source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Thank you very much. This model has been working in England for years, for decades. Why, in your view, is this model only a pilot here in Wales? Why is it just a pilot, because it's worked in England for years? So, I want to hear exactly why it's still in pilot form here in Wales. Thank you.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r model yma wedi bod yn gweithio dros Loegr am flynyddoedd - am ddegawdau, i ddweud y gwir. Pam, yn eich barn chi, ydy'r model yma jest yn beilot yng Nghymru? Pam mae o jest yn beilot, achos mae wedi gweithio yn Lloegr am flynyddoedd? Felly, dwi eisiau clywed yn union pam mae o'n beilot yma yng Nghymru. Diolch.
Just one follow-up question. It has worked in England, we've seen that. I'm still not quite clear, apart from funding issues, why we're not seeing it rolled out across Wales, because it has worked in terms of what's good for children and families. So, I'd like you to be honest with the committee. Peter, you're smiling.
Jest un cwestiwn ychwanegol. Mae o wedi gweithio yn Lloegr - rydyn ni wedi'i weld o. Dwi dal ddim yn glir, heblaw efallai arian, pam ein bod ni jest ddim yn gweld o dros Gymru, achos mae o wedi gweithio ynglŷn â beth sy'n dda i blant ac i deuluoedd. Felly, ydy o'n arian? Dwi eisiau i chi fod yn onest, os mae hynny'n iawn, efo'r pwyllgor. Diolch yn fawr iawn. Peter, rydych chi'n gwenu.
Thank you. Just another question on funding - as I recall, this began in London, and the courts provided funding at the outset; in Westminster, I think that's where it was established. Do the courts provide funding for this pilot too in Wales?
Diolch yn fawr. Jest cwestiwn arall ynglŷn ag arian - fel dwi'n cofio, roedd hwn yn dechrau yn Llundain, ac roedd y llysoedd yn rhoi'r arian i fewn pan oedd yn dechrau; yn Westminster, dwi'n meddwl oedd e'n dechrau. Ydy'r llysoedd yn rhoi arian i fewn i'r peilot yma yng Nghymru hefyd?
And another brief question. I think this is focusing on 15 families. The research is looking at 15 families - is that right? Is that sufficient in your view to ensure that it will have the impact, and to ensure that people listen and hear, that it is working, and it's effective and that it could be rolled out across Wales? Is that sufficient? That's perhaps a question for those who are involved in the research; I'm not sure what the threshold should be.
A jest cwestiwn byr arall. Mae hyn yn edrych ar, dwi'n meddwl, 15 o deuluoedd. Ydy hynny'n iawn - yr ymchwil yn edrych ar 15 o deuluoedd? Ydy hynny'n ddigon, yn eich barn chi, i wneud yn siŵr fod o am gael yr effaith, a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ac yn clywed, fod o'n gweithio, ac mae o'n mynd dros Gymru? Ydy hynny'n ddigon? Ac efallai fod hynny'n gwestiwn i'r bobl sydd yn gwneud yr ymchwil; dwi ddim yn siŵr am y threshold.
Just a quick question on the evaluation. Will you be looking at the financial benefits of the pilot, namely the money that, probably, it will save in the long term?
Ie, jest cwestiwn cyflym am y gwerthusiad. A fyddwch chi yn edrych ar fuddion ariannol i'r peilot, hynny yw yr arian fydd e siŵr o fod yn arbed yn y tymor hir?
Just briefly. Now, just in terms of ensuring that families that come to FDAC also go through pre-proceedings. Can you confirm that? So, they've had an opportunity for pre-proceedings.
Jest un cwestiwn byr, os gwelwch yn dda. Jest i sicrhau bod y teuluoedd sy'n dod i FDAC yn mynd trwy pre-proceedings hefyd, felly maen nhw wedi cael y cyfle i gael pre-proeceedings.
Good afternoon, all, and welcome to this Plenary meeting. The first item on the agenda this afternoon is questions to the Minister for Climate Change, and the first question is to be answered by the Deputy Minister, and to be asked by Siân Gwenllian.
Prynhawn da, bawb, a chroeso i'r Cyfarfod Llawn hwn. Y cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac i'w ofyn gan Siân Gwenllian.
Diolch. One of the aims of 'Llwybr Newydd', the Wales transport strategy, is to reduce the cost of sustainable travel for everyone in Wales, including young people. We are working towards an accessible transport system across the nation and have a number of initiatives aimed at younger travellers.
Diolch. Un o nodau 'Llwybr Newydd', strategaeth drafnidiaeth Cymru, yw lleihau cost teithio cynaliadwy i bawb yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc. Rydym yn gweithio tuag at system drafnidiaeth hygyrch ledled y wlad ac mae gennym nifer o gynlluniau wedi'u hanelu at deithwyr iau.
It's good to hear that there are plans in the pipeline, and, of course, we need to extend them and to bring new plans forward too. But in rural parts of my constituency, it's not the cost of travelling on buses that's the only problem. There's a lack of bus services in the first instance, with some communities without a way to travel at all at times, because there are no trains, metro, appropriate cycling routes, nor are there bus services at some times of the day. Now, Yr Orsaf in Penygroes is developing a project to support residents, including young people, who face barriers because of a lack of public transport in dyffryn Nantlle, with the support of the dyffryn Nantlle community transport partnership. Is community transport an area that you as a Deputy Minister want to see developing in the future, and, if this is a priority for you, how much funding has been earmarked for encouraging this kind of transport in the Government's draft budget for the next financial year?
Mae'n dda clywed bod yna gynlluniau ar y gweill, ac, wrth gwrs, mae angen eu hymestyn nhw a dod â chynlluniau newydd ymlaen hefyd. Ond yn rhannau gwledig fy etholaeth i, nid cost teithio ar fysus ydy'r unig broblem. Mae yna brinder bysus yn y lle cyntaf, gyda rhai cymunedau heb ffordd o deithio o gwbl ar adegau, gan nad oes yna ddim trenau, metro, llwybrau seiclo addas, nac ychwaith wasanaeth bysus ar rai adegau o'r dydd. Mae Yr Orsaf ym Mhenygroes yn datblygu prosiect i gefnogi trigolion, gan gynnwys pobl ifanc, sy'n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidiaeth cyhoeddus yn nyffryn Nantlle, a hynny efo cefnogaeth partneriaeth trafnidiaeth gymunedol dyffryn Nantlle. Ydy trafnidiaeth gymunedol yn faes yr ydych chi fel Dirprwy Weinidog am ei weld yn datblygu i'r dyfodol, ac felly, os ydy hyn yn flaenoriaeth gennych chi, faint o gyllid sydd wedi ei glustnodi ar gyfer annog y math yma o drafnidiaeth yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf?
Thank you. A number of points there. I'm familiar with the work of Partneriaeth Ogwen and have visited some of their schemes - they're an outstanding organisation. I was particularly struck by the scheme we've been funding them for to retrofit bicycles, to add a battery to them, which, particularly in rural areas, particularly hilly areas, is a really practical thing that we can do to help people who don't have easy access to a car or to public transport. We know that, for generations, we've been favouring investment into road schemes, for those people who have cars, and, over time, have been neglecting public transport, and we've seen usage decline, we've seen routes shrink and we've seen fares go up. So, that is one of the reasons why we're bringing forward our bus Bill, to redesign the service, and it's one of the reasons why we'll be publishing the roads review next Tuesday, to, over time, shift resource from car-based schemes to schemes for everyone. In the meantime, we do have some really difficult financial challenges, and we are seeing bus schemes being withdrawn, which illustrates the problem we have with the privatised system, because there is no strategic overview to this - it's being done randomly by bus companies. And then, we have the further problem, particularly in rural Wales, where bus companies are struggling to keep their business model going, and the cost of energy is really stopping them being able to run routes, and they're not tendering for fresh services. So, we have a range of challenges facing us, but the fundamental problem is the lack of investment that we have. Because we have prioritised other things, including as part of the co-operation agreement. We could have chosen to prioritise public transport; we chose other things, and we have to do the best we can with what we've got. But, clearly, as part of our modal shift and the net-zero targets, we need to shift resource far more into public transport.
Diolch. Nifer o bwyntiau yno. Rwy'n gyfarwydd â gwaith Partneriaeth Ogwen, ac wedi ymweld â rhai o'u cynlluniau - maent yn sefydliad rhagorol. Roeddwn yn arbennig o hoff o'r cynllun rydym wedi bod yn eu hariannu i ôl-osod beiciau, i osod batri arnynt, sydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac yn enwedig mewn ardaloedd bryniog, yn beth ymarferol iawn y gallwn ei wneud i helpu pobl nad oes ganddynt fynediad hawdd at gar neu drafnidiaeth gyhoeddus. Gwyddom ein bod, ers cenedlaethau, wedi bod yn ffafrio buddsoddiad mewn cynlluniau ffyrdd, ar gyfer y bobl sydd â cheir, a'n bod, dros amser, wedi bod yn esgeuluso trafnidiaeth gyhoeddus, ac rydym wedi gweld dirywiad yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, rydym wedi gweld dirywiad yn nifer y llwybrau teithio, ac rydym wedi gweld prisiau'n codi. Felly, dyna un o'r rhesymau pam ein bod yn cyflwyno ein Bil bysiau, i ailgynllunio'r gwasanaeth, ac mae'n un o'r rhesymau pam y byddwn yn cyhoeddi'r adolygiad ffyrdd ddydd Mawrth nesaf, er mwyn symud adnoddau, dros amser, o gynlluniau sy'n seiliedig ar geir i gynlluniau ar gyfer pawb. Yn y cyfamser, mae gennym heriau ariannol anodd iawn, ac rydym yn gweld cynlluniau bysiau yn cael eu diddymu, sy'n dangos y broblem sydd gennym gyda'r system sydd wedi'i phreifateiddio, gan nad oes trosolwg strategol dros hyn - mae'n cael ei wneud ar hap gan gwmnïau bysiau. Ac yna, mae gennym y broblem bellach, yn enwedig yn y Gymru wledig, lle mae cwmnïau bysiau'n ei chael hi'n anodd cynnal eu model busnes, ac mae cost ynni'n eu hatal rhag gallu darparu llwybrau teithio, ac nid ydynt yn tendro am wasanaethau newydd. Felly, mae ystod o heriau yn ein hwynebu, ond y broblem sylfaenol yw'r diffyg buddsoddiad sydd gennym. Oherwydd rydym wedi blaenoriaethu pethau eraill, gan gynnwys yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Gallem fod wedi dewis blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus; fe ddewisom ni bethau eraill, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau a allwn gyda'r hyn sydd gennym. Ond yn amlwg, fel rhan o'n hymdrech i newid dulliau teithio a'r targedau sero net, mae angen inni symud adnoddau i raddau mwy o lawer tuag at drafnidiaeth gyhoeddus.
I just want to echo the comments raised by the Member for Arfon, and recognise that this important focus is required on public transport, especially for rural areas, in areas like Arfon and across north Wales - the region I represent, of course. Deputy Minister, I'm sure you are an avid reader of the Welsh Conservative manifesto, especially the one for the 2021 Senedd elections. In that, we as Conservatives called for free bus travel and discounted rail travel for 16 to 24-year-olds, to help our young people access education, training and employment. This of course could embed that modal shift that you and I are so keen to see, whilst also supporting our environment, so importantly. So, in light of this, Minister, what consideration have you and the Welsh Government given to this type of idea, to see that free access to buses for our young people, so we can see that modal shift whilst also supporting our environment? Thank you very much.
Hoffwn adleisio'r sylwadau a godwyd gan yr Aelod dros Arfon, a chydnabod bod angen y ffocws pwysig hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, mewn ardaloedd fel Arfon ac ar draws gogledd Cymru - y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, wrth gwrs. Ddirprwy Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn un o ddarllenwyr brwd maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig yr un ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021. Ynddo, roeddem ni fel y Ceidwadwyr yn galw am deithiau bws am ddim a theithiau trên am bris gostyngol i bobl ifanc 16 i 24 oed, i helpu ein pobl ifanc i gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Wrth gwrs, gallai hyn sicrhau'r newid rydych chi a minnau mor awyddus i'w weld yn ein dulliau teithio, gan gefnogi ein hamgylchedd ar yr un pryd, sydd mor bwysig. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, pa ystyriaeth rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r math hwn o syniad, i sicrhau teithio am ddim ar fysiau i'n pobl ifanc, fel y gallwn weld newid mewn dulliau teithio a chefnogi ein hamgylchedd hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Well, there's no doubt that, if we had lower prices, we'd have higher use. There are schemes right across the world, including free bus use in Normandy and elsewhere, and free bus schemes in Wales, in Cardiff and Swansea and Newport, for short periods, which have shown an uptake in usage. So, we know that, when fares drop, people are more likely to use it. There's no shortage of opportunities and ideas to increase usage and to reduce fares, and incentivise people to use public transport. The challenge always is the resource. So, I'm not sure how the Conservatives plan to fund that initiative that they had in their manifesto, but there are no easy options that I'm aware of to do just that. We do have an offer on buses where people aged between 16 and 21 have a third off an adult bus ticket, and we've been doing a lot of work, as part of our commitment to a fairer fares regime, to model what we could achieve if we had much lower bus fares. And the figures are all very encouraging; the resource is the challenge.
Wel, nid oes unrhyw amheuaeth y byddai gennym fwy o ddefnydd pe bai gennym brisiau is. Mae cynlluniau ar waith ledled y byd, gan gynnwys y defnydd o fysiau am ddim yn Normandi a mannau eraill, a chynlluniau bysiau am ddim yng Nghymru, yng Nghaerdydd ac Abertawe a Chasnewydd, am gyfnodau byr, sydd wedi dangos cynnydd mewn defnydd. Felly, pan fydd prisiau'n gostwng, gwyddom fod pobl yn fwy tebygol o'u defnyddio. Nid oes prinder cyfleoedd a syniadau i gynyddu defnydd a lleihau prisiau tocynnau, a chymell pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Yr her bob amser yw'r adnoddau. Felly, nid wyf yn siŵr sut mae'r Ceidwadwyr yn bwriadu ariannu'r cynllun a oedd ganddynt yn eu maniffesto, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw opsiynau hawdd i wneud hynny. Mae gennym gynnig ar fysiau lle mae pobl rhwng 16 a 21 oed yn cael traean oddi ar docyn bws oedolyn, ac rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith, fel rhan o'n hymrwymiad i drefn brisiau siwrneiau decach, ar fodelu'r hyn y gallem ei gyflawni pe bai gennym docynnau bysiau llawer rhatach. Ac mae'r holl ffigurau'n galonogol iawn; yr adnoddau yw'r her.
Thank you, Janet. The Welsh Government is investing £293 million in reducing flood risk to coastal communities across Wales through our coastal risk management programme. This will reduce flood risk to over 15,000 properties, and includes, for example, more than £19 million of investment in Aberconwy. An interactive map showing our investment is published online.
Diolch, Janet. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £293 miliwn mewn lleihau perygl llifogydd i gymunedau arfordirol ledled Cymru drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol. Bydd hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd i dros 15,000 eiddo, ac mae'n cynnwys, er enghraifft, mwy na £19 miliwn o fuddsoddiad yn Aberconwy. Mae map rhyngweithiol yn dangos ein buddsoddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein.
Thank you, Minister. I'm sure you're aware that, in 2014, our lovely sandy beach, north shore, Llandudno, received, without any notice, the dumping of some 50,000 tonnes of freshly and dirty quarried rock. At the time, it was described as 'shingle'. The town was in uproar, with residents, visitors and business owners still angry to this day. I can recall our sea washing up a white, milky froth for around three weeks, whilst this was described at the time as 'clean and inert shingle.' Now, in 2023 - well, sooner than that, actually - we're now aware of the several options that have been brought forward to you to bring forward a new sea water flood defence scheme. One of the options is to implement a scheme that would replace sand, and stage 1 was even supported. I cannot overemphasise my immense disappointment that this scheme now will not be supported, as you feel that the cost outweighs the aesthetic benefits of using sand renourishment. Llandudno is the queen of the Welsh resorts, and the jewel in the crown -
Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, yn 2014, fod oddeutu 50,000 tunnell o graig chwarel ffres a budr wedi cael ei ddympio heb unrhyw rybudd ar ein traeth tywodlyd hyfryd, traeth y gogledd yn Llandudno. Ar y pryd, fe'i gelwid yn 'raean'. Roedd y dref yn gandryll, gyda thrigolion, ymwelwyr a pherchnogion busnesau yn dal yn flin hyd heddiw. Gallaf gofio'r ewyn llaethog, gwyn yn cael ei olchi i'r lan am oddeutu tair wythnos, a'i fod yn cael ei alw ar y pryd yn 'raean glân ac anadweithiol.' Nawr, yn 2023 - wel, cyn hynny, a dweud y gwir - rydym bellach yn ymwybodol o'r nifer o opsiynau a gynigiwyd i chi i gyflwyno cynllun amddiffynfeydd llifogydd o'r môr newydd. Un o'r opsiynau yw gweithredu cynllun a fyddai'n ailgyflenwi tywod, a chefnogwyd cam 1 hyd yn oed. Ni allaf orbwysleisio fy siom aruthrol na fydd y cynllun hwn yn cael ei gefnogi mwyach, gan eich bod yn teimlo bod y gost yn ormod o gymharu â manteision esthetig adfer tywod. Llandudno yw brenhines cyrchfannau Cymru, a phrif drysor -
I'm going to have to call you to ask your question now, because I'm about to ask you to ask your spokespeople questions, of which there are three. So, can you ask your question?
Rwy'n mynd i orfod galw arnoch i ofyn eich cwestiwn nawr, gan fy mod ar fin gofyn ichi ofyn eich cwestiynau fel llefarydd, ac mae tri o'r rheini. Felly, a wnewch chi ofyn eich cwestiwn?
Okay. What steps, Minister, can you take? How do we move forward on this? What steps will you take to ensure that we have the right sea defences we need, but that, at some stage, we can see our sandy beach restored in Llandudno? Diolch.
Iawn. Pa gamau y gallwch eu cymryd, Weinidog? Sut rydym yn gwneud cynnydd ar hyn? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod gennym yr amddiffynfeydd môr cywir sydd eu hangen arnom, ond y gallwn hefyd, ar ryw gam, weld ein traeth tywodlyd yn cael ei adfer yn Llandudno? Diolch.
Yes, thank you, Janet. So, just to be really specific, the Welsh Government have recently awarded grant funding to Conwy County Borough Council to develop a full business case for Llandudno, based on maintaining and improving the existing cobble defence on the north shore. The alternative sand option provides no additional flood benefit, at a much greater cost to the coastal risk management programme, and that's the problem. So, whilst I completely understand what you're saying about the sandy beach, the coastal risk management programme is for coastal risk management; it's not for tourist attractions and other aesthetic value. I'm not denying the value of that; I'm just saying that's not what the programme is for. So, if Conwy County Borough Council want to get an alternative sand option at Llandudno north shore, they really need to look for alternative sources of funding. There are some other sources of funding available, but, in all conscience, I cannot take a coastal management programme that's specifically designed to protect places from flooding and use it for a completely different purpose. So, whilst I have some sympathy with what you're saying, this is not the right programme for it. And, you can tell from the amount of money that we've invested around the coast of Wales that we are really trying to get as many properties protected from actual flooding as possible. Clearly, we do try to do that in the most environmentally and aesthetically pleasing way possible, but, in the end, it's down to how many properties we protect. So, I'm sure you'll be able to work with the council to get a better option, but not through this funding model.
Ie, diolch, Janet. Felly, yn benodol, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant yn ddiweddar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddatblygu achos busnes llawn ar gyfer Llandudno, yn seiliedig ar gynnal a gwella'r amddiffynfa bresennol o goblau ar draeth y gogledd. Nid yw'r opsiwn i ailgyflenwi tywod yn darparu unrhyw fudd ychwanegol o ran llifogydd, a byddai'n costio llawer mwy i'r rhaglen rheoli perygl arfordirol, a dyna'r broblem. Felly, er fy mod yn deall yr hyn a ddywedwch am y traeth tywodlyd yn llwyr, diben y rhaglen rheoli risg arfordirol yw rheoli risg arfordirol; nid yw'n ymwneud ag atyniadau twristiaeth a gwerth esthetig arall. Nid wyf yn gwadu gwerth hynny; rwy'n dweud nad dyna yw diben y rhaglen. Felly, os yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn awyddus i ailgyflenwi tywod ar draeth y gogledd yn Llandudno, mae gwir angen iddynt chwilio am ffynonellau eraill o gyllid. Mae ffynonellau eraill o gyllid ar gael, ond yn bendifaddau, ni allaf gymryd rhaglen rheoli risg arfordirol sydd wedi'i chynllunio'n benodol i amddiffyn lleoedd rhag llifogydd a'i defnyddio at ddiben hollol wahanol. Felly, er fy mod yn cydymdeimlo â'r hyn a ddywedwch, nid hon yw'r rhaglen gywir ar gyfer hynny. A gallwch ddweud o'r swm o arian rydym wedi'i fuddsoddi yn arfordir Cymru ein bod o ddifrif yn ceisio amddiffyn cymaint o eiddo â phosibl rhag llifogydd. Yn amlwg, rydym yn ceisio gwneud hynny yn y ffordd fwyaf amgylcheddol a dymunol yn esthetig ag y gallwn, ond yn y pen draw, mae'n ymwneud â faint o eiddo rydym yn eu hamddiffyn. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn gallu gweithio gyda'r cyngor i gytuno ar opsiwn gwell, ond nid drwy'r model ariannu hwn.
Diolch, Llywydd, and thank you, Minister, Now, there is no denying that the UK Government is taking decisive action to tackle unsafe buildings. The Rt Hon Michael Gove MP has sent all developers legally binding contracts that will commit them to pay to repair these unsafe buildings. This contract will see developers commit an estimated £2 billion or more for repairs to buildings that they've developed or refurbished over the past 30 years, and protect thousands of leaseholders living in hundreds of buildings across England. In England, the UK Government is looking to prevent developers from operating freely in the housing market if they fail to sign and comply with the remediation contract. Will you do the same for those operating in Wales who either refuse to sign or breach the terms of the Welsh Government's developers pact?
Diolch, Lywydd, a diolch, Weinidog, Nawr, ni ellir gwadu bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael ag adeiladau anniogel. Mae'r Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS wedi anfon contractau cyfreithiol rwymol i bob datblygwr a fydd yn eu hymrwymo i dalu i gyweirio'r adeiladau anniogel hyn. Bydd y contract hwn yn golygu bod datblygwyr yn ymrwymo oddeutu £2 biliwn neu fwy ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau a ddatblygwyd neu a adnewyddwyd ganddynt dros y 30 mlynedd diwethaf, ac yn diogelu miloedd o lesddeiliaid sy'n byw mewn cannoedd o adeiladau ledled Lloegr. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn ceisio atal datblygwyr rhag gweithredu'n rhydd yn y farchnad dai os nad ydynt yn arwyddo ac yn cydymffurfio â'r contract cyweirio. A fyddwch yn gwneud yr un peth ar gyfer y rheini sy'n gweithredu yng Nghymru ac sydd naill ai'n gwrthod cefnogi neu'n torri telerau cytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru?
Yes, Janet, I'm very well aware of Michael Gove's various pronouncements. I very recently met with the then Minister for housing, who's now the Minister for culture, media and sport, I believe - it's quite difficult to keep up - to talk about this. I have asked for a meeting with Michael Gove as well, but I haven't had one since his reincarnation. The programme here is virtually identical in every aspect that you just outlined. We have worked with the 11 major developers in Wales. They have all agreed to sign up to the pact. The legal documentation is with them at the moment. Clearly, they're looking to see what happens in England with the legal documentation there. Our documentation is different because the legal framework in Wales is different, but, nevertheless, the import is the same. Here in Wales, though, we're going slightly faster than that. We have two of the big developers already starting to remediate. We're very, very well on with our programme of surveys. We've only a few buildings left to go. The ones that are left to go that haven't been completed for the full intrusive survey are all because we needed a complex set of agreements from various freeholders and so on, which I won't go into, but there are complex management issues in some of the buildings. The others are where a whole main road has had to be closed in order to access the building to do it, and we've had to work with the local council to figure out a traffic management scheme to be able to do that. Other than that, they're all done. The reports are all pending. We'll be able to start the remediation works as soon as we can. We're also working on a programme for what are called orphan buildings. There isn't, as far as I'm aware, a programme like this in England. We have 16 to 23 orphan buildings - it does slightly depend on what you call it. An orphan building is one where there is no responsible developer, insurer or managing agent who can be held responsible, and we'll be able to take forward a programme for actually doing the remediation for them. But, I think this is the most important point here: I have always thought that the Government should step up to responsibility in this regard. We don't want to leave it to individual leaseholders to have to take legal action against the developers, which is what the English building Act does. I understand why they did that, but we don't think that's right. So, the contract here will be with us, and, if it isn't fulfilled, it will be down to us to take action against the developers. That's how it should be, in my view. I will also be exploring whether or not we can, for example, prevent builders from taking up planning consents that are existing and continuing on. That's a second phase of the work. But, I'm quite pleased that developers here have come along this journey with us. And then the last thing I'll say on this point, and it's worth bearing this in mind, is some of the buildings, some of the loudest people in the campaign - and who can blame them for having a campaign; it's a horrible thing to live with - some of the loudest people are in buildings where there is extensive litigation under way in which we cannot interfere. So, we are hamstrung ourselves by some of the processes ongoing. But my heart continues to be absolutely with the people living with this. And the last thing I'd say to you, Janet, is if you know anyone who really is in dire straits with this, please recommend to them the buy-out scheme, because we haven't had as much interest in that as we'd have liked, and I'm hoping to get as much publicity to it as possible.
Ydw, Janet, rwy'n ymwybodol iawn o ddatganiadau amrywiol Michael Gove. Cyfarfûm yn ddiweddar iawn â'r Gweinidog tai ar y pryd, sydd bellach yn Weinidog dros ddiwylliant, y cyfryngau a chwaraeon, rwy'n credu - mae'n anodd dal i fyny - i siarad am hyn. Rwyf wedi gofyn am gyfarfod gyda Michael Gove hefyd, ond nid wyf wedi cael un ers ei ailymgnawdoliad. Mae'r rhaglen yma bron yn union yr un fath ym mhob agwedd rydych newydd ei nodi. Rydym wedi gweithio gyda'r 11 datblygwr mawr yng Nghymru. Mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i'r cytundeb. Mae'r ddogfennaeth gyfreithiol ganddynt ar hyn o bryd. Yn amlwg, maent yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn Lloegr gyda'r ddogfennaeth gyfreithiol yno. Mae ein dogfennaeth yn wahanol am fod y fframwaith cyfreithiol yng Nghymru yn wahanol, ond serch hynny, mae'r pwyslais yr un fath. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym yn mynd ychydig yn gyflymach na hynny. Mae gennym ddau o'r datblygwyr mawr eisoes yn dechrau ar y gwaith cyweirio. Rydym wedi mynd ymhell iawn gyda'n rhaglen o arolygon. Dim ond ychydig o adeiladau sydd gennym ar ôl. Mae'r rheini sydd ar ôl nad ydynt wedi'u cwblhau ar gyfer yr arolwg ymwthiol llawn i gyd oherwydd bod angen set gymhleth o gytundebau gan rydd-ddeiliaid amrywiol ac yn y blaen, ac nid wyf am fanylu ar hynny, ond ceir materion rheoli cymhleth mewn perthynas â rhai o'r adeiladau. Mae'r lleill yn ymwneud â lle bu'n rhaid cau prif ffordd gyfan er mwyn cael mynediad i'r adeilad i wneud y gwaith, ac rydym wedi gorfod gweithio gyda'r cyngor lleol i lunio cynllun rheoli traffig i allu gwneud hynny. Heblaw am hynny, maent i gyd wedi'u cwblhau. Mae'r adroddiadau i gyd yn yr arfaeth. Byddwn yn gallu dechrau ar y gwaith cyweirio cyn gynted ag y gallwn. Rydym hefyd yn gweithio ar raglen ar gyfer yr hyn a elwir yn adeiladau amddifad. Hyd y gwn i, nid oes rhaglen fel hon yn Lloegr. Mae gennym 16 i 23 o adeiladau amddifad - mae'n dibynnu i raddau ar yr hyn rydych yn ei alw. Adeilad amddifad yw un lle nad oes yswiriwr, asiant rheoli neu ddatblygwr cyfrifol y gellir eu dwyn i gyfrif, a byddwn yn gallu bwrw ymlaen â rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith cyweirio arnynt. Ond credaf mai dyma'r pwynt pwysicaf yma: rwyf bob amser wedi bod o'r farn y dylai'r Llywodraeth ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn hyn o beth. Nid ydym am i lesddeiliaid unigol orfod cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y datblygwyr, sef yr hyn y mae Deddf adeiladau Lloegr yn ei wneud. Rwy'n deall pam y gwnaethant hynny, ond nid ydym yn credu bod hynny'n iawn. Felly, bydd gennym y contract yma, ac os na chedwir ato, ein cyfrifoldeb ni fydd cymryd camau yn erbyn y datblygwyr. Dyna fel y dylai fod, yn fy marn i. Byddaf hefyd yn archwilio i weld a allwn, er enghraifft, atal adeiladwyr rhag ymgymryd â safleoedd lle mae caniatâd cynllunio yn bodoli eisoes a pharhau â'r gwaith. Dyna ail gam y gwaith. Ond rwy'n eithaf balch fod datblygwyr yma wedi dod ar y daith hon gyda ni. Ac yna y peth olaf a ddywedaf ar y pwynt hwn, ac mae'n werth cadw hyn mewn cof, yw bod rhai o'r adeiladau, rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf yn yr ymgyrch - a phwy all eu beio am gael ymgyrch; mae'n beth erchyll i fyw gydag ef - mae rhai o'r bobl â'r lleisiau cryfaf mewn adeiladau lle ceir ymgyfreitha helaeth eisoes ar y gweill, ac ni allwn ymyrryd â'r achosion hynny. Felly, rydym wedi ein rhwystro gan rai o'r prosesau sy'n mynd rhagddynt. Ond rwy'n dal i gydymdeimlo'n llwyr â'r bobl sy'n byw gyda hyn. A'r peth olaf yr hoffwn ei ddweud wrthych, Janet, yw os ydych yn adnabod unrhyw un sydd mewn sefyllfa enbyd oherwydd hyn, a fyddech cystal ag argymell y cynllun prynu allan iddynt, gan nad ydym wedi cael cymaint o ddiddordeb ynddo ag y byddem wedi hoffi, ac rwy'n gobeithio sicrhau cymaint o gyhoeddusrwydd iddo â phosibl.
Thank you for that comprehensive answer, Minister, it's really appreciated. I'm sure you would agree with me that the longer it takes to resolve this crisis, the greater the mental and financial pressure for these vulnerable residents. I'm sure you'd agree with me too that we shouldn't be allowing other people to get on the back of this and actually benefit financially. The reason I'm mentioning this now is that individuals have written to me explaining, in some instances, that the service fee, since all this, for a three-bedroomed apartment has increased from £2,500 to around £5,000 a year. Alongside that, it's been alleged to me that as least one managing agent is charging an in-house brokerage fee for insurance, also serving section 20 notices, not carrying out the works, charging admin fees on top of the management fee, and that some have no corporate policy for proactive maintenance or for the regular checking of singular compartmentalisation of escape routes. That strikes me as an abhorrent management regime. Would you be prepared to look into this further by means of a review or some form of inquiry to establish how exactly each managing agent in Wales has responded to this cladding crisis and if there is any sign that some could actually be profiteering from this situation?
Diolch am eich ateb cynhwysfawr, Weinidog, rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, po hiraf y mae'n ei gymryd i ddatrys yr argyfwng hwn, y mwyaf yw'r pwysau meddyliol ac ariannol ar y trigolion agored i niwed hyn. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi hefyd na ddylem fod yn caniatáu i bobl eraill fanteisio ar hyn ac elwa'n ariannol. Y rheswm pam rwy'n sôn am hyn nawr yw am fod unigolion wedi ysgrifennu ataf yn egluro, mewn rhai achosion, fod y ffi gwasanaeth, ers hyn oll, am fflat dair ystafell wely wedi cynyddu o £2,500 i oddeutu £5,000 y flwyddyn. Ochr yn ochr â hynny, clywais yr honiad fod o leiaf un asiant rheoli'n codi ffi broceriaeth fewnol am yswiriant, a hefyd yn rhoi hysbysiadau adran 20, ddim yn gwneud y gwaith, yn codi ffioedd gweinyddol ar ben y ffi reoli, ac nad oes gan rai ohonynt unrhyw bolisi corfforaethol ar gyfer gwaith cynnal a chadw rhagweithiol nac ar gyfer gwirio'n rheolaidd fod ffyrdd o ddianc wedi'u hadrannu'n unigol rhag tân. Rwy'n ystyried bod honno'n drefn reoli erchyll. A fyddech yn barod i ymchwilio ymhellach i hyn drwy gyfrwng adolygiad neu ryw fath o ymchwiliad i ganfod sut yn union y mae pob asiant rheoli yng Nghymru wedi ymateb i'r argyfwng cladin, ac a oes unrhyw arwydd y gallai rhai fod yn elwa o'r sefyllfa hon?
Yes, I'm very well aware of this as well. I've had one of the biggest managing agents in to see me very recently. I have a constituency full of people who have got this problem, so I'm dealing with it locally as well. It's sometimes difficult to separate the building safety from building structure issues, which can be complicated as well. So, we're looking to see whether we can solve building structure issues, which are not necessarily building safety issues, simultaneously, as two lots of work obviously is nonsensical. But I also, in the conversation with Lucy Frazer, will be continuing this with the officials and I'll obviously seek a meeting with the new housing Minister as soon as I know who that is. But we discussed with her and her officials the leasehold reform programme that the UK Government is taking forward. You'll know, Janet, that the complexity of the devolution settlement in this area is a difficulty. I know people hate me talking about how complex this is, but there's no getting away from it. Whether or not the Welsh Government can in fact regulate managing agents is one of the things that we're looking at and there are some complex legal issues there. But what's really clear is that most of the big managing agents work across England and Wales, and so we need to make sure that we have a proper programme - I think you'll agree with me there. So, I very much hope, and we are working very much towards the UK Government legislating for managing agents and leasehold reform, and I hope they will add in estate agents at the point of sale, because various colleagues around this Chamber - Hefin David in particular comes to mind - have brought up the issue of estate management fees on a number of occasions, and they're dealt with by the same body of people. So, the answer to your question simply is: yes, we're very well aware of it. Yes, we're getting the managing agents in to speak to us. I will be hosting a meeting for all of them in Wales, including the small ones, very soon. But really what we need is a system of regulation that sets out their professional qualifications and what they can charge for. And, Llywydd, at the risk of trying your patience with the length of my answer - and I apologise; it's a very complicated area - just to say that we also feel that there should be coverage for this in the building reform piece that we will be bringing in front of the Senedd, so that when we have new builds in future, it will be very clear who can and who can't be a managing agent.
Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o hyn hefyd. Mae un o'r asiantau rheoli mwyaf wedi bod yn fy ngweld yn ddiweddar iawn. Mae llawer iawn o bobl yn fy etholaeth yn wynebu'r broblem hon, felly rwy'n ymwneud â'r mater yn lleol hefyd. Weithiau, mae'n anodd gwahanu diogelwch yr adeilad oddi wrth faterion sy'n ymwneud ag adeiladwaith, a all fod yn gymhleth hefyd. Felly, rydym yn edrych i weld a allwn ddatrys materion adeiladwaith, nad ydynt o reidrwydd yn faterion diogelwch adeiladau, ar yr un pryd, gan fod gwneud dau swp o waith yn amlwg yn ddisynnwyr. Ond byddaf hefyd, yn y sgwrs gyda Lucy Frazer, yn parhau â hyn gyda'r swyddogion, a byddaf yn amlwg yn ceisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn pwy ydynt. Ond buom yn trafod y rhaglen ddiwygio cyfraith lesddaliad y mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hi gyda hi a'i swyddogion. Fe wyddoch, Janet, fod cymhlethdod y setliad datganoli yn y maes hwn yn anhawster. Gwn bod pobl yn fy nghasáu i'n siarad am ba mor gymhleth yw hyn, ond nid oes dianc rhag y ffaith honno. Mae gallu Llywodraeth Cymru i reoleiddio asiantau rheoli ai peidio yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt, a cheir materion cyfreithiol cymhleth sy'n codi yn hynny o beth. Ond yr hyn sy'n wirioneddol glir yw bod y rhan fwyaf o'r asiantau rheoli mawr yn gweithio ledled Cymru a Lloegr, felly mae angen inni sicrhau bod gennym raglen addas - rwy'n credu y byddwch yn cytuno â mi ar hynny. Felly, rwy'n mawr obeithio, ac rydym yn sicr yn gweithio tuag at Lywodraeth y DU yn deddfu ar gyfer diwygio cyfraith lesddaliadau ac asiantau rheoli, a gobeithiaf y byddant yn ychwanegu gwerthwyr tai yn y man gwerthu, gan fod gwahanol gyd-Aelodau o amgylch y Siambr hon - rwy'n meddwl am Hefin David yn arbennig - wedi codi mater ffioedd rheoli ystadau ar sawl achlysur, a'r un corff o bobl sy'n ymdrin â hwy. Felly, yr ateb syml i'ch cwestiwn yw: ydym, rydym yn ymwybodol iawn o'r mater. Ydy, rydym yn cael yr asiantau rheoli i mewn i siarad gyda ni. Byddaf yn cynnal cyfarfod ar gyfer pob un ohonynt yng Nghymru, gan gynnwys y rhai bach, yn fuan iawn. Ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw system reoleiddio sy'n nodi eu cymwysterau proffesiynol a'r hyn y gallant godi tâl amdano. A Lywydd, gan fentro trethu eich amynedd gyda hyd fy ateb - ac rwy'n ymddiheuro; mae'n faes cymhleth iawn - dylwn ddweud ein bod hefyd yn teimlo y dylid rhoi sylw i hyn yn y gwaith ar ddiwygio adeiladu y byddwn yn ei gyflwyno gerbron y Senedd, er mwyn sicrhau, pan fydd adeiladau newydd yn cael eu codi yn y dyfodol, y bydd hi'n glir pwy all a phwy na all fod yn asiant rheoli.
Thank you, again, Minister. I can't argue with that response at all. Now, my final point: in the budget for 2023-24, building safety funding is set to receive a 37 per cent reduction in resource. Despite the indicative budget setting aside £9.5 million for 2023-24, the draft budget allocation has dropped to £6 million. I'm just a little baffled and maybe you could explain better. So, how can you on the one hand say that building safety is one of your top priorities, but you're cutting it at the same time?
Diolch, unwaith eto, Weinidog. Ni allaf ddadlau â'r ymateb hwnnw o gwbl. Nawr, fy mhwynt olaf: yn y gyllideb ar gyfer 2023-24, mae cyllid diogelwch adeiladau ar fin cael gostyngiad o 37 y cant mewn adnoddau. Er bod y gyllideb ddangosol wedi neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24, mae dyraniad y gyllideb ddrafft wedi gostwng i £6 miliwn. Rwyf braidd yn ddryslyd ac efallai y gallech esbonio'r sefyllfa'n well. Felly, sut y gallwch ddweud ar y naill law fod diogelwch adeiladau yn un o'ch prif flaenoriaethau, ond eich bod yn ei dorri ar yr un pryd?
So, it's a multi-angled programme, basically, and so, what we're having to do is calibrate the budget out to the point where we're doing the remedial work. So, you'll see that we're spending less at the beginning of the programme because we're doing surveys. We have done some remediation. We've obviously done remediation in social buildings that meet the criteria, for example. We're about to start the orphan building remediation that I discussed. Some of the buildings that are in private sector ownership will go into remediation. But it's quite clear that this programme will run over several years - four or five years for this kind of capital programme, generally speaking. So, you need to look at the budget in the round.
Felly, mae'n rhaglen amlochrog yn y bôn, ac felly, yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw graddnodi'r gyllideb hyd at y pwynt lle rydym yn gwneud y gwaith cyweirio. Felly, fe welwch ein bod yn gwario llai ar ddechrau'r rhaglen gan ein bod yn cynnal arolygon. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith cyweirio. Rydym yn amlwg wedi gwneud gwaith cyweirio ar adeiladau cymdeithasol sy'n bodloni'r meini prawf, er enghraifft. Rydym ar fin dechrau'r gwaith cyweirio y soniais amdano ar adeiladau amddifad. Bydd rhai o'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector preifat yn cael eu cyweirio. Ond mae'n amlwg y bydd y rhaglen hon yn rhedeg dros nifer o flynyddoedd - pedair neu bum mlynedd, yn gyffredinol, ar gyfer rhaglen gyfalaf o'r fath. Felly, mae angen ichi edrych ar y gyllideb yn ei chyfanrwydd.
Plaid Cymru spokesperson now, Mabon ap Gwynfor, to ask his questions to the Deputy Minister. Mabon ap Gwynfor.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor, i ofyn ei gwestiynau i'r Dirprwy Weinidog. Mabon ap Gwynfor.
Thank you, Llywydd. I want to start by acknowledging that there's a great deal of work going on at the moment with public transport services in Wales. The recent report by the North Wales Transport Commission was very interesting, for example, with one particular interesting statistic, which stated that two-thirds of the journeys of people in north Wales were 15 km or less, but that data was heavily weighted towards the more populated areas obviously. A number of metro schemes are also in the pipeline, and if we look again at north Wales, there is significant talk there about developing train links from Llandudno and Wrexham to Liverpool and Manchester. The Swansea bay metro in south-west Wales talks about the urban centres, again. But what is notable in all of this is the total absence of plans for rural Wales. Where are Ceredigion, Powys, most of Gwynedd, and the heartlands in these metro programmes? So, what are the Government's ambitions in ensuring that residents in rural Wales can access public transport?
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi am gychwyn drwy gydnabod bod yna lot o waith yn mynd ymlaen ar hyn o bryd efo gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Roedd adroddiad diweddar Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, er enghraifft, yn ddifyr iawn, efo un ystadegyn arbennig o ddifyr a oedd yn dweud bod dwy ran o dair o siwrneiau pobl y gogledd yn 15 km neu lai, ond roedd y data yna wedi pwyso'n sylweddol i'r ardaloedd mwyaf poblog yn amlwg. Mae nifer o gynlluniau metro ar y gweill hefyd, ac os edrychwn ni unwaith eto ar y gogledd, mae yna sôn sylweddol yno am ddatblygu linciau trên o Landudno a Wrecsam i Lerpwl a Manceinion. Mae metro bae Abertawe yng ngorllewin Cymru yn sôn am y canolfannau trefol unwaith eto. Ond yr hyn sydd yn nodedig yn hyn oll ydy absenoldeb llwyr cynlluniau ar gyfer y Gymru wledig. Ble mae Ceredigion, Powys, y rhan fwyaf o Wynedd a'r berfeddwlad yn y cynlluniau metro? Felly, beth ydy uchelgais y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod trigolion y Gymru wledig yn medru cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?
Thank you very much for that important set of questions. In fact, the data published by the Burns commission for north Wales showed that, even in rural areas, the majority of journeys were relatively short and, in principle, many of them could be replaced by public transport and active travel if the services were there. I have been conducting a series of round-tables with local authorities and others across different parts of Wales, and what's striking is that when you map rural areas, there are rural areas in every county of Wales. It's not just a mid Wales issue, or a north-west Wales issue; rurality is everywhere, and the issue of accessibility and choice is a real challenge across the country. We know from other countries that where different choices are made, you can have a viable public transport system in deep rural areas. If you look at Sweden, Germany or Switzerland, even the small villages have a bus service every hour. So, there's no reason in principle why we couldn't make a much better offer for rural areas. It's a question of resource and political choice. Now, if we are going to meet the climate change targets that we're all committed to, we clearly need to see modal shift, people moving from cars to sustainable transport in all parts of Wales. One of our foci is to say, 'How do we make what we know is the right thing to do the easiest thing to do?', because human nature is to do the easiest thing, and, at the moment, in many parts of Wales it simply isn't easy, or in many communities it's not possible at all after 5 or 6 o'clock at night to catch a bus. So, we know we're not starting from a great place, and we know that this is going to take some time to happen. As part of the co-operation agreement, we are looking at transport corridors in west Wales. The designated Member Siân Gwenllian and I have agreed a programme of work with Transport for Wales to assess the possibilities for primarily bus corridors in west Wales, but also looking at how, in planning terms, we can preserve the old railway line between Aberystwyth and Carmarthen. But, at some point it's going to become a choice of where we put the scarce investment we have and where the priority is. That, I think, is our dilemma, because from a carbon point of view we're always going to want to achieve the quickest reductions and the largest reductions in carbon. Clearly, investments in rural areas will be more expensive and have a smaller carbon impact, and there's going to be that tension that we need to resolve. But I'm very clear that unless we address the rural issue, we're not going to be able to succeed in our overall vision.
Diolch yn fawr iawn am y set bwysig honno o gwestiynau. Mewn gwirionedd, dangosodd y data a gyhoeddwyd gan gomisiwn Burns ar gyfer gogledd Cymru, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig, fod y rhan fwyaf o deithiau'n gymharol fyr, ac mewn egwyddor, y gallai trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol gymryd lle llawer ohonynt pe bai'r gwasanaethau ar gael. Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn gydag awdurdodau lleol ac eraill mewn gwahanol rannau o Gymru, a'r hyn sy'n drawiadol yw, pan fyddwch yn mapio ardaloedd gwledig, fod ardaloedd gwledig i'w cael ym mhob sir yng Nghymru. Nid yw'n fater sy'n ymwneud â'r canolbarth yn unig, neu'n fater sy'n ymwneud â'r gogledd-orllewin; mae gwledigrwydd ym mhobman, ac mae mater hygyrchedd a dewis yn her wirioneddol ledled y wlad. Gwyddom o wledydd eraill, lle gwneir dewisiadau gwahanol, y gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus hyfyw mewn ardaloedd gwledig iawn. Os edrychwch ar Sweden, yr Almaen neu'r Swistir, mae gan hyd yn oed y pentrefi bach wasanaeth bws bob awr. Felly, nid oes unrhyw reswm, mewn egwyddor, pam na allem wneud cynnig llawer gwell ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae'n gwestiwn o adnoddau a dewisiadau gwleidyddol. Nawr, os ydym yn mynd i gyflawni'r targedau newid hinsawdd y mae pob un ohonom wedi ymrwymo iddynt, yn amlwg, mae angen inni newid dulliau teithio, pobl yn newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy ym mhob rhan o Gymru. Un o'r pethau rydym yn canolbwyntio arnynt yw dweud, 'Sut rydym yn sicrhau mai'r hyn y gwyddom yw'r peth iawn i'w wneud yw'r peth hawsaf i'w wneud?', gan mai natur ddynol yw gwneud y peth hawsaf, ac ar hyn o bryd, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw'n hawdd, neu mewn llawer o gymunedau, nid yw'n bosibl dal bws ar ôl 5 neu 6 o'r gloch y nos. Felly, gwyddom nad ydym yn dechrau o le gwych, a gwyddom fod hyn yn mynd i gymryd peth amser. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio, rydym yn edrych ar goridorau trafnidiaeth yn y gorllewin. Mae'r Aelod dynodedig, Siân Gwenllian, a minnau wedi cytuno ar raglen waith gyda Trafnidiaeth Cymru i asesu'r posibiliadau ar gyfer coridorau bysiau, yn bennaf, yn y gorllewin, ond gan edrych hefyd ar sut, o ran cynllunio, y gallwn gadw'r hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Ond ar ryw adeg, bydd angen inni ddewis ble rydym yn rhoi'r buddsoddiad prin sydd gennym a ble mae'r flaenoriaeth. Credaf mai dyna yw ein cyfyng-gyngor, oherwydd o safbwynt carbon, rydym bob amser yn mynd i fod yn awyddus i gyflawni'r gostyngiadau cyflymaf a'r gostyngiadau mwyaf mewn carbon. Yn amlwg, bydd buddsoddiadau mewn ardaloedd gwledig yn ddrytach a byddant yn cael llai o effaith o ran carbon, a bydd angen inni fynd i'r afael â'r tensiwn hwnnw. Ond rwy'n glir iawn nad ydym yn mynd i allu llwyddo yn ein gweledigaeth gyffredinol oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r broblem wledig.
I thank the Deputy Minister for that response and the warm words in supporting provision in rural areas, but further to that, it's been brought to my attention that the bus emergency scheme that was introduced during COVID is to be redirected to meet other requirements within Government, and that this funding will come to an end very suddenly indeed. A number of bus providers have contacted Members on these benches over the past few days saying that this BES scheme, which was supposed to extend for another year, is to be dropped at the end of this financial year. This, of course, has destroyed the plans of these bus companies and means that they can't give necessary notice for bringing particular routes to an end. These are local and relatively small providers in the most part, that don't have great reserves to compensate for some of these routes. As a result, they warn us that this will mean that many routes will disappear, and some businesses may also go bust. Those bus providers are tuning in to this session today, listening in to hear whether the Deputy Minister can give them an assurance that the budget and grant will continue to support these bus routes. So, can I ask the Minister to give us an assurance that the funding for bus services in Wales, which means the bus emergency scheme, will not be cut, and that it will continue for the next financial year?
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hynny, a'r geiriau cynnes iawn sydd wedi cael eu rhoi yn cefnogi cael darpariaeth yn yr ardaloedd gwledig, ond ymhellach i hynny, mae wedi dod i fy sylw i fod y cynllun bus emergency scheme, a gafodd ei gyflwyno yn ystod COVID, am gael ei arallgyfeirio er mwyn digolledi anghenion eraill o fewn y Llywodraeth, ac felly bod y pres yma'n dirwyn i ben yn ddisymwth iawn. Mae sawl darparwr bysus wedi cysylltu efo Aelodau'r meinciau yma dros y dyddiau diwethaf yn sôn fod y cynllun BES yma, a oedd i fod i ymestyn am flwyddyn arall, wedi cael ei ollwng ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yma. Mae hyn, wrth gwrs, wedi chwalu cynlluniau bysus, y cwmnïau, ac yn golygu nad ydyn nhw'n medru rhoi notis angenrheidiol ar gyfer dirwyn llwybr penodol i ben. Darparwyr lleol a chymharol fach ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd heb gronfa fawr o arian i'w galluogi i ddigolledi rhai o'r llwybrau yma. O ganlyniad, maen nhw'n ein rhybuddio ni y bydd hyn yn golygu bod nifer o lwybrau yn mynd i ddod i ben, a hwyrach rhai busnesau yn dirwyn i ben. Mae'r darparwyr bysus hynny'n tiwnio i mewn heddiw i'r sesiwn yma ac yn gwrando i weld os medrith y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd iddyn nhw y bydd y gyllideb a'r grant yn parhau i ariannu'r llwybrau bysus yma. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ein sicrhau na fydd yr ariannu i wasanaethau bysus Cymru yn ei chyfanrwydd, sydd yn golygu'r bus emergency scheme, yn cael ei dorri, ac y bydd yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf?
Well, it's more than just warm words. We have spent £150 million since the start of the pandemic in saving the bus industry in Wales. So, let's be very clear about that: without the help and intervention of the Welsh Government, the bus industry would have gone bankrupt; there wouldn't be any bus services. So, I think it's only fair to reflect that we have put our money where our mouth is. Now, the whole point of the bus emergency scheme - the clue is in the title - it was for an emergency; it was never meant as a long-term piece of funding, and it was always intended to come to an end. Now, the challenge we have is that the patronage levels have not returned to the pre-pandemic levels. So, we are supporting a bus network that no longer has the same behaviours as the one that came before. So, in a sense, we're ossifying a bus network. Even the industry agrees that we do need to rationalise and re-look at the bus networks in Wales. Now, we've been doing this far more generously than England has; we've sustained a far greater use of bus provision than has happened the other side of the border. I think any fair look would look at the cuts that are being made in England right now, where the bus industry has faced a cliff edge right across the UK because of this disconnect between the reality, the behaviours, and the economics of the use of public transport. So, we've got a genuine problem here, in that usage rates, particularly amongst pensioners, have not returned to the rates that we want to see. And we simply do not have the money to keep sustaining the bus emergency scheme at the levels that were true during the height of the pandemic. So, we have a problem. We are working closely with the industry. Julie James and I met with the operators on Friday of last week. We've been meeting right throughout this week, and we'll be meeting again with them this Friday, because they've hit the deadline of when they have to give notice to the traffic commissioner for handing back these contracts. We've spoken to the traffic commissioner about offering some discretion about when that trigger point is reached, and they are certainly open to being pragmatic about that. And what we want is to taper off the scheme, not face a cliff edge. But we do have to end the support, sooner rather than later. So, we're trying our best to come up with a solution that does not see lots of routes being surrendered, but the financial position we're in - our budget - is very, very, very challenging, and we're working through this week to see what we can do.
Wel, mae'n fwy na geiriau cynnes yn unig. Rydym wedi gwario £150 miliwn ers dechrau'r pandemig ar achub y diwydiant bysiau yng Nghymru. Felly, gadewch inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny: heb gymorth ac ymyrraeth Llywodraeth Cymru, byddai'r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal; ni fyddai unrhyw wasanaethau bws ar ôl. Felly, credaf ei bod ond yn deg inni gofio ein bod wedi rhoi ein harian ar ein gair. Nawr, holl bwynt y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau - mae'r cliw yn y teitl - oedd ei fod yno ar gyfer argyfwng; ni fwriadwyd erioed iddo fod yn gyllid hirdymor, a'r bwriad bob amser oedd y byddai'n dod i ben. Nawr, yr her sydd gennym yw nad yw'r lefelau defnydd wedi dychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig. Felly, rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau nad yw'n gweld yr un ymddygiadau bellach â'r hyn a welai'n flaenorol. Felly, ar un ystyr, rydym yn ffosileiddio rhwydwaith bysiau. Mae hyd yn oed y diwydiant yn cytuno bod angen inni ad-drefnu ac ailedrych ar y rhwydweithiau bysiau yng Nghymru. Nawr, rydym wedi bod yn gwneud hyn yn fwy hael o lawer na Lloegr; rydym wedi cynnal llawer mwy o ddefnydd o ddarpariaeth bysiau nag sydd wedi digwydd dros y ffin. Credaf y byddai unrhyw olwg deg yn edrych ar y toriadau sy'n cael eu gwneud yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae'r diwydiant bysiau wedi wynebu ymyl clogwyn ledled y DU oherwydd y datgysylltiad rhwng y realiti, yr ymddygiadau, ac economeg y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae gennym broblem wirioneddol yma, yn yr ystyr nad yw cyfraddau defnydd, yn enwedig ymhlith pensiynwyr, wedi dychwelyd i'r cyfraddau rydym am eu gweld. Ac yn syml iawn, nid oes gennym arian i barhau i gynnal y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau ar yr un lefelau â phan oedd y pandemig ar ei anterth. Felly, mae gennym broblem. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant. Cyfarfu Julie James a minnau â'r gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf. Rydym wedi bod yn cyfarfod drwy gydol yr wythnos hon, a byddwn yn cyfarfod â hwy eto ddydd Gwener, gan eu bod wedi cyrraedd y terfyn amser i hysbysu'r comisiynydd traffig ar gyfer rhoi'r contractau hyn yn ôl. Rydym wedi siarad â'r comisiynydd traffig ynglŷn â chynnig rhywfaint o ddisgresiwn ynghylch pryd y bydd y trothwy hwnnw'n cael ei gyrraedd, ac maent yn sicr yn agored i fod yn bragmatig ynglŷn â hynny. A'r hyn rydym am ei wneud yw tapro'r cynllun, nid wynebu ymyl clogwyn. Ond mae'n rhaid inni ddod â'r cymorth i ben, yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i ateb nad yw'n arwain at ddiddymu llawer o lwybrau teithio, ond mae'r sefyllfa ariannol rydym ynddi - ein cyllideb - yn heriol tu hwnt, ac rydym yn gweithio drwy'r wythnos hon i weld beth y gallwn ei wneud.
Thank you, Natasha. In 2021, renewables projects in Wales generated the equivalent of 55 per cent of our electricity use. Evidence published alongside our review of energy targets shows there is a pipeline of projects in development to meet our 2030 target, an ambitious but credible route to our proposed 100 per cent target by 2035.
Diolch, Natasha. Yn 2021, cynhyrchodd prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru yr hyn sy'n cyfateb i 55 y cant o'n defnydd o drydan. Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'n hadolygiad o dargedau ynni'n dangos bod cyfres o brosiectau ar y gweill i gyflawni ein targed ar gyfer 2030, llwybr uchelgeisiol ond credadwy at ein targed arfaethedig o 100 y cant erbyn 2035.
Thanks, Minister. I recently met and received a presentation from the developers behind a proposed solar energy farm at Craig Y Perthi near Uskmouth power station. Solar power, I'm sure you know better than anyone, is currently one of the cheapest forms of energy generation, and with schemes like Craig Y Perthi solar farm in the pipeline, there is a real potential for solar energy to address not just our energy demands, but also provide support for people suffering with high energy bills at present. So, Minister, can you advise us here in the Chamber today and beyond what progress is being made, specifically, on increasing the number of solar photovoltaic projects here in Wales? Thank you.
Diolch, Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar a chefais gyflwyniad gan ddatblygwyr fferm ynni solar arfaethedig yng Nghraig y Perthi ger gorsaf ynni Aber-wysg. Mae ynni solar, fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un rwy'n siŵr, yn un o'r ffyrdd rhataf o gynhyrchu ynni ar hyn o bryd, a chyda chynlluniau fel fferm solar Craig y Perthi ar y gweill, mae gwir botensial gan ynni solar nid yn unig i fynd i'r afael â'n gofynion ynni, ond hefyd i ddarparu cymorth i bobl sy'n dioddef gyda biliau ynni uchel ar hyn o bryd. Felly, Weinidog, a allwch roi gwybod i ni yma yn y Siambr heddiw a thu hwnt pa gynnydd sy'n cael ei wneud, yn benodol, ar gynyddu nifer y prosiectau solar ffotofoltäig yma yng Nghymru? Diolch.
Thank you, Natasha. Obviously, I won't comment on individual projects because I'm the planning Minister as well, so I'll make some general remarks about that. Quite clearly, we do want solar to come forward, alongside a raft of other things in the renewable energy market. What we want is to get as many different outcomes from energy projects as possible. So, we're particularly interested in solar that doesn't take up good agricultural land, solar that's placed on land that doesn't have high-grade agriculture. We are hoping that the solar farms will take into account potential for co-located biodiversity or tree planting. There are some excellent examples around Wales. The panels aren't necessarily fixed - they can be raised from the ground, they can be at different angels, they can even move and all the rest of it. So, in general, we're trying to encourage as much solar as possible in the right place. We're trying to discourage it from the wrong place, as we do with all other energy projects as well, and we're asking the developers to tell us a whole range of things as they bring the schemes forward, including how much energy they'll generate, obviously, how it would connect into the grid, or whether it's a closed-loop system. There's a great one down in, I think, my colleague Rebecca Evans's constituency, or I might be wrong, as it might be in my colleague Mike Hedges's constituency, but it powers Morriston Hospital, and that's a closed-loop system. Is it yours?
Diolch, Natasha. Yn amlwg, nid wyf am wneud sylwadau ar brosiectau unigol gan mai fi yw'r Gweinidog cynllunio hefyd, felly fe wnaf sylwadau cyffredinol am hynny. Yn amlwg, rydym am weld prosiectau ynni solar, ochr yn ochr â llu o bethau eraill yn y farchnad ynni adnewyddadwy. Rydym yn dymuno gweld cymaint â phosibl o ganlyniadau gwahanol o brosiectau ynni. Felly, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau solar nad ydynt yn defnyddio tir amaethyddol da, prosiectau solar wedi'u lleoli ar dir heb amaethyddiaeth o safon uchel. Rydym yn gobeithio y bydd y ffermydd solar yn ystyried y potensial ar gyfer cydleoli bioamrywiaeth neu blannu coed. Ceir enghreifftiau rhagorol ledled Cymru. Nid yw'r paneli o reidrwydd yn sefydlog - gellir eu codi o'r ddaear, gallant fod ar wahanol onglau, gallant symud hyd yn oed, ac yn y blaen. Felly, yn gyffredinol, rydym yn ceisio annog cymaint o ynni solar â phosibl yn y lle iawn. Rydym yn ceisio annog pobl i beidio â'i ddefnyddio yn y lle anghywir, fel rydym yn ei wneud gyda phob prosiect ynni arall hefyd, ac rydym yn gofyn i'r datblygwyr ddweud ystod eang o bethau wrthym wrth iddynt gyflwyno'r cynlluniau, gan gynnwys faint o ynni y byddant yn ei gynhyrchu, yn amlwg, sut y byddai'n cysylltu â'r grid, neu a yw'n system gaeedig. Mae prosiect gwych i lawr yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, rwy'n credu, neu efallai fy mod yn anghywir, efallai ei fod yn etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, ond mae'n pweru Ysbyty Treforys, ac mae'n defnyddio system gaeedig. Ai yn eich etholaeth chi y mae'r prosiect hwnnw?
I wasn't quite sure where the edge was there. It's an excellent project, and one of the things we discussed when we were there - I had the great privilege of opening it, so it's now powering the hospital, helping with their energy and carbon footprint - but one of the big things about it is that it has a hedges-and-edges project around the edge for trees, and it's underplanted with a biodiverse meadow. What's not to like? So, the short answer is, 'The more things it can bring forward at the same time and the space it can occupy that can't be occupied by other beneficial uses, the better', and then we can get the projects consented.
Nid oeddwn yn hollol siŵr ble mae'r ffin. Mae'n brosiect rhagorol, ac un o'r pethau y buom yn eu trafod pan oeddem yno - cefais y fraint o'i agor, felly mae bellach yn pweru'r ysbyty, gan helpu gyda'u hôl troed carbon a'u hynni - ond un o'r pethau mawr amdano yw bod ganddo brosiect perthi ac ymylon o'i amgylch ar gyfer coed, a phlannwyd gweirglodd fioamrywiol oddi tano. Beth sydd beidio â'i hoffi? Felly, yr ateb byr yw, 'Po fwyaf o bethau y gall eu cyflwyno ar yr un pryd a'r gofod y gall ei ddefnyddio na ellir ei ddefnyddio at ddefnydd buddiol arall, gorau oll', ac yna, gallwn sicrhau caniatâd ar gyfer y prosiectau.
In addition to the laudable target to achieve 70 per cent of Wales's electricity demand from renewable sources by 2030, of course by 2035 we're aiming for 100 per cent renewable generation. But we also have to find, and it's within your plans there, a fivefold increase in electricity generation from those renewable sources by 2050. It's an enormous challenge, but it's a great opportunity, particularly if we can make sure that communities have a stake in this, and also local government, our great municipalities, and also that the Welsh Government has a stake in this as well. Because there is the size of the challenge, but what an opportunity, finally, to get all of us involved in this as well. So, how are we going to take that forward, both at a community level but also at a Welsh Government and a national level?
Yn ogystal â'r targed canmoladwy i gyflawni 70 y cant o alw Cymru am drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, erbyn 2035 wrth gwrs, rydym yn anelu at gynhyrchu 100 y cant o ynni o ffynonellau adnewyddadwy. Ond hefyd, ac mae hyn wedi'i gynnwys yn eich cynlluniau yno, rhaid inni ddod o hyd i gynnydd pumplyg yn y trydan a gynhyrchir o'r ffynonellau adnewyddadwy hynny erbyn 2050. Mae'n her enfawr, ond mae'n gyfle gwych, yn enwedig os gallwn sicrhau bod gan gymunedau gyfran yn hyn, yn ogystal â llywodraeth leol, ein bwrdeistrefi gwych, a bod cyfran gan Lywodraeth Cymru yn hyn hefyd. Oherwydd mae'r her yn fawr, ond am gyfle, o'r diwedd, i bob un ohonom gymryd rhan yn hyn hefyd. Felly, sut rydym yn mynd i fwrw ymlaen â hynny, ar lefel gymunedol ond hefyd ar lefel Llywodraeth Cymru ac ar lefel genedlaethol?
Thank you, Huw. Llywydd, I'm in danger of needing to give an hour's lecture as the answer to every one of these questions. I won't try to your patience too much. Suffice to say, Huw, we've already announced that we'll make a state-owned energy development company. Part of the point of that is to build exemplar sites with a lot of community ownership and to exploit the resources we already have. We've worked very closely with the Crown Estate to bring forward the floating wind in the Celtic sea and the fixed wind off our north coast. That alone is a 2 GW opportunity immediately, with much more to come. The big issue for us is grid. We're having a discussion with the grid on the new holistic network design, which I think will bring forward the opportunity for a large number of small projects right across Wales, including the 'homes as power stations' type thing that we look forward to seeing. Great restraint there, Llywydd - I hope you agree.
Diolch, Huw. Lywydd, mae perygl y bydd angen imi draddodi darlith awr yn ateb i bob un o'r cwestiynau hyn. Nid wyf am fod yn ormod o dreth ar eich amynedd. Digon yw dweud, Huw, ein bod eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn gwneud cwmni datblygu ynni sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Rhan o bwynt hynny yw adeiladu safleoedd enghreifftiol gyda llawer o berchnogaeth gymunedol a manteisio ar yr adnoddau sydd gennym eisoes. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gydag Ystad y Goron i ddatblygu ynni gwynt arnofiol yn y môr Celtaidd ac ynni gwynt sefydlog oddi ar ein harfordir gogleddol. Mae hynny ar ei ben ei hun yn gyfle 2 GW ar unwaith, gyda llawer mwy i ddod. Y broblem fawr i ni yw grid. Rydym yn trafod cynllun rhwydwaith cyfannol newydd gyda'r grid, rhwydwaith a fydd yn fy marn i yn creu cyfle i nifer fawr o brosiectau bach ar draws Cymru, gan gynnwys math o 'gartrefi fel gorsafoedd pŵer' yr edrychwn ymlaen at eu gweld. Cryno iawn yno, Lywydd - gobeithio eich bod yn cytuno.
I appreciate it.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny.
Thank you, Rhys. I have regular contact with the UK Government and other devolved administrations in respect of building safety. I engage with my counterparts in the UK Government and devolved nations through the inter-ministerial group meetings, in which I discuss matters including building safety.
Diolch, Rhys. Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill mewn perthynas â diogelwch adeiladau. Rwy'n ymgysylltu â fy nghymheiriaid yn Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig drwy gyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol, lle rwy'n trafod materion sy'n cynnwys diogelwch adeiladau.
Diolch yn fawr, Weinidog. I was disappointed in hearing your answer to my colleague Janet Finch-Saunders that you're yet to receive a response to your request to meet Michael Gove. I hope he will respond to you very soon. Minister, I read your article in Welsh Housing Quarterly, and in that you set out further action on building safety. I was pleased to see that some remediation work has happened with at least two developers. When do you expect the other developers - 11 in total - will commence the remediation work, and how many developers are yet to engage or have refused to sign up to the pact? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Weinidog. Cefais fy siomi wrth glywed eich ateb i fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders eich bod eto i dderbyn ymateb i'ch cais i gyfarfod â Michael Gove. Gobeithio y bydd yn ymateb i chi yn fuan iawn. Weinidog, darllenais eich erthygl yn Welsh Housing Quarterly, ac yn honno rydych yn nodi camau pellach ar ddiogelwch adeiladau. Roeddwn yn falch o weld bod rhywfaint o waith cyweirio wedi digwydd gydag o leiaf ddau ddatblygwr. Pryd rydych chi'n disgwyl i'r datblygwyr eraill - 11 i gyd - ddechrau'r gwaith cyweirio, a faint o ddatblygwyr sydd eto i ymgysylltu neu wedi gwrthod ymrwymo i'r cytundeb? Diolch yn fawr.
Thank you very much, Rhys. I met Lucy Frazer. Unfortunately, she changed jobs pretty immediately afterwards. I'm not going to take that personally. I'll have to look to meet the new housing Minister as soon as I know who that is. I do meet Michael Gove regularly at the higher level inter-ministerial group meetings, in which we discuss these matters as well, but I haven't had the opportunity to do that in the last month or so. We have 11 developers signed up to the pact, so we're really pleased that they've done that. We're in the process of agreeing the legal documentation that goes alongside that, and we've been working with them to make sure that they can commence in advance of that. Two of them, Persimmon and Bellway, have commenced work in developments in advance of the legal documentation. We're working with others to see if we can accelerate that. I would encourage them right now to start those works as soon as possible, but nevertheless we'd like them to sign up to the legal documentation. Without giving too much up in the way of commercial confidentiality, the range of things we're discussing are, for example, whether the Government can help with cash flow problems by paying upfront and being repaid, whether the work can be shared in some way, and also what the supply chain and employment chains look like. Because with the best will in the world, we'll all be fighting over the same resource if we're not careful. So, we do need to make sure that it's calibrated. We also want to take into account the outcome of our surveys, including the intrusive surveys, so that we're looking at a 'worst fabric first' approach here in Wales. But as I said in response to Janet Finch-Saunders, I will also take a very dim view of any developers who don't sign up and get started as soon as they can.
Diolch yn fawr, Rhys. Cyfarfûm â Lucy Frazer. Yn anffodus, newidiodd swyddi'n eithaf buan wedyn. Nid wyf yn mynd i gymryd hynny'n bersonol. Bydd rhaid imi geisio cyfarfod â'r Gweinidog tai newydd cyn gynted ag y gwn i pwy fyddant. Rwy'n cyfarfod â Michael Gove yn rheolaidd yng nghyfarfodydd y grŵp rhyngweinidogol lefel uwch lle rydym yn trafod y materion hyn hefyd, ond nid wyf wedi cael cyfle i wneud hynny yn ystod y mis diwethaf. Mae gennym 11 o ddatblygwyr wedi ymrwymo i'r cytundeb, felly rydym yn falch iawn eu bod wedi gwneud hynny. Rydym yn y broses o gytuno ar y ddogfennaeth gyfreithiol sy'n mynd ochr yn ochr â hynny, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy i sicrhau y gallant ddechrau cyn hynny. Mae dau ohonynt, Persimmon a Bellway, wedi dechrau ar eu gwaith mewn datblygiadau cyn y ddogfennaeth gyfreithiol. Rydym yn gweithio gydag eraill i weld a allwn ni gyflymu hynny. Byddwn yn eu hannog nawr i ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl, ond er hynny hoffem iddynt ymrwymo i'r ddogfennaeth gyfreithiol. Heb ildio gormod o safbwynt cyfrinachedd masnachol, yr ystod o bethau rydym yn eu trafod yw, er enghraifft, a all y Llywodraeth helpu gyda phroblemau llif arian drwy dalu ymlaen llaw a chael ei had-dalu, a oes modd rhannu'r gwaith mewn rhyw ffordd, a hefyd sut olwg sydd ar y gadwyn gyflenwi a'r gadwyn gyflogaeth. Oherwydd gyda'r ewyllys gorau yn y byd, byddwn i gyd yn ymladd dros yr un adnoddau os nad ydym yn ofalus. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ei fod wedi'i raddnodi. Rydym hefyd am ystyried canlyniad ein harolygon, gan gynnwys yr arolygon ymwthiol, fel ein bod yn edrych ar ddull 'adeiladwaith gwaethaf yn gyntaf' yma yng Nghymru. Ond fel y dywedais mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, byddaf hefyd yn feirniadol iawn o unrhyw ddatblygwyr nad ydynt yn ymrwymo ac yn dechrau cyn gynted ag y gallant.
I'd like to thank my colleague Rhys for raising this issue. Minister, I understand that PRP, the company instructed by the Welsh Government to complete site surveys of the 163 buildings in Wales registered as affected by cladding issues, will not release any reports until all of the surveys are completed. The timescale for completion was indicated as sometime in October, and we are now four months over that original completion date. As the Minister will no doubt agree, this issue is extremely important for many people who own flats, because they are unable to sell or remortgage properties until these site surveys have been completed and any potential work highlighted is undertaken. Therefore, Minister, can you provide a provisional date by which you expect PRP will have completed all site surveys and make available their reports? Thank you.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Rhys am godi'r mater hwn. Weinidog, rwy'n deall na fydd PRP, y cwmni a gyfarwyddwyd gan Lywodraeth Cymru i gwblhau arolygon safle o'r 163 o adeiladau yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru fel rhai yr effeithir arnynt gan faterion cladin, yn rhyddhau unrhyw adroddiadau nes y bydd yr holl arolygon wedi'u cwblhau. Nodwyd bod yr amserlen ar gyfer cwblhau rywbryd ym mis Hydref, ac rydym bellach bedwar mis dros y dyddiad cwblhau gwreiddiol hwnnw. Fel y bydd y Gweinidog yn cytuno rwy'n siŵr, mae'r mater hwn yn hynod bwysig i lawer o bobl sy'n berchen ar fflatiau, oherwydd nad ydynt yn gallu gwerthu neu ail-forgeisio eiddo nes bod yr arolygon safle hyn wedi'u cwblhau ac unrhyw waith posibl a nodwyd yn cael ei wneud. Felly, Weinidog, a allwch chi ddarparu dyddiad y byddwch yn disgwyl y bydd PRP wedi cwblhau'r holl arolygon safle ac yn sicrhau bod eu hadroddiadau ar gael? Diolch.
Thank you, Joel. As I said, we are very aware of what the position on each site is. We understand what the difficulties have been. The remaining sites, the ones that are not yet completed, all have either a complex management structure and it's taken us some time to get all of the consents in place for the intrusive surveys - I believe we've got all but two of those sorted now - and the others require the closure of a main thoroughfare or there is some other utility issue associated with actually commencing the work. So, it's not that we need to put an end date on it; we understand what the issue for each of the buildings is and we're working with them to make sure that we can overcome that, including speaking to local authorities and engaging in that way. I'm very aware that this is taking longer than we'd thought. Unfortunately, it's even more complicated than I thought, and I get absolutely trolled on social media every time I say that, but it doesn't take away from the fact that it is complex. We will be bringing forward a building reform Bill, which makes it a lot less complex and makes people step up to their responsibilities. I hope that the Senedd will help us pass that when it comes forward. We are learning a lot from the complexity that we're encountering in doing this in terms of helping us craft the Bill and make sure that the system that we put in place for the future makes sure that this does not happen again.
Diolch, Joel. Fel y dywedais, rydym yn ymwybodol iawn o beth yw'r sefyllfa ar bob safle. Rydym yn deall beth fu'r anawsterau. Mae gan y safleoedd sy'n weddill i gyd, y rhai nad ydynt wedi'u cwblhau eto, naill ai strwythur rheoli cymhleth ac mae wedi cymryd peth amser inni gael yr holl gydsyniadau yn eu lle ar gyfer yr arolygon ymwthiol - rwy'n credu bod gennym bob un ond dau o'r rheini yn eu lle nawr - ac mae'r lleill yn galw am gau prif dramwyfa neu mae rhyw fater cyfleustodau arall yn codi mewn perthynas â dechrau'r gwaith. Felly, nid yw'n fater o fod angen inni roi dyddiad gorffen arno; rydym yn deall beth yw'r mater sy'n codi ar gyfer pob un o'r adeiladau ac rydym yn gweithio gyda hwy i wneud yn siŵr y gallwn oresgyn hynny, gan gynnwys siarad ag awdurdodau lleol ac ymgysylltu yn y ffordd honno. Rwy'n ymwybodol iawn fod hyn yn cymryd mwy o amser nag a feddyliem. Yn anffodus, mae hyd yn oed yn fwy cymhleth nag a feddyliwn, ac rwy'n cael fy nhrolio ar y cyfryngau cymdeithasol bob tro rwy'n dweud hynny, ond mae'n dal i fod yn ffaith ei fod yn gymhleth. Byddwn yn cyflwyno Bil diwygio adeiladau, sy'n ei wneud yn llawer llai cymhleth ac yn gwneud i bobl ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Gobeithio y bydd y Senedd yn ein helpu ni i'w basio pan gaiff ei gyflwyno. Rydym yn dysgu llawer o'r cymhlethdod a wynebwn wrth wneud hyn i'n helpu i saernïo'r Bil a sicrhau bod y system a roddwn ar waith ar gyfer y dyfodol yn gwneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto.
Good afternoon, Minister. I firstly want to say I am sorry that you've had the experience of being trolled on social media; that's absolutely unacceptable, and I'm sorry to hear that. I just really wanted to ask two very short questions, one from your response to Janet Finch-Saunders. It was good to hear about the buy-out scheme. You said it was actually not being taken up, so, my first question is: I wonder what the communication process is, how you're advertising that. And the second is something, again, that you touched on: is there a pact or an agreement in place to engage with developers who are pursuing leaseholders in court? We all know that that's extremely stressful for people who have taken steps perhaps early in the process in order to try to seek remediation. Thank you. Diolch yn fawr iawn.
Prynhawn da, Weinidog. Yn gyntaf rwyf am ddweud fy mod yn flin eich bod wedi cael eich trolio ar y cyfryngau cymdeithasol; mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Roeddwn eisiau gofyn dau gwestiwn byr iawn, un yn sgil eich ymateb i Janet Finch-Saunders. Roedd yn dda clywed am y cynllun prynu allan. Fe ddywedoch chi na wneir defnydd ohono mewn gwirionedd, felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: tybed beth yw'r broses gyfathrebu, sut rydych chi'n ei hysbysebu. Ac mae'r ail yn rhywbeth, unwaith eto, y gwnaethoch chi gyffwrdd ag ef: a oes cytundeb ar waith i ymgysylltu â datblygwyr sy'n mynd â lesddeiliaid i'r llys? Rydym i gyd yn gwybod bod hynny'n straen enfawr ar bobl sydd wedi cymryd camau efallai yn gynnar yn y broses i geisio cael gwaith cyweirio wedi'i wneud. Diolch yn fawr iawn.
On the leaseholder support scheme, I said when we launched it in June last year that we'd continue to review it on a three-monthly basis, and we've continued to do that. We've reviewed and slackened the eligibility criteria each time in order to reach a wider range of people. Now, we've included the rising cost of energy in the hardship factors that are taken into account, and we've allowed displaced residents to be eligible. So, basically, if you're a pensioner couple and you've bought the flat as your pension income, then we're allowing you to take advantage of the scheme now, which wasn't the case when we started. We've communicated it through the managing agents and through all of the various routes that we are aware of, including the leaseholder groups that we do engage with. Some of the leaseholder groups have refused to engage with us, unfortunately, but we still try to communicate with as wide a range of them as possible. And, Llywydd, anyone who has anybody in this situation in their constituency or region should definitely get in touch as soon as possible because we're anxious to help as many people as possible. But more importantly, we want to help all leaseholders. I've taken the view that individual leaseholders should not have to sue individual developers for this, but that the Government should take responsibility for that, and that's the basis of the scheme we've taken forward. Unfortunately, where there is ongoing litigation, we cannot intervene in that. That's the problem. So, if there is ongoing litigation, my hands are completely tied. I wish that wasn't the case, but it is. We've already offered to pay for surveys that have been undertaken in the correct way retrospectively, and there are a number of other things that we can do. But where there is litigation ongoing, I'm afraid my hands are tied.
Ar y cynllun cefnogi lesddeiliaid, pan wnaethom ei lansio ym mis Mehefin y llynedd, dywedais y byddem yn parhau i'w adolygu bob tri mis, ac rydym wedi parhau i wneud hynny. Rydym wedi adolygu a llacio'r meini prawf cymhwysedd bob tro er mwyn cyrraedd ystod ehangach o bobl. Nawr, rydym wedi cynnwys cost gynyddol ynni yn y ffactorau caledi sy'n cael eu hystyried, ac rydym wedi caniatáu i drigolion sydd wedi'u dadleoli fod yn gymwys. Felly, yn y bôn, os ydych chi'n gwpl ar eich pensiwn a'ch bod wedi prynu'r fflat fel eich incwm pensiwn, rydym yn caniatáu i chi fanteisio ar y cynllun nawr, ac nid oedd hynny'n wir pan ddechreuodd y cynllun. Rydym wedi tynnu sylw ato drwy'r asiantau rheoli a thrwy'r holl lwybrau amrywiol rydym yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys y grwpiau lesddeiliaid rydym yn ymgysylltu â hwy. Mae rhai o'r grwpiau lesddeiliaid wedi gwrthod ymgysylltu â ni yn anffodus, ond rydym yn dal i geisio cyfathrebu ag ystod mor eang â phosibl ohonynt. A Lywydd, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw un yn y sefyllfa hon yn eu hetholaeth neu ranbarth gysylltu mor fuan â phosibl oherwydd rydym yn awyddus iawn i helpu cymaint o bobl â phosibl. Ond yn bwysicach fyth, rydym eisiau helpu pob lesddeiliad. Rwyf o'r farn na ddylai lesddeiliaid unigol orfod erlyn datblygwyr unigol ar hyn, ond y dylai'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am hynny, a dyna sail y cynllun a ddatblygwyd gennym. Yn anffodus, lle mae achos ar y gweill, ni allwn ymyrryd yn hwnnw. Dyna'r broblem. Felly, os oes achos ar y gweill, mae fy nwylo wedi'u rhwymo. Hoffwn pe na bai hynny'n wir, ond dyna fel mae pethau. Rydym eisoes wedi cynnig talu am arolygon sydd wedi'u cynnal yn y ffordd gywir yn ôl-weithredol, ac mae nifer o bethau eraill y gallwn eu gwneud. Ond lle mae achos ar y gweill, mae arnaf ofn fod fy nwylo wedi'u rhwymo.
I think you've seen just how much of a problem this is for very many of us representing constituencies. As the Minister is aware, I have two high-rise developments in Swansea East, Altamar and South Quay. In fact, the Minister might drive past them on her way in some mornings. There is serious concern being expressed to me by the residents in those blocks. In Altamar, they're concerned that Bellway are refusing to meet with them. They believe that implementing sections 116 to 125 of the Building Safety Act 2022 would get action taken. Why will the Welsh Government not put forward a legislative consent motion and allow the legislation to be used in Wales?
Rwy'n meddwl eich bod wedi gweld faint o broblem yw hyn i nifer iawn ohonom sy'n cynrychioli etholaethau. Fel y gŵyr y Gweinidog, mae gennyf ddau adeilad uchel iawn yn Nwyrain Abertawe, Altamar a Chei'r De. Yn wir, mae'n bosibl fod y Gweinidog yn gyrru heibio iddynt ar ei ffordd i mewn ambell fore. Mae preswylwyr yn y blociau hynny wedi mynegi pryder difrifol wrthyf. Yn Altamar, maent yn pryderu bod Bellway yn gwrthod cyfarfod â hwy. Credant y byddai gweithredu adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn sicrhau bod camau'n cael eu rhoi ar waith. Pam na wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chaniatáu i'r ddeddfwriaeth gael ei defnyddio yng Nghymru?
Thank you, Mike. I just don't agree that it would allow action to be taken. We're actually very well aware of those buildings. Both of them are in the intrusive survey stage; one of them is complete. One of the buildings has not asked us to pay for a survey that they'd already had done. I'm more than happy to discuss the detail with you if you want to meet with me about it. We'd like them to bring that forward. I hope that both buildings will go into remediation soon. If there is a problem with one of the developers not engaging, if you want to write to me, I'm very happy to intervene.
Diolch, Mike. Nid wyf yn cytuno y byddai'n caniatáu i gamau gael eu rhoi ar waith. Rydym yn ymwybodol iawn o'r adeiladau hynny. Mae'r ddau ohonynt ar y cam arolwg ymwthiol; mae un ohonynt wedi'i gwblhau. Mae un o'r adeiladau heb ofyn inni dalu am arolwg roeddent eisoes wedi'i gael. Rwy'n fwy na pharod i drafod y manylion gyda chi os ydych am gyfarfod â mi yn ei gylch. Hoffem iddynt ddechrau ar y gwaith. Gobeithio y bydd y ddau adeilad yn gwneud gwaith cyweirio'n fuan. Os oes problem gydag un o'r datblygwyr yn gwrthod ymgysylltu, os hoffech ysgrifennu ataf, rwy'n hapus iawn i ymyrryd.
If a local planning authority refuses an application for planning permission, the applicant can appeal to the Welsh Ministers. Planning law requires planning appeals to be determined in accordance with the development plan unless material considerations indicate otherwise.
Os yw awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cais am ganiatâd cynllunio, gall yr ymgeisydd apelio at Weinidogion Cymru. Mae cyfraith gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i apeliadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn dynodi fel arall.
Minister, in 2017, the Welsh Government overturned Caerphilly council's decision to reject an application to build 260 homes in Hendredenny. The application was opposed by residents, ward representatives, the local MS and MP, yet the Welsh Government overruled the local consensus. In the decision letter, the Minister at the time recommended a condition that the plan should include strategic drainage features and a scheme for disposal of surface water and land drainage flows, placing responsibility for approving the plans on the council. But six years later, we have NRW investigating reports of water run-off polluting a local resident's land, with fears this may have also affected a nearby river, Nant yr Aber. In addition, fears about traffic chaos have been realised, and concerns about the ability of local services to cater for hundreds of new residents continue. I know you won't be able to comment on an individual case, Minister, but could I ask if you understand the frustrations of local people when schemes like this are imposed against their wishes? What changes do you believe could be made to the planning system to give communities the power to make decisions that affect them without fears of being overruled by Cardiff?
Weinidog, yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad cyngor Caerffili i wrthod cais i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni. Gwrthwynebwyd y cais gan drigolion, cynrychiolwyr ward, yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod Seneddol lleol, ond eto fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru'r consensws lleol. Yn y llythyr penderfynu, fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd argymell amod y dylai'r cynllun gynnwys nodweddion draenio strategol a chynllun ar gyfer gwaredu dŵr wyneb a llif draenio tir, gan roi'r cyfrifoldeb am gymeradwyo'r cynlluniau ar y cyngor. Ond chwe blynedd yn ddiweddarach, mae gennym CNC yn ymchwilio i adroddiadau fod dŵr ffo yn llygru tir preswylydd lleol, gydag ofnau y gallai hyn hefyd fod wedi effeithio ar afon gyfagos, Nant yr Aber. Yn ogystal, mae ofnau am anhrefn traffig wedi'u gwireddu, ac mae pryderon am allu gwasanaethau lleol i ddarparu ar gyfer cannoedd o drigolion newydd yn parhau. Rwy'n gwybod na fyddwch yn gallu gwneud sylw ar achos unigol, Weinidog, ond a gaf fi ofyn a ydych yn deall rhwystredigaeth pobl leol pan fydd cynlluniau fel hyn yn cael eu gorfodi arnynt yn erbyn eu dymuniadau? Pa newidiadau y credwch chi y gellid eu gwneud i'r system gynllunio er mwyn rhoi pŵer i gymunedau wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy heb ofni y cânt eu diystyru gan Gaerdydd?
Thank you, Delyth. I absolutely do understand the frustration of that, and it's deeply felt in a number of communities. The difficulty is that this is - as I know you know - a quasi-judicial process. This isn't about your best judgment; this is about following a quasi-judicial process. I'm not going to talk about an individual application; I don't have the details in front of me. But in general, the frustrations are usually around that people haven't understood that the local development plan allows a development of that sort and didn't object at an early enough stage in the development plan, or that the development plan is now out of date to the point where it isn't able to bite and speculative planning consents can come forward, or that there haven't been sufficient objections of a number of statutory consultees in order to take it forward; there are a range of things of that sort. I'm not familiar with the one, off the top my head, I'm afraid, that you're talking about, but Caerphilly would not be the only council that had had trouble getting its new LDP in place. So, it may well be that a range of those factors were in place. The solution to it is to make sure - and we are making enormous efforts in this regard - that communities have a real opportunity to comment at LDP stage, so that they understand what kind of development could come forward in their community if they don't make their wishes and views known at that stage. So, I think that's the point: because it's a plan-led system, if it's not in the plan, it's very much harder for an appeal to come forward. If it is in the plan, then obviously, the developer can be - . The whole point of the plan is to allow the developers to have some level of certainty about what might be permissible. So, that's the point: to make sure that we make huge efforts at the early point of the planning process. We do fund Planning Aid Wales to help communities do that, and I'm more than happy to have a conversation - I'm sure a number of Members will have this problem - with you about how we can make sure that communities are engaged at that early stage.
Diolch, Delyth. Rwy'n deall y rhwystredigaeth yn llwyr, ac mae'n cael ei theimlo'n ddwfn mewn nifer o gymunedau. Yr anhawster yw bod hon - fel y gwn eich bod chi'n gwybod - yn broses led-farnwrol. Nid yw'n ymwneud â barnu beth sydd orau; mae'n ymwneud â dilyn proses led-farnwrol. Nid wyf yn mynd i siarad am gais unigol; nid yw'r manylion gennyf o fy mlaen. Ond yn gyffredinol, mae'r rhwystredigaeth fel arfer yn ymwneud â bod pobl heb ddeall bod y cynllun datblygu lleol yn caniatáu datblygiad o'r math hwnnw ac nad ydynt wedi gwrthwynebu ar gam digon cynnar yn y cynllun datblygu, neu fod y cynllun datblygu bellach wedi dyddio i'r pwynt lle nad oes ganddo bŵer a bod modd cyflwyno caniatâd cynllunio tybiannol, neu na fu digon o wrthwynebiadau gan nifer o ymgyngoreion statudol i'w symud ymlaen; mae amrywiaeth o bethau o'r math hwnnw. Nid wyf yn credu fy mod yn gyfarwydd â'r un y soniwch amdano, mae arnaf ofn, ond nid Caerffili fyddai'r unig gyngor a fyddai wedi cael trafferth cael ei gynllun datblygu lleol newydd yn ei le. Felly, mae'n ddigon posibl fod ystod o'r ffactorau hynny ar waith. Yr ateb yw sicrhau - ac rydym yn gwneud ymdrechion enfawr yn hyn o beth - fod gan gymunedau gyfle gwirioneddol i wneud sylwadau ar y cam CDLl, fel eu bod yn deall pa fath o ddatblygiad a allai gael ei gyflwyno yn eu cymuned os nad ydynt yn mynegi eu dymuniadau ac yn datgan eu barn ar y cam hwnnw. Felly, rwy'n meddwl mai dyna'r pwynt: achos mae'n system sy'n cael ei harwain gan gynllun, ac os nad yw yn y cynllun, mae'n llawer anos cyflwyno apêl. Os yw yn y cynllun, yna yn amlwg, gall y datblygwr fod - . Holl bwynt y cynllun yw caniatáu i'r datblygwyr gael rhyw lefel o sicrwydd ynglŷn â'r hyn a allai gael ei ganiatáu. Felly, dyna'r pwynt: sicrhau ein bod yn gwneud ymdrechion enfawr ar bwynt cynnar yn y broses gynllunio. Rydym yn ariannu Cymorth Cynllunio Cymru i helpu cymunedau i wneud hynny, ac rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs gyda chi - rwy'n siŵr y bydd hon yn broblem i nifer o'r Aelodau - ynglŷn â sut gallwn sicrhau bod cymunedau'n ymgysylltu ar y cam cynnar hwnnw.
Thank you very much, Llywydd. Minister, I welcome very much the Welsh Government's commitment to ensure -
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, dwi'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau -
You will need to ask the question on the paper.
Bydd angen gofyn y cwestiwn sydd ar y papur.
After a year and a half, I forget.
Ar ôl blwyddyn a hanner, dwi'n anghofio.
Diolch, Cefin. We need a strategic solution to updating our grid infrastructure to achieve our net-zero commitments and give people access to clean heat and transport. National planning policy states our preferred position that new power lines should be underground where possible and expects public engagement to mitigate their impact elsewhere.
Diolch, Cefin. Mae angen ateb strategol arnom i ddiweddaru ein seilwaith grid i gyflawni ein hymrwymiadau sero net a rhoi mynediad at drafnidiaeth a gwres glân i bobl. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi'r sefyllfa a ffafrir gennym, sef y dylai llinellau pŵer newydd fod o dan y ddaear lle bo modd a bod disgwyl i ymgysylltiad â'r cyhoedd liniaru eu heffaith mewn mannau eraill.
Thank you very much, Minister. Yes, I do welcome the Welsh Government's commitment to ensure that the electricity needs of Wales in the future will be met from renewable sources, and that by 2035. But my question is related to how we intend to transmit that electricity across rural areas. Now, as you said, in areas of outstanding natural beauty or national parks there is an expectation for these electric cables to be buried underground, but there is no commitment that that should happen in areas outwith those designated areas. Over the past few weeks, I have heard about plans for the construction of new pylons in the Tywi valley - and I have to declare an interest, I do live in that area - to carry cables from mid Wales down to Carmarthenshire. I do say that the area is one of historic significance and beauty, and there are examples in European countries where they have placed cables underground. So, my question, without sounding too much like a Nimby, is whether the Welsh Government will commit to develop and implement a new set, a wider set, of measures with regard to placing electricity cables underground?
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dwi'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd holl anghenion trydan Cymru yn y dyfodol yn dod o ffynonellau adnewyddol, a hynny erbyn 2035. Ond mae fy nghwestiwn i'n gysylltiedig â sut rydym ni'n bwriadu trosglwyddo'r trydan yma ar draws cefn gwlad. Nawr, fel dywedoch chi, mewn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol neu barciau cenedlaethol mae disgwyl i'r ceblau trydan yma gael eu claddu dan y ddaear, ond does yna ddim ymrwymiad bod hynny'n digwydd mewn ardaloedd y tu fas i'r ardaloedd dynoedig hyn. Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi clywed am gynlluniau ar gyfer codi peilonau newydd yn nyffryn Tywi - ac mae'n rhaid i mi ddatgan diddordeb, rwy'n byw yn nyffryn Tywi - er mwyn cario ceblau o ganolbarth Cymru lawr i Sir Gaerfyrddin. A dwi ddim yn unllygeidiog drwy ddweud bod dyffryn Tywi yn ardal o brydferthwch ac arwyddocâd hanesyddol arbennig, ac mae yna enghreifftiau mewn gwledydd yn Ewrop lle maen nhw'n gosod ceblau o dan y ddaear. Felly, fy nghwestiwn i, heb fy mod yn swnio fel Nimby mewn gwirionedd, yw: a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddatblygu a gweithredu set newydd ehangach o fesurau ynghylch gosod ceblau trydan o dan y ddaear?
Thank you, Cefin. The policy is that electricity transmission cables should be placed underground where possible, not just in designated landscapes, but where possible. Sometimes, it's not possible, even in a designated landscape. We don't anyone digging up our peatlands, for example. So we would expect developers to find the best route. Sometimes, that's not the shortest route, and then a conversation ensues about what the best route is, and by 'best', as I say, I don't mean shortest. The best route is the best environmental route; the best route for the communities that need the electricity. So, we expect the developers to undertake a series of public engagements, both with the communities affected and with the local authorities and with us, about what that best route is, and with the national grid about the connections, and we expect to come to a conclusion about the best route and the need for the electricity in that area. So, it's a complex interweb. We're also working, and have been for some time, on this new holistic network design process, because we have long believed - for 40-odd years we have believed - that a planned grid is a better grid. So we also work right across Wales in designing a future energy plan, so that we can help the grid design where it needs to be, and then take into account things like where you could underground, what kind of cable, what voltage of cable, all the rest of it, where the sub-station should be, for example. There's a whole series of other things; it's not just about the transmission lines. And we believe, and, I think, probably everyone in here believes, that that plan is a far better way of doing it than each individual developer attempting to connect their particular development in the shortest possible way that they can, which, obviously, there's an economic imperative to do that. So, just to reiterate, therefore, we require the consultation at all levels, we need the grid to step up to the case on this to make sure that it complies with the plan, we need the communities to be involved, and we need to make sure that the electricity is actually the electricity that we need and in the right place for the right thing. I personally have another goal. I don't want any community in Wales to be able to see a renewable energy facility and not be able to take advantage of it. So, I declare an interest myself here, Llywydd: I can look out of my window at home and see two windfarms, and I'm on off-grid oil. That's a situation that we really need to address. I think the communities are much more able to understand what's going on if they're benefiting directly from it. So, we also need to work on that.
Diolch, Cefin. Y polisi yw y dylid gosod ceblau trawsyrru trydan o dan y ddaear lle bo modd, nid yn unig mewn tirweddau dynodedig, ond lle bo modd. Weithiau, nid yw'n bosibl, hyd yn oed mewn tirwedd ddynodedig. Nid ydym am i neb gloddio ein mawndiroedd, er enghraifft. Felly byddem yn disgwyl i ddatblygwyr ddod o hyd i'r llwybr gorau. Weithiau, nid y llwybr byrraf fydd hwnnw, ac yna ceir trafodaeth i weld pa lwybr yw'r gorau, ac nid yw 'gorau', fel rwy'n dweud, yn golygu'r llwybr byrraf. Y llwybr gorau yw'r llwybr amgylcheddol gorau; y llwybr gorau i'r cymunedau sydd angen y trydan. Felly, rydym yn disgwyl i'r datblygwyr ymgymryd â chyfres o ymgysylltiadau cyhoeddus, gyda'r cymunedau yr effeithir arnynt a chyda'r awdurdodau lleol a chyda ni, ynglŷn â beth yw'r llwybr gorau, a chyda'r grid cenedlaethol am y cysylltiadau, ac rydym yn disgwyl dod i gasgliad am y llwybr gorau a'r angen am y trydan yn yr ardal honno. Felly, mae'n we gymhleth o ystyriaethau. Rydym hefyd yn gweithio, ac wedi bod ers peth amser, ar y broses lunio rhwydwaith gyfannol newydd hon, oherwydd rydym yn credu ers amser maith - ers tua 40 mlynedd - fod grid wedi'i gynllunio yn grid gwell. Felly rydym hefyd yn gweithio ar draws Cymru ar lunio cynllun ynni ar gyfer y dyfodol, er mwyn inni allu helpu i lunio'r grid lle mae angen iddo fod, ac yna ystyried pethau fel ble y gallech ei osod o dan y ddaear, pa fath o gebl, pa foltedd, a'r cyfan oll, lle dylai'r is-orsaf fod, er enghraifft. Mae yna gyfres gyfan o bethau eraill; mae'n ymwneud â mwy na'r llinellau trawsyrru yn unig. Ac rydym yn credu, ac rwy'n meddwl bod pawb yma'n credu mae'n debyg, fod y cynllun hwnnw'n ffordd lawer gwell o'i wneud na bod pob datblygwr unigol yn ceisio cysylltu eu datblygiad hwy yn y ffordd fyrraf sy'n bosibl, ac yn amlwg, mae pwysau economaidd i wneud hynny. Felly, os caf ailadrodd, felly, rydym angen yr ymgynghoriad ar bob lefel, rydym angen i'r grid wneud yn well ar hyn i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â'r cynllun, mae angen i'r cymunedau fod yn rhan o'r broses, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y trydan sydd ei angen arnom mewn gwirionedd, ac yn y lle cywir ar gyfer y peth cywir. Yn bersonol, mae gennyf nod arall. Nid wyf am i unrhyw gymuned yng Nghymru allu gweld cyfleuster ynni adnewyddadwy a methu manteisio arno. Felly, rwy'n datgan diddordeb fy hun yma, Lywydd: gallaf edrych allan o fy ffenestr gartref a gweld dwy fferm wynt, ac olew oddi ar y grid sydd gennyf fi. Mae honno'n sefyllfa y mae gwir angen inni fynd i'r afael â hi. Rwy'n meddwl bod y cymunedau'n llawer mwy abl i ddeall beth sy'n digwydd os ydynt yn elwa'n uniongyrchol ohono. Felly, mae angen inni weithio ar hynny hefyd.
That's a no.
Na oedd hynny.
I do apologise.
Ymddiheuro.
Thank you. Engagement has been undertaken with local authorities to discuss the roads review and its implications. The tone of those discussions has been positive and pragmatic, with an emphasis on collaboration with local government on the development of schemes that support modal shift and the decarbonisation of transport.
Diolch. Cynhaliwyd gwaith ymgysylltu gydag awdurdodau lleol i drafod yr adolygiad ffyrdd a'i oblygiadau. Roedd cywair y trafodaethau hynny'n gadarnhaol a phragmatig, gyda phwyslais ar gydweithio gyda llywodraeth leol ar ddatblygu cynlluniau sy'n cefnogi newid dulliau teithio a datgarboneiddio trafnidiaeth.
Minister, that's very positive and good to hear. You'll have seen in the last 24 hours, of course, the chaos that's caused across the local road network in and around Wrexham, when the A483 is closed or when lanes are reduced, and it shows how reduced capacity on the trunk roads impacts on traffic volumes through adjoining towns and villages where there are local roads. So, will you work with local authorities in assessing the impact of not proceeding with trunk road improvements, in terms of traffic volumes, emissions and safety, adjoining local roads and communities, and will you commit to publishing such impact assessments?
Weinidog, mae hynny'n gadarnhaol iawn ac yn dda i'w glywed. Fe fyddwch wedi gweld yn y 24 awr ddiwethaf, wrth gwrs, yr anrhefn sydd wedi'i achosi ar draws y rhwydwaith ffyrdd lleol yn Wrecsam a'r cyffiniau, pan gaiff yr A483 ei chau neu pan fydd llai o lonydd, ac mae'n dangos sut mae llai o gapasiti ar y cefnffyrdd yn effeithio ar faint o draffig sy'n teithio drwy drefi a phentrefi cyfagos lle ceir ffyrdd lleol. Felly, a wnewch chi weithio gydag awdurdodau lleol i asesu effaith peidio â bwrw ymlaen â gwelliannau i gefnffyrdd, o ran maint traffig, allyriadau a diogelwch, ffyrdd cyfagos a chymunedau lleol, ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi asesiadau effaith o'r fath?
Thank you. I was grateful to meet with Ken Skates yesterday to discuss his concern about air quality around the local roads in his constituency and the implications of what might come out of the roads review. We'll be publishing that next Tuesday, the fourteenth, along with the national transport delivery plan and a new roads policy in the future. Ken Skates will remember that when he and I both published the Wales transport strategy two years ago, we committed to putting tackling climate change at the heart of our transport policy, and we now need to follow through on that. That is often uncomfortable and involves doing things differently, and that clashes sometimes with local expectations, which have been built up over many years. But we now have a progressive policy on planning, 'Future Wales', we have 'Planning Policy Wales', we have Net Zero Wales and we have the Wales transport strategy all telling us that we need to move the dial, and that's what we intend to do through the publication of the review. Clearly, there are transport problems that exist, and he's highlighted some in his own constituency. The situation in Wrexham was unfortunate, because of some overrunning maintenance work that was meant to have been done overnight, but dragged on. There are always going to be incidents like this, whatever capacity you have on the highway network, that are going to cause inconvenience and delays. We need to build a resilient transport network, for sure, but that is resilient not just against short-term pressures, but also against medium to long-term ones that the climate and nature emergencies present. But we will continue to work very closely with local authorities and with Members to make sure that we develop schemes that both help local people and put us in a position to withstand the challenges that are coming towards us.
Diolch. Roeddwn yn falch o gyfarfod â Ken Skates ddoe i drafod ei bryder am ansawdd aer o amgylch y ffyrdd lleol yn ei etholaeth a goblygiadau'r hyn a allai ddeillio o'r adolygiad ffyrdd. Byddwn yn cyhoeddi hwnnw ddydd Mawrth nesaf, y pedwerydd ar ddeg, ynghyd â'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a pholisi ffyrdd newydd yn y dyfodol. Bydd Ken Skates yn cofio pan gyhoeddodd ef a minnau strategaeth trafnidiaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, ein bod wedi ymrwymo i roi mynd i'r afael â newid hinsawdd wrth galon ein polisi trafnidiaeth, ac mae angen bwrw ymlaen â hynny nawr. Mae hynny'n aml yn anghyfforddus ac yn golygu gwneud pethau'n wahanol, ac mae'n gwrthdaro weithiau gyda disgwyliadau lleol sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Ond mae gennym bolisi cynllunio blaengar bellach, 'Dyfodol Cymru', mae gennym 'Bolisi Cynllunio Cymru', mae gennym Gymru Sero Net ac mae gennym strategaeth trafnidiaeth Cymru oll yn dweud wrthym fod angen newid sylfaenol, a dyna y bwriadwn ei wneud drwy gyhoeddi'r adolygiad. Yn amlwg, mae yna broblemau trafnidiaeth yn bodoli, ac fe amlygodd rai yn ei etholaeth ei hun. Roedd y sefyllfa yn Wrecsam yn anffodus, oherwydd bod peth gwaith cynnal a chadw wedi gor-redeg ac i fod wedi ei gwblhau dros nos, ond fe lusgodd ymlaen. Bydd yna bob amser ddigwyddiadau o'r fath sy'n mynd i achosi anghyfleustra ac oedi ni waeth faint o gapasiti sydd gennych ar y rhwydwaith priffyrdd. Mae angen inni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gwydn yn sicr, ond un sy'n wydn nid yn unig yn erbyn pwysau tymor byr, ond hefyd yn erbyn y pwysau yn y tymor canolig i hirdymor a ddaw yn sgil yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Ond byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol a chyda'r Aelodau i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynlluniau sy'n helpu pobl leol ac yn ein rhoi mewn sefyllfa i wrthsefyll yr heriau a wynebwn.
We have the questions to the Minister for Education and Welsh Language next, and the first question is from Adam Price.
Y cwesitynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg sydd nesaf, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Adam Price.
Developing Welsh-medium education and improving the language outcomes of all our pupils as well as understanding better what lies behind the further decline in Welsh-speaking communities is a priority. Language use is at the heart of this. We will undertake further analysis when further data are available.
Mae cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau iaith ein holl ddisgyblion yn ogystal â deall yn well beth sydd y tu ôl i'r cwymp pellach yn y cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth. Mae defnydd iaith yn ganolog i hyn. Byddwn yn dadansoddi ymhellach pan ddaw rhagor o ddata ar gael.
The Minister will have seen the figures, of course, and they are concerning, aren't they? It varies from a fall of a little under 3 per cent among the youngest cohort, 3 per cent of those between 16 and 64, but 9 per cent in those over 65. There are different factors, of course, driving those different statistics, but, certainly, they paint a picture that is worrying. I know that the Commission for Welsh-speaking Communities is going to be driving progress across communities and will make recommendations as to which areas should be designated as areas of linguistic sensitivity. But can the Minister tell us more now on the kinds of interventions you as a Government think would be appropriate for the situation that we're facing in Carmarthenshire? And as we await the commission's report, would you be willing to meet with myself and other elected members within the council and other stakeholders to discuss what can be done immediately to tackle the challenges we're facing in Carmarthenshire?
Bydd y Gweinidog wedi gweld y ffigurau, wrth gwrs, ac maen nhw yn peri gofid, onid ŷn nhw? Hynny yw, mae'n amrywio o gwymp o ychydig o dan 3 y cant ymhlith y rhai ieuengaf, 3 y cant wedi hynny rhwng 16 a 64, a chwymp o bron i 9 y cant yn y ganran dros 65. Mae gwahanol ffactorau, efallai, yn gyrru'r gwahanol gostyngiadau yma, ond yn sicr yn creu darlun sydd yn peri pryder. Dwi'n gwybod bod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn mynd i ddadansoddi'r cyfrifiad ar draws y cymunedau Cymraeg ac yn mynd i ddod lan ag argymhellion o ran pa ardaloedd dylid eu pennu fel ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol, ond ydy'r Gweinidog yn gallu dweud mwy nawr ynglŷn â'r mathau o ymyriadau dŷch chi'n meddwl fel Llywodraeth fyddai'n addas ar gyfer y sefyllfa dŷn ni'n ei hwynebu yn sir Gâr? Tra'n bod ni'n aros am adroddiad y comisiwn, fyddech chi'n fodlon cwrdd gyda fi ac aelodau etholedig eraill y cyngor sir a rhanddeiliaid yn sir Gâr i drafod yr hyn y gellir ei wneud yn syth i fynd i'r afael gyda'r heriau dŷn ni'n eu hwynebu?
Thank you for those important questions. I met with the education director and the council leader of Carmarthenshire last week to discuss their strategic plan, and the message of the county council was clear, in that they see themselves that there is a need for action to be taken in a purposeful and deliberate way without delay. We have full faith that they will do so. The cabinet is unanimous in support of the plans that they have, which is very much to be welcomed. As the Member said, the picture is a complex one in the sense that different cohorts in terms of age groups have been impacted in different ways. There is a geographical element too, with specific concern regarding the Amman valley, for example. So, understanding the data in its context is important. There are positive elements too in what the county is doing, specifically in terms of investment in immersion and the ambitious plans that they have to move 10 schools along the linguistic continuum to provide more increasingly through the medium of Welsh. I'd be willing to meet with him and others. I was intending to have a series of regional meetings in different parts of Wales to discuss with local stakeholders, and it would be very appropriate to do that in Carmarthenshire too, I think.
Diolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig hynny. Gwnes i gyfarfod gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinydd cyngor sir Gâr yr wythnos ddiwethaf i drafod eu cynllun strategol nhw ac roedd neges y cyngor sir yn glir, rwy'n credu, eu bod nhw'n gweld eu hunain fod angen gweithredu yn sgil hynny mewn ffordd sydd yn bwrpasol ac heb oedi. Mae gyda ni ffydd y byddan nhw'n gwneud hynny, wrth gwrs. Mae cabinet y sir, rwy'n credu, yn unfrydol yn cefnogi'r cynlluniau sydd gyda nhw, sydd yn beth i'w groesawu. Fel gwnaeth yr Aelod ddweud, mae'r darlun yn un cymhleth yn yr ystyr bod cohorts gwahanol o ran oedran wedi cael eu 'impact-o' mewn ffyrdd gwahanol. Mae elfen ddaearyddol hefyd, gydag efallai consyrn penodol yng nghwm Aman, er enghraifft. Felly, mae'n rhaid deall y data yn ei gyd-destun. Mae elfennau positif, wrth gwrs, hefyd yn yr hyn mae'r sir yn ei wneud, yn benodol o ran y buddsoddiad mewn trochi a'r cynlluniau uchelgeisiol sydd gyda nhw i symud 10 ysgol ar hyd y continwwm ieithyddol i ddarparu mwy a mwy trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn i'n barod iawn i gwrdd gydag ef ac eraill. Roeddwn i'n bwriadu, beth bynnag, cael cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru i drafod gyda rhanddeiliaid lleol, a byddai'n addas iawn gwneud hynny in Sir Gâr, dwi'n credu.
Minister, one of the best ways of increasing the use of the Welsh language is to encourage its use in informal settings. Working with organisations such as the Young Farmers across Carmarthenshire could be a key part of ensuring that we meet the target of Cymraeg 2050. I recently raised with the Minister for rural affairs the fact that the only financial support that the Young Farmers receive from the Welsh Government is through the language grant. Although this is to be welcomed, I do think that more could still be done to support other community groups to promote and use the Welsh language. So, how are you working with your Cabinet colleagues in order to ensure that financial support for organisations such as the Young Farmers and other groups can support their success and promote the Welsh language simultaneously?
Weinidog, un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yw annog ei defnydd mewn lleoliad anffurfiol. Mae gweithio gyda sefydliadau fel y clwb Ffermwyr Ifanc ledled sir Gaerfyrddin yn gallu bod yn rhan allweddol o'r gwaith o sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed Cymraeg 2050. Yn ddiweddar, rwyf i wedi codi gyda'r Gweinidog materion gwledig y ffaith mai'r unig gymorth ariannol y mae'r Ffermwyr Ifanc yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yw drwy'r grant iaith. Er bod hyn i'w groesawu, rwy'n credu y gellir dal gwneud mwy i gefnogi grwpiau cymunedol eraill i hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg. Felly, sut ydych chi'n gweithio gyda'ch cydweithiwr yn y Cabinet i sicrhau bod cymorth ariannol i sefydliadau fel y Ffermwyr Ifanc a grwpiau eraill yn gallu cefnogi eu llwyddiant a hyrwyddo'r Gymraeg ar yr un pryd? Diolch.
I thank Sam Kurtz for those questions. The contribution made by the YFC to youth work in our rural areas is priceless. I'm very pleased about the financial contribution of almost £125,000 that we provide to the Wales federation and the county federations to ensure that their important work can continue. The enthusiasm and commitment of young people in the world of agriculture and wider rural communities in Wales is inspirational. We already provide a source of funding for other bodies in different sectors. I announced a fund last week, or the week before, increasing those this year as a result of the cost-of-living pressures and inflation on those budgets. As the Member will know, we are currently reviewing our grant programme to ensure that that aligns with the Cymraeg 2050 project. I know that he'll welcome that.
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny. Mae cyfraniad mudiad y clybiau ffermwyr ifanc i waith ieuenctid yn ein cymunedau gwledig ni yn amhrisiadwy. Rwy'n falch o'r cyfraniad ariannol o bron £125,000 rŷn ni'n ei roi i ffederasiwn Cymru a'r ffederasiynau sirol er mwyn sicrhau bod eu gwaith pwysig nhw yn parhau. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc ym myd amaeth Cymru a chymunedau gwledig ehangach yn ysbrydoledig. Rŷm ni eisoes, wrth gwrs, yn darparu ffynhonnell o arian ar gyfer cyrff mewn amryw sectorau. Mi wnes i ddatgan cronfa yr wythnos ddiwethaf, neu'r wythnos gynt, sy'n cynyddu'r rheini eleni yn sgil y pwysau o ran costau byw a chwyddiant ar gyllidebau amryw o'r rheini. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, rŷm ni wrthi ar hyn o bryd yn arolygu ein cynllun grant er mwyn sicrhau bod hynny'n cyd-fynd gyda chynllun Cymraeg 2050. Rwy'n gwybod y bydd ef yn croesawu hynny hefyd.
For the first time ever, we have a unified system for supporting learners from nought to 25 with additional learning needs. We are making a new investment in the coming days of £2.1 million to further education colleges to support the roll-out of this system for young people.
Am y tro cyntaf erioed, mae gennym system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o ddim i 25 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwneud buddsoddiad newydd yn y dyddiau nesaf o £2.1 miliwn i golegau addysg bellach i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system hon i bobl ifanc.
Thank you, Minister. It was helpful to hear that. Minister, you will be aware from the case work that I have previously written to you about, which touches upon my original question - . The main issue that was raised with me was that there generally isn't straightforward signposting available for young people with additional learning needs and their families who wish to attend post-16 education. I'm sure, Minister, that you'll agree that there should be a process to ensure that a young person's needs can be met. But, from what I understand, there are frustrations that this process isn't as clear as it should be, and that there can be a lack of communication as to why certain decisions have been made. I appreciate that the additional learning needs Act looks to improve the support that is on offer to young people with additional needs. But, can the Minister outline how the current reforms are being extended to better help young people with ALN and their families, with the transition into post-16 education, and to ensure that they can access consistent, straightforward advice and support, so that we can remove any unnecessary barriers and open as many doors as possible for young people with additional needs?
Diolch. Roedd yn ddefnyddiol clywed hynny. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o'r gwaith achos yr ysgrifennais atoch yn ei gylch yn y gorffennol, sy'n cyffwrdd â fy nghwestiwn gwreiddiol - . Y prif fater a gafodd ei ddwyn i fy sylw oedd nad oes cyfeirio syml ar gael yn gyffredinol i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd sy'n dymuno mynychu addysg ôl-16. Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddwch yn cytuno y dylid cael proses i sicrhau bod modd diwallu anghenion person ifanc. Ond o'r hyn rwy'n ei ddeall, mae yna rwystredigaeth nad yw'r broses hon mor glir ag y dylai fod, ac y gall fod diffyg cyfathrebu ynglŷn â pham y gwnaed penderfyniadau penodol. Rwy'n derbyn bod y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ceisio gwella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Ond a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae'r diwygiadau presennol yn cael eu hymestyn i helpu pobl ifanc ag ADY a'u teuluoedd yn well gyda phontio i addysg ôl-16, ac i sicrhau y gallant gael cyngor a chefnogaeth gyson a syml, fel y gallwn gael gwared ar unrhyw rwystrau diangen ac agor cymaint o ddrysau â phosibl i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol?
I thank the Member for that question. He has, as he said, corresponded with me in relation to particular issues on behalf of constituents. While I'm sure that the response wasn't what he was hoping for, at least I hope that it was a clear explanation of the decision that was taken, and the impact of the appeal process, if that's the reference that he's making in his question. The ALN system is designed to strengthen young people's rights and to ensure that their feelings and views, and those of their families, are listened to and taken fully into account. It's designed to ensure that the right support is put in place quickly in a way that best reflects the needs of those young people. In the context of post-16 reforms, we have adopted, as the Member may know, a flow-through approach to move young people from the SEN system through to the ALN system. So, those currently in year 11 and below will flow through into FE with their existing IDP at that point in time. The Welsh Government is, at the moment, working with local authorities to devolve the budgets to support local authorities making those judgments into the future, so that there's a local connection between the needs of young people and the provision that is available. He makes an important point in relation to the communication of the availability of services to young people. It's an important principle of the code and the Act that that is, obviously, working effectively. Most recently, at the end of last year, we published a series of guidance documents for young people about the system and the code, and the ALN pathfinder website, which aims to help young people with ALN, should, I hope, be a useful tool, so that young people know what rights they have and what support there is available to them.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedodd, mae wedi gohebu â mi mewn perthynas â materion penodol ar ran etholwyr. Er fy mod yn siŵr nad oedd yr ymateb yr hyn y gobeithiai amdano, rwy'n gobeithio o leiaf ei fod yn esboniad clir o'r penderfyniad a wnaed, ac effaith y broses apelio, os mai at hynny y mae'n cyfeirio yn ei gwestiwn. Bwriad y system ADY yw cryfhau hawliau pobl ifanc a sicrhau bod eu teimladau a'u safbwyntiau, a rhai eu teuluoedd, yn cael eu clywed a'u hystyried yn llawn. Y bwriad yw sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith yn gyflym yn y ffordd orau i adlewyrchu anghenion y bobl ifanc hynny. Yng nghyd-destun diwygiadau ôl-16, fel y gŵyr yr Aelod, rydym wedi mabwysiadu dull llifo drwodd i symud pobl ifanc o'r system AAA i'r system ADY. Felly, bydd y rhai sydd ym mlwyddyn 11 neu'n iau ar hyn o bryd yn llifo drwodd i mewn i addysg bellach gyda'u cynllun datblygu unigol presennol ar y pwynt hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd, yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatganoli'r cyllidebau er mwyn cefnogi awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau hynny i'r dyfodol, fel bod cysylltiad lleol rhwng anghenion pobl ifanc a'r ddarpariaeth sydd ar gael. Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chyfathrebu argaeledd gwasanaethau i bobl ifanc. Yn amlwg, mae'n egwyddor bwysig yn y cod a'r Ddeddf fod hynny'n gweithio'n effeithiol. Yn fwyaf diweddar, ddiwedd y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi cyfres o ddogfennau canllaw ar gyfer pobl ifanc am y system a'r cod, ac rwy'n gobeithio y bydd gwefan fraenaru ADY, sy'n ceisio helpu pobl ifanc ag ADY, yn arf defnyddiol iddynt, fel bod pobl ifanc yn gwybod pa hawliau sydd ganddynt a pha gymorth sydd ar gael iddynt.
At the beginning of January, I raised the issue of a lack of Welsh-language assessments in a timely manner for children and young people who are neurodiverse. I have a few cases in my constituency of children who need Welsh-language assessments and are having to wait years for those assessments. One, for example, has been waiting for assessment since February, and an initial online assessment by the Healios company was conducted some weeks ago. The child's first language is Welsh, and it was decided by the assessor that the assessment should be held through the medium of Welsh in terms of fairness, but the only Welsh-medium assessor is on maternity leave. The case was referred to the local neurodevelopment service; the result of that is that they'll have to wait two or three years for a Welsh-medium face-to-face appointment. So, does the Minister believe that it's acceptable that people who have Welsh as their first language have to wait far longer for assessments, and what cross-departmental work is happening in order to improve the provision and ensure that this situation is improved?
Ar ddechrau mis Ionawr, fe wnes i godi'r mater o ddiffyg asesiadau Cymraeg amserol i blant a phobl ifanc niwro-amrywiol. Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd angen asesiadau cyfrwng Cymraeg ond yn gorfod aros blynyddoedd am yr asesiadau hynny. Mae yna un, er enghraifft, wedi bod yn aros am asesiad ers mis Chwefror, ac fe gafodd asesiad cychwynnol ar-lein gan gwmni Healios rai wythnosau yn ôl. Cymraeg ydy mamiaith y plentyn, a barnodd yr aseswyr y dylid cael yr asesiad yn Gymraeg er mwyn cael canlyniad teg, ond mae'r unig asesydd cyfrwng Cymraeg i ffwrdd ar famolaeth. Ailgyfeiriwyd yr achos i'r gwasanaeth niwro-ddatblygol lleol; canlyniad hynny yw y bydd yn rhaid aros dwy neu dair blynedd am asesiad wyneb i wyneb cyfrwng Cymraeg. Felly, a ydy'r Gweinidog yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod pobl sydd efo'r Gymraeg fel eu mamiaith yn gorfod aros llawer iawn mwy o amser am asesiadau, a pha waith traws-adrannol sydd yn digwydd er mwyn gwella'r ddarpariaeth a sicrhau bod y sefyllfa yma'n gwella?
Well, I don't think that it's acceptable that that happens, of course, and I'm sorry to hear the example that the Member brings to the Chamber today. One of my priorities, in terms of the reforms within the education system, is to ensure that we have expertise in this field in the Welsh language. We are commissioning resources to support that at the moment, but we haven't reached where we need to be - I accept that fully. But work is in train to commission more resources and to provide provision across Wales, so that there is leadership in the system to be able to respond to the kinds of challenges that the Member mentions. If the Member wishes to write to me about that specific example, I'm happy to look at that, but I can also work with Julie Morgan on how this works in the health system too and bring the example to the attention of the Welsh language lead that we have in the system already.
Wel, dwi ddim yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod hynny'n digwydd, wrth gwrs, ac rwy'n flin i glywed yr enghraifft y mae'r Aelod yn ei dwyn i'r Siambr heddiw. Un o'm blaenoriaethau i, o ran y diwygiadau o fewn y system addysg o leiaf, yw sicrhau bod gennym ni arbenigedd yn y maes hwn yn y Gymraeg. Rŷn ni wrthi'n comisiynu adnoddau i gefnogi hynny ar hyn o bryd, ond dŷn ni ddim wedi cyrraedd lle sydd angen inni fod - rwy'n derbyn hynny'n llawn. Ond mae gwaith yn digwydd eisoes i gomisiynu mwy o adnoddau a hefyd i gael darpariaeth ar draws Cymru, fel bod arweinyddiaeth yn y system i allu ymateb i'r math o heriau y mae'r Aelod yn sôn amdanyn nhw. Os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf fi am yr enghraifft benodol honno, rwy'n hapus i edrych ar hynny, ond hefyd fe allaf i weithio gyda Julie Morgan ar sut y mae hyn yn gweithio yn y system iechyd hefyd a dwyn yr enghraifft at sylw yr arweinydd iaith Gymraeg sydd gyda ni yn y system eisoes.
Diolch, Llywydd. Minister, since 2017, 40 per cent of school support staff registered with the Education Workforce Council have left. There's clearly a massive retention problem at the heart of Welsh education, which is causing the industry to lose experienced staff at this rate. Because of this, cash-strapped schools are having to put even more of a strain on their budgets, having to recruit and train more staff. Why have you allowed this issue to go on for nearly six years now, and just when will your Government fix this retention crisis, which has presented itself particularly under your watch?
Diolch, Lywydd. Weinidog, ers 2017, mae 40 y cant o staff cymorth ysgolion sydd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg wedi gadael. Mae'n amlwg fod problem enfawr gyda chadw staff wrth galon y byd addysg yng Nghymru, sy'n achosi i'r diwydiant golli staff profiadol ar y raddfa hon. Oherwydd hyn, mae ysgolion sy'n brin o arian yn gorfod rhoi hyd yn oed mwy o straen ar eu cyllidebau, ac yn gorfod recriwtio a hyfforddi mwy o staff. Pam eich bod chi wedi caniatáu i'r broblem hon barhau am bron i chwe blynedd bellach, a phryd fydd eich Llywodraeth yn datrys yr argyfwng cadw staff, sydd wedi datblygu i raddau helaeth o dan eich gwyliadwriaeth chi?
Well, I recognise that we need to do everything we can to support in the system support staff, who deliver a very, very important service to our young people and are indispensable in our schools. The Member's question does not recognise the work that I've done since becoming Minister in relation to this matter. She will recall, because I made a statement in this Chamber last year, that I've commenced a programme of work to support the very people that she's referring to in her question. That involves a process of work led by teaching assistants in relation to the standardisation of roles and consistent deployment of TAs across local authorities and schools in Wales. It's also coupled with an entitlement, for the first time, for a programme of professional learning to teaching assistants. The professional learning grant will now be weighted to reflect the number of TAs in schools. Those are all new developments that have come into place over the course of the last year. I recognise that it's really important that we fully value the role that teaching assistants and other support staff play in our schools, and I absolutely am doing that.
Wel, rwy'n cydnabod bod angen inni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff cymorth o fewn y system, sy'n darparu gwasanaeth pwysig iawn i'n pobl ifanc ac sy'n anhepgor yn ein hysgolion. Nid yw cwestiwn yr Aelod yn cydnabod y gwaith a wneuthum ers dod yn Weinidog mewn perthynas â'r mater hwn. Fe fydd yn cofio, oherwydd fe wneuthum ddatganiad yn y Siambr hon y llynedd, fy mod wedi dechrau rhaglen waith i gefnogi'r union bobl y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei chwestiwn. Mae hynny'n cynnwys proses waith a arweinir gan gynorthwywyr addysgu ar safoni rolau a defnyddio cynorthwywyr addysgu yn gyson ar draws awdurdodau lleol ac ysgolion yng Nghymru. Mae hefyd wedi'i gyplysu â hawl, am y tro cyntaf, i raglen ddysgu proffesiynol i gynorthwywyr dysgu. Bydd y grant dysgu proffesiynol yn cael ei bwysoli bellach i adlewyrchu nifer y cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion. Mae'r rheini i gyd yn ddatblygiadau newydd sydd wedi dod i rym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n cydnabod ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r rôl y mae cynorthwywyr addysgu a staff cymorth eraill yn ei chwarae yn ein hysgolion, ac rwy'n sicr yn gwneud hynny.
Absolutely, Minister - it's an invaluable role, and it's better late than never, I suppose. It's not just a crisis with support staff though, is it? From my conversations with the Education Workforce Council and the Universities and Colleges Admissions Service, it's blindingly obvious that we have a crisis in recruiting and attracting core subject teachers. Last year, you hit under 50 per cent of your own target for mathematics teachers, and just under 30 per cent for physics and chemistry. You can't even attract Welsh-medium core teachers, fundamental to your roll-out of Welsh-medium education. Things aren't just adding up, are they? Since 2011, we've seen a 10 per cent drop in teachers' numbers, as they leave the profession in droves. Recruitment and retention of high-quality teachers is fundamental to ensuring that our children and young people in Wales receive the best education that they deserve. From these figures, it's blindingly obvious that you're failing miserably and worryingly in your objectives. Minister, just why have you and your Government allowed this persistent issue to turn into a full-blown crisis?
Yn bendant, Weinidog - mae'n rôl amhrisiadwy, a gwell hwyr na hwyrach, mae'n debyg. Ond nid argyfwng gyda staff cymorth yn unig yw hi. O fy sgyrsiau gyda Chyngor y Gweithlu Addysg a Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau, mae'n gwbl amlwg fod gennym argyfwng recriwtio a denu athrawon pynciau craidd. Y llynedd, ni wnaethoch gyrraedd 50 y cant o'ch targed eich hun ar gyfer athrawon mathemateg, ac ychydig o dan 30 y cant ar gyfer athrawon ffiseg a chemeg. Ni allwch ddenu athrawon craidd cyfrwng Cymraeg hyd yn oed, sy'n angenrheidiol i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw pethau'n gweithio. Ers 2011, rydym wedi gweld gostyngiad o 10 y cant yn niferoedd athrawon wrth iddynt adael y proffesiwn yn eu heidiau. Mae recriwtio a chadw athrawon o safon uchel yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn cael yr addysg orau y maent yn ei haeddu. O'r ffigurau hyn, mae'n gwbl amlwg eich bod yn methu'n enbyd yn eich amcanion ac mae hynny'n peri pryder. Weinidog, pam eich bod chi a'ch Llywodraeth wedi caniatáu i'r broblem barhaus hon droi'n argyfwng?
If the Member wants to know what a demoralised teaching profession that doesn't feel valued by its Government looks like, she just needs to look over the border at what's happening in England, which is cataclysmic in terms of retention and recruitment generally. So, that is what a Conservative education policy looks like. We can see it happening before our very eyes. What we have in Wales - [ Interruption.] The Member is muttering; I'm happy to answer the question. What we are doing in Wales, as she will know - we've debated in this Chamber many times, and I know that she has strong, if sometimes perhaps not fully-informed, views on this - is we have a 10-year plan to recruit Welsh-medium teachers, working together with our partners across the system, and which is creative and tries new approaches to improve the numbers of Welsh-medium teachers coming into our profession. We have financial incentives to encourage those in difficult subjects, where recruitment is a challenge not just in Wales, not just in the UK, but internationally. So, some of those are in maths, some of it is in some of the science subjects. We have arrangements in place to encourage young people into the profession to teach in those areas, because I want to make sure that, in the areas that I agree with her are key areas, we have a full complement of staff able to make sure that our young people get the education they need.
Os yw'r Aelod eisiau gwybod sut olwg sydd ar broffesiwn addysgu digalon nad yw'n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi gan ei Lywodraeth, nid oes ond angen iddi edrych dros y ffin ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, sy'n drychinebus o ran cadw a recriwtio yn gyffredinol. Felly, dyna sut olwg sydd ar bolisi addysg Ceidwadol. Gallwn ei weld yn digwydd o flaen ein llygaid. Yr hyn sydd gennym yng Nghymru - [ Torri ar draws. ] Mae'r Aelod yn mwmian; rwy'n hapus i ateb y cwestiwn. Yr hyn a wnawn yng Nghymru, fel y bydd hi'n gwybod - rydym wedi trafod y mater yn y Siambr lawer gwaith, a gwn fod ganddi farn gref ar hyn, os ychydig yn anwybodus weithiau - yw bod gennym gynllun 10 mlynedd i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, gan gydweithio â'n partneriaid ar draws y system mewn ffordd sy'n greadigol a chan roi cynnig ar ddulliau newydd i wella niferoedd yr athrawon cyfrwng Cymraeg sy'n dod i mewn i'n proffesiwn. Mae gennym gymelliadau ariannol i annog y rheini mewn pynciau anodd, lle mae recriwtio'n her, nid yn unig yng Nghymru, nid yn unig yn y DU, ond yn rhyngwladol. Felly, mae rhai o'r rheini ym maes mathemateg, mae rhai ohonynt yn rhai o'r pynciau gwyddonol. Mae gennym drefniadau ar waith i ddenu pobl ifanc i'r proffesiwn i addysgu yn y meysydd hynny, oherwydd rwyf eisiau sicrhau, yn y meysydd rwy'n cytuno â hi sy'n feysydd allweddol, fod gennym gyflenwad llawn o staff i allu sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael yr addysg y maent ei hangen.
Minister, education is devolved. You peddle out the same old excuses when you have levers at your own disposal. Even though the aims of the suggested new supply teacher central portal are the right ones - and I will credit you on that - even people like the Education Workforce Council have said, in practice, it's just not going to work, given there's no incentive, no driver, to make them move over to the central system, because they're not competitive financially with the private sector offerings, and it's purely dependent on local authorities and staff signing up for it; it's just not mandatory. It's yet another sticking-plaster solution, isn't it, that will not solve the critical problem of your own making that we're facing. Quite frankly, it stinks of 25 years of a stale old Government that has run out of ideas and is shooting in the dark and hoping for the best. You're not attracting core subject teachers. You are not retaining support staff, and your party, the party of the unions, can't even avert teaching strikes with levers at your own disposal. Minister, I want to know what exactly you are doing to solve this urgent, self-made, teaching staff crisis.
Weinidog, mae addysg wedi ei ddatganoli. Rydych yn pedlera'r un hen esgusodion pan fo gennych ysgogiadau ar gael i chi. Er bod nodau'r porth canolog newydd i athrawon cyflenwi a awgrymir yn gywir - ac rwy'n rhoi clod i chi am hynny - mae hyd yn oed Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dweud nad yw'n mynd i weithio'n ymarferol o ystyried nad oes cymhelliad nac ysgogiad i wneud iddynt symud i'r system ganolog, oherwydd nad ydynt yn gystadleuol yn ariannol o gymharu â chynigion y sector preifat, ac mae'n dibynnu'n llwyr ar awdurdodau lleol a staff yn ymrwymo iddo; nid yw'n orfodol. Nid yw ond yn ateb tymor byr arall, onid yw, na fydd yn datrys y broblem ddifrifol rydych wedi'i chreu. A bod yn hollol onest, mae'n drewi o 25 mlynedd o hen Lywodraeth flinedig sydd wedi rhedeg allan o syniadau ac sy'n gweithredu'n ddall gan obeithio am y gorau. Nid ydych yn denu athrawon pynciau craidd. Nid ydych yn cadw staff cymorth, ac ni all eich plaid, plaid yr undebau, atal streiciau addysg hyd yn oed gyda'r ysgogiadau sydd ar gael i chi. Weinidog, rwyf eisiau gwybod beth yn union rydych yn ei wneud i ddatrys yr argyfwng staff addysgu a grëwyd gennych.
Well, I'm not sure if the Member listened to the two previous answers that I've given, but I've outlined in great detail what we are doing. The question of retention and recruitment is a challenge in all parts of the world. What we are doing in Wales is specific to our needs in Wales. I've outlined a list of issues to her that she clearly has disregarded in her third question. What we are doing in Wales is making sure our teaching profession recognise that they are valued. If we want to see how Conservatives treat this profession, we can look over our border. We are in the middle of a dispute with teachers in all parts of the UK. We will continue to work with our partners in a way that respects them rather than seeks to legislate to restrict their rights. If she thinks that's the right approach for encouraging teachers into the profession, I'm afraid I think she's very badly mistaken.
Wel, nid wyf yn siŵr a wrandawodd yr Aelod ar y ddau ateb blaenorol a roddais, ond rwyf wedi amlinellu'n fanwl iawn beth rydym yn ei wneud. Mae'r cwestiwn o gadw a recriwtio yn her ym mhob rhan o'r byd. Mae'r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yn benodol i'n hanghenion ni yng Nghymru. Rwyf wedi amlinellu rhestr o faterion iddi ac mae'n amlwg ei bod wedi diystyru'r rhestr honno yn ei thrydydd cwestiwn. Yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru yw sicrhau bod ein proffesiwn dysgu yn cydnabod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Os ydym eisiau gweld sut mae'r Ceidwadwyr yn trin y proffesiwn, gallwn edrych dros y ffin. Rydym yng nghanol anghydfod gydag athrawon ym mhob rhan o'r DU. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn ffordd sy'n eu parchu yn hytrach na cheisio deddfu i gyfyngu ar eu hawliau. Os yw'n credu mai dyna'r ffordd gywir o ddenu athrawon i'r proffesiwn, mae arnaf ofn fy mod yn credu ei bod wedi camgymryd yn fawr.
Thank you, Llywydd. Minister, yesterday, during the debate on the draft budget, I asked the Minister for finance to consider the budget implications in terms of the target of a million Welsh speakers, and, specifically, whether there are any plans to support free entry for local families or low-income families to the Urdd Eisteddfod and the National Eisteddfod this year. Last year, you invested in free entry to the Urdd Eisteddfod for everyone in the organisation's centenary year, as well as 15,000 free tickets to the National Eisteddfod. Both schemes were a success, with the Urdd reporting an increase of 31 per cent in the number of attendees, with 20 per cent of visitors coming from 40 per cent of the most deprived areas in Denbighshire. Do you intend to continue with this investment, to ensure that local families on low incomes can continue to enjoy what both of these festivals have to offer, and to benefit from what they have to offer too as part of the target of reaching a million Welsh speakers?
Diolch, Llywydd. Weinidog, ddoe, yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft, gofynnais i'r Gweinidog cyllid ystyried goblygiadau'r gyllideb o ran y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac, yn benodol, os oedd cynlluniau i gefnogi mynediad am ddim i deuluoedd lleol neu deuluoedd incwm isel i Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Y llynedd, fe wnaethoch fuddsoddi mewn mynediad am ddim i bawb i Eisteddfod yr Urdd ar flwyddyn canmlwyddiant y mudiad, a 15,000 o docynnau am ddim ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'r ddau gynllun yn llwyddiant, gyda'r Urdd yn nodi bod cynnydd o 31 y cant wedi bod mewn niferoedd yn mynychu, gydag 20 y cant o ymwelwyr yn dod o 40 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn sir Ddinbych. Oes bwriad gennych barhau gyda buddsoddiad o'r fath, er mwyn sicrhau bod teuluoedd lleol ar incwm isel yn parhau i fedru mwynhau'r hyn sydd gan ddwy o'n gwyliau cynhenid Cymreig ni i'w cynnig, a manteisio ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig fel rhan o'r targed i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg?
Well, as the Member said, in 2022-23, we increased the core grant of the National Eisteddfod to ensure that it had the resources to stage future Eisteddfodau in a time of financial uncertainty. We are to allocate additional funding to the Eisteddfod in 2023-24 in the draft budget, in order to strengthen their community engagement structures, which are so important to their work as a festival. This will mean an allocation of £1 million to the Eisteddfod during the next financial year. We're also supporting a social inclusion pilot project to run alongside the next two Eisteddfodau in areas where we see great in-migration and great demand for second homes. In terms of our support to the Urdd, the Urdd does excellent work in the Eisteddfod and more broadly as an organisation. Officials across Government collaborate with the Urdd in order to ensure that the Eisteddfod continues to be accessible, to ensure that everyone can enjoy Europe's largest youth festival, and we support the Urdd in many different ways too.
Wel, fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, yn 2022-23, gwnaethon ni gynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod gan yr Eisteddfod adnoddau i lwyfannu Eisteddfodau'r dyfodol, a hynny mewn cyfnod o ansicrwydd ariannol. Rŷn ni am ddyrannu cyllid ychwanegol i'r Eisteddfod yn 2023-24 yn y gyllideb ddrafft, er mwyn cryfhau ei strwythurau ymgysylltu cymunedol, sydd mor bwysig i'w gwaith nhw fel gŵyl. Bydd hyn yn golygu dyrannu ryw £1 filiwn i'r Eisteddfod yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rŷn ni hefyd yn cefnogi prosiect peilot cynhwysiant cymdeithasol a chymunedol i gyd-fynd â'r ddwy Eisteddfod nesaf mewn ardaloedd lle rŷn ni'n gweld mewnfudo sylweddol a galw mawr am ail gartrefi. O ran ein cefnogaeth i'r Urdd, mae'r Urdd yn gwneud gwaith ffantastig o ran yr Eisteddfod ac fel mudiad yn ehangach na hynny. Mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn cydweithio â'r Urdd er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn hygyrch, er mwyn sicrhau bod cyfle i bawb fwynhau gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, ac rydyn ni'n cefnogi'r Urdd mewn amryw ffyrdd eraill.
Thank you, Minister. I'm still not sure whether that means there will be free entry for low-income families to the Urdd Eisteddfod and the National Eisteddfod this year. I would ask, if you're not sure of that yet, it would be good to have clarity as to whether that will be able to continue in any way. Because, as has been demonstrated, there is a whole host of benefits to the Welsh language from ensuring free entry, which means there's an opportunity for some people to enjoy a Welsh-medium event in their area for the very first time ever. That does encourage people to send their children to Welsh-medium provision in terms of their education. So, can I ask you to reconsider or look again at the question I asked? Secondly, you'll be aware, I'm sure, of the proposed plans of some local authorities to close or scale back some cultural services, such as the Cardiff museum, and library services in various parts of Wales. A number of arts projects like this are under threat as a result of significant financial challenges. A key component of the new curriculum, of course, is the expressive arts, and the guidelines state that this is vitally important so that learners can gain an understanding and an appreciation of cultures and societies in Wales and in the world. With the future of a number of cultural and artistic venues at risk, are you concerned about what the impact will be on this element of the new curriculum, and have you asked local authorities to look at the impact that cuts of this kind will have on educational opportunities for our children and young people?
Diolch, Weinidog. Dwi dal ddim yn siŵr os yw hynny'n golygu y bydd yna fynediad am ddim i deuluoedd incwm isel i'r Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mi fyddwn i'n gofyn, os nad ydych chi'n bendant o hynny eto, mi fyddai'n dda cael eglurder os bydd hynny'n gallu parhau mewn unrhyw ffordd. Oherwydd, fel sydd wedi'i dangos, mae yna fanteision lu o ran y Gymraeg o ran sicrhau mynediad am ddim, gan olygu bod cyfle i rai pobl fynychu digwyddiad Cymraeg yn eu hardal am y tro cyntaf erioed. Mae hynny yn ysgogi pobl i roi eu plant mewn addysg Gymraeg ac ati. Felly, gaf i ofyn i chi ailystyried neu edrych yn benodol o ran y cwestiwn gwnes i ei ofyn? Yn ail, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, o gynlluniau arfaethedig gan awdurdodau lleol i gau neu leihau rai gwasanaethau diwylliannol, megis amgueddfa Caerdydd, a gwasanaethau llyfrgelloedd mewn amryw leoliadau yng Nghymru. Mae nifer o brosiectau celfyddydol fel hyn dan fygythiad yn sgil heriau ariannol sylweddol. Rhan greiddiol o'r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, yw'r celfyddydau mynegiannol, a dywedir yn y canllaw bod hyn yn allweddol bwysig fel bod dysgwyr yn dod i ddeall a gwerthfawrogi diwylliannau a chymdeithasau yng Nghymru a'r byd. Gyda dyfodol nifer o leoliadau diwylliannol a chelfyddydol mewn perygl, ydych chi'n pryderu beth fydd effaith hyn ar yr elfen benodol hon o'r cwricwlwm newydd, ac ydych chi wedi gofyn i awdurdodau lleol edrych ar effaith toriadau o'r fath ar gyfleoedd addysgiadol ein plant a'n pobl ifanc?
We encourage schools to look at all experiences available to our young people so that there is a diversity of experience, particularly through the medium of the Welsh language. As I mentioned earlier, we have a grant programme that supports, in terms of Welsh language policy, a number of organisations that provide a number of educational, interesting and attractive prospects for our young people. We are currently reviewing that grant, but I will refer her to the draft budget, which shows what we intend to do in this area.
Rydyn ni'n annog ysgolion i edrych ar bob ffynhonnell o brofiadau sydd ar gael i'n pobl ifanc ni fel eu bod nhw'n gallu cael amrywiaeth, ac amrywiaeth yn y Gymraeg yn benodol. Fel gwnes i grybwyll yn fras yn gynharach, mae gennym ni gynllun grant sydd yn darparu cefnogaeth ariannol o safbwynt polisi'r Gymraeg i amryw o sefydliadau a mudiadau sydd yn darparu lot o brofiadau deniadol a diddorol ac addysgiadol i'n pobl ifanc ni. Rŷn ni wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y cynllun grant yn ehangach, ond fe wnaf i ei chyfeirio hi at y gyllideb ddrafft, sy'n dangos yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud yn y maes hwn.
Yes. [ Laughter.] In September, all schools and settings will be working with the Curriculum for Wales as it rolls out through to the 2026-27 academic year. Our ongoing support to the profession is key to successful implementation, and my annual report each July is how we communicate widely on progress and priorities.
Gwnaf. [ Chwerthin.] Ym mis Medi, bydd pob ysgol a lleoliad yn gweithio gyda'r Cwricwlwm i Gymru wrth iddo barhau i flwyddyn academaidd 2026-27. Mae ein cefnogaeth barhaus i'r proffesiwn yn allweddol i'w weithredu'n llwyddiannus, ac mae fy adroddiad blynyddol bob mis Gorffennaf yn ymdrin â sut rydym yn cyfathrebu'n eang ar gynnydd a blaenoriaethau.
I'm very grateful to you, Minister, for that answer. Since the introduction of the Curriculum for Wales, the Welsh Government has emphasised that the purpose of pupil assessment is to inform the way that teachers support pupils. However, the lack of an identifiable and clear assessment framework has left one local headteacher in Carmarthen West and South Pembrokeshire concerned about the pupil transition from primary to secondary education. To ensure a correct path for pupil progression and learning, a clear assessment framework is key to establishing distinct targets, yet some teachers are finding the CfW's progression code and six areas of learning and experience ambiguous. Given the concerns of this headteacher in my constituency, what is the Minister doing to reassure teachers over smooth pupil transitions to key stage 3, and how is the Welsh Government intending on levelling the new curriculum with the existing GCSE exam system? Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. Ers cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio mai pwrpas asesu disgyblion yw llywio'r ffordd y mae athrawon yn cefnogi disgyblion. Ond mae diffyg fframwaith asesu amlwg a chlir wedi achosi i un pennaeth lleol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro deimlo'n bryderus am gyfnod pontio disgyblion o addysg gynradd i addysg uwchradd. Er mwyn sicrhau llwybr cywir ar gyfer dysgu a chynnydd disgyblion, mae fframwaith asesu clir yn allweddol i sefydlu targedau penodol, ond eto mae rhai athrawon yn credu bod cod cynnydd a chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru yn amwys. O ystyried pryderon y pennaeth yn fy etholaeth, beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i dawelu meddyliau athrawon y bydd cyfnod pontio disgyblion i gyfnod allweddol 3 yn llyfn, a sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lefelu'r cwricwlwm newydd gyda'r system arholiadau TGAU bresennol? Diolch.
Well, I would encourage the headteacher in his constituency to engage with the Camau project, which we are funding through the University of Wales Trinity Saint David, which provides resources to support schools in their development of new assessment approaches. It's fundamental, really, that at the heart of the new curriculum is that assessment is there to support the progression of individual learners. It's not there for accountability. That's a very fundamental shift. It's crucial to the curriculum, but it does involve changes in pedagogy and in teaching and learning practice. I would encourage him as well to work with his cluster to make sure there's a consistent approach to assessment and progression across the cluster, and I'd also encourage him or her to engage with the national network conversations, which have been and will continue to be a source of further information and professional learning in relation to assessment.
Wel, byddwn yn annog y pennaeth yn ei etholaeth i ymgysylltu â'r prosiect Camau a ariennir gennym drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n darparu adnoddau i gefnogi ysgolion wrth iddynt ddatblygu dulliau asesu newydd. Mae'n hanfodol, mewn gwirionedd, fod gennym asesu wrth wraidd y cwricwlwm newydd i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol. Nid yw yno er mwyn atebolrwydd. Mae hwnnw'n newid sylfaenol iawn. Mae'n hanfodol i'r cwricwlwm, ond mae'n cynnwys newidiadau mewn addysgeg ac mewn ymarfer addysgu a dysgu. Byddwn yn ei annog yn ogystal i weithio gyda'i glwstwr i sicrhau bod ymagwedd gyson tuag at asesu a chynnydd ar draws y clwstwr, a byddwn hefyd yn ei annog i ymgysylltu â sgyrsiau'r rhwydwaith cenedlaethol, sydd wedi bod ac yn mynd i barhau i fod yn ffynhonnell o wybodaeth bellach a dysgu proffesiynol mewn perthynas ag asesu.
Minister, I hope you enjoyed your visit to our excellent schools in Ffaldau and Llangynwyd last week.
Gweinidog, gobeithio i chi fwynhau eich ymweliad â'n hysgolion gwych yn Ffaldau a Llangynwyd yr wythnos diwethaf.
When we were there we visited in Llangynwyd the arts lesson that was going on, and what struck me with the new curriculum was that they were using that art session to develop issues around identity, around mental health, as well as actually teaching very good skills in art. And then they were incorporating that into other aspects of the curriculum being taught in other lessons. It was, I think, quite a revelation in the way the school had really taken on board the new curriculum. So, partly in answer to Sam's question, but also partly to ask for your reflections on that, how do we make sure that the very best practice in developing the new curriculum, and integrating it with that flexibility across the school, is done, just as they were doing in Llangynwyd?
Pan wnaethom ymweld â Llangynwyd, aethom i'r wers gelf a oedd yn cael ei chynnal a'r hyn a wnaeth fy nharo gyda'r cwricwlwm newydd oedd eu bod yn defnyddio'r sesiwn gelf honno i ddatblygu materion yn ymwneud â hunaniaeth, iechyd meddwl, yn ogystal â dysgu sgiliau celf da iawn. Ac yna roeddent yn ymgorffori hynny i agweddau eraill ar y cwricwlwm a gâi eu dysgu mewn gwersi eraill. Rwy'n credu ei fod yn agoriad llygad o ran y ffordd roedd yr ysgol wedi ymroi i'r cwricwlwm newydd. Felly, yn rhannol i ateb cwestiwn Sam, ond hefyd yn rhannol i ofyn am eich barn ar hynny, sut rydym yn sicrhau'r ymarfer gorau wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, a'i integreiddio â hyblygrwydd o'r fath ar draws yr ysgol, yn union fel roeddent yn ei wneud yn Llangynwyd?
Well, I think that's a really important point and, as you say, it reflects one of the points that Sam Kurtz was making in his question as well. There is a balance to be struck, isn't there, as you're changing an entire system between central direction and the kind of flexibility and devolution, if you like, to schools of the ability to design and implement a curriculum that works for their communities and their learners. And, in a sense, there's an inherent tension there. I'm clear that it's a curriculum for Wales, and so the professional learning and resources available to teachers in any one part of Wales through their consortia, for example, should be available to those in any part of Wales. So, one of the initiatives that we've taken at the end of last year is to provide a common access point so that any practitioner in any part of Wales can access all of that professional learning and resources. I think that's an important part, but it's not the end of the story. The other aspect is to make sure that there's a consistent framework for accountability across the system, which is what we have with the new approach that Estyn is rolling out, either through the national network, as I mentioned earlier, or, crucially, through the work of clusters. And I think we also saw, by the way, very effective cluster working in our visit to Llangynwyd, when we met with a primary school head as well. I thought that seemed to me to be a very strong set of working relationships, and that's what we need to see. If there's any head in any school in Wales that has reservations about whether their cluster is working in the way they would want to see, I would really encourage them to make that a priority, because I think it's pretty fundamental to the success of the reforms.
Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, ac fel y dywedwch, mae'n adlewyrchu un o'r pwyntiau a gododd Sam Kurtz yn ei gwestiwn hefyd. Mae angen taro cydbwysedd, onid oes, gan eich bod yn newid system gyfan rhwng cyfarwyddyd canolog a'r math o hyblygrwydd a datganoli, os hoffech, i ysgolion y gallu i gynllunio a gweithredu cwricwlwm sy'n gweithio i'w cymunedau a'u dysgwyr. Ac ar un ystyr mae yna densiwn cynhenid yno. Rwy'n glir mai cwricwlwm i Gymru ydyw, ac felly dylai'r dysgu proffesiynol a'r adnoddau sydd ar gael i athrawon mewn unrhyw ran o Gymru drwy eu consortia, er enghraifft, fod ar gael i'r rheini yn unrhyw ran o Gymru. Felly, un o'r pethau a wnaethom ar ddiwedd y llynedd oedd darparu pwynt mynediad cyffredin fel bod unrhyw addysgwr yn unrhyw ran o Gymru yn gallu cael mynediad at yr holl adnoddau a'r dysgu proffesiynol hwnnw. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ond nid dyna ddiwedd y stori. Yr agwedd arall yw gwneud yn siŵr fod fframwaith cyson ar gael ar gyfer atebolrwydd ar draws y system, sef yr hyn sydd gennym gyda'r dull newydd y mae Estyn yn ei gyflwyno, naill ai drwy'r rhwydwaith cenedlaethol fel y soniais yn gynharach, neu, yn hollbwysig, drwy waith y clystyrau. Ac rwy'n credu hefyd, gyda llaw, ein bod wedi gweld gwaith clwstwr effeithiol iawn yn ein hymweliad â Llangynwyd, pan wnaethom gyfarfod â phennaeth ysgol gynradd yn ogystal. Roedd hi'n ymddangos bod yna set gref iawn o berthnasoedd gwaith yno, a dyna sydd angen inni ei weld. Os oes unrhyw bennaeth mewn unrhyw ysgol yng Nghymru sydd ag amheuon ynglŷn ag a yw eu clwstwr yn gweithio yn y ffordd y byddent eisiau ei gweld, byddwn yn eu hannog i wneud hynny'n flaenoriaeth, oherwydd rwy'n credu ei fod yn eithaf sylfaenol i lwyddiant y diwygiadau.
The Curriculum for Wales remains key to raising education standards for all learners. Our school improvement guidance aligns with the principles and practice of the curriculum, setting out a framework for the education system to support schools to provide the best possible learning experiences and outcomes to their learners.
Mae'r Cwricwlwm i Gymru'n parhau'n allweddol i godi safonau addysg i bob dysgwr. Mae ein canllawiau gwella ysgolion yn cyd-fynd ag ymarfer ac egwyddorion y cwricwlwm, gan osod fframwaith i'r system addysg gefnogi ysgolion i ddarparu'r profiadau a'r canlyniadau dysgu gorau posibl i'w dysgwyr.
Thank you for that response, Minister. Markham Primary School sits in the constituency of Islwyn, built over 110 years ago in 1913, serving the local community. It's a green but not a leafy suburb. Will you join me in congratulating Markham's headteacher, Mrs Lindsey Pritchard, her staff, governors and pupils for a glowing report from Estyn that extolled praise on the school in its recent inspection report? The school's motto is, aptly, 'Making the Most of Every Day'. Estyn observed Markham primary as a 'nurturing and vibrant place for pupils and staff', which children felt 'proud to be a part of', and 'ambitious' staff help pupils make very good progress in their time at schools, and all classes have 'a strong focus on developing literacy, numeracy and digital skills'. Minister, what message, then, can you give to the community of Markham about their proud school? And will you make every endeavour to visit Markham primary during your busy schedule in 2023 to see for yourself how the partnership working of Welsh Government, local education authorities and proactive community schools can transform communities and change the lives and pathways of Welsh children forever? Diolch.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Markham yn etholaeth Islwyn, a adeiladwyd dros 110 mlynedd yn ôl ym 1913, yn gwasanaethu'r gymuned leol. Mae'n faestref werdd ond nid yw'n ddeiliog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pennaeth ysgol Markham, Mrs Lindsey Pritchard, ei staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion ar adroddiad disglair gan Estyn sydd wedi canu clodydd yr ysgol yn ei adroddiad arolygu diweddar? Arwyddair yr ysgol, yn addas iawn, yw 'Gwneud y Gorau o Bob Dydd'. Nododd Estyn fod ysgol gynradd Markham yn 'lle meithringar a bywiog i ddisgyblion a staff', ac roedd plant yn teimlo'n 'falch o fod yn rhan ohoni'. Nodwyd hefyd fod staff 'uchelgeisiol' yn helpu disgyblion i wneud cynnydd da iawn yn ystod eu hamser yn yr ysgol, a bod gan bob dosbarth 'ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol'. Weinidog, pa neges y gallwch ei rhoi felly i gymuned Markham mewn perthynas â'u hysgol falch? Ac a wnewch chi bob ymdrech i ymweld ag ysgol gynradd Markham yn ystod eich amserlen brysur yn 2023 i weld drosoch eich hun sut y gall gwaith partneriaeth Llywodraeth Cymru, awdurdodau addysg lleol ac ysgolion cymunedol rhagweithiol drawsnewid cymunedau a newid bywydau a llwybrau plant Cymru am byth? Diolch.
Yes, I'm very happy indeed to extend my congratulations to Mrs Pritchard and the staff and pupils of the school. I thought it was really telling, the phrase that the Member used, I think reflecting what Estyn said, which was the school had a focus on making children feel proud to be a part of it. And the reason that's so important is because it reflects how important the agency of young people is in our schools and in the new curriculum in particular. And what better mark of success of a school than that the pupils who the school is there to support and to serve feel proud of being part of that school community? I also gather there is a very impressive digital education offer at Markham, including a fully equipped radio station, so I'll be very keen to come along and visit the school at some point later on this year.
Ie, rwy'n hapus iawn i longyfarch Mrs Pritchard a staff a disgyblion yr ysgol. Roeddwn yn meddwl ei fod yn dweud llawer, yr ymadrodd a ddefnyddiodd yr Aelod, a oedd yn adlewyrchu'r hyn a ddywedodd Estyn, rwy'n credu, sef bod yr ysgol eisiau gwneud i blant deimlo'n falch o fod yn rhan ohoni. A'r rheswm y mae hynny mor bwysig yw oherwydd ei fod yn adlewyrchu pa mor bwysig yw grym pobl ifanc yn ein hysgolion ac yn y cwricwlwm newydd yn benodol. Ac nid oes prawf gwell o lwyddiant ysgol na gweld y disgyblion y mae'r ysgol yno i'w cefnogi a'u gwasanaethu yn teimlo'n falch o fod yn rhan o gymuned yr ysgol honno? Rwy'n casglu hefyd fod cynnig addysg ddigidol trawiadol iawn ym Markham, gan gynnwys gorsaf radio wedi'i chyfarparu'n llawn, felly rwy'n awyddus iawn i ddod draw i ymweld â'r ysgol ar ryw adeg yn nes ymlaen eleni.
Minister, you've read a lot of reports; I've read a fair number of reports now on education, having had many questions with you over the past few years. Now, statistically, we all know that children growing up in poverty and disadvantaged areas are less likely to do well at school. Research from the Education Policy Institute into the impact of educational inequalities reveals that, sadly, Welsh schools suffer a wide disadvantage gap compared to English schools. They go on to say that progress is narrowing this disadvantage gap, and it has, indeed, been modest over the last 10 years, and that local authorities in Wales need to learn from deprived areas in England with similar demographics, such as Barnsley and Salford, which have managed to achieve smaller disadvantage gaps over time. So, Minister, what action are you taking now to address the disadvantage gap in Wales to raise educational standards for pupils in Islwyn, and, ultimately, throughout Wales? Thanks.
Weinidog, rydych wedi darllen llawer o adroddiadau; rwyf bellach wedi darllen nifer o adroddiadau ar addysg, ar ôl gofyn llawer o gwestiynau i chi dros y blynyddoedd diwethaf. Nawr, yn ystadegol, rydym i gyd yn gwybod bod plant sy'n cael eu magu mewn tlodi ac mewn ardaloedd difreintiedig yn llai tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol. Mae ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg i effaith anghydraddoldebau addysgol yn dangos, gwaetha'r modd, fod ysgolion Cymru'n dioddef bwlch anfantais eang o gymharu ag ysgolion Lloegr. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud bod cynnydd yn lleihau'r bwlch anfantais hwn, ac yn wir, mae wedi bod yn gymharol fach dros y 10 mlynedd diwethaf, a bod angen i awdurdodau lleol yng Nghymru ddysgu o ardaloedd difreintiedig yn Lloegr sydd â demograffeg debyg, fel Barnsley a Salford, sydd wedi llwyddo i gyflawni bylchau anfantais llai dros amser. Felly, Weinidog, pa gamau rydych chi'n eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r bwlch anfantais yng Nghymru i godi safonau addysgol i ddisgyblion yn Islwyn, ac yn y pen draw, ledled Cymru? Diolch.
The report to which she refers in her question is an important contribution to the discussion and to the debate, and it certainly reflected, at least in broad terms, our own understanding of the challenges that we face in parts of the system. She will recall, perhaps, in the many reports that she's read, the speech that I gave to the Bevan Foundation last year and the statement that I made in the Chamber, which outlined a very extensive programme of actions that we are taking to close the attainment gap in Wales. The most recent of those, she may have seen in the press a few weeks ago, was the announcement of our cohort attainment champions, of heads who've shown particular success in their schools in closing the attainment gap and making sure that every single young person in their school has the opportunity to flourish. They are now working with other heads to share that best practice in the way that we just heard earlier is so important. That is one of a range of interventions. We are also, as she may know, commissioning research into mixed ability teaching, and also what more we can do to encourage teachers to some of those most disadvantaged areas so that we make sure that young people have the support that they need. I am, in fact, planning on making a statement to the Chamber in the coming weeks that will set out in detail progress against the whole range of items that I set out last year, and I'd be very happy to answer any further questions at that point.
Mae'r adroddiad y mae'n cyfeirio ato yn ei chwestiwn yn gyfraniad pwysig i'r drafodaeth ac at y ddadl, ac yn sicr roedd yn adlewyrchu, yn fras o leiaf, ein dealltwriaeth ni o'r heriau sy'n ein hwynebu mewn rhannau o'r system. Fe fydd hi'n cofio, efallai, yn y llu o adroddiadau y mae hi wedi'u darllen, yr araith a roddais i Sefydliad Bevan y llynedd a'r datganiad a wneuthum yn y Siambr, a oedd yn amlinellu rhaglen helaeth iawn o gamau rydym yn eu cymryd i gau'r bwlch cyrhaeddiad yng Nghymru. Y diweddaraf o'r rheini, efallai iddi weld yn y wasg ychydig wythnosau yn ôl, oedd cyhoeddi hyrwyddwyr cyrhaeddiad ein carfan o benaethiaid sydd wedi dangos llwyddiant arbennig yn eu hysgolion gyda chau'r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn eu hysgol yn cael cyfle i ffynnu. Maent bellach yn gweithio gyda phenaethiaid eraill i rannu'r arferion gorau hynny yn y ffordd y clywsom yn gynharach sydd mor bwysig. Dyna un o ystod o ymyriadau. Fel y bydd hi'n gwybod efallai, rydym hefyd yn comisiynu ymchwil i addysgu gallu cymysg, a hefyd beth arall y gallwn ei wneud i ddenu athrawon i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hynny fel ein bod yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mewn gwirionedd, rwy'n bwriadu gwneud datganiad i'r Siambr yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn nodi'n fanwl y cynnydd a wnaed yn erbyn yr holl ystod o eitemau a nodais y llynedd, ac rwy'n hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau pellach bryd hynny.
Discussions with the Minister for Economy have principally focused on how the education system supports the skills agenda and the young person's guarantee. Also just this week, Cabinet discussed the question of net-zero skills, including the role of education in achieving our ambitions in that important area.
Mae trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi wedi canolbwyntio'n bennaf ar sut mae'r system addysg yn cefnogi'r agenda sgiliau a'r warant i bobl ifanc. Hefyd, yr wythnos hon, trafododd y Cabinet gwestiwn sgiliau sero net, gan gynnwys rôl addysg wrth gyflawni ein huchelgeisiau yn y maes pwysig hwnnw.
Thank you for your response, Minister.
Diolch am yr ateb, Gweinidog.
Recent work from the Construction Industry Training Board has shown that, over the next five years, Wales needs 9,100 additional new entrants into construction, with bricklaying, electrical roles and roofing being areas of particular high demand. With the draft budget, there is a chance here to build on how the education system supports people into these industries, but, as I referenced yesterday, conversations I've had with the sector highlight the challenges learners face during their education that may undermine their progress to a career in the industry. More often than not, these challenges lie within the ability of low-income students to fund their education, and what colleges are seeing is students leaving education to access more readily accessible jobs that pay higher wages initially, but don't ultimately fulfil the long-term needs of our communities. Retention will be key to ending those skills shortages. So, how does the Minister envisage addressing these very specific challenges, and does he think that increasing the educational maintenance allowance offers a potential solution?
Mae gwaith diweddar gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi dangos, dros y pum mlynedd nesaf, fod Cymru angen 9,100 o newydd-ddyfodiaid ychwanegol i'r byd adeiladu, a nodwyd bod gosod brics, rolau trydanol a thoi yn feysydd y mae galw arbennig amdanynt. Gyda'r gyllideb ddrafft, mae cyfle yma i adeiladu ar sut mae'r system addysg yn cefnogi pobl i mewn i'r diwydiannau hyn, ond fel y crybwyllais ddoe, mae sgyrsiau a gefais gyda'r sector yn tynnu sylw at yr heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu yn ystod eu haddysg a allai danseilio eu cynnydd i yrfa yn y diwydiant. Yn amlach na pheidio, mae'r heriau hyn yn ymwneud â gallu myfyrwyr incwm isel i ariannu eu haddysg, a'r hyn y mae colegau'n ei weld yw myfyrwyr yn gadael addysg i gael swyddi mwy hygyrch sy'n talu cyflogau uwch i ddechrau, ond nad ydynt yn cyflawni anghenion hirdymor ein cymunedau yn y pen draw. Bydd cadw staff yn allweddol i fynd i'r afael â phrinder sgiliau o'r fath. Felly, sut mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd yn mynd i'r afael â'r heriau penodol iawn hyn, ac a yw'n credu bod cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn cynnig ateb posibl?
I look forward to the debate that we're going to have in the forthcoming weeks in relation to education maintenance allowance, in particular. He will know from my previous appearances at these questions and in the discussions we've had that the real pressure on budgets has meant that we've not been able to increase education maintenance allowance, but we are very happy to have been able to maintain it, which hasn't been the case across other parts of the UK, as he will know. I have also been very pleased to be able to increase the funding available to further education colleges in relation to the financial contingency fund, which, as he knows, is available to support students in further education who are facing particular pressures. I think it's very important that we do everything we can to support students in that position in the way that I know that he does as well. He will also recall that we have, over the last couple of years, sharply increased the funding available to further education colleges in order to be able to offer that broader range of skills that he sets out in his question, and which I agree with him are very, very important.
Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl y byddwn yn ei chael yn yr wythnosau sydd i ddod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg yn benodol. Bydd yn gwybod, o fy ymddangosiadau blaenorol yn y cwestiynau hyn ac yn y trafodaethau a gawsom, fod y pwysau gwirioneddol ar gyllidebau wedi golygu nad ydym wedi gallu cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, ond rydym yn hapus iawn o fod wedi gallu ei gynnal, ac nid yw hynny wedi bod yn wir ar draws rhannau eraill o'r DU, fel y bydd yn gwybod. Rwyf hefyd wedi bod yn falch iawn o allu cynyddu'r cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach mewn perthynas â'r gronfa ariannol wrth gefn, sydd ar gael, fel y gŵyr, i gefnogi myfyrwyr mewn addysg bellach sydd o dan bwysau arbennig. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi myfyrwyr yn y sefyllfa honno yn y ffordd rwy'n gwybod ei fod yntau hefyd. Bydd hefyd yn cofio ein bod ni, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi sicrhau cynnydd mawr yn y cyllid sydd ar gael i golegau addysg bellach er mwyn gallu cynnig yr ystod ehangach honno o sgiliau y mae'n eu nodi yn ei gwestiwn, ac rwy'n cytuno ag ef eu bod yn bwysig iawn.
Minister, it is tough to imagine what the workplace of tomorrow will be like. If someone had said this time last year that artificial intelligence would pass the interview for a level 3 programme engineer at Google, we would have thought them crazy, but that is exactly what ChatGPT did just a few days ago. The swift rise of artificial intelligence brings a whole new set of challenges for the future job market. However, it also brings a whole set of new opportunities for today's learners. Minister, how will the education system adapt to ensure young people can embrace these new and emerging technologies and be prepared for whatever tomorrow throws at them? Thank you.
Weinidog, mae'n anodd dychmygu sut le fydd gweithle yfory. Pe bai rhywun wedi dweud yr adeg hon y llynedd y byddai deallusrwydd artiffisial yn pasio'r cyfweliad ar gyfer swydd peiriannydd rhaglen lefel 3 yn Google, byddem wedi meddwl eu bod yn wallgof, ond dyna'n union a wnaeth ChatGPT ychydig ddyddiau yn ôl. Mae'r cynnydd cyflym mewn deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno set hollol newydd o heriau ar gyfer y farchnad swyddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hefyd yn creu cyfres gyfan o gyfleoedd newydd i ddysgwyr heddiw. Weinidog, sut fydd y system addysg yn addasu i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cofleidio'r technolegau newydd hyn a'r rhai sy'n dod i'r amlwg ac ymbaratoi ar gyfer beth bynnag y bydd yfory'n ei daflu atynt? Diolch.
Altaf Hussain makes a very important point in relation to the changing nature of our economy and how difficult it can be sometimes to anticipate those changes. What that tells me is that we need to make sure our young people are equipped for any change in society, and that what we need to be imparting to them, as much as knowledge, are the skills and the experiences to be able to navigate a changing economy in a way that puts their interests at its heart and enables them to flourish. I think he's right to highlight that there's a particular set of opportunities, and challenges also, in relation to the digital transformation of our society, and AI is one of those examples. He'll know that at the heart of our new curriculum is a set of digital competencies that are cross-cutting. He'll also know of the significant investment that we've made as a Government in recent years to ensure a very, very widespread level of access to computers, laptops, tablets and other devices, and the broadband connectivity that supports that. The challenge now is to make sure that, in our schools, the full functionality that that offers is able to be taken advantage of, and we are working with our profession to ensure that that is the case.
Mae Altaf Hussain yn gwneud pwynt pwysig iawn o ran natur newidiol ein heconomi a pha mor anodd y gall fod i ragweld y newidiadau hynny weithiau. Mae hyn yn dangos i mi bod angen i ni sicrhau bod ein pobl ifanc wedi'u harfogi ar gyfer unrhyw newid yn y gymdeithas, a bod angen i ni ddarparu sgiliau a phrofiadau iddynt, yn ogystal â gwybodaeth, fel y gallant lywio economi sy'n newid mewn ffordd sy'n blaenoriaethu eu diddordebau ac sy'n eu galluogi i ffynnu. Rwy'n credu ei fod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod yna set arbennig o gyfleoedd, a heriau hefyd, mewn perthynas â thrawsnewidiad digidol ein cymdeithas, ac mae deallusrwydd artiffisial yn un o'r enghreifftiau hynny. Bydd yn gwybod bod yna set o gymwyseddau digidol trawsbynciol wrth wraidd ein cwricwlwm newydd. Bydd hefyd yn gwybod am y buddsoddiad sylweddol rydym wedi'i wneud fel Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf i sicrhau lefel eang iawn o fynediad at gyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a dyfeisiau eraill, a'r cysylltedd band eang sy'n cefnogi hynny. Yr her nawr yw gwneud yn siŵr bod ein hysgolion yn gallu manteisio ar swyddogaeth lawn hwnnw, ac rydym yn gweithio gyda'n proffesiwn i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Good afternoon, Minister. I want to ask about personal learning accounts. These were developed by Kirsty Williams in the fifth Senedd to ensure that everyone has the opportunity to learn here in Wales. May I ask for an update on these? How are you working collaboratively with the Minister for Economy to ensure that young people here in Wales do develop the skills that they need, particularly for the green economy? Thank you very much.
Prynhawn da, Gweinidog. Dwi eisiau gofyn am gyfrifau dysgu personol, os gwelwch chi'n dda. Roedd y rhain yn cael eu datblygu gan Kirsty Williams yn y bumed Senedd i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu yma yng Nghymru. Gaf i ofyn, plîs, am ddiweddariad ar y cyfrifau, a sut ydych chi'n cydweithio efo Gweinidog yr Economi i sicrhau bod pobl ifanc yma yng Nghymru yn cael y sgiliau mae angen iddyn nhw eu cael, yn enwedig i'r economi werdd? Diolch yn fawr iawn.
Well, I thank Jane Dodds for that question. The accounts are something that I'm a great fan of personally, and I've increased the budget for them substantially. It is important that we continue to provide opportunities whereby people in work can renew and transform their skills. Two of the areas where we've focused funding on are digital skills, as Altaf Hussain mentioned, and also green skills. As we look at increasing the budget for PLAs, one of the greatest priorities is to ensure that we reflect the needs of the economy. So, discussions with the Minister for Economy are certainly moving in that direction. In this financial year, I allocated almost £18 million for the PLA programme, and what we have seen happening - and this has happened during COVID too - is that we've been able to provide funding and then ensure that we support people in accessing new skills in a very short period of time. The ability to move quickly is so important in a changing economy.
Wel, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn hwnnw. Mae'r cyfrifau'n rhywbeth dwi'n ffan mawr ohonyn nhw fy hunan ac wedi cynyddu'r gyllideb ar eu cyfer nhw'n sylweddol. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i greu cyfleoedd fel bod pobl mewn gwaith yn gallu adnewyddu a thrawsnewid eu sgiliau, a dau o'r meysydd lle rŷn ni wedi pwysleisio ein bod ni'n eu hariannu yw sgiliau digidol, fel roedd Altaf Hussain yn sôn jest nawr, a hefyd sgiliau gwyrdd. Wrth inni fynd ati i edrych ar gynyddu'r gyllideb ar gyfer y PLAs, un o'r blaenoriaethau mwyaf yw sicrhau ein bod ni'n adlewyrchu anghenion yr economi, felly mae'r trafodaethau gyda Gweinidog yr Economi yn sicr yn mynd i'r perwyl hynny. Yn y flwyddyn ariannol hon, fe wnes i ddyrannu bron i £18 miliwn ar gyfer y cynllun PLA, a beth rŷn ni wedi gweld yn digwydd yw ein bod ni'n gallu - ac mae hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod COVID hefyd - darparu arian a wedyn sicrhau ein bod ni'n cefnogi pobl i gael sgiliau newydd mewn cyfnod byr iawn. Mae'r gallu i symud yn gyflym mor bwysig yng nghyd-destun economi sydd yn newid.
Certainly. Community-focused schools are at the heart of our agenda to tackle the impact of poverty on attainment. In 2022-23 - this financial year - we provided £3.84 million for family engagement officers, £660,000 for community-focused school manager posts, and £20 million for capital improvements to schools. We have also in recent weeks published two sets of guidance for schools as well.
Yn sicr. Mae ysgolion bro wrth wraidd ein hagenda i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Yn 2022-23 - y flwyddyn ariannol hon - darparwyd £3.84 miliwn ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, £660,000 ar gyfer swyddi rheolwyr ysgolion bro, a £20 miliwn ar gyfer gwelliannau cyfalaf i ysgolion. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym hefyd wedi cyhoeddi dwy set o ganllawiau ar gyfer ysgolion hefyd.
My question was specifically about that £20 million of capital funding for community-focused schools. It was referenced in the Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee - if I've got that right - which looked into how that money should be spent. The 'Levelling the playing field' report is the one I'm thinking of. I also met recently with Dr Nicola Williams-Burnett of Cardiff Metropolitan University, who has got a great deal of research expertise in this area and is keen to see those community-focused aspirations realised. So, with that in mind, I'd like the Minister to provide more detail at this stage on the delivery of the capital programme and where that funding's being directed, and particularly what practical benefits have emerged and what evaluation will there be of those outcomes.
Roedd fy nghwestiwn yn benodol am y £20 miliwn hwnnw o gyllid cyfalaf ar gyfer ysgolion bro. Cyfeiriwyd ato yn y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - gobeithio bod y teitl hwnnw'n gywir - a oedd yn edrych ar sut y dylid gwario'r arian hwnnw. Adroddiad 'Sicrhau Chwarae Teg' yw'r un rwy'n meddwl amdano. Hefyd, cyfarfûm â Dr Nicola Williams-Burnett o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd â llawer iawn o arbenigedd ymchwil yn y maes hwn ac sy'n awyddus i weld y dyheadau hynny sy'n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu gwireddu. Felly, gyda hynny mewn golwg, hoffwn i'r Gweinidog ddarparu mwy o fanylion ar gyflwyno'r rhaglen gyfalaf a lle mae'r cyllid hwnnw'n cael ei gyfeirio, ac yn arbennig pa fanteision ymarferol sydd wedi dod i'r amlwg a sut y bydd y canlyniadau hynny'n cael eu gwerthuso.