyn. Hoffwn feddwl y gallwn gytuno mai'r lle gorau i gadw pwerau ar hyn a phopeth arall yw yn y mannau sydd agosaf at y bobl y mae'r penderfyniadau'n effeithio arnynt. Collwyd cyfle gwych i ddiogelu cadernid ac uniondeb y gwasanaeth prawf. Yn ddi-os, byddwn yn talu pris am hynny, ond ni ddylem ganiatáu i gyfleoedd o'r fath gael eu colli eto. |
Can I say at the outset that I certainly support the thrust of this motion and also regret that the draft Wales Bill does not provide for the devolution of policing and justice? The UK Tory Government funding cuts to policing in England led to significant reductions in the number of PCSOs there. So, we should congratulate the last Welsh Labour Government on agreeing to fund the employment of additional PCSOs here, despite the cuts enforced on Welsh police authorities by the Home Office. We also suffered the disastrous Westminster-imposed privatisation of the probation services; something that would not have happened here if responsibility for probation had been devolved to Wales. However, I hope, Llywydd, you'll forgive me if I want to move into one or two other areas of the Bill that I'd like to address, just to get the discussion going on one or two other things perhaps for further debate. The first is around votes for 16 to 17-year-olds, because I've met with a number of young people in my constituency, and I've been impressed by their level of engagement and interest in the political process and the work of the National Assembly. And I think it's vital that we here in the Assembly not only applaud that level of engagement, but also build on it and ensure that it's fostered and sustained. In the draft Wales Bill, there is the opportunity to take this degree of engagement to new heights, as the Bill gives us the potential to extend the voting rights in Welsh elections to those 16 and 17-year-olds. Some argue that 16 and 17-year-olds don't have the life experience to take on the responsibility of voting. I'm afraid I don't agree with that. For example, during this current EU referendum campaign, I've witnessed young people coming together to debate the issues. Their discussions have been constructive and have focused on the hopes and aspirations for the UK's future involvement with Europe, rather than descending into scaremongering and misinformation on issues such as immigration. It would be a massive plus for Wales if we were able to invest that degree of trust in our young people to allow them to participate fully in our democratic, political processes by extending the right to vote to them. As we know, there are also other areas of the Bill that we need clarification on as we go forward. Colleagues will know that, following the general election last year, the Tory Government in Westminster launched another attack on working people with the publication of the Trade Union Bill - a cynical and vindictive assault on trade unions that particularly targeted those unions like my own, Unison, who organise and represent workers in the public services. So, I want to thank the previous Welsh Government and particularly the former public services Minister for the robust stand taken in not only campaigning against that Bill, but also in making it clear that those parts of this Wales Bill relating to the Trade Union Bill relating to public services would be opposed here in Wales. Having won the dispute with the UK Government over the abolition of the Agricultural Wages Board, I'm confident that this current Assembly will take an equally robust stance when it considers its position on those parts of the Trade Union Bill relating to public services in Wales that still remain, despite the Tory Government's climbdown on many of its initial proposals. We have strong grounds to remain confident of our legal position in this area, and I hope, therefore, that the Wales Bill will ultimately put this issue to bed and will confirm that employment matters relating to public services in Wales are clearly not reserved and are under the absolute control of a devolved Welsh Government. | A gaf fi ddweud ar y cychwyn fy mod yn sicr yn cefnogi byrdwn y cynnig hwn a hefyd yn gresynu nad yw Bil drafft Cymru yn darparu ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder? Arweiniodd toriadau Llywodraeth Dorïaidd y DU i gyllid plismona yn Lloegr at ostyngiadau sylweddol yn niferoedd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yno. Felly, dylem longyfarch Llywodraeth Lafur ddiwethaf Cymru ar gytuno i ariannu'r cynllun i gyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol yma, er gwaethaf y toriadau a orfodir ar awdurdodau heddlu Cymru gan y Swyddfa Gartref. Hefyd, dioddefasom yn sgil camau trychinebus San Steffan i breifateiddio'r gwasanaethau prawf, rhywbeth na fyddai wedi digwydd yma pe bai cyfrifoldeb dros y gwasanaeth prawf wedi cael ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio, Lywydd, y maddeuwch i mi am symud at un neu ddau o feysydd eraill y Bil yr hoffwn eu trafod, er mwyn cychwyn y drafodaeth ar un neu ddau o bethau eraill efallai ar gyfer dadl bellach. Y cyntaf yw pleidleisiau i rai 16 i 17 oed, gan fy mod wedi cwrdd â nifer o bobl ifanc yn fy etholaeth, a gwnaeth eu lefel o ymwneud a diddordeb yn y broses wleidyddol a gwaith y Cynulliad Cenedlaethol argraff arnaf. Ac rwy'n meddwl ei bod yn hanfodol ein bod ni yma yn y Cynulliad nid yn unig yn canmol y lefel honno o ymwneud, ond hefyd yn adeiladu arni a sicrhau ei bod yn cael ei meithrin a'i chynnal. Yn y Bil Cymru drafft, mae cyfle i godi'r raddfa hon o ymwneud i uchelfannau newydd, gan fod y Bil yn rhoi potensial i ymestyn hawliau pleidleisio yn etholiadau Cymru i rai 16 a 17 oed. Mae rhai yn dadlau nad oes gan rai 16 a 17 oed brofiad bywyd i allu ysgwyddo'r cyfrifoldeb o bleidleisio. Rwy'n ofni nad wyf yn cytuno â hynny. Er enghraifft, yn ystod yr ymgyrch gyfredol ar gyfer refferendwm yr UE, rwyf wedi bod yn dyst i bobl ifanc yn dod at ei gilydd i drafod y materion. Mae eu trafodaethau wedi bod yn adeiladol ac wedi canolbwyntio ar obeithion a dyheadau ar gyfer ymwneud y DU ag Ewrop yn y dyfodol, yn hytrach na chodi bwganod a lledaenu camwybodaeth ar faterion fel mewnfudo. Byddai'n fantais enfawr i Gymru pe baem yn gallu buddsoddi'r raddfa honno o ymddiriedaeth yn ein pobl ifanc i'w galluogi i gymryd rhan lawn yn ein prosesau democrataidd gwleidyddol drwy ymestyn yr hawl i bleidleisio iddynt. Fel y gwyddom, mae yna hefyd feysydd eraill yn y Bil sy'n galw am eglurhad wrth i ni symud ymlaen. Yn dilyn yr etholiad cyffredinol y llynedd, bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod bod y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wedi lansio ymosodiad arall ar bobl sy'n gweithio drwy gyhoeddi'r Bil Undebau Llafur - ymosodiad sinigaidd a dialgar ar undebau llafur a oedd yn mynd ati'n arbennig i dargedu undebau fel fy un i, sef Unsain, sy'n trefnu ac yn cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, rwyf am ddiolch i Lywodraeth flaenorol Cymru ac yn arbennig y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus blaenorol am y safiad cadarn a ddangoswyd nid yn unig wrth ymgyrchu yn erbyn y Bil hwnnw, ond hefyd o ran ei gwneud yn glir y byddai'r rhannau o Fil Cymru sy'n ymwneud â'r Bil Undebau Llafur mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwrthwynebu yma yng Nghymru. Ar ôl ennill yr anghydfod gyda Llywodraeth y DU ynghylch diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, rwy'n hyderus y bydd y Cynulliad presennol yn arddel safbwynt yr un mor gadarn pan fydd yn ystyried ei safiad ar y rhannau o'r Bil Undebau Llafur mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy'n dal yno, er gwaethaf y camu'n ôl a welwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd ar nifer o'i chynigion cychwynnol. Mae gennym sail gref dros barhau'n hyderus ynglŷn â'n safbwynt cyfreithiol yn y maes hwn, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd Bil Cymru yn y pen draw yn cau'r drws ar y mater hwn ac yn cadarnhau ei bod yn amlwg nad yw materion cyflogaeth sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn faterion i'w cadw'n ôl a'u bod dan reolaeth lwyr Llywodraeth Cymru ddatganoledig. |
Thank you for giving way, First Minister. I hear what you say on the issue of devolution of income tax, but would you also agree with me that it's important that we have clarity on the mechanism that will be used to reduce the block grant subsequent to the devolution of income tax, so that Wales isn't actually short-changed in the long term? | Diolch i chi am ildio, Brif Weinidog. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch ar fater datganoli treth incwm, ond a fyddech hefyd yn cytuno ei bod yn bwysig i ni gael eglurder ar y mecanwaith a ddefnyddir i ostwng y grant bloc yn sgil datganoli treth incwm, fel na fydd Cymru ar ei cholled mewn gwirionedd yn y tymor hir? |
That is the fiscal framework. But there needs to be an agreement in place so that Wales doesn't lose out, if I can put it in those terms. At the moment, of course, the Bill as it's phrased could impose a duty on us without a proper framework being in place. I don't think that's right, and I'm sure Members will agree that there needs to be a framework put in place so that the people of Wales do not lose out. Let me deal with Mark Isherwood. Now, he made - [Interruption.]. No, no - he deserves a response, in fairness. The difficulties with the arguments he puts forward are these: most of the criminal law will be devolved. Most of it. So we'll face a situation, if he has his way, in 20 or 30 years' time, potentially, where the making of criminal law will be largely for this institution, but its enforcement would be carried out by the police, who'll be responsible solely to Whitehall. That doesn't make sense, to my mind. So, in other words, you have enforcement authorities who have no responsibility or accountability at all to the legislature that passes the laws in the first place. That can't be right, surely? I'm sure he sees that. He sees this as a separatist argument, well, I don't recall him arguing strongly that policing should not be devolved to Northern Ireland for that very reason. I don't recall him arguing strongly that policing should be removed from the competence of the Scottish Government and Parliament because it would lead, inevitably, to Scottish independence. I don't recall him demanding that the Mayor of London should have his powers removed in terms of the Metropolitan Police because of the undermining of the United Kingdom that that would inevitably cause. This is not a separatist argument. This is an argument that Wales should be treated in the same way as Scotland and Northern Ireland. [Inaudible] Of course. | Dyna'r fframwaith cyllidol. Ond mae angen cael cytundeb ar waith fel nad yw Cymru ar ei cholled, os caf ei roi yn y termau hynny. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, gallai'r Bil fel y mae wedi'i eirio osod dyletswydd arnom heb fframwaith priodol yn ei le. Nid wyf yn credu bod hynny'n iawn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod angen gosod fframwaith ar waith fel nad yw pobl Cymru ar eu colled. Gadewch i mi ymdrin â Mark Isherwood. Nawr, fe wnaeth - [Torri ar draws.]. Na, na - mae'n haeddu ymateb, a bod yn deg. Yr anawsterau gyda'r dadleuon y mae'n eu cyflwyno yw hyn: bydd y rhan fwyaf o'r gyfraith droseddol yn cael ei datganoli. Y rhan fwyaf ohoni. Felly byddwn yn wynebu sefyllfa, pe bai'n cael ei ffordd, ymhen 20 neu 30 mlynedd o bosibl, pan fydd y broses o lunio cyfraith droseddol yn fater ar gyfer y sefydliad hwn yn bennaf, ond byddai'r broses o'i gorfodi'n cael ei chyflawni gan yr heddlu, a fydd yn atebol i Whitehall yn unig. Nid yw hynny'n gwneud synnwyr, yn fy marn i. Felly, mewn geiriau eraill, mae gennych awdurdodau gorfodi heb unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd o gwbl i'r ddeddfwrfa sy'n pasio'r cyfreithiau yn y lle cyntaf. Ni all hynny fod yn iawn, does bosibl? Rwy'n siŵr ei fod yn gweld hynny. Mae'n gweld hon fel dadl ymwahanol, wel, nid wyf yn ei gofio'n dadlau'n gryf na ddylai plismona gael ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon am y rheswm hwnnw. Nid wyf yn cofio iddo ddadlau'n gryf y dylai plismona gael ei dynnu o gymhwysedd Llywodraeth a Senedd yr Alban gan y byddai'n arwain, yn anochel, at annibyniaeth i'r Alban. Nid wyf yn ei gofio'n mynnu y dylid diddymu pwerau Maer Llundain mewn perthynas â'r Heddlu Metropolitanaidd am y byddai hynny'n anochel yn peri i'r Deyrnas Unedig gael ei thanseilio. Nid yw hon yn ddadl ymwahanol. Mae hon yn ddadl y dylai Cymru gael ei thrin yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon. [Anghlywadwy] Wrth gwrs. |
I'm sorry if I gave you the impression I said it was a separatist argument. I didn't say it was a separatist argument. I said it was the motivation perhaps for the separatist party, as opposed to the motivation that you might have. | Mae'n ddrwg gennyf os rhoddais yr argraff fy mod wedi dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Nid oeddwn yn dweud ei bod yn ddadl ymwahanol. Dywedais efallai mai dyna'r cymhelliad i'r blaid ymwahanol, yn hytrach na'r hyn sy'n eich cymell chi o bosibl. |
Well, his party in Scotland are in favour of policing being dealt with in Scotland. So, are his party in Scotland then a bunch of separatists, using that argument? I don't think we can have those double standards any more when it comes to devolution for Wales. As I've said before, Wales should be treated along the same principles and the same lines as Scotland and indeed Northern Ireland. So, for me, the question is this: he makes the point that police and crime commissioners represent an element of devolution, and there's an element of truth in what he says. But, for me, it's a matter for this institution as to whether there should be police and crime commissioners or not. In fact, we had no choice; they were imposed on us by Parliament in Westminster, when in fact the decision could have been that of the people of Wales. They may have decided that they wanted them. But that decision was not placed before the people of Wales. I remind him as well, of course, that all those candidates who stood in the police and crime commissioner elections who did not want policing devolved all lost, including of course his own police and crime commissioner in Mid and West Wales who not only did not want policing devolved, but wanted the fire service un-devolved and lost by some margin. That should tell him where the people of Wales are on this issue. The wider issue of the justice system has been raised. I know that the leader of the opposition has strong views on the probation service, as somebody who worked in the probation service, and I agree with much of what she has said. She will know that the draft Bill that we put forward looked at the devolution of the justice system, but a few years hence. The reason why, for me, that's sensible is that police devolution can happen fairly easily. That's just simply taking over a structure that already exists. When it comes to the justice system, particularly the prisons, Wales has never had an integrated prison system, unlike Scotland and Northern Ireland. It would have to be created and that takes time. So, more work needs to be done in terms of how the justice system could be shaped in the future. But I share her concerns about the probation service. I share her concerns that justice is no longer available to people. I worked in a different part of the system to her, and I remember days when people did get representation. They don't now. The courts are full of litigants in person now. The law has to be explained to them. That means, of course, that quite often in the family courts, you have people who want to ensure that they're able to see their children, their children might be in care, they are litigants in person and they're up against lawyers from local authorities. That didn't happen in the past because legal aid was available. That's not fair. We have the criminal courts full of people who have no representation; the law has to be explained to them and they're up against prosecutors who are lawyers. That's not fair. It also means that the courts now spend a huge amount of time explaining the law to people and that slows the courts down. So, in fact, if you save money, apparently, by cutting legal aid, it just means more cost in the court system. What's happened with legal aid has been scandalous. Representation has gone. The justice system has given the appearance that Wales is some kind of addendum to the justice system. There are far fewer courts and justice is far more difficult to access now. There are arguments, to me, to look at the devolution of the justice system, although I have to say that, from my perspective, this is something that would take some time. The separate jurisdiction would mean a separate courts system. I think it's an elegant solution to have a formally distinct jurisdiction, but share the court system. But, not share the court system in terms of not having any say in it and not share a court system that's administered entirely from Whitehall, but a genuinely shared court system that can provide a system of justice to the people of Wales. Well, we know that there's some debate to go in terms of this Bill. There are many areas where there will be agreement. There are some areas where, clearly, there's going to be little agreement. Does the Bill provide an opportunity to take Wales forward in terms of further devolved powers? The answer is 'yes', but the sad thing is that it can't be a sustainable settlement because of the resistance to things like the jurisdiction, the resistance to things like policing. For me, it would be better to take the opportunity now to have a Bill that can last the test of time rather then find ourselves, as I suspect we will, back in five years' time looking at the issues that this Bill in its current form was unable to address. I think that's a shame, but I do look forward to the debates both within this Parliament and the UK Parliament in order to make sure that we get the right powers to deliver for the people of Wales. | Wel, mae ei blaid ef yn yr Alban o blaid gweld plismona'n cael ei drin yn yr Alban. Felly, a yw ei blaid yn yr Alban yn griw o ymwahanwyr am eu bod yn defnyddio'r ddadl honno felly? Nid wyf yn meddwl y gallwn gael safonau dwbl mwyach o ran datganoli i Gymru. Fel y dywedais o'r blaen, dylai Cymru gael ei thrin yn ôl yr un egwyddorion a'r un llinellau â'r Alban a Gogledd Iwerddon yn wir. Felly, i mi, y cwestiwn yw hwn: mae'n gwneud y pwynt fod comisiynwyr yr heddlu a throseddu yn cynrychioli elfen o ddatganoli, ac mae yna elfen o wirionedd yn yr hyn a ddywed. Ond i mi, mater i'r sefydliad hwn yw a ddylid cael comisiynwyr yr heddlu a throseddu ai peidio. Yn wir, ni chawsom ddewis; cawsant eu gorfodi arnom gan y Senedd yn San Steffan, pan allai'r penderfyniad fod wedi bod yn un ar gyfer pobl Cymru mewn gwirionedd. Efallai y byddent wedi penderfynu eu bod eu heisiau. Ond ni chafodd y penderfyniad hwnnw ei roi gerbron pobl Cymru. Rwy'n ei atgoffa hefyd, wrth gwrs, fod yr holl ymgeiswyr yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu a throseddu nad oedd eisiau gweld plismona'n cael ei ddatganoli i gyd wedi colli, gan gynnwys, wrth gwrs, ei gomisiynydd heddlu a throseddu ei hun yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd eisiau datganoli plismona, ond a oedd hefyd eisiau i'r gwasanaeth tân fod heb ei ddatganoli, ac fe gollodd o gryn dipyn. Dylai hynny ddweud wrtho lle mae pobl Cymru'n sefyll ar y mater hwn. Crybwyllwyd mater ehangach y system gyfiawnder. Rwy'n gwybod bod gan arweinydd yr wrthblaid farn gref ar y gwasanaeth prawf, fel rhywun sydd wedi gweithio yn y gwasanaeth prawf, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae wedi'i ddweud. Fe fydd yn gwybod bod y Bil drafft a gyflwynwyd gennym yn edrych ar ddatganoli'r system gyfiawnder, ond ymhen ychydig o flynyddoedd. Y rheswm pam y mae hynny'n synhwyrol i mi yw y gall datganoli'r heddlu ddigwydd yn weddol hawdd. Mae'n fater syml o fabwysiadu strwythur sy'n bodoli eisoes. O ran y system gyfiawnder, yn enwedig y carchardai, ni fu gan Gymru system garcharau integredig erioed, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai'n rhaid iddi gael ei chreu ac mae hynny'n cymryd amser. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith ar sut y gallai'r system gyfiawnder gael ei ffurfio yn y dyfodol. Ond rwy'n rhannu ei phryderon ynglŷn â'r gwasanaeth prawf. Rwy'n rhannu ei phryderon nad yw cyfiawnder ar gael i bobl mwyach. Bûm yn gweithio mewn rhan wahanol o'r system iddi hi, ac rwy'n cofio dyddiau pan oedd pobl yn cael cynrychiolaeth. Nid yw hynny'n wir yn awr. Mae'r llysoedd yn llawn o ymgyfreithwyr drostynt eu hunain yn awr. Rhaid egluro'r gyfraith iddynt. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, fod gennych bobl yn eithaf aml yn y llysoedd teulu sydd am sicrhau eu bod yn gallu gweld eu plant - mae'n bosibl fod eu plant mewn gofal - maent yn ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ac maent yn cystadlu yn erbyn cyfreithwyr awdurdodau lleol. Nid oedd hynny'n digwydd yn y gorffennol oherwydd bod cymorth cyfreithiol ar gael. Nid yw hynny'n deg. Mae gennym lysoedd troseddol yn llawn o bobl heb gynrychiolaeth; rhaid egluro'r gyfraith iddynt ac maent yn cystadlu yn erbyn erlynwyr sy'n gyfreithwyr. Nid yw hynny'n deg. Mae hefyd yn golygu bod y llysoedd bellach yn treulio llawer iawn o amser yn egluro'r gyfraith i bobl ac mae hynny'n arafu gwaith y llysoedd. Felly, mewn gwirionedd, os ydych yn arbed arian, mae'n ymddangos, drwy dorri cymorth cyfreithiol, nid yw ond yn golygu mwy o gost yn y system llysoedd. Mae'r hyn a digwyddodd gyda chymorth cyfreithiol wedi bod yn warthus. Mae cynrychiolaeth wedi diflannu. Mae'r system gyfiawnder wedi rhoi'r argraff fod Cymru yn rhyw fath o atodiad i'r system gyfiawnder. Ceir llawer llai o lysoedd ac mae'n llawer anoddach sicrhau mynediad at gyfiawnder bellach. Mae yna ddadleuon, i mi, dros edrych ar ddatganoli'r system gyfiawnder, er bod yn rhaid i mi ddweud, o fy safbwynt i, byddai'n rhywbeth a fyddai'n cymryd peth amser. Byddai'r awdurdodaeth ar wahân yn golygu system llysoedd ar wahân. Rwy'n credu ei fod yn ateb deniadol i gael awdurdodaeth benodol yn ffurfiol, ond rhannu'r system llysoedd. Ond nid rhannu'r system llysoedd o ran peidio â chael unrhyw lais ynddi ac nid rhannu system llysoedd sy'n cael ei gweinyddu'n gyfan gwbl o Whitehall, ond system llysoedd wedi'i rhannu go iawn a all ddarparu system gyfiawnder i bobl Cymru. Wel, gwyddom fod yna rywfaint o drafodaeth i ddod ar y Bil hwn. Mae yna nifer o feysydd lle bydd cytundeb. Mae rhai meysydd lle na fydd fawr o gytundeb, yn amlwg. A yw'r Bil yn rhoi cyfle i symud Cymru ymlaen o ran datganoli pwerau pellach? Yr ateb yw 'ydy', ond y peth trist yw na all fod yn setliad cynaliadwy oherwydd y gwrthwynebiad i bethau fel awdurdodaeth, y gwrthwynebiad i bethau fel plismona. I mi, byddai'n well manteisio ar y cyfle yn awr i gael Bil sy'n gallu gwrthsefyll prawf amser yn hytrach na gweld ein hunain, fel rwy'n amau y byddwn, yn ôl ymhen pum mlynedd yn edrych ar y materion roedd y Bil hwn ar ei ffurf bresennol yn methu â mynd i'r afael â hwy. Rwy'n credu bod hynny'n drueni, ond rwy'n edrych ymlaen at y trafodaethau yn y Senedd hon a Senedd y DU, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y pwerau cywir i allu cyflawni dros bobl Cymru. |
I call on Steffan Lewis to reply to the debate. | Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i'r ddadl. |
I thank all Members for their contributions today. I thank David Melding for his kind comments, although I have to inform him that my quoting of Robert Peel was purely for historical colour and not out of any sympathy for his party. But, he raises an important point about the need for a level of consistency across the constitution of the United Kingdom, and he is absolutely right to say that whilst we in Plaid Cymru support the establishment of a Welsh state, for as long as Wales is part of the United Kingdom we want it to work as best as possible for the people of this country. Sian Gwenllian raised the issue of access to justice. A basic foundation of democracy is having access to justice, and she linked that, of course, to the right to access to justice in both our official languages. On Mick Antoniw's contribution, I welcome very much his optimism and I agree wholeheartedly that the logic behind the list of reservations from the United Kingdom Government needs some explaining. And we agree, of course, with the explanation he gave for the practical implementation of a distinct jurisdiction. Dai Lloyd raised the crucial point that, in order to truly address the issue of reoffending, which is still at a high level in Wales, it makes total sense to bring all agencies that are responsible together, as part of a coherent devolved Welsh public service. And, of course, the leader of the opposition addressed the scandal of the privatisation of the probation service, and she spoke about the artificial barriers that exist between different agencies that deal with different offenders, and gave us a sober warning about the future of post-privatisation probation. Jeremy Miles makes the valid point that a growing body of Welsh law requires a pragmatic updating of our legal system, and the challenge that he raised of the common law system of setting a precedent in one part of the jurisdiction covering all of it. Dawn Bowden broadened the debate on the future of devolution to include extending the electoral franchise to include 16 and 17-year olds. Of course, that is something that I and the Plaid Cymru group wholeheartedly support. I welcome very much the support from the First Minister for Plaid Cymru's motion today, although it's a pity that it seems that Labour's failure to vote with Plaid Cymru in Westminster this week was down to a technicality more than anything else. But he was right, of course, to highlight the inconsistencies in the current Wales Bill: there are issues that are inextricably linked where some are devolved or set to be devolved and others are still to be reserved. Again, that goes back to the point that was being made earlier about the logic behind the United Kingdom Government's approach to, particularly, its list of reservations, although we hope that will be addressed. The justice impact assessments are a tool that will apply, it seems, only to Wales and not to any other devolved administration in the United Kingdom, and the First Minister was quite right to raise doubts about that. I welcome very much the reaffirmation he gave today that he supports Wales being treated as an equal nation within the United Kingdom, and for a devolution settlement to reflect that. And then Mark Isherwood. The irony of being called a separatist by an anti-EU isolationist was a particular highlight. [Laughter.] But I will say I am at a loss to understand why he's opposed to bringing Welsh public services closer together in order to improve outcomes for people and for better accountability, when as the First Minister pointed out, that is something that is accepted by his party in Scotland. [Interruption.] I won't be taking an intervention. Plaid Cymru looks forward now to working with others to deliver a strengthening of Welsh nationhood that, in turn, leads to tangible improvements to the day-to-day lives of our fellow citizens. And in closing, Llywydd, I wish to pay tribute to police officers today for their work in keeping our communities safe and, indeed, to all members of our emergency services. Quite often in these debates their endeavours are overlooked, but I wish to place on record Plaid Cymru's gratitude to them and I'm sure the whole Assembly would join me in doing so. | Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Diolch i David Melding am ei sylwadau caredig, er bod yn rhaid i mi ddweud wrtho fy mod wedi dyfynnu Robert Peel er mwyn cynnwys naws hanesyddol yn unig ac nid o unrhyw gydymdeimlad at ei blaid. Ond mae'n codi pwynt pwysig ynghylch yr angen am lefel o gysondeb ar draws cyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ac mae'n hollol iawn i ddweud, er ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi sefydlu gwladwriaeth Gymreig, cyhyd ag y bo Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig rydym am iddi weithio cystal ag y gall dros bobl y wlad hon. Soniodd Sian Gwenllian am fynediad at gyfiawnder. Sylfaen waelodol democratiaeth yw cael mynediad at gyfiawnder, ac roedd hi'n cysylltu hynny, wrth gwrs, â'r hawl i gael mynediad at gyfiawnder yn ein dwy iaith swyddogol. O ran cyfraniad Mick Antoniw, croesawaf yn fawr ei optimistiaeth ac rwy'n cytuno'n llwyr fod y rhesymeg sydd wrth wraidd rhestr Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gymalau cadw angen peth eglurhad. Ac rydym yn cytuno, wrth gwrs, â'r eglurhad a roddodd o weithrediad ymarferol awdurdodaeth benodol. Crybwyllodd Dai Lloyd y pwynt hanfodol hwn: er mwyn mynd i'r afael o ddifrif â phroblem aildroseddu, sy'n dal ar lefel uchel yng Nghymru, mae'n gwneud synnwyr perffaith i ddod â'r holl asiantaethau sy'n gyfrifol at ei gilydd yn rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymreig cydlynus wedi'i ddatganoli. Ac wrth gwrs, aeth arweinydd yr wrthblaid i'r afael â sgandal preifateiddio'r gwasanaeth prawf, a siaradodd am y rhwystrau artiffisial sy'n bodoli rhwng gwahanol asiantaethau sy'n ymdrin â gwahanol droseddwyr, a rhoddodd rybudd sobreiddiol i ni am ddyfodol y gwasanaeth prawf ar ôl datganoli. Gwnaeth Jeremy Miles y pwynt dilys fod corff cynyddol o gyfraith Cymru yn galw am ddiweddaru ein system gyfreithiol mewn modd pragmataidd, a'r her a gododd ynghylch system cyfraith gyffredin o osod cynsail mewn un rhan o'r awdurdodaeth a fyddai'n cynnwys pob rhan ohoni. Ehangodd Dawn Bowden y ddadl ar ddyfodol datganoli i gynnwys ymestyn yr etholfraint etholiadol i gynnwys rhai 16 a 17 oed. Wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth rwyf fi a grŵp Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth gan y Prif Weinidog i gynnig Plaid Cymru heddiw, er ei bod yn drueni ei bod yn ymddangos bod methiant Llafur i bleidleisio gyda Phlaid Cymru yn San Steffan yr wythnos hon yn seiliedig ar fater technegol yn fwy na dim byd arall. Ond roedd yn iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at yr anghysondebau yn y Bil Cymru cyfredol: mae yna faterion sydd wedi'u cysylltu'n annatod lle mae rhai wedi'u datganoli neu'n mynd i gael eu datganoli ac eraill yn dal i fod wedi'u cadw'n ôl. Unwaith eto, mae hynny'n mynd yn ôl at y pwynt a wnaed yn gynharach am y rhesymeg sydd wrth wraidd ymagwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig tuag at ei rhestr o gymalau cadw, yn arbennig, er ein bod yn gobeithio y bydd hynny'n cael sylw. Mae'r asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder yn offeryn a fydd yn berthnasol, mae'n ymddangos, i Gymru yn unig ac nid i unrhyw un o weinyddiaethau datganoledig eraill y Deyrnas Unedig, ac roedd y Prif Weinidog yn llygad ei le yn codi amheuon ynglŷn â hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y cadarnhad a roddodd heddiw ei fod yn gefnogol i weld Cymru yn cael ei thrin fel cenedl gyfartal o fewn y Deyrnas Unedig, ac i setliad datganoli sy'n adlewyrchu hynny. Ac yna Mark Isherwood. Roedd yr eironi o gael eich galw yn ymwahanwr gan ymynyswr gwrth-UE yn uchafbwynt arbennig. [Chwerthin.] Ond fe ddywedaf fy mod yn methu â deall pam y mae'n gwrthwynebu dod â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn nes at ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau i bobl ac er mwyn sicrhau mwy o atebolrwydd, er bod hynny, fel y nododd y Prif Weinidog, yn rhywbeth sy'n cael ei dderbyn gan ei blaid yn yr Alban. [Torri ar draws.] Ni fyddaf yn cymryd ymyriad. Mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen yn awr at weithio gydag eraill i ddarparu cenedligrwydd Cymreig cryfach sydd, yn ei dro, yn arwain at welliannau sylweddol i fywydau ein cyd-ddinasyddion o ddydd i ddydd. Ac i gloi, Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i swyddogion yr heddlu heddiw am eu gwaith yn cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn wir, i holl aelodau ein gwasanaethau brys. Yn aml iawn yn y dadleuon hyn, mae eu hymdrechion yn cael eu hanwybyddu, ond hoffwn gofnodi diolch Plaid Cymru iddynt ac rwy'n siŵr y byddai'r Cynulliad cyfan yn ymuno â mi i wneud hynny. |
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting under this item until voting time. | Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. |
We'll move on to voting time. It's been agreed that voting time will take place after the last item of business. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time. The first vote will be on the debate by individual Members and the motion tabled in the name of Eluned Morgan, Dawn Bowden and Dafydd Elis-Thomas. I open the vote. Close the vote. In favour 44, against 9. Therefore the motion is agreed. | Symudwn ni ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Fe fydd y bleidlais gyntaf ar y ddadl gan Aelodau unigol a'r cynnig yn enw Eluned Morgan, Dawn Bowden a Dafydd Elis-Thomas. Rwy'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, yn erbyn 9. Felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn. |
Vote now on the Welsh Conservative debate and I call for a vote on the motion tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 45, against 10. Therefore the motion is agreed. | Pleidlais nawr ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ac rwy'n galw ar bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, yn erbyn 10. Felly derbyniwyd y cynnig. |
I move therefore to the vote on the Plaid Cymru debate on the Wales Bill. I call for a vote on the motion tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. In favour 39, against 16. Therefore the motion is agreed. | Symud felly i'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar Fesur Cymru. Galwaf am bleidlais ar y cynnig yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, yn erbyn 16. Felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn. |
We move now therefore to the short debate, and the short debate today is in the name of Llyr Gruffydd. And I call on Llyr Gruffydd to speak on the topic he has chosen. | Rwy'n symud yn awr felly at y ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw yn enw Llyr Gruffydd. Rwy'n galw ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. |
Well, thank you very much, Llywydd. It's a privilege, if truth be told, to introduce the first short debate of the fifth Assembly. I have agreed to give a minute of my time to Lee Waters and Jenny Rathbone in this debate. Now, 'Delivering a Smarter Energy Future for Wales - Energy Policy Priorities for the New Welsh Government' is the title that I have chosen, and that refers, of course, to this, namely a report from the Environment and Sustainability Committee of the previous Assembly. It's a report that was published as a result of the committee's inquiry, which outlined a vision that received cross-party support on the future of energy in Wales, which actually delivers on our ethical and legal responsibilities in terms of climate change, but also achieves the economic potential that would come from using our natural resources responsibly and sustainably and in a way that generates wealth for the people of Wales, and, indeed, creates all sorts of other opportunities in terms of tackling fuel poverty, empowering local communities to be more proactive in deciding their own energy futures, and all sorts of other positives that would come as a result of that. Now, the report was published towards the end of the last Assembly, as I said, with the debate on the report taking place on the last day of the fourth Assembly, here in this Chamber. The intention of the report was not to look back, not to point fingers or cast any blame, but to be constructive, to be practical, and to offer a vision and to pose a challenge to the next Government, of course, by outlining the opportunities, the priorities and that sense of urgency that exists in terms of meeting the challenge that we are facing. There was clear consensus in support of the committee's recommendations within the committee itself, of course, and the motion to note the report was passed unanimously in this Chamber. Now, naturally, in responding to the debate, we heard very little from the responsible Minister at that time, and that was fair enough, of course, because the message was clear that it was for the next Welsh Government to tackle the agenda highlighted and outlined in the report. That's why I have chosen this issue today for my short debate. I don't want this report to be forgotten; I don't want to lose the momentum, or the consensus that underpinned this report. I want to see the new Government understand that this is one of the major priorities that we have in economic, environmental and social terms, one of the greatest challenges facing us here in Wales. And this is the first opportunity, therefore, for the new Government, and the new Secretary - and I congratulate her on her appointment, of course - to respond to the recommendations made in the report and to tell us how she intends to meet the challenges and achieve the opportunities that we have and what her vision and her Government's vision is in terms of delivering that smarter energy future for Wales. Now, clearly, I can't list everything contained within the report in my short debate today, but I do want to draw attention briefly to some of the main points. Now, one of the strongest recommendations emerging from the committee inquiry is the need for Wales to set out a co-ordinated and strategic vision for its energy policy in the future, and that includes clear targets in order to engender growth, and it also includes clarity in terms of the kind of energy mix that would come together to create the provision that we require, and, of course, how we're going to ensure a central role for local energy in all of this. The report makes it clear that Wales has to set annual targets to reduce energy demand and to help people to use energy more efficiently. The report asks that we set targets for increasing renewable energy production in Wales, and, in the context of the need to reduce carbon emissions by at least 80 per cent by 2050, then the report states that Wales should set a target date for energy self-sufficiency. That, of course, is entirely possible. Germany, for example, has committed by 2050 to ensure that 80 per cent of its energy comes from renewable sources, and, more than that, by that same year, that it cuts its use of energy in buildings by 80 per cent and creates millions of jobs and adds to its GDP in so doing. It's a transformational programme that shows the way forward for many of us. It's also worth looking at a nation such as Uruguay, which has a population similar to Wales, and how they have succeeded in ensuring, in less than 10 years, that 95 per cent of their electricity is generated from renewable energy, reducing their carbon footprint, of course, but also reducing people's bills simultaneously. They have demonstrated that, with vision and determined leadership, it is possible to make real and swift progress towards a low-carbon economy. Now, we need to make some difficult decisions, of course, on the balance between major and small energy investments, and native and foreign investment, and we need to be confident enough to prioritise local energy generation systems for the benefit of our communities. Wales, by the way, doesn't need to wait for more powers from Westminster before achieving most of the vision set out in this report; we can make a start on much of this work now. For example, reducing the demand for energy is the most important aspect of switching to a smarter energy future. Households in the UK spend 80 per cent of their energy costs in heating rooms and water in homes. We therefore need to ensure that homes are as efficient as possible in terms of energy usage. Now, under the EU's energy performance and building directive, every building, of course, has to be close to zero emissions by the end of 2020. Indeed, we have to construct public buildings to this standard by the end of 2018. It was a disappointment for many of us that the previous Government - and I've made this point on a number of occasions, I'm aware of that - missed an opportunity when building regulations were amended just a few years ago. Although they went out to consultation on the need for all homes to actually be 25 per cent or 40 per cent more efficient than the 2010 standard, they went for just 8 per cent ultimately. This must be changed as a matter of urgency; the current system, of course, locks energy inefficiency into the system for the lifetime of those new homes that are built. Enhancing energy efficiency in our current housing stock is also crucial, of course, by retrofitting energy efficiency measures. Whilst programmes such as Arbed and Nest make contributions to this task, they are small contributions and they are nowhere near enough, given the scale of the challenge facing us and the level of investment that's truly required. That's why, of course, there was a commitment in the Plaid Cymru manifesto to invest billions of pounds over the next two decades to meet that challenge through a national infrastructure commission for Wales. And I do hope that the negotiations that have taken place between ourselves and the Government will ultimately facilitate that. Now, Wales needs to raise its game, there's no doubt about that, and I'm looking forward to hearing what the new Government's plans are to achieve that. Now, across England, local authorities are also establishing not-for-profit energy supply companies. In Wales, we have a not-for-profit utility company, which is Dŵr Cymru, and we must build on that success in the field of energy. The committee heard how some local authorities in England, including Bristol and Nottingham specifically, can target fuel poverty by supplying energy to homes at a reduced cost in their areas. In Nottingham, Robin Hood Energy offers a tariff for the citizens of Nottingham alone, and also can set lower rates in areas where there is an enhanced level of fuel poverty. Now, Bridgend county council does provide local heating networks, and Wrexham council has the largest solar energy scheme in the UK, but we must go further. We need to establish a not-for-profit umbrella energy company. Now, under that, local authorities or even local communities could supply locally. The ultimate aim, of course, would be for such a company to get all of its energy from renewable sources in Wales. Now, we can't discuss energy policy in Wales without mentioning the grid, of course, and I have said on a number of occasions in this Assembly that the time has now come for us to move away from the hub-and-spoke model of energy production in large power stations and then transfer across the nation through an ineffective, costly grid. We need to move to a model of smarter local grids, with the energy produced closer to where it is used. Networks that are more efficient offer more resilience for the energy system, which is less damaging to our landscape and cheaper in terms of maintenance. Now, a lack of capacity on the current grid in Wales is also a significant barrier in terms of local energy production. We therefore need the national grid, the distribution network operators - the DNOs - and Ofgem to play their part in responding to the progress that we want to see in a distributed energy generation system. And, in that regard, the report makes it clear that Wales must have a far stronger and meaningful voice on those specific bodies. Now, the committee started their work at the start of the fourth Assembly by looking at energy and the planning system, and this was a very important consideration in the report that I am focusing on today. I won't expand on that, but just highlight the fact that the planning system must be far more effective in terms of facilitating local energy and community energy projects, particularly in that there should be more priority given to that sector - extending permitted development, for example, so that these projects can proceed. We need to simplify the process, too, in terms of making planning applications and getting consent for projects of this sort, and also ensure that NRW, to be fair, has the necessary capacity to deliver their responsibility effectively and in a timely manner in this area. One of the most important ways of supporting new energy generation is by enhancing security in the market, and we know that recent changes to the energy generation tariffs policy and other assistance for renewable energy has caused great uncertainty for investors, and that has chiefly emerged from the UK Government, of course. And London does have many of these powers. But there are entirely practical ways in which the Welsh Government can contribute towards making a difference. There are opportunities to provide land that is currently owned by the Government for energy projects. There is scope for us to take full advantage of all possible sources of funding. Now, this includes a number of European sources, and one would hope, following the events of next week, that we will be able to access European sources such as the European regional fund, such as Horizon 2020, the rural development programme and so on and so forth. There is perhaps scope for a lending scheme by the Welsh Government, and we know of the need for hand-holding services to assist local and community projects. There are opportunities in terms of training and skills and there are a number of other opportunities that are mentioned in the report. The energy agenda, of course, is substantial. It's a broad area that touches upon a number of policy areas and many portfolios within the new Government's Cabinet. The one thing that is clear, however, is that the opportunity for Wales in getting this right is exceptionally exciting: economic, environmental and social benefits that are extremely significant. The challenge is set in this report and in the recommendations made. The question now is: how will the new Government and the new Secretary respond in order to achieve this by actually delivering a smarter energy future for Wales? | Wel, diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n fraint a dweud y gwir cael cyflwyno dadl fer gyntaf y pumed Cynulliad. Rwyf wedi cytuno i Lee Waters a Jenny Rathbone gael cyfran o'r amser sydd wedi'i glustnodi ar gyfer fy nghyfraniad i i'r ddadl fer yma. Nawr, 'Cyflawni Dyfodol Ynni Craffach i Gymru - Blaenoriaethau Polisi Ynni ar gyfer Llywodraeth Newydd Cymru' yw'r teitl rwyf wedi'i ddewis, teitl wrth gwrs sy'n cyfeirio at hwn, sef adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad diwethaf. Adroddiad a gyhoeddwyd yn sgil ymchwiliad y pwyllgor a aeth ati i amlinellu gweledigaeth a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol ar ddyfodol ynni i Gymru sy'n gwireddu dyletswyddau moesol a chyfreithiol, o safbwynt newid yn yr hinsawdd, ond hefyd gwireddu y potensial economaidd sy'n dod o ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ni yn gyfrifol ac yn gynaliadwy ac mewn modd sy'n creu cyfoeth i bobl Cymru, ac sy'n mynd ati i greu llu o gyfleodd eraill o ran taclo tlodi tanwydd, ymbweru cymunedau lleol i fod yn fwy rhagweithiol wrth bennu eu dyfodol ynni nhw eu hunain, a phob math o agweddau positif eraill sy'n dod yn sgil hynny. Nawr, mi gyhoeddwyd yr adroddiad tuag at ddiwedd y Cynulliad diwethaf, fel roeddwn i'n ei ddweud, gyda'r ddadl ar yr adroddiad yn digwydd ar ddiwrnod olaf y pedwerydd Cynulliad fan hyn yn y Siambr. Bwriad yr adroddiad oedd nid edrych yn ôl, nid ffeindio bai, yn sicr nid pwyntio bys mewn unrhyw ffordd, ond bod yn adeiladol, yn ymarferol, cynnig gweledigaeth a chyflwyno her i Lywodraeth nesaf Cymru ar y pryd, trwy amlinellu y cyfleoedd, y blaenoriaethu a rhyw deimlad o frys hefyd - 'a sense of urgency' - sydd yna o ran cwrdd â'r her sydd o'n blaenau ni. Roedd yna gonsensws clir o gefnogaeth i argymhellion y pwyllgor yn y pwyllgor ei hunain, wrth gwrs, ac fe basiwyd y cynnig i nodi'r adroddiad yn unfrydol fan hyn yn y Siambr. Yn naturiol ddigon, wrth ymateb i'r adroddiad, bach iawn cawsom gan y Gweinidog cyfrifol ar y pryd, ac roedd hynny'n ddigon teg oherwydd, wrth gwrs, roedd y neges yn glir mai mater i Lywodraeth Cymru nesaf fyddai mynd i'r afael â'r agenda sy'n cael ei amlinellu yn yr adroddiad. A dyna pam, felly, rydw i wedi dewis y pwnc yma heddiw ar gyfer fy nadl fer i. Nid wyf am i'r adroddiad yma fynd yn angof; nid wyf eisiau colli'r momentwm, yn sicr, a'r consensws y tu ôl i'r adroddiad yma ychwaith. Rydw i am weld y Llywodraeth newydd, yn deall, wrth gwrs, mai hwn yw un o'r blaenoriaethau pennaf sydd gennym ni o safbwynt economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, un o'r heriau pwysicaf sy'n ein hwynebu ni fan hyn yng Nghymru. A dyma'r cyfle cyntaf, felly, i'r Llywodraeth newydd a'r Ysgrifennydd newydd - ac rydw i'n ei llongyfarch hi ar ei phenodiad, wrth gwrs - i ymateb i argymhellion yr adroddiad ar sut y mae hi'n bwriadu mynd ati i gwrdd â'r heriau a gwireddu'r cyfleoedd yma sydd gennym ni a beth yw ei gweledigaeth hi a'i Llywodraeth o ran cyflawni'r dyfodol ynni craffach yna i Gymru. Yn amlwg, ni fedraf restru popeth sydd yn yr adroddiad yn fy nadl fer heddiw, ond rydw i am dynnu sylw, yn fyr, at rai o'r prif bwyntiau. Un o'r argymhellion cryfaf sy'n dod o'r ymchwiliad, wrth gwrs, gan y pwyllgor, yw'r angen i Gymru bennu gweledigaeth gydlynol a strategol glir ar gyfer ei pholisi ynni yn y dyfodol, a hynny'n cynnwys targedau clir er mwyn sbarduno cynnydd, a'i bod hefyd yn cynnwys eglurder o ran y math o gymysgedd o ffynonellau ynni a fydd yn dod at ei gilydd i greu'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni, ac, wrth gwrs, sut rŷm ni'n mynd i sicrhau rôl ganolog i ynni lleol yn hyn i gyd. Mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i Gymru osod targedau blynyddol i leihau'r galw am ynni a helpu pobl i'w ddefnyddio'n fwy effeithlon. Mae'r adroddiad yn gofyn am osod targedau i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac, yng nghyd-destun yr angen i leihau allyriadau carbon o leiaf 80 y cant erbyn 2050, mae'r adroddiad yn dweud y dylai Cymru bennu dyddiad targed ar gyfer hunangynhaliaeth ynni hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwbl bosib. Mae'r Almaen, er enghraifft, wedi ymrwymo, erbyn 2050, i sicrhau bod 80 y cant o'i ynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac, yn fwy na hynny, wrth gwrs, erbyn yr un flwyddyn, ei bod hi'n torri defnydd ynni mewn adeiladau 80 y cant ac yn creu miliynau o swyddi ac yn ychwanegu at ei GDP. Mae'n rhaglen drawsnewidiol sydd, wrth gwrs, yn dangos y ffordd ymlaen i nifer ohonom ni. Mae'n werth edrych hefyd ar sut mae rhywle fel Uruguay, sydd â phoblogaeth debyg i Gymru, wedi llwyddo i sicrhau, mewn llai na 10 mlynedd, bod 95 y cant o'i trydan yn dod o ynni adnewyddadwy gan leihau, wrth gwrs, ei hôl-troed carbon, ond hefyd lleihau biliau i'w phobl ar yr un pryd. Maen nhw wedi dangos, gyda gweledigaeth ac arweinyddiaeth benderfynol, bod modd gwneud cynnydd sylweddol a sydyn tuag at economi carbon isel. Mae angen gwneud penderfyniadau anodd, wrth gwrs, am y cydbwysedd rhwng buddsoddiad ynni mawr a bach, cynhenid a thramor, ac mi ddylai'r weledigaeth ar gyfer ynni craffach fod yn ddigon hyderus i flaenoriaethu datblygu systemau cyflenwi ynni lleol er budd ein cymunedau ni. Nid oes angen, gyda llaw, i Gymru aros i gael rhagor o bwerau gan San Steffan cyn cyflawni'r rhan fwyaf o'r weledigaeth sydd yn yr adroddiad yma; mi allwn ni ddechrau ar lawer o'r gwaith yma nawr. Er enghraifft, lleihau'r galw am ynni yw'r rhan bwysicaf o drosglwyddo i ddyfodol ynni craffach yn fy marn i. Mae aelwydydd yn y Deyrnas Unedig yn gwario 80 y cant o'u costau ynni yn gwresogi ystafelloedd a dŵr yn y cartref. Mae angen, felly, i ni wneud yn siŵr bod cartrefi mor effeithlon ag sy'n bosib o ran ynni. Nawr, o dan gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i bob adeilad, wrth gwrs, bod yn agos at sero o ran allyriadau erbyn diwedd 2020. Yn wir, mae'n rhaid codi adeiladau cyhoeddus i'r safon hon erbyn diwedd 2018. Roedd hi'n siom i nifer ohonom ni fod y Llywodraeth ddiwethaf - ac rwyf i wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith, rwy'n gwybod - wedi methu cyfle pan ddiwygiwyd y rheoliadau adeiladu ychydig flynyddoedd yn ôl. Er mynd allan i ymgynghori ar yr angen i bob tŷ gyrraedd safon perfformiad ynni sydd yn 25 y cant neu 40 y cant yn fwy effeithlon na safon 2010, mi aethpwyd yn y diwedd, wrth gwrs, am safon o ddim ond 8 y cant. Mae'n rhaid diwygio hyn ar frys; mae'r drefn bresennol, wrth gwrs, nawr, yn cloi aneffeithlonrwydd ynni i mewn i'r system am oes y tai newydd sy'n cael eu hadeiladu. Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc tai presennol ni hefyd, wrth gwrs, yn allweddol, trwy ôl-ffitio mesurau effeithlonrwydd ynni. Tra bod cynlluniau fel Arbed a Nyth yn gwneud cyfraniadau i'r dasg yma, cyfraniadau bach ydyn nhw, wrth gwrs, ac nid ydyn nhw unlle'n ddigon agos i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni a lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn gwirionedd. Dyna pam, wrth gwrs, roedd yna ymrwymiad ym maniffesto Plaid Cymru i fuddsoddi biliynau o bunnau dros y ddwy ddegawd nesaf i gwrdd â'r her yna trwy gomisiwn isadeiledd cenedlaethol i Gymru. Gobeithio y bydd y trafodaethau sydd wedi bod rhyngom ni a'r Llywodraeth yn hwyluso, yn y pen draw, hynny i ddigwydd. Nawr, mae angen i Gymru godi ei gêm, yn sicr, yn hyn o beth, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed beth yw cynlluniau'r Llywodraeth newydd er mwyn gwneud hynny. Ar draws Lloegr, mae awdurdodau lleol yn sefydlu hefyd, wrth gwrs, gwmnïau cyflenwi ynni dielw. Yng Nghymru, mae gennym ni brofiad o gwmni cyfleustodau dielw llwyddiannus iawn, sef Dŵr Cymru, ac mae'n bryd inni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y maes ynni. Mi glywodd y pwyllgor sut y mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr, gan gynnwys Bryste a Nottingham yn benodol, yn gallu targedu tlodi tanwydd drwy gyflenwi ynni i aelwydydd yn eu hardaloedd ar gyfradd ostyngol. Yn Nottingham, mae Robin Hood Energy yn cynnig tariff ar gyfer trigolion dinas Nottingham yn unig a hefyd yn gallu gosod cyfraddau is mewn ardaloedd lle mae yna lawer o dlodi tanwydd. Nawr, mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, wrth gwrs, yn darparu rhwydweithiau gwres lleol ac mae cyngor Wrecsam wedi cyflawni'r cynllun ynni solar mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ond mae angen mynd ymhellach. Mae angen sefydlu cwmni gwasanaeth ynni ymbarél dielw. O dan yr ymbarél hon wedyn gall awdurdodau lleol neu gymunedau, hyd yn oed, gynnig cyflenwad ynni yn lleol a'r nod yn y pen draw, wrth gwrs, yw i gwmni o'r fath allu cael ei holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru. Nawr, allwn ni ddim sôn am bolisi ynni yng Nghymru heb sôn am y grid, ac rydw i wedi dweud droeon yn y Cynulliad yma bod yr amser wedi dod inni symud oddi wrth y model 'hub and spoke' o gynhyrchu ynni mewn pwerdai mawr ac yna'i drosglwyddo fe ar hyd a lled y wlad drwy grid hynafol, aneffeithlon a chostus. Mae angen inni symud i fodel o gridiau lleol, clyfrach, gyda'r ynni'n cael ei gynhyrchu yn nes at le mae'n cael ei ddefnyddio, rhwydweithiau sy'n fwy effeithlon yn cynnig mwy o gydnerthedd neu 'resilience' i'r gyfundrefn ynni, sy'n llai hagr ar y dirwedd, wrth gwrs, ac yn rhatach hefyd o ran cost cynnal a chadw. Nawr, mae diffyg capasiti ar y grid presennol yng Nghymru yn rhwystr sylweddol hefyd o safbwynt cynhyrchu ynni lleol. Mae angen, felly, i'r grid cenedlaethol, gweithredwyr y rhwydwaith dosbarthu - y DNOs - ac Ofgem chwarae eu rhan wrth ymateb i'r cynnydd ŷm ni am ei weld mewn cynhyrchu ynni gwasgaredig. Yn hynny o beth, wrth gwrs, mae'r adroddiad hefyd yn ei gwneud hi'n glir bod angen i Gymru gael llais llawer mwy cryf a llawer mwy ystyrlon ar y cyrff penodol yma. Nawr, fe gychwynnodd y pwyllgor amgylcheddol ei waith ar ddechrau'r pedwerydd Cynulliad drwy edrych ar ynni a'r gyfundrefn cynllunio, ac roedd hynny yn ystyriaeth bwysig iawn, wrth gwrs, yn yr adroddiad rydw i'n canolbwyntio arno heddiw. Ni wnaf i ymhelaethu, dim ond ategu bod angen i'r gyfundrefn gynllunio fod yn llawer mwy effeithiol o safbwynt hwyluso projectau ynni lleol a chymunedol, yn arbennig bod yna fwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r sector yna - ymestyn hawliau datblygu a ganiateir, er enghraifft, er mwyn i'r projectau yma fynd yn eu blaen. Mae angen symleiddio'r broses, hefyd, o safbwynt ymgeisio ar gyfer cynllunio a chael caniatâd ar gyfer projectau o'r fath, a hefyd sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, er tegwch, y capasiti angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau yn y maes yma yn effeithiol ac yn amserol. Un o'r ffyrdd pwysicaf o gefnogi ynni newydd, wrth gwrs, yw drwy gynyddu sicrwydd yn y farchnad ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac rŷm ni'n gwybod bod newidiadau diweddar i'r polisïau ar dariffau cyflenwi trydan a chymorth arall ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi achosi ansicrwydd mawr i fuddsoddwyr, yn bennaf, wrth gwrs, o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. A Llundain sydd yn dal nifer o'r pwerau hyn. Ond mae yna ffyrdd gwbl ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu i wneud gwahaniaeth. Mae yna gyfleoedd i ddarparu tir sy'n berchen gan y Llywodraeth ar gyfer projectau ynni. Mae yna le inni fanteisio i'r eithaf, wrth gwrs, ar bob ffynhonnell posib o gyllid. Nawr, mae hyn yn cynnwys nifer o ffynonellau Ewropeaidd, ac mae rhywun yn gobeithio, wrth gwrs, yn dilyn yr wythnos nesaf, y bydd modd inni gael mynediad at ffynonellau megis cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, megis cyllid Horizon 2020, y rhaglenni datblygu gwledig ac yn y blaen. Mae yna le i gynllun benthyciadau, efallai, yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac rŷm ni'n gwybod am yr angen i ddarparu gwasanaethau dal llaw i gynorthwyo projectau lleol a phrojectau cymunedol. Mae yna gyfleoedd o safbwynt hyfforddi a sgiliau ac mae yna nifer fawr o gyfleoedd eraill sydd yn cael eu crybwyll yn yr adroddiad. Mae'r agenda ynni yn amlwg yn un sylweddol. Mae'n faes eang sydd yn cyffwrdd ag ystod o feysydd polisi a phortffolios llawer i Ysgrifennydd Cabinet yn y Llywodraeth newydd, wrth gwrs. Yr un peth sy'n glir, serch hynny: mae'r cyfleoedd i Gymru o gael hyn yn iawn yn eithriadol o gyffrous - buddion a manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol arwyddocaol iawn, iawn. Mae'r her wedi ei osod fan hyn, yn yr adroddiad yma a'i argymhellion. Y cwestiwn nawr yw: sut y mae'r Llywodraeth newydd a'r Ysgrifennydd newydd am ymateb er mwyn gwireddu hyn drwy fynd ati i gyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru? |
First, I need to declare an interest as an investor in Awel, which is a social enterprise delivering onshore wind energy in the Amman valley. I just want to record that last month was the first month when we actually delivered more solar energy across the UK than coal energy, and therefore we are at a crossroads now. All the energy companies are beginning to wake up to that they need to change their models, and they are beginning to invest in renewables. The oil companies are also starting to invest in renewables. I'm really concerned that Wales could not seize the opportunity and get left behind rather than ensuring that we have locally-owned renewable energy. Obviously, tidal energy is for the big boys and girls - that is huge capital investment - but we could have locally-generated energy schemes across all our communities if only we can seize the moment. We need to support local communities to see this as an advantage, and we also do need to change our relationship with the grid so that we don't have the energy distributors killing local community projects dead by demanding millions of pounds to connect them to the grid. We have to be able to sell that energy locally rather than sending it off somewhere to the national grid. I also agree with Llyr Gruffydd that we must have another look at Part L of the housing regulations. There's no point in building new housing that we then need to retrofit in order to make those efficiency gains that we need to do in all our existing properties anyway. We need to be grasping the opportunities that have come from the fact that new players are really interested in this and there is a market for everything that Wales could produce with all the wonderful, abundant resources we have. | Yn gyntaf, mae angen i mi ddatgan buddiant fel buddsoddwr yn Awel, sef menter gymdeithasol sy'n darparu ynni gwynt ar y tir yn nyffryn Aman. Rwyf am gofnodi mai'r mis diwethaf oedd y mis cyntaf mewn gwirionedd i ni gyflenwi mwy o ynni solar ar draws y DU nag ynni glo, ac felly rydym ar groesffordd yn awr. Mae pob un o'r cwmnïau ynni yn dechrau deffro i'r ffaith fod angen iddynt newid eu modelau, ac maent yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Mae'r cwmnïau olew hefyd yn dechrau buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Rwy'n bryderus iawn na allai Cymru achub ar y cyfle a'i bod yn cael ei gadael ar ôl yn hytrach na sicrhau bod gennym ynni adnewyddadwy mewn dwylo lleol. Yn amlwg, mae ynni'r llanw ar gyfer y bechgyn a'r merched mawr - mae hwnnw'n fuddsoddiad cyfalaf enfawr - ond gallem gael cynlluniau ar gyfer cynhyrchu ynni'n lleol ar draws ein holl gymunedau os gallwn achub y blaen ar hyn. Mae angen i ni gynorthwyo cymunedau lleol i weld hyn fel mantais, ac mae angen i ni hefyd newid ein perthynas â'r grid fel nad yw'r dosbarthwyr ynni'n lladd prosiectau cymunedol lleol drwy fynnu miliynau o bunnoedd i'w cysylltu â'r grid. Mae'n rhaid i ni allu gwerthu'r ynni yn lleol yn hytrach na'i gludo i ffwrdd i'r grid cenedlaethol yn rhywle. Cytunaf hefyd â Llyr Gruffydd fod yn rhaid i ni edrych eto ar Ran L o'r Rheoliadau tai. Nid oes pwynt adeiladu tai newydd y bydd yn rhaid i ni eu hôl-osod er mwyn sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd sydd angen i ni eu gwneud yn ein holl eiddo ar hyn o bryd beth bynnag. Mae angen i ni fachu ar gyfleoedd yn sgil y ffaith fod gan gyrff newydd ddiddordeb gwirioneddol yn hyn ac mae yna farchnad i bopeth y gallai Cymru ei gynhyrchu gyda'r holl adnoddau gwych a niferus sydd gennym. |
I call on the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs. | Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths. |
Diolch, Lywydd. I'd like to thank Llyr Gruffydd for bringing this short debate forward. As you said, it's the first one of this fifth Assembly, and I think it's a very important topic to choose for the first one. The Environment and Sustainability Committee's report on smarter energy is a very important contribution, I think, to the energy policy debate, and I do look forward to responding to it formally in due course. So, I want to assure not just Llyr but all Members that it won't be forgotten, because it's been one of the first things I've read, actually, since coming into the portfolio on the energy side of it. The Welsh Government shares much of the committee's vision for the future, and I think you're absolutely right, Llyr - it is constructive and it does bring forward very practical solutions, which I think we need to consider very carefully. I think we also need to look at the recent publication of the Institute for Welsh Affairs report at the same time. Advice is also coming forward to me from the task and finish groups that were established by the Minister for Economy, Science and Transport during the last Assembly term. I believe we should all strive to bring about a Wales where low-carbon energy is a key driver in a vibrant economy, the energy sector continues to grow strongly and create good quality jobs, and communities drive forward the energy agenda and benefit directly from the generation of local energy. Energy underpins our whole way of life in today's society, and I think the point that Lee Waters made about you have to take the community with you - you have to get them to understand their use of energy, and how we can take that forward. I think throughout the inquiry the committee did receive a great deal of evidence on how the transition to a smarter energy system in Wales could be taken forward, and again, I think this is a really valuable contribution to this agenda. | Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno'r ddadl fer hon. Fel y dywedoch, dyma'r gyntaf yn y pumed Cynulliad hwn, ac rwy'n credu ei fod yn bwnc pwysig iawn i'w ddewis ar gyfer y ddadl gyntaf. Mae adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ynni craffach yn gyfraniad pwysig iawn, rwy'n credu, i'r ddadl ar y polisi ynni, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb iddo'n ffurfiol maes o law. Felly, rwyf am sicrhau Llyr a phawb o'r Aelodau na fydd yn cael ei anghofio, oherwydd mae wedi bod yn un o'r pethau cyntaf i mi ei ddarllen, mewn gwirionedd, ers cael y portffolio sy'n cynnwys ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o weledigaeth y pwyllgor ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n meddwl eich bod yn hollol gywir, Llyr - mae'n adeiladol ac mae'n cyflwyno atebion ymarferol iawn, a chredaf fod angen i ni ei ystyried yn ofalus iawn. Rwy'n meddwl bod angen i ni edrych hefyd ar gyhoeddiad diweddar adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig ar yr un pryd. Rwy'n cael cyngor hefyd gan y grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ystod y tymor Cynulliad diwethaf. Rwy'n credu y dylem oll ymdrechu i greu Cymru lle mae ynni carbon isel yn sbardun allweddol mewn economi fywiog, lle mae'r sector ynni yn parhau i dyfu'n gryf ac yn creu swyddi o ansawdd da, a lle mae cymunedau yn ysgogi'r agenda ynni ac yn elwa'n uniongyrchol o gynhyrchu ynni'n lleol. Mae ynni'n sail i'n holl ffordd o fyw yng nghymdeithas heddiw, ac rwy'n meddwl bod y pwynt a wnaeth Lee Waters ynglŷn â'r angen i fynd â'r gymuned gyda chi - mae'n rhaid i chi eu cael i ddeall eu defnydd o ynni, a sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Trwy gydol yr ymchwiliad rwy'n meddwl bod y pwyllgor wedi cael llawer iawn o dystiolaeth ar sut y gellid symud ymlaen gyda'r newid i system ynni craffach yng Nghymru, ac unwaith eto, rwy'n credu bod hyn yn gyfraniad gwerthfawr iawn i'r agenda hon. |
Yes, Nick. | Gwnaf, Nick. |
Thank you for giving way. I just heard what you said in terms of local communities receiving the benefits from local renewable energy schemes. Of course, that's what they should get, and that's what we want them to get, but there have been some occasions in my constituency where those community benefits haven't been realised, and companies have tried not to give the full level of benefit they should have. So, can you look at ways that that can be addressed? | Diolch i chi am ildio. Clywais yr hyn a ddywedoch o ran cymunedau lleol yn cael manteision o gynlluniau ynni adnewyddadwy lleol. Wrth gwrs, dyna beth y dylent ei gael, a dyna beth rydym am iddynt ei gael, ond cafwyd rhai achlysuron yn fy etholaeth pan na chafodd y manteision cymunedol hynny eu gwireddu, ac mae cwmnïau wedi ceisio peidio â rhoi'r lefel lawn o fanteision y dylent eu cael. Felly, a wnewch chi edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â hynny? |
I'll come to that bit in a moment. I had a meeting this morning, actually, with Carl Sargeant, who's obviously now responsible for housing, where we discussed that very issue. But I will refer to that later on. I think the energy system is already being transformed, and this is clear from the low-carbon generation report that we published last November. Wales had 2,280 MW of renewable capacity installed at the end of 2014, and that was up from 1,101 MW in 2012; 14,380 projects were delivered across Wales, from the 576 MW Gwynt y Môr offshore windfarm to nearly 11,000 solar photovoltaic arrays. We know that developments have continued in the 18 months since then, and I think there are opportunities for the future, and that includes the £12 billion Wylfa Newydd project in north Wales and, of course, the Swansea bay tidal lagoon. We need to ensure we've got a very flexible and diverse energy mix here in Wales, and as we move forwards towards a low-carbon economy, our energy priorities need to support low-carbon jobs and skills, ensuring that energy developments benefit people in Wales and that the regulatory system protects their interests. In conjunction with the committee's report, I see a very important and increasing role for local generation and supply based on renewable sources, with smart storage and local grid management, and again, over the last five years, I think we have now established a legislative and policy framework that will enable that change. We provided leadership through the groundbreaking set of legislation that uses the levers that we have. The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 is designed to increase the well-being of Wales by ensuring that all of our actions provide social, economic, cultural and environmental benefits, and we've got to continue to drive forward action on energy, providing multiple benefits and helping achieve the well-being goals. This will mean taking forward the statutory climate change target and carbon budgeting required by the Environment (Wales) Act 2016. Local public service boards will have an important role in translating targets into local action, and low-carbon energy generation and energy efficiency will be core components in delivering them. Indeed, energy will need to be a fundamental consideration within LDPs. Local authorities have been reminded of this requirement to plan positively for renewable energy, and we will continue to support them in doing this. The changes to the consenting regimes promised through the UK Energy Act 2016 and the Wales Bill, as well as the implementation of the developments of national significance regime, provide the opportunity for decisions on significant renewable energy projects to be taken for the benefit of the people of Wales. We've published an energy efficiency strategy and a local energy statement that set out a clear direction for Wales. However, energy policy and market regulation are not devolved, so we continue to work with the UK Government, with the grid operators and Ofgem to secure the transformation in regulation and in the markets that Wales needs. For new buildings, improving energy performance through building standards is important in achieving our well-being aims. I just mentioned to Nick Ramsay that I met this morning with Carl Sargeant, within whose portfolio house building now is, and we talked about how we need to build houses for the future. We've got to raise standards in a cost-effective way that recognises the economic importance of house building in Wales, and we're going to continue to work with the industry to ensure we balance the need to reduce energy demand in new housing with the need to meet housing demand. I don't think we can just carry on building the same sort of houses expecting low-carbon energy not to be part of them, because clearly as energy costs rise, the houses that we have been building are not going to be what people want going forward. | Dof at hynny mewn eiliad. Cefais gyfarfod y bore yma, mewn gwirionedd, gyda Carl Sargeant, sydd bellach yn gyfrifol am dai, wrth gwrs, pan fuom yn trafod yr union fater hwnnw. Ond byddaf yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Rwy'n meddwl bod y system ynni eisoes yn cael ei thrawsnewid, ac mae hyn yn amlwg o'r adroddiad ar gynhyrchu ynni carbon isel a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd diwethaf. Roedd gan Gymru 2,280 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy wedi'i osod ar ddiwedd 2014, ac roedd wedi codi o 1,101 MW yn 2012; cyflawnwyd 14,380 o brosiectau ar draws Cymru, o fferm wynt ar y môr 576 MW Gwynt y Môr i bron 11,000 o araeau ffotofoltaidd solar. Gwyddom fod datblygiadau wedi parhau yn ystod y 18 mis ers hynny, ac rwy'n meddwl bod yna gyfleoedd ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny'n cynnwys prosiect £12 biliwn Wylfa Newydd yng ngogledd Cymru ac wrth gwrs, y morlyn llanw ym mae Abertawe. Mae angen i ni sicrhau bod gennym gymysgedd ynni hyblyg ac amrywiol iawn yma yng Nghymru, ac wrth i ni symud ymlaen tuag at economi carbon isel, mae angen i'n blaenoriaethau ynni gefnogi swyddi a sgiliau carbon isel, gan sicrhau bod datblygiadau ynni o fudd i bobl Cymru a bod y system reoleiddio yn gwarchod eu buddiannau. Ar y cyd ag adroddiad y pwyllgor, rwy'n gweld rôl bwysig a chynyddol i gynhyrchu a chyflenwi'n lleol yn seiliedig ar ffynonellau adnewyddadwy, gyda dulliau storio mwy clyfar a dulliau o reoli'r grid yn lleol, ac unwaith eto, dros y pum mlynedd diwethaf, rwy'n meddwl ein bod bellach wedi sefydlu fframwaith i bolisïau a deddfwriaeth a fydd yn galluogi'r newid hwnnw. Rydym wedi darparu arweinyddiaeth drwy'r set arloesol o ddeddfau sy'n defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym. Cynlluniwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gynyddu lles Cymru drwy sicrhau bod pob un o'n camau gweithredu yn darparu manteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol, ac mae'n rhaid i ni barhau i hyrwyddo camau gweithredu ar ynni, gan ddarparu manteision niferus a helpu i gyflawni'r nodau llesiant. Bydd hyn yn golygu symud y targed statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon sy'n ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei flaen. Bydd gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus lleol rôl bwysig yn trosi targedau'n gamau gweithredu lleol, a bydd cynhyrchu ynni carbon isel ac arbed ynni yn elfennau craidd yn y broses o'u cyrraedd. Yn wir, bydd angen i ynni fod yn ystyriaeth sylfaenol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Atgoffwyd awdurdodau lleol am y gofyniad hwn i gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy, a byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i wneud hyn. Mae'r newidiadau i'r cyfundrefnau cydsynio a addawyd drwy Ddeddf Ynni y DU 2016 a Bil Cymru, yn ogystal â gweithredu gweithdrefn ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, yn rhoi cyfle i wneud penderfyniadau am brosiectau ynni adnewyddadwy arwyddocaol er budd pobl Cymru. Rydym wedi cyhoeddi strategaeth arbed ynni a datganiad ar ynni lleol sy'n gosod cyfeiriad clir ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r polisi ynni a rheoleiddio'r farchnad yn faterion sydd wedi'u datganoli, felly rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, gyda gweithredwyr y grid ac Ofgem i sicrhau'r newid yn y rheoliadau ac yn y marchnadoedd sydd ei angen ar Gymru. Ar gyfer adeiladau newydd, mae gwella perfformiad ynni drwy safonau adeiladu yn bwysig o ran cyflawni ein hamcanion llesiant. Soniais wrth Nick Ramsay fy mod wedi cyfarfod â Carl Sargeant bore yma. Ei bortffolio ef sy'n cynnwys adeiladu tai bellach, a buom yn siarad ynglŷn â'r modd y mae angen i ni adeiladu tai ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i ni godi safonau mewn modd costeffeithiol sy'n cydnabod pwysigrwydd economaidd adeiladu tai yng Nghymru, ac rydym yn mynd i barhau i weithio gyda'r diwydiant i sicrhau ein bod yn cydbwyso'r angen i leihau'r galw am ynni mewn tai newydd gyda'r angen i ateb y galw am dai. Nid wyf yn meddwl y gallwn barhau i adeiladu yr un math o dai a disgwyl na fydd ynni carbon isel yn rhan ohonynt, oherwydd yn amlwg, wrth i gostau ynni godi, nid y tai rydym wedi bod yn eu hadeiladu fydd yr hyn y bydd pobl eu heisiau yn y dyfodol. |
Can you just hang on? I think also we need to streamline planning, and Jenny Rathbone and Lee Waters both referred to community energy benefits. And someone - I can't remember who it was - referred to land. And again, Welsh Government has got land and we're looking to what we can to do, maybe, to have a pilot to see what sort of houses we can do. I'll give way. | A wnewch chi aros eiliad? Rwy'n credu hefyd fod angen i ni symleiddio cynllunio, a chyfeiriodd Jenny Rathbone a Lee Waters at fanteision ynni cymunedol. A chyfeiriodd rhywun - ni allaf gofio pwy - at dir. Ac unwaith eto, mae gan Lywodraeth Cymru dir ac rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, efallai, i gynnal cynllun peilot i weld pa fath o dai y gallwn eu creu. Fe ildiaf. |
Thank you. On the economic model of persuading house builders to build to a higher standard, we really have a significant challenge on our hands of exploring a different economic model to allow this to happen, because currently the private sector volume house builders simply won't play ball with anything innovative that adds to the cost of the volume that they build. So, what thinking can you do with your ministerial colleagues to explore different ways of financing housing? | Diolch. Ar y model economaidd o berswadio adeiladwyr tai i adeiladu tai o safon uwch, mae gennym her sylweddol yn ein hwynebu o ran archwilio model economaidd gwahanol i ganiatáu i hyn ddigwydd, oherwydd ar hyn o bryd nid yw adeiladwyr tai mawr yn y sector preifat yn mynd i gydymffurfio ag unrhyw beth arloesol sy'n ychwanegu at gost y tai niferus y maent yn eu hadeiladu. Felly, pa ystyriaethau sydd gennych chi a'ch cyd-Weinidogion ar gyfer archwilio ffyrdd gwahanol o gyllido tai? |
That's exactly what we were discussing; we've got five big developers in Wales who perhaps would not be persuaded to build the sort of houses that we are talking about. So, what I did with the Cabinet Secretary for Communities and Children this morning, and officials, was talk about how we can perhaps identify a local authority, maybe, that we could do some sort of pilot with. There would be a lot of risk involved - we accept that - but I think if we are going to be serious about doing this, that's the sort of thing that we have to do. Going back to community benefits, I have a farm in my own constituency in Wrexham that has an anaerobic digester, and going back to community benefits, it was quite difficult for the farm owners who built the anaerobic digester to engage with the community. I mean, this was several years ago now, and I think going forward it probably is much easier now. We've also developed a public sector pipeline of energy efficiency, renewable energy and heat projects with a capital value of over £400 million. To deliver this opportunity, we've developed the invest-to-save green growth finance package, which has committed £13 million of repayable funding to public sector green growth projects this financial year, building on more than £20 million previously committed. This funding will be recycled into further projects as it's repaid. We've also set up our Re:fit Cymru service to deliver retrofit that guarantees energy savings for public bodies. This programme alone is expected to deliver £30 million of energy efficiency and renewable energy measures in the next three years. We will need to ensure that power networks are fit to meet the changes we expect to occur over the coming decades. We need to see more local ownership of generation assets, and more investment in the updating of the energy infrastructure to enable us to balance local supply and demand more effectively. And we do need to be very clear about the challenges that local energy would bring, including the capacity and resource needed to manage the system effectively, and the need for significant changes in the way the industry is currently regulated. However, this will have many benefits, creating decent jobs and keeping costs down through local ownership. Energy storage should be particularly valuable technology in deploying more renewables, particularly in areas of Wales that have significant grid constraints, and it's likely to play an increasingly important role in the energy system. Storage does form part of our approach to innovation at a local level, and our smart living programme is supporting a number of innovative projects that will provide learning, as well as putting us on the map in the world of smarter energy use. The Welsh Government local energy service is also supporting innovative local projects. The service helps communities to make well-informed decisions about the right energy options for them, based on their needs and the available resources. We do already provide a higher level of grant support than in Scotland or England for the earliest, riskiest stages of project development, and our recirculating loan fund is more flexible than Scotland's CARES programme. The fund can provide loans for both development and capital construction, and we currently have £4.5 million available for investment. I think we all accept that if we are to transform the way we think about energy, we do need to work with a range of partners to share the need for, and benefits from, the transition. As I said at the outset, the committee's report I really do think will be important in assisting me and the rest of Government in bringing about this transition, and I very much look forward to working with a wide range of people, including all Members, in taking forward this important policy area within my portfolio. Diolch. | Dyna'r union beth roeddem yn ei drafod; mae gennym bum datblygwr mawr yng Nghymru na fyddent efallai yn cael eu perswadio i adeiladu'r math o dai rydym yn sôn amdanynt. Felly, yr hyn a wneuthum gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y bore yma, a swyddogion, oedd siarad ynglŷn â sut y gallwn glustnodi awdurdod lleol o bosibl i ni allu cynnal rhyw fath o gynllun peilot gyda hwy. Byddai llawer o risg ynghlwm wrth hynny - rydym yn derbyn hynny - ond os ydym yn mynd i fod o ddifrif ynglŷn â gwneud hyn, rwy'n meddwl mai dyna'r math o beth sy'n rhaid i ni ei wneud. I fynd yn ôl at fanteision cymunedol, mae gennyf fferm yn fy etholaeth yn Wrecsam sy'n cynnwys treulydd anaerobig, ac i ddychwelyd at y manteision cymunedol, roedd perchnogion fferm a adeiladodd y treulydd anaerobig yn ei chael yn eithaf anodd ymgysylltu â'r gymuned. Hynny yw, roedd hyn nifer o flynyddoedd yn ôl bellach, ac rwy'n credu ei bod yn llawer haws yn awr, mae'n debyg, wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wedi datblygu pibell sector cyhoeddus ar gyfer arbed ynni, ynni adnewyddadwy a phrosiectau gwres gyda gwerth cyfalaf o dros £400 miliwn. Er mwyn gwireddu'r cyfle hwn, rydym wedi datblygu pecyn cyllid twf gwyrdd buddsoddi i arbed, sydd wedi ymrwymo £13 miliwn o gyllid ad-daladwy ar gyfer prosiectau twf gwyrdd yn y sector cyhoeddus y flwyddyn ariannol hon, gan adeiladu ar fwy na £20 miliwn a ymrwymwyd yn flaenorol. Bydd y cyllid hwn yn cael ei ailgylchu i mewn i brosiectau pellach wrth iddo gael ei ad-dalu. Rydym hefyd wedi sefydlu ein gwasanaeth Re:fit Cymru i ddarparu ôl-osodiadau sy'n gwarantu arbedion ynni i gyrff cyhoeddus. Disgwylir i'r rhaglen hon ddarparu £30 miliwn o fesurau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd angen i ni sicrhau bod rhwydweithiau pŵer yn addas ar gyfer y newidiadau rydym yn disgwyl iddynt ddigwydd dros y degawdau nesaf. Mae angen i ni weld mwy o asedau cynhyrchu mewn dwylo lleol, a mwy o fuddsoddi mewn diweddaru'r seilwaith ynni er mwyn ein galluogi i sicrhau cydbwysedd mwy effeithiol rhwng cyflenwad a galw lleol. Ac mae angen i ni fod yn glir iawn ynghylch yr heriau y byddai ynni lleol yn eu creu, gan gynnwys y capasiti a'r adnoddau sydd eu hangen i reoli'r system yn effeithiol, a'r angen am newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae'r diwydiant yn cael ei reoleiddio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd nifer o fanteision i hyn, a bydd yn creu swyddi da ac yn cadw costau i lawr drwy berchnogaeth leol. Dylai storio ynni fod yn dechnoleg arbennig o werthfawr ar gyfer defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn ardaloedd o Gymru sydd â chyfyngiadau grid sylweddol, ac mae'n debygol o chwarae rhan gynyddol bwysig yn y system ynni. Mae storio'n rhan o'n dull o arloesi ar lefel leol, ac mae ein rhaglen byw yn glyfar yn cefnogi nifer o brosiectau arloesol a fydd yn darparu dysgu, yn ogystal â'n rhoi ar y map mewn byd sy'n defnyddio ynni'n fwy clyfar. Mae gwasanaeth ynni lleol Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi prosiectau lleol arloesol. Mae'r gwasanaeth yn helpu cymunedau i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'r dewisiadau ynni cywir ar eu cyfer hwy, yn seiliedig ar eu hanghenion a'r adnoddau sydd ar gael. Rydym eisoes yn darparu lefel uwch o gymorth grant nag yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer y camau cynharaf o ddatblygu prosiectau, y camau sy'n cynnwys fwyaf o risg, ac mae ein cronfa benthyciadau cylchdroi yn fwy hyblyg na rhaglen CARES yr Alban. Gall y gronfa ddarparu benthyciadau ar gyfer datblygu a chyfalaf adeiladu, ac ar hyn o bryd mae gennym £4.5 miliwn ar gael ar gyfer buddsoddi. Os ydym am drawsnewid y ffordd rydym yn meddwl am ynni, rwy'n meddwl ein bod i gyd yn derbyn bod angen i ni weithio gydag ystod o bartneriaid i rannu'r angen am newid, a'r manteision a ddaw ohono. Fel y dywedais ar y dechrau, rwy'n meddwl o ddifrif y bydd adroddiad y pwyllgor yn bwysig i fy nghynorthwyo i a gweddill y Llywodraeth wrth fynd ati i gyflawni'r newid hwn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ystod eang o bobl, gan gynnwys yr holl Aelodau, ar ddatblygu'r maes polisi pwysig hwn yn fy mhortffolio. Diolch. |
I thank the Cabinet Secretary. That brings today's proceedings to a close. | Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Daw hynny â thrafodion y dydd i ben. |
On behalf of the National Assembly for Wales, I want to express our heartfelt sympathy to the family, friends and colleagues of Jo Cox MP, who died so tragically last week. Jo Cox was killed in the course of her public duty, faithfully serving her constituents as a democratically elected Member of Parliament. The shock and sadness of this loss has been felt greatly right across the United Kingdom, and the many who attended a vigil in her memory outside this Senedd building are testament to that. Her loss has been felt deeply as a personal tragedy for those who knew and loved her, but also as an attack on our democratic life. We will continue to uphold the values that Jo stood for - compassion, tolerance and respect - in her honour. Before I ask for statements from party leaders, and as we stand to honour Jo Cox's life, let us do so by recalling the words of Ifor ap Glyn's poem read in this Chamber only two weeks ago today: 'we give thanks there are no bullet holes / in the pillars of this house, / just a cloud of witnesses / who'll maintain us in all manner of beliefs. Let us therefore remember Jo Cox, Member of Parliament. | Ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Jo Cox, Aelod Seneddol, a fu farw mewn modd mor greulon yr wythnos diwethaf. Cafodd Jo Cox ei lladd wrth gyflawni ei dyletswyddau cyhoeddus - wrth wasanaethu ei hetholwyr yn ffyddlon fel Aelod Seneddol a gafodd ei hethol yn ddemocrataidd. Rydym wedi teimlo sioc a thristwch y golled hon ledled y Deyrnas Unedig, ac roedd y niferoedd a ddaeth i'r wylnos a gynhaliwyd y tu allan i adeilad y Senedd yma er cof amdani yn dyst i hynny. Teimlir y golled hon yn fawr. Mae'n drasiedi bersonol i'r rhai a oedd yn ei hadnabod ac yn ei charu, ond mae hefyd yn ymosodiad ar ein bywyd democrataidd. Byddwn yn parhau i gynnal y gwerthoedd yr oedd Jo yn eu harddel - tosturi, goddefgarwch a pharch - er cof amdani. Cyn i mi ofyn am ddatganiadau gan arweinyddion y pleidiau, ac wrth i ni sefyll i anrhydeddu bywyd Jo Cox, gadewch i ni wneud hynny drwy gofio geiriau Ifor ap Glyn, yn y gerdd a ddarllenwyd yn y Siambr hon ond bythefnos yn ôl, 'diolchwn nad oes tyllau bwledi /ym mhileri'r tŷ hwn, / dim ond cwmwl tystion / wrth ein cefn ym mhob plwraliaeth barn.' Dewch i ni gofio, felly, Jo Cox, Aelod Seneddol. |
Thank you. I now invite party leaders, and others, to say a few words, starting with the First Minister, Carwyn Jones. | Diolch. Rwyf yn awr yn gwahodd arweinwyr y pleidiau, ac eraill, i ddweud ychydig o eiriau, gan ddechrau gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones. |
Diolch, Lywydd. Jo Cox, or Jo Leadbeater, or little Jo, as many in Wales will have remembered her, led a full and brilliant life. She was known to many of us in Welsh Labour when she worked for Glenys Kinnock, and developed her passion for international development and social justice there. There is little doubt that the attack on Jo Cox was political in nature. It was an unforgivable and brutal attack, not just on a female politician, going about her work, but against everything she stood for. But it's not the politics we should reflect on today, it's the person. She had very many friends in Wales, and everyone knew her political career was going to be something special, not because of her ambition, but because of her fierce determination, her decency, and her absolute fundamental desire to get things done. That meant offering the hand of friendship across the political divide. Tomorrow would have been Jo's forty-second birthday, and there'll be events across the world, where people will repeat that phrase that has already become a mantra, 'we are far more united and have far more in commonthan the things that divide us.' Llywydd, Jo's life was cut short, but it was a life lived in full, and a life that had given us inspiration. And it is that inspiration we must focus on today and in the future, and not just the devastating events that took place last Thursday. | Diolch, Lywydd. Fe wnaeth Jo Cox, neu Jo Leadbeater, neu Jo fach, fel y bydd llawer yng Nghymru yn ei chofio hi, fyw bywyd llawn a gwych. Roedd llawer ohonom yn Llafur Cymru yn gyfarwydd â hi pan oedd hi'n gweithio i Glenys Kinnock, a dyna pryd y datblygodd ei brwdfrydedd dros ddatblygu rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol. Nid oes fawr o amheuaeth bod yr ymosodiad ar Jo Cox yn wleidyddol ei natur. Roedd yn ymosodiad anfaddeuol a chreulon, nid yn unig ar wleidydd benywaidd, yn gwneud ei gwaith, ond yn erbyn popeth yr oedd hi'n ei gynrychioli. Ond nid gwleidyddiaeth y dylem fod yn myfyrio arno heddiw, ond y person. Roedd ganddi lawer iawn o ffrindiau yng Nghymru, ac roedd pawb yn gwybod bod ei gyrfa wleidyddol yn mynd i fod yn rhywbeth arbennig, nid oherwydd ei huchelgais, ond oherwydd ei phenderfyniad ffyrnig, ei gwedduster, a'i hawydd sylfaenol pendant i gyflawni pethau. Roedd hynny'n golygu cynnig llaw cyfeillgarwch ar draws y rhaniad gwleidyddol. Byddai Jo wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 42 yfory, a bydd digwyddiadau ar draws y byd, lle y bydd pobl yn ailadrodd yr ymadrodd hwnnw sydd eisoes wedi dod yn fantra, rydym yn llawer mwy unedig ac mae gennym lawer mwy yn gyffredin na'r pethau sy'n ein gwahanu. Lywydd, cafodd bywyd Jo ei dorri'n fyr, ond yr oedd yn fywyd a gafodd ei fyw yn llawn, ac yn fywyd a oedd wedi rhoi ysbrydoliaeth i ni. Ac ar yr ysbrydoliaeth honno y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio heddiw ac yn y dyfodol, ac nid dim ond ar y digwyddiadau trychinebus a ddigwyddodd ddydd Iau diwethaf. |
Diolch, Lywydd. I never met Jo Cox, but I'm sure I'm not alone in identifying with aspects about what we've heard about her, and with some of the politics that she represented. Rather than use my words today, I'd prefer to use hers. In her maiden speech in Westminster, Jo Cox MP said, 'Our communities have been deeply enhanced by immigration, be it of Irish Catholics across the constituency or of Muslims from Gujarat in India or from Pakistan, principally from Kashmir. While we celebrate our diversity, what surprises me time and time again as I travel around the constituency is that we are far more united and have far more in common with each other than things that divide us.' Now, it remains to be proven beyond all reasonable doubt whether she was killed for holding these beliefs, but it seems to me that the most fitting tribute we can pay to this woman is to remember her words and, in her memory, for all us to work for a society and a politics that is free from hate. | Diolch, Lywydd. Wnes i erioed gwrdd â Jo Cox, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig sy'n uniaethu ag agweddau ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed amdani, ac â pheth o'r wleidyddiaeth yr oedd hi'n ei chynrychioli. Yn hytrach na defnyddio fy ngeiriau i heddiw, byddai'n well gennyf ddefnyddio ei rhai hi. Yn ei haraith gyntaf yn San Steffan, dywedodd Jo Cox AS, Mae ein cymunedau wedi eu gwella yn helaeth gan fewnfudo, boed hynny gan Gatholigion Gwyddelig ar draws yr etholaeth neu Fwslimiaid o Gujarat yn India neu o Bacistan, yn bennaf o Kashmir. Wrth i ni werthfawrogi ein hamrywiaeth, yr hyn sy'n peri syndod i mi dro ar ôl tro wrth i mi deithio o amgylch yr etholaeth yw ein bod yn llawer mwy unedig a bod gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu.' Nawr, nid yw wedi ei brofi y tu hwnt i bob amheuaeth resymol pa un a gafodd ei lladd oherwydd y credoau hyn, ond mae'n ymddangos i mi mai'r deyrnged fwyaf addas y gallwn ei thalu i'r wraig hon yw cofio ei geiriau ac, er cof amdani, i bob un ohonom ni weithio dros gymdeithas a gwleidyddiaeth lle nad oes casineb. |
I now call on the leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies. | Galwaf nawr ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. |
Thank you, Presiding Officer. I make no pretence to have known Jo Cox, but the events last Thursday mortified us all. Pure evil visited Jo Cox and her family last week, and her constituency, when she was going about her job, which she cared passionately about, and I think she said, in her own words, it was a job that she thought was a job for which she'd been groomed for life, to achieve success for the communities that she represented and the causes that she held dear. And she certainly took those causes right to the heart of power in Parliament and Government, and worked across the political divide, and proved where politicians do work together, we actually achieve far more. One thing we must remember is that a family today will not feel the warmth and love of a mother and also a wife, and they are the ones who have lost the most in all this, but we as a society are far poorer from losing such as individual as Jo Cox, and we should never let the flame that she lit go out, and we should stand up for the beliefs and causes that she fought for and make sure that the evil that visited this country, her constituency, and her family last week, does not triumph. | Diolch i chi, Lywydd. Nid wyf yn cymryd arnaf fy mod yn adnabod Jo Cox, ond mae digwyddiadau dydd Iau diwethaf wedi syfrdanu pob un ohonom. Ymwelodd drwg pur â Jo Cox a'i theulu yr wythnos diwethaf, a'i hetholaeth, pan oedd hi wrth ei gwaith mewn swydd yr oedd hi'n teimlo'n angerddol amdani, ac yr wyf yn meddwl ei bod wedi dweud, yn ei geiriau ei hun, mai hon oedd y swydd yr oedd hi'n credu ei bod hi wedi ei pharatoi amdani ar hyd ei hoes, sef cyflawni llwyddiant i'r cymunedau yr oedd hi'n eu cynrychioli a'r achosion a oedd yn agos at ei chalon. Ac yn sicr fe aeth hi â'r achosion hynny yr holl ffordd i galon grym yn y Senedd a'r Llywodraeth, a gweithiodd ar draws y rhaniad gwleidyddol, gan brofi pan fo gwleidyddion yn gweithio gyda'i gilydd, rydym mewn gwirionedd yn cyflawni llawer mwy. Un peth y mae'n rhaid i ni ei gofio yw bod teulu heddiw nad yw'n teimlo cynhesrwydd a chariad mam na gwraig ychwaith, a nhw yw'r rhai sydd wedi cael y golled fwyaf yn hyn i gyd, ond rydym ni fel cymdeithas yn llawer tlotach o golli unigolyn fel Jo Cox, ac ni ddylem fyth adael i'r fflam a oleuodd hi ddiffodd, a dylem sefyll yn gadarn dros y credoau a'r achosion y brwydrodd hi drostynt a gwneud yn siŵr na fydd y drwg a ymwelodd â'r wlad hon, ei hetholaeth, a'i theulu yr wythnos diwethaf, yn ennill. |
I would like to associate myself and my party with everything that has been said here today. Like Andrew Davies, I didn't know Jo Cox; she was clearly a very remarkable person on the threshold of what I'm sure would have been a very successful political career. The impact of her tragic death would not have achieved the huge publicity that it has but for the nature of her personality, and although I didn't know her, I did know the last Member of Parliament to be assassinated, Ian Gow, very, very well, so I do understand, from personal experience, the effect upon those who knew her. Rachel Reeves said yesterday in the House of Commons what Andrew Davies has just reminded us of, that this is a personal tragedy as well. In as much as Batley and Spen may acquire a new Member of Parliament, but those poor children will not acquire a new mother, and that certainly should affect us all. And we should go forth, I think, in our different parties and in our different way, in the spirit in which Jo Cox lived her life and fought her politics - with compassion and respect, and, first and foremost, a respect for the whole of humankind. I think that, in her death, she will achieve far more than any of us will achieve in our lives. | Hoffwn gysylltu fy hun a'm plaid â phopeth a ddywedwyd yma heddiw. Fel Andrew Davies, nid oeddwn yn adnabod Jo Cox; roedd hi'n amlwg yn berson rhyfeddol iawn ar drothwy yr hyn rwy'n siŵr y byddai wedi bod yn yrfa wleidyddol lwyddiannus iawn. Ni fyddai effaith ei marwolaeth drasig wedi arwain at y cyhoeddusrwydd enfawr yr ydym wedi ei weld, oni bai am natur ei phersonoliaeth, ac er nad oeddwn yn ei hadnabod, roeddwn i yn adnabod yr Aelod Seneddol diwethaf i gael ei lofruddio, Ian Gow, yn dda iawn, iawn, felly rwyf yn deall, o brofiad personol, yr effaith ar y rhai a oedd yn ei hadnabod. Dywedodd Rachel Reeves ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yr hyn y mae Andrew Davies newydd ein hatgoffa ohono, fod hon yn drasiedi bersonol hefyd. Er y bydd Batley a Spen yn cael Aelod Seneddol newydd, ni fydd y plant druan hynny yn cael mam newydd, a dylai hynny yn sicr effeithio ar bob un ohonom. A dylem fynd allan, mi gredaf, yn ein gwahanol bleidiau ac yn ein ffyrdd gwahanol, yn yr ysbryd y gwnaeth Jo Cox fyw ei bywyd ac yn ymladd ei gwleidyddiaeth - gyda thrugaredd a pharch, ac, yn anad dim, parch at y ddynoliaeth gyfan. Rwyf yn credu y bydd hi, drwy ei marwolaeth, yn cyflawni llawer mwy nag y bydd unrhyw un ohonom ni yn ei gyflawni yn ein bywydau. |
Diolch. Jo Cox MP - a passionate activist, and unwavering humanitarian, a driven campaigner and a committed feminist, a friend, daughter, sister, wife, mother, and proud to the MP for Batley and Spen, the Yorkshire community in which she grew up. Jo Cox was one of us, and we are all profoundly shocked, devastated and moved by Jo's murder. But today is a time to remember the incredibly significant and valuable contribution that Jo Cox made in her all too short time with us. I was only lucky enough to meet Jo briefly through the Labour Women's Network, so ahead of today's tribute, I sought guidance from those who knew Jo far, far better than me. Jo achieved so much before entering the House of Commons just over a year ago, with Oxfam, in the European Parliament, and encouraging Labour women into politics. Jo was chair of Labour Women's Network from 2010 to 2014, part of a team of women with big ambitions to develop the organisation to support and bring through Labour women from all walks of life into the party and into public life. The focus and determination that Jo brought to LWN to drive forward and actually get things done was a focus and determination that she brought to everything that she did. A friend and colleague of Jo's wrote in the last few days how Jo supported and empowered other women by, 'Half holding you upright and half shoving you forward'. The alliances that Jo built and what she achieved in her 13 months as an MP are testament not just to the tenacity and the depth of experience she brought to the issues she focused on and the causes that she championed, but also to her personality. Friends have shared how Jo was relentlessly positive and a bundle of energy - a force of nature that enjoyed life to the full. They've written how, in reflecting on Jo's life, it's not just what she did, but the how she did it: the power of common action and not simply believing in her ideals, but living them and doing something to advance them every single day. To me, Jo Cox personified everything a politician should be, and, as we celebrate Jo's life, let us go forward with her own words shaping our deeds: we have far more in common with each other than that which divides us. Diolch. Diolch yn fawr, Jo Cox MP. | Diolch. Jo Cox AS - gweithredydd angerddol, a dyngarwraig ddiwyro, ymgyrchydd egnïol a ffeminist ymrwymedig, ffrind, merch, chwaer, gwraig, mam, ac yn falch o fod yr AS dros Batley a Spen, y gymuned yn Swydd Efrog lle y magwyd hi. Roedd Jo Cox yn un ohonom ni, ac rydym ni i gyd wedi cael ein hysgwyd, ein cynhyrfu a'n digaloni i'r carn gan lofruddiaeth Jo. Ond diwrnod i gofio'r cyfraniad hynod arwyddocaol a gwerthfawr a wnaeth Jo Cox yn ei hamser llawer rhy fyr gyda ni yw heddiw. Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â Jo er mai dim ond am gyfnod byr drwy Rwydwaith Menywod Llafur, felly cyn teyrnged heddiw, gofynnais am arweiniad gan y rhai a oedd yn adnabod Jo yn llawer iawn gwell na fi. Cyflawnodd Jo gymaint cyn mynd i mewn i Dŷ'r Cyffredin ychydig dros flwyddyn yn ôl, gydag Oxfam, yn Senedd Ewrop, a thrwy annog menywod Llafur i mewn i wleidyddiaeth. Jo oedd cadeirydd Rwydwaith Menywod Llafur o 2010 i 2014, yn rhan o dîm o fenywod gydag uchelgeisiau mawr i ddatblygu'r sefydliad i gefnogi a dod â merched Llafur o bob cefndir i mewn i'r parti ac i fywyd cyhoeddus. Roedd y canolbwyntio a'r penderfyniad a gyflwynodd Jo i Rwydwaith Menywod Llafur i fwrw ymlaen a chael pethau wedi'u gwneud mewn gwirionedd yn ganolbwyntio a phenderfyniad a oedd yn amlwg ym mhopeth yr oedd hi'n ei wneud. Ysgrifennodd ffrind a chydweithiwr i Jo yn ystod y dyddiau diwethaf sut yr oedd Jo yn cefnogi ac yn grymuso menywod eraill drwy, 'Hanner eich dal ar eich traed a hanner eich gwthio ymlaen'. Mae'r cynghreiriau a adeiladodd Jo a'r hyn a gyflawnodd yn ei 13 mis fel AS yn dyst nid yn unig i ddycnwch a dyfnder y profiad yr oedd hi'n ei roi i'r materion yr oedd hi'n canolbwyntio arnynt a'r achosion yr oedd hi'n eu hyrwyddo, ond hefyd i'w phersonoliaeth. Mae cyfeillion wedi dweud pa mor benderfynol o gadarnhaol a faint o fwndel o egni oedd Jo - grym natur a oedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf. Maent wedi ysgrifennu sut, wrth fyfyrio ar fywyd Jo, nid yn unig yr hyn a wnaeth hi sy'n bwysig, ond y modd y gwnaeth hi ef: pŵer gweithredu cyffredin ac nid dim ond credu yn ei delfrydau, ond eu byw a gwneud rhywbeth i'w symud ymlaen bob un dydd. I mi, roedd Jo Cox yn ymgnawdoli popeth y dylai gwleidydd fod, ac, wrth i ni ddathlu bywyd Jo, gadewch i ni fynd yn ein blaenau gan adael i'w geiriau hi lunio ein gweithredoedd: mae gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r hyn sy'n ein gwahanu. Diolch. Diolch yn fawr, Jo Cox AS. |
I thank you all. | Diolch i chi i gyd. |
We now move to the first item on our agenda today, which is questions to the First Minister. The first question is from Vikki Howells. | Rydym nawr yn symud at yr eitem gyntaf ar ein hagenda heddiw, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells. |
We will continue with our population screening programmes for breast, cervical and bowel cancer, as well as improve our support to GPs to better recognise symptoms and improve the access to testing. | Byddwn yn parhau â'n rhaglenni sgrinio'r boblogaeth ar gyfer canser y fron, ceg y groth a'r coluddyn, yn ogystal â gwella ein cymorth i feddygon teulu i adnabod symptomau yn well a gwella'r mynediad at brofion. |
Thank you, First Minister. Last week was Cervical Screening Awareness Week, a Europe-wide project to raise awareness of the role of screening in tackling cervical cancer. While mortality rates for cervical cancer are dropping, there was also a slight decline in screening uptake, and I'm particularly concerned that one in three 25 to 29-year-olds don't attend their smear tests. How can the Welsh Government encourage more women of all ages, but younger women in particular, to attend the screenings that could save their lives? | Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Roedd hi'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Sgrinio Serfigol yr wythnos diwethaf, sef prosiect ar draws Ewrop gyfan i godi ymwybyddiaeth o swyddogaeth sgrinio i fynd i'r afael â chanser ceg y groth. Er bod cyfraddau marwolaeth yn gostwng ar gyfer canser ceg y groth, roedd gostyngiad bach hefyd i'r nifer a gafodd eu sgrinio, ac rwy'n arbennig o bryderus bod un o bob tri o bobl 25 i 29 oed nad ydynt yn mynychu eu profion ceg y groth. Sut all Llywodraeth Cymru annog mwy o fenywod o bob oed, ond menywod iau yn arbennig, i fynychu'r profion sgrinio a allai achub eu bywydau? |
Well, the screening engagement team of Public Health Wales is working with local public health teams, health boards and primary care clusters to consider cervical screening uptake in each region and planned specific activities to improve uptake, including social media activity. There has been a specific focus on the groups in each region where uptake is lowest. | Wel, mae tîm ymgysylltu sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau iechyd cyhoeddus lleol, byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol i ystyried y nifer sy'n cael profion sgrinio serfigol ym mhob rhanbarth ac mae wedi cynllunio gweithgareddau penodol i wella niferoedd, gan gynnwys gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol. Bu pwyslais penodol ar y grwpiau ym mhob rhanbarth lle mae'r niferoedd sy'n cael eu sgrinio ar eu hisaf. |
It's not unusual for a GP to fail to diagnose the symptoms of cancer during the first appointment. But, if a diagnosis is ultimately made following a second or third appointment, does the First Minister agree that the clock should start ticking, in terms of when treatment should start, from the time of that first appointment, because swift treatment for patients is the most important thing, not hitting Government targets? | Nid yw'n anarferol i feddyg teulu fethu â sylwi ar symptomau o ganser ar yr ymweliad cyntaf. Ond, os yw diagnosis yn dod yn y pen draw yn dilyn ail neu drydydd ymweliad, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y dylai'r cloc ddechrau tician, o ran pa bryd y dylai'r driniaeth ddigwydd, o bryd yr oedd yr ymweliad cyntaf, achos triniaeth gyflym i'r claf sydd bwysicaf, nid taro targedau'r Llywodraeth? |
Well, it is the patient, of course, who is important in this. But, as regards diagnostic tests, for example, may I say that we've seen a significant improvement in the past year? The figures for April 2016, for example, are 23 per cent lower than the figures for April of last year, and 40 per cent lower than the high point in July of last year. What is important, of course, is that tests are conducted and that results are received as soon as possible. | Wel, y claf, wrth gwrs, sy'n bwysig ynglŷn â beth sy'n digwydd fan hyn. Ond, a gaf i ddweud, ynglŷn â phrofion diagnostig, er enghraifft, rydym wedi gweld gwellhad sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf? Mae'r ffigurau o Ebrill 2016, er enghraifft, 23 y cant yn is nag Ebrill y llynedd, a 40 y cant yn is na'r pwynt uchaf ym mis Gorffennaf y llynedd. Beth sy'n bwysig, wrth gwrs, yw bod y profion yn cael eu delio â nhw a bod canlyniadau yn dod yn ôl cyn gynted â phosibl. |
First Minister, young children between nought and 14 are far more likely - or, in fact, are twice as likely - to be diagnosed through emergency presentation for cancer. I would like you to consider the children's charity CLIC Sargent and their call that the refreshed Wales cancer delivery plan, which is intended for later this year, should improve initial and ongoing training in children and young people's health for primary care professionals, and should report on the level of access that GP practices have to paediatric and young people's health expertise, to address just this issue. To be between nought and 14 years old and not find out that you have cancer until you have been rushed into accident and emergency is not really an acceptable way forward. I think your Government needs to look to see how it can address that situation. | Brif Weinidog, mae plant ifanc rhwng dim a 14 oed yn llawer mwy tebygol - neu, yn wir, ddwywaith yn fwy tebygol - o gael diagnosis trwy gyflwyniad brys ar gyfer canser. Hoffwn i chi ystyried yr elusen plant CLIC Sargent a'i galwad y dylai cynllun cyflawni ar ganser Cymru ar ei newydd wedd, y bwriedir ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, wella hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ym maes iechyd plant a phobl ifanc ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol, ac y dylai adrodd ar lefel y mynediad sydd gan feddygfeydd teulu at arbenigedd iechyd pediatrig a phobl ifanc, i roi sylw i'r mater hwn yn benodol. Nid yw bod rhwng dim a 14 mlwydd oed a pheidio â darganfod bod gennych chi ganser tan i chi gael eich rhuthro i adran damweiniau ac achosion brys yn ffordd dderbyniol ymlaen. Credaf fod angen i'ch Llywodraeth ystyried sut y gall fynd i'r afael â'r sefyllfa honno. |
Yes, many cancers, of course, present themselves at A&E. People live with the symptoms, not knowing what the symptoms are. With children, I suspect - though I am not medically qualified - the assumption will always be that it is something else. It is difficult for GPs to diagnose cancer at an early stage. Nevertheless, as part of the refreshing of the cancer delivery plan, we will look at what can be done in order to assist GPs and other primary care professionals to improve their ability to detect cancer, where that's possible, as quickly as possible. | Oes, mae llawer o fathau o ganser, wrth gwrs, yn dod i'r amlwg mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae pobl yn byw gyda'r symptomau, heb wybod beth yw'r symptomau. Gyda phlant, rwy'n amau - er nad oes gen i gymwysterau meddygol - y dybiaeth bob amser fydd mai rhywbeth arall yw'r broblem. Mae'n anodd i feddygon teulu wneud diagnosis o ganser yn gynnar. Er hynny, yn rhan o ailwampio'r cynllun cyflawni ar ganser, byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud er mwyn cynorthwyo meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill i wella eu gallu i ganfod canser, pan fo hynny'n bosibl, cyn gynted â phosibl. |
First Minister, as someone who has survived cancer, I can tell you from first-hand experience that early diagnosis is key to survival. GPs are the front line in the fight against cancer, and are critical for early diagnosis. First Minister, Cancer Research UK found that there is a huge variation in GPs' direct access to diagnostic tests in Wales. What will your Government do over the next five years to ensure that every GP has access to vital diagnostic tests? Diolch. | Brif Weinidog, fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf ddweud wrthych o brofiad uniongyrchol bod diagnosis cynnar yn allweddol i oroesi. Mae meddygon teulu yn y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn canser, ac maen nhw'n hollbwysig ar gyfer diagnosis cynnar. Brif Weinidog, canfu Cancer Research UK fod amrywiaeth enfawr o ran mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig yng Nghymru. Beth fydd eich Llywodraeth yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf i sicrhau bod gan bob meddyg teulu fynediad at brofion diagnostig hollbwysig? Diolch. |
I think I answered this question in response to the question posed by the Member for Ynys Môn - that is that reducing diagnostic waiting times is a priority for this Government. We see from the figures that I mentioned earlier that diagnostic waiting times are reducing very quickly in Wales. | Rwy'n credu fy mod i wedi ateb y cwestiwn hwn wrth ymateb i'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Aelod dros Ynys Môn - sef bod lleihau amseroedd aros diagnostig yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gwelwn o'r ffigurau a grybwyllais yn gynharach bod amseroedd aros diagnostig yn lleihau yn gyflym iawn yng Nghymru. |
Yes. It's a big file, as the Member can see. I am aware of the staff survey results. It is, of course, a matter for the board of Natural Resources Wales as an arm's-length body, but the Cabinet Secretary has met with the chair and chief executive of NRW. She has outlined her disappointment in the figures and stressed the importance of proper staff engagement. | Gwnaf. Mae'n ffeil fawr, fel y gall yr Aelod weld. Rwy'n ymwybodol o ganlyniadau'r arolwg staff. Mater yw hwn, wrth gwrs, i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru fel corff hyd braich, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hi wedi amlinellu ei siom at y ffigurau a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltiad priodol â staff. |
Thank you for the answer, First Minister. The survey results clearly indicate that there's a problem with senior management, and it's far worse than last year. I've had constituents who've contacted me who don't wish to be named, and they're fearful for the comments that they've sent me, saying that they had a Skype meeting with the directors and their leaders last week - and this included more in-depth analysis of the survey results - which made for worse reading than those that were published. I think the feeling from that meeting was that the problems were with lower management, and that they should go off and try to fix it themselves, although they see it more as something that needs to be fixed from the top. First Minister, can you tell me how this will be done, given that it is an organisation, as you say, that's arm's length from yourself? How will you achieve the £158 million savings over 10 years when, as I believe from staff there, processes and contracts that are now in place cost more than when they were fulfilled by the legacy organisation? | Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos yn eglur bod problem gyda'r uwch reolwyr, ac mae'n llawer gwaeth na'r llynedd. Rwyf wedi cael etholwyr sydd wedi cysylltu â mi nad ydynt yn dymuno cael eu henwi, ac maen nhw'n ofnus am y sylwadau y maen nhw wedi eu hanfon ataf, gan ddweud eu bod wedi cael cyfarfod Skype gyda'r cyfarwyddwyr a'u harweinwyr yr wythnos diwethaf - ac roedd hyn yn cynnwys dadansoddiad mwy trylwyr o ganlyniadau'r arolwg - a oedd yn darllen yn llawer gwaeth na'r rhai a gyhoeddwyd. Rwy'n meddwl mai'r teimlad o'r cyfarfod hwnnw oedd bod y problemau gyda'r rheolwyr is, ac y dylent fynd i ffwrdd a cheisio ei ddatrys eu hunain, er eu bod yn ei weld yn fwy fel rhywbeth y mae angen ei ddatrys o'r brig. Brif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf sut y bydd hyn yn cael ei wneud, o gofio ei fod yn sefydliad, fel y dywedwch, sydd ar hyd braich oddi wrthych chi eich hun? Sut gwnewch chi gyflawni'r arbedion o £158 miliwn dros 10 mlynedd pan, fel yr wyf yn ei glywed gan staff yno, bod prosesau a chontractau sydd ar waith erbyn hyn yn costio mwy na phan oedden nhw'n cael eu cyflawni gan y sefydliad etifeddiaeth? |
Those are responsibilities for the chair and chief executive to make sure that staff feel valued. I notice from the survey that, overall, staff were more satisfied than they were last year. But, it's right to say that, when we drill down underneath those figures in terms of perceptions of management, for example, career development and understanding of the organisation's direction, the figures were not as good. As I mentioned earlier on, the Cabinet Secretary has met with the chair and chief executive. It's been made clear to them that they must drive positive change from the top, and make sure that people do feel more valued within the organisation. | Cyfrifoldebau'r cadeirydd a'r prif weithredwr yw gwneud yn siŵr bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rwy'n sylwi o'r arolwg bod staff, yn gyffredinol, yn fwy bodlon nag yr oeddent y llynedd. Ond, mae'n iawn i ddweud, pan fyddwn yn ymchwilio'n fwy trylwyr i mewn i'r ffigurau hynny o ran tybiaethau'r rheolwyr, er enghraifft, datblygiad gyrfaol a dealltwriaeth o gyfeiriad y sefydliad, nad oedd y ffigurau cystal. Fel y soniais yn gynharach, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â'r cadeirydd a'r prif weithredwr. Fe'i gwnaed yn eglur iddyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw sbarduno newid cadarnhaol o'r brig, a gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy yn y sefydliad. |
First Minister, according to the survey, it is a cause of great concern that staff in NRW feel that they don't have access to learning and personal development opportunities when they need them. Of course, it is important that people do have these opportunities. Given that Natural Resources Wales is accountable to your Government, how does the Government ensure that staff in this organisation can access training and learning opportunities to support their professional development? | Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg, mae'n destun pryder mawr bod staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo eu bod nhw ddim yn cael mynediad i gyfleoedd dysgu a datblygiad personol pan fydd angen arnynt. Wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn cael y cyfleoedd hyn. O ystyried bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol i'ch Llywodraeth chi, sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod staff yn y sefydliad hwn yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a dysgu i gefnogi eu datblygiad proffesiynol? |
Although it is an arm's-length body, the Secretary has a clear interest in ensuring that the body works as it should. In doing this, the Minister will want to see these figures improve, and will want to see that there is evidence that pathways to developing individuals' careers are developed and are available as they require it. | Er taw corff sydd ddim yn rhan o'r Llywodraeth yw Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan yr Ysgrifennydd ddiddordeb clir ynglŷn â sicrhau bod y corff yn gweithredu fel y dylai. I wneud hynny, bydd y Gweinidog eisiau gweld bod y ffigurau hyn yn gwella, ac yn gweld bod yna dystiolaeth bod llwybrau i ddatblygu gyrfaoedd unigolion yn cael eu datblygu, ac ar gael i bobl pan mae eu heisiau. |
The Plaid Cymru Member opposite is right to draw the First Minister's attention to the recent staff survey at NRW. The results are both disappointing and concerning. Is the dissatisfaction of the staff in any way a reflection on how well this body is serving the general public? | Mae'r Aelod Plaid Cymru gyferbyn yn iawn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at yr arolwg staff diweddar yng Nghyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r canlyniadau yn siomedig ac yn peri pryder. A yw anfodlonrwydd y staff yn adlewyrchiad mewn unrhyw ffordd ar ba mor dda y mae'r corff hwn yn gwasanaethu'r cyhoedd? |
No, I don't believe that's right. Natural Resources Wales are doing a good job in terms of managing our forestry resource, and making sure that advice is made available to businesses in order to mitigate their environmental impact, and of course in terms of managing our countryside for the benefit of our people. | Nac ydy, nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud gwaith da o ran rheoli ein hadnodd coedwigaeth, a gwneud yn siŵr bod cyngor yn cael ei roi ar gael i fusnesau er mwyn lliniaru eu heffaith amgylcheddol, ac wrth gwrs o ran rheoli ein cefn gwlad er lles ein pobl. |
I now call on the party leaders to question the First Minister. First of all, the leader of the opposition, Leanne Wood. | Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac yn gyntaf yr wythnos yma mae arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood. |
Before I start my questions today, First Minister, I'd like to place on record our congratulations to the Welsh football team and the fans who did us proud in France last night. I could go on in that vein, but I'm going to move on to my questions now. First Minister, you and I have crossed swords on many occasions about the national health service. Last night, I hosted a packed public meeting in Treorchy in the Rhondda, a community that's due to lose its doctors' surgery because the health board tell me there's a shortage of doctors, which we all know about. Without getting into arguments about how many doctors we need, will you confirm that, if we leave the European Union on Thursday, the Welsh NHS will find it even more difficult to recruit doctors from overseas than it has been up until now? | Cyn i mi ddechrau fy nghwestiynau heddiw, Brif Weinidog, hoffwn roi ar goedd ein llongyfarchiadau i dîm pêl-droed Cymru a'r cefnogwyr a'n gwnaeth ni mor falch yn Ffrainc neithiwr. Gallwn barhau ar y trywydd hwnnw, ond rwy'n mynd i symud ymlaen at fy nghwestiynau nawr. Brif Weinidog, rydych chi a minnau wedi croesi cleddyfau ar sawl achlysur ynghylch y gwasanaeth iechyd gwladol. Neithiwr, cynheliais gyfarfod cyhoeddus gorlawn yn Nhreorci yn y Rhondda, cymuned sydd ar fin colli ei meddygfa deulu gan fod y bwrdd iechyd yn dweud wrthyf fod prinder meddygon, yr ydym ni i gyd yn gwybod amdano. Heb fynd ar drywydd dadleuon ynghylch faint o feddygon sydd eu hangen arnom, a wnewch chi gadarnhau, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau, y bydd y GIG yng Nghymru yn ei chael yn anoddach fyth recriwtio meddygon o dramor nag y bu hyd yn hyn? |
Well, could I first of all express my slight annoyance that the leader of the opposition has got in before me when it comes to congratulating the Welsh football team? A wonderful result last night. The Cabinet Secretary, Ken Skates, was there - he's looking well after such an evening as we saw. This is hugely important for Wales in terms of our profile around the world and the fact that there are fewer and fewer people who will say, 'Wales? Where's that?' I think that's hugely important. But the leader of the opposition raises a hugely important point, and that is, 'What message are we conveying to doctors and other primary care professionals if we leave the EU?' We know, for example, it is said that people who come here who are migrants put pressure on the NHS. I don't buy that; they are mainly young, they're working and they barely see a doctor. The reality is that they contribute, particularly those professionals who work in the NHS, to helping to care for sick people in Wales. The effect of a 'leave' vote would be to send the message to medical professionals, 'Don't come here. You can go anywhere else in Europe, but don't think that you're coming here', and that will make it far more difficult to attract the medical expertise that we need into Wales. | Wel, a gaf i yn gyntaf oll fynegi fy siom braidd at y ffaith fod arweinydd yr wrthblaid wedi achub y blaen arnaf i pan ddaw i longyfarch tîm pêl-droed Cymru? Canlyniad ardderchog neithiwr. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, yno - mae'n edrych yn dda ar ôl noson o'r fath a welsom. Mae hyn yn hynod o bwysig i Gymru o ran ein proffil ledled y byd a'r ffaith fod llai a llai o bobl a fydd yn dweud, 'Cymru? Ble mae fanno?' Rwy'n credu bod hynny'n hynod o bwysig. Ond mae arweinydd yr wrthblaid yn codi pwynt hynod bwysig, sef, 'Pa neges ydym ni'n ei chyfleu i feddygon a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill os byddwn yn gadael yr UE?' Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, y dywedir bod pobl sy'n dod yma sy'n fewnfudwyr yn rhoi pwysau ar y GIG. Nid wyf yn derbyn hynny; maen nhw'n ifanc yn bennaf, maen nhw'n gweithio ac anaml y byddant yn gweld meddyg. Y gwir yw eu bod yn cyfrannu, yn enwedig y gweithwyr proffesiynol hynny sy'n gweithio yn y GIG, at helpu i ofalu am bobl sâl yng Nghymru. Effaith pleidlais i adael fyddai anfon y neges i weithwyr meddygol proffesiynol, 'Peidiwch â dod yma. Gallwch fynd i unrhyw le arall yn Ewrop, ond peidiwch â meddwl eich bod yn dod yma', a bydd hynny'n ei gwneud yn llawer mwy anodd i ddenu'r arbenigedd meddygol sydd ei angen arnom i mewn i Gymru. |
Thank you for your answer, First Minister. You'll be aware that, over many years now, Plaid Cymru has advocated incentives to attract doctors to Wales. One important factor, if we are going to attract people to come and live and work here as GPs while we train more doctors, is the state of the economy. How much more difficult do you assess it will be to attract GPs to those areas where vacancies are difficult to fill if the economy takes the dip that it's predicted to if there is a 'leave' vote on Thursday? | Diolch i chi am eich ateb, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol fod Plaid Cymru, dros flynyddoedd lawer erbyn hyn, wedi hyrwyddo cymhellion i ddenu meddygon i Gymru. Un ffactor pwysig, os ydym ni'n mynd i ddenu pobl i ddod i fyw a gweithio yma fel meddygon teulu wrth i ni hyfforddi mwy o feddygon, yw cyflwr yr economi. Faint yn fwy anodd ydych chi'n asesu y bydd hi i ddenu meddygon teulu i'r ardaloedd hynny lle mae swyddi yn anodd eu llenwi os bydd yr economi'n gwaethygu fel y rhagwelir y bydd yn ei wneud os ceir pleidlais i adael ddydd Iau? |
Well, if you are a doctor qualified in the European Union and you are told, 'You can travel to 27 other countries without the need for a visa, or come to the UK but you need a visa', it doesn't take a genius to work out that it's far easier to go to the other countries. So, the UK will become a more difficult place to recruit medical staff into. But, yes, of course, there will be an effect on the economy. I have spent much of my time talking to businesses, attracting investment into Wales, and the unemployment figures are evidence of how that has worked. This would be a self-inflicted wound. We would not be able to offer the same kind of certainty to business as Ireland would, or as France would, or as Germany would because we would not be able to say for years what kind of access to the European market businesses could enjoy if they were to be based in Wales, and that is bad for Welsh business. | Wel, os ydych chi'n feddyg cymwysedig yn yr Undeb Ewropeaidd ac y dywedir wrthych, 'Gallwch deithio i 27 o wledydd eraill heb fod angen fisa, neu ddod i'r DU ond mae angen fisa arnoch chi', nid oes angen athrylith i weithio allan ei bod yn llawer haws mynd i'r gwledydd eraill. Felly, bydd y DU yn troi'n lle mwy anodd i recriwtio staff meddygol i mewn iddo. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd effaith ar yr economi. Rwyf wedi treulio llawer o fy amser yn siarad â busnesau, yn denu buddsoddiad i Gymru, ac mae'r ffigurau diweithdra yn dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio. Byddai hwn yn glwyf a achosid gennym ni ein hunain. Ni fyddem yn gallu cynnig yr un math o sicrwydd i fusnesau fel y byddai Iwerddon, neu fel y byddai Ffrainc, neu fel y byddai'r Almaen, gan na fyddem yn gallu dweud am flynyddoedd pa fath o fynediad at y farchnad Ewropeaidd y gallai busnesau ei fwynhau pe byddent wedi'u lleoli yng Nghymru, ac mae hynny'n wael i fusnes yng Nghymru. |
I don't disagree with you there, First Minister. We may well have disagreements on the future of the Welsh NHS and what needs to happen to safeguard it, but where we do agree is on our joint opposition to privatisation. Now, I wonder whether or not you think it's more or less likely that the NHS will be opened up for privatisation in the event of a 'leave' vote. We know that right-wing politicians across a number of parties in Westminster are keen to sign up to TTIP, the transatlantic trade and investment partnership, which will, of course, make it easier to sell off public services to their mates. Do you think that we've got a better chance of avoiding the damage that could be caused to our NHS from TTIP by joining and remaining with other countries that can resist it? | Nid wyf yn anghytuno â chi yn hynny o beth, Brif Weinidog. Efallai'n wir y byddwn yn anghytuno am ddyfodol y GIG yng Nghymru a'r hyn sydd angen digwydd i'w ddiogelu, ond yr hyn yr ydym ni yn cytuno arno yw ein cyd-wrthwynebiad i breifateiddio. Nawr, tybed a ydych chi'n credu ei bod yn fwy neu'n llai tebygol y bydd y GIG yn cael ei agor ar gyfer preifateiddio os bydd pleidlais i adael. Rydym ni'n gwybod bod gwleidyddion asgell dde ar draws nifer o bleidiau yn San Steffan yn awyddus i ymuno â TTIP, partneriaeth masnach a buddsoddi'r Iwerydd, a fydd, wrth gwrs, yn ei gwneud yn haws i werthu gwasanaethau cyhoeddus i'w ffrindiau. A ydych chi'n credu bod gennym ni well cyfle o osgoi'r niwed a allai gael ei achosi i'n GIG gan TTIP trwy ymuno ac aros gyda gwledydd eraill sy'n gallu ei wrthsefyll? |
Well, the reality is that the EU and the US are large trading blocks. The UK is much, much smaller. It comes down to how much muscle you have in the market at the end of the day. She and I are in the same position - we would not want to see any kind of privatisation in the NHS. Frankly, I see the figures in the 'leave' campaign - Boris Johnson, Michael Gove, Nigel Farage - and I do not trust them with the future of our NHS. I do not trust them with the future of a publicly funded, publicly available NHS, and, from my perspective, I'm glad that the health service is devolved so that they can't get their hands on the Welsh NHS. That's hugely important. But, no, she and I, I am sure, will share some scepticism that the people who front that campaign have suddenly become converted to the virtues of the power of the state to ensure the welfare of its people. | Wel, y gwir amdani yw bod yr UE a'r Unol Daleithiau yn flociau masnachu mawr. Mae'r DU yn llawer, llawer llai. Mae'n dod i lawr i faint o ddylanwad sydd gennych chi yn y farchnad yn y pen draw. Mae hi a minnau yn yr un sefyllfa - ni fyddem ni eisiau gweld unrhyw fath o breifateiddio yn y GIG. A dweud y gwir, rwy'n gweld yr unigolion yn yr ymgyrch i adael - Boris Johnson, Michael Gove, Nigel Farage - ac nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol ein GIG. Nid wyf yn ymddiried ynddyn nhw gyda dyfodol GIG a ariennir yn gyhoeddus, sydd ar gael yn gyhoeddus, ac, o'm safbwynt i, rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd wedi ei ddatganoli fel na allant gael eu dwylo ar y GIG yng Nghymru. Mae hynny'n hynod bwysig. Ond, na, bydd hi a minnau, rwy'n siŵr, yn rhannu cryn amheuaeth bod y bobl sy'n arwain yr ymgyrch honno wedi cael eu darbwyllo'n sydyn o rinweddau grym y wladwriaeth i sicrhau lles ei phobl. |
Thank you, Presiding Officer. I, too, identify with the sentiments of the leader of the opposition and the First Minister around the victory last night. It's caused problems in my office because I had several members out there, and going in a camper van for a week is not a brilliant advert, with five football supporters, and now they'll have to extend their time for the next match and, hopefully, a continuation through the championship. But, a huge congratulations to the Welsh fans on the way they've conducted themselves, and an even bigger congratulations to the Welsh team on the way they played last night. First Minister, it is vital that we make improvements in autism services here in Wales. Last Saturday was Autistic Pride Day, and, in 2009, the Westminster Government passed an Act to improve autistic services in England. Part of our manifesto was to bring forward an Act in this Assembly term to seek the improvements here in Wales, so that health boards and other public bodies would know exactly the commitments they would have to make to the 34,000 who have this diagnosis and battle to get the help and support they require here in Wales. Will you commit to your Government bringing forward an Act to support autistic services here in Wales, similar to the one that was brought forward in 2009 in Westminster? | Diolch i chi, Lywydd. Rwyf innau hefyd yn uniaethu â sylwadau arweinydd yr wrthblaid a'r Prif Weinidog ar y fuddugoliaeth neithiwr. Achosodd broblemau yn fy swyddfa i gan fod gen i sawl aelod allan yno, ac nid yw mynd mewn fan wersylla am wythnos yn hysbyseb gwych, gyda phum cefnogwr pêl-droed, a nawr bydd yn rhaid iddyn nhw ymestyn eu hamser ar gyfer y gêm nesaf a, gobeithio, parhad drwy'r bencampwriaeth. Ond, llongyfarchiadau mawr i gefnogwyr Cymru ar y ffordd y maen nhw wedi ymddwyn, a llongyfarchiadau mwy fyth i dîm Cymru ar y ffordd y gwnaethon nhw chwarae neithiwr. Brif Weinidog, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru. Roedd hi'n Ddiwrnod Balchder Awtistig ddydd Sadwrn diwethaf, ac, yn 2009, pasiodd Llywodraeth San Steffan Ddeddf i wella gwasanaethau awtistiaeth yn Lloegr. Rhan o'n maniffesto oedd cyflwyno Deddf yn ystod y tymor Cynulliad hwn i geisio cyflawni'r gwelliannau hyn yng Nghymru, fel y byddai byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn gwybod yn union yr ymrwymiadau y byddai'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i'r 34,000 sydd wedi cael y diagnosis hwn ac sy'n brwydro i gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yma yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo eich Llywodraeth i gyflwyno Deddf i gefnogi gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru, yn debyg i'r un a gyflwynwyd yn 2009 yn San Steffan? |
Well, it is something we are actively considering. I'm not saying we will simply replicate what happened in Westminster. I believe it needs consideration separately from other legislation, but, certainly, it is something that we're willing to discuss with other parties in order to ensure that the services we have for autism are the best they can be. | Wel, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth ymarferol iddo. Nid wyf yn dweud y byddwn yn ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yn San Steffan. Rwy'n credu bod angen ei ystyried ar wahân i ddeddfwriaeth arall, ond, yn sicr, mae'n rhywbeth yr ydym ni'n barod i'w drafod gyda phleidiau eraill er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sydd gennym ar gyfer awtistiaeth y gorau y gallant fod. |
Thank you for that answer, First Minister. I'd like to pay tribute to my colleague Mark Isherwood who has championed the cause around autistic services here in Wales for many, many years. Whilst those discussions are going on, and certainly you didn't rule out the opportunity to bring forward legislation, what - [Interruption.] | Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged i'm cydweithiwr Mark Isherwood sydd wedi hyrwyddo'r achos ynghylch gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru am lawer iawn o flynyddoedd. Er bod y trafodaethau hynny'n parhau, ac yn sicr ni wnaethoch chi ddiystyru'r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth, pa - [Torri ar draws.] |
Carry on. [Laughter.] | Ewch ymlaen. [Chwerthin.] |
What improvements can we see, while those discussions are being undertaken, around the legislation framework? Because there are 34,000 people in Wales who have a diagnosis and the National Autistic Society identify services to support them as 'patchy' here in Wales. So, what can we expect in the intervening time, when we will hopefully find agreement to bring forward legislation to enshrine the rights of people with a diagnosis to expect the service delivery here in Wales? | Pa welliannau allwn ni eu gweld, tra bod y trafodaethau hynny'n cael eu cynnal, ynghylch y fframwaith deddfwriaeth? Oherwydd ceir 34,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi cael diagnosis ac mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dweud bod gwasanaethau i'w cefnogi yn 'ddarniog' yma yng Nghymru. Felly, beth allwn ni ei ddisgwyl yn y cyfamser, pan fyddwn ni, gobeithio, yn dod i gytundeb i gyflwyno deddfwriaeth i ymgorffori hawliau pobl sydd wedi cael diagnosis i ddisgwyl y ddarpariaeth o wasanaethau yma yng Nghymru? |
The first challenge, of course, is for there to be a diagnosis, and that can take some time. Because autism, as the Member knows, exists on a spectrum, there are some elements of autism that are not easily diagnosed, and the diagnosis is the first step. He's asked about those who've been diagnosed. Well, we seek to ensure, of course, consistency across Wales - that's why we ring-fenced mental health spending to make sure that there were more services available. That's why, of course, we've provided more money for child and adolescent mental health services, because the demand on CAMHS was substantial and we recognised that demand needed to be met. We expect all local health boards to deliver a consistent service to support not just those who are diagnosed with autism, but those, of course, who care for them as well. | Yr her gyntaf, wrth gwrs, yw cael diagnosis, a gall hynny gymryd cryn amser. Oherwydd bod awtistiaeth, fel y mae'r Aelod yn gwybod, yn bodoli ar sbectrwm, ceir rhai elfennau o awtistiaeth nad yw'n rhwydd cael diagnosis ohonynt, a'r diagnosis yw'r cam cyntaf. Mae wedi gofyn am y rhai sydd wedi cael diagnosis. Wel, rydym ni'n ceisio sicrhau, wrth gwrs, cysondeb ar draws Cymru - dyna pam yr ydym ni wedi clustnodi gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr bod mwy o wasanaethau ar gael. Dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi darparu mwy o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, gan fod y galw ar CAMHS yn sylweddol a chydnabuwyd gennym fod angen bodloni'r galw hwnnw. Rydym ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol ddarparu gwasanaeth cyson i gefnogi nid yn unig y rhai sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond y rhai, wrth gwrs, sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd. |
You introduced CAMHS into the line of questioning - I'd like to move into that area, if I may. Mental health services for young people in particular have seen a massive increase in the referrals to CAMHS - 120-odd per cent since 2010. The waiting times in this particular area are horrendous, to say the least, with one in eight people who are referred waiting in excess of 40 weeks, when the Welsh Government's own referral time target is 14 weeks. What action will the Welsh Government, the new Welsh Government, be doing to actually tackle these chronic waiting times, which, as I've said, have seen one in eight young people waiting in excess of 40 weeks for the help and support that they require, when in the last financial year the Welsh Government did cut the money to CAMHS by nearly 7 per cent? | Rydych chi wedi cyflwyno CAMHS i'r trywydd holi - hoffwn symud i'r maes hwnnw, os caf. Bu cynnydd enfawr i'r atgyfeiriadau i CAMHS mewn gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yn enwedig - tua 120 y cant ers 2010. Mae'r amseroedd aros yn y maes penodol hwn yn ddychrynllyd, a dweud y lleiaf, gydag un o bob wyth o bobl sy'n cael eu hatgyfeirio yn aros mwy na 40 wythnos, pan mai 14 wythnos yw targed amser atgyfeirio Llywodraeth Cymru ei hun. Pa gamau wnaiff Llywodraeth Cymru, Llywodraeth newydd Cymru, eu cymryd i roi sylw i'r amseroedd aros hirfaith hyn, sydd, fel y dywedais, wedi arwain at un o bob wyth o bobl ifanc yn aros mwy na 40 wythnos am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt, pan fo Llywodraeth Cymru wedi torri'r arian i CAMHS gan bron i 7 y cant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf? |
Well, no, that's not correct. Extra money has gone into CAMHS. CAMHS, in some ways, was the victim of its own success at the beginning. Once it was known that the service was there, GPs were far more able to refer into CAMHS, and, indeed, it's right to say that demand did become quite high. We then took steps, of course, to make sure the funding was available in order to meet that demand, and I fully expect to see waiting times reduce over time, as the money flows through the system. | Wel, na, nid yw hynny'n gywir. Mae arian ychwanegol wedi mynd i mewn i CAMHS. Dioddefodd CAMHS, mewn rhai ffyrdd, oherwydd ei lwyddiant ei hunan ar y cychwyn. Ar ôl iddi ddod yn hysbys bod y gwasanaeth ar gael, roedd hi'n llawer haws i feddygon teulu atgyfeirio i CAMHS, ac, yn wir, mae'n iawn i ddweud bod galw wedi mynd yn eithaf uchel. Gwnaethom gymryd camau wedyn, wrth gwrs, i sicrhau bod y cyllid ar gael er mwyn gallu ateb y galw hwnnw, ac rwy'n sicr yn disgwyl gweld amseroedd aros yn lleihau dros amser, wrth i'r arian lifo drwy'r system. |
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Last night's result shows that small countries can take on much bigger ones in the world and succeed, if they approach a task in the right spirit. I'm sure that Ken Skates will be an advantage to Wales whenever it's playing around the world, if he can produce results like last night's. But, reverting to the question that was asked by the leader of the opposition, there is no reason, is there, why a points-based immigration system, as there is in Australia, should in any way restrict the number of doctors coming to the UK, but it might enable us to restrict those who don't come for jobs, who compete with others. I wonder if he agrees with what Len McCluskey, the Labour Party's largest financial contributor, is reported as having said in the papers today, that opening borders to eastern European countries in 2004 has led to 'a gigantic experiment at the expense of ordinary workers', and has led to 'sustained pressure on living standards and a systematic attempt to hold down wages and cut the costs of social provision for working people.' | Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae canlyniad neithiwr yn dangos y gall gwledydd bach gystadlu yn erbyn rhai llawer mwy yn y byd a llwyddo, os byddant yn mynd i'r afael â thasg yn yr ysbryd cywir. Rwy'n siŵr y bydd Ken Skates o fantais i Gymru pryd bynnag y bydd yn chwarae o gwmpas y byd, os gall ef gyflawni canlyniadau tebyg i neithiwr. Ond, gan ddychwelyd at y cwestiwn a ofynnwyd gan arweinydd yr wrthblaid, nid oes unrhyw reswm, onid oes, pam ddylai system mewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fel y ceir yn Awstralia, gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar nifer y meddygon sy'n dod i'r DU, ond gallai ein galluogi i gyfyngu ar y rhai nad ydynt yn dod i gael swyddi, sy'n cystadlu ag eraill. Tybed a yw'n cytuno â'r hyn yr adroddwyd bod Len McCluskey, cyfrannwr ariannol mwyaf y Blaid Lafur, wedi ei ddweud yn y papurau heddiw, sef bod agor ffiniau i wledydd dwyrain Ewrop yn 2004 wedi arwain at arbrawf enfawr ar draul gweithwyr cyffredin, ac mae wedi arwain at pwysau cyson ar safonau byw ac ymgais systematig i gadw cyflogau'n isel a thorri costau darpariaeth gymdeithasol ar gyfer pobl sy'n gweithio. |
I haven't seen those comments. At the beginning, he seemed to be advocating Welsh independence, talking about small countries. I'm sure he'll explain his position a little later. I don't believe that, and I'll explain why: the reason why people are angry at the moment is they feel their jobs aren't secure. They remember the days when there were jobs available, when they had long-term contracts, when there were pensions at the end, when there was strong trade union recognition. Those rights were stripped away consistently over many, many years, and what we see now is too many people in jobs where the wages are lower, where there's casualisation, where there are zero-hours contracts and where trade union recognition is denied to them. We see that, of course, encapsulated in the last few weeks with Mike Ashley - that's the sort of future that we don't want to see on these benches, not by any stretch of the imagination. That's what drives people's anger. But, the reality is that the levels of migration will remain much the same as they are for the next few years at least, whatever happens. It's not a question of migrants causing the problem; it's a question of the fact that the law isn't strong enough, and trade union recognition isn't strong enough to make sure that people have the secure jobs that they need. I've no doubt at all that those people who advocate that we should leave the EU are not going to suddenly turn round and say, 'Let's go back to the days when there was strong trade union recognition, when we had higher wages, when we had longer-term contracts, we didn't have zero-hours contracts, when people had pensions at the end of their jobs.' I don't see any of that coming from the 'leave' campaign. | Nid wyf wedi gweld y sylwadau hynny. Ar y cychwyn, roedd yn ymddangos ei fod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, gan siarad am wledydd bychain. Rwy'n siŵr y bydd yn egluro ei safbwynt yn ddiweddarach. Nid wyf yn credu hynny, a byddaf yn esbonio pam: y rheswm pam mae pobl yn ddig ar hyn o bryd yw oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu swyddi yn ddiogel. Maen nhw'n cofio'r dyddiau pan oedd swyddi ar gael, pan roedd ganddyn nhw gontractau hirdymor, pan oedd pensiynau ar y diwedd, pan oedd cydnabyddiaeth gref o undeb llafur. Cymerwyd yr hawliau hynny oddi arnynt yn gyson dros flynyddoedd lawer iawn, a'r hyn yr ydym ni'n ei weld nawr yw gormod o bobl mewn swyddi lle mae'r cyflogau'n is, lle ceir cytundebau dros dro, lle ceir contractau dim oriau a lle nad oes cydnabyddiaeth undeb llafur ar gael iddynt. Rydym ni'n gweld hynny, wrth gwrs, yn cael ei grynhoi yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda Mike Ashley - dyna'r math o ddyfodol nad ydym ni eisiau ei weld ar y meinciau hyn, nid o bell ffordd. Dyna sy'n sbarduno dicter pobl. Ond, y gwir yw y bydd y lefelau mewnfudo yn parhau i fod yr un fath ag y maent dros yr ychydig flynyddoedd nesaf o leiaf, beth bynnag sy'n digwydd. Nid yw'n fater o fewnfudwyr yn achosi'r broblem; mae'n fater o ffaith nad yw'r gyfraith yn ddigon cryf, ac nid yw'r gydnabyddiaeth o undebau llafur yn ddigon cryf i wneud yn siŵr bod gan bobl y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt. Nid wyf yn amau o gwbl nad yw'r bobl hynny sy'n dadlau y dylem ni adael yr UE yn mynd i ddweud yn sydyn, 'Gadewch i ni fynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd cydnabyddiaeth o undebau llafur yn gryf, pan oedd gennym ni gyflogau uwch, pan oedd gennym ni gontractau hirdymor, pan nad oedd gennym ni gontractau dim oriau, pan oedd gan bobl bensiynau ar ddiwedd eu swyddi.' Nid wyf un gweld dim o hynny yn dod oddi wrth yr ymgyrch i adael. |
The First Minister seems to be denying that adding a city the size of Cardiff to our national population every year has no impact on wages. I have to tell him that the Bank of England disagrees with that. In a report that was published at the end of last year, the Bank of England said that a 10 per cent increase in immigration leads to a 2 per cent fall in wages for unskilled and semi-skilled people. So, although it may be very well for professional classes and people who want cleaners and gardeners and the like to have unlimited immigration, for those at the bottom of the income scale, this is very bad news indeed. | Ymddengys bod y Prif Weinidog yn gwadu bod ychwanegu dinas o faint Caerdydd at ein poblogaeth genedlaethol bob blwyddyn yn cael unrhyw effaith ar gyflogau. Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod Banc Lloegr yn anghytuno â hynny. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Banc Lloegr fod cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo yn arwain at ostyngiad o 2 y cant i gyflogau ar gyfer pobl heb sgiliau a lled-fedrus. Felly, er efallai fod popeth yn iawn i'r dosbarthiadau proffesiynol a phobl sydd eisiau glanhawyr a garddwyr ac yn y blaen gael mewnfudo diderfyn, mae hyn yn newyddion drwg iawn yn wir i'r rhai ar waelod y raddfa incwm. |
He should look at his own benches when it comes to employing those from eastern Europe, shouldn't he? I mean, the reality is, on the one hand, his party says, 'Well, of course, you have to stop people coming in', and on the other hand, quite happy to employ people when they are here. The reality is that, out of a population of 3 million in Wales, we have 47,000 people who are nationals of another EU state - it is a very small percentage. Many of those people are in skilled jobs: they are working in medicine, they are working in nursing, they are working in dentistry. I can show him, if he likes, in my own constituency, these people and the service that they contribute. The point is this: if you are a doctor and you wish to take your skills around Europe, you are far more likely to go somewhere where there are no barriers than a country where you have to fill in forms to work. It's simple human nature. The more barriers we put in place to skilled workers, the less likely they are to come here. | Dylai edrych ar ei feinciau ei hun pan ddaw i gyflogi'r rhai hynny o ddwyrain Ewrop, oni ddylai? Hynny yw, y gwir yw, ar y naill law, mae ei blaid ef yn dweud, 'Wel, wrth gwrs, mae'n rhaid i chi atal pobl rhag dod i mewn', ac ar y llaw arall, yn hapus iawn i gyflogi pobl pan fyddan nhw yma. Y gwir yw, o boblogaeth o 3 miliwn yng Nghymru, bod gennym ni 47,000 o bobl sy'n wladolion un o wladwriaethau eraill yr UE - mae'n ganran fach iawn. Mae llawer o'r bobl hynny mewn swyddi medrus: maen nhw'n gweithio ym maes meddygaeth, maen nhw'n gweithio ym maes nyrsio, maen nhw'n gweithio ym maes deintyddiaeth. Gallaf ddangos iddo, os hoffai, yn fy etholaeth fy hun, y bobl hyn a'r gwasanaeth y maen nhw'n ei gyfrannu. Y pwynt yw hyn: os ydych chi'n feddyg ac yn dymuno mynd â'ch sgiliau o gwmpas Ewrop, rydych chi'n llawer mwy tebygol o fynd i rywle lle nad oes rhwystrau nag i wlad lle mae'n rhaid i chi lenwi ffurflenni i weithio. Mae'n natur ddynol syml. Po fwyaf y rhwystrau yr ydym ni'n eu rhoi o flaen gweithwyr medrus, y lleiaf tebygol y maen nhw o ddod yma. |
Well, I think the First Minister has his head in the clouds on that, and huge numbers of ex-Labour voters take the same view. But it's not just about immigration bearing down on the living standards of ordinary people. There are many other ways in which the EU does this as well - the cost of the common agricultural policy, for example, which probably adds up to £500 a year on the household budgets of ordinary people; £500 a year for green taxes and other climate change levies; and, because of the tariffs that the EU imposes upon the import of the clothing from other parts of the world, the average amount that people spend on clothing, in the average household, is about £150 a year more than it would otherwise be. So, in so many ways, the EU is against the interests of ordinary people, those who are the most vulnerable in our society. | Wel, rwy'n meddwl bod pen y Prif Weinidog yn y cymylau yn hynny o beth, ac mae nifer fawr o gyn-bleidleiswyr Llafur o'r un farn. Ond nid yw'n ymwneud yn unig â mewnfudo yn rhoi pwysau ar safonau byw pobl gyffredin. Ceir llawer o ffyrdd eraill y mae'r UE yn gwneud hyn hefyd - cost y polisi amaethyddol cyffredin, er enghraifft, sydd yn ôl pob tebyg yn ychwanegu hyd at £500 y flwyddyn at gyllidebau cartrefi pobl gyffredin; £500 y flwyddyn ar gyfer trethi gwyrdd ac ardollau newid yn yr hinsawdd eraill; ac, oherwydd y tariffau y mae'r UE yn eu gorfodi ar fewnforio dillad o rannau eraill o'r byd, mae'r swm cyfartalog y mae pobl yn ei wario ar ddillad, mewn cartref cyffredin, tua £150 y flwyddyn yn fwy nag y byddai fel arall. Felly, mewn cymaint o ffyrdd, mae'r UE yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. |
I wonder if the leader of the Conservatives heard that, with the common agricultural policy. So much for his guarantees - he's just heard it from UKIP that they want to get rid of the common agricultural policy. That means, of course, getting rid of subsidies. It means allowing in more New Zealand lamb at a cheaper price - that's what it means - it means taking away the protections of our farmers, taking away the subsidies they receive. That's what he means by that. He hasn't thought through what he said - [Interruption.] He's embarrassed now, the leader of the Conservatives, at being on the same side - I'm not surprised he's embarrassed about being on the same side as UKIP on this. What he has just proposed, the leader of UKIP, would mean that farmers would lose money, they would not be able to export at a reasonable price to the European market, New Zealand lamb would come in cheaper because there would be no tariffs because of free trade, and our farmers would be obliterated. Now we know the truth of what the right are saying - that they want to make sure that our farmers lose the protection that Europe provides. | Tybed a glywodd arweinydd y Ceidwadwyr hynna, o ran y polisi amaethyddol cyffredin. Dyna ddiwedd ar ei warantau - mae ef newydd glywed gan UKIP eu bod nhw eisiau cael gwared ar y polisi amaethyddol cyffredin. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, cael gwared ar gymorthdaliadau. Mae'n golygu caniatáu mwy o gig oen Seland Newydd am bris rhatach - dyna mae'n ei olygu - mae'n golygu cymryd amddiffyniadau ein ffermwyr oddi wrthynt, cymryd y cymorthdaliadau a gânt oddi wrthynt. Dyna mae'n ei olygu wrth ddweud hynny. Nid yw wedi ystyried yn fanwl yr hyn a ddywedodd - [Torri ar draws.] Mae'n teimlo embaras nawr, arweinydd y Ceidwadwyr, o fod ar yr un ochr - nid wyf yn synnu ei fod yn teimlo embaras am fod ar yr un ochr ag UKIP ar hyn. Byddai'r hyn y mae newydd ei gynnig, arweinydd UKIP, yn golygu y byddai ffermwyr yn colli arian, ni fyddent yn gallu allforio am bris rhesymol i'r farchnad Ewropeaidd, byddai cig oen Seland Newydd yn dod i mewn yn rhatach gan na fyddai unrhyw dariffau oherwydd masnach rydd, a byddai ar ben ar ein ffermwyr. Nawr rydym ni'n gwybod y gwir am yr hyn y mae'r dde yn ei ddweud - eu bod nhw eisiau gwneud yn siŵr bod ein ffermwyr yn colli'r amddiffyniad y mae Ewrop yn ei gynnig. |
We demand the highest standards of care for the people of Wales. We have put in place rigorous outcome and standards frameworks, effective performance management arrangements, as well as robust regulation and inspection regimes, which drive service improvement and quality. | Rydym ni'n mynnu'r safonau uchaf o ofal i bobl Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno fframweithiau canlyniadau a safonau trylwyr, trefniadau rheoli perfformiad effeithiol, yn ogystal â threfnau rheoleiddio ac arolygu cadarn, sy'n sbarduno gwelliant ac ansawdd mewn gwasanaethau. |
Thank you, First Minister. Following the recent publication of the fundamentals of care survey conducted in all hospitals across Wales, it was revealed that overall patient satisfaction with the NHS remains extremely high, with 98 per cent of patients documenting that they were made to feel safe and 99 per cent saying that they were treated with dignity and respect. These positive findings are welcome news and a testament to the high-quality work at the heart of the Welsh NHS, which was reiterated by the Organisation for Economic Co-operation and Development report earlier this year. Will the First Minister join me in welcoming these results, which demonstrate that Welsh Labour have not wavered in our efforts to confront the challenges that we face in the NHS? And would you agree with me that it is crucial that the Welsh Government continues to build upon this and remains committed to excellence in care across the Welsh NHS? | Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr arolwg hanfodion gofal a gynhaliwyd ym mhob ysbyty ledled Cymru, datgelwyd bod boddhad cyffredinol cleifion â'r GIG yn dal i fod yn hynod o uchel, wrth i 98 y cant o gleifion gofnodi y gwnaed iddynt deimlo'n ddiogel a 99 y cant yn dweud eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch. Mae'r canfyddiadau cadarnhaol hyn yn newyddion i'w croesawu ac yn dyst i'r gwaith o ansawdd uchel sy'n ganolog i'r GIG yng Nghymru, a bwysleisiwyd gan adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gynharach eleni. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i groesawu'r canlyniadau hyn, sy'n dangos nad yw Llafur Cymru wedi simsanu yn ein hymdrechion i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau yn y GIG? A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ragoriaeth mewn gofal ar draws y GIG yng Nghymru? |
Well, can I thank the Member for that question? I fully agree: we do remain committed to excellent, high-quality care across Wales. As we've said before, the OECD report confirms that not one system across the UK is outperforming another. Whilst there was much to be satisfied with in that report, there is still work to do in some areas - that much is clear. We cannot be satisfied 100 per cent. We look to health boards to make sure that they fulfil their potential as organisations that can deliver the services that people expect. | Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna? Rwy'n cytuno'n llwyr: rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i ofal rhagorol, o ansawdd uchel ledled Cymru. Fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r blaen, mae adroddiad yr OECD yn cadarnhau nad oes yr un system ar draws y DU yn perfformio'n well nag un arall. Er bod llawer i fod yn fodlon ag ef yn yr adroddiad hwnnw, mae gwaith i'w wneud mewn rhai meysydd o hyd - mae cymaint â hynny'n eglur. Ni allwn fod yn fodlon 100 y cant. Rydym ni'n disgwyl i fyrddau iechyd wneud yn siŵr eu bod yn gwireddu eu potensial fel sefydliadau sy'n gallu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn eu disgwyl. |
First Minister, key aims in the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 are integrated consistency and co-operation in the delivery of services, yet the reality in Wales, here, is that there are 34 per cent of patients waiting well over six weeks for transfer home from an NHS bed. I know first-hand, from many casework issues arising, and indeed from recent personal experience, that the communication link between the health and social care practitioners is actually very poor and often leads to delays and a lack of provision of services for when people return home, often quite vulnerable. A joined-up approach in terms of occupational therapy, physiotherapy and district nurse care is essential, but very rarely available joined up. Through your three-year evaluation of this Act, how will you address these barriers in order to meet the pledges contained within your Government's Act, to make it meaningful and relevant to those very people who desperately depend on it? | Brif Weinidog, mae cysondeb wedi'i integreiddio a chydweithredu i ddarparu gwasanaethau yn nodau allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac eto, y gwir amdani yng Nghymru, yma, yw bod 34 y cant o gleifion yn aros ymhell dros chwe wythnos i ddychwelyd adref o wely GIG. Rwy'n gwybod yn uniongyrchol, o faterion gwaith achos sydd wedi codi, ac o brofiad personol diweddar yn wir, bod y cyswllt cyfathrebu rhwng yr ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn wael iawn mewn gwirionedd ac yn aml yn arwain at oedi a diffyg darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pan fydd pobl yn dychwelyd adref, yn aml yn agored iawn i niwed. Mae dull cydgysylltiedig o ran therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a gofal nyrs ardal yn hanfodol, ond anaml iawn y maent ar gael yn gydgysylltiedig. Drwy eich gwerthusiad tair blynedd o'r Ddeddf hon, sut gwnewch chi fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn er mwyn cyflawni'r addewidion sydd wedi'u cynnwys yn Neddf eich Llywodraeth, i'w gwneud yn ystyrlon ac yn berthnasol i'r union bobl hynny sydd wir yn dibynnu arni? |
Well, we saw the level of delays reduce by 7.6 per cent in April, and a further 2.6 per cent fall was reported in May. The number of patients delayed in acute beds also fell in May: down 7 per cent on the previous month. There was a significant decrease in the number of patients waiting to leave mental health facilities: a 20 per cent decrease. Provisions in the Act - the Social Services and Well-being (Wales) Act, that is - will ensure far more collaborative working between health and social services, which I'm sure all parties want to see. The regional partnerships, led by health boards, will ensure that fewer and fewer people have to wait longer than they need before they can leave hospital. | Wel, gwelsom lefel yr oediadau'n gostwng 7.6 y cant ym mis Ebrill, ac adroddwyd gostyngiad pellach o 2.6 y cant ym mis Mai. Gostyngodd nifer y cleifion a gadwyd mewn gwelyau acíwt ym mis Mai hefyd: gostyngiad o 7 y cant o'r mis blaenorol. Bu gostyngiad sylweddol i nifer y cleifion sy'n aros i adael cyfleusterau iechyd meddwl: gostyngiad o 20 y cant. Bydd darpariaethau yn y Ddeddf - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), hynny yw - yn sicrhau llawer mwy o weithio ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yr wyf yn siŵr yr hoffai pob ochr ei weld. Bydd y partneriaethau rhanbarthol, a arweinir gan fyrddau iechyd, yn sicrhau y bydd yn rhaid i lai a llai o bobl aros yn hwy nag y dylent cyn y gallant adael yr ysbyty. |
We are funding enhancements to the Ebbw Vale line, which, of course, we reopened, that will allow for additional services to be introduced in the future, improving stations and, of course, improving bus connectivity. | Rydym ni'n ariannu gwelliannau i reilffordd Glynebwy, a ailagorwyd gennym, wrth gwrs, a fydd yn caniatáu i wasanaethau ychwanegol gael eu cyflwyno yn y dyfodol, gan wella gorsafoedd ac, wrth gwrs, gwella cysylltedd bws. |
Okay. Thank you for that answer. The scheme to reintroduce passenger services back to the Ebbw Vale railway line between Ebbw Vale and Cardiff, including stations at Risca and Pontymister, Crosskeys and Newbridge, has been a resounding success with the public. A great part has been funded by EU structural funding; i.e. it would not have happened if it had been left to the Tory cuts that have occurred in Wales. Will the First Minister provide an update on how Welsh Government is both progressing and facilitating the process within which the communities that I represent, served by the Ebbw Vale railway line, can access the great city of Newport as soon as possible, to ensure critical connectivity for jobs, markets and community regeneration? Would he also comment on the importance of EU funding in such critical infrastructure projects for the future? | Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau'r Torïaid sydd wedi digwydd yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ac yn hwyluso'r broses y gall y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli, sy'n cael eu gwasanaethu gan reilffordd Glynebwy, ei defnyddio i gael mynediad at ddinas fawr Casnewydd cyn gynted â phosibl, er mwyn sicrhau cysylltedd hanfodol ar gyfer swyddi, marchnadoedd ac adfywio cymunedol? A wnaiff ef hefyd gynnig sylwadau ar bwysigrwydd arian yr UE mewn prosiectau seilwaith hanfodol o'r fath ar gyfer y dyfodol? |
Well, it's right to say that the Ebbw Vale line would not have been reopened without European funding. The metro cannot go ahead without European money. There are those who say that the money will be made up penny for penny by Whitehall. I believe that that is cloud-cuckoo-land, if I'm quite honest with you. I've spent many years in this Chamber fighting Whitehall for funding, ensuring that we have a proper funding floor, ensuring that the Barnett formula is reviewed, and the results have not been happy ones for Wales. I don't believe for one millisecond that the money we currently receive from Europe will be transferred to us, straight, without a cut being taken by Whitehall. We saw it with council tax benefit: we had it devolved, but only 90 per cent of the budget was given to us. There is form here. We know this money will come to Wales. We're investing £40 million to improve service frequency and line speeds, and that investment will allow services to Newport, which will be considered as we procure the next Wales and borders franchise and the next phase of the south Wales metro, if the European money is there. | Wel, mae'n iawn i ddweud na fyddai rheilffordd Glynebwy wedi cael ei hailagor heb gyllid Ewropeaidd. Ni all y metro fynd yn ei flaen heb arian Ewropeaidd. Ceir rhai sy'n dweud y bydd yr arian yn cael ei gyfateb geiniog am geiniog gan Whitehall. Rwy'n credu mai byw yng ngwlad y tylwyth teg yw hynny, a bod yn gwbl onest â chi. Rwyf wedi treulio blynyddoedd lawer yn y Siambr hon yn ymladd Whitehall am gyllid, gan sicrhau bod gennym ni sail cyllid gwaelodol briodol, gan sicrhau bod fformiwla Barnett yn cael ei adolygu, ac nid yw'r canlyniadau wedi bod yn rhai hapus i Gymru. Nid wyf yn credu am un eiliad bach y bydd yr arian yr ydym ni'n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd yn cael ei drosglwyddo i ni, yn uniongyrchol, heb i Whitehall gymryd cyfran. Fe'i gwelsom gyda'r budd-dal treth gyngor: fe'i datganolwyd i ni, ond dim ond 90 y cant o'r gyllideb a roddwyd i ni. Ceir hanes yma. Rydym ni'n gwybod y bydd yr arian hwn yn dod i Gymru. Rydym ni'n buddsoddi £40 miliwn i wella amlder gwasanaethau a chyflymder rheilffyrdd, a bydd y buddsoddiad hwnnw yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd, a fydd yn cael eu hystyried wrth i ni gaffael y fasnachfraint Cymru a'r gororau nesaf a cham nesaf metro de Cymru, os bydd yr arian Ewropeaidd ar gael. |
A crucial development for transport for people in Islwyn and across the wider region, of course, would be the creation of a full metro system as part of a wider economic and social policy, but what assurances can the First Minister give to me that at the heart of this approach will be the aim of spreading job creation across the south-east region, so that communities there become growth areas in their own right rather than being little more than simply commuter communities for the capital? | Un datblygiad hanfodol i drafnidiaeth ar gyfer pobl yn Islwyn ac ar draws y rhanbarth ehangach, wrth gwrs, fyddai creu system fetro lawn yn rhan o bolisi economaidd a chymdeithasol ehangach, ond pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi i mi y bydd y nod o ledaenu cread swyddi ar draws ranbarth y de-ddwyrain, fel bod cymunedau yno'n troi yn ardaloedd twf ynddynt eu hunain yn hytrach na bod yn fawr mwy na chymunedau cymudo i'r brifddinas? |
To me, it works both ways. It is right to say that many thousands of people commute into Cardiff every day. That's going to continue, but it's also important that we connect communities to bring investment up from the M4 as well. So, it works both ways, not just physical connectivity, but broadband as well, because we know that broadband, in the twenty-first century, is the equivalent of railway lines in the nineteenth century, and it's hugely important to make sure that communities are connected to broadband so it doesn't make a difference, if you've got a digital business, for example, where you're based: you don't have to be in Cardiff, you can be in any community around Wales. The two things, to me, run together. And yes, it does mean it's easier for people to access some jobs in Cardiff, true, but also easier to bring investment up from the traditional areas around the M4. | I mi, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Mae'n iawn i ddweud bod miloedd o bobl yn cymudo i Gaerdydd bob dydd. Mae hynny'n mynd i barhau, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn cysylltu cymunedau i ddod â buddsoddiad i fyny o'r M4 hefyd. Felly, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, nid yn unig cysylltedd ffisegol, ond band eang hefyd, gan ein bod ni'n gwybod bod band eang, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn cyfateb i reilffyrdd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae'n hynod o bwysig gwneud yn siŵr bod cymunedau wedi'u cysylltu â band eang fel nad yw'n gwneud gwahaniaeth, os oes gennych chi fusnes digidol, er enghraifft, ym mhle yr ydych chi wedi eich lleoli: nid oes rhaid i chi fod yng Nghaerdydd, gallwch fod mewn unrhyw gymuned ledled Cymru. Mae'r ddau beth, i mi, yn cyd-fynd. Ac ydy, mae'n golygu ei bod yn haws i bobl gael mynediad at rai swyddi yng Nghaerdydd, gwir, ond mae hefyd yn haws dod â buddsoddiad i fyny o'r ardaloedd traddodiadol o gwmpas yr M4. |
First Minister, a businessman claimed recently that traffic problems were having a damaging effect on businesses in Newport. One of the reasons he gave for this increased traffic was the fact that the valley line train from Newbridge, where he lives, bypassed Newport. Minister, in 2007 and 2008 promises were made in this Chamber by the then economic Minister that, prior to the Ryder Cup, the train connection between Newport and the valley line and Cardiff would be made, but that never happened - so, basically, continuous promises by your Government, but connectivity of the main line from the valley line to Newport is bypassed by Pye Corner. What action can the Welsh Government take now, before the south Wales metro project is completed, to improve connectivity between Islwyn and Newport? | Brif Weinidog, honnodd gŵr busnes yn ddiweddar bod problemau traffig yn cael effaith niweidiol ar fusnesau yng Nghasnewydd. Un o'r rhesymau a roddodd am y cynnydd hwn mewn traffig cynyddol oedd y ffaith fod y trên rheilffordd y cymoedd o Drecelyn, lle mae'n byw, yn osgoi Casnewydd. Weinidog, yn 2007 a 2008, gwnaed addewidion yn y Siambr hon gan y Gweinidog dros yr economi ar y pryd, cyn Cwpan Ryder, y byddai'r cysylltiad trên rhwng Casnewydd a rheilffordd y cymoedd a Chaerdydd yn cael ei wneud, ond ni ddigwyddodd hynny - felly, yn y bôn, addewidion parhaus gan eich Llywodraeth, ond mae cysylltedd y brif reilffordd o reilffordd y cymoedd i Gasnewydd yn cael ei osgoi trwy Pye Corner. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr, cyn i brosiect metro de Cymru gael ei gwblhau, i wella cysylltedd rhwng Islwyn a Chasnewydd? |
I think I answered that question from the Member - I did say earlier on that the investment that we're making will allow services to Newport. We considered that as part of the procurement for the next franchise. | Rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn yna gan yr Aelod - dywedais yn gynharach y bydd y buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn galluogi gwasanaethau i Gasnewydd. Ystyriwyd hynny gennym yn rhan o'r broses gaffael ar gyfer y fasnachfraint nesaf. |
I've made it clear that I will only support the devolution of further tax powers if there is a fair fiscal framework. Discussions are under way and I expect the UK Government to be good to their word and agree a fair and strong funding deal. | Rwyf wedi ei gwneud yn eglur y byddaf yn cefnogi datganoli pwerau trethi pellach dim ond os bydd fframwaith cyllidol teg. Mae trafodaethau ar y gweill ac rwy'n disgwyl i Lywodraeth y DU gadw ei gair a chytuno bargen gyllido deg a chryf. |
I'm getting predictable - you've anticipated my supplementary, First Minister. You mentioned in answer to the last question the challenges that face us in getting adequate funds from the Treasury. Certainly, following the devolution of taxes, it's going to be crucial that that fiscal framework is in place so that any subsequent deductions from the block grant are actually not going to short-change Wales. Can you update us on your discussions regarding progress towards a fiscal framework? | Mae'n dod yn hawdd darogan fy sylwadau - rydych chi wedi rhagweld fy nghwestiwn atodol, Brif Weinidog. Soniasoch wrth ateb y cwestiwn diwethaf am yr heriau sy'n ein hwynebu o ran cael cyllid digonol gan y Trysorlys. Yn sicr, ar ôl datganoli trethi, mae'n mynd i fod yn hanfodol bod y fframwaith ariannol ar waith fel nad yw unrhyw ddidyniadau dilynol o'r grant bloc yn mynd i gynnig bargen wael i Gymru mewn gwirionedd. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau ynghylch cynnydd tuag at fframwaith cyllidol? |